Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

50.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

51.

Cofnodion pdf icon PDF 90 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 15 Ionawr 2018.

 

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

52.

Cam nesaf y Cynllun Tai Strategol ac Adfywio (CTSA) pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        I geisio cefnogaeth i ddatblygu camau nesaf Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (CTSA)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Strategaeth Tai adroddiad i ofyn am gefnogaeth i symud ymlaen gyda’r camau nesaf o Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor. Cynghorodd bod yr adroddiad hefyd wedi nodi'r cynigion i ddatblygu 92 o dai cymdeithasol a fforddiadwy newydd ar y safleoedd canlynol:

 

·         Nant y Gro, Gronant

·         Hen Ddepo’r Cyngor, Dobshill

·         Llys Dewi, Penyffordd (ger Treffynnon)

 

            Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai bod y datblygiad yn y safleoedd uchod ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor a bod y safleoedd wedi eu cytuno o flaen llaw i'w cynnwys yn SHARP.  Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ar gyfer y cynlluniau arfaethedig gan gynnwys lleoliad, mathau o eiddo arfaethedig, dyluniad a gosodiad a chostau adeiladu amcanol. Dywedodd bod yr adroddiad hefyd wedi nodi'r opsiynau ariannu o ddewis a manylion o'r Rhagdybiaeth Cynllun Datblygu y mae hyfywedd y cynlluniau yn cael eu mesur a’u hasesu yn eu herbyn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge am yr ymddygiad annerbyniol gan rai aelodau o’r cyhoedd at swyddogion yn ystod cyfarfodydd ymgynghori â’r cyhoedd ar ddatblygiadau cynllunio ac fe amlinellodd yr angen am dai yn Sir y Fflint.

 

            Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a’i thîm gan y Cynghorydd Paul Shotton ar gyfer y cynlluniau adeiladu newydd llwyddiannus a oedd wedi cymryd lle hyd yma a dywedodd am safon uchel y tai newydd gan ddefnyddio datblygiadau diweddar yng Nghei Connah fel enghraifft.  

 

            Trafododd y Cynghorydd Ray Hughes y datblygiad tai cyngor yn Leeswood a dangosodd ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddog a’i thîm am eu cefnogaeth. Gofynnodd hefyd fod ei werthfawrogiad yn cael ei fynegi wrth Michael Cunningham a’i dîm, Whaites, am yr ystyriaeth a'r cymorth a roddwyd i breswylwyr lleol yn ystod y rhaglen adeiladu.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Cox, fe gynghorodd y Cynghorydd Bernie Attridge bod yr holl aelodau lleol yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiadau ymgynghori ar ddatblygiad tai cyngor arfaethedig o fewn eu ward. 

 

            Ar ran y Cynghorydd Mike Reece, gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am ddiweddariad ar y datblygiad ar hen safle Depo Canton ym Magillt. Cytunodd y Rheolwr Strategaeth Tai i gysylltu â’r Cynghorydd Reece i’w gynghori bod cynnydd yn parhau.   

 

            Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Sian Braun yngl?n â chyflwr y ffyrdd yng Ngronant, dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge y byddai’n gwneud cynrychiolaeth i ofyn am gyllid i fod ar gael trwy'r rhaglen gyfalaf i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan breswylwyr yn yr ardal yn ystod y broses ymgynghori. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r datblygiad ar gyfer 92 o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn Llys Dewi, Penyffordd; Nant y Gro, Gronant a hen Ddepo’r Cyngor, Dobshill;

 

 (b)     Bod y defnydd o fenthyca darbodus hyd at y gwerth o £9.823m (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a dilysu terfynol) i ariannu’r datblygiad arfaethedig o gartrefi Cyngor newydd yn cael ei gefnogi;

 

 (c)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi a chymeradwyo’r defnydd o grant tai fforddiadwy o £1.903m a chyfanswm ecwiti  ...  view the full Cofnodion text for item 52.

53.

Adolygiad Marchnadoedd Stryd Sir y Fflint pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried y dewisiadau a argymhellwyd ar gyfer dyfodol y marchnadoedd yn Sir y Fflint

Cofnodion:

            Fe gyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio adroddiad i ystyried y dewisiadau a argymhellwyd ar gyfer dyfodol marchnadoedd stryd yn Sir y Fflint. Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd bod adolygiad wedi’i wneud ar gynaliadwyedd marchnadoedd stryd llai yn Sir y Fflint. Eglurodd fod yr ymgynghoriad wedi’i wneud â Chynghorau Tref yng Nghei Connah, y Fflint a Threffynnon a gyda masnachwyr marchnadoedd yn y Fflint a Threffynnon.

 

            Fe gyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad. Fe gyfeiriodd hefyd at yr incwm a gynhyrchir gan bob marchnad i’r Cyngor o’i gymharu â chostau rhedeg yn ystod 2016/17 a’r darganfyddiadau a chanlyniadau'r adolygiad. 

 

            Eglurodd y Cadeirydd fod Cyngor Tref Cei Connah wedi mynegi diddordeb mewn cymryd drosodd y gwaith o redeg y farchnad stryd yng Nghei Connah a soniwyd am y posibilrwydd o ystyriaeth yn cael ei roi i gyfuno gyda masnachwyr marchnad yn y Fflint a Threffynnon i sefydlu marchnad sengl  a allai symud i wahanol ardaloedd.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn cefnogi’r argymhellion a fyddai yn ei farn ef yn lleihau'r diffyg gweithredu ar gyfer y marchnadoedd yn gyffredinol. Tynnodd sylw at y diffyg yn gyffredinol siopa mewn marchnadoedd stryd oherwydd cystadleuaeth gan fanwerthwyr cenedlaethol mawr a phobl yn siopa ar y we.       

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi ac argymell i’r Cabinet:-

 

·         Cau marchnad stryd y Fflint;

 

·         Cytundeb dros dro i drosglwyddo’r gwaith o redeg marchnad stryd Cei Connah i Gyngor Tref Cei Connah yn ddibynnol ar gadarnhad y Cyngor Tref a chytundeb o delerau, a

 

·         Gweithrediad parhaus o farchnad stryd Treffynnon ar sail dros dro a thrafodaeth barhaus gyda Chyngor Tref Treffynnon ar opsiynau arbed arian yn y dyfodol.

54.

Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Sir y Fflint, Cynllun Gwariant Lleol a'r Cynllun Strategol Rhanbarthol pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Ystyried y Cynllun Comisiynu arfaethedig ar gyfer 2018/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Fe gyflwynodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid adroddiad i gyflwyno Cynllun Gwario Lleol y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer 2018/19 a oedd wedi’i ddatblygu i alinio â blaenoriaethau wedi’u nodi yn y Cynllun Strategol Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gogledd Cymru.

 

            Darparodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid wybodaeth gefndirol ac fe gynghorodd bod yr adroddiad wedi darparu golwg cyffredinol o’r cynnydd a wnaed gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru ar draws yr ardaloedd o flaenoriaeth a amlinellwyd yng nghynllun y llynedd a golwg cyffredinol o’r risgiau sy’n ymddangos yn y rhaglen. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi crynodeb o’r ystod o heriau gan roi pwysau ar y gwasanaeth digartref a’r risg o fyrdwn ariannol cynyddol ar y Cyngor. Cynigodd y Cynllun Gwario Lleol i symud ymlaen gyda’r gostyngiadau a gynlluniwyd ar gyfer gwasanaethau lle mae arbedion effeithlonrwydd wedi’u nodi neu lle nad yw gwasanaethau yn cael eu gweld fel blaenoriaeth i’r gronfa.  Bydd cyllid wedi’i ryddhau yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n gallu arddangos eu bod yn cyfrannu i amcanion strategol lleol neu flaenoriaethau rhanbarthol wedi eu cyflwyno yn y Cynllun Strategol Rhanbarthol. 

 

            Fe gyfeiriodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, ar y Cynllun Strategol Rhanbarthol, blaenoriaethau lleol ar gyfer y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl, dad-gomisiynu a chynllun gwario 2018/19.

 

            Yn ystod trafodaeth fe fynegodd yr Aelodau eu pryder bod y cyllid a fyddai fel arfer yn cael ei ddyrannu i Gefnogi Pobl wedi symud i Grant Cefnogi ac Atal - Ymyrraeth Gynnar newydd sydd wedi uno cyllidebau ar gyfer Dechrau'n Deg, Teuluoedd Yn Gyntaf, Cronfa Waddol Cymunedau Yn Gyntaf a Grant Cyflogadwyedd newydd. Y cyfanswm cyfunedig o £252m ar draws Cymru oedd £13m yn llai na’r cyfanswm cyfunedig o grantiau unigol yn 2018/19. Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd fe eglurodd y Prif Swyddog nad oedd cyfran y grant i'r Awdurdod yn hysbys eto.

 

            Cyfeiriodd yr aelodau at y cymorth a ddarperir i bobl sy'n gadael carchar ar draws y rhanbarth gan gyfeirio at y ddarpariaeth o dai cyngor yn arbennig. Mewn ymateb i gwestiynau a phryderon a godwyd fe gadarnhaodd y Cynghorydd Bernie Attridge lle'r oedd gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i ddarparu tai cymdeithasol i bobl sy’n gadael carchar roedd polisi rheoli tai cadarn yn ei le i fynd i'r afael ag unrhyw faterion yn codi.

 

            Yn cyfeirio at dudalen 43 ar yr adroddiad fe ofynnodd David Cox am eglurhad ar yr angen i recriwtio ar gyfer swyddi yn y Tîm Gadael Gofal  ac yn y gwasanaeth Atal Digartrefedd.  Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth bellach ar yr angen i recriwtio yn y ddau wasanaeth ac eglurodd bod y cymorth a gynigir gan y Tîm Gadael Gofal i unigolion yn y cyfnodau cynnar o fyw yn annibynnol wedi sicrhau canlyniad mwy llwyddiannus yn y tymor hirach ac yn fwy cost effeithiol i'r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r Cynllun Gwario Grant Cefnogi Pobl ar gyfer 2018/19 a Chynllun Strategol Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

55.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cymunedau a Menter) adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18. Cynghorodd bod yr adroddiad yn cyflwyno’r cynnydd monitro ar ddiwedd Chwarter 3 o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 ar gyfer y blaenoriaethau ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.

 

            Cynghorodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gyda 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Mae’r dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 84% yn cyfarfod neu bron a chyfarfod targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (10%).    

 

            Adroddodd y Prif Swyddog ar y dangosydd perfformiad ‘nifer cyfartalog o ddyddiau calendr wedi’u cymryd i gyflawni Grant DFG’ a oedd yn dangos statws coch ar gyfer y perfformiad presennol yn erbyn targed a'r risg mawr canlynol i'r Pwyllgor fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Blaenoriaeth:Cyngor Cefnogol - bydd lefelau dyled yn codi os na fydd tenantiaid yn gallu fforddio talu eu rhent neu dreth y cyngor.

 

            Cynghorodd y Prif Swyddog fod y cynnydd yn erbyn y risgiau a nodwyd yn y Cynllun wedi’u cynnwys yn atodiadau’r adroddiad.

 

            Yn ystod trafodaeth fe ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a godwyd yngl?n â DFG ac addasiadau wedi’u gwneud i eiddo’r Cyngor. Cynghorodd y swyddogion fod gweithdrefnau yn eu lle i ddiogelu yn erbyn y risg o eiddo gael ei werthu yn y tymor byr yn dilyn gwneud addasiadau eang.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’r adroddiad.

56.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol er mwyn ei hystyried. Cynghorodd bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei phoblogi ar gyfer y flwyddyn i ddod yn dilyn cymeradwyaeth i gyflwyno dyddiadur o gyfarfodydd pwyllgor i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor Sir ym mis Mai.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton i adroddiad ar dlodi bwyd i gael ei gyflwyno mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bod adroddiad diweddaru ar y safleoedd garej yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol. 

 

            Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad ar ran y Pwyllgor i Clare Budden am yr effaith gadarnhaol y mae hi wedi'i gael ar dai yn Sir y Fflint ac am ei chefnogaeth a'i gwaith yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter. Fe ddymunodd pob llwyddiant iddi yn ei swydd newydd gyda Chymdeithas Dai Pennaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

57.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.