Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

35.

SESIWN WYBODAETH

Cofnodion:

Cyn dechrau’r cyfarfod, rhoddwyd cyflwyniad i Aelodau’r Pwyllgor ar y Cyfrif Refeniw Tai gan Steve Agger a Sian Jones.

36.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

37.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 16 Hydref a 15 Tachwedd 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Hydref a 15 Tachwedd 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ddau set o gofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

38.

Adolygiad Llety Gwarchod pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhannu canlyniadau’r adolygiad o dai gwarchod.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Asedau Tai adroddiad o ganlyniadau’r adolygiad a gynhaliwyd o letyau gwarchod ar draws y sir, a oedd yn cynnwys cyfanswm o 2,637 eiddo.  Cynhaliwyd yr adolygiad gan fod canfyddiad bod gan y Cyngor her o ran gosod llety gwarchod a bod cyfraddau gwacter yn bryder.

 

Ymhlith y canfyddiadau, nodwyd nad oedd colli rhent o eiddo gwag yn fater a’i fod yn fras yn unol â thai anghenion cyffredinol.    Roedd llawer o gynlluniau tai gwarchod mewn galw uchel, a’r prif resymau dros ddod â thenantiaethau i ben oedd oherwydd marwolaeth neu denantiaid yn symud i gyfleusterau gofal preswyl.  Roedd fflatiau un ystafell wely yn llai poblogaidd a gallai rhai cynlluniau mewn ardaloedd gwledig fod yn anoddach eu gosod.  Yn olaf, roedd nifer fach o gynlluniau lle gallai mynediad fod yn her i’r rhai sydd â materion symudedd.  Gellid rhoi sylw i’r rhain drwy gynlluniau buddsoddi mewn cynlluniau.

 

Ar achlysuron, roedd tai gwarchod yn cael eu gosod i ymgeiswyr gydag anghenion cefnogaeth ac anableddau corfforol a oedd dan oedran dynodi tai gwarchod oherwydd mai hwn oedd y llety mwyaf priodol a oedd ar gael i ddiwallu eu hanghenion.  Byddai newid disgrifydd tai gwarchod i lety ‘gwarchod a gyda chefnogaeth’ yn adlewyrchu’r arfer hwn yn iawn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Shotton o blaid yr argymhellion a chanmolodd y gwaith ailwampio a wnaethpwyd yng nghynllun Glan-y-Morfa yng Nghei Connah.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cymunedau a Menter) fod yr adroddiad yn dangos fod llawer o alw am letyau yn ogystal ag opsiynau ar gyfer gwella, er enghraifft, i fynd i’r afael â phroblemau hygyrchedd a chynyddu nifer y rheiny sy'n dewis fflatiau un ystafell ac eiddo mewn ardaloedd anghysbell.

 

Siaradodd y Cynghorydd Attridge am opsiynau i annog tenantiaethau mewn fflatiau un ystafell a’r posibilrwydd o ail-ddosbarthu rhai lletyau er mwyn ateb y galw gan grwpiau eraill o gwsmeriaid.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Johnson a oedd yn bosibl i breswylwyr h?n sy’n aros am ystafelloedd gwlyb i gael mynediad at gyfleusterau ymolchi eraill.  Dywedodd y Prif Swyddog y dylid cyfeirio achosion at swyddogion a'i fod yn ymwybodol o drefniadau gyda rhai cynlluniau gofal ychwanegol.  Dywedodd fod tenantiaid y Cyngor yn gallu gwneud cais am asesiad Iechyd Galwedigaethol i weld a ydynt yn gymwys am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

 

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at y diffyg cyfleusterau lleol i’r rheiny sy’n byw mewn llety gwarchod mewn ardaloedd mwy anghysbell.  Pwysleisiodd hefyd bod angen i gartrefi sydd wedi cael eu haddasu i safon uchel ar gyfer tenantiaid anabl gael eu cadw at y diben hwnnw.  O ran problemau sy’n codi oherwydd tenantiaid trafferthus, siaradodd y Cynghorydd Attridge am y dull gorau o fynd i’r afael â hyn a’r nod o geisio cael y gymysgedd gywir o unigolion sydd â gwahanol anghenion o fewn cynlluniau unigol.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Shotton, roedd y Prif Swyddog yn ymwybodol o gynlluniau gan Groundwork i sefydlu’r potensial ar gyfer gwasanaeth siopa symudol i gymunedau anghysbell a byddai’n ceisio cael diweddariad.

 

Siaradodd  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Darpariaeth ar gyfer Safleoedd Tramwy Sipsiwn a Theithwyr a Chytundeb Rheoli Glan yr Afon pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor ar broses a gweithdrefnau newydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr adroddiad i geisio cefnogaeth ar gyfer cynnal arfarniad opsiynau â chostau er mwyn datblygu safle tramwy 6 llain yn Sir y Fflint, a diweddaru’r cytundeb rheoli ar gyfer unig safle parhaol y Cyngor ar hyn o bryd sef Parc Glan yr Afon.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at ddyletswyddau statudol sy’n berthnasol i gynghorau o ran sipsiwn a theithwyr, a manteision darparu safle tramwy i’w ddefnyddio dros dro gan sipsiwn a theithwyr sy’n teithio drwy'r ardal.

 

Roedd angen adnewyddu’r cytundeb rheoli ar gyfer y safle parhaol yng Nglan yr Afon er mwyn cyflawni’r newidiadau yn y gofynion cyfreithiol ac yn dilyn hynny gellid gwneud cais am gyllid grant gan Lywodraeth Cymru i ailwampio’r safle.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, esboniodd y Swyddog nad oedd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw wersylloedd diawdurdod ar dir preifat ond eu bod yn cofnodi achosion a gyflwynir i’w sylw.

 

 Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at enghraifft benodol yn ei ward hi lle mae gwersyll diawdurdod hirdymor yn bodoli.  Gofynnodd y Cynghorydd Attridge i unrhyw faterion penodol gael eu codi â swyddogion y tu allan i’r cyfarfod er mwyn trin gwybodaeth yn gyfrinachol.  Er ei fod yn deall y pryderon, esboniodd fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn y broses i ymdrin â materion yn fwy effeithlon.  Cafodd y cyfarfod ei atgoffa gan y Prif Swyddog am gyfrifoldeb y Cyngor i asesu amgylchiadau pob achos cyn dod i benderfyniad priodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge y dylid anfon pryderon am drefniadau diogelwch yn Noc Maes Glas at gydweithwyr yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad.  Yn ystod trafodaeth am leoliad y safle tramwy arfaethedig, esboniwyd fod opsiynau tir sy’n perthyn i’r Cyngor yn cael eu harchwilio i ddechrau cyn edrych ar argaeledd tir preifat.  Anogwyd aelodau i anfon awgrymiadau o leoliadau at swyddogion a chyflwynodd y Cynghorydd Reece wybodaeth ar ran tirfeddiannwr preifat.

 

Darparodd y swyddog eglurhad i’r Cynghorydd Shotton ynghylch cyllid grant a dywedodd fod hyn yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ar gyfer y tir a nodwyd.

 

Holodd y Cynghorydd Johnson yngl?n â'r dull o godi tâl am y safle tramwy.  Esboniwyd y byddai gwersi’n cael eu dysgu o enghreifftiau tebyg ar draws y DU, er mai hwn fyddai’r safle tramwy cyntaf yng Nghymru.

 

Tynnodd y Cynghorydd Wisinger sylw at y ffaith nad oedd unrhyw broblemau mawr wedi bod, er gwaethaf y pryderon dechreuol ynghylch Glan yr Afon.  Mewn ymateb i ymholiadau, dywedodd y Cynghorydd Attridge nad oedd unrhyw gynlluniau i ymestyn y safle.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi:

 

(a)       Cynnal arfarniad o opsiynau â chostau ar gyfer datblygu safle tramwy 6 llain yn Sir y Fflint;

 

(b)       Adolygu a gweithredu trefniadau rheoli newydd yng Nglan yr Afon; a

 

(c)       Gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf yn haf 2018 er mwyn ailwampio safle’r Awdurdod Lleol yng Nglan yr Afon.

40.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i’w hystyried, dywedodd yr Hwylusydd y byddai eitem ychwanegol yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2018 ar ganlyniadau’r adroddiad Archwilio ar gyfer rheoli’r gofrestr dai a dyraniadau. Ni wnaethpwyd unrhyw newidiadau pellach i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

41.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.