Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

7.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

 

8.

Cofnodion pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Mehefin 2017.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2017.

 

Cywirdeb

 

Dylid newid enw’r Cynghorydd Dave Mackie dan ‘Cadeirydd’ i'r Cynghorydd Ian Dunbar.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. 

 

 

 

 

9.

Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 pdf icon PDF 161 KB

Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad diweddariad rheolaidd i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yn y Cynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar aelwydydd digartref, lle cafodd digartrefedd ei atal am o leiaf 6 mis.  Adroddodd fod ffigur chwarter 4 yn is na gweddill y flwyddyn oherwydd bod rhai canlyniadau wedi cario drosodd ond ar draws y flwyddyn, roedd 89% o achosion wedi eu hatal neu eu lliniaru, a oedd wedi rhagori ar y targed 87%. 

 

Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod brysbennu wedi trin 3,362 o achosion a bod 63% wedi’u rheoli ar y pwynt cyswllt cyntaf neu drwy dimau ehangach yn rhyddhau amser swyddog digartrefedd ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.  Roedd y tîm Hawliau Lles sydd wedi bod yn seiliedig yn y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ers mis Medi 2016 wedi cynhyrchu incwm budd-daliadau ychwanegol o £1,579,380 a oedd yn llai na’r llynedd ond roedd wedi rhagori ar y targed ar gyfer y cyfnod.

 

Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y ffigurau ar gyfer prosesu hawliau newydd ar gyfer y flwyddyn wedi dod ychydig o dan y targed 20 diwrnod oherwydd bod perfformiad o dan y targed ar gyfer chwarter 1 a chwarter 2, fodd bynnag, roedd y ffigurau ar gyfer chwarter 3 a chwarter 4 yn dangos perfformiad gwell ac roeddent o fewn y targed.O ran prosesu newid amgylchiadau, roedd y Gwasanaeth wedi perfformio o fewn y targed ar gyfer y flwyddyn.

 

Dywedodd y Syrfëwr Contractau fod pob contract wedi’i ddarparu ar amser ac wedi rhagori ar dargedau ar wahân i’r canlynol:

 

·         Roedd y contract amlen (gwaith to) wedi’i ohirio oherwydd gwaith gan Scottish Power i ddisodli ceblau trydanol y prif gyflenwad, fodd bynnag, mae hyn wedi cael sylw bellach ac mae’r contract “ar y trywydd iawn”. 

 

·         Cafodd Rhaglen Off Gas yn Nhreuddyn a Phenyffordd ei gwblhau y llynedd, ond oherwydd prisiau olew isel roedd nifer fach wedi manteisio, fodd bynnag, bu cynnydd o ran galw am foeleri nwy gan fod pris olew wedi cynyddu.  

 

Mynegodd Cynghorydd Paul Shotton werthfawrogiad am y cynnydd a gyflawnwyd o ran Tai hyd yma.  Cyfeiriodd at ddatblygiad Red Hall a gofynnodd a oedd dyddiad cwblhau wedi’i benderfynu.  Eglurodd Cynghorydd Bernie Attridge ei bod yn cael ei rhagweld y byddai eiddo yn cael eu dyrannu rhwng mis Awst/Medi 2017.   

 

Gofynnodd Cynghorydd Ron Davies fod yr Aelod Lleol yn cael gwybod pan fyddai unrhyw waith cyfalaf mawr yn cael ei wneud yn eu Ward.  Dywedodd y syrfëwr Contractau y dylai hyn fod yn digwydd eisoes a byddai’n edrych i mewn i hyn i wneud yn si?r ei fod yn parhau yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) at y benthyciadau adnewyddu cartrefi a oedd ar gael i atgyweirio/gwella anheddau sector preifat drwy raglen gyfalaf y Cyngor a Benthyciadau Gwella Cartrefi cenedlaethol Llywodraeth Cymru (LlC).   Dywedodd mai nifer fach oedd wedi manteisio ar y ddau fenthyciad ac roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Sicrhau Cynnydd Uchel Y Fflint

Pwrpas:  Darparudiweddariad llafur I roi sicrwydd I’r Pwyllgor a rhanny mesurau diogelwch tânyn y codi uchel Fflint

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Asedau Tai ddiweddariad ar lafar i roi sicrwydd i’r Pwyllgor a rhannu gwybodaeth am fesurau diogelwch tân mewn eiddo uchel iawn yn y Fflint.  Dosbarthodd gopïau o adroddiad a oedd wedi’i gyflwyno i gyfarfod y Cabinet ar 18 Gorffennaf, ar y mesurau a gymerwyd ac a gynlluniwyd o ran diogelwch tân eiddo uchel iawn Cyngor Sir y Fflint.

 

                        Rhoddodd y Rheolwr Asedau Tai drosolwg o’r mesurau sydd ar waith i amddiffyn a sicrhau diogelwch tenantiaid pe bai tân ac adroddodd ar y prif bwyntiau sy’n ymwneud â'r chwe maes canlynol:

 

  • mesurau amddiffyn adeiladau sydd ar waith
  • trefn arolygu
  • mesurau sicrwydd a chyfathrebu
  • inswleiddiad waliau allanol wedi’u ffitio i eiddo arall
  • Archwiliad Diogelwch Tân
  • camau pellach i gael eu cymryd wrth symud ymlaen 

 

Gwnaeth y Rheolwr Asedau Tai gyfeirio at gynnal asesiadau risg tân rheoleiddiol blynyddol neu pryd bynnag mae digwyddiad arwyddocaol neu ailwampio yn digwydd, gosod systemau chwistrellu, drysau sy’n amddiffyn rhag tân, synwyryddion mwg a gwres, a chynlluniau personol gadael mewn argyfwng (PEEP).  Adroddodd hefyd ar yr ymchwil a’r gwaith a wnaed gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Sir y Fflint a’r ganolfan hyfforddiant Gwasanaethau Tân ac Achub yng nghanolbarth Lloegr. 

 

Eglurodd y Rheolwr Asedau Tai fod y mesurau sicrwydd a chyfathrebu a roddwyd ar waith wedi’u croesawu gan denantiaid a byddent yn parhau i fod yn flaenoriaeth.  Gan ymateb i’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a gafwyd, roedd adran Cwestiynau Cyffredin wedi’i datblygu ar wefan Cyngor Sir y Fflint i fynd i’r afael â’r ymholiadau lleol a chenedlaethol parhaus a’r pryderon a geir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod yr Awdurdod, gyda 3 awdurdod lleol arall, wedi cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i gyflwyno tystiolaeth ar y mesurau diogelwch tân sydd ar waith ar eiddo uchel iawn yn Sir y Fflint, ac i awgrymu unrhyw welliannau a ellid eu gwneud wrth symud ymlaen.  Dywedodd fod canlyniad y cyfarfod yn gadarnhaol ac nid oedd materion wedi codi ar y dystiolaeth a adolygwyd.

 

Mynegodd Aelodau eu gwerthfawrogiad i’r Aelod Cabinet a swyddogion am y camau gweithredu prydlon a gymerwyd gan yr Awdurdod i roi sicrwydd i denantiaid a phreswylwyr lleol yn dilyn y tân yn Nh?r Grenfell, Llundain, ym mis Mehefin 2017.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Dunbar i’r Rheolwr Asedau Tai am ddiweddariad llawn gwybodaeth a manwl.  Soniodd am nifer yr eiddo isel yn Sir y Fflint a gofynnodd am sicrwydd fod mesurau amddiffyn ar waith ar gyfer yr eiddo hyn.  Amlinellodd y Rheolwr Asedau Tai y mesurau a gymerwyd i amddiffyn tenantiaid mewn adeiladau isel a chyfeiriodd at gynnal asesiadau risg tân rheolaidd, profi a gweithdrefnau arolygu.Roedd cynllun gweithredu ar wahân ar gyfer eiddo isel yn Sir y Fflint wedi’i gwblhau a byddai’n cael ei adolygu’n flynyddol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Reece a oedd ystyriaeth yn cael ei roi i osod grisiau awyr agored fel dull ychwanegol o ddianc rhag tân.  Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod hyn yn cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

11.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.  Gofynnodd i Aelodau ystyried yr awgrym i gynnal gweithdy byr ar y Fargen Twf Economaidd cyn dechrau cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 20 Medi 2017 a chytunodd y Pwyllgor ar hyn.  Cytunwyd hefyd cynnal cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor yn ystod mis Hydref 2017 i ystyried y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol arfaethedig a’r Cynllun Busnes arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

12.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.