Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Ted Palmer yn datgan cysylltiad personol yn eitem 5 ar y Rhaglen – Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd Cyfrif Refeniw Tai. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2019.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at baragraff dau, tudalen 7 o’r cofnodion a gofynnodd i hwn gael ei newid i adlewyrchu’r cyfeiriad a wnaeth i Ddociau Mostyn ynghyd â’i sylwadau ar y derfynell olew a nwy yn Nhalacre.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf, na wnaed unrhyw newidiadau iddi. O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd mwyafrif y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol wedi cael eu cwblhau.
Soniodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am gytundeb blaenorol y byddai swyddog yn cysylltu â hi i drafod ei phryderon, yn dilyn ei chais am adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol ar y Polisi SARTH. Cytunodd yr Hwylusydd i ddilyn hyn i fyny ar ôl y cyfarfod.
Roedd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn mynegi pryder ei fod wedi gofyn am eitem o’r blaen ar y broses Dyraniadau ac nad oedd hyn wedi’i gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Cafodd y cais hwn ei gymeradwyo gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Patrick Heesom. Ymddygiad er mwyn dangos dewisiadau sydd ar gael i Swyddogion Tai wrth ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd hwn wedi’i gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a byddai’n cael ei gyflwyno i’r cyfarfod ar 29 Ebrill 2020.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/newid fel bo’r angen;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai PDF 150 KB Pwrpas: I ystyried cyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y meysydd allweddol canlynol:
Soniodd y Cynghorydd Patrick Heesom am yr ymgyrch flaenorol i gadw stoc dai’r Cyngor a gofynnodd am sicrwydd nad oedd yna unrhyw gynigion i symud y gwasanaeth hwn i Fodel Darparu Amgen yn y dyfodol. Darparodd y Prif Swyddog y sicrwydd hwn.
Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn canmol swyddogion ar yr adroddiad. Soniodd am y cynnydd yn y lefelau benthyca a mynegodd bryderon y gall hyn effeithio ar y targed i adeiladu 500 o gartrefi yn y 5 mlynedd nesaf. Cyfeiriodd at gynlluniau gweithredu rheoli ystadau a gofynnodd os gellir darparu’r wybodaeth hon i’r Aelodau fesul ward. Roedd yn croesawu’r cynnig i Swyddogion Tai gael eu lleoli mewn canolfannau ar draws Sir y Fflint a hefyd croesawodd y cyllid gan Lywodraeth Cymru ond roedd yn bryderus y gall effaith y cynnydd mewn rhent, a thaliadau gwasanaeth a newidiadau i fudd-daliadau tai gael effaith negyddol ar denantiaid Hefyd gofynnodd a ymgynghorwyd â’r Ffederasiwn Tenantiaid ar y Cynllun Busnes HRA. Darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol – Masnachol a Thai wybodaeth ar y lefelau benthyca, gan egluro bod cynnydd yn y lefelau benthyca yn golygu cynnydd mewn perygl i’r rhaglen adeiladu ac felly bu’n angenrheidiol i gynyddu arian wrth gefn i lefel ddigonol er mwyn lleddfu hyn. Cadarnhaodd y Prif Swyddog yr ymgynghorir gyda’r Ffederasiwn Tenantiaid ar y cynllun busnes cyn ei ystyried yn y Cabinet a’r Cyngor Sir.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Attridge ar leihau costau i Swyddog Iechyd a Diogelwch a gwasanaethau hawliad yswiriant yn ymweld â thenantiaid bregus gydag addewid o wasanaeth dim llwyddiant – dim ffi oedd yn darparu effeithlonrwydd. Roedd yn ymwybodol o wasanaethau hawliad yswiriant yn ymweld â thenantiaid ar draws Sir y Fflint ond dywedodd mai Gwasanaethau Cyfreithiol oedd yn delio gyda nhw ac roeddent yn cael eu hamddiffyn yn gaeth.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i swyddogion am yr adroddiad a dywedodd am y bleidlais uchel i gynnal cartrefi’r Cyngor ar draws Sir y Fflint a chanmolodd y gwaith a wnaed i inswleiddio cartrefi modiwlar yn Garden City.
Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer a roddwyd ystyriaeth i barhau â’r rhaglen unwaith y cwblhawyd Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) ledled Sir y Fflint. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r rhaglen SATC yn cael ei aildatblygu gyda lefelau tebyg o gyllid ynghlwm i ddarparu rhaglenni dad-garboneiddio a hefyd prif safonau SATC mewn cartrefi.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson ar y posibilrwydd o leihau’r nifer o gartrefi a adeiladwyd o ganlyniad i gostau benthyca cynyddol, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd yna gynigion i leihau’r nifer o gartrefi a adeiladwyd ... view the full Cofnodion text for item 39. |
|
Diweddariad am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les PDF 162 KB Pwrpas: I roi diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar effaith roedd ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn ei chael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i liniaru hyn a chefnogi aelwydydd.
Yn ôl ystadegau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau hyd at Awst 2019, roedd 21,591 o bobl oedd yn derbyn Budd-Dal Tai yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn eu dyfarniad wythnosol gydag 80% sy’n derbyn Budd-Dal Tai yng Nghymru yn tanddefnyddio un ystafell yn eu heiddo. Roedd 136 o dai yn Sir Y Fflint yn destun 25% o ostyngiad yn eu taliad budd-dal tai wythnosol a 474 o dai yn destun 14% o ostyngiad yn eu taliad budd-dal tai wythnosol. Hyd at fis Rhagfyr 2019, roedd 154 o gwsmeriaid Credyd Cynhwysol yr effeithir arnynt gan y treth ystafell wely yn derbyn cefnogaeth tuag at eu rhent drwy Dâl Disgresiwn at Gostau Tai (DHP).
Roedd y Rheolwr Budd-daliadau wedi rhoi gwybodaeth fanwl ar y meysydd canlynol, fel y manylwyd o fewn yr adroddiad:-
· Cymorth i Hawlio Gwasanaeth; · ‘Ymfudo a Reolir’ Credyd Cynhwysol; · Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor; · Tîm Diwygiad Lles; · Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai; a · Goblygiadau Ariannol
Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn mynegi pryder am y nifer o hawlwyr oedd yn gweithio, yr oedd yn teimlo oedd o ganlyniad i economi cyflog isel. Hefyd roedd yn mynegi pryderon am yr amseroedd aros i geisiadau gael eu prosesu yr oedd yn dweud oedd yn annigonol. Hefyd, soniodd am y fenter ‘Gallu Coginio’ yr oedd yn teimlo oedd yn gadarnhaol i gynorthwyo pobl mewn tlodi. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y fenter ‘Can Cook’ yn rhan o Strategaeth ehangach i fynd i’r afael â thlodi bwyd ar draws Sir y Fflint.
Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Shotton gan ddweud hefyd bod Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn rhoi cymhorthdal ar gyfer cyflogau isel. Hefyd gofyn os gellir darparu gwybodaeth ar lefel ceisiadau Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai gan ardaloedd o fewn Sir y Fflint. Roedd y Rheolwr Budd-daliadau yn cytuno i ddarparu’r wybodaeth hon ar ôl ymarfer mapio ar leoliadau.
Roedd y Cynghorydd David Wisinger yn mynegi pryderon am bobl ifanc yn gadael gofal ac yn gofyn a oedd yna unrhyw gefnogaeth ychwanegol iddynt dalu eu rhent. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal adolygiad o Gyfraddau Lwfans Tai Lleol ac arhosir am ganlyniad yr adolygiad. Gobeithio y byddai’r adolygiad yn cynorthwyo landlordiaid i ddarparu cymorth i bobl o dan 35 oed.
Wrth gynnig yr argymhellion o fewn yr adroddiad, roedd y Cynghorydd Heesom yn canmol y swyddogion am eu gwaith. Roedd y Cynghorydd Shotton yn eilio.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith mae Diwygiadau Lles yn ei chael a bydd yn parhau i’w chael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint. |
|
Pwrpas: I ddarparu diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau ôl-ddyledion presennol. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad chwarterol ar gasglu rhent gan gy nwys y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dilyn yr adroddiad diweddariad diwethaf yn Chwefror 2019.
Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod yr ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, hyd at wythnos 34 (25/11/2019) yn £2.23 miliwn, o’i gymharu â £2.38miliwn ar yr un pwynt yn 2018/19, oedd yn dangos sefyllfa casglu gwell gyda rhent cyffredinol yn gostwng £150,000. Dywedodd y gwnaed cynnydd graddol i leihau’r ôl-ddyledion rhent, a chyflawnwyd hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r canlynol:-
Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod gweithredu’r meddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft yn helpu’r gwasanaeth i nodi achosion ôl-ddyledion rhent yn gyflym ac roedd ymyrraeth gynt yn cael ei rhoi ar waith fesul achos i atal ôl-ddyledion rhag datblygu ond sicrhau bod tenantiaid yn cwrdd â’u rhwymedigaethau talu.
Roedd y Cadeirydd yn croesawu canlyniad a chadarnrwydd y gwasanaeth a meddalwedd newydd.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a fyddai yna effaith ar y Cyngor os byddai Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn troi tenant allan. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod Cymdeithas Dai Clwyd Alyn wedi mabwysiadu polisi dim troi allan.
Diolchodd y Cynghorydd Bernie Attridge i swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd y gostyngiad mewn ôl-ddyledion rhent. Mynegodd bryderon am denantiaid yn cael eu hannog i drefnu gorchmynion rhyddhau o ddyled drwy hysbysebion a gofynnodd a fyddai hyn yn effeithio ar allu’r Cyngor i hawlio rhent oedd yn ddyledus yn ôl. Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod darpariaeth ar gyfer gorchmynion rhyddhau o ddyled ond roedd hyn yn cael ei fonitro i sicrhau nad oedd tenantiaid yn ymgeisio am ail orchymyn rhyddhau o ddyled.
Roedd y Cynghorydd Heesom yn canmol swyddogion a’r tîm am y ffordd yr oeddent yn cynorthwyo tenant mewn dyled i hwyluso eu gallu i gadw eu cartref a lleihau eu dyled.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Wisinger, eglurodd y Rheolwr Refeniw bod gan oddeutu 140 o denantiaid rhwng £2500 a £5000 o ddyled mewn rhent.
Roedd y Cynghorydd Attridge yn cynnig yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad, gydag argymhelliad ychwanegol i’r Pwyllgor ddiolch i swyddogion o fewn y Tîm Refeniw am y gwaith a wneir i barhau i leihau’r ôl-ddyledion rhent. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod sefyllfa ariannol ddiweddaraf ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, fel y darparwyd yn ystod y cyfarfod yn cael ei nodi; a
(b) Y Pwyllgor i ddiolch i swyddogion o fewn y Tîm Refeniw am y gwaith a wneir i barhau i leihau’r ôl-ddyledion rhent. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |