Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20 PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer y Portffolio Tai a rhannau o Bortffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2019/20 Cofnodion: Cyn cyflwyno'r adroddiad, gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am eglurhad ar y gwasanaethau sydd bellach wedi’u cynnwys yn y portffolio a gofynnodd at le y dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch cyllid ar gyfer Cymunedau am Waith a Chartrefi Cynnes. Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y meysydd gwasanaeth o fewn portffolio'r Prif Swyddog blaenorol wedi'u rhannu ar ôl iddi ymadael. Bellach, roedd meysydd gwasanaeth y Ganolfan Gyswllt a Sir y Fflint yn Cysylltu yn eistedd ym mhortffolio’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a byddent yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Trefniadol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) bod y meysydd gwasanaeth o dan Economi ac Adfywio wedi bod o fewn ei bortffolio a dywedodd y gallai ddarparu'r Cynghorydd Heesom â dadansoddiad o sut y dosbarthwyd cyllid ar gyfer Cymunedau am Waith a Chartrefi Cynnes ar draws y Sir, ar ôl y cyfarfod.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd nad oedd Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli ac roedd bellach yn rhan o Gymunedau am Waith a ariannwyd trwy Lywodraeth Cymru (LlC). Byddai'r rhaglen waith ar gyfer hyn yn cael ei adrodd i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.
Cyflwynodd y Prif
Swyddog (Tai ac Asedau) a Phrif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd
a'r Economi) adroddiad i gynghori am y pwysau ariannol a'r arbedion
effeithlonrwydd a nodwyd ar gyfer y portffolio Tai a rhannau o'r
portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi ar gyfer cyllideb
2019/20 . Hysbyswyd y Pwyllgor y cynhaliwyd gweithdai Aelodau ar 13
a 23 Gorffennaf a 18 Medi, 2018, lle darparwyd gwybodaeth am y
rhagolygon ariannol lleol diweddaraf yng nghyd-destun y sefyllfa
genedlaethol gyffredinol. Cynhaliwyd gweithdy ychwanegol yn benodol
ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ar 12
Hydref, 2018 a roddodd y cyfle i'r Aelodau ddeall y cyllidebau
portffolio yn fwy manwl ac ystyried lefelau risg a gwytnwch pob
maes gwasanaeth. Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) esboniad manwl am bwysau’r portffolio a buddsoddiadau, ynghyd â'r arbedion cynllunio busnes portffolio a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Darparodd y Rheolwr
Cyllid Gwasanaethau Cymunedol yr wybodaeth ddiweddaraf am y setliad
dros dro gan Lywodraeth Cymru (LlC) a oedd wedi cynyddu’r
bwlch cyllidebol o £1.9m. Ar hyn o bryd roedd swyddogion yn
gweithio trwy fanylion cyhoeddiadau cyllideb Llywodraeth Prydain a
pha gyllid ychwanegol y gallai LlC ei dderbyn o
ganlyniad. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a ellid dangos cyfanswm cyllidebau cyfredol y meysydd gwasanaeth wrth ymyl yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig fel y gallai’r Aelodau ddyfarnu a oedd yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn dderbyniol. Mynegodd bryderon ynghylch yr effeithlonrwydd na ellir ei gyrraedd yn y Ganolfan Gyswllt a'r diffyg darpariaeth i drigolion ymweld â'r canolfannau hyn i'r gorllewin o Sir y Fflint. Hefyd, mynegodd bryderon ynghylch y cynnydd mawr yn Nhreth y Cyngor a fyddai ei angen i ddiwallu’r diffyg ariannol.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a'r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) wybodaeth am y cyllidebau cyfredol ar gyfer pob un ... view the full Cofnodion text for item 32. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r Wasg a’r cyhoedd yn bresennol.
|