Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Caffi’r Hen Lys, 34 Stryd yr Eglwys, Fflint, Sir y Fflint CH6 5AE

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Nodyn: Please note the venue 

Eitemau
Rhif eitem

17.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. 

18.

Strategaeth Tlodi Bwyd pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        I rannu’r Strategaeth Tlodi Bwyd a rhoi diweddariad am rywfaint o’r gwaith Tlodi Bwyd sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Budd-Daliadau’r adroddiad yngl?n â’r Strategaeth Tlodi Bwyd, a oedd yn amlinellu’r flaenoriaeth strategol o weithio i ddatrys tlodi bwyd.

 

            Roedd y Strategaeth ddrafft ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1. Fe’i cyflwynwyd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddiweddar, ac fe'i cyhoeddid yn fuan wedi i’r Bwrdd ei mabwysiadu.  Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint o blaid datblygu cynlluniau mewn partneriaeth gyda’r nod o leihau tlodi yn y Sir, ac yn ddiweddar rhoddodd y Bwrdd gymeradwyaeth i ddatblygu a gweithredu Strategaeth Budd Cymunedol, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o flaenoriaethau strategol fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

 

            Fel yr esboniwyd yn yr adroddiad, roedd hi’n amlwg fod consensws cryf yngl?n â’r heriau a’r amcanion a bennwyd gan y bwrdd amlasiantaethol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bod llawer o sefydliadau unigol yn y gymuned yn gwneud gwaith da, fel banciau bwyd, er enghraifft.  Gan ystyried yr holl waith oedd yn digwydd yn y Sir a’r cytgord rhwng strategaethau a dyheadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus amlasiantaethol Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, roedd angen cynllunio’r camau nesaf a dod i gytundeb yn eu cylch, yn ogystal â’r cyfraniadau y byddai'r partneriaid yn eu gwneud at gyflawni’r nodau oedd yn gysylltiedig â lleihau tlodi bwyd.

 

            Disgrifiodd y Rheolwr Budd-Daliadau nifer o gynlluniau allweddol y gellid eu cyflawni yn y flwyddyn gyntaf, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad.  Un o’r rheiny oedd cyflwyno’r Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau ar gyfer plant ysgol.  Roedd Mr. Robbie Davison wedi darparu manylion am y Rhaglen i'r Pwyllgor cyn dechrau'r cyfarfod.   

 

            I gloi, dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau fod Sir y Fflint ar flaen y gad wrth ffurfio cynghrair yng ngogledd Cymru er mwyn ennill gwell dealltwriaeth o’r materion rhanbarthol sy’n gysylltiedig â thlodi bwyd a diffyg sicrwydd cyflenwad bwyd.  Roedd gobaith y byddai cynhadledd tlodi bwyd oedd i'w chynnal yng ngogledd Cymru fis Medi'n gyfle i ystyried cydweithio ledled y rhanbarth i fynd i’r afael â’r materion hyn, drwy rannu arferion gorau, dysgu ar sail profiadau a gweithio ar draws sectorau.

 

            Diolchodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai i’r Rheolwr Budd-daliadau am yr adroddiad, ond mynegodd ei dristwch am fod angen y fath adroddiad, ac yngl?n â nifer y teuluoedd yn Sir y Fflint oedd mewn tlodi bwyd.  Soniodd am lansiad y Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau oedd i’w gynnal ar 19 Gorffennaf, gan obeithio y byddai’r cynlluniau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn rhoi terfyn ar dlodi bwyd yn y dyfodol, nid yn unig i blant ond hefyd i bobl ddi-waith a phensiynwyr.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ei fod yn Aelod o Fwrdd NEWydd, a oedd yn darparu prydau ysgol iach yn ystod y tymor, a’i fod yn falch o weld y darperid cynllun dros wyliau’r haf fel y gallai plant gael prydau bwyd cynnes ac iach.  Rhoddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol longyfarchiadau i’r Rheolwr Budd-Daliadau a'i thîm, gan ddweud mor falch yr oedd o weld y cydweithio rhwng y Bwrdd Gwasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Diweddariad ar reoli'r ddeddfwriaeth ddigartrefedd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014 pdf icon PDF 144 KB

Pwrpas:        I ddiweddaru’r Cabinet ar reoli deddfwriaeth ddigartrefedd, cynnydd o ran datblygu strategaeth ddigartrefedd ranbarthol, yr heriau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu a’r dulliau o liniaru digartrefedd yn y sir.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid adroddiad oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r modd yr aethpwyd ati i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014, ynghyd â rhai o’r heriau i’r Cyngor oedd ar y gorwel.

 

            Yn 2017/18 bu cynnydd yn nifer yr aelwydydd a ddaeth at y Cyngor mewn perygl o ddigartrefedd, a defnyddiwyd mwy o lety dros dro.  Roedd y Cyngor yn ymrwymo i atal cysgu ar y stryd ac wedi gweithio i gynllunio gwasanaethau a defnyddio grantiau i liniaru ar y perygl o gostau llety dros dro yn cynyddu, fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Roedd y Tîm Dewisiadau Tai’n canolbwyntio lle bo modd ar atal digartrefedd a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, ac er mwyn sicrhau canlyniadau da yn hynny o beth, roedd ar y gwasanaeth angen cyflenwad o ddewisiadau tai oedd yn fforddiadwy ac y gellid eu darparu i aelwydydd oedd yn defnyddio’r gwasanaeth.  Amlygwyd prinder y dewisiadau oedd ar gael fel problem gynyddol yn Adolygiad Digartrefedd Sir y Fflint, a byddai hynny’n ganolog i’r cynllun gweithredu a’r prosiectau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

 

            Manylodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid ynghylch yr wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau’r oedd y Cyngor yn eu hwynebu, fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, sef:-

 

·         Y Gofrestr Tai Cymdeithasol;

·         Cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael yn y sector rhentu preifat;

·         Llety Dros Dro;

·         Atal Cysgu ar y Stryd;

·         Aelwydydd Un Aelod; a

·         Phobl Ddiamddiffyn a Phobl ag Anghenion Cymhleth.

 

            I gloi, dywedodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid fod Penaethiaid Tai pob yn o’r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru wedi cwrdd â Sefydliad Tai Siartredig Cymru fis Mehefin 2016, a bod pawb wedi ymrwymo i gydweithio wrth ddatblygu strategaeth digartrefedd ranbarthol.  Hysbysid y Cabinet o’r dull strategol a grybwyllwyd yn yr adroddiad ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, gan fod pob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru’n llunio'i gynllun gweithredu lleol ei hun ar sail blaenoriaethau’r strategaeth ranbarthol.

 

            Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod angen cynyddu nifer y cartrefi oedd ar gael yn y Sector Rhentu Preifat, gan ddweud y dylai’r Cyngor fod yn ymwybodol o’r gwaith adeiladu ar gyfer y Wylfa Newydd ar Ynys Môn, a allai gael effaith negyddol ar lety yn y sector rhentu preifat, os nad oedd digon ar gael ar Ynys Môn ac yng Nghonwy.  Dywedodd ei bod yn hanfodol dal ati i adeiladu tai ledled Sir y Fflint drwy’r Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio (SHARP), gan fod y Cyngor yn un o’r Awdurdodau Lleol prin hynny oedd yn adeiladu tai cymdeithasol newydd.     

 

            Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai fod y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad yn y bore, ond y gallai fynd ag unrhyw sylwadau gan yr Aelodau yn ystod y cyfarfod yn ôl i’r Cabinet fel y gellid eu hystyried.  Dywedodd fod y Cyngor yn medru darparu llety dros dro i bobl ddigartref, ond roedd hi’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn dal i ddarparu cyllid er  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

20.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.