Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

11.

Cofnodion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 16 Mai 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai 2018.

 

Materion yn codi

 

Cofnod rhif 64: Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor ar gyfer diwedd y flwyddyn 2017/18 – yn unol â’r cais gan y Cynghorydd Hardcastle, cadarnhaodd yr Hwylusydd y byddai’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl-ddyledion rhent yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ar ddigartrefedd a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf.

 

Cofnod rhif 65: Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol – cytunodd yr Hwylusydd i ddilyn y cais ar gyfer nodyn briffio ar Gytundebau Lefel Gwasanaeth tenantiaid i rannu gyda’r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

12.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai yna newid bach yn nhrefn y busnes i ddod ag eitem 6 ar y rhaglen ymlaen.  Roedd y Rheolwr Gwasanaeth, Rhaglenni Tai angen gadael y cyfarfod yn fuan i deithio i seremoni gwobrau cenedlaethol lle roedd Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor wedi’i enwebu ar gyfer y categori Datblygu Tai Cymdeithasol Gorau.    Roedd y Cadeirydd yn canmol cyflawniadau’r rhaglen am ddarparu tai o ansawdd uchel.

13.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (Newydd) 2018/27 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar waith y Bwrdd Tai Newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Rhaglenni Tai adroddiad ar Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2018/27 a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mai.    Roedd yr adroddiad yn manylu cynnydd ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol a’r broses cymeradwyo benthyca newydd i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer datblygu neu brynu tai fforddiadwy.    Roedd y Cynllun Busnes – oedd wedi’i gynnwys fel atodiad cyfrinachol ar y rhaglen – yn manylu tai i'w datblygu drwy'r rhaglen SHARP, eiddo Adran 106 ac eiddo posibl drwy fenthyca yn erbyn asedau presennol.

 

Fel Dirprwy Gadeirydd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, rhoddodd y Cynghorydd Sean Bibby drosolwg o‘r prif bwyntiau.  Cyfeiriodd at y gofynion gwerthuso ariannol a soniodd am berthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng partneriaid i hwyluso darpariaeth tai o ansawdd uchel am rent fforddiadwy.    Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwasanaeth gosodiadau a reolir sy’n cyfrannu at nod corfforaethol y Cyngor ar ddarpariaeth tai fforddiadwy yn y sector preifat.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y dull ar gyfer rheoli gosodiadau a dywedodd nad oedd angen gwneud gwaith atgyweirio mawr i eiddo hyd yma.    Ychwanegodd bod yr arfer o gynnal arolygiadau chwarterol wedi helpu i nodi unrhyw faterion yn ystod camau cynnar. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge am effeithiolrwydd y rhaglen rheoli dwyster uchel gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i ddelio gyda materion tenantiaeth.

 

Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm am eu cyflawniadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn bleser nodi fforddiadwyedd lefelau rhent a osodwyd gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru ac y gallai rheoliadau newydd ar ffioedd gosod fod o fudd. 

 

Canmolodd y Cynghorydd Ron Davies y bartneriaeth gyda’r contractwyr a benodwyd, Wates, oedd yn darparu gwasanaeth ardderchog. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Palmer a fyddai’r Pwyllgor yn gallu cael ei gynrychioli ar Fwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gyfansoddiad y Bwrdd oedd yn cynnwys cynrychiolaeth trawsbleidiol o bump Aelod. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at y cyn Brif Swyddog (Cymuned a Menter) fel prif ysgogydd sefydlu’r cwmni newydd, ynghyd â’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm.   Siaradodd am ragolygon twf y cwmni yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2018/27 yn cael ei nodi.

14.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol i’w hystyried, cyfeiriodd yr Hwylusydd at gyfarfod arbennig yn y Fflint ar 17 Gorffennaf i ystyried y Strategaeth Tlodi Bwyd, byddai manylion yn cael eu cadarnhau drwy e-bost.  Hefyd, dywedodd y byddai’r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 19 Medi angen cael ei symud i 26 Medi. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin am eitem ar orfodi cytundebau rhent a gwirio eiddo.   Dywedodd y Cynghorydd Attridge y gallai hyn gael ei gynnwys mewn adroddiad ar reoli tai yn gyffredinol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hardcastle a fyddai’n bosibl adfer yr arfer o ymweld ag ystadau – lle gwahoddwyd Aelodau lleol i fynd gyda swyddogion oedd yn cynnal gwiriadau ar eiddo yn eu ward.    Dywedodd y Cynghorydd Attridge mai cyfrifoldeb Swyddogion Tai oedd y gwaith hwn. 

 

Yn ystod trafodaeth, dywedodd Aelodau am eu profiadau unigol o roi gwybod am faterion tai. 

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Ron Davies, dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y mater o droliau archfarchnad yn cael eu hepgor wedi’i godi yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd.  Cyunodd y byddai copi o’r nodyn briffio yn cael ei rannu yn dilyn y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

15.

Adroddiad Archwilio Mewnol Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl 2017 pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Amlinellu casgliadau Adolygiad Archwilio Mewnol 2017 o Raglen Cyfleusterau i Bobl Anabl ac i drafod y mesurau rheoli a ddatblygwyd mewn ymateb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-Archwilydd yr adroddiad yn crynhoi canfyddiadau adroddiad Archwilio Mewnol 2017 ar weithredu’r cynllun Grant Cyfleusterau i'r Anabl a’r ymatebion rheoli ar waith i ddelio â’r canfyddiadau hyn.

 

Eglurodd bod cwmpas yr archwiliad yn cynnwys gweinyddu’r cynllun o’r cam tendro i'r cam cwblhau’r gwaith, a gofynnodd i’r Aelodau nodi bod y gwasanaeth wedi bod drwy gyfnod trawsnewid.    Roedd yr ardaloedd a amlygwyd ar gyfer gwella wedi eu manylu yn yr adroddiad, ynghyd â'r cynllun gweithredu rheolaeth a ddatblygwyd mewn ymateb i’r canfyddiadau.

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio yn rhoi eglurhad ar nifer o brosesau yn cael eu rhoi ar waith i gryfhau rheoliadau a chydymffurfedd.  Byddai’r rhain hefyd yn galluogi gwell dealltwriaeth o amserlenni i helpu i wella perfformiad yn erbyn targedau.   Roedd cynnydd ar gamau eraill yn cynnwys fframwaith caffael newydd i gyflymu’r broses, dal contractwyr i gyfrif a chyflawni gwerth am arian.   Byddai sefydlu bwrdd trosolwg proffesiynol yn helpu i adolygu prosesau a monitro cynnydd ar y cynllun gweithredu.  Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi derbyn canfyddiadau'r adroddiad ac wedi trefnu diweddariad ymhen chwe mis, felly awgrymwyd efallai y byddai’r Pwyllgor hwn yn dymuno ystyried diweddariad yn nes ymlaen. 

 

Roedd y Prif Weithredwr yn dyfynnu’r prif fater fel perfformiad a rhoddodd sicrwydd bod yr adroddiad wedi achosi pryder ac yn dangos gwerth y gwaith archwilio.    Oherwydd pryderon am berchnogaeth a chyflymder ymatebion i’r canfyddiadau, roedd y bwrdd trosolwg proffesiynol wedi’i sefydlu i roi ymateb da i’r canfyddiadau ac roedd ganddynt nawr y dasg o adolygu a gwella prosesau drwy ddull dysgwr wedi’i reoli’n dda ac i geisio gwella perfformiad a safle Sir y Fflint ar DFG yn y tymor hwy.   Rhoddwyd ymrwymiad i ddangos tryloywder gwaith ac adolygu rolau a chyfrifoldebau oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.

 

Cytunodd y Cynghorydd Attridge fod canfyddiadau’r adroddiad yn destun pryder ac yn derbyn sylw yn y cynllun gweithredu, a bod y Pwyllgor Archwilio yn fodlon gyda’r cynnydd hyd yma.    Aeth ymlaen i ymrwymo i geisio gwelliant yn y gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl oedd yn fater hir-sefydlog.

 

 Siaradodd y Cynghorydd Palmer am yr angen i fwyhau cyfleoedd i gwmnïau lleol.  Eglurodd swyddogion y byddai’r fframwaith caffael yn dyrannu gwaith i gwmnïau lleol a rhanbarthol.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Dolphin ar eiddo’r Cyngor a addaswyd yn flaenorol oedd nawr yn wag, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth sicrwydd bod yna broses ar waith i adolygu opsiynau a chydweddu â’r ymgeisydd mwyaf addas.  Hefyd, ymatebodd i ymholiad tebyg gan y Cynghorydd Hardcastle ar ailgylchu lifftiau grisiau sy’n cael eu symud o eiddo i’w defnyddio gan eraill sydd eu hangen.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth eglurhad i’r Cynghorydd Paul Shotton ar grantiau adleoli a benthyciadau ychwanegol oedd ar gael ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl dros y trothwy £36K – nad oedd gofyn mawr am yr un ohonynt.

 

Yn ystod trafodaeth, awgrymodd y Cynghorydd Attridge, bod y Pwyllgor yn derbyn yr un adroddiad diweddaru â’r Pwyllgor Archwilio ymhen chwe mis.  Cytunodd a dywedodd y Prif Weithredwr er mwyn rhoi  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd yna un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.