Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd ei fod wedi’i gadarnhau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur. Gan fod y Cynghorydd Ian Dunbar wedi’i benodi’r i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Cynghorydd Ian Dunbar yn cael ei gadarnhau fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd David Wisinger y Cynghorydd Ted Palmer yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor. Fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ron Davies. 

 

Yn dilyn pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ted Palmer yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Cynghorydd Ted Palmer yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Mawrth 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at dudalen 3 y cofnodion a dywedodd nad oedd wedi derbyn ymateb i’r pryderon a gododd am y ffaith nad oed y rhif ffôn ar gyfer atgyweiriadau brys/argyfwng ar gael yn ystod y tywydd garw. Eglurodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod problemau technegol wedi bod o ganlyniad i’r nifer uwch o alwadau. Roedd y materion hyn bellach wedi’u datrys a byddai ymateb manwl yn cael ei roi i’r Cynghorydd Hardcastle yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

5.

Rhaglen Amgylcheddol Safon Ansawdd Tai Cymru pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Ymgynghori ar y Rhaglen Amgylcheddol Safon Ansawdd Tai Cymru arfaethedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau). Roedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad y Rhaglen Amgylcheddol fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS).

 

            Wrth ddatblygu ei raglen waith ar gyfer yr WHQS i gyd, mae’r Cyngor wedi rhannu’r sir yn chwe ardal ddaearyddol fwy neu lai yr un faint, gyda phob un yn cael rhaglen waith ym mhob blwyddyn ariannol, fel y dangosir yn Atodiad A. Datblygwyd rhaglenni gan ddefnyddio gwybodaeth oedd yn dod o arolygon cyflwr stoc, ond hefyd drwy ddefnyddio adborth gan denantiaid, ac Aelodau a swyddogion ar lawr gwlad. Roedd y data arolwg cyflwr yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i addasu i adlewyrchu cyflwr gwell yr eiddo yn dilyn adnewyddu.

 

            Tynnwyd sylw’r Pwyllgor gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i Atodiad B yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion y matrics a ddefnyddir gan swyddogion wrth asesu cynlluniau ar gyfer gwaith amgylcheddol. Yn seiliedig ar y meini prawf hyn, dangoswyd y Rhaglen Amgylcheddol arfaethedig yn Atodiad C.

 

            Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai i’r Pwyllgor adolygu’r rhestr a’r cyngor os oeddent yn teimlo’i bod yn ystyried y gofynion yn eu hardaloedd nhw yn ddigonol. Yn dilyn y cyfarfod, byddai copi o’r rhaglen arfaethedig yn cael ei anfon i bob Aelod fel y gellid cysylltu â nhw ar y cynigion.

 

            Gwnaeth y  Cynghorydd Paul Shotton sylw am nifer y garejis ar draws y Sir a oedd angen eu hadnewyddu a’r anawsterau gyda pharcio yn ei ward ei hun. Canmolodd y gwaith a oedd yn cael ei wneud fel rhan o’r WHQS a gofynnod a oedd gan y Cyngor yswiriant atebolrwydd pe bai difrod yn cael ei wneud i eiddo cyfagos yn ystod y gwaith adnewyddu. Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau), pe bai difrod yn cael ei wneud i eiddo cyfagos, byddai’r atebolrwydd yn cael ei warantu oherwydd byddai hyn wedi cael ei gynnwys o fewn y broses dendro.

 

            Cododd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryderon ar ran tenant a oedd yn gorfod talu am ddefnyddio garej tra’r oedd yn cael ei hadnewyddu. Cytunodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) siarad â’r Cynghorydd Hutchinson wedi’r cyfarfod er mwyn rhoi ateb priodol iddo.   

 

            Yn ôl y Cynghorydd Rosetta Dolphin, nid oedd y rhan fwyaf o garejis ar draws y Sir yn addas i’r diben mwyach, o ystyried maint cerbydau modern a gofynnodd a fyddai amserlen newydd yn dangos pryd byddai gwaith yn cael ei gwblhau ac ym mha wardiau, yn cael ei ddarparu i Aelodau. Eglurodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod ystyriaeth wedi cael ei rhoi, fel rhan o’r adolygiad garejis, i’r defnydd gorau o bob safle os nad oedd modd adnewyddu’r strwythurau oedd yno ar hyn o bryd.

 

            Holodd y Cynghorydd Ray Hughes a ellid ystyried gwella’r lle parcio yng Nghoed-llai. Byddai hynny’n helpu i symud cerbydau oddi ar y ffordd a gwella’r gwasanaeth bws. Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai i’r Cynghorydd Hughes roi manylion i swyddogion wedi’r cyfarfod. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ted  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Strategaeth Adfywio Rhanbarthol a Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Ystyried y Rhaglen Strategaeth Adfywio Rhanbarthol a Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Llywodraeth Cymruig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) y Strategaeth Adfywio Rhanbarthol a Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Llywodraeth Cymru. Roedd LlC wedi lansio’r Rhaglen hon i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau adfywio ledled Cymru. Roedd y cyllid yn amodol ar gyflwyno strategaeth adfywio rhanbarthol ac ar ddull oedd yn blaenoriaethu’r rhanbarth wrth ddatblygu cynigion buddsoddiad.

 

            Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y strategaeth adfywio ddrafft wedi cael ei datblygu o fewn y terfynau amser heriol a roddwyd i’r broses a bod dull cydweithredol wedi’i gymryd ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu buddsoddiad ac i ganolbwyntio’r adnoddau prin ar feysydd adfywio blaenoriaeth a phrosiectau thematig a fydd yn gwneud defnydd o dair blynedd gyntaf y rhaglen hon. Roedd strategaeth adfywio ddrafft Gogledd Cymru yn cynnig deuddeg tref fel meysydd blaenoriaeth i gael eu hadfywio i LlC fel y dangosir yn yr adroddiad. Dewiswyd y trefi drwy ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i ystyried lefelau amddifadedd cyffredinol.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd y byddai’n rhaid i’r cyllid a neilltuwyd i drefi Treffynnon a Shotton, sef y meysydd blaenoriaeth yn Sir y Fflint, gael arian cyfatebol gan y Cyngor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y byddai angen ystyried yn ofalus sut byddai’r Cyngor yn bodloni’r gofynion o safbwynt arian cyfatebol. Roedd ganddi bryderon am siopau yn Nhreffynnon a oedd wedi derbyn cyllid adfywio yn y gorffennol ond wedi gadael iddynt ddirywio a gofynnodd a oedd modd cael yr arian hwn yn ôl. Mynegodd y Cynghorydd Ted Palmer ei siom fod Treffynnon wedi cael ei hadnabod fel maes blaenoriaeth oherwydd y lefelau amddifadedd ond soniodd am waith Cyngor Tref Treffynnon a’i gynlluniau ar gyfer gwella. Roedd yn croesawu’r ffaith fod y Cyngor yn parhau i ymgynghori a gweithio ar y cyd â Chyngor y Dref. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod cyfnod o 5 mlynedd lle y gallai’r Cyngor adennill yr arian os oedd newid defnydd mewn eiddo ynghanol tref.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hardcastle ynghylch eiddo mawr yng Nghei Conna a oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd maith, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod perchennog yr eiddo wrthi’n ei werthu drwy broses arwerthiant. Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y Cyngor wedi bod mewn trafodaethau â pherchennog yr eiddo a bod cynlluniau datblygu yn eu lle.

 

            Teimlai’r Cynghorydd Ron Davies ei bod yn annheg fod Shotton wedi cael ei hadnabod fel ardal amddifad, oherwydd mai dim ond am ran fach o Shotton roedd hyn yn wir. Soniodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai am yr angen am waith ar y cyd rhwng amlasiantaethau a Rheolwyr Tai i daclo ardaloedd o amddifadedd o hyn ymlaen.

 

            Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton waith Cymunedau’n Gyntaf yn targedu llwybrau ar gyfer cyfleoedd gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Strategaeth Adfywio Rhanbarthol drafft i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

7.

Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 159 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18. Eglurodd fod yr adroddiad yn monitro cynnydd blaenoriaethau Cynllun y Cyngor, sef ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’, y ddau oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Cafwyd gwybodaeth gefndir gan y Prif Swyddog a dywedodd fod adroddiad monitro Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol, gydag 81% o’r gweithgareddau’n cael eu hasesu fel rhai oedd yn gwneud cynnydd da, a 69% yn debygol y gyrraedd y deilliant a ddymunir. Gwelwyd cynnydd da yn y dangosyddion perfformiad gydag 84% yn cyrraedd neu’n agos at darged y cyfnod. Roedd risgiau’n cael eu rheoli’n llwyddiannus hefyd gyda’r rhan fwyaf yn cael eu hasesu fel rhai canolig (67%) neu fân (10%).

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton a oedd effaith Credyd Cynhwysol a’r oedi mewn taliadau i denantiaid yn cael effaith negyddol ar ôl-ddyledion rhent. Gofynnodd hefyd ai cynnydd yn y galw am Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) oedd achos y dangosydd perfformiad a fethwyd. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i gadarnhau a fyddai’r oedi mewn taliadau yn cael effaith negyddol ar ôl-ddyledion rhent. Roedd y swyddogion yn dal i fod yn rhagweithiol yn cysylltu â thenantiaid yn ddigon buan i roi’r gefnogaeth angenrheidiol. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai adroddiad ar y Grantiau hyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a ellid rhoi adroddiad diweddar ar ôl-ddyledion rhent a’r defnydd o lety gwely a brecwast i’r Pwyllgor yn un o’r cyfarfodydd nesaf. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod adroddiad ar ôl-ddyledion rhent i gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ac y byddai hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn. Dywedodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid fod adroddiad ar Ddigartrefedd, a fyddai’n cynnwys manylion am y defnydd o lety gwely a brecwast, yn cael ei roi i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Yn dilyn sylwadau a wnaed am ôl-ddyledion rhent, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai fod y lefelau presennol yn ormodol a bod angen dull dim goddefgarwch i’r tenantiaid hynny a oedd yn gallu, ond yn gwrthod talu eu rhent. Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am y tenantiaid a oedd angen cymorth a chefnogaeth a dywedodd y byddai’r rhain yn dal i gael eu rhoi ond y byddai’r Cyngor yn mynd ati dros y 12 mis nesaf i daclo tenantiaid oedd yn gallu, ond yn gwrthod talu eu rhent.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai am y dull a amlinellwyd ganddynt o ddelio ag ôl-ddyledion rhent.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft gan fanylu ar yr eitemau a oedd fod i gael eu cyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor. Yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, dywedodd bod dyddiad pob cyfarfod yn y dyfodol wedi cael eu hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Awgrymodd, yn dilyn y cyfarfod ac mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd a’r Prif Swyddogion, fod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei phoblogi a’i hystyried gan y Pwyllgor fel yr eitem gyntaf ar agenda’r cyfarfod nesaf. Cytunodd y Pwyllgor â’r awgrym.

 

            Holodd y Cynghorydd George Hardcastle a allai’r Pwyllgor gael diweddariad ar y Cytundebau Lefel Gwasanaeth i denantiaid gan ei fod wedi cael pryderon gan denantiaid a oedd yn gorfod talu am wasanaethau nad oeddent yn eu defnyddio. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai ei fod newydd ofyn am nodyn briffio ar y mater hwn a sicrhaodd y Pwyllgor y byddai tenantiaid a oedd wedi gorfod talu am wasanaeth nad oeddent yn ei ddefnyddio yn cael iawndal. Cytunodd i ddod â chopi o’r nodyn briffio i Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.