Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd yr Hwylusydd nad oedd y Cynghorydd Ian Dunbar wedi gallu yn anffodus aros ar-lein yn y cyfarfod, a bod y Cynghorydd Ray Hughes, Is-Gadeirydd, wedi ymddiheuro am beidio â bod yn bresennol yn y cyfarfod, felly ceisiodd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Dennis Hutchinson yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol i eitem 5 ar yr Rhaglen – Incwm Rhent Tai, fel tenant i’r Cyngor. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 11 Mawrth 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton os byddai modd darparu dogfen Pwy ‘di Pwy o’r Swyddogion Tai i’r Pwyllgor. Yn ogystal dywedodd bod diddordeb ar gyfryngau cymdeithasol o ran Aldi yn dod i Gei Connah a gofynnodd a fyddai modd darparu rhagor o wybodaeth. Dywedodd yr Hwylysydd y byddai’n dosbarthu’r ddogfen Pwy ‘di Pwy i’r Pwyllgor pan fydd ar gael, a bydd yn gwneud cais am ymateb gan y Rheolwr Gwasanaeth – Menter ac Adfywio ar y posibilrwydd o Aldi yn dod i Gei Connah.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch yr adolygiad Llety Gwarchod, dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) ei bod yn adolygiad eang gyda gwybodaeth ychwanegol a fydd yn cael ei rannu i’r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin os oedd ymatebion wedi dod i law yn dilyn y camau gweithredu oedd heb eu gwneud o'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ym mis Mawrth :-
Bydd yr Hwylusydd yn ymlid y camau gweithredu hyn a darparu’r wybodaeth berthnasol i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Cynigiodd y Cynghorydd Dolphin bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac eiliodd y Cynghorydd Shotton hynny.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2020/21 PDF 90 KB Pwrpas: Ystyried y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2020/21 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y ffioedd gwresogi arfaethedig i eiddo’r Cyngor sydd â chynlluniau gwresogi cymunedol a fydd yn dod i rym o 31 Awst 2020.
Mae’r ffioedd arfaethedig ar gyfer 2020/21, wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn aros am gymeradwyaeth gan y Cabinet. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2020/21 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill y costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan drosglwyddo’r manteision o gostau ynni is i denantiaid.
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch pympiau gwres yr awyr a boeleri tân nwy, amlinellodd y Prif Swyddog y manteision o bympiau gwres yr awyr sydd yn tynnu aer i greu ffynhonnell o wres a ellir ei reoli’n annibynnol gan breswylwyr. Bydd boeleri nwy newydd yn cael eu gosod, mewn rhyw 15 – 20 mlynedd.
Cynigiodd y Cynghorydd Shotton bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn Nhabl 1, paragraff 1.07 yr adroddiad yn cael eu nodi. |
|
Pwrpas: Rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau am ddadansoddiad ôl-ddyledion rhent. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw y diweddariad gweithredol ar alldro diwedd blwyddyn 2019/20 ar gyfer casgliad rhent tai. Rhoddodd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd tenantiaid ynghylch tenantiaid yn dod i ôl-daliad o ganlyniad i pandemig COVID-19, amlinellodd y Rheolwr Refeniw yr ymgysylltiad cynnar gyda thenantiaid i alluogi’r Cyngor gynorthwyo a chefnogi yn fuan iawn.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin faint o denantiaid oedd wedi dod i ddyled oherwydd bod y Swyddfa yn Cysylltu wedi cau o ganlyniad i bandemig COVID-19, a pham nad oedd Swyddfa Treffynnon yn Cysylltu yn agor ar un pryd â rhai eraill yn Sir y Fflint. Roedd yn bryderus ynghylch hyn gan fod y swyddfa hon yn cyflenwi ardal ddaearyddol eang yn Sir y Fflint. Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod heriau gyda thenantiaid a oedd yn dibynnu’n fawr ar daliadau arian parod, a nad oedd wedi gallu gwneud taliadau yn yr un modd. Roedd y Cyngor wedi bod yn ymgysylltu â’r tenantiaid hynny, a lle bo’n bosibl, yn eu hannog i wneud trefniadau amgen, gyda thua 100 o denantiaid ychwanegol yn talu drwy ddebyd uniongyrchol bellach. Y cyngor a roddwyd i denantiaid pan roeddynt eisiau parhau i wneud taliadau arian parod, oedd i sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud, pan roedd yn ymarferol i wneud. Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) cyn ail-agor y Swyddfeydd yn Cysylltu, roedd rhaid cynnal asesiad risg ac roedd yn amau mai'r rheswm bod swyddfa Treffynnon yn agor yn hwyrach oedd oherwydd lefel y risg.
Rhoddodd y Cynghorydd Paul Shotton ar effaith gadarnhaol y fenter ‘Gwario i Arbed’ ond cododd bryderon ynghylch y cynllun Credyd Cynhwysol a’r arhosiad am bum wythnos ar gyfer talu derbynwyr. Hefyd soniodd am y taliad Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) o £300k a oedd wedi’i dderbyn ar ôl y flwyddyn gyfrifyddu rhent wedi dod i ben, a gofynnodd os oedd hyn yn ddigwyddiad un-tro neu a oedd y taliad blynyddol gan DWP bob amser yn cyrraedd ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu. Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod mwy o denantiaid wedi mudo i Gredyd Cynhwysol oherwydd pandemig COVID-19. Cafodd y tenantiaid hynny eu symud i daliadau a reolir, ond roedd yr amser am daliadau gan DWP yn cymryd amser, a gobeithir y bydd newid yn fuan yn hyd amser yr oedd DWP yn anfon y taliadau i'r Cyngor, gan fod hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Lloyd ynghylch prif fannau lle mae ôl-ddyledion, eglurodd y Prif Swyddog na fyddai adnabod y prif fannau yn ddefnyddiol a bod ychydig o denantiaid ym mhob Cymuned sy’n gwrthod talu ac ymgysylltu â’r Cyngor.
Cododd y Cynghorydd Ron Davies bryderon ynghylch Credyd Cynhwysol a’r effaith negyddol mae hyn ... view the full Cofnodion text for item 55. |
|
Housing Rent Income presentation PDF 247 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |