Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Fel tenant t? cyngor, datganodd y Cynghorydd Palmer gysylltiad personol i eitemau 5 a 6 ar yr agenda (Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 a Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru). |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 Medi 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019.
Cynigodd y Cynghorydd Shotton i gymeradwyo’r cofnodion ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Palmer.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 96 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fe dynnodd yr Hwylusydd sylw at gyfarfod arbennig ym mis Tachwedd i ystyried y Gyllideb ar gyfer 2020/21 a fyddai hefyd yn cynnwys yr Adroddiad Monitro Cynllun Canol Blwyddyn y Cyngor a Diweddariad Bwrdd Cartrefi NEW a gafodd eu dwyn ymlaen o fis Rhagfyr.
Wrth Olrhain Camau Gweithredu, atgoffwyd Aelodau am yr ymweliad safle i’r prosiect adeiladu modwlar yn Garden City ar 15 Tachwedd. Roedd cais y Cynghorydd Dolphin am wybodaeth ar y Llwybr Mynediad Sengl i Dai (SARTH) wedi’i weithredu a byddai unrhyw achosion pellach a fyddai’n codi yn derbyn sylw.
Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryderon yngl?n â’r cynnydd mewn pobl ddigartref ac yn cysgu ar y strydoedd, yn arbennig yn ardal Dyfrdwy, a’r canfyddiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Wrth gydnabod nad problem y Cyngor yn unig yw hyn a bod rhai unigolion yn dymuno peidio â derbyn unrhyw gymorth sydd ar gael, fe ddywedodd bod hyn yn achos pwysig a gofynnodd i’r adroddiad wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 2020 i gael ei symud ymlaen i gyfarfod cynharach.
Awgrymodd y Cynghorydd Palmer bod eitem yn y dyfodol ar y dewisiadau ar gael yn y ddeddfwriaeth i gefnogi’r rheiny sydd wedi gwrthod cymorth.
Gofynnodd y Cynghorydd Hutchinson fod yr adroddiad ar ei gais ar ddyrannu llety amnodd yn cael ei ddwyn ymlaen. Cynghorodd yr Hwylusydd y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr eitem am orfodi tenantiaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i drefnu ar gyfer Ebrill 2020. Dywedodd er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ateb y gofynion gan Aelodau, roedd ystod o eitemau yn barod ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Oherwydd nifer yr eitemau wedi’u trefnu’n barod ar gyfer y cyfarfodydd nesaf cynigiodd y Cadeirydd fod yr eitemau ar ddigartrefedd a llety amnodd yn cael eu cadw'r un fath.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â digartrefedd, gofynnodd y Cynghorydd Attridge am bapur cyfarwyddyd yn y cyfarfod arbennig ym mis Tachwedd. Ategwyd hynny gan y Cynghorydd Ron Davies. Cytunodd y Prif Swyddog fod adroddiad gwybodaeth yn cael ei dderbyn ar y camau gweithredu i’w cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa cysgu allan. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y cynnydd a wneir wrth gwblhau’r camau gweithredu yn weddill yn cael ei nodi. |
|
Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 PDF 129 KB Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno rhaglen gyfalaf ddrafft Y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 er cymeradwyaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2020/21 drafft i’w gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor.
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid yn trafod y canlynol:
Ffocws ar Gynllun Busnes Cyfalaf 30 Mlynedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) Cyflawni’r SATC Cydymffurfio Rhaglen Gyfalaf Drafft 2020/21 Rhaglen Adeiladu Tai'r Cyngor Maes Gwern, Yr Wyddgrug St Andrews, Garden City Rhaglen Gyfalaf y CRT 2020/21 Rhaglen Gyfalaf y CRT 2020/21 Ar ôl 2020 Blaenoriaethau Cyfalaf CRT y Dyfodol Datgarboneiddio
Eglurodd y Rheolwr Cyllid fod y ffigyrau rhagamcanol yn y Rhaglen Gyfalaf drafft yn seiliedig ar adnoddau posib sydd ar gael tra ein bod yn disgwyl am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar y polisi rhent newydd. Ymysg y rhagdybiaethau gyda’r Rhaglen ar ôl SATC oedd y byddai’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r datgarboneiddio o stoc dai presennol a oedd yn flaenoriaeth yn y dyfodol gan LlC.
Ar SATC dywedodd y Prif Swyddog fod sgorio uchel cyson ar holiaduron boddhad tenantiaid yn gyflawniad allweddol i’r Cyngor. Ar flaenoriaethau’r dyfodol, byddai angen rhoi ystyriaeth fanwl i’r dull o adnewyddu stoc bresennol i leihau’r nifer o lefydd gwag. Byddai adroddiad ar hyn yn cael ei drefnu ar gyfer y dyfodol.
Yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton ar lefydd parcio ar stadau tai fe ddywedodd y Prif Swyddog er bod rhywfaint o ddarpariaeth wedi’i drefnu o fewn yr elfen Gwaith Amgylcheddol o’r SATC, roedd achos ehangach yn sgil effaith anghenion parcio'r sector breifat a chynnydd yn nifer y ceir i bob cartref.
Pan ofynnodd y Cynghorydd Ron Davies am yr adolygiad ar safleoedd garej fe ddywedodd y Prif Swyddog mai’r nod oedd adnewyddu'r rheiny a ystyrir yn ymarferol, fodd bynnag roedd yn amlwg bod llawer yn anaddas i geir modern ac yn aml iawn yn cael eu defnyddio i storio pethau. Byddai safleoedd garej na fyddai’n cael eu defnyddio gan denantiaid yn cael eu dymchwel i wneud y mwyaf o ddarpariaeth parcio leol.
Siaradodd y Cynghorydd Hughes o blaid darpariaeth parcio yn y byngalos yn ei ward a oedd wedi’u creu ar hen safleoedd garejys.
Dyma’r Cynghorydd Hutchinson yn llongyfarch swyddogion ar yr adroddiad a’r adborth positif gan denantiaid. Roedd ei sylwadau am bwysigrwydd y ddarpariaeth parcio mewn llety amnodd yn cael ei gydnabod gan y Prif Swyddog a ddywedodd ei fod yn rhan o asesiad ehangach o barcio.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Palmer at adnewyddu stoc dai presennol ac awgrymodd fod y tai oedd yn anodd ei gosod yn gallu cael eu rhannu yn llety un ystafell wely mawr eu hangen. Dywedwyd wrtho mai dyma opsiwn ymysg nifer o ddewisiadau eraill sy’n cael eu harchwilio i gwrdd â’r galw am lety un ystafell wely fel canlyniad uniongyrchol o’r Dreth Ystafell Wely.
Croesawodd y Cynghorydd Attridge fuddsoddiad y Cyngor yn ei stoc dai a gofynnodd am yr ymrwymiad gyda pherchnogion tai preifat mewn eiddo yn cyffwrdd â’i gilydd i denantiaid y Cyngor er mwyn deall os oes angen gwneud gwelliannau ar ... view the full Cofnodion text for item 20. |
|
Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) - Diweddariad o'r Adolygiad Darparu PDF 250 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad ar gynnydd Safon Ansawdd Tai Cymru, y mae’r Cyngor yn ei ddarparu drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar gynnydd mewn darparu Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn y dyddiad cau yn Rhagfyr 2020. Darparodd ragolwg o'r prif bwyntiau yn cynnwys canlyniadau adolygiad Archwiliad Mewnol SATC a wnaed yn Rhagfyr 2018. Roedd asesiad SATC a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ar yr holl awdurdodau yng Nghymru gyda stoc wedi cyflwyno datganiad cadarnhaol gyda Sir y Fflint yr unig gyngor yn derbyn dim argymhellion. Roedd hyn yn rhoi sicrwydd fod y SATC yn cael ei ddarparu’n effeithiol ac yn fedrus.
Fel tenant y Cyngor dyma’r Cynghorydd Palmer yn canmol yr adroddiad ond siaradodd am ba mor addas oedd y rendro ar rai eiddo. Sicrhaodd y Prif Swyddog fod buddsoddiad parhaus a gwaith cynnal a chadw i’r stoc dai wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Attridge am fwy o wybodaeth ar y cynlluniau i leihau’r nifer o ‘fethiannau derbyniol’ fel rhan o’r Cytundeb Crynhoi Mewnol. Cafwyd eglurhad gan y Rheolwr Gwaith Cyfalaf ar y dull o gael mynediad i eiddo i asesu diogelwch a chyflwr. Roedd nifer o resymau i’r unigolion hynny wrthod contractwyr i gael mynediad i’w heiddo yn cynnwys rhai achosion gwirioneddol sydd angen delio gyda nhw’n sensitif. Ar adnoddau fe siaradodd y Prif Swyddog am newid ffocws i fynd i’r afael â llefydd gwag er mwyn gwneud y mwyaf o incwm.
Dywedodd y Cynghorydd Lloyd fod rhai eiddo ddim angen eu gwella. Dywedodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf bod y rheiny wedi’u nodi fel methiannau derbyniol ond dal angen cael eu hasesu gan y Cyngor fel y nodir yn yr amodau tenantiaeth.
Yn ystod y ddadl, roedd y Cadeirydd a nifer o Aelodau wedi llongyfarch y tîm am yr adroddiad cadarnhaol.
Cynigodd y Cynghorydd Shotton i gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Palmer.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn parhau i gefnogi’r Rhaglen Buddsoddiad Cyfalaf yn ei ddwy flynedd olaf o fuddsoddiad sylweddol a phan yn bosib, i flaenoriaethu unrhyw anghenion/cefnogaeth i alluogi’r Rhaglen i gwrdd â’r dyddiad cau yn Rhagfyr 2020 yn llwyddiannus. |
|
Benthyciadau Gwella Tai y Sector Breifat PDF 118 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y rhaglen a’r nwyddau benthyciadau yn dilyn ail-lansio. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad ar y rhaglen Benthyciad Gwella Tai oedd yn darparu dull cost effeithiol o wella safon bywyd a lles cartrefi Sir y Fflint. Darparodd ragolwg o’r meini prawf ar gyfer y tri math o fenthyciadau yn y rhaglen oedd wedi’u hariannu yn bennaf gan Lywodraeth Cymru (LlC). Byddai ail-lansio’r rhaglen yn cyd-fynd ag ailstrwythuro’r tîm.
Meddai’r Cynghorydd Bithell fod yr ail-lansio yn helpu i annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn gallu cael effaith bositif ar y rhestr aros ar gyfer tai.
Wrth ymateb i’r sylwadau, fe gytunodd y Rheolwr Menter ac Adfywio i ddilyn i fyny ar sylwadau’r Cynghorydd Shotton yngl?n ag adeilad wedi’i drosi yng Nghei Connah. Cynghorodd y Cynghorydd Cox i gyfeirio ei bryderon am eiddo gwag hirdymor i’r tîm Iechyd yr Amgylchedd.
Cynigodd y Cynghorydd Palmer i gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed mewn darparu benthyciadau gwella tai yn y sector breifat. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |