Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

97.

Ymddiheuriadau

I derbyn unrhyw ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Huw Llewellyn Jones.

 

98.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

            Cyfeiriodd Mrs McWilliam at y tendrau sydd ar y gweill ar gyfer rolau Ymgynghorydd Buddsoddi a Chynghorydd Llywodraethu Annibynnol yn y Diweddariad Llywodraeth (eitem 8 ar y rhaglen) gan ddweud y byddai Aon yn cyflwyno tendr ar gyfer un o’r contractau hyn a pe byddai trafodaethau yn digwydd ar hyn, byddai’n gadael y cyfarfod. Nododd Mercer gysylltiad yn yr un modd.

                      Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad arall.

 

 

99.

Cofnodion pdf icon PDF 102 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Ar dudalen 10, holodd Mr Hibbert os oedd y mater o Gynrychiolaeth Aelodau’r Cynllun wedi cael ei ystyried yn y cyfarfod PPC JGC ym mis Ionawr.Dywedodd Mrs Fielder y cynhaliwyd cyfarfod JGC ym mis Rhagfyr ond nid oedd unrhyw gynrychiolaeth o’r Gronfa yno ac nid oedd yr un cyfarfod ym mis Ionawr.Bydd cyfarfod nesaf JGC ym mis Mawrth a disgwylir y bydd Cynrychiolaeth Aelodau’r Cynllun JGC ar y rhaglen.

Nododd Mrs McWilliam y cyfeiriad ar yr ymarfer cywiro GMP ar dudalen 11 a dywedodd y bydd yr ymarfer hwn yn parhau hyd at fis Mehefin 2020 o leiaf.

Yna cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019.

PENDERFYNWYD:

Derbyniwyd, cymeradwywyd ac arwyddwyd cofnodion y cyfarfod ar 28 Tachwedd 2019 gan y Cadeirydd.

 

100.

Datganiad ar y Strategaeth Fuddsoddi, yn cynnwys y Polisi Buddsoddi Cyfrifol pdf icon PDF 100 KB

CyflwynoDatganiad ar y Strategaeth Fuddsoddi i’r aelodau (yn cynnwys y Polisi Buddsoddi Cyfrifol) er cymeradwyaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

          Aeth Mr Buckland a Mr Lathan drwy’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi diweddaraf gan nodi’r pwyntiau allweddol canlynol;

-       Gwnaed y rheoliadau oedd yn gofyn i gronfeydd gynhyrchu Datganiad Strategaeth Fuddsoddi yn 2016.

-       Roedd yn ofynnol i’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi cyntaf gael ei gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2017.

-       Mae’r rheoliadau hyn yn dal mewn lle; fodd bynnag disgwylir rheoliadau newydd yn ddiweddarach yn 2020. O ganlyniad, efallai bydd angen addasu’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi ymhellach.

-       Mae canllawiau statudol yn datgan nad all polisïau’r Gronfa ar fuddsoddiadau fynd yn erbyn polisi Llywodraeth.

-       Mae nifer o ofynion allweddol ar gyfer cynhwysiant mewn Datganiad Strategaeth Fuddsoddi ac amlygodd Mr Buckland y rhain, gan gynnwys arallgyfeirio ar fuddsoddiadau ac ystyriaeth o risgiau.

                      Amlygodd Mr Latham y newidiadau a wnaed i’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi.

            Y newid cyntaf oedd cynnwys amcan gyllido a buddsoddi newydd ar waelod tudalen 4 y Datganiad mewn perthynas â chyfuno asedau trwy’r PPC.Cytunodd y Pwyllgor â’r geiriad arfaethedig.

                      Gofynnodd y Cyng. Williams pe byddai achos y Goruchaf Lys yn ymwneud â’r Palestine Solidarity Campaign a Pholisi’r Llywodraeth yn rhwystro polisi Buddsoddi’n Gyfrifol y Gronfa. Dywedodd Mr Buckland, bod y ffordd mae’r polisi Buddsoddi’n Gyfrifol wedi cael ei ysgrifennu yn golygu nad oes unrhyw wrthdaro yn ei farn ef.Dywedodd mai’r mater mwyaf oedd fod rhai Cronfeydd wedi dadfuddsoddi oherwydd credoau moesegol penodol.Dywedodd Mr Buckland ein bod yn aros am ganlyniadau’r achos llys a bydd yn dychwelyd at y mater, a ddylai fod yn wybyddus dros y misoedd nesaf.

            Gofynnodd Mr Everett pam bod dau ddosbarth asedau, amaethyddiaeth a choed, wedi cael eu cynnwys o fewn y Datganiad, ac nid mewn categorïau megis ynni adnewyddadwy.Eglurodd Mr Harkin bod isadeiledd fel dosbarth ased yn cynnwys ystod eang o fuddsoddiadau gan gynnwys ynni adnewyddadwy. Cytunodd y byddai’n ailystyried y categorïau.

            Holodd y Cadeirydd sut oedd meincnod y Gronfa’n cael ei benderfynu.Dywedodd Mr Buckland bod y meincnod yn gyfuniad o holl feincnodau o ddosbarthiadau asedau’r Gronfa.Er enghraifft, bydd gan y marchnadoedd preifat ac ecwiti feincnod eu hunain, ac wrth adio’r rhain gyda’i gilydd, dyma sy’n penderfynu meincnod cyffredinol y Gronfa.

            Ychwanegodd Mr Latham bod ystodau strategol wedi’u nodi ar dudalen 12 y Datganiad.Nododd bod ystod amodol yn cael ei ddefnyddio os oes risgiau mawr i’r Gronfa, ac mewn achosion o’r fath bydd swyddogion, gan ystyried cyngor gan Ymgynghorwyr Buddsoddi’r Gronfa, yn gwneud penderfyniadau sy’n symud y dyraniadau asedau tu hwnt i’r ystod strategol, i’r ystod amodol.Gofynnodd Mrs McWilliam os oedd yr ystod amodol wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen.Cadarnhaodd Mr Latham nad oedd yn gallu cofio sefyllfa eithafol, ond mae wedi cael ei ddefnyddio pan oedd y Gronfa yn mynd trwy drawsnewidiad.       

            Awgrymodd Mrs McWilliam y dylid addasu’r geiriad ar dudalen 21 y Datganiad.Roedd y geiriad yn datgan;

Yn y tymor hirach, yn amodol ar gwrdd â’r amcanion y cyfeirir atynt uchod, mae Cronfa Clwyd wedi ymrwymo i fuddsoddi ei holl asedau drwy’r PPC.

            Cynigodd Mrs McWilliam y dylai’r geiriad gyd-fynd yn agosach gyda’r amcan  ...  view the full Cofnodion text for item 100.

101.

Diweddariad ar y Prisiad Actiwaraidd a'r Datganiad ar y Strategaeth Ariannu. pdf icon PDF 111 KB

Cyflwynodiweddariad ar y Prisiad Actiwaraidd a’r Datganiad ar y Strategaeth Ariannu i’r aelodau er cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mr Middleman bod y Datganiad Strategaeth Gyllido drafft wedi cael ei drafod yn y cyfarfod ym mis Medi ac aeth yr ymgynghoriad gyda chyflogwyr rhagddo ym mis Tachwedd (gan gynnwys y Cyd-Gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol a chyfarfodydd gyda chyflogwyr unigol) a gwahoddwyd sylwadau.Nid oes unrhyw newidiadau materol i’r drafft ond mae rhai mân newidiadau o ganlyniad i drafodaethau gyda chyflogwyr ac hefyd oherwydd diffyg cynnydd ar faterion cenedlaethol penodol a newidiadau strwythurol.

 

            Rhoddodd Mr Middleman y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar sefyllfa’r ymgynghoriadau ar y gylchred prisiad 4 mlynedd a Bargen Deg a oedd i fod i gyflwyno statws gwarchodedig i aelodau a’r llwybr Cyflogwr Tybiedig.Ni dderbyniwyd unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad prisiad 4 mlynedd ac nid yw’r ymgynghoriad Bargen Deg wedi symud ymlaen.Ni ragwelir y bydd y naill na’r llall yn symud ymlaen cyn y bydd angen arwyddo’r Datganiad Strategaeth Gyllido, felly mae’r geiriad cysylltiedig wedi cael ei dynnu o’r Datganiad Strategaeth Gyllido.Bydd y rhain yn cael eu cynnwys eto yn ôl yr angen a’i ddychwelyd i’r Pwyllgor unwaith y bydd diweddariad gan yr ymgynghoriadau.

 

             Gwnaeth Mr Middleman y pwyntiau allweddol canlynol;

-       Pan mae Mercer yn gosod rhagdybiaethau, yn arbennig o ran chwyddiant, mae Mercer yn edrych ar yr amcangyfrif gorau o RPI o elw’r farchnad ar Fondiau Llywodraeth. Yna mae Mercer yn amcangyfrifo chwyddiant CPI (y cynnydd a roddir ar ddyledion) trwy dynnu 1% y flwyddyn o’r RPI (h.y. bwlch RPI-CPI o 1% y flwyddyn).

-       Yn dilyn y newid arfaethedig i RPI i fod yn debycach i’r CPIH yng nghyhoeddiad mis Medi 2019, roedd chwyddiant RPI wedi newid.Er nad yw hyn yn effeithio ar y rhagdybiaethau ar y dyddiad prisio (31 Mawrth 2019), mae’n bwysig bod y Gronfa yn cydnabod y diweddariad hwn yn y Datganiad Strategaeth Gyllido.Pe na byddai cydnabyddiaeth i hyn, gallai arwain at ddefnyddio rhagdybiaeth ar gyfer CPI (yn seiliedig ar y bwlch RPI / CPI presennol) sy’n rhy isel ac felly’n tanbrisio atebolrwyddau mewn cyfrifon yn y dyfodol.  Nodwyd y byddai hyn yn cael ei drafod mewn mwy o fanylder yn yr eitem nesaf ond y cynnig yw lleihau’r bwlch CPI i RPI i 0.7% y flwyddyn i wneud iawn am hyn. Disgwylir i’r ymgynghoriad ar y newid fod yn rhan o’r Gyllideb ar 11 Mawrth 2020 a bydd y sefyllfa’n cael ei gadw dan adolygiad.

-       Roedd y lefel cyllido cyffredinol yn 91% ar y dyddiad prisio, gyda diffyg ariannol o £175 miliwn.

-       Roedd costau buddion parhaus o ganlyniad i’r prisiad yn 17.3% o dâl pensiynadwy.

-       Bydd cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr yn cael ei weithredu ar y sail hon o 1 Ebrill 2020.

           

            Ar dudalen 25, gofynnodd y Cadeirydd pam fod y cyfnod adfer diffyg cyfartalog wedi cynyddu o 12 mlynedd yn y Datganiad Strategaeth Gyllido i 13 mlynedd.Nododd Mr Middleman mai cyfartaledd oedd hwn a bod gan gyflogwyr gwahanol (gan gynnwys y Cynghorau) gyfnodau gwahanol sy’n briodol i’w hamgylchiadau a bod y mwyafrif wedi lleihau 3 mlynedd ond roedd 2 Gyngor Unedol wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 101.

102.

Diweddariad Cyllid A Llwybrau Cyrraedd Targed pdf icon PDF 129 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd y Strategaeth Rheoli Arian Parod a Risg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

          Cyflwynodd Mr Page ei hun i’r bwrdd a chyflwynodd y sesiwn hyfforddi cyflwyniad i’r llwybr hedfan. Bydd sesiynau manwl pellach yn cael eu trefnu i roi mwy o fanylion ar elfennau amrywiol.Roedd y cyflwyniad yn cynnwys prif amcanion y llwybr hedfan a gwnaed y pwyntiau allweddol canlynol;

 

-       Nod y strategaeth fuddsoddi yw darparu enillion uwchben chwyddiant, yn benodol chwyddiant CPI, o ystyried bod dyledion y Gronfa yn cynyddu gyda chwyddiant.

-       Mae enillion uwch uwchben chwyddiant yn golygu bod angen cyfraniadau cyflogwyr llai tuag at fuddion aelodau.I’r gwrthwyneb, byddai enillion llai uwchben chwyddiant yn golygu gofynion cyfraniadau uwch i gyflogwyr.

-       Er mwyn creu enillion, rhaid cymryd risg.Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i gydbwysedd rhwng cymryd digon o risg i sicrhau bod cyfraniadau’n fforddiadwy, ond heb ormod o risg a all arwain at golledion ar fuddsoddiadau gan olygu cyfraniadau uwch yn y dyfodol.   Yr amcan trosfwaol yw bod yn deg i drethdalwyr presennol ac yn y dyfodol trwy gael cydbwysedd rhesymol.

-       Nod y strategaeth llwybr hedfan yw rheoli risgiau buddsoddi i wella fforddiadwyedd a sefydlogrwydd cyfraniadau cyflogwyr.

-       Mae’r llwybr hedfan yn ddull rheoli risg yn hytrach na mecanwaith dileu risg, ac yn gweithio ar y cyd gyda strategaeth fuddsoddi’r Gronfa.

-       Mae’r llwybr hedfan yn ceisio rheoli (h.y. mantoli)’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r asedau a’r atebolrwyddau.Fodd bynnag, nid yw’n rheoli holl risgiau buddsoddi nac atebolrwydd; yn hytrach mae’n asesu os yw buddion rheoli risg penodol yn fwy na’r costau o wneud hynny.Mae ystyriaethau cost yn ymwneud â ffioedd rheolwr ac ymgynghori, costau trafodion, gofynion llywodraethu dechreuol a pharhaus ac effaith gyffredinol a thebygolrwydd o risg yn amlygu’n negyddol fel nad yw’r amcan yn cael ei fodloni.

-       Risg fwyaf y Gronfa yw cynnydd mewn chwyddiant, o ystyried bod buddion aelodau h.y. atebolrwyddau’r Gronfa, yn gysylltiedig â chwyddiant.Caiff hyn ei reoli drwy strategaeth Buddsoddiad a Gymhellwyd gan Atebolrwyddau, gyda’r nod o wneud y mwyaf o sicrwydd enillion dros chwyddiant pan mae cyfleoedd y farchnad yn codi trwy fecanwaith sbarduno yn seiliedig ar arenillion.Roedd y lefel mantoli yn flaenorol ar 20% ar gyfer cyfraddau llog a 40% ar gyfer chwyddiant.Mae’r Gronfa wedi penderfynu lleihau chwyddiant i 20% dros dro yng ngoleuni risg diwygio RPI a drafodwyd yn fanylach ar ôl yr hyfforddiant.

-       Mae’r llwybr hedfan hefyd yn rheoli risgiau negyddol ecwiti drwy strategaeth amddiffyn ecwiti, a’r risg mae sterling yn ei godi, drwy leihau gwerth asedau tramor yn nhermau GBP, drwy strategaeth mantoli cyfredol.

-       Mae’r llwybr hedfan yn ceisio gweithredu strategaethau rheoli risg mewn modd effeithlon.Caiff hyn ei dystiolaethu gan y dull “rhaeadr” sicrwydd cyfochrog, sy’n sicrhau bod y strategaethau yn cael eu cefnogi gan ddigon o sicrwydd cyfochrog (cronfa arian o asedau sy’n cefnogi’r fframwaith fantoli) ond nid gormod fel ei fod yn gweithredu fel rhwystr ar enillion y Gronfa.Mae sicrwydd cyfochrog dros ben yn cael ei fuddsoddi mewn arenillion uwch ond cronfeydd busnes dyddiol er mwyn creu enillion uwch, ond mae ar gael  ...  view the full Cofnodion text for item 102.

103.

Cyfuno buddsoddiadau yng nghymru pdf icon PDF 104 KB

DiweddaruAelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Latham drosolwg o’r adroddiad oedd yn dangos cynnydd PPC.Mae paragraff 1.08 yn dangos y ddarpariaeth o is-gronfa ecwiti’r farchnad sy’n codi drwy’r PPC a’r dyraniad asedau ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd yn cynyddu o 6% i 10% (neu £200 miliwn).Bydd Mr Latham a Mrs Fielder yn cynrychioli’r Pwyllgor a’r mater hwn yng Ngweithgor Swyddogion Cymru.

 

            Gofynnodd Mr Latham am farn y Pwyllgor os ddylai’r is-gr?p marchnadoedd preifat arfaethedig gael portffolio ar wahân ar gyfer buddsoddi effeithiol o ystyried bod dyraniad penodol o fewn strategaeth fuddsoddi Cronfa Bensiynau Clwyd. Eglurodd Mr Latham mai’r ddau faes blaenoriaeth arfaethedig ar gyfer yr is-gronfa effaith marchnadoedd preifat y PCC yw tai fforddiadwy a newid hinsawdd.Un o’r meysydd y gallai’r Gronfa ofyn i gael eu cynnwys yw’r meysydd economaidd, yn edrych ar fusnesau bach a chanolig i fuddsoddi er mwyn creu swyddi yn yr ardal leol.

 

            Dywedodd Mr Hibbert nad oedd yn fodlon gyda’r ymadrodd “tai fforddiadwy”.Roedd yn credu’n gryf bod angen cyfeirio’n benodol at yr angen am elfen gymdeithasol.Cytunodd y Cyng. Williams yn gryf bod angen diffiniad gwahanol ac mwy eglur.

 

            Gofynnodd y Cyng. Mullin pe gallai’r meysydd ar gyfer cynhwysiant gael eu ehangu os byddai’r rhain yn dod i’r fei wrth i amser fynd ymlaen.Cadarnhaodd Mr Latham y gellid ychwanegu ac ehangu.

 

            Daeth y pwyllgor i’r casgliad eu bod yn cefnogi’r elfennau newid hinsawdd, yn cefnogi tai fforddiadwy yn amodol ar ehangu’r diffiniad i sicrhau bod hyn yn cynnwys gofyniad cymdeithasol, ac yr hoffent i’r portffolio gynnwys elfen leol yn canolbwyntio ar economi Cymru.  Cytunodd Mr Latham y byddai’n bwydo dymuniadau’r Pwyllgor yn ôl i’r PPC.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.

(b)  Trafododd y pwyllgor y cread o gronfa effaith a buddsoddiadau blaenoriaeth.

 

104.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 140 KB

Rhoidiweddariad ac argymhellion ar faterion perthnasol i lywodraethu i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd Mr Latham y cynhelir Cyfarfod Bwrdd Cynghori’r Cynllun ar 3 Chwefror ond nid oes unrhyw nodiadau cyfarfod ffurfiol wedi cael eu cyhoeddi eto. 

                       

            Amlygodd Mr Latham y newid allweddol i’r Polisi Llywodraethu sy’n cynnwys amcan sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch data a seiberdroseddu; nodwyd hyn ar dudalen 141 – Sicrhau bod cyfrinachedd, uniondeb a hygyrchedd data, systemau a gwasanaethau’r Gronfa wedi’u diogelu a’u cynnal.

 

            Atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor i gwblhau eu ffurflenni hunan-asesu ac ychwanegodd bod gan Mrs Fielder gopïau caled ar gael i’w cwblhau oes oedd well ganddynt wneud hynny.

           

            Mynychodd y Cyng. Hughes Gynhadledd Llywodraethu CLlL ar 23 a 24 Ionawr.Dywedodd ei fod yn ddigwyddiad defnyddiol iawn gyda thrafodaethau am McCloud ond ni chafwyd eglurhad am y cefndir a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol.  

 

            Rhoddodd Mrs Williams drosolwg cryno yn egluro bod McCloud yn achos gwahaniaethu ar sail oed ac roedd dyfarniad yn ymwneud â dynion tân a chynlluniau pensiwn cyfreithiol oedd yn datgan bod pobl iau a roddwyd mewn cynlluniau newydd, dan anfantais. Roedd pobl yn achwyn bod hyn yn gwahaniaethu ar sail oed a chafodd hyn ei gadarnhau, felly roedd angen datrys yr achos.Cytunodd y Llywodraeth bod angen i holl gynlluniau y sector cyhoeddus ystyried hyn, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

            Ar gyfer Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae’n debygol y bydd angen i’r Gronfa weithredu datrysiad, gan olygu gwirio os yw aelodau penodol yn well allan ar yr hen gynllun neu’r cynllun newydd, gan ystyried mai dyma’r dull a ddarparwyd i holl aelodau a oedd yn weithredol o 1 Ebrill 2012 ac o fewn 10 mlynedd o ymddeol. Mae’n bosibl i hyn gael ei ymestyn i holl aelodau a oedd yn weithredol ar 1 Ebrill 2012 waeth beth yw eu hoedran.Er ei bod yn bosibl i hyn gynyddu costau cyllido (fel y trafodwyd mewn eitem cynharach) mae’n debygol o gael llawer mwy o effaith materol ar weinyddiaeth, oherwydd yr angen i ailgyfrifo buddion ar gyfer nifer o aelodau sydd wedi gadael neu ymddeol ers 2012.

 

            Mae hefyd yn effeithio ar gyflogwyr gan fod y Gronfa angen casglu newidiadau oriau rhan amser gan gyflogwyr o Ebrill 2014, a fydd yna’n cael ei ddiweddaru ar system weinyddu’r Gronfa.Eglurodd Mrs Williams, er na fydd y datrysiad yn debygol o gael ei weithredu tan 2022 ar y cynharaf, bydd y tîm gweinyddol yn dechrau diweddaru’r systemau er mwyn i’r system fod yn gyfredol ac i’r tîm fod yn barod.Disgwylir y  bydd angen ailgyfrifo buddion hanesyddol a gwneud taliadau yn unol â hynny (i bensiynwyr presennol).

            Awgrymodd y Cyng. Rutherford y byddai’r gynhadledd dau ddiwrnod wedi gallu cael ei gwblhau mewn un diwrnod, ac roedd hefyd yn cytuno gyda’r Cyng. Hughes mewn perthynas ag eglurder ar McCloud. Awgrymodd Mrs McWilliam y gellir darparu hyfforddiant pellach ar McCloud ar y diwrnod hyfforddiant oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor a’r Bwrdd ar 18 Mawrth.Croesawodd y pwyllgor y cyfle am hyfforddiant pellach.

 

            Hysbysodd Mrs McWilliam y Pwyllgor bod Seminar Buddsoddi’n Gyfrifol yr Awdurdod  ...  view the full Cofnodion text for item 104.

105.

Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn pdf icon PDF 151 KB

Rhoidiweddariad ar faterion gweinyddu a chyfathrebu cysylltiedig â Chronfa Bensiwn Clwyd i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Cyflwynodd Mrs Williams yr adroddiad. Dywedodd bod y tîm yn adrodd ar ofynion cyfreithiol ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) bob mis, bod gan bob Dangosydd Perfformiad Allweddol amserlen a bod rhaid i’r tîm lynu at yr amserlen yn gyfreithiol. Ar hyn o bryd, roedd y Gronfa yn darparu gofynion DPA ar gyfer 7 o brosesau’r Gronfa gan gynnwys ymddeoliadau a marwolaethau ac ati. Mae’r tîm yn monitro faint o amser mae’n cymryd i adrodd am wybodaeth aelod ac yna ei weithredu, fodd bynnag, weithiau yr aelod sy’n rheoli hyn h.y. mae’n cymryd wythnosau iddynt ymateb.Amlygodd Mrs Williams y pwysigrwydd o gasglu syniadau a safbwyntiau’r Pwyllgor ar gyfer DPA eraill ac mae hyn yn rhywbeth y gellir ei ddatblygu dros amser. 

                      Gofynnodd y cadeirydd am adnoddau ac os oedd angen staff ychwanegol.Dywedodd Mrs Williams petai pethau’n aros fel y maent, yna bydd y nifer o staff yn iawn, ond gan fod diwygiadau diweddar mewn rheoliadau a chyhoeddiadau achosion llys, mae hyn wedi arwain at waith ychwanegol ar gyfer y tîm. Mae hyn yn golygu bod angen monitro adnoddau a rheolaeth llif gwaith yn agos.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor wedi ystyried y diweddariad a gwneud sylwadau.

 

106.

Diweddariad Buddsoddi ac Ariannol pdf icon PDF 99 KB

Darparudiweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Rhoddodd Mrs Fielder ddiweddariad cryno ar fuddsoddi ac ariannu gan wneud y pwyntiau allweddol canlynol;

-       Roedd hi’n deall bod blaenoriaethau’r cynllun busnes ar gyfer 2019/20 bron a’u cwblhau gyda’r mwyafrif o dasgau ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

-       Yn dilyn canlyniadau’r prisiad, mae nifer o’r risgiau buddsoddi ac ariannu ar y gofrestr risg wedi cael eu lleihau mewn gwerth cymharol ac mewn rhai achosion ar y lefelau targed.

                      Nodwyd yr adroddiad ac ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau pellach.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi’r adroddiad ar gyfer cyfrifoldebau dirprwyedig.

 

107.

Diweddariad ar yr economi a'r farchnad a y strategaeth Fuddsoddi a chrynodeb gan y rheolwr pdf icon PDF 102 KB

DiweddaruAelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad Strategaethfuddsoddi'r gronfa a Rheolwyr Cronfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad ar y coronafeirws a goblygiadau hyn yng nghyd-destun y gronfa bensiynau.Dywedodd bod y marchnadoedd wedi gweld cwymp sylweddol yn Tsieina a’r marchnadoedd oedd yn codi i ddechrau, fodd bynnag mae’r marchnadoedd wedi adfer ers hynny.Roedd yr effaith uniongyrchol ar y marchnadoedd ecwiti a bond yn destun barn.Dywedodd  pe byddai cwymp sylweddol, gwirioneddol yn y marchnadoedd, roedd gan y Gronfa amddiffyniad drwy’r fframwaith rheoli risg ac arian.Pwysleisiodd Mr Harkin y cwestiwn mwyaf oedd os oes effaith economaidd mawr i ddilyn h.y. sawl gwlad sy’n dibynnu ar Tsieina i adeiladu a phrynu pethau ar eu cyfer o ran gweithgynhyrchu, er enghraifft Apple, ac felly gall fod effaith ehangach megis ar farchnad stoc yr Unol Daleithiau.

 

                      Ychwanegodd bod gwerth y Gronfa dros £2 biliwn ar ddiwedd mis Rhagfyr.Mae’r Gronfa yn mynd trwy newidiadau yn y strategaeth fuddsoddi ac yn eu gweithredu ac mewn sefyllfa iach er gwaethaf cyfnewidioldeb y farchnad.

                      Nodwyd yr adroddiad ac ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau pellach.

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Pwyllgor wedi trafod a gwneud sylwadau ar y diweddariad ar y Farchnad a’r Economi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2019, sy’n gosod y llwyfan ar gyfer y Strategaeth Fuddsoddi a’r Crynodeb Perfformiad Rheolwyr.

(b)  Bod y Pwyllgor wedi trafod a gwneud sylwadau ar y Strategaeth Fuddsoddi a’r Crynodeb Perfformiad Rheolwr ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2019.