Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702321  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

2.

Penodi Is-gadeirydd a nodi bod y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, felly, wedi'u penodi fel Aelod a Dirprwy, yn y drefn honno, o'r Pwyllgor Cydlywodraethu ar gyfer Partneriaeth Bensiwn Cymru

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y bydd pwy bynnag a benodir yn Is-Gadeirydd, hefyd yn cael ei benodi’n Ddirprwy gynrychiolwr ar y Pwyllgor Cydlywodraethu ar gyfer Partneriaeth Bensiwn Cymru. Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer y rôl hon.

 PENDERFYNWYD:

(a)   Yn dilyn enwebiadau, penodwyd y Cynghorydd Bateman yn Is-Gadeirydd.

 

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:  I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar  20 Chwefror 2019

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2019.Diolchodd y Cynghorydd Bateman i Nikki Gemmell am safon y cofnodion blaenorol.

PENDERFYNWYD:

(a)  Cytunwyd y gallai’r Cadeirydd dderbyn, cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion.

 

4.

Datganiadau Ariannol a Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2018/19 pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:  Darparu Datganiadau Ariannol Drafft Cronfa Bensiwn Clwyd i’w cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Mr Vaughan ar gyfer yr eitem hon, a esboniodd fod yr eitem hon yn seiliedig ar gyfrifon drafft y Gronfa ac y bydd cyfrifon archwiliedig terfynol y Gronfa yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Medi.

 

Roedd tudalen 23 a 24 yn cynnwys incwm a gwariant y Gronfa. Yn 2018/19, cafwyd cyfraniadau o c£74m sydd yn sylweddol is na chyfraniad y flwyddyn flaenorol o c£105m oherwydd y bu i dri chyflogwr ddewis talu eu cyfraniadau diffygion i gyd yn 2017/18.

Ar y cyfan yng nghyfrifon y Gronfa, roedd cynnydd o c£81m mewn asedau dros y flwyddyn.

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman am ragor o fanylion ar nodyn 10 mewn perthynas â threuliau rheoli. Dywedodd Mr Vaughan fod tudalen 34 yn amlinellu’r costau goruchwylio a llywodraethu sydd yn cynnwys gwaith i baratoi ar gyfer y Prisiad Actiwaraidd yn 2019. Mae cynnydd wedi bod mewn ffioedd ymgynghori dros y flwyddyn mewn perthynas â’r Llwybr Hedfan a ‘Project Apple’. Mae’r costau gweinyddu o ganlyniad i’r adnoddau ychwanegol yn ogystal â’r gweithgareddau a ddarparwyd gan gyflenwyr allanol. Dywedodd Mr Vaughan hefyd fod y ffioedd rheoli’r Gronfa yn nodyn 10a yn uwch yn 2017/18.

Dywedodd Mrs McWilliam fod ganddi rai mân newidiadau a awgrymwyd mewn perthynas â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac y byddai’n adrodd yn ôl yn uniongyrchol i’r swyddogion.

Cadarnhaodd Mr Ferguson y bydd y cyfrifon hyn yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod Pwyllgor Archwilio’r Cyngor ar 10 Gorffennaf.

Fe aeth Mrs Phoenix o Swyddfa Archwilio Cymru drwy rai o’r pwyntiau allweddol o Gynllun Archwilio 2019 ar dudalen 67 a thynnu sylw at y ffi archwilio ar dudalen 73.

O ran y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, nododd y Cynghorydd Jones fod risg adnabyddadwy yn gysylltiedig â chael aelodau Pwyllgor newydd. Cadarnhaodd Mrs McWilliam fod y risg eisoes wedi’i chynnwys o fewn cofrestr risg y Gronfa ac y byddai’n cael ei lliniaru drwy hyfforddiant.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y cyfrifon drafft a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac yn nodi Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 

5.

Buddsoddiadau Cyfrifol - Credoau Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 72 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar Bolisi Buddsoddiadau Cyfrifol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Mr Buckland fod Buddsoddi Cyfrifol wedi symud i’r brif ffrwd a bod buddsoddwyr bellach yn ystyried y risgiau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol (ACLl) sydd yn gysylltiedig â buddsoddiadau. Cadarnhaodd bod y Gronfa mewn sefyllfa dda iawn o ran buddsoddi cyfrifol, o’i chymharu â Chronfeydd sydd heb ystyried hyn yn y gorffennol. Nododd bod 'ABC yr ACLl’ gan Mercer ar dudalen 83 yn ganllaw defnyddiol i’r Pwyllgor a swyddogion ar gyfer y maes hwn o fuddsoddiadau. Yn yr un modd roedd adroddiad Mercer “Investing in a Time of Climate Change” yn adroddiad defnyddiol iawn i’w ystyried o ran gosod strategaeth fuddsoddi.

Bydd polisïau’r Gronfa (Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn benodol) yn cael eu hadolygu eleni ochr yn ochr â’r Prisiad Actiwaraidd, yn ogystal â’r strategaeth fuddsoddi gyffredinol.

Pwysleisiodd Mr Buckland mor bwysig oedd safbwyntiau aelodau’r Pwyllgor, felly dros yr wythnosau nesaf bydd aelodau'r Pwyllgor yn derbyn arolwg er mwyn casglu eu safbwyntiau ar sawl maes allweddol. Bydd y safbwyntiau hyn yn cael eu cynnwys yn y polisi pan fydd yn cael eu adolygu gyda’r swyddogion yn ystod yr haf. Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi. Yna bydd polisi wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd i’w gymeradwyo a bydd hyn yn ffurfio rhan o Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi.

Fel y soniwyd eisoes mae tair elfen i’r ACLl. Mae ‘A’ yn canolbwyntio ar yr Amgylchedd, sydd yn haws i’w fesur yn wrthrychol o ran effaith, er enghraifft, ôl troed carbon. Mae ‘C' yn ymwneud â’r effaith gymdeithasol sydd yn anoddach i’w fesur yn wrthrychol. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys perthnasau gweithlu, arferion cyflogwr a mynd i’r afael â’r effaith gymdeithasol. Yn olaf, mae ‘Ll’ yn ymwneud â llywodraethu yn cynnwys llywodraethu corfforaethol, archwiliadau a rheolaethau mewnol.

Esboniodd Mr Buckland, fel buddsoddwr hirdymor, ei bod yn hanfodol sicrhau bod buddsoddiadau yn gynaliadwy. Er enghraifft, ar unrhyw adeg mae posibilrwydd o hyd at 100 mlynedd o ddyledion sydd wedi cronni ac sydd yn dod â’r ffactorau hyn i ffocws gan y bydd rhai o’r ffactorau amgylcheddol yn berthnasol iawn yn y cyfnod hwnnw. Felly, mae’n rhaid i fuddsoddiadau fod yn gyfrifol ac yn gynaliadwy yn yr hirdymor a chwrdd â’r amcan sylfaenol i dalu budd-daliadau pan yn ddyledus i aelodau.

Disgrifiodd Mr Buckland un dull enghreifftiol o Fuddsoddi Cyfrifol o’r enw sgrinio. Pan fo buddsoddwyr yn benodol yn dewis peidio buddsoddi mewn un maes o’r economi e.e. tybaco neu danwyddau ffosil. Gall tanwyddau ffosil fod yn bwnc dadleuol iawn gyda newid hinsawdd, ond rhaid ystyried y manteision / anfanteision mewn ffordd gytbwys wrth benderfynu ar bolisi.

Yn dilyn y newyddion diweddar am newid hinsawdd, soniodd y Cynghorydd Jones am y ffaith i Theresa May awgrymu y dylai’r DU fod yn garbon niwtral erbyn 2050. Holodd beth fyddai’n digwydd i gronfa asedau PPC o ran buddsoddiadau a hefyd a oedd penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru yn wahanol i’r rhai gan Lywodraeth y DU. Ychwanegodd Mr Hibbert fod y Gronfa wedi’i chyfyngu gan fod rhaid iddynt  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:  Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor bod y Gronfa wedi trosglwyddo 4% o gyfanswm asedau’r Gronfa o ecwitïau byd-eang i’r gronfa, sy’n cyfateb i dros c£75m. O ganlyniad, bydd y Gronfa yn arbed £152k y flwyddyn mewn ffioedd Rheolwr Y Gronfa ar y mandad hwn, a dyna oedd bwriad cyfuno o’r dechrau. Arweiniodd y broses o symud asedau at gostau trosglwyddo o c£364k, fodd bynnag bydd y costau hyn yn cael eu talu’n ôl o fewn 2 flynedd a 5 mis drwy arbedion blynyddol.

Dywedodd Mr Latham y cafwyd trafodaethau am fuddsoddi mewn marchnadoedd preifat ond ei bod yn gynnar o hyd ac y bydd yn darparu diweddariadau maes o law.

Yn dilyn yr eitem flaenorol ar y rhaglen ar fuddsoddiadau cyfrifol, mae gan PPC bolisi drafft a fydd yn cael ei gyflwyno ger bron holl bwyllgorau cronfeydd Cymru i’w ystyried. Pwrpas y polisi yw gosod polisi galluogi trosfwaol y gronfa ond nid cyfyngu Cronfeydd unigol yw’r bwriad. Bydd y polisi hwn yn cael ei rannu â’r Pwyllgor ochr yn ochr â’r arolwg buddsoddiadau cyfrifol gan Mr Buckland.

 

O ran llywodraethu’r PPC, nodwyd bod cynllun gwaith bellach yn weithredol. Bydd aelodau’r Gweithgor Swyddogion a’r Pwyllgor Cydlywodraethu yn mynychu sesiwn lywodraethu a fydd yn cynnwys nifer o feysydd ar y cynllun gwaith.

Dywedodd Mrs McWilliam ei bod wedi cwrdd â’r awdurdod cynnal, Link Fund Solutions a Chadeiryddion Byrddau eraill, ar ddechrau mis Ebrill. Yn ystod y sesiwn honno, dywedodd yr awdurdod cynnal fod llawer o’r sylw yn y gorffennol wedi bod ar yr ochr fuddsoddi o gyfuno yn hytrach na’r ochr lywodraethu, yn bennaf oherwydd adnoddau cyfyngedig. Fodd bynnag, dywedodd Mrs McWilliam ei bod wedi gadael y cyfarfod yn teimlo’n gadarnhaol iawn. Ychwanegodd ei fod yn ddefnyddiol bod yr awdurdod cynnal wedi cyfaddef eu bod nawr angen canolbwyntio’n fwy ar yr ochr lywodraethu o gyfuno a’u bod o’r farn eu bod wedi dal i fyny ag eraill yn sylweddol ac yn parhau i wneud cynnydd da. Cytunwyd yn ystod y cyfarfod y byddai’r digwyddiad yn cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn.

Diolchodd Mr Hibbert i’r swyddogion am godi’r mater cyffredinol o lywodraethu yn ystod y Pwyllgor Cydlywodraethu. Gofynnodd hefyd a oedd gan y Gronfa atebion i’w gwestiynau blaenorol yngl?n â threfniadau llywodraethu, hynny yw, gwneud datganiad clir o ran pam nad yw aelodau’r cynllun wedi’u cynrychioli ar y Pwyllgor Cydlywodraethu, yn unol â chydymffurfiaeth neu esbonio’r egwyddorion. Cadarnhaodd Mr Latham nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ymateb ysgrifenedig eto ond y byddai’n codi’r mater eto. Mynegodd Mr Hibbert bryder gan y ceisiwyd y wybodaeth hon dros 12 mis yn ôl ac felly golyga hynny fod o leiaf pedwar o gyfarfodydd wedi’u cynnal ers hynny. Felly, roedd eisiau i’r mater hwn aros ar y rhaglen nes yr oedd wedi’i ddatrys.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac yn trafod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

7.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:  Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Oherwydd hyd y rhaglen, cadarnhawyd bod yr adroddiad yn yr eitem hon wedi’i nodi a chymerwyd ei fod wedi cael ei ddarllen. Fodd bynnag, tynnwyd sylw at yr elfen allweddol mewn perthynas ag arolwg prosiect llywodraethu da Bwrdd Ymgynghori'r Cynllun gan y gallai effaith hyn fod yn sylweddol. Bydd Mrs Fielder yn mynd ar drywydd yr hyfforddiant ar gyfer yr aelodau newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf a gwneud sylwadau.

 

8.

Strategaethau Cyfathrebu a Gweinyddu pdf icon PDF 107 KB

Cyflwyno Strategaethau Gweinyddu a Chyfathrebu diweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfer cymeradwyaeth 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Cyflwynodd Mrs Williams y strategaethau drafft a dywedodd fod gan y Gronfa 43 o gyflogwyr gydag aelodau gweithredol a c47,000 o aelodau cynllun. Nod y strategaethau yw sicrhau fod pob parti yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau a bod eglurder o ran yr hyn y dylid ei gyflawni, yn cynnwys cael Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar waith. Mae’r strategaeth weinyddu yn nodi dull mwy ffurfiol ar gyfer pan nad yw cyflogwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau, felly mae’n gwbl glir i’r tîm gweinyddu beth yw’r broses uwchgyfeirio.

 

            Ar dudalen 275, tynnodd Mrs Williams sylw at y ddau newid allweddol, y cyntaf oedd nifer y diwrnodau sydd gan y tîm i ymateb i ffurflenni dechreuwyr. Mae hyn wedi newid o 15 diwrnod gwaith i 30 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl wybodaeth. Mae hyn oherwydd y trosglwyddiad i iConnect, gan fod y data bellach yn cael ei dderbyn mewn symiau llawer mwy ac yn fisol.  Yr ail newid oedd cwblhad y datganiad cydymffurfedd cyflogwr. Mae hyn wedi’i amlinellu ar dudalen 290 a bydd wedi’i sefydlu yn y strategaeth weinyddu.

Esboniodd Mrs Williams fod y newidiadau arfaethedig i’r strategaeth gyfathrebu wedi’u hamlygu drwy’r ddogfen. Cadarnhawyd nad oes angen i aelodau gyfathrebu drwy negeseuon testun gan eu bod yn gallu dewis parhau i gyfathrebu ar bapur.

            Dywedodd Mrs Williams fod modiwl hyfforddiant ar-lein ar gael, sydd yn offeryn defnyddiol sy’n rhoi cyfle i staff Cronfa Bensiynau Clwyd ddysgu am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a diweddariadau i reoliadau cyfredol. Derbynnir adborth gan yr offeryn ac mae’n rhaid i staff gael dealltwriaeth lawn o bob elfen cyn eu bod yn gallu symud ymlaen at y lefel nesaf.

            Nododd Mr Pumford efallai bod rhai aelodau nad ydynt yn berchen ar gyfrifiadur a gofynnodd a oedd yn bosib y gallai'r Gronfa golli cysylltiad â’r aelodau hynny. Cadarnhaodd Mrs Williams fod y Gronfa yn ysgrifennu at yr holl aelodau a nododd fod ganddynt hefyd y dewis i ffonio’r Gronfa. Mae’r Gronfa yn derbyn llawer iawn o alwadau ac mae’n ffordd dda iawn o gyfathrebu ag aelodau. Cadarnhawyd hefyd bod ffurflen bapur hefyd yn dderbyniol ond y strategaeth arfaethedig yw trosglwyddo i gyfathrebu digidol lle bo hynny’n bosibl.

Tynnodd Mr Hibbert sylw at wall gramadegol bychan yn y strategaeth weinyddu a dywedodd Mrs Williams y byddai’n cywiro’r gwall.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i’r Strategaethau Gweinyddu a Chyfathrebu, yn amodol ar ymgynghori â’r budd-ddeiliaid.

(b)  Bod y Pwyllgor yn dirprwyo unrhyw fân newid terfynol, yn dilyn ymgynghoriad, i’w wneud gan Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd a’r Rheolwr Gweinyddu Pensiynau, gydag unrhyw newid mwy sylweddol yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor i’w ystyried.

 

9.

Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:  Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda materion cyfredol sy’n effeithio rheolaeth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.                       

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad ac fe aeth y Cadeirydd yn syth i drafod y cwestiynau. 

            Cwestiynodd Mr Hibbert y ddau adroddiad a oedd yn trafod y cap ymadael £95k. Gofynnodd beth fyddai hyn yn ei olygu i Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd Mr Middleman mai’r bwriad yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r Rheoliadau.Esboniodd Mr Middleman y bydd yn trafod lle y byddant yn cael eu gweithredu mewn adroddiad diweddarach yn cynnwys yr ymateb drafft i’r ymgynghoriad.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod aelodau’r Pwyllgor yn nodi’r adroddiad hwn a derbyn yr wybodaeth yngl?n â’r materion presennol oedd yn effeithio ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rhai ohonynt yn berthnasol i weithrediad y Gronfa.

 

10.

Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:  Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mrs Williams yr adroddiad hwn a dechreuodd drwy dynnu sylw at y ffaith ei bod yn gyfnod prysur iawn o’r flwyddyn i’r Gronfa oherwydd y prisiad actiwaraidd. Ar dudalen 351, tynnodd sylw at y newid i amserlenni yn eitem A3 ar gyfer tandaliadau a gordaliadau i’r aelodau. Mae’r oedi o ran hyn yn bennaf oherwydd yr ymarfer cysoni GMP gan fod hyn yn effeithio ar y cyfrifiadau.

 

Esboniodd Mrs Williams ei bod wedi bod yn rhan o Fframwaith Cenedlaethol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer darparu darparwyr meddalwedd gweinyddu, yn ogystal â bod yn rhan o’r adolygiad meincnodi gweinyddu gyda CIPFA. O ran yr adolygiad meincnodi, mae’r Gronfa wedi ystyried sut mae DPA yn cael eu gweithredu. Ychwanegodd Mr Everett, er bod gofynion y DPA yn bwysig, pwysleisiodd fod rhaid cael barn broffesiynol ar benderfyniadau a wnaed wrth ddefnyddio adnoddau.

 

Tynnodd Mrs McWilliam sylw at y materion canlynol;

-       Mae’r tîm cyfathrebu eisoes yn gweithio ar y pwyntiau a dynnwyd sylw atynt yn yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid.

-       Er gwaethaf yr holl bwysau gwaith, yn cynnwys y prisiad a glanhau data, mae aelodau’r tîm wedi llwyddo i gwblhau eu dyletswyddau o ddydd i ddydd.

-       Mae staff newydd yn dal i dderbyn hyfforddiant.

 

Ar y cyfan, o ystyried yr holl bwysau, mae’r tîm wedi perfformio’n dda iawn.

 

Bu i’r Cadeirydd a Mr Everett longyfarch Mrs Williams ar ei swydd newydd fel Rheolwr Gweinyddu Pensiynau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Williams a oedd unrhyw wybodaeth newydd am iConnect ar gyfer CBS Wrecsam.  Dywedodd Mrs Williams fod y tîm wedi bod yn chwarae rhan bwysig yn yr ymarfer diwedd blwyddyn a datganiadau buddion aelodau, ac felly bydd cyfle i ganolbwyntio ar iConnect ar gyfer CBS Wrecsam ym mis Medi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a oedd unrhyw wybodaeth newydd am ‘Project Apple’. Dywedodd Mrs Williams fod eitem ar wahân ar gyfer hyn ond fe gadarnhaodd bod ‘Project Apple’ wedi’i gwblhau.

           

            Soniodd Mr Middleman am yr ymateb i ymgynghoriad Trysorlys Ei Mawrhydi ac fe atgoffodd y Pwyllgor o'r cap ymadael £95k a’i bwysigrwydd o safbwynt polisi. Y cap ymadael £95k yw’r taliad diswyddo uchaf ar gyfer aelodau (yn cynnwys taliad arian parod uniongyrchol a’r gost ynghlwm â chael mynediad at fudd-daliadau pensiwn yn gynnar) sydd yn gadael cyflogaeth o fewn y sector cyhoeddus. Mae gan aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr hawl i gymryd eu budd-daliadau heb eu gostwng yn 55 mlwydd oed ar sail diswyddo.

 

            Cyfeiriodd Mr Middleman at gwestiwn Mr Hibbert, a ofynnwyd mewn perthynas ag eitem gynharach, wrth drafod i bwy yr oedd y Rheoliadau yn berthnasol. Aeth drwy rai o’r eithriadau ar dudalen 368 gan dynnu sylw at ganol y dudalen lle roedd darn yn amlinellu pwy sydd wedi’u cynnwys o fewn y Rheoliadau, hynny yw, awdurdodau lleol, y gwasanaeth sifil a’r GIG ac ati. Yn gryno, bydd y Rheoliadau yn berthnasol yn Gymru ac yn Lloegr ond ar hyn o bryd, ni fyddant yn berthnasol yn yr Alban. Dywedodd hefyd na fyddent ychwaith yn berthnasol i gyflogwyr Addysg  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Mater tâl am ofal cyflogwyr pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:  Rhoi diweddariad terfynol i Aelodau'r Pwyllgor ar y prosiect hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Cyflwynodd Mr Latham yr adroddiad hwn a nododd bod y Rheoleiddiwr Pensiynau wedi cau yr achos taliadau ‘CARE’ cyflogwyr. Gofynnodd Mr Hibbert fod y llythyr hwn yn cael ei rannu â’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman beth oedd y setliad terfynol mewn perthynas â’r problemau taliadau ‘CARE’. Cyfeiriwyd y Cynghorydd at dudalen 421 sydd yn darparu crynodeb o’r ffigyrau terfynol ar draws yr holl gategorïau aelodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad

 

12.

Diweddariad Buddsoddi a Chyllid pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:  Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr eitem hon ar y rhaglen ac ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyfrifoldebau dirprwyedig a’i nodi, ac wedi gwneud sylwadau.

 

13.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:   Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Nodwyd y diweddariad hwn ac fe aeth y Pwyllgor yn syth i drafod y cwestiynau.  Gofynnodd y Cynghorydd Mullin a oedd unrhyw ddiweddariad ar Brexit. Dywedodd Mr Buckland fod ansicrwydd o hyd ond y broblem fwyaf ar hyn o bryd yw etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr. Bydd canlyniadau’r etholiad yn cael eu cyhoeddi yng nghanol mis Gorffennaf ac yn dibynnu ar y canlyniadau mae o’r farn y bydd posibilrwydd o Brexit Heb Gytundeb. Os mai hyn oedd y sefyllfa, dywedodd y gallai effeithio ar y bunt. O ystyried sefyllfa'r portffolio, ni fydd yr effaith o reidrwydd yn un mawr gan ei fod wedi’i ddiogelu cyn belled â phosib (oherwydd y sefyllfa o ran mantoli). Yn fyd-eang mae pryder o ran tensiynau masnach UDA a Tsieina  a fydd, yn ôl bob tebyg, yn cael effaith ac mae eisoes yn achosi ansefydlogrwydd o fewn marchnadoedd. Cadarnhaodd Mr Buckland fod y rhagolwg yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn yr adolygiad o’r strategaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Diweddariad Economaidd a’r Farchnad 31 Mawrth 2019 wedi’i nodi a’i drafod.

(b)  Nodi sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” yn effeithiol ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.

 

14.

Y Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb gan y Rheolwr pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:  Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar berfformiad strategaeth buddsoddi’r gronfa a Rheolwyr Cronfa

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe aeth y Pwyllgor yn syth ati i drafod cwestiynau ar yr eitem hon ac fe dynnodd y Cynghorydd Bateman sylw at y cynnydd o £82.1m yng nghyfanswm gwerth y farchnad ar dudalen 459 a oedd yn gadarnhaol iawn.

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi a thrafod y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr yng Nghrynodeb y Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli 31 Mawrth 2019.

(b)  Bod y Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad ar yr Economi a’r Farchnad, i ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn.

 

 

15.

Diweddariad Cyllid a Llwybr Cyrraedd Targed pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:  Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o’r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe aeth y Pwyllgor yn syth ati i drafod cwestiynau ar yr eitem hon ac fe dynnodd y Cynghorydd Bateman sylw at y cynnydd o £82.1m yng nghyfanswm gwerth y farchnad ar dudalen 459 a oedd yn gadarnhaol iawn.

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi a thrafod y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr yng Nghrynodeb y Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli 31 Mawrth 2019.

(b)  Bod y Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad ar yr Economi a’r Farchnad, i ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn.

 

 

16.

Prisiad Actwaraidd 2019 pdf icon PDF 105 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd Prisiad Actwaraidd

2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Esboniodd Mr Middleman gefndir y Prisiad Actiwaraidd, hynny yw, pwysleisio pwysigrwydd y prisiad mewn perthynas â chyllidebau cyflogwyr a gosod y strategaeth wrth symud ymlaen o ran y strategaeth fuddsoddi a lefelau risg. Y prif ysgogydd yw’r enillion disgwyliedig sydd yn uwch na chwyddiant CPI yn ogystal â sicrwydd yr enillion hynny. Dyma amcan craidd y Strategaeth Llwybr Hedfan sydd yn targedu enillion mwy sefydlog yn y tymor hir i ddarparu cymaint o sefydlogrwydd drwy gyfraniadau â phosibl wrth dargedu’r gwaith o waredu’r diffyg dros gyfnod rhesymol o amser.

Nododd y pwyntiau canlynol o ran y broses;

  • Yr her a wynebir mewn perthynas â dyfarniad McCloud gan fod disgwyl i hyn gynyddu costau ond nid ydym yn ymwybodol o’r ffigwr ar hyn o bryd.
  • Mae Mercer yn disgwyl set ddata erbyn canol mis Gorffennaf.
  • Mae dadansoddiad demograffig cychwynnol yn adlewyrchu arafiad mewn disgwyliad oes (sydd yn lleihau dyledion o oddeutu 3-4%) ond mae cynnydd wedi bod mewn achosion o ymddeoliad ar sail afiechyd.
  • Wrth symud ymlaen mae disgwyl i’r enillion buddsoddi disgwyliedig uwch na chwyddiant CPI, fod yn is nag yn y gorffennol.
  • Gan ganiatáu ar gyfer yr enillion is a'r newid amcangyfrifedig o ran disgwyliad oes, roedd y lefel gyllido amcangyfrifedig wedi gwella i c91% ar 31 Mawrth 2019. O ganlyniad, roedd disgwyl gostyngiad sylweddol o ran y diffyg.
  • O ran cyfradd y cyfraniadau gwasanaeth yn y dyfodol, roedd disgwyl i’r gyfradd gynyddu, yn bennaf oherwydd yr enillion buddsoddi is a oedd yn ddisgwyliedig yn y dyfodol.

Cadarnhaodd Mr Middleman y byddai rhagor o fanylion yn cael eu trafod yn ystod cyfarfod y pwyllgor ym mis Medi a bydd drafft o Ddatganiad y Strategaeth Gyllido yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo.

Dywedodd Mr Everett fod swyddogion wedi cael trafodaethau manwl am y prisiad a bod y deialog cynnar yn ddefnyddiol.

Aeth Mr Middleman ymlaen i dudalen 531 sydd yn cynnwys ymateb drafft i ymgynghoriad ar gyfer y newid arfaethedig i gylch prisiad 4 blynedd o 2024 a rheoli risg cyflogwr. Trafododd yr ymateb drafft a gofynnodd am gwestiynau gan y Pwyllgor.

Roedd y prif bwyntiau a drafodwyd fel a ganlyn:

  • Gwnaethpwyd y newid i gylch 4 blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r cynlluniau sector cyhoeddus heb unrhyw nawdd ariannol a'r broses rheoli costau.  Wrth ei ystyried ar ei ben ei hun, nid oedd Mr Middleman yn cytuno â’r diwygiad i gylch prisiad 4 blynedd gan ei fod yn gwanhau llywodraeth y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac roedd yn sicr yn llawer iawn rhy hir ar gyfer rhai cyflogwyr.  Fodd bynnag, gan y caniateir prisiadau dros dro lle bo amgylchiadau yn gwarantu hynny, roedd yn rhesymol.  Fodd bynnag, roedd o’r farn y dylid cyflwyno hyn fesul cam, felly roedd o blaid y dewis i gael prisiad yn 2022 ac yna un arall yn 2024.
  • Roedd y newidiadau a gynigiwyd mewn perthynas â’r Credydau Ymadael (i egluro’r rheoliadau blaenorol) a gweithrediad y statws Cyflogwr Gohiriedig yn ychwanegiadau synhwyrol i’r Rheoliadau.
  • Dylid croesawu canllawiau gan y Bwrdd Cynghori’r Cynllun  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

18.

Pontio Credyd Aml-ased

Pwrpas:  Darparu cynnydd i Aelodau’r Pwyllgor ar y mandad Incwm Sefydlog o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru a bod y Pwyllgor yn cadarnhau’r penderfyniad i fuddsoddi yng Nghronfa Credyd Amlased WPP fydd yn cael ei ariannu o’r mandad presennol gyda Phartneriaid Buddsoddi Stone Harbor.

Cofnodion:

          Esboniodd Mr Campbell fod gan y Gronfa ddyraniad strategol o 12% i Gredyd Aml-Ased sydd wedi’i reoli gan Bartneriaid Buddsoddi Stone Harbor a sydd yn cynrychioli gwerth cyfredol o c£200m. Mae cronfa Credyd Aml-Ased bellach yn cael ei chynnig gan Gronfa Cymru fel rhan o’r Is-Gronfeydd Incwm Sefydlog. Ar ôl diwydrwydd dyladwy priodol, cytunwyd y byddai daliad y Gronfa yn cael ei drosglwyddo i’r is-gronfa a gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo hyn a dirprwyo'r gwaith o amseru hynny i swyddogion.

 

                      Yna fe aeth Mr Campbell drwy sleidiau at ddibenion hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer y Pwyllgor cyn gwneud y penderfyniad hwnnw.

          PENDERFYNWYD:

(a)  Cadarnhaodd y Pwyllgor y penderfyniad i fuddsoddi yng Nghronfa Credyd Aml-Ased Partneriaeth Pensiynau Cymru, a ariennir drwy’r mandad cyfredol gyda Phartneriaid Buddsoddi Stone Harbor.

(b)  Yn unol â gofynion yr IAA yngl?n â materion wedi’u neilltuo, fel y bônt yn berthnasol i amseriad y newid, cytunodd y Pwyllgor y dylid trosglwyddo’r asedau yn y misoedd i ddod ar sail cyngor rheolwr newid arbenigol.

(c)  Dirprwyodd y Pwyllgor y dasg o bennu union amser y trosglwyddiad i’r swyddogion hynny o Gronfa Bensiynau Clwyd oedd yn aelodau o'r Gweithgor Swyddogion, ar ôl ystyried cyngor y rheolwr newid arbenigol.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod a darparu’r wybodaethdiweddaraf, a nododd y cynhelid cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 4 Medi. Daeth y cyfarfod i ben am 1pm.

 

……………………………………

Cadeirydd