Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702321  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro newydd.

17.

Cofnodion pdf icon PDF 105 KB

 I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Mehfin 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar  13 June 2018     

Diolchodd y Cadeirydd i Miss Fellowes am gynnal safon uchel y cofnodion fel arfer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytunwyd y gallai’r Cadeirydd dderbyn, cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion.

 

18.

Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18. pdf icon PDF 82 KB

I dderbyn Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18 yn eu ffurf derfynol a sydd wedi eu harchwilio i’w cymeradwyo, gan gynnwys adroddiad yr archwilwyr allanol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Ferguson yr eitem hon ar yr agenda, gan nodi’r camau gweithredu i’r Pwyllgor. Bellach roedd hi'n ofynnol adrodd ynghylch cyfrifon y Gronfa ar wahân i gyfrifon y Cyngor Sir. Roedd angen cymeradwyaeth aelodau’r Pwyllgor ar gyfer cyfrifon terfynol y Gronfa.

 

            Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau’r rhan helaeth o’r archwiliad, ond nododd Mr Ferguson y byddai angen eu cadarnhau wedi hynny. Cyflwynwyd y farn archwilio ffurfiol yn yr argymhellion a’r canfyddiadau allweddol. Ar y cyfan, roedd Adroddiad Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru’n un cadarnhaol, ac roedd yr holl faterion o’r llynedd wedi'u datrys.

 

            Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru fod cyfrifon y Gronfa yn rhoi darlun cywir a theg, gan ddiolch i dîm yn gronfa bensiynau am yr holl gymorth. Cyflwynont yr adroddiad gan amlygu’r materion allweddol canlynol:

 

  • Roedd cyfrifon y Gronfa’n ddogfen ar ei phen ei hun bellach, ac fe’u cwblhawyd bythefnos yn gynt eleni.

Roedd hynny’n gam tuag at y terfyn amser ar 31 Mai a ddeuai i rym yn 2021.

  • Ar dudalen 54 nodwyd fod gan aelod o’r tîm archwilio berthnasau oedd yn aelodau o’r gronfa bensiynau, ond lliniarwyd ar y risg hwnnw.
  • Atodiad 1 – nid oedd y Llythyr Sylwadau yn cynnwys cais am unrhyw sylwadau ychwanegol gan y Pwyllgor.
  • Atodiad 2 oedd adroddiad arfaethedig yr archwilwyr.

Cyhoeddid y farn wedi cael cymeradwyaeth y Pwyllgor.

  • Roedd Atodiad 3 yn dangos y cywiriadau a wnaethpwyd yn y datganiadau ariannol drafft.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Llewelyn Jones am eglurhad ynghylch y gwasanaethau asiantaeth yn nodyn 21 ar dudalen 43.

 

Cadarnhaodd Mrs Fielder mai Blynyddoedd Ychwanegol i Wneud Iawn oedd y rhain, a fyddai'n cael eu hawlio'n ôl bunt am bunt gan y cyflogwyr.  

 

Cytunodd y Pwyllgor â’r argymhellion a diolchodd Mr Everett i bawb am eu gwaith wrth gau'r cyfrifon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Aelodau’n ystyried Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Archwilio Datganiadau Ariannol, ynghyd â’r Llythyr Rheoli.

 (b)      Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r fersiwn terfynol o’r Datganiad Cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18;

 (c)       Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau i Gronfa Bensiynau Clwyd.

19.

Adroddiad Blynyddol Drafft Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18. pdf icon PDF 87 KB

Cyflwyno drafft cychwynnol o gynnwys Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18 i’w drafod gan Aelodau Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

          Aeth Mrs Fielder drwy’r eitemau hynny yn yr Adroddiad Blynyddol oedd eisoes wedi’u cwblhau. Yn ôl yr arfer, cwblheid yr adroddiad blynyddol cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac roedd gofyn i’r cyflogwyr a’r Aelodau ddirprwyo'r dasg o gwblhau’r adroddiad yn derfynol i Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys holl ddogfennau statudol ac arferion gorau’r Gronfa, ac roedd popeth wedi’i ddiweddaru.

 

Cyflwynodd Ymgynghorydd Buddsoddiadau ac Actiwari’r Gronfa eu hadroddiadau blynyddol hwythau i’r Pwyllgor

 

Yn sgil hynny, gofynnodd yr Aelodau rai cwestiynau.

 

            Holodd Mr Hibbert pam fod y ffioedd rheoli buddsoddiadau bron wedi treblu, heb i’r asedau gynyddu yn yr un modd. Dywedodd Mrs Fielder mai’r rheswm pennaf am hynny oedd bod y rheolwyr craidd i gyd yn cyflwyno’r ffioedd mewn ffordd fwy tryloyw. Roedd mwy o reolwyr yn y farchnad breifat yn darparu gwybodaeth, er nad oeddent yn rhwym i God Tryloywder Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol, a byddai hynny’n dal i wella dros amser. Nododd bod y Gronfa'n trafod ffioedd gyda rheolwyr ac yn ceisio'u cadw mor isel â phosib.

Holodd y Cynghorydd Bateman beth oedd y gwahaniaeth rhwng ymgynghorydd a chynghorwr, ar sail tudalen 79. Dywedodd Mrs Fielder fod Mrs McWilliam (Aon Hewitt) yn rhoi cyngor ar lywodraethu, tra bod JLT a Mercer yn ymgynghorwyr.

 

Holodd y Cynghorydd Bateman hefyd a fyddai’r ffioedd rheoli buddsoddiadau’n gostwng wedi cyfuno’r cronfeydd. Dywedodd Mr Latham y byddai’r ffioedd yn gostwng ychydig.

 

Holodd Mr Hibbert a ellid darparu graff i ddangos y llif arian i mewn ac allan o’r Gronfa.  Dywedodd hefyd y byddai’n ddefnyddiol wrth adrodd ar berfformiad i nodi gwerth y buddsoddiadau yn ogystal â'r newid ar ffurf canran (hynny yw, gallai cynnydd o 8% mewn un rhan o’r portffolio ymddangos yn fawr, ond efallai mai dim ond cyfran fechan o’r Gronfa fyddai hynny). Cadarnhaodd Mr Buckland fod hwn yn bwynt dilys ac y rhoddid sylw iddo wrth baratoi’r Adroddiad Blynyddol nesaf.

 

Dywedodd Mr Everett y bu hi’n flwyddyn dda a bod y tîm wedi gwneud ymdrech lew.  Fe gynhelid adolygiad cyllid cyn bo hir er mwyn ystyried cyfraniadau’r cyflogwyr o 2020 ymlaen, a byddai yno nifer o heriau yn y strategaeth weinyddu. Serch hynny, fe fu’n flwyddyn lwyddiannus mewn cyfnod heriol lle bu llawer iawn o ddiwygio.

 

Cytunodd pob aelod o’r Pwyllgor â’r argymhellion. Gadawodd yr Archwilwyr Allanol y cyfarfod ar yr adeg hon.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Fielder am ei holl waith caled ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD:

Nododd yr Aelodau’r rhannau drafft o’r Adroddiad Blynyddol heb eu harchwilio, gan gynnig sylwadau, a dirprwyont y dasg o gwblhau’r Adroddiad terfynol i Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

20.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 92 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd na gynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Cydlywodraethu ers pan gyfarfu’r Pwyllgor ddiwethaf. Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Mr Latham ar gyfer yr eitem hon, a bwysleisiodd fod Partneriaeth Pensiynau Cymru’n dod ymlaen yn dda. Roedd y platfform buddsoddi wedi’i sefydlu, ac roedd a wnelo eitem 10 ar yr agenda â’r asedau cyntaf a drosglwyddwyd.  Serch hynny, roedd yno faterion o ran llywodraethu a buddsoddi a gâi eu hystyried yn y dyfodol gan y Pwyllgor Cydlywodraethu neu’r awdurdodau unigol.

 

Cyfeiriwyd at y llythyr oddi wrth y Gweinidog Llywodraeth Leol. Soniodd Mr Hibbert fod costau adrodd Partneriaeth Pensiynau Cymru'n cynyddu, a bod gorddibyniaeth ar gynghorwyr ac ymgynghorwyr gan ystyried mai'r amcan oedd cwtogi ar gostau.  Dywedodd Mr Latham ei bod yn anochel y byddai costau’n gysylltiedig â chyfuno cronfeydd yng Nghymru, ond roedd yn ffyddiog y byddai’r Bartneriaeth yn un o’r cronfeydd cyfun gorau ymhen hir a hwyr, o ran perfformiad a gwerth am arian.

 

Holodd y Cynghorydd Rutherford a fyddai'r costau adrodd oedd yn gysylltiedig â chyfuno cronfeydd yn cael eu talu’n ôl, ac ym mha fodd yr adroddid ynghylch y costau hynny.  Dywedodd Mrs Fielder fod gweithredu’r Bartneriaeth yn rhan o’r costau gweithredol cyffredinol, ac y byddai pob Cronfa’n rhannu’r costau wrth ad-dalu drwy’r platfform.

 

Soniodd Mrs McWilliam y bu’n bresennol mewn cyfarfod o Fwrdd Cynghori’r Cynllun ddydd Llun, a bod y Bwrdd am ysgrifennu i bob un o'r cronfeydd cyfun i weld a oeddent yn bwriadu cael cynrychiolydd ar ran aelodau'r cynllun, a chlywed eu rhesymau am beidio os nad oeddent yn bwriadu hynny.

 

Esboniodd Mrs McWilliam fod y BBC wedi cyhoeddi erthygl ar y dydd Llun yngl?n â’r Gronfa’n buddsoddi mewn ffracio. Roedd yr erthygl yn awgrymu fod cronfeydd yng Nghymru’n buddsoddi mewn ffracio’n uniongyrchol, ac yn sôn am Gytundeb Paris, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Roedd Mrs McWilliam yn amau a oedd hyn yn gywir. Dywedodd y Cynghorydd Llewelyn Jones fod yr erthygl yn dangos fod y Gronfa wedi buddsoddi £10 miliwn mewn ffracio.

 

Cadarnhaodd Mr Everett nad oedd y Gronfa'n gwneud dim oedd yn erbyn y gyfraith, a bod Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried y polisi. Pwysleisiodd Mr Harkin nad oedd yno unrhyw fuddsoddiadau uniongyrchol, ac mai gwir werth y buddsoddiadau oedd yn ymwneud â chwmnïau ffracio oedd £7.6 miliwn yn 2016 (0.4% o asedau’r Gronfa bryd hynny). Yn amlach na pheidio, y sefyllfa oedd bod y Gronfa'n buddsoddi mewn cwmni a oedd yn ei dro wedi buddsoddi mewn ffracio, ac felly ni fuddsoddwyd mewn unrhyw gwmni ffracio (a dim ond cyfran fechan o’r Gronfa oedd dan sylw beth bynnag).

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac yn trafod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

 

21.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 140 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mr Latham a gyflwynodd yr eitem hon ar yr agenda, gan ddweud bod y Gronfa wedi methu â phenodi o blith yr ymgeiswyr am y swyddi a hysbysebwyd. Roedd yn gweithio gydag Adnoddau Dynol i geisio datrys y sefyllfa.  Dywedodd Mr Everett fod popeth yn cael ei wneud, ond fod canfod ymgeiswyr o safon addas yn cymryd amser.  Soniwyd hefyd fod cynllunio ar gyfer olyniaeth yn bwnc trafod ledled y Cyngor, ac felly nid problem i’r gronfa bensiynau yn unig oedd hyn.

 

Aeth Mrs McWilliam ymlaen i drafod arolwg Aon o strwythurau trefniadaeth a chyflogau’r Awdurdodau Gweinyddu o fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Roedd 31 o Awdurdodau Gweinyddu wedi cwblhau’r arolwg.  Dywedodd ei bod yn anodd bod yn gwbl wrthrychol gan nad oedd pob awdurdod gweinyddu’n gweithredu’r un fath (er enghraifft, roedd gan Gronfa Clwyd fuddsoddiadau sylweddol yn y farchnad breifat, yn wahanol efallai i gronfeydd eraill yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Ar y cyfan, roedd y mwyafrif a ymatebodd wedi dweud eu bod yn cael trafferthion, ac felly'n ystyried eu adnoddau a'u strwythurau.  Roedd oddeutu 20% hefyd yn talu Tâl Atodol/Premiwm y Farchnad, a oedd yn gyson â’r trafodaethau blaenorol a gafwyd yngl?n â pholisi recriwtio.

 

Soniodd Mr Latham y cynhelid seminar ar fuddsoddi cyfrifol yng Nghaerdydd ar gyfer aelodau Partneriaeth Pensiynau Cymru, ac y dylai aelodau o’r Pwyllgor roi gwybod i Mrs Fielder a fyddent yn gallu mynd.

 

            Hefyd, gofynnodd Mr Latham i aelodau’r Pwyllgor gymeradwyo’r newidiadau yn y Polisi Gwrthdaro Buddiannau yn Atodiad 9.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau

 

(b)       Cymeradwyodd y Pwyllgor y newidiadau a gynigiwyd yn y Polisi Gwrthdaro Buddiannau.

 

22.

Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 92 KB

Darparu gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y materion sy’n effeithio ar reolaeth y CPLlL ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Ms Gemmell yr wybodaeth ddiweddaraf yn gryno yngl?n â materion oedd yn effeithio ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Dywedodd Ms Gemmell y byddai’r Rheoleiddiwr Pensiynau’n ymweld â deg o gronfeydd i asesu ansawdd eu data a chynnig gwelliannau. Ymweliadau dirybudd fyddai'r rheiny, a byddai’n ddoeth i Gronfeydd ddisgwyl i’r Rheoleiddiwr Pensiynau gysylltu â hwy. Cadarnhaodd hefyd na fyddai Cyllid a Thollau’n trethu unrhyw Gredydau Ymadael yr oedd cronfeydd yn eu talu pan roedd cyflogwr yn creu gwarged yn y Gronfa.  Cyfeiriwyd at Adroddiad Adran 13 Adran Actiwari'r Llywodraeth a oedd i’w ddisgwyl fis Medi 2018, a chadarnhawyd y cafodd y Gronfa adroddiad da.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nododd aelodau’r Pwyllgor yr adroddiad hwn a gwneud eu hunain yn ymwybodol o’r gwahanol faterion sy’n effeithio ar y CPLlL ar hyn o bryd - roedd rhai o'r rheiny yn arwyddocaol weithrediad y Gronfa.

 

23.

Diweddariad ar Weinyddu Pensiynau/Cyfathrebu pdf icon PDF 126 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd ac i gytuno ar newidiadau i Gynllun Busnes y Gronfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ymunodd Mrs Beales â’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda, a chafodd ei rhoi ar ben y ffordd o ran gweinyddu. Dywedodd y bu newyddion da yngl?n â Hunanwasanaeth i’r Aelodau, wedi i 1,000 o aelodau gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ers pan gyfarfu’r Pwyllgor ddiwethaf o ganlyniad i'r swyddog cyfathrebu’n hyrwyddo’r manteision.

 

Ychwanegodd Mrs Beales y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Yr elfennau ychwanegol o ran y gyflogres.
  • Anfonwyd y datganiad buddion blynyddol at y rhan helaeth o'r aelodau gyda dim ond ychydig ohonynt ar ôl.
  • Roedd newidiadau mewn rheoliadau a dyfarniadau yn yr Uchel Lys yn ddiweddar wedi creu mwy o waith i’r tîm gweinyddu.
  • Caiff dangosyddion perfformiad allweddol eu mesur bob mis, a methwyd â chyrraedd y safonau a gytunwyd y mis hwn.

Hefyd, ni lwyddodd y Gronfa i gyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol. Y rheswm am hynny oedd trafferthion gyda diffyg staff a materion rheoli, ac roedd y tîm gweinyddu’n ymchwilio i hynny er mwyn gwella perfformiad.

 

Cadarnhaodd Mr Everett y byddai penderfyniadau'n dilyn yn fuan o ran sicrhau adnoddau ar gyfer y Gronfa; fodd bynnag, roedd angen bod yn ofalus i beidio â recriwtio gormod o staff i ymdrin â gwasgfeydd tymor byr. 

 

Awgrymodd Mr Hibbert y byddai’n fuddiol meddwl am y tymor hir, a chreu strwythur a systemau yn awr ar gyfer y dyfodol, er mwyn cyfrannu at ddatrys y trafferthion yn y pen draw. Credai y dylid mynd at i sefydlu strwythur cadarn. Cadarnhaodd Mr Everett fod angen diogelu pob agwedd ar wasanaethau rhag datblygiadau yn y dyfodol, gan gynnwys y Gronfa Bensiynau.   Roedd y cynlluniau busnes a threfn lywodraethu gyffredinol y Gronfa yn ymdrin â hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Palmer yngl?n â’r cyfeiriad yn yr argymhellion at gymudiadau dibwys. Esboniodd Mrs Beales y cefndir. Argymhellodd Mr Latham bod y Pwyllgor yn gohirio’r prosiect hwn tan 2019/20.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau;

 

(b)          Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r elfennau ychwanegol o ran y gyflogres, oedd i fod i ddechrau yn chwarter cyntaf 2018/19, yn ymestyn hyd drydydd chwarter 2018/19.

 

(c)        Cytunodd y Pwyllgor y dylid gohirio’r prosiect Cymudiadau Dibwys, oedd i fod i ddechrau yn ail chwarter 2018/19, hyd chwarter cyntaf 2019/20.

24.

Newid Ecwiti Byd-Eang Gweithredol pdf icon PDF 97 KB

Ceisio cymeradwyaeth Aelodau’r Pwyllgor i newid gorchymyn ecwiti byd-eang gweithredol i Gynllun dan Gontract Awdurdodedig Partneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Esboniodd Mr Latham fod Partneriaeth Pensiynau Cymru wedi cymeradwyo dau fandad ecwiti hollgynhwysol ar gyfer y platfform y gall y Gronfa fuddsoddi ynddo. Wedi trafod ag ymgynghorwyr y Gronfa, argymhellwyd y dylid trosglwyddo dyraniad y Gronfa i’r Gronfa Cyfleoedd Hollgynhwysol, yn rhannol am y bydd y costau’n llai; roedd yr adroddiad yn cynnwys mwy o wybodaeth yngl?n â’r penderfyniad.

 

Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn fodlon â’r cynnig cyntaf roedd y Pwyllgor wedi’i weld, gan y byddai’r Gronfa ar ei hennill ymhob ffordd, gan gynnwys arbed arian. Fodd bynnag, holodd beth fyddai’n digwydd pe byddai’r cynnig nesaf yn un lle byddai'r Gronfa ar ei cholled ymhob ffordd.  Dywedodd Mr Latham y byddai’n hysbysu’r Pwyllgor pe byddai unrhyw asedau mewn perygl neu'n perfformio’n wael.  

 

Ychwanegodd Mrs McWilliam fod MHCLG wedi'i gwneud yn eglur y dylid cyfuno asedau, er gwaethaf y ffaith y byddai rhai cronfeydd ar golled, gan y byddai'r rhan fwyaf ar eu hennill. Nid oedd unrhyw sicrwydd o hynny, fodd bynnag.  Dywedodd fod MHCLG yn bwriadu ailysgrifennu'r canllawiau ar gyfuno.

 

Dywedodd Mr Harkin na ddylai’r gronfa gyfun bennu strategaeth fuddsoddi Cronfa Bensiynau Clwyd. Dylai’r gronfa gyfun gynnig digon o ddewisiadau i’r Gronfa. Y peth allweddol oedd y dylai’r gronfa gyfun fedru cyflawni’r strategaeth gyffredinol, gan mai hynny oedd yn cyfrannu fwyaf at adenillion a risg.

 

Dywedodd Mr Hibbert y dylai’r Gronfa bob amser bwyso a mesur y manteision ac anfanteision cyn symud arian i'r gronfa gyfun. Yn yr achos penodol hwn roedd yn benderfyniad da i'r Gronfa, ond byddai'n anodd i'r Pwyllgor gymeradwyo buddsoddiad drwy'r gronfa gyfun a fyddai’n cynhyrchu llai o adenillion na’r disgwyl ac yn costio mwy. Dywedodd Mr Everett fod angen ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)           Cadarnhaodd y Pwyllgor y penderfyniad i fuddsoddi yng Nghronfa Cyfleoedd Ecwiti Hollgynhwysol Partneriaeth Pensiynau Cymru, a ariennir drwy’r mandad ecwiti hollgynhwysol gweithredol cyfredol gydag Investec Asset Management.

(b)           Yn unol â gofynion yr IAA yngl?n â materion wedi’u neilltuo, fel y bônt yn berthnasol i amseriad y newid, cytunodd y Pwyllgor y dylid trosglwyddo’r asedau yn y misoedd i ddod ar sail cyngor rheolwr newid arbenigol.

(c)            Dirprwyodd y Pwyllgor y dasg o bennu union amser y trosglwyddiad i’r swyddogion hynny o Gronfa Bensiynau Clwyd oedd yn aelodau o'r Gweithgor Swyddogion, ar ôl ystyried cyngor y rheolwr newid arbenigol.

 

25.

Diweddariad Buddsoddi ac Ariannol pdf icon PDF 89 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Mrs Fielder yr wybodaeth ddiweddaraf yn gryno yngl?n â’r eitem hon ar yr agenda, gan amlygu’r cynnydd da a wnaethpwyd gyda’r cynllun busnes, a bod ymgynghoriad wedi dechrau ynghylch y Datganiad Strategaeth Cyllido. O ran y buddsoddiadau, roedd y Gronfa’n dal ar y blaen o ran llif arian, ac wedi gwneud pedwar buddsoddiad newydd drwy drefniadau dirprwyo.

 

          PENDERFYNWYD:

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyfrifoldebau dirprwyedig a’u nodi, yn ogystal â rhoi sylwadau.

 

26.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad pdf icon PDF 90 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Harkin yr wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor yngl?n â’r economi a’r farchnad yn y chwarter aeth heibio. Ar dudalen 247 roedd braslun o ystadegau’r farchnad dros gyfnodau o dri mis, blwyddyn a thair blynedd, lle bu’r ffigurau’n cynyddu’n sylweddol o ran asedau twf.

 

Amlygodd Mr Harkin y materion allweddol canlynol:

 

  • Cafodd ecwitïau chwarter da eto, er gwaethaf yr ansefydlogrwydd o ddydd i ddydd,
  • Bu mis Medi’n ansefydlog yn barod, ac roedd unrhyw enillion yn tueddu o ddod o asedau twf,
  • Roedd ecwitïau’r Deyrnas Gyfunol a Gogledd America’n gryf,
  • Bu marchnadoedd newydd a marchnadoedd ymylol yn wannach, gyda gwasgfeydd ariannol yn dod o Tsieina, Twrci ac Ariannin,
  • Roedd marchnadoedd datblygedig ar dwf, ond roedd marchnadoedd newydd bellach yn crebachu, yn wahanol i 2017 pan oedd y ddau’n perfformio’n dda yn gyson,
  • Roedd yr asedau bond yn adlewyrchu cyfres o adenillion negyddol, gyda chynnyrch yn cynyddu a’r asedau’n rhatach,
  • Roedd sterling dan gryn bwysau oherwydd y trafodaethau ynghylch ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ond roedd yr adenillion yn dda gydag ecwitïau’r Deyrnas Gyfunol gan mai cwmnïau rhyngwladol yw’r rhai mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol, ac felly mae trosi eu harian i sterling yn rhoi hwb i’w helw.

Holodd y Cynghorydd Llewelyn Jones a oedd gan y Gronfa unrhyw fuddsoddiadau yn Ne America. Cadarnhaodd Mr Harkin fod ganddi, a hynny drwy ecwiti marchnadoedd newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)             Nodi a thrafod yr Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Economi a'r Farchnad ar 30 Mehefin 2018.

 (b)         Nodi sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” yn effeithiol ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.

 

 

27.

Y Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb gan y Rheolwr pdf icon PDF 87 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar berfformiad strategaeth fuddsoddi’r gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd Mr Harkin fod rhai o’r adenillion yn siomedig yn y chwarter ddaeth i ben fis Mehefin 2018. Serch hynny, roedd £70 miliwn yn fwy wedi dod i’r Gronfa ers diwedd mis Mawrth. Cyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad oedd £1,848 miliwn ddiwedd mis Mehefin, a £1,882 miliwn ddiwedd Gorffennaf. Roedd y Gronfa wedi perfformio’n dda o ran ecwitïau mewn marchnadoedd newydd, ond ni chafwyd cystal hwyl ar asedau credyd oherwydd y duedd tuag at gynnydd mewn cynnyrch.

 

Rhoes yr adroddiad fraslun cryno o’r perfformiad hyd 30 Mehefin 2018. Roedd cyfanswm adenillion y Gronfa dros y chwarter (3.2%) a thros gyfnod o dair blynedd (9.9%) wedi rhagori ar y targed. Fodd bynnag, tanberfformiodd Stone Harbour dros y tri mis, ac roedd trafodaethau yngl?n â hynny’n mynd rhagddynt gyda’r rheolwr. Roedd yr adenillion o 15.2% o gronfeydd mantoli dros dri mis yn anarferol, gan ei fod yn cynnwys elw o werthu hen asedau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)         Nodi a thrafod y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr yng Nghrynodeb y Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli 30 Mehefin 2018.

 (b)         Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad ar yr Economi a’r Farchnad, i ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn.

 

28.

Diweddariad Cyllid a Llwybrau Cyrraedd Targed pdf icon PDF 119 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd y sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o'r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Rhannodd Mr Middleman yr wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor yngl?n â chyllido, gan gadarnhau mai 89% oedd y lefel cyllido ddiwedd mis Mawrth. Roedd yn 92% ddiwedd mis Gorffennaf ac wedi aros mwy neu lai’r un fath, ac roedd hynny’n newyddion da i’r Gronfa.

 

Esboniodd fod Mercer wrthi’n paratoi Adolygiad Cyllido Interim ar gyfer y Gronfa, gan gynnwys modelu’r hyn a ddisgwylir yn y dyfodol o ran chwyddiant ac elw ar fuddsoddiadau (uwchlaw chwyddiant), gan ystyried yr ansicrwydd sydd ohoni yn wleidyddol ac yn economaidd. Pe byddai'r rhagolygon yn awgrymu gostyngiad, byddai’n arwain at ostwng y lefel cyllido. Byddai adroddiad yngl?n â’r adolygiad cyllido interim yn dod gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf, a byddai cyflwyniad yn ei gylch yn y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol.

 

Yna rhoddodd Mr Middleman grynodeb o’r gweithgarwch ynghylch y strategaeth Llwybr Hedfan.  Eto, ni chyrhaeddwyd unrhyw bwyntiau sbardun o ran cynnyrch ers ailstrwythuro’r pwyntiau sbardun o ran y gyfradd llog.  Fodd bynnag, gallai ansefydlogrwydd yn y farchnad ddod â phethau’n nes at y pwyntiau sbardun, ac roedd Insight yn cadw golwg fanwl ar hyn.

 

Roedd y Strategaeth Llwybr Hedfan wedi perfformio’n dda, ac ar ben rhoi’r gorau i fasnachu gwerth cymharol, roedd hynny’n rhoi cyfle i ryddhau rhywfaint o gyllid, efallai hyd at £100 miliwn i’w fuddsoddi rhywle arall, neu ei roi ar waith yn fwy effeithiol o fewn mandad Insight. Nodwyd na fyddai hynny’n effeithio ar y sefyllfa o ran risg yn y strategaeth Llwybr Hedfan.   Câi’r dewisiadau eu trafod yn yr wythnosau i ddod a byddai adroddiad yn dod yn ôl i'r Pwyllgor.

 

Yn olaf, rhannodd Mr Middleman yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r strategaeth ecwiti deinamig newydd a weithredwyd ar 24 Mai 2018. Byddai hyn yn diogelu’r Gronfa drwy ddilyn symudiadau yn y farchnad dros gyfnod treigl o ddeuddeg mis. Byddai’r strategaeth ddeinamig hon yn diogelu’r Gronfa pe byddai buddsoddiadau mewn marchnadoedd ecwiti drwy blatfform Insight yn gostwng 15% ar gyfartaledd. Rhoddid ystyriaeth i’r gostyngiad mewn risg wrth drafod cyfraniadau cyflogwyr rhag diffyg, a allai olygu pasio’r gostyngiad ymlaen (os bydd popeth arall yn aros fel y maent), a hynny oedd y rheswm pennaf dros weithredu’r strategaeth.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd ei bod yn braf clywed fod y Strategaeth Llwybr Hedfan yn dal i lwyddo.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)         Nododd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r sefyllfa o ran mantoli, a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

 

(b)       Nododd y Pwyllgor y strategaeth Buddsoddiad a Ysgogir gan Rwymedigaeth a oedd wrthi’n cael ei hailwampio er mwyn crisialu’r elw ‘marc i’r farchnad’.

(c)        Nododd y Pwyllgor fod y Swyddogion yn gweithio â’u cynghorwyr i ganfod meysydd posib y gellid buddsoddi ynddynt os rhyddheid £100 miliwn mewn arian parod, oherwydd perfformiad da’r strategaeth Llwybr Hedfan yn gyffredinol.

 

29.

Mater tâl am ofal cyflogwyr

i roi diweddariad i'r Aelodau'r Pwyllgor ar y prosiect hwn

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Latham adroddiad ar fater oedd yn effeithio ar daliadau i aelodau Cronfa Bensiynau Clwyd.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr egwyddorion cytûn o ran datrys y mater a chyfathrebu yn ei gylch.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 

(b)       Cytunodd y Pwyllgor y dylid dirprwyo rheolaeth barhaus o Gronfa Bensiynau Clwyd, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau ar y mater hwn, i Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod ac am eu cyflwyniadau, gan nodi y cynhelid y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol ar 6 Tachwedd. Gobeithiai y gallai aelodau o’r Pwyllgor fod yn bresennol.  Nodwyd y cynhelid cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 28 Tachwedd.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1:00pm.

 

 

 

 

……………………………………

Cadeirydd