Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

36.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol gan y Cadeirydd i ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau parthed y Gronfa, ar wahân i’r rheiny a gofnodwyd eisoes yng nghofrestr y Gronfa.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad newydd.

37.

Cofnodion pdf icon PDF 103 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 29 Tachwedd 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd.

PENDERFYNWYD:

Cafodd cofnodion cyfarfod 29 Tachwedd 2023 eu derbyn a’u cymeradwyo a bydd y Cadeirydd yn eu llofnodi.

38.

Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau pdf icon PDF 283 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu, a darparu Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drafft i gael sylwadau a chymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Latham yr adroddiad fesul paragraff i’r Pwyllgor, gan gynnwys cynnydd yn erbyn y cynllun busnes a datblygiadau cyfredol gan gynnwys Cod Ymarfer Cyffredinol newydd y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun (SAB).

            Eglurodd Mr Middleman o Mercer fod datganiad SAB ar warged y Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol fel y disgwyliwyd ac yn gyson â sut mae strategaeth ariannu’r Gronfa Bensiynau yn mynd i’r afael â gwarged sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd cyfraniadau yn hirdymor.  Mae’r datganiad yn codi gwrthdaro buddiannau posibl wrth osod cyfraddau cyfraniadau.  Eglurodd drwy’r strwythur llywodraethu cryf a’r deialog gyda’r prif gyflogwyr, mae’r Gronfa yn sicrhau bod unrhyw wrthdaro posibl yn cael ei reoli’n dda a’i ystyried gan y swyddogion a’r Pwyllgor.  Roedd elfennau allweddol eraill o’r datganiad yn cynnwys strategaethau buddsoddi penodol i gyflogwyr lle bo cyflogwyr yn gadael cronfeydd, a therfyniadau rhannol pan fo cyflogwyr yn diddymu rhan o’u hatebolrwydd.  Mae’r materion hyn yn llai perthnasol i’r Gronfa, yn bennaf gan fod mwyafrif cyflogwyr Cronfa Bensiynau Clwyd yn gyrff sector cyhoeddus ac nid oes disgwyl iddynt adael y Gronfa.  Ond, os bydd yn fater yn y dyfodol, caiff ei gyflwyno i’w ystyried gan y Pwyllgor.

            Nododd Mr Hibbert fod y Llywodraeth Ganolog yn anghywir i ystyried gwarged Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol fel modd o ostwng Treth y Cyngor ac fel pot o arian i’r Llywodraeth ei gyfeirio.  Nododd yr iaith a ddefnyddir mewn perthynas â’r Llywodraeth yn dymuno peidio â chyfeirio cronfeydd o ran sut neu beth i fuddsoddi ynddo, ond i wneud awgrymiadau cyffredinol.  Roedd yn teimlo pe byddai’r Llywodraeth yn darparu amgylchedd lle y gall buddsoddiadau dyfu, bydd y Gronfa’n eu canfod ac yn buddsoddi ynddynt lle bo’n addas.

            Gofynnodd y Cyng Shallcross a yw’r ‘llinell’ rhwng gwarged a diffyg ariannol wedi symud i adlewyrchu maint cynyddol y pot sydd ei angen i ddarparu pensiynau ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio.  Cadarnhaodd Mr Middleman pan ystyrir y strategaeth ariannu ac y gosodir y cyfraniadau, mae disgwyliad oes a’r boblogaeth yn heneiddio’n cael ei ystyried i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny.  Nododd bod cyfradd y twf mewn disgwyliad oes yn gostwng ar hyn o bryd yn seiliedig ar y data diweddaraf, a fydd yn bwynt trafod i’w ystyried yn y prisiad nesaf a bydd yn cael ei ystyried yn ddiweddarach eleni fel rhan o’r adolygiad cyllid dros dro.

            Trosglwyddodd Mr Latham i Mr Turner a eglurodd y paragraff ar Gyfraith Sharia.  Eglurodd Mr Turner ei bod yn ddefnyddiol cael eglurhad o’r mater gan SAB ac er y disgwylir rhagor o gyngor, mae disgwyl na fydd llawer o effaith ar fuddsoddiadau’r Gronfa.   Mae’r pryderon o ran Cyfraith Sharia yn bryder ar gyfer pensiynau cyfraniadau diffiniedig yn bennaf a gellir cynnig dewisiadau buddsoddi sy’n cydymffurfio â Sharia yn y cynlluniau hynny.  Ond, nid yw’r datrysiad hwn yn berthnasol i sut mae cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn buddsoddi. Bydd eglurhad gan SAB a’r farn gyfreithiol yn darparu arweiniad defnyddiol yn y maes.  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Diweddariad Gweinyddu Pensiwn/ Cyfathrebu pdf icon PDF 253 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu. a chymeradwyo diwygiadau i’r dangosyddion perfformiad allweddol o fewn y Strategaeth Gweinyddu Pensiynau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mrs K Williams yr adroddiad fesul paragraff i’r Pwyllgor.  Tynnodd sylw at y canlynol:

 

-       Cynnydd prosiect Dangosfwrdd Pensiynau Cenedlaethol

-       Prosiect McCloud a’r Tîm Cyswllt Cyflogwyr (ELT). O ran y cyflogwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth ELT, mae 100% o ddata McCloud wedi’i ddarparu yn awr a 54% wedi’i uwchlwytho’n llwyddiannus.  O’r cyflogwyr sydd ddim yn defnyddio’r gwasanaeth, mae 78% o’r data wedi cyrraedd, a 56% wedi’i uwchlwytho.  Mae McCloud yn awr yn effeithio ar brosesau mewnol o ddydd i ddydd gan fod angen gwneud gwiriadau ychwanegol, a gallai hyn effeithio ar DPA yn y dyfodol.

-       Ymarferion glanhau data gan gynnwys ymarfer glanhau data cyfeiriadau, a gwiriadau bodolaeth teirblwydd ar gyfer aelodau sy’n byw dramor fel rhan o’r polisi gwrth-dwyll a llygredigaeth. 

-       Mae’r Gronfa’n derbyn dros 24,000 o alwadau ffôn bob blwyddyn, ac fe gynigir y dylid sefydlu desg gymorth dros y ffôn i gyfeirio aelodau at y swyddog cywir ac i fynd i’r afael â Safonau’r Gymraeg.  Holodd Mrs McWilliam a yw’r ystadegau ffôn yn cynnwys galwadau i ffonau symudol.  Eglurodd Mrs Williams y bydd galwadau i rifau ffôn swyddfa’n cael eu cyfrif, hyd yn oed os ydynt yn cael eu trosglwyddo i ffôn symudol drwy system Avaya.  Ni fyddai galwadau i ffôn symudol yn uniongyrchol yn cael eu cyfrif yn yr ystadegau hyn, er enghraifft os yw swyddog yn gwneud galwad ffôn allanol ar eu ffôn symudol heb ddefnyddio system Avaya, gallai’r aelod ffonio’n ôl yn defnyddio’r rhif ffôn symudol.  Ond, mae hyn yn hynod anarferol, ac mae mwyafrif y galwadau ffôn yn dod drwy system Avaya. 

-       Mae’r Gronfa’n anfon adroddiadau misol i gyflogwyr yn eu hysbysu yngl?n â’u perfformiad mewn perthynas â’r 3 prif Ddangosydd Perfformiad Allweddol.  Yn wreiddiol, bwriad yr adroddiadau oedd hysbysu a chefnogi’r cyflogwyr i sicrhau bod adnoddau yn eu lle ac i wella prosesau, ond codwyd pryder mewn archwiliad na wnaed cynnydd ac argymell y dylai’r Gronfa ystyried gweithredu’r polisi uwchgyfeirio ar gyfer cyflogwyr sy’n methu targedau DPA yn barhaus.  Mae’n well gan y Gronfa gynorthwyo cyflogwyr i nodi meysydd i’w gwella a rhannu arferion da yn hytrach na chyflwyno dirwyon.  Mae’r polisi uwchgyfeirio’n cael ei ddiwygio i adlewyrchu hynny, a rhan o’r adolygiad yw diweddaru DPA yn y strategaeth weinyddu. 

-       Ystadegau llwyth gwaith, a’r wybodaeth ddiweddaraf o ran adnoddau a staffio. 

-       Y wybodaeth ddiweddaraf o ran cyfathrebu gan gynnwys sesiynau ymgysylltu â chyflogwyr.  Bydd adborth cyflogwyr ar fformat y cyfarfod blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl casglu’r wybodaeth. 

 

PENDERFYNWYD:

a)    Bod y Pwyllgor wedi ystyried a gwneud sylwadau ar y diweddariad.

b)    Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r diwygiadau i’r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau fel y nodwyd ym mharagraff 1.04 ac Atodiad 4 a fydd yn cynnwys y dangosyddion perfformiad allweddol newydd.

40.

Cyfarfodydd Y Dyfodol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor nodi’r dyddiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol:

-       Dydd Mercher 20 Mawrth 2024

-       Dydd Mercher 19 Mehefin 2024

 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodwyd dyddiadau’r cyfarfodydd gan y Pwyllgor.