Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a Hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Wren eu bod wedi gwneud cais i fod yn aelodau o’r Gronfa. Nododd y Cynghorydd Wren hefyd ei fod yn aelod etholedig o Gyngor Tref Cei Connah ac  amlygodd bod eitem 8 yn cyfeirio at Gyngor y Dref.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad arall.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-gadeirydd a nodi bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, felly, wedi’u penodi fel Aelod a Dirprwy, yn y drefn honno, o'r Pwyllgor Cydlywodraethu ar gyfer Partneriaeth Bensiwn Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penododd y Pwyllgor y Cynghorydd Hughes i fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penododd y Pwyllgor yr Is-gadeirydd a nodi bod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi’u penodi yn Aelod a Dirprwy, yn y drefn honno, o Gyd-Bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

3.

Cofnodion pdf icon PDF 86 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Mawrth  2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Gofynnodd Mr Latham am addasu’r cofnodion i gynnwys Mrs Williams ar y rhestr o fynychwyr a symud Mrs Carney i adran y panel ymgynghorol.

            Wrth gyfeirio at gofnodion cyfarfod 9 Chwefror 2022 ar dudalen 5, dywedodd Mr Hibbert yr ymddengys nad oedd gan y Cyd-Bwyllgor Llywodraethu (“CBLl”) unrhyw broblem gyda chylchredeg yr adroddiad benthyca stoc. Gan hynny, holodd Mr Hibbert am gael gweld copi o’r adroddiad benthyca stoc. Amlygodd Mr Latham bod yr adroddiad presennol wedi’i ddarparu o dan Ran 2 i’r CBLl a bod PPC yn gweithio ar adroddiad a oedd yn fwy penodol i’r Gronfa, ond nid oes sicrwydd pryd y bydd hwnnw ar gael.  Oherwydd hynny, cadarnhaodd Mr Latham y byddai’r mater hwn yn cael ei gynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf.

            Ar dudalen 9, dywedodd Mr Hibbert ei fod wedi rhoi amlinelliad manylach na’r hyn a welir yn y cofnodion yngl?n â pham ei bod yn bwysig i’r Gronfa gymryd sylw o lythyr Michael Lynk ar Balestina a gofynnodd i’r cofnodion gael eu cywiro. Nododd Mr Hibbert hefyd ei fod wedi gofyn i gael gweld copi o’r llythyr ond nad oedd wedi cael ei ddarparu hyd yma. Gofynnodd Mrs McWilliam i Mr Hibbert atgoffa’r Pwyllgor o’r rhesymau y dyfynnodd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor i ddiweddaru’r cofnodion. Dywedodd Mr Hibbert y byddai’n darparu paragraff i ddiweddaru’r cofnodion. Bydd y llythyr hefyd yn cael ei ddarparu ac ymddiheurodd Mr Latham am yr amryfusedd.

            Yn amodol ar y newidiadau uchod, cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022.

PENDERFYNWYD:

Cafodd cofnodion cyfarfod 16 Mawrth 2022 eu derbyn a’u cymeradwyo a bydd y Cadeirydd yn eu llofnodi unwaith y bydd y diweddariadau wedi’u gwneud.

4.

Cynllun Archwilio 2022 Archwilio Cymru pdf icon PDF 80 KB

Rhoi cynllun Archwilio Cymru 2021/22 i Aelodau’r Pwyllgor er mwyn ei nodi a gwneud sylwadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Mrs Phoenix o Archwilio Cymru a gwahoddodd hi i gyflwyno’r eitem hon.  Cyfeiriodd Mrs Phoenix y Pwyllgor at Atodiad 1 a nododd bod y cynllun archwilio’n crynhoi’r risgiau a nodwyd, y ffi, yr amseriad a’r tîm archwilio. Roedd y meysydd allweddol mewn perthynas â’r risgiau a nodwyd ar dudalen 21 yn cynnwys risg benodol yn ymwneud â phortffolio a daliadau amrywiol y Gronfa (gweler amlinelliad yn y tabl ar waelod tudalen 21). Soniwyd am y cynllun i roi’r gorau i fuddsoddiadau Rwsiaidd yn y risgiau a nodwyd ar dudalen 22. Roedd PPC yn y broses o roi’r gorau i fuddsoddiadau Rwsiaidd a dywedodd Mrs Phoenix nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ddiweddariad ynghylch hyn. Er gwaethaf hynny, cadarnhaodd nad oedd gwerth y daliad hwn yn un hanfodol i’r Gronfa.

Hefyd, gan fod Mr Vaughan (Prif Gyfrifydd) wedi gadael y Gronfa, cyfeiriwyd at hyn fel risg a nodwyd.  Ond cadarnhaodd Mrs Phoenix nad oedd unrhyw bryderon a dim ond er mwyn tynnu sylw’r Pwyllgor at y mater y cafodd ei grybwyll.

Esboniodd Mrs Phoenix bod y ffi archwilio wedi codi eleni. Roedd cynnydd yn ffioedd pob Cronfa oherwydd bod mwy o waith ac oherwydd bod aelodau o’r tîm sydd ar raddau cyflog uwch yn gysylltiedig oherwydd y safonau archwilio.

Dywedodd nad oedd y cynllun archwilio wedi newid ers y blynyddoedd cynt ac y byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ddiwedd mis Tachwedd er mwyn medru cyflawni’r dyddiad cau statudol sef 30 Tachwedd 2022.

 

PENDERFYNWYD:

Nododd y Pwyllgor y diweddariad.

5.

Strategaeth Gyfathrebu Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 119 KB

Rhoi fersiwn ddiweddaraf y Strategaeth Gyfathrebu i Aelodau’r Pwyllgor er mwyn ei thrafod a’i chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod angen i’r Pwyllgor roi cymeradwyaeth i’r eitem hon ac roedd y Pwyllgor wedi cael hyfforddiant yn gysylltiedig â hyn yr wythnos gynt.

Cyflwynodd Mrs Williams yr adroddiad gan esbonio bod Rheoliadau CPLlL 2013 yn mynnu bod pob awdurdod gweinyddol yn paratoi, cynnal a chadw a chyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn gosod allan ei bolisi mewn perthynas â chyfathrebu â’r holl fudd-ddeiliaid allweddol. Cynhaliodd y Gronfa adolygiad sylfaenol o’r polisi cyfathrebu presennol yn 2016 a 2019. Er hynny, roedd y dechnoleg a ddefnyddir wedi datblygu’n sylweddol a byddai’r Strategaeth Gyfathrebu arfaethedig yn newid sut mae’r Gronfa yn cyfathrebu â’i budd-ddeiliaid.  Bydd yn canolbwyntio ar gyfathrebu mewn modd sy’n ennyn mwy o ddiddordeb ac sy’n llawn gwybodaeth, gan leihau jargon a’i wneud yn haws i’w ddarllen, sicrhau hygyrchedd i bob aelod a’i wneud yn fwy rhyngweithiol gan gynnwys fideos ar y wefan.  Byddai cyfathrebiadau yn canolbwyntio mwy ar wahanol grwpiau o aelodau.

Un o’r canlyniadau allweddol a gynigwyd yn y strategaeth newydd oedd bod cyfran uwch o fudd-ddeiliaid yn deall manteision y cynllun. Byddai hyn yn lleihau nifer yr ymholiadau y byddai’r Gronfa yn eu derbyn, lleihau faint o amser a dreulir yn ateb ymholiadau a darparu gwasanaeth mwy ymgysylltiedig yn gyffredinol.

Dywedodd Mrs Williams bod amcanion y strategaeth yn dal i fod yn debyg iawn i’r fersiwn bresennol. Fel y soniwyd eisoes yn hyfforddiant y Pwyllgor, roedd elfennau amrywiol y gwaith i ddarparu’r strategaeth gyfathrebu newydd yn y cynllun busnes ac roedd y terfynau amser perthnasol yn rhoi amser i gyflawni’r nodau a’r amcanion hyn.

            Nid oedd Mr Hibbert yn amau bod y gwaith hwn yn angenrheidiol ond roedd yn poeni beth fyddai pobl yn ei ystyried yn gost sylweddol ac yn meddwl y gallai ymddangos yn rhodresgar. Eglurodd Mrs Williams y byddai mwyafrif y gwaith yn cael ei gwblhau gan aelodau o’r tîm gweinyddol ac esboniodd eu bod wedi recriwtio aelodau o staff â sgiliau i allu darparu’r strategaeth. Credai Mrs McWilliam bod modd ymgysylltu trwy gyfathrebu heb ymddangos yn rhodresgar a byddai angen sicrhau bod y Gronfa yn cael y cydbwysedd cywir. Amlygodd hefyd bod y strategaeth arfaethedig wedi’i thrafod yng nghyfarfod y Bwrdd Pensiynau yr wythnos flaenorol ac roedd aelodau’r Bwrdd yn eithriadol o gefnogol ohoni.

Amlygodd hefyd bod cyfran uchel o aelodau’r cynllun heb gofrestru ar gyfer hunanwasanaeth aelodau ar hyn o bryd neu wedi dewis derbyn cyfathrebiadau papur, ac felly nid oeddent yn derbyn rhai cyfathrebiadau, megis datganiadau o fuddion blynyddol. O safbwynt cyflogwyr, dywedodd Mrs Williams bod angen i’r Gronfa fod yn ystyriol o gostau h.y. y swm sy’n cael ei wario bob blwyddyn ar sesiynau un-i-un a mynd trwy ddatganiadau buddion. Nid oedd hyn yn rhywbeth hawdd i’r Gronfa ei reoli heb roi pwysau sylweddol ar staff, felly os gall y Gronfa gael cyfathrebiadau yn gywir bydd yn golygu llai o amser a chostau mewnol ar ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor y Strategaeth Gyfathrebu wedi’i diweddaru.

6.

Cyfuno Asedau a Chynllun Busnes Partneriaeth Bensiwn Cymru 2022 - 2025 pdf icon PDF 107 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar Gyfuno Asedau a Chynllun Busnes Partneriaeth Bensiwn Cymru 2022/23 - 2024/25 er mwyn eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er budd yr aelodau newydd, esboniodd Mr Latham bod y Gronfa yn y gorffennol wedi gosod y strategaeth fuddsoddi; penderfynu faint oedd yn cael ei ddyrannu ym mhob dosbarth asedau a dewis nifer o reolwyr buddsoddi i ddarparu’r strategaeth.  Ar wahân i rai asedau etifeddol, nid yw’r Gronfa bellach yn dewis y rheolwyr cronfa eu hunain gan fod Partneriaeth Pensiynau Cymru (“PPC”) yn dewis rheolwyr. 

Cadarnhaodd Mr Latham bod y CBLl wedi penodi cynrychiolydd newydd ar gyfer aelodau’r cynllun fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.

Amlygodd hefyd ym mharagraff 1.01 bod Dye & Durham yn prynu Link Group.  Mae Link Fund Solutions yn darparu isadeiledd cefn swyddfa i PPC ar gyfer cronfeydd buddsoddi cyfun y mae cronfeydd sy’n bartneriaid i PPC yn buddsoddi ynddynt. Nododd Mr Latham ei bod yn aneglur ar hyn o bryd beth fyddai’n digwydd gyda Link Fund Solutions, ond roedd y CBLl a PPC yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater.

Dywedodd Mr Hibbert bod buddsoddwyr preifat yn Woodford (a argymhellwyd gan Link Group) yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Link Group a gofynnodd a oedd hynny’n debygol o gael effaith ar wasanaethau’r Gronfa i PPC. Dywedodd Mr Latham bod PPC wedi cadarnhau na fyddai hynny’n wir, ond roedd Mr Latham yn cydnabod bod rhai risgiau, o ystyried nad yw’r Gronfa yn gwybod beth yw’r canlyniad na pha gamau y byddai’r FCA yn eu cymryd. Pwysleisiodd Mr Latham bod ymgynghorwyr PPC, Hymans Robertson, wedi eu sicrhau y byddai’r FCA yn ymyrryd pe bai rhywbeth yn digwydd i Link o ganlyniad i Woodford.

            Roedd gweithgor swyddogion PPC wedi sefydlu nifer o is-grwpiau er enghraifft, roedd Mr Latham yn rhan o’r is-gr?p rheoli risg ac roedd Mrs Fielder yn rhan o’r ddau gr?p arall ar gyfer marchnadoedd preifat a buddsoddi cyfrifol (“BC”). Roedd y ddau faes yma yn rhai cymhleth a phwysig i’r Gronfa o ystyried bod oddeutu 27% o asedau’r Gronfa mewn marchnadoedd preifat, ac yn y pen draw byddai unrhyw ymrwymiadau newydd yn y dosbarth asedau hwn yn cael eu gwneud i is-gronfeydd marchnadoedd preifat PPC.

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan y grwpiau hyn, yn enwedig yr is-gr?p marchnadoedd preifat, o ystyried y penodiadau a wnaethpwyd mewn credyd preifat ac isadeiledd. O’r flwyddyn nesaf ymlaen, ar ôl i’r is-gronfeydd gael eu sefydlu, bydd buddsoddiadau’r farchnad breifat yn digwydd trwy PPC, a bydd y dyranwyr sylfaenol amrywiol yn pennu sut y caiff buddsoddiadau eu trefnu.

            Hefyd, mae llawer iawn o waith wedi’i gwblhau mewn perthynas â’r is-gr?p buddsoddi cyfrifol fel yr amlinellir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad. Fel yr adroddwyd yn y Pwyllgor diwethaf, llwyddodd PPC i ddod yn aelod o’r Cod Stiwardiaeth. Amlygodd y Cyngor Adrodd Ariannol (“FRC”) feysydd a awgrymir i’w gwella ar gyfer PPC. O ganlyniad, cafodd cynllun gweithredu ei greu yn barod ar gyfer y cyflwyniad y flwyddyn nesaf.

            Roedd y Gronfa wedi gofyn yn y gorffennol i PPC sefydlu is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy Byd-eang Gweithredol i helpu’r Gronfa  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau pdf icon PDF 164 KB

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion llywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Latham adroddiad y Diweddariad Llywodraethu gan amlygu ei fod fel arfer ar gyfer ei nodi, ond roedd ganddo argymhelliad ynghylch MiFID II yn yr adroddiad hwn. Oherwydd bod aelodau newydd yn y Pwyllgor, aeth trwy’r adroddiad gan ddechrau gyda diweddariad o’r cynllun busnes a dywedodd bod y Gronfa yn cynllunio hyfforddiant sefydlu i’r aelodau newydd ar risgiau seiber a pharhad busnes.

Roedd y Gronfa wedi bod yn aros i un cod newydd TPR gael ei gyhoeddi ond roedd hyn wedi’i oedi ymhellach.

Nododd Mrs McWilliam y pwyntiau allweddol canlynol mewn perthynas â’r Bwrdd Pensiwn gyda’r cadeiryddion:

-       Cafodd Phil Pumford ei ail-benodi fel Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun ar gyfer y cyd-undebau llafur (fel yr amlinellir ym mharagraff 1.02).  Cytunodd y Prif Weithredwr ar hyn yn ffurfiol yn unol â’r cyfansoddiad a nododd Mrs McWilliam pa mor ddiolchgar oedd hi am barodrwydd Mr Pumford i sefyll am dymor arall.

-       Yng nghyfarfod y Bwrdd Pensiwn ar 8 Mehefin, cafwyd trafodaethau ar y strategaeth gyfathrebu arfaethedig, gwytnwch diogelwch seiber a’r prisiau actiwaraidd.  Roeddent wedi trafod defnydd o’r wefan gan fod y Bwrdd wedi gofyn i weld nifer y bobl a oedd wedi edrych ar y wefan trwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd bod oddeutu 60 o bobl yn edrych ar y wefan yn Gymraeg (allan o’r miloedd o bobl sy’n edrych arni yn Saesneg), felly byddai gwaith pellach yn cael ei wneud i dynnu sylw at y dewis o fersiwn Gymraeg. 

-       Gwahoddwyd aelodau’r Bwrdd i gwblhau arolwg yngl?n ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu’r Bwrdd.

Esboniodd Mr Latham gefndir yr argymhelliad yn ymwneud ag ‘optio i fyny’ i statws proffesiynol ar gyfer MiFID II fel yr amlinellir ym mharagraff 1.05. Roedd y Gronfa yn cael ei dosbarthu fel cleient manwerthu sy’n cyfyngu ar y gwasanaethau buddsoddi penodol y gall ymgynghorwyr a rheolwyr cronfa eu darparu, oni bai eu bod yn ‘optio i fyny’ i statws proffesiynol.  I gael eu trin fel cleient proffesiynol, mae’n rhaid iddynt ddangos bod ganddynt wybodaeth briodol i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir. Roedd gan y Prif Weithredwr blaenorol (Cyngor Sir y Fflint) gyfrifoldeb am lofnodi’r cyflwyniadau ‘optio i fyny’, ond cynigwyd y dylid dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn bellach i Mr Latham fel Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.  Byddai cofnodion y cyfarfod hwn wedi’u cymeradwyo yn rhan o’r cyflwyniad i ‘optio i fyny’ a rennir gydag ymgynghorwyr a rheolwyr.

Fel yr amlinellir ym mharagraff 1.06, rhoddodd Mr Latham grynodeb o’r datblygiadau o ran p’un a ystyrir bod y CPLlL yn cydymffurfio â Sharia ai peidio. Cadarnhaodd bod barn gyfreithiol yn cael ei cheisio gan Fwrdd Ymgynghorol y CPLlL.

Roedd Mr Latham yn eistedd ar bwyllgor yr awdurdod lleol o Gymdeithas Pensiynau a Chynilion Oes (“PLSA”) ac roedd yn rhan o’r gwaith i ddrafftio’r adroddiad fel yr amlygir ym mharagraff 1.08. Mae’r adroddiad yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd yn y CPLlL.

Roedd meysydd allweddol yn ymwneud â pholisi, gweithredu a monitro strategaeth ym mharagraff 1.09 ac roedd digwyddiadau hyfforddiant a gynhelir yn y dyfodol yn gynwysedig  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad gweinyddu pensiwn/ cyfathrebu pdf icon PDF 134 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Mrs Williams y byddai’r rhan fwyaf o’r manylion yn y diweddariad hwn yn cael eu hesbonio ymhellach yn yr hyfforddiant sefydlu ar gyfer aelodau newydd y Pwyllgor. Amlygodd Mrs Williams y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Roedd y tîm ar y trywydd iawn o ran y cynllun busnes fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.

-       Mewn perthynas â’r datblygiadau presennol ym mharagraff 1.02, roedd cynnydd wedi’i wneud ar y rhaglen McCloud (fel y gwelir yn atodiad 2). Esboniodd fod McCloud yn achos gwahaniaethu ar sail oedran, a oedd wedi arwain at fod angen ail-gyfrifo rhai buddion hanesyddol a newid prosesau wrth fynd ymlaen, ond er mwyn gwneud hynny roedd angen casglu mwy o ddata am aelodau’r cynllun gan gyflogwyr. Oherwydd bod cymaint o waith ynghlwm wrth hyn, mae’r Gronfa wedi creu tîm prosiect McCloud pwrpasol. Ar hyn o bryd mae’r tîm hwn yn canolbwyntio ar gywiro cofnodion unrhyw aelodau a effeithiwyd unwaith y byddant wedi derbyn data gan gyflogwyr.

-       Roedd y Gronfa yn gwneud cynnydd gan gyflawni terfynau amser prisio actiwaraidd ac fel y soniwyd uchod, roedd y tîm yn y broses o lanhau data a’i ddarparu i Mercer.

-       Fel y soniwyd ym mharagraff 1.03, oherwydd bod y dyfarniad tâl ar gyfer Ebrill 2021 wedi’i ddyfarnu ym mis Mawrth 2022, roedd y tîm wedi ail-gyfrifo buddion aelodau a ddyfarnwyd dros y 12 mis diwethaf. Roedd hyn wedi arwain at lawer iawn o waith ac roedd y sefyllfa hon yn debygol o gael ei hailadrodd pan fyddai’r dyfarniad tâl 2022/23 yn cael ei gadarnhau.

-       Bob blwyddyn mae pensiynau a delir yn cynyddu felly mae gofyn i’r tîm gymhwyso’r cynnydd hwn mewn pryd ar gyfer taliad pensiwn mis Ebrill a rhoi gwybod i bob pensiynwr am y cynnydd. Roedd hwn yn ddarn o waith sylweddol arall i’r tîm.

-       Mae’r aelodau’n cael eu cofrestru i’r cynllun fel mater o drefn neu gallant gofrestru ar y cynllun ar sail 50/50, sy’n opsiwn mwy fforddiadwy i aelodau yn hytrach nag optio allan yn gyfan gwbl. Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer yr aelodau sy’n optio allan o’r cynllun, a gallai hynny fod oherwydd pwysau economaidd, felly ychwanegodd y tîm fanylion pellach yngl?n â’r cynllun 50/50 ar y ffurflen optio allan. Bydd y tîm yn monitro’r niferoedd optio allan wrth fynd ymlaen i ystyried beth arall y gellir ei wneud.

 

Esboniodd Mrs Williams bod y cynllun 50/50 yn caniatáu i aelodau’r cynllun dalu hanner y gyfradd gyfrannu ac am hynny byddent yn cael hanner eu buddion ar gyfer y cyfnod hwnnw, ond nid yw’r gwarant marwolaeth a salwch yn cael ei effeithio. Roedd y cynllun 50/50 yn darparu opsiwn mwy fforddiadwy i aelodau felly roedd yn bwysig tynnu sylw’r aelodau sy’n ystyried optio allan o’r prif gynllun at yr opsiwn hwnnw.

Dywedodd y Cynghorydd Rutherford ei fod yn credu nad yw aelodau o bosibl yn deall gwerth y cynllun pensiwn a bod yn rhan ohono.  Roedd yn meddwl tybed a oedd modd cylchredeg rhyw fath o ohebiaeth syml yn tynnu  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Diweddariad ar fuddsoddi ac ariannu pdf icon PDF 157 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Latham y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Fel yr adlewyrchir ym mharagraff 1.02, cytunodd y Gronfa ar ymrwymiad o £12 miliwn i fuddsoddi mewn ardaloedd lleol gan gynnwys Gogledd-ddwyrain Cymru. Hwn oedd y buddsoddiad cyntaf yn ardal Cyngor Sir y Fflint.

-       Rhoddwyd crynodeb o broses allweddol prisiad actiwaraidd 2022 i’r Pwyllgor ym mharagraff 1.03. Byddai Datganiad y Strategaeth Gyllido (DSG) yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod Pwyllgor mis Tachwedd a phwysleisiodd Mr Latham bod hwn yn allweddol i’r prisiad a bod angen i’r Gronfa ymgynghori â’r cyflogwyr am y DSG.

-       Wrth adolygu’r DSG, byddai ystyriaethau’n cael eu gwneud am feysydd megis ffyniant bro, buddsoddi cyfrifol a newid hinsawdd.

-       Roedd y cyfrifoldebau dirprwyedig ym mharagraff 1.08 yn cynnwys monitro llif arian a phenderfyniadau am ddyrannu asedau tactegol mwy byrdymor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor y diweddariad.

 

10.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 104 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Dickson y pwyntiau allweddol canlynol yngl?n â’r diweddariad am yr economi a’r farchnad a’r adroddiad monitro perfformiad:

-       Eglurodd bod Ch1 2022 yn cynrychioli chwarter cyntaf y flwyddyn galendr (h.y. 1 Ionawr 2022 - 31 Mawrth 2022).

-       Cafodd yr ymosodiad ar yr Wcráin effaith sylweddol ar y marchnadoedd, yn enwedig chwyddiant a phrisiau olew a nwy. Bwydodd hyn i mewn i drafodaethau a godwyd gan y Cynghorydd Rutherford yn gynharach yngl?n â’r argyfwng costau byw a chwyddiant uchel.

-       Mae gan fanciau canolog ledled y byd gylchoedd gorchwyl i gadw chwyddiant dan reolaeth. Gan fod y cynnydd mewn chwyddiant yn rhannol mewn ymateb i’r ymosodiad, roedd banciau canolog wedi tynhau eu polisïau ariannol trwy godi cyfraddau llog. Roedd disgwyl i’r Gronfa Ffederal gyfarfod heddiw a chreu cynnydd o 0.75% yn y gyfradd sylfaenol. Byddai hyn yn arwain at oblygiadau o ran gwerth marchnadoedd.

-       Fel y pennir o dudalen 242 ymlaen, roedd yr effaith mwyaf ar asedau incwm gosodedig.

-       Ar dudalen 257 oedd y dangosfwrdd gweithredol, ond roedd yr holl eitemau yn wyrdd felly nid oedd unrhyw feysydd yn peri pryder mawr i’r Pwyllgor.

-       Roedd dyraniad asedau’r Gronfa a amlinellir ar dudalen 260 yn dangos bod cyfanswm asedau’r Gronfa ar 31 Mawrth 2022 ychydig dan £2.5 biliwn. Dangosodd tudalen 260 hefyd siart cylch gyda’r dyraniad meincnod, a dyna beth sy’n llywio enillion buddsoddi disgwyliedig y Gronfa.

-       Ar dudalen 261 roedd crynodeb o berfformiad y Gronfa dros Ch1 2022, 1 flwyddyn a 3 blynedd. Roedd y crynodeb hwn yn nodi perfformiad cryf y Gronfa o’i chymharu â’r targed actiwaraidd ar waelod y tabl.

-       Amlinellwyd crynodeb o berfformiad rheolwyr yn erbyn y meincnodau ar dudalen 264.

 

Ychwanegodd Mr Latham bod y ffigyrau monitro perfformiad yn yr adroddiad wedi’u nodi ar 31 Mawrth 2022 a gofynnodd sut y byddai’r ffigyrau wedi newid ers hynny. Dywedodd Mr Dickson bod y marchnadoedd yn eithriadol o anwadal ac oherwydd bod banciau canolog yn codi cyfraddau llog; roedd hyn yn bwydo i mewn i’r marchnadoedd. Nid oedd gan Mr Dickson ffigyrau cyfredol i’w rhoi i’r Pwyllgor ond roedd yn disgwyl y byddai’r asedau wedi disgyn o’r safle presennol ar 30 Mehefin 2022. Soniodd am bwysigrwydd edrych ar Gronfa o safbwynt mwy hirdymor gan y byddai’r Gronfa yn talu buddion am ddegawdau felly roedd yn hanfodol edrych a oedd y Gronfa yn buddsoddi’n briodol ar gyfer y tymor hir.

Gofynnodd Mrs McWilliam wedyn beth oedd Mr Dickson yn ei feddwl o’r marchnadoedd, ac a oedd ganddo unrhyw bryderon am y rhagolygon yn y tymor hirach. Dywedodd Mr Dickson fod y Gronfa wedi arallgyfeirio’n dda ac y bydd yn wynebu nifer o gyfnodau heriol yn economaidd, ond nid oedd ganddo unrhyw bryderon hirdymor.

PENDERFYNWYD:

 

Ystyriodd a nododd y Pwyllgor y diweddariad, a oedd yn cynnwys perfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd ddiwedd mis Mawrth 2022.

11.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 108 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd Mr Middleman bod yr adroddiad hwn yn edrych ar iechyd ariannol y Gronfa a sut oedd y risgiau’n cael eu rheoli. Ychwanegodd y pwyntiau allweddol canlynol er budd yr aelodau newydd a oedd yn llai cyfarwydd â’r amcanion a gweithrediad:

-       Mae’r Gronfa yn cael ei hamddiffyn rhag cwympiadau ecwiti a nifer o risgiau allweddol eraill. Bwriad y strategaeth llwybr hedfan yw amddiffyn y Gronfa ar yr amser cywir trwy sicrhau risgiau penodol ond nid ar unrhyw gost, felly mae angen cael cydbwysedd rhwng pa mor bell yr ydych yn mynd a faint ydych yn barod i’w dalu am amddiffyniad.

-       Roedd y fframwaith wedi’i lunio hefyd i weithio mor effeithlon ag sy’n bosibl.

-       Pwysleisiodd Mr Middleman lwyddiant arwyddocaol y fframwaith a’r ffaith ei fod wedi gostwng diffygion o sawl can miliwn o bunnau ers y dechrau, er gwaethaf nifer o heriau trwy gydol yr amser.

-       Y risgiau allweddol eraill oedd chwyddiant a chyfraddau llog oherwydd bod rhwymedigaethau’r Gronfa yn uniongyrchol gysylltiedig â chwyddiant. Gan hynny, oherwydd y cynnydd mewn cyfraddau chwyddiant, roedd yn hanfodol deillio strategaeth sy’n darparu enillion buddsoddi (a oedd yn rhannol yn gysylltiedig â chyfraddau llog) i wrthbwyso’r cynnydd mewn rhwymedigaethau.  Fel arall, byddai’r cyfraniadau yn cynyddu a byddai’n rhaid i’r cyflogwyr ariannu hynny.

-       Roedd y fframwaith hefyd yn rheoli’r risg arian parod a’r risgiau hylifedd a deunydd cyfochrog. O ran agweddau gweithredol, dywedodd Mr Middleman bod angen i’r Gronfa sicrhau bod unrhyw arian sy’n cael ei ddal i amddiffyn yn erbyn y risgiau hyn, yn darparu’r enillion buddsoddi priodol.

-       Fel rhan o’r gwaith o lywodraethu'r fframwaith, mae’r Gr?p Cyllido a Rheoli Risg (“FRMG”) yn cynnwys swyddogion ac ymgynghorwyr sy’n rheoli’r gwaith o ddarparu’r fframwaith o ddydd i ddydd, a dod â phenderfyniadau yn ôl i’r Pwyllgor i sicrhau bod y fframwaith yn gweithio’n gywir.

-       Roedd paragraff 1.02 yn dangos cynnydd y Gronfa ers prisiad actiwaraidd 2019. Byddai’r fersiwn a ddiweddarwyd i ganiatáu ar gyfer canlyniadau prisiad 2022 yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor yn ddiweddarach eleni.

-       Ar 31 Mawrth 2022, amcangyfrifwyd y byddai’r Gronfa yn cael ei hariannu 101% ac felly byddai ychydig dros ben ac 8% yn uwch na’r hyn a ddisgwylid yn y prisiad diwethaf. Fodd bynnag, roedd Mr Middleman yn credu y byddai’r Gronfa wedi gweld gwaethygiad ers hynny o ystyried y gyfradd chwyddiant uchel ac felly rhwymedigaethau uwch. Pwysleisiodd mai’r mater hollbwysig ym mhrisiad 2022 ac adolygiad y strategaeth gyllido yw lefel chwyddiant a’i ddyfalwch yn y dyfodol.

-       Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.03, y gymhareb sicrhau cyfradd chwyddiant oedd 40% a’r gymhareb sicrhau cyfradd llog oedd 20%, sy’n golygu bod y Gronfa’n cael ei hamddiffyn yn rhannol yn erbyn rhai o’r risgiau. Roedd y Gronfa mewn sefyllfa gref o’i chymharu â Chronfeydd eraill ac roedd ganddi lefelau amddiffyniad priodol mewn lle.  Roedd y lefelau hynny o sicrhad o ganlyniad i’r gost o’u cynyddu ond mae’n bosibl y gellid codi’r amddiffyniad wrth i gyfraddau llog godi .

-       Mae paragraff 1.05 yn  ...  view the full Cofnodion text for item 11.