Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

22.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd Mrs McWilliam a Mr Buckland gysylltiad yn eitem rhif 8 ar y rhaglen gan fod gan Aon a Mercer ddiddordeb cymryd rhan yng ngham nesaf caffael Marchnadoedd Preifat parhaus ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru (“WPP”).

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad arall.

23.

Cofnodion pdf icon PDF 105 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 1 Medi 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ar dudalen 12, eglurodd Mr Hibbert ei farn yngl?n â chynrychiolydd aelodau’r cynllun ar Bwyllgor Cydlywodraethu.  Roedd yn credu ei fod yn gwahaniaethu gan y byddai cynrychiolydd aelodau’r cynllun yn gorfod mynd drwy broses recriwtio gyda swydd ddisgrifiad, manylion am yr unigolyn, terfyn amser ar aelodaeth ac ni fyddai’n cael pleidleisio, ac nid oedd unrhyw aelod arall o’r Pwyllgor Cydlywodraethu yn gorfod gwneud hyn.

 

            Cafodd cofnodion y cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021 eu diwygio’n unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn, cymeradwyo ac arwyddo cofnodion cyfarfod 1 Medi 2021 gan y Cadeirydd.

24.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 81 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Pwyllgor ar gynnydd yr archwiliad o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft Cronfa Bensiynau Clwyd a chymeradwyo dirprwyaeth yr awdurdodiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Mr Vaughan er bod y gwaith o archwilio Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Gronfa yn mynd rhagddo, nid oedd wedi’i gwblhau eto.  Y terfyn amser statudol i gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol oedd 1 Rhagfyr 2021. Er mwyn cyrraedd y terfyn amser yma, byddai angen dirprwyo cymeradwyaeth yr adroddiad i Gadeirydd y Pwyllgor,  Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a Thrysorydd y Gronfa (Swyddog Adran 151 Cyngor Sir y Fflint). Petai unrhyw broblem sylweddol yn codi o’r gwaith archwilio oedd yn weddill, byddai’n cael ei adrodd i gyfarfod brys o’r Pwyllgor cyn ei gymeradwyo.

 

Cadarnhaodd bod yr unig newid yn yr Adroddiad Blynyddol ers y cyfarfod diwethaf, heblaw am unrhyw faterion yn codi o’r archwiliad, yn ymwneud â nodi awdurdodaeth Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r cap ymadael. 

 

Roedd y Gronfa hefyd yn trafod gydag Archwilio Cymru i ystyried amserlen Adroddiad Blynyddol 2021/22 er mwyn osgoi’r angen am gymeradwyaeth ddirprwyedig cyn belled â bod hynny’n bosibl.

 

Diolchodd Mr Ferguson i’r tîm am eu gwaith hyd yn hyn ar yr Adroddiad Blynyddol a nododd y gofyniad am ddirprwyaeth i’w gymeradwyo.

 

Dywedodd Mrs Phoenix fod y lefel o fateroliaeth yn ystod yr archwiliad tua £22.2m, yn seiliedig ar werth yr asedau yn y cyfrifon drafft. Fe gadarnhaodd fod tîm Archwilio Cymru yn parhau i fod yn annibynnol o’r Gronfa.  Nid oedd yr archwiliad wedi dod o hyd i unrhyw broblemau sylweddol na sylwi ar unrhyw gamgymeriadau oedd angen eu hadrodd i’r Pwyllgor.  Cytunwyd ar fân newidiadau gyda’r Gronfa, ond nid oedd yr un ohonynt yn effeithio ar Gyfrif Cronfa ddrafft na’r  Datganiad Asedau Net.  Fe gadarnhaodd ei bod yn fodlon â’r trefniadau i gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi diweddariad y cynnydd ar Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Gronfa; a

 

(b)          Cymeradwyodd y Pwyllgor y ddirprwyaeth i gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol (yn cynnwys y cyfrifon) i Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau, Swyddog Adran 151 Cyngor Sir y Fflint (Trysorydd y Gronfa) a Phennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd, ar yr amod nad oedd yna unrhyw newidiadau mawr yn cael eu gwneud.

25.

Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau pdf icon PDF 194 KB

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion llywodraethu a chymeradwyo newidiadau i strwythur y Tîm Cyllid a’r gyllideb gysylltiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Mr Latham fod rhai o’r eitemau wedi cael eu diwygio yn y cynllun busnes a soniodd am y pwyntiau canlynol yn ei ddiweddariad:

 

-       Nid oedd y Gronfa wedi derbyn Adolygiad Llywodraethu da gan Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau eto.

-       Roedd paragraff 1.06 yn egluro canlyniad proses rheoli costau 2016.  Serch hynny, roedd yna adolygiad parhaus gan SAB o ran y drydedd haen salwch ac o bosib, ystyried cyfraniadau aelodau ar gyflogau is.  Roedd manylion yn ymwneud ag ymgynghoriad rheoli costau wedi’u hamlinellu ym mharagraff 1.07 ac fe ymatebodd y llywodraeth i hyn ar 4 Hydref.

-       Roedd arolwg ar effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu fod i gael ei rannu gydag aelodau’r Pwyllgor iddynt ei lenwi hefyd.

-       O ran paragraff 1.02, er mwyn hwyluso cynllunio ar gyfer olyniaeth, ac o ganlyniad i faterion gyda llwyth gwaith yn yr Adran Gyllid, fe argymhellodd Mr Latham fod y Gronfa yn recriwtio cyfrifydd dan hyfforddiant i swydd newydd yn Adran Cyllid y Gronfa.

 

Gan ymateb i gwestiwn am lefel cyflog ar gyfer y swydd newydd, fe eglurodd Mr Latham fod yr amcangyfrifiad yn seiliedig ar recriwtio tebyg yng Nghyngor Sir y Fflint.

 

Pan ofynnwyd sut y gallai’r Gronfa fod yn sicr y byddai’r cyfrifydd dan hyfforddiant yn parhau i gael ei gyflogi yn y Gronfa pan fyddent yn gymwys, dywedodd Mr Latham nad oedd yna unrhyw sicrwydd ond roedd yn gobeithio y byddai gweithio'n benodol gyda’r Gronfa yn ystod yr hyfforddiant yn meithrin teyrngarwch.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad;

 

(b)          Cytunodd y Pwyllgor ar y newidiadau i amseru’r cynllun busnes ar gyfer eitemau G1 a G5 fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01, mae’r ddau yn ymwneud ag oedi ar lefel genedlaethol; a

 

(c)          Cytunodd y Pwyllgor i’r newid i’r Adran Gyllid yn cynnwys cyfrifydd y Gronfa dan hyfforddiant ar gost flynyddol o £38,000 i £46,000.

26.

Diweddariad gweinyddu pensiwn/ cyfathrebu pdf icon PDF 148 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe soniodd Mrs Williams am y pwyntiau pwysig canlynol o ran diweddariad ar weinyddu a chyfathrebu:

 

-       Roedd y sgoriau rheoleiddio pensiwn blynyddol, sydd yn mesur data cyffredin ac sydd yn benodol i’r cynllun sydd gan y Gronfa yn erbyn hyblygrwydd penodol, wedi cael ei gadarnhau.  Sgôr y data cyffredin oedd 98% (92% oedd hyn yn flaenorol). Sgôr mesur data penodol y cynllun oedd 97% (68% o’r blaen pan gafodd ei gyflwyno gyntaf). Bu gwelliant ardderchog yn y meysydd hynny fel y nodir yn glir. Serch hynny, fe all gwelliannau wastadu wrth symud ymlaen o ystyried effaith busnes fel arfer a bod natur y sgoriau sydd yn weddill weithiau yn eu gwneud yn llai pwysig i’w diweddaru, ond mae disgwyl i’r sgoriau aros yn uchel.

-       Mae oedi hir yn dal i fod yng ngwasanaethau Prudential ar gyfer aelodau sydd wedi gofyn am arian i gael ei ryddhau.  Serch hynny, roedd yna welliant bach ac mae Mrs Williams yn monitro’r materion hyn yn rheolaidd.

-       Cyflwynwyd gwasanaeth newydd yn ddiweddar mewn cysylltiad â’r Lwfans Blynyddol a ffioedd treth Lwfans Bywyd, pan gynhaliodd Mercer weminar i aelodau'r cynllun ar y testun hwn, ac roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn yn ôl yr aelodau.  Mae’r Gronfa yn hapus gyda chynnwys a fformat y sesiwn. Y gobaith yw y bydd dealltwriaeth yr aelodau yn gwella a bydd disgwyliadau’r gronfa i ddarparu cyngor/arweiniad yn lleihau.

-       Fe amlinellwyd y goblygiadau o ran adnoddau ym mharagraff 2.01, yn enwedig y swyddi gwag yn y tîm gweinyddu.  Roedd y Gronfa’n mynd drwy rownd arall o geisio recriwtio yn y tîm gweithrediadau, ond yn anffodus, ni lenwyd unrhyw swydd yn nhîm McCloud.

-       Byddai’r swyddi gwag hyn, ynghyd â hyfforddiant parhaus a gwyliau blynyddol yn cael effaith ar ddangosyddion perfformiad allweddol, disgwylir gostyngiad mewn dangosyddion perfformiad allweddol yn y chwarter nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyried a nodi’r diweddariad.

27.

Diweddariad ar fuddsoddi ac ariannu pdf icon PDF 135 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mrs Fielder ddiweddariad cryno ar fuddsoddi ac ariannu gan wneud y pwyntiau allweddol canlynol:

 

-       Cynhaliodd y Gronfa eu cyfarfod cyntaf gyda’r awdurdodau unedol yngl?n â’r adolygiad prisio actiwaraidd dros dro. Cafwyd adborth cadarnhaol.  Bydd y gronfa yn parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw yn ogystal â chyflogwyr eraill drwy gydol proses brisio actiwaraidd 2022.

-       Nid oedd yna newidiadau i’r gofrestr risg ond roedd y Gronfa yn disgwyl newidiad wrth symud ymlaen wrth iddynt weithio drwy’r prisiad actiwaraidd.

-       Roedd Mrs Fielder yn falch o gymryd rhan mewn panel yn COP26 ar 3 Tachwedd. Trafododd y panel “mabwysiadu meddylfryd trosiannol ar gyfer y dyfodol”. Cadarnhaodd Mrs Fielder ei fod wedi bod yn boblogaidd.

-       Roedd y Gronfa ar y rhestr fer ar gyfer dwy Wobr Pensions for Puprose; Gwobr Impact Investing Adopter a Gwobr Impact Investing Social. Roedd swyddogion yn eithriadol o brysur yn gweithio ar ddyrannu asedau marchnadoedd preifat. Roedd Mercer wedi gwneud sawl argymhelliad i’r Gronfa, yn cynnwys 11 o fuddsoddiadau posibl oedd â chyfanswm gwerth tua £140 miliwn.

-       Ym mis Hydref, fe symudodd y Gronfa rhai o’u dyraniadau asedau marchnadoedd newydd i’r WPP. Mae 32% o asedau’r Gronfa wedi’u cyfuno gyda’r WPP.

 

Llongyfarchodd y pwyllgor Mrs Fielder am ei chyfranogiad yn COP26.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyriodd a nododd y Pwyllgor y diweddariad.

28.

Cyfuno buddsoddiadau yng nghymru pdf icon PDF 101 KB

I roi diweddariad i aelodau’r pwyllgor am gyfuno buddsoddiadau yng nghymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr eitem ar y rhaglen i’w nodi ac fe ychwanegodd Mr Latham fod WPP wedi llunio adroddiad blynyddol 2020/21, gan dynnu sylw at gyflawniadau gan WPP yn ystod y flwyddyn.

 

Cadarnhaodd Mr Latham y bydd yna eitem ar y rhaglen yn y Pwyllgor Cydlywodraethau nesaf, pa unai i ymestyn contract y gweithredwr cyfredol am 2 flynedd arall neu beidio.

 

Fe ychwanegodd hefyd, fel y soniwyd gan Mrs Fielder, bod 32% o asedau’r Gronfa wedi'u cyfuno gyda’r WPP.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyriodd a nododd y pwyllgor y diweddariad, yn enwedig rhaglen y Pwyllgor Cydlywodraethu ac adroddiad Blynyddol WPP.

29.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 104 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Mr Harkin bod gwerth asedau’r Gronfa ar ddiwedd mis Medi tua £2.4 biliwn ac roedd y Gronfa wedi perfformio’n dda yn erbyn yr holl feincnodau.  Meincnodau dosbarthiadau asedau'r Gronfa oedd yn gyrru’r perfformiad cryf, oedd dyraniad ecwiti a phortffolio dyrannu tactegol. O ystyried sefyllfa gadarnhaol y Gronfa, nid oedd yna faterion i’w hadrodd ond byddai’r portffolio yn parhau i gael ei adolygu’n rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyriodd a nododd y Pwyllgor y diweddariad.

30.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 108 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Mr Middleman bod y sefyllfa ariannol wedi gwella rhywfaint ers diwedd mis Medi oherwydd perfformiad cryf yr asedau.  Roedd y prif bryder yn ymwneud â rhwystrau chwyddiant, allai gael effaith andwyol ar y sefyllfa ariannol, ond ar y cyfan, roedd y Gronfa’n parhau mewn sefyllfa gadarnhaol ac o flaen ei darged oherwydd ei berfformiad cryf.

 

            Tynnodd Mr Hibbert sylw at y drafodaeth mewn cyfarfod blaenorol y dylai’r Gronfa gyrraedd trothwy lefel cyllid 110%, yna fe fyddai yna ymgysylltu gyda’r Pwyllgor.  Fe nododd Mr Middleman hyn a chadarnhaodd nad oedd y Gronfa wedi cyrraedd lefel cyllid 110% eto.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad am y term ‘rhwystrau’ (headwinds). Cadarnhaodd Mr Middleman bod hyn yn golygu risg chwyddiant cynyddol. Fel y soniwyd yn genedlaethol, bu cynnydd yn chwyddiant y DU dros y misoedd diwethaf oherwydd pryderon amrywiol yn cynnwys problemau cyflenwi, prisiau ynni ac ati.  Nid oedd hi’n amlwg a oedd hyn yn mynd i fod yn broblem tymor byr neu dymor hir.  Petai chwyddiant yn cynyddu, byddai hyn yn golygu cynnydd mewn gwerth yn rhwymedigaethau’r Gronfa (gan fod pensiynau'n gysylltiedig â chwyddiant CPI), oni bai bod yr asedau’n perfformio’n fwy cryf i gyflawni’r un enillion yn uwch na chwyddiant. Os hynny fe fyddai yna ddirywiad yn y sefyllfa.  Cadarnhaodd Mr Middleman fod gan y Gronfa elfen o amddiffyniad yn erbyn chwyddiant o fewn y strategaeth llwybr hedfan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid.

31.

Map ffordd Buddsoddiad Cyfrifol - Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd pdf icon PDF 161 KB

Rhoi dadansoddiad i Aelodau'r Pwyllgor ar gyfer trawsnewid hinsawdd ac i ystyried a chytuno y dylai swyddogion gychwyn ymgynghoriad ar newidiadau priodol i’r Datganiad Strategaeth Buddsoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cychwynnodd Mr Latham drwy dynnu sylw at bwysigrwydd penderfyniadau yn yr adroddiad yma, yn enwedig y prif gynnig bod y Gronfa’n targedu allyriadau carbon net sero erbyn 2045 (yn hytrach na 2050) gyda 50% o ostyngiad carbon yn y portffolio erbyn 2030.

 

Fe atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor mai prif amcanion y Gronfa oedd sicrhau bod digon o arian ar gael i dalu budd-daliadau ac i gynorthwyo cyflogwyr i wneud y costau yma’n fforddiadwy.  Caiff hyn ei wneud drwy fanteisio ar enillion buddsoddi, gan mai dyletswydd ymddiriedol y Gronfa yw gwneud hynny.  Serch hynny, fe eglurodd y gellir gwneud hyn yn gyfrifol, heb gyfaddawdu ar yr enillion, drwy ystyried ffactorau ESG a materion ariannol eraill megis chwyddiant a risg cyfraddau llog.

 

Fe ychwanegodd Mr Latham y byddai’r Gronfa angen diweddaru’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi (‘ISS’) i adlewyrchu’r ymrwymiadau i uchelgais sero net ac ymgynghori gyda chyflogwyr yngl?n â’r diweddariadau arfaethedig yn unol â’r rheoliadau.  Yn amodol ar gytuno ar y cynigion yn yr adroddiad, bydd y Gronfa yn lansio ymgynghoriad cyflogwr yn y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol  ym mis Tachwedd. Roedd yn credu y dylai’r Gronfa fod yn ystyried buddsoddi pan roedd yna lwybr trosiannol clir i ffwrdd o asedau sy’n ddwys o ran carbon ac fe ddylai fod yn edrych ar reoli amlygrwydd i asedau allai gael eu heffeithio’n negyddol neu’n colli gwerth oherwydd trawsnewid i garbon isel.

 

            Roedd y Gronfa hefyd wrthi’n trafod gyda WPP dros greu is-gronfa ecwiti byd-eang cynaliadwy, ond fe allai hyn gymryd 12 mis arall i’w greu.

 

            Cyflwynodd Mr Latham Mr Gaston a fyddai’n arwain y Pwyllgor drwy’r dadansoddiad.

 

Fe aeth Mr Gaston drwy gyflwyniad gan egluro’r cynigion, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

-       Pwrpas y dadansoddiad oedd helpu i osod targedau sero net y Gronfa ac i edrych yn fwy manwl ar y portffolio ecwiti a restrir i osod targedau gronynnog dros dro i helpu i leihau dwysedd carbon.

-       Y cynnig oedd y byddai’r Gronfa yn cefnogi cynhesu cyfyngedig i o dan 2oC, yn unol â Chytundeb Paris.  Roedd disgwyl i ddifrod corfforol, yn enwedig senarios o dan 3oC a 4oC danseilio enillion buddsoddiad y Gronfa.

-       Fel Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, roedd y Gronfa cael ei chraffu o ystyried y lefel uchel o dryloywder, bydd budd-ddeiliaid ehangach ac aelodau eisiau gwybod beth mae’r Gronfa’n ei wneud i leihau risg hinsawdd.

-       Roedd technoleg (megis cost is technolegau adnewyddadwy) a datblygiadau yn y farchnad (megis marchnadoedd yn gwobrwyo cwmnïau cynaliadwy dros gwmnïau sy’n seiliedig ar danwydd ffosil) yn golygu bod risgiau a chyfleoedd trawsnewid carbon isel yn berthnasol i’r gronfa heddiw ac i’r dyfodol.

-       Roedd tudalen 244 yn amlinellu fframwaith Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd Mercer. Roedd y dadansoddiad yn dangos rhaniad y portffolio rhwng y cwmnïau llwyd (cwmnïau dwys o ran carbon, cwmnïau â photensial newid isel), y cwmnïau gwyrdd (cwmnïau dwysedd isel a chwmnïau â photensial newid uchel) a’r cwmnïau yn y canol (cwmnïau amrywiol o ran dwysedd carbon a photensial  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 ac 18 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

33.

Map ffordd Buddsoddiad Cyfrifol - Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd (Atodiad Cyfrinachol i eitem 11 ar y Rhaglen)

Cofnodion:

Cafodd yr eitem hon ar y rhestr ei chyflwyno ac ni chafodd cwestiynau yn ymwneud â’r elfen benodol yma ei thrafod yn breifat.

34.

Seiberddiogelwch

Rhoi adroddiad a chyflwyniad i Aelodau’r Pwyllgor ar ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwiliadau ynghylch rheoli risgiau seiber.

Cofnodion:

Cafodd yr eitem hon ei chyflwyno a’i thrafod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ar gyfer Seiberddiogelwch yng Nghronfa Bensiynau Clwyd am gasgliadau cychwynnol oedd yn ymwneud â rheoli risgiau seiber.