Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a Hynny

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

2.

Penodi is-Gadeirydd

Penodi Is-gadeirydd a nodi bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, felly, wedi’u penodi fel Aelod a Dirprwy, yn y drefn honno, o'r Pwyllgor Cydlywodraethu ar gyfer Partneriaeth Bensiwn Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Yn dilyn enwebiadau gan y Cynghr. Hughes a Small, penododd y Pwyllgor y Cyng. Bateman yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

PENDERFYNWYD:

            Penododd y Pwyllgor yr Is-gadeirydd a nodi bod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi’u penodi fel Aelod a Dirprwy, yn y drefn honno, o Gyd-Bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23ain Mawrth, 2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ystyriodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021.

 

Ar dudalen 9 y rhaglen, cyfeiriodd Mr Hibbert at y drafodaeth yn ymwneud â phenodi Cynrychiolydd Aelod y Cynllun ar y Cydbwyllgor Llywodraethu.Amlygodd Mr Hibbert fod y swydd-ddisgrifiad yn nodi y dylai Cynrychiolydd Aelod y Cynllun gynrychioli buddiannau holl aelodau’r cynllun.Mynegodd ei bryderon ynghylch ymarferoldeb ac elfennau gwahaniaethu posibl y broses benodi Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021 yn gofnod cywir.

 

4.

Cynllun Archwilio Drafft Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 80 KB

Cyflwyno Cynllun drafft Archwilio Cymru 2020/21 i Aelodau’r Pwyllgor i’w adolygu.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Croesawodd Mr Vaughan Ms Wiliam i’r cyfarfod a nododd fod y Pwyllgor yn gyfrifol am gymeradwyo’r adroddiad blynyddol, yn cynnwys y cyfrifon, erbyn diwedd mis Tachwedd. Cadarnhaodd y bydd y cyfrifon drafft yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod mis Medi’r Pwyllgor.

 

            Cyflwynodd Ms Wiliam y cynllun archwilio ar dudalen 17 ac amlygu’r pwyntiau allweddol canlynol:

 

-       Y ddwy risg archwilio ariannol yw rheolwyr yn diystyru ac effaith COVID-19.

-       Dywedodd fod rheolwyr yn diystyru yn risg i bob corff a’i bod yn ofynnol ar gyfer pob cynllun archwilio.

-       Tra bod effaith COVID-19 wedi rhoi mwy o bwysau ar adnoddau staff a gweithio o bell, sicrhaodd MS Wiliam y Pwyllgor na fyddai effaith COVID-19 yn effeithio ar y gwaith ar y cynllun archwilio.

-       Y tair risg mewn perthynas â datganiadau ariannol yw daliadau buddsoddiadau, defnyddio rheolwyr buddsoddi allanol a throsglwyddo asedau i PPC.

-       Nid yw'r ffi archwilio ar gyfer 2021 ar dudalen 24 wedi codi ers y flwyddyn flaenorol.

-       Bydd yr adroddiad archwilio terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor fis Tachwedd.

 

Gofynnodd y Cyng. Bateman beth yw rheolwyr yn diystyru.Cadarnhaodd MS Wiliam fod hon yn risg sylweddol ar gyfer pob corff yn eu cynlluniau archwilio er mwyn ymateb i ISA 240. Mae gwaith safonol Archwilio Cymru yn mynd i’r afael â'r risg felly nid oes angen mynegi unrhyw bryder.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynllun Archwilio Cymru.

 

5.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 109 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlygodd y Cadeirydd, am y tro cyntaf ers i Gyngor Sir y Fflint ddod yn awdurdod gweinyddu, bod y Gronfa wedi rhagori ar y lefel ariannu o 100% a’i fod ar 102% yn unol â’r adroddiad.

 

            Roedd Mr Latham yn falch o adrodd ar y sefyllfa a ariannir yn llawn a chadarnhaodd fod y Gronfa wedi tyfu o £300 miliwn yn 1996 i £2.1 biliwn heddiw.Dywedodd fod hanes y sefyllfa ariannu yn rhan o ddiweddariad ariannol Mrs Fielder.

 

            Nododd y pwyntiau allweddol canlynol mewn perthynas â llwybr y Gronfa i sefyllfa sydd wedi’i hariannu’n llawn:

 

-       Credodd mai un o’r rhesymau allweddol dros y llwyddiant yw dull rheoli’r Gronfa drwy'r llwybr hedfan a’r fframwaith rheoli risg sy’n gweithredu yn ôl y disgwyl.

-       Mae hyn wedi’i gyflawni gan y Gronfa drwy bortffolio amrywiol a risg isel.

-       Mae lefel y rhagfantoli ar gyfer chwyddiant a chyfraddau llog wedi bod yn fuddiol i lwyddiant y Gronfa.

-       Mae’r amlygiad ecwiti yn darparu sicrwydd ond, er hynny, ni fu angen hynny gan fod y marchnadoedd wedi parhau i godi.

-       Drwy ragfantoli’r risg bresennol, mae’r Gronfa wedi ennill £15.8 miliwn ers dechrau’r strategaeth hon.

-       Peth arall cadarnhaol yw bod modd rhyddhau £100 miliwn arall tra’n cynnal yr un risg/adenillon cyffredinol. Gellir defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer ymrwymiadau i asedau marchnadoedd preifat cynaliadwy yn y dyfodol.

 

            Nododd Mr Middleman, gan fod y lefel ariannu dros 100%, y cytunwyd i ystyried a ddylid lleihau’r risg ymhellach ac, os felly, beth fyddai’r goblygiadau ar gyfer adenillon ac, yn y pen draw, ar lefel a sefydlogrwydd gofynion cyfraniadau cyflogwyr.Eglurodd Mr Middleman beth yw’r camau nesaf o ran ystyried unrhyw gam gweithredu y dylid ei gymryd – bydd y rhain yn cael eu trafod yn ystod cyfarfod nesaf yr FRMG.Ar dudalen 31, eitem 1.07, amlinellir y camau a’r camau gweithredu posibl nesaf i’w hystyried, sy’n cynnwys gwneud dim, lleihau’r amlygiad ecwiti a/neu gynyddu lefelau rhagfantoli – yn enwedig ar gyfer chwyddiant o ystyried yr ansicrwydd presennol.

 

Cadarnhaodd Mr Middleman fod y lefel ariannu wedi parhau i wella ac amcangyfrifir ei bod yn oddeutu 103%.

 

            Gofynnodd Mr Everett pa mor nodweddiadol yw sefyllfa ariannol y Gronfa yn erbyn Cronfeydd LGPS a chronfeydd pensiwn eraill. Cadarnhaodd Mr Middleman bod hyn yn gysylltiedig â strategaeth pob Cronfa. Er enghraifft, byddai cronfeydd pensiwn eraill sydd â dyraniad ecwiti uwch wedi gweld mwy o welliant yn y sefyllfa ariannu ac fel arall.Fodd bynnag, bydd gan y Gronfa fwy o sadrwydd o gymharu â chronfeydd pensiwn eraill oherwydd y mesurau diogelwch sydd yn eu lle e.e. rhagfantoli a strategaeth diogelu ecwiti.Felly mae’n debygol y bydd llai o sefyllfaoedd ffyniant a methiant.

 

            Credodd Mr Everett petai’r Gronfa yn dal mewn sefyllfa wedi’i hariannu’n llawn erbyn y gwerthusiad tair blynedd nesaf, y byddai angen ystyried cynnal neu leihau cyfraniadau cyflogwyr oherwydd yr heriau cyllidol ar gyfer cyflogwyr wrth gydbwyso eu cyllidebau. Cytunodd Mr Middleman bod hyn yn ystyriaeth ac ychwanegodd bod angen mwy o drafodaethau gyda chyflogwyr yngl  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Map ffordd Buddsoddiadau Cyfrifol pdf icon PDF 153 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor, er mwyn gallu trafod yr argymhellion, mewn perthynas ag atgyfnerthu ymrwymiadau newid hinsawdd y Gronfa ac argaeledd dewis buddsoddi ecwiti cynaliadwy drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd Mr Latham mai’r ddwy flaenoriaeth allweddol o ran buddsoddi cyfrifol sy’n cael eu hystyried dan yr eitem hon yw gosod a chyflawni amcanion newid hinsawdd a nodi cyfleoedd buddsoddi cynaliadwy. O ran y cyntaf o’r rhain, gofynnir i’r Pwyllgor gytuno i fabwysiadu uchelgais sero net erbyn 2050 ar gyfer strategaeth fuddsoddi’r Gronfa. Fodd bynnag, eglurodd Mr Latham mai 2050 yw’r dyddiad hwyraf i geisio cyflawni hyn a gobeithiodd y byddai dadansoddiad pellach yn eu caniatáu i osod dyddiad cynharach na 2050. Mae’r ail argymhelliad yn gofyn i’r Pwyllgor gytuno ar fap ffordd, sydd wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad pellach hwn.

 

O ran yr ail flaenoriaeth, eglurodd Mr Latham fod Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa yn credu y dylai ecwitïau cynaliadwy byd-eang ffurfio rhan sylweddol o bortffolio ecwiti'r Gronfa. Felly, amlinellodd yr argymhelliad i’r Pwyllgor wneud cais ffurfiol i PPC i gynnig Is-Gronfa Ecwiti Cynaliadwy Byd-Eang Gweithredol.O ystyried y byddai’n rhaid i’r cais hwn fynd drwy'r Cyd-Bwyllgor Llywodraethu a Chronfeydd eraill PPC, mae’r amserlen gyflawni yn debygol o fod yn 12 i 24 mis.

 

            Darparodd Mr Gaston grynodeb o’r cynnydd y mae’r Gronfa eisoes wedi’i wneud mewn perthynas â newid hinsawdd.Eglurodd fod targed sero net yn cyfeirio at gyflawni allyriadau carbon sero net drwy gydbwyso allyriadau carbon gyda gwaredu carbon.Y tri phrif reswm i fuddsoddwr fabwysiadu targed sero net yw:

 

-       Mae gwyddoniaeth newid hinsawdd yn dweud wrthym ni fod gennym ni oddeutu deng mlynedd i gyfyngu a lliniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.Ar hyn o bryd rydym ni ar drywydd i weld cynnydd o 2.9 gradd erbyn 2100. Fodd bynnag, nod Cytundeb Paris yw cyfyngu ar y cynhesu i dan ddwy radd.I gyflawni hyn mae’r IPCC – y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, yn nodi fod angen gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau o 45% erbyn 2030 (yn seiliedig ar lefelau 2010).

-       Yn ail, mae momentwm yn tyfu ar draws gwahanol randdeiliaid, marchnadoedd a thechnoleg.Er enghraifft, mae datblygiadau technoleg wedi arwain at gostau is ar gyfer cynhyrchu ynni o’r gwynt a’r haul, ac mae’r rhain yn trechu tanwydd ffosil amgen fel glo.

-       Yn olaf, mae’n bur debyg y bydd y model economaidd presennol, sy’n dibynnu ar danwydd ffosil, yn newid i fersiwn wyrddach o’r economi.

 

Dywedodd Mr Gaston mai’r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn ymwneud â’r Hinsawdd yw’r TCFD (Task Force on Climate-related Financial Disclosures).Mae hwn yn fframwaith rhyngwladol sy’n darparu nifer o argymhellion amlygiadau newid hinsawdd.Disgwylir y bydd yn ffurfio sail i’r rheoliadau LGPS newydd y bydd ar y Gronfa angen cydymffurfio â nhw.

 

Eglurodd Mr Gaston y bydd ar y Gronfa, wrth weithredu targed sero net, angen cynllun sy’n cynnwys targedau credadwy a chyraeddadwy yn ogystal â chynllun sy’n cyrraedd y targedau ariannol.Mae pedwar cam i greu cynllun:

 

1.    Cyfrifo’r waelodlin – mae hyn yn cynnwys allyriadau presennol, gallu newid ac amlygiadau gwyrdd.

2.    Dadansoddi posibiliadau portffolio er mwyn gweithredu newid ar draws portffolio drwy ddosbarth asedau.

3.    Pennu targedau mesuradwy ar gyfer lleihau allyriadau a chynyddu’r gallu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau pdf icon PDF 136 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar ôl cyflwyno ymateb y Gronfa i ymgynghoriad y Rheoleiddiwr Pensiynau ar y Cod Ymarfer newydd.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Mewn perthynas ag adran 4.01 yr adroddiad, nododd Mr Latham y risgiau presennol yn ymwneud â’r Gronfa yn ei chyfanrwydd.Ychwanegodd fod un risg goch ar draws y Gronfa, sy'n risg fuddsoddi mewn perthynas â buddsoddi cyfrifol. Wedi dweud hynny, mae gostyngiad wedi bod mewn sawl maes risg sydd, yn ei farn ef, yn beth cadarnhaol iawn o ystyried yr heriau diweddar fel COVID-19.

 

            Dywedodd Mr Latham pa mor bwysig yw hi i aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd fynd i sesiynau hyfforddiant a chynadleddau ond roedd yn sylweddoli nad yw hyn bob tro yn bosibl ar y funud ac felly holodd am farn y Pwyllgor a'r Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyried a nodi’r diweddariad.

 

8.

Diweddariad Gweinyddu Pensiwn/ Cyfathrebu pdf icon PDF 141 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd Mrs Williams at yr ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch cod newydd TPR, a gylchredwyd ar wahân.Dywedodd fod y rhan fwyaf o’r adroddiad yn ymwneud ag eitemau safonol ac felly amlygodd yr eitem ychwanegol, sef yr arolwg boddhad i gyflogwyr ac aelodau sy’n gofyn am adborth ar y ddarpariaeth gwasanaeth.

 

Diolchodd Mr Hibbert i’r tîm am eu gwaith caled a’u hymdrechion, sy’n amlwg o edrych ar y canlyniadau ardderchog yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyried a nodi’r diweddariad.

9.

Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu pdf icon PDF 123 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol ar yr eitem hon ar y rhaglen:

 

-       Mae tudalennau 187 a 188 yn amlygu cerrig milltir allweddol y Gronfa a’r lefelau ariannu hanesyddol ers 1989.

-       Gwnaeth y Gronfa dri buddsoddiad newydd yn y portffolio Marchnadoedd Preifat, yn unol â gofynion y Gronfa ar gyfer marchnadoedd preifat cynaliadwy.

-       O fewn buddsoddiadau effaith a lleol, y ddwy gronfa a gytunwyd arnynt oedd Foresight Regional Fund III a Bridges Property Fund V. Mae’r Gronfa wedi buddsoddi yn Bridges Property Fund IV yn y gorffennol.

-       Ar gyfer y portffolio Ecwiti Preifat, cymeradwyodd y Gronfa FSN Fund VI a gafodd ei hargymell gan Mercer.Mae gan y buddsoddiad hwn fanylion ESG rhagorol a nodau cynaliadwy, sy'n beth da ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

-       Mae’r dadansoddiad llif arian ar dudalen 184 yn amlinellu fod y cyfraniadau/buddion net wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod 2020/21.Fodd bynnag, mae incwm o farchnadoedd preifat wedi rhagori ar y gostyngiadau, sydd wedi helpu’r Gronfa i symud i sefyllfa lif arian iachach.Felly, gall fod gan y Gronfa fwy o arian i’w ddyrannu i fuddsoddiadau cynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn nodi’r adroddiad, yn cynnwys y diweddariad ar gyfer cyfrifoldebau dirprwyedig.

 

10.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 97 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar weithrediad Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd Mr Latham at y pwyntiau allweddol canlynol mewn perthynas â chyfuno buddsoddiadau’r Gronfa yn PPC:

 

-       Perfformiodd y Gronfa Aml-Ased a’r Gronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang yn well na’r meincnod.

-       Llwyddodd y gronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-Eang leihau amlygiad carbon 25% ym mis Ebrill a bydd y Gronfa yn parhau i dderbyn adroddiadau ar y cynnydd.

-       Bydd proses bontio’r ecwiti marchnad datblygol Wellington yn digwydd ar 6 Hydref 2021, sydd hefyd yn cynnwys gostyngiad carbon o 25%.

-       Dywedodd fod yr is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol, sy’n cynnwys Mrs Fielder fel cynrychiolydd y Gronfa ar yr is-gr?p, wedi cwblhau llawer o waith mewn perthynas â buddsoddi cyfrifol.

-       Yn ogystal, mae swyddogion y Gronfa wedi bod yn gweithio gyda PPC ar bortffolio Marchnadoedd Preifat ar y cyd â Mercer, a bydd y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ar y gwaith yma yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn nodi'r diweddariad

11.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 105 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad Economaidd a Marchnad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r diweddariad Economaidd a Marchnad.