Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: Janet_kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

84.

Ymddiheuriadau

I derbyn unrhyw ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd  Llwellyn Huw Jones, y Cynghorydd Nigel Williams, y Cynghorydd Andrew Rutherford.

 

85.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

                      Datganodd Mrs McWilliam gysylltiad gyda’r cynlluniau caffael.  Datganodd Mr Buckland, Mr Harkin a Mr Campbell gysylltiad gyda’r un eitem hefyd.   Cadarnhawyd y byddai’n rhaid i'r pedwar ohonynt adael pe byddai unrhyw drafodaethau mewn perthynas â’r testun hwn.

 

                      Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad arall.

 

86.

Cofnodion pdf icon PDF 110 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019.

                      Diolchodd Mr Hibbert i’r Cadeirydd am godi mater cynrychiolaeth aelodau’r Cynllun ar JGC WPP a nododd y byddai'n cael ei ystyried eto ym mis Ionawr 2020. Nododd y Cadeirydd byddai'n codi'r mater eto yng nghyfarfod nesaf JGC.

PENDERFYNWYD:

(a)  Derbyn a chymeradwyo cofnodion 4 Medi 2019 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

87.

Cofnodion pdf icon PDF 67 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2019.

PENDERFYNWYD:

(a)  Derbyn a chymeradwyo cofnodion 7 Hydref 2019 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

88.

Adolygiad o'r strategaeth fuddsoddi, yn cynnwys polisi buddsoddi cyfrifol pdf icon PDF 190 KB

Cyflwynocanlyniadau’r Adolygiad o’r Strategaeth fuddsoddi i Aelodau’r Pwyllgor a chytuno ar ddyraniad strategol yr asedau ac ymgynghori ar y Polisi Buddsoddi Cyfrifol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynegodd Mr Latham bwysigrwydd Dyrannu Asedau Strategol gan y bydd canlyniadau’r Prisiad Actiwaraidd nesaf yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau a wneir heddiw.  Yn ffodus, mae'r Gronfa yn dechrau gyda strategaeth amrywiol iawn felly mae'r addasiadau yn fwy o brosesau bychan nag un newid mawr.Amlinellodd y gofynnir i’r Pwyllgor gytuno ar y newidiadau arfaethedig i’r strategaeth yn y cyfarfod hwn ac yna byddai Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror.

Cyflwynodd Mr Harkin y diwygiadau arfaethedig i’r Dyraniad Asedau Strategol gan fynegi’r pwyntiau allweddol canlynol;

-       Mae’r Gronfa wedi’i hariannu’n well heddiw ond mae’r Gronfa yn parhau i fod mewn diffyg felly mae angen i ni fuddsoddi i gyflawni’r lefel ofynnol o elw.

-       Mae'r dull integredig yn golygu cael y balans cywir o Fuddsoddiadau, Cyllid a Chyfamod.  Mae’r Gronfa ar y blaen o gymharu â chronfeydd eraill gan fod strategaeth Llwybr Cyrraedd Targed eisoes ar waith, lle bo cronfeydd eraill yn dechrau meddwl am reoli risg yn awr.

-       Yr hyn sy'n allweddol yw canolbwyntio ar elw hir dymor, drwy osod dyraniad asedau yn seiliedig ar ragolygon marchnad 10 mlynedd Mercer.

-       Mae marchnadoedd preifat wedi bod yn hynod lwyddiannus ar gyfer y Gronfa; yr her yw sicrhau y gallwn barhau gyda’r hyn sydd gennym.

-       Mae’r elw a ddisgwylir yn cael ei gynhyrchu drwy ddatganiad ystadegol gan Mercer.  Bydd gan Mercer ragolygon nad ydynt yn cael eu gwireddu bob tro ond mae’n sicrhau bod dyraniad asedau yn effeithiol.

Eglurodd Mr Harkin y disgwyliwyd i’r strategaeth fuddsoddi bresennol a osodwyd yn 2016 ddarparu 6.1% y flwyddyn yn seiliedig ar ragolygon y farchnad ar y pryd.  Ond, yn seiliedig ar ragolygon y farchnad yn 2019 byddai’r elw a ddisgwylir yn gostwng i 5.4% y flwyddyn.  Y neges yw y dylid disgwyl llai o elw yn y dyfodol.  Felly, bydd yn hanfodol sicrhau bod dyraniad asedau yn gallu cyflawni elw sy’n fwy na chyfradd ddisgownt yr Actiwari h.y.  CPI a 3.2% sydd wedi’i gynnig.  Mynegodd Mr Harkin fod yr hinsawdd bresennol mewn perthynas â buddsoddiadau yn ansicr felly mae’n bwysig canolbwyntio ar y llwybr tymor hir, ond bydd hyn yn anoddach yn y dyfodol.

            Eglurodd Mr Harkin fod y cynigion allweddol wedi’u nodi yn yr adroddiad eglurhaol a’r cyflwyniad ond fe’u crynhodd yn fras fel;

  1. Buddsoddi mwy mewn marchnadoedd sydd yn dod i’r amlwg.
  2. Dadfuddsoddi’n llwyr o Gronfeydd Twf Amrywiol.
  3. Ailstrwythuro mandad Cronfeydd Mantoli.
  4.  Ail-gategoreiddio Marchnadoedd Preifat; 
  5. Creu portffolio buddsoddi lleol / effaith
  6. Adolygu Fframwaith Arian Parod a Rheoli Risg (CRMF).

            Gofynnodd y Cynghorydd Bateman beth yw Buddsoddiadau Effaith.  Nododd Mr Buckland bod y buddsoddiadau hyn yn ceisio gwneud cyfraniadau cadarnhaol i gymdeithas yn ogystal â diwallu gofynion risg / elw buddsoddiad.  Mae buddsoddiad cyfrifol yn ymwneud â sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, ond, Buddsoddiadau Effaith yw’r cam nesaf, lle byddant yn canolbwyntio ar wneud effaith gadarnhaol a chynhyrchu elw ar gyfer y Gronfa.

            Holodd Mr Hibbert sut mae’r Gronfa yn mynd i gofnodi ac adrodd yr effaith.  Nododd Mr Buckland  ...  view the full Cofnodion text for item 88.

89.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru (yn cynnwys cyflwyniadau gan Link Fund Solutions a Russell Investments) pdf icon PDF 103 KB

Rhoidiweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar weithrediad Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru a derbyn cyflwyniadau gan Link Fund Solutions a Russell Investments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Latham mai’r ymgynghorydd goruchwylio presennol yw Hymans Robertson a benodwyd ar gyfer y cyfnod sefydlu a phontio cychwynnol.   Ond, bydd y gronfa ar y cyd yn penodi ymgynghorydd ar gyfer monitro parhaus a datblygiad pellach WPP.  Bydd canlyniadau caffael yn cael eu cytuno yng nghyfarfod nesaf JGC ar 9 Rhagfyr 2019. Soniwyd hefyd na all Mr Latham na Mrs Fielder fynychu cyfarfod nesaf y JGC oherwydd amseru'r cyfarfod.

 

            Darparodd Mr Gough drosolwg bras o’i rôl sef rheolwr perthynas yn Link Fund Solutions ac mae’n gyfrifol am ddiogelwch a goruchwylio’r Gronfa.  Mynegodd Mr Gough y pwyntiau allweddol canlynol yngl?n â’r WPP;

-       Mae Cronfeydd Cyfran 1 yn cynnwys dwy gronfa ecwiti a ddechreuodd ar ddiwedd 2017.

-       Cymeradwyodd FCA y Cronfeydd ym mis Gorffennaf 2018.

-       Roedd diwrnod cyntaf rheolwyr WPP ym mis Medi 2018.

-       Cafwyd lansiad cyntaf y Gronfa ym mis Ionawr 2019.

-       Penodwyd BlackRock i bontio'r cronfeydd incwm sefydlog.

-       Mae Karl Midl wedi gweithio i Link Fund Solutions ers dros 20 mlynedd ac wedi’i benodi fel Rheolwr Gyfarwyddwr Link Fund Solutions ers canol 2019.

-       Mae cronfa ecwiti twf byd-eang yn fwy cyfarwydd i’r WPP ac mae 3 rheolwr gwaelodol (roedd 2 o’r rhain yn reolwyr presennol).

-       Y gronfa ecwiti cyfleoedd byd-eang yw Cronfa Syniadau Gorau Russell Investments gyda 7 o reolwyr gwaelodol.

 

            Holodd Mr Hibbert a yw WPP wedi cytuno i rannu costau a sut y cânt eu rhannu.  Nododd Mr Gough o ymagwedd pwynt pontio, bydd pob awdurdod yn gyfrifol am ail-lunio eu portffolio.  Felly, mae'r gost yn gymesur â maint pob Cronfa.  Nododd Mrs Fielder fod ganddi fanylion yr holl gostau hyn ac y gall nodi cyfanswm y cost pontio.  Crybwyllodd mai’r unig gost sy’n cael ei rhannu’n gyfartal ar draws yr wyth Cronfa yw cost llywodraethu.

 

            Ail-bwysleisiodd Mr Mandich tri amcan cydgyfrannu yr oedd yr WPP yn eu gweithredu:

  1. Creu graddfa.
  2. Galluogi cyd-fuddsoddi.
  3. I roi gwell strwythur llywodraethu yn ei le.

 

            Pwysleisiodd bod y Gronfa yn gronfa lai mewn cyd-gronfa fwy ond yn y pendraw mae hyn wedi cynorthwyo'r Gronfa i arbed arian, drwy gael cost is drwy faint mwy.

 

            Roedd yr adolygiad o berfformiad ar sleid 8 y cyflwyniad yn dangos mai elw net dros ben hyd yma yw 0.92%, sy'n cynrychioli o ganol mis Chwefror 2019 hyd ddiwedd Hydref, ac mae hyn yn ddechrau gwych.

 

            Cadarnhaodd Mr Gough bod Cyfran 1 a 2 wedi'u cwblhau.  Cyfran 3 yw cronfa incwm sefydlog gyda Hymans Robertson wedi’u penodi fel ymgynghorwyr pontio ac maent yn dymuno lansio hyn ym mis Ionawr 2020.

 

            Ar sleid 16, nododd Mr Mandich eu bod y cyflogi 5 i 6 o reolwyr ar gyfer Is-gronfa'r Farchnad sy'n dod i'r amlwg i gyflawni patrwm llyfn o elw.

 

            Gofynnodd Mrs McWilliam i Mr Gough egluro risgiau'r digwyddiad diweddar yn ymwneud â Woodford Investment Management i'r Pwyllgor.  Nododd Mr Gough bod cyfyngiadau o ran yr hyn y gall ei ddweud ond mae hyn yn parhau.  Mae Neil Woodford yn reolwr buddsoddi sy’n ymwneud â nifer o Gronfeydd,  ...  view the full Cofnodion text for item 89.

90.

Prisiad Actiwaraidd 2019 pdf icon PDF 97 KB

Rhoidiweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda'r Prisiad Actiwaraidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Darparodd Mr Middleman ddiweddariad byr ar Brisiad Actiwaraidd 2019.  Nododd bod popeth yn mynd yn dda hyd yma a bod Mercer wrthi yn cytuno ar gyfraniadau terfynol gyda chyflogwyr.  Daeth cyfnod ymgynghori Datganiad y Strategaeth Gyllid (FSS) i ben ar 15 Tachwedd, ond mae adborth gan gyflogwyr yn cael ei gasglu a bydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor mis Chwefror i roi cymeradwyaeth derfynol ar gyfer yr FSS.  

           

            Pwynt trafod allweddol oedd lwfans ar gyfer dyfarniad McCloud.  Y diweddariad ar ddyfarniad McCloud yw na fydd unrhyw ddatrysiad yn hysbys tan Ebrill 2021 ar y cynharaf.  Roedd Mr Middleman yn amau y byddai’n hwyrach na hyn ond y byddai yn cael ei gyflwyno mewn pryd ar gyfer y prisiad actiwaraidd nesaf yn 2022.

 

            Agwedd allweddol fodd bynnag yw’r gwaith gweinyddol sy'n ofynnol i weithredu’r newidiadau ac fe ddisgwylir iddynt fod yn sylweddol.   Argymhellodd yn gryf bod Cronfeydd yn trafod gyda chyflogwyr ac yn gofyn am ddata aelodau ar gyfer aelodau yr effeithir arnynt gan ddyfarniad McCloud.  Bydd angen i’r tîm gweinyddol roi hyn ar yr agenda yn awr i roi digon o amser.   Nododd Mrs Williams ei fod eisoes yn uchel ar yr agenda ar gyfer y tîm.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Nododd y Pwyllgor yr adroddiad ar y canlyniadau a’r cynnydd sy’n cael ei gyflawni gyda'r prosiect prisiad actiwaraidd.

91.

Diweddariad Adolygiad AVC 2019 pdf icon PDF 117 KB

Rhoi diweddariad I Aelodau’r Pwyllgor ar ganlyniadau’r Adolygiad o’r CYG.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Darparodd Mr Buckland grynodeb byr o’r digwyddiadau o ran Adolygiad AVC 2019.  Ar hyn o bryd mae 600 o aelodau’r Gronfa gydag AVC gyda Prudential a 6 aelod y Gronfa gyda AVC gydag Equitable Life.  Fel y nodwyd yn y cyfarfod diwethaf bydd cronfeydd Equitable Life yn cael eu trosglwyddo i Utmost Life.  Y cam nesaf ar gyfer buddsoddiadau Equitable Life yw gwrandawiad llys a ddechreuodd yr wythnos ddiwethaf, lle y ceisir cymeradwyaeth ffurfiol i weithredu’r newidiadau.   Gan dybio y ceir cymeradwyaeth, bydd hyn yn weithredol o'r 1 Ionawr 2020. Mae cyfres o nodiadau gwybodaeth a fydd yn cael eu hanfon at aelodau yn rhoi gwybod iddynt am y newidiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r atodiad cysylltiol.

92.

Diweddariad llywodraethu (ar ôl eitem 87) pdf icon PDF 181 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      O ran yr eitem hon ar y rhaglen, pwysleisiodd Mr Latham adroddiad cam 2 Llywodraethu Da SAB a gyhoeddwyd ar 15 Tachwedd ac sydd ynghlwm yn Atodiad 4.  

 

            Yna eglurodd bod gofynion CMA ym mharagraff 1.06 yn ymwneud â'r strategaeth fuddsoddi a'r fframwaith rheoli risg.  Mae angen dwy gyfres o amcanion ac argymhellir y dylid dirprwyo'r swyddogaeth o bennu’r amcanion hyn i Mr Latham a Mrs Fielder.

            O ran paragraff 1.09, cadarnhaodd Mr Latham bod arolwg blynyddol y Rheoleiddiwr Pensiynau wedi’i anfon.  

            Cyfeiriodd Mr Hibbert at nodyn cyfarfod SAB LGPS o'r 6 Tachwedd 2019 a holi a oedd llythyr wedi’i dderbyn gan WPP yngl?n â Chronfeydd sy'n cydgyfrannu sydd heb Gynrychiolydd Aelod y Cynllun.  Nid oedd Mr Latham a Mrs Fielder yn gwybod a dderbyniwyd llythyr ond byddant yn cadarnhau ac yn adrodd yn ôl i Mr Hibbert.

            Nododd Mr Latham bod y polisi hyfforddiant wedi’i ddiweddaru ac yn benodol y cyfarfod LGA ym mis Ionawr 2020 a chyfarfod LGC ym mis Mawrth 2020 y gallai aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd eu mynychu.

            Nododd y tor-rheolau, a bod tuedd gyffredinol tor-rheolau yn adlewyrchu bod y nifer yn lleihau sy’n gyfeiriad cadarnhaol ar gyfer y Gronfa.

PENDERFYNWYD:

(a)  Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad a chyflwyno sylwadau, gan nodi argymhellion cam 2 Llywodraethu Da SAB (paragraff 1.08). Atgoffwyd y Pwyllgor hefyd i gadarnhau a fyddant yn mynychu'r ddwy gynhadledd fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.12.

(b)  Cymeradwyodd y Pwyllgor y defnydd o ddirprwyaeth frys i gyflawni penodiad Ymgynghorydd Buddsoddi a’r Ymgynghorydd Annibynnol yn ystod mis Mawrth 2020 fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.01.

(c)  Cymeradwyodd y Pwyllgor bod gosod amcanion at ddibenion CMA yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a Dirprwy Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yn unol â’r atodlen newydd o ddirprwyaethau (fel y nodir ym mharagraff 1.06).

 

93.

Diweddariad cynllun pensiwn llywodraeth leol pdf icon PDF 102 KB

Darparu gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y materion sy’n effeithio ar reolaeth y CPLlL ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Nodwyd yr adroddiad ac ni chafwyd unrhyw gwestiynau pellach.

 

PENDERFYNWYD:

(a)  Nododd aelodau’r Pwyllgor yr adroddiad hwn a gwneud eu hunain yn ymwybodol o’r gwahanol faterion sy’n effeithio ar yr LGPS a’r Gronfa.

 

94.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf O Ran Gweinyddu A Gohebiaeth (Ar Ôl Eitem 91) pdf icon PDF 134 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a’r argymhellion i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu Cronfa Bensiynau Clwyd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Darparodd Mrs Williams wybodaeth am eitemau yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu o’r chwarter diwethaf.  Mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar Gynllun Busnes 2019/20.  Nododd Mrs Williams efallai y bydd terfynau amser yn llithro wrth weithredu newidiadau buddion goroeswyr oherwydd bod angen i’r tîm gweinyddol fynd yn ôl drwy’r holl aelodau yn y Gronfa i benderfynu a oedd gan yr aelodau unrhyw berthynas ac felly unrhyw fuddion goroesi yn y Gronfa.

  

                      Roedd ymarfer cysoni GMP yn cael ei ddarparu’n allanol gan Equiniti ac mae’n awr yn y cam olaf.  Roedd yr ymarfer yn cynnwys cadarnhau bod cofnodion GMP HMRC yr un fath â’r Gronfa.  Bu heriau yn yr ymarfer a bydd yn cynnwys yr angen i ad-dalu tandaliadau ac ystyried adennill gordaliadau ar gyfer rhai pensiynwyr ac aelodau dibynnol, ynghyd â chynyddu neu ostwng pensiynau yn y dyfodol. Oherwydd y terfynau amser tynn, gofynnir i’r Pwyllgor ganiatau gwneud y penderfyniadau hyn drwy ddirprwyaethau brys, ac yna byddai diweddariad yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod ym mis Chwefror.

                      Holodd Mr Hibbert am y cynllun o ran ad-ennill unrhyw ordaliadau y mae'r Gronfa wedi'i gwneud i bensiynwyr o ganlyniad i GMP anghywir.  Awgrymodd Mrs McWilliam ei bod yn hynod debygol mai’r penderfyniad fydd na fydd y Gronfa yn ceisio ad-daliad ar gyfer unrhyw ordaliadau.  Mae’r ymagwedd hon wedi’i hargymell gan LGA yn dilyn awgrym gan y Llywodraeth.   Cadarnhawyd hefyd na fydd y DWP yn ad-dalu unrhyw ordaliadau oherwydd data anghywir.

                      Nododd Mrs Williams bod y Gronfa yn gobeithio gweithredu popeth erbyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror fel nad yw'r Gronfa yn wynebu cyfnod cynnydd pensiwn arall h.y.  Ebrill 2020.

                      Ar dudalen 170, gofynnodd y Cynghorydd Bateman am y wybodaeth ddiweddaraf o ran y broses recriwtio.  Nododd Mrs Williams y bu nifer o gyfweliadau mewnol ac fe gafwyd dau ymgeisydd llwyddiannus.  Roedd y ddau wedi darparu cyfweliad cryf felly byddai’r swydd yn cael ei rhannu rhwng y ddau ymgeisydd.  Mae gan un swydd ran-amser yn y tîm ymddeoliad, a bydd un yn gweithio gyda’r tîm agregu yn rhan-amser.  Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth y Gronfa yn nodi bod angen mwy o rolau arweiniol, felly roedd Mrs Williams yn credu y byddai hyn yn gweithio'n dda iawn.

                      Ychwanegodd Mrs Williams bod seiberdroseddu'n risg newydd, bydd y Gronfa yn ceisio rhagor o wybodaeth gan Sir y Fflint am hyn.

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Pwyllgor wedi ystyried y diweddariad a gwneud sylwadau

(b)  Nododd y Pwyllgor y gofyniad i ymestyn y terfynau amser mewn perthynas â gweithredu buddion goroeswyr (A6) fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.01.

(c)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r defnydd o weithdrefn dirprwyaeth frys i symud ymlaen ag eitemau A3 (Polisi tan/gordalu) ac A8 (cysoni GMP).

 

 

95.

Diweddariad Ar Fuddsoddi Ac Ariannu pdf icon PDF 106 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Nodwyd yr adroddiad ac ni chafwyd unrhyw gwestiynau pellach.  Nododd Mrs Fielder o safbwynt y Gronfa nad yw'r Templedi Tryloywder Costau Newydd mor dryloyw â’r rhai yr oedd y Gronfa yn eu cynhyrchu.   I godi ymwybyddiaeth, mae Mrs Fieder mewn cyswllt â'r PLSA a'r LGA gan ei bod yn credu efallai bod problem gyda'r templedi.

 

PENDERFYNWYD:

(a)  Ystyriodd a nododd y Pwyllgor yr adroddiad ar gyfer cyfrifoldebau dirprwyol.

 

 

96.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a y Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb gan y Rheolwr pdf icon PDF 100 KB

Diweddariadar yr Economi a'r Farchnad a y Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb gan y Rheolwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Nodwyd yr adroddiad ac ni chafwyd unrhyw gwestiynau pellach.

 

PENDERFYNWYD:

(a)  Nododd y Pwyllgor ddiweddariad y Farchnad ac Economaidd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019, sy'n nodi'r sefyllfa ar gyfer y Strategaeth Fuddsoddi a chrynodeb Perfformiad Rheolwyr.

(b)  Nododd y Pwyllgor y Strategaeth Fuddsoddi a chrynodeb Perfformiad Rheolwyr ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019.

 

97.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf O Ran Cyllido, Llwybr Cyrraedd Targed A Fframwaith Rheoli Risg pdf icon PDF 122 KB

Darparu’rwybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cynnydd y Strategaeth Rheoli Arian Parod a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Nodwyd yr adroddiad ac ni chafwyd unrhyw gwestiynau pellach.

 

PENDERFYNWYD:

(a)  Nodwyd yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido (ar hyn o bryd ar dybiaethau sy’n cyd-fynd â phrisiad 2016) a’r sefyllfa o ran mantoli ar gyfer y Gronfa, a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

(b)  Nodwyd effaith y strategaeth amddiffyn ecwiti.

(c)  Nododd y Pwyllgor bod unrhyw risg arian cyfred sy’n gysylltiedig â gwerth y farchnad ar gyfer portffolio ecwiti synthetig gyda’r strategaeth Llwybr Cyrraedd Targed wedi’i fantoli, mae mantoli pellach wedi’i osod ar ddaliad ecwiti ffisegol marchnad ddatblygedig y Gronfa.