Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

99.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro newydd.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Palmer ei fod wedi cwblhau’r buddiannau sy’n gwrthdaro.

 

100.

Cofnodion pdf icon PDF 100 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 29 Tachwedd 2017

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2017.

PENDERFYNWYD:

Cytunwyd y gellid derbyn, cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion gan y Cadeirydd.

 

101.

Rhaglen

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd nad oedd y diweddariad arferol wedi’i gynnwys, gan mai’r prif eitemau oedd y tri chyflwyniad gan y siaradwyr gwadd.Yr unig ddiweddariad a gafwyd oedd yr un yn ymwneud â Chronfa Bensiynau Clwyd ar eitem 7 ar y rhaglen. 

Fe wnaeth y Cadeirydd drosglwyddo i Mr Latham ar gyfer cyflwyniad byr. 

Nododd Mr Latham, er bod y tri chyflwyniad yn wahanol, roeddent â chysylltiad agos â'i gilydd o ran sut roedd buddsoddiadau'n cael eu rheoli a sut y mesurir ac y meincnodir perfformiad o ran risg yn erbyn enillion.   Byddant yn darparu sail dros ddadl ar gyfer y cyfarfod hwn, yn ogystal â chyfarfodydd y dyfodol.

Byddai’r ddau gyntaf yn edrych ar berfformiad buddsoddiad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS); mae’r cyflwyniad cyntaf yn ystyried pa mor dda y perfformiodd yr LGPS yn ei gyfanrwydd o safbwynt buddsoddi a pham, tra bod yr ail yn ystyried sut mae'r Gronfa'n cymharu â'i chymheiriaid ac yn edrych ar yr effaith ar berfformiad buddsoddi a chostau i'r Gronfa ar gyfer ein hathroniaeth risg is.

Roedd y trydydd cyflwyniad gan weithredwr newydd Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP), i ddangos y broses o benodi rheolwyr buddsoddi drwy’r WPP, oherwydd ni fyddai hynny’n dod o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor yn y pen draw.

Atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor mai prif nod y strategaeth yw darparu enillion digonol ar fuddsoddiad i dalu am bensiynau am sawl blwyddyn i’r dyfodol, wrth geisio cynnal cost cyflogwr sefydlog. I wneud hyn, mae angen i’r Gronfa gyflawni neu guro’r rhagdybiaeth buddsoddi actiwaraidd ar gyfer enillion dros CPI yn y tymor hir, ond nid yw hynny’n golygu'r enillion buddsoddi uchaf posibl drwy gymryd risg annerbyniol. 

 

102.

Perfformiad Buddsoddiad y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Derbyn cyflwyniad gan PIRC yn edrych ar berfformiad o ran buddsoddiad ar draws y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Cofnodion:

Croesawyd David Cullinan o PIRC gan y Cadeirydd i gyflwyno’r perfformiad buddsoddiad ar draws byd yr LGPS i’r Pwyllgor.

Yn ystod y cyflwyniad, codwyd nifer o sylwadau a chwestiynau gan y Pwyllgor a swyddogion/ymgynghorwyr.

Cyflwynodd Mr Cullinan ei hun a rhoddodd grynodeb byr i’r Pwyllgor am PIRC.Ei gred ef oedd bod safbwyntiau negyddol yn y wasg o amgylch perfformiad LGPS ac fe heriodd y safbwyntiau hyn.Dyma’r pwyntiau allweddol o’r cyflwyniad;

  • Roedd yr ystadegau a ddangoswyd yn seiliedig ar ffeithiau nid barn, ac mae 60 Cronfa’n cyfranogi yn y byd LGPS.
  • Roedd perfformiad y 12 mis diwethaf wedi bod yn gadarnhaol iawn (21.4%), wedi’i hybu’n bennaf gan ecwitïau
  • Dros y tymor hwy, dim ond 6 allan o’r 30 mlynedd diwethaf a oedd wedi cael enillion buddsoddi negyddol.
  • Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r enillion asedau wedi bod yn gadarnhaol iawn gydag enillion real yn fwy na chwyddiant o 6% p.a.
  • Felly nid oedd perfformiad asedau’n broblem gydag ariannu; gyda’r costau dyledion y cafwyd y materion.
  • Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae'r dyraniadau asedau yn yr LGPS wedi dod yn fwy cymhleth, gan symud o asedau traddodiadol (ecwitïau/bondiau), gydag ychydig o reolwyr, i strwythurau sy’n fwy cymhleth (10 rheolwr neu fwy a rheolaeth fwy gweithredol), ond mae’r rheolaeth weithredol hon wedi ychwanegu c0.4% pa at yr enillion.
  • Mae yna gyswllt cadarnhaol rhwng risg ac enillion fel y disgwylir o bosibl
  • Ymddengys bod peth effaith enillion ychwanegol ar gyfer Cronfeydd mwy (yn ôl maint ased) dros y tymor hir, ond mae hyn yn debygol oherwydd symudiad cyflymach at asedau amgen fel ecwiti/eiddo preifat, a gallu rheoli mewnol o bosibl yn lleihau ffioedd. Mae’r fantais hon o ran perfformiad wedi erydu llawer yn fwy diweddar.
  • Dylai cyfuno ar draws Cymru a Lloegr ddarparu arbedion maint (yn cynnwys rheolaeth fewnol) a mynediad at ddewisiadau buddsoddi ehangach.
  • Anodd dweud ar hyn o bryd a fydd cyfuno'n darparu elfennau Llywodraethu a Penderfyniadau cryfach, ond mae'n hanfodol bod gan y gweithredwr brosesau cadarn o amgylch tryloywder cost a dewis rheolwyr. Dylid nodi nad yw ffioedd is yn fesuriad o werth am arian – yr enillion net o ffioedd sy’n bwysig.
  • Mae gwahanol Gronfeydd gyda gwahanol amcanion o bosibl e.e. Llundain yn lleihau niferoedd a chostau rheolwyr ond Cymru’n denu maint ar gyfer mynediad rhatach i ddosbarthiadau ased penodol.

Gwnaed nifer o sylwadau a holwyd cwestiynau i gael eglurhad.

Holodd Mr Everett sut y gellir mesur a yw’r Gronfa’n gordalu am rai gwasanaethau buddsoddi a sut mae’r Gronfa’n gwerthuso ffioedd i gael gwerth am arian.Nododd Mr Cullinan y bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y cyflwyniad nesaf, ond yn ei farn ef, gellid ei wneud drwy gymharu enillion gros ac enillion net, er bod hyn yn fesuriad bras, felly mae angen cadw ffactorau eraill mewn cof e.e. gwahaniaethau mewn dyraniadau, proffiliau risg a gwerth a ychwanegwyd.

Holodd y Cynghorydd Llewelyn-Jones ynghylch yr annibyniaeth sydd gan WPP h.y. a fydd pwysau gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd yng Nghymru.Ymatebodd Mr Everett i’r ymholiad  ...  view the full Cofnodion text for item 102.

103.

Perfformiad a Risg Buddsoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd

Derbyn cyflwyniad gan CEM Benchmarking ar berfformiad buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Clwyd

 

Cofnodion:

Croesawyd John Simmonds o CEM benchmarking gan y Cadeirydd i gyflwyno’r cwmni, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad buddsoddi Cronfa Bensiynau Clwyd.Cyflwynodd Mr Simmons CEM benchmarking a nododd ei fod yn bodoli’n bennaf i gymharu costau gweithredu Cronfeydd Pensiynau mawr o amgylch y byd.Nododd fod 150 o’r Cronfeydd Pensiwn uchaf yn gweithio gyda CEM benchmarking.Maent ar hyn o bryd yn meincnodi 33 Cronfa LGPS.

Maent yn cymharu perfformiad Cronfa Bensiynau Clwyd gyda gweddill yr LGPS.Y pwyntiau allweddol a anerchwyd gan Mr Simmonds oedd;

  • Dau fetrig allweddol: perfformiad yn erbyn Cronfeydd eraill, ac yn bwysicach, yn erbyn y dyledion
  • Amcan Cyfuno’n bennaf yw cyflawni arbedion maint.
  • Enillion net buddsoddi Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2017 oedd 21.5%, a oedd yr un peth â chanolrif LGPS ar gyfer y flwyddyn honno.
  • Roedd yr enillion net 5 mlynedd ychydig yn is na’r canolrif dros 5 mlynedd ond yn well na’r canolrif dros 3 blynedd.
  • Yr “enillion polisi” yw’r enillion o’r penderfyniadau dyrannu asedau a fydd yn parhau i fod o fewn y Pwyllgor Cronfeydd Pensiwn ar ôl cyfuno. Ar gyfer y Gronfa, mae’r rhain o dan y canolrif yn bennaf oherwydd y dyraniad ecwiti is dros y cyfnodau a fesurir.
  • Cydran hanfodol yw’r lefel o risg fel mesuriad yn erbyn y dyledion. Yn seiliedig ar y mesuriad hwnnw, gellir gweld bod y Gronfa ar ei lefel isaf o risg, sy’n gadarnhaol gan fod hynny’n golygu bod canlyniadau diffyg ariannol yn fwy rhagweladwy (gyda phopeth yn gyfartal)
  • Roedd gwerth ychwanegol net ar gyfer y Gronfa o reolaeth weithredol yn y chwartel uchaf.
  • Mae costau buddsoddiadau yn erbyn gr?p cymheiriaid yn uwch na’r cyfartaledd, ond mae hyn yn adlewyrchiad o gymysgedd asedau. Os ceir gwared ar hyn drwy normaleiddio yn erbyn portffolio meincnodi, mae’r gwahaniaeth mewn cost yn llawer llai.
  • Mae costau’n debygol o gynyddu i Gronfeydd eraill wrth i’r cronfeydd gael mwy o fynediad at y farchnad breifat a buddsoddiadau amgen.
  • Mae “effeithiolrwydd cost” y Gronfa h.y. Gwerth ychwanegol net yn erbyn cost yn dangos bod y Gronfa’n cael gwerth ychwanegol cadarnhaol ar gyfer y gost a warir (yn faterol dros y 12 mis diwethaf),

 

Holodd Mrs McWilliam Mr Simmonds am y broses y mae’n mesur ac yn penderfynu ynghylch y ffactor risg.Eglurodd Mr Simmons eu bod yn profi ar y berthynas rhwng y dyledion yn erbyn lefel y cyfnewidioldeb o risg ased.Holodd Mrs McWilliams a oedd swyddogion wedi’u synnu o wybod lle’r oedd y Gronfa’n eistedd wrth gymharu lefel ariannu gyda risg camgymhariad ased-dyled. Cadarnhaodd Mr Latham y byddai hyn i’w ddisgwyl o ystyried lefel y ffocws ar reoli risg drwy'r Flightpath.

 

Holodd Mr Everett a oedd y sefyllfa a ddangosir yn y man y dymunai’r Gronfa fod. Cadarnhaodd Mr Middleman mai amcan y Gronfa oedd rheoli risg i roi mwy o ganlyniadau sefydlog i gyflogwyr wrth i’r goddefgarwch i gyfnewidioldeb sy’n cyfrannu leihau’n fawr wrth i gyllidebau leihau.  Mae sefyllfa’r risg berthynol is yn bodloni’r amcan hwnnw, felly mae mewn sefyllfa y dymuna’r Gronfa fod,  ...  view the full Cofnodion text for item 103.

104.

Cyfuno Asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Weithredydd Partneriaeth Pensiwn Cymru ar weithredu’r asedau cyfun a’r gronfa.

 

Cofnodion:

Croeswyd Sasha Mandich (Russell Investments) a Duncan Lowman (Link Fund Solutions) gan y Cadeirydd, a llongyfarchodd Link a Russell ar eu penodiad fel gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP).Diolchodd Mr Lowman i’r Cadeirydd, cyflwynodd Link a Russell a nodi’r rhaglen yn gryno. Eglurodd Mr Lowman y bydd Link yn gweithredu’r gronfa ar ran WPP a bydd Russell Investments yn cynghori’r WPP ar ddewis rheolwr. Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o’u busnesau a phrofiad yn y meysydd hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Palmer, fel aelod newydd o’r Pwyllgor, i’r cyflwynwyr egluro ystyr yr acronymau yn ystod y cyflwyniadau.

 

Mae’r Gronfa yn Gynllun Contractiol Awdurdodedig (ACS) yr FCA, gan ddefnyddio Northern Trust fel y ceidwad a’r gweinyddwr.  Byddai’r rheolwyr buddsoddi’n cael eu penodi i’r platfform.Budd strwythur ACS yw ei fod yn bosibl adennill treth e.e. treth ar ddifidendau nad oes modd eu hadennill o dan drefniadau eraill.

 

Mae amcanion y WPP yn hanfodol i sefydliad y trefniadau cyfuno, sef:

 

  • I ganiatáu pob Cronfa (trwy’r defnydd o is-gronfeydd) i weithredu eu strategaeth buddsoddi eu hunain, sy’n parhau i gael ei phennu gan y Pwyllgor ar gyfer Cronfa Clwyd
  • I leihau a rheoli costau a gwneud y gorau o effeithiolrwydd treth
  • Caniatáu mynediad i reolwyr asedau gorau, sy'n ategu at ei gilydd drwy drefniadau llywodraethu gwell y pennir drwy'r WPP drwy ei strwythur llywodraethu
  • Gwella maint drwy gael mynediad at gronfa fwy o asedau a mabwysiadu arferion gorau o ran rheolaeth portffolio

 

Cam cyntaf y prosiect fydd gweithredu is-gronfeydd Ecwiti Byd-eang gan mai dyma’r Asedau o dan Reolaeth (AUM) mwyaf ledled Cymru. Y dyddiad targed i gymeradwyo’r rhestr o reolwyr yw 15 Mawrth. Mae trafodaethau ffi gyda’r rheolwyr yn mynd rhagddynt. Mae yna gynllun prosiect (fel y crynhoir yn y sleidiau) sy’n targedu cyflwyniad yr FCA ar 1 Mai.

 

Holodd Mrs McWilliam a oeddent wedi penderfynu ar reolwyr y Gronfa a phwy sy’n gwneud y penderfyniad hwn.Cadarnhawyd y caiff y penderfyniad hwn ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu mewn ymgynghoriad â Russell and Link. Holodd Mrs McWilliam hefyd a oedd yn realistig bod cymeradwyo rheolwr ecwiti'n cael ei gwblhau erbyn 15 Mawrth.Cadarnhaodd Mr Lowman, yn ei farn ef, bod hyn yn realistig a bydd mwy o drafodaethau’n cael eu cynnal ddydd Llun 26 Chwefror a fydd yn trafod yr opsiynau amrywiol.

 

Cyflwynodd Mr Mandich i’r Pwyllgor, a thynnodd sylw at y pwyntiau allweddol;

 

  • O fewn pob is-gronfa, yn hytrach na phenodi un rheolwr, gall Link a Russell helpu’r Gronfa i amrywio’r risg rheolwyr.Gwneir hyn drwy gynnig rhestr o reolwyr sy’n ategu at ei gilydd, gan mai'r nod yw cael enillion marchnad gwell na'r canolrif, ond sy'n risg is oherwydd amrywiaeth.
  • Crynhowyd manylion dull ymchwilio i reolwyr Russell, sy’n gyfuniad o’r 4 P o ymchwil rheolwyr – Ansoddol (Pobl a Phroses) a Meintiol (Portffolio a Pherfformiad).
  • Tynnwyd sylw at y ffaith bod perfformiad y gorffennol yn ddangosydd gwael o berfformiad y dyfodol.Felly nid ydynt yn sgorio rheolwr ar eu perfformiad yn y gorffennol; maent yn ei seilio ar berfformiad disgwyliedig yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 104.

105.

Diweddariad ar Gronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 130 KB

Rhoi crynodeb lefel uchel i Aelodau'r Pwyllgor am faterion sy’n ymwneud â'r Gronfa a diweddariad ar ddefnyddio dirprwyaethau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Symudodd y Cadeirydd ymlaen i’r eitem olaf ar y rhaglen, a oedd yn ddiweddariad cyffredinol ar Gronfa Bensiynau Clwyd ers cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor.

 

O ran yr adran Lywodraethu 1.01, rhoddwyd sylw bod angen trefnu dyddiadau er mwyn cynnal hyfforddiant.Dywedodd Mrs McWilliam y byddai e-bost yn cael ei gylchredeg gydag opsiynau, ac mai’r flaenoriaeth allweddol oedd cael dyddiadau a fyddai’n addas i’r aelodau mwyaf newydd.Yr amcan yw cael 2 ddiwrnod hyfforddiant, un ym Mawrth ac un yn Ebrill.

 

Cyfeiriodd Mr Latham at adran 1.04; nododd y bydd y gweinidog newydd, Rishi Sunak AS, yn gyfrifol am osod y ddeddfwriaeth LGPS newydd.Mae Mr Sunak yn awyddus gyda gwybodaeth gefndir am gyfuno a buddsoddiadau, ac yn edrych ar gynaliadwyedd yn yr LGPS a beth mae’n ei olygu i awdurdodau.

 

Roedd Adran 1.05 yn crynhoi rhaglen Bwrdd Ymgynghori'r Cynllun (SAB) cyfredol. Crybwyllodd Mr Latham mai un maes a oedd wedi dychwelyd i’r rhaglen mewn trafodaethau cenedlaethol diweddar oedd gwahaniad y Cronfeydd LGPS oddi wrth y Cyngor fel endidau cyfreithiol. Rhoddir unrhyw ddiweddariadau pellach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Nododd Mr Latham y bydd y newid o Lywodraeth Cymru i eithrio cyfrifon y Gronfa Bensiwn o gyfrifon y Cyngor yn effeithio ar ddulliau cymeradwyo ar y ddwy gyfres o gyfrifon ac mae'r amseriad yn cael ei drafod.  Mae hyn yn effeithio Cronfeydd Cymreig (nid Seisnig) yn unig, felly byddai angen ystyriaeth ar draws Cymru o bosibl i’w wneud mor hawdd â phosibl.

 

Cyfeiriodd Mr Middleman at adran 1.07 a dywedodd bod y lefel ariannu wedi disgyn ers hynny i 89% oherwydd y gostyngiad mewn marchnadoedd ecwiti, sydd yn dal yn llawer ar y blaen o lle rydym yn disgwyl i’r Gronfa fod.Roedd hyn yn pwysleisio’r pwysigrwydd o'r amddiffyniad ecwiti sydd gan y Gronfa yn ei lle i reoli'r risg o ostyngiad mawr mewn marchnadoedd.Fel yr adroddwyd yn flaenorol, mae strwythur hyn yn cael ei ailystyried cyn i'r trefniant presennol ddod i ben yn Ebrill.

 

Nododd Mr Harkin, ar ddiwedd Ionawr 2018, fod asedau'r Gronfa dros £1.8 biliwn.Nododd hefyd fod Cronfeydd LGPS eraill hefyd wedi bod yn ystyried amddiffyniad ecwiti fel rhan o reolaeth risg.

 

Holodd y Cynghorydd Llewelyn-Jones i Mr Harkin roi eglurhad pellach o ran tudalen 50, paragraff 2 o gasgliad y diweddariad Economaidd a Marchnad h.y. a all y twf cyfredol barhau ac a all banciau canolog ei fforddio.  Eglurodd Mr Harkin mai'r allwedd yw a ydy banciau'n gallu fforddio rhagor o esmwytho meintiol (QE) i ysgogi’r economi os oes angen. Mae hyn yn sicr wedi’i gwtogi’n ddiweddar.Yn yr un modd, mae'r hyn a wnaiff y Llywodraeth gyda pholisi ariannol (cyfraddau llog) yn bwysig.  Ar hyn o bryd, ymddengys fod Llywodraethau a Banciau’n cefnogi ysgogiad parhaus, felly nid oes unrhyw arwyddion syth o ddirywiad neu ddangosyddion dirwasgiad, er bod economïau gwahanol mewn safleoedd gwahanol.   I’r Gronfa bydd chwyddiant yn allweddol oherwydd mae enillion asedau’n gorfod o leiaf cyfateb i unrhyw gynnydd mewn chwyddiant, fel arall gallai costau gynyddu.

 

Cododd y Cadeirydd adran 1.12 o ran  ...  view the full Cofnodion text for item 105.