Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702321  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

70.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys gwrthdaro buddiannau)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny

 

Cofnodion:

Rhoddodd Mrs McWilliam (Ymgynghorydd Annibynnol – Aon Hewitt) gyflwyniad ar Bolisi Gwrthdaro Buddiannau a chofrestr datganiadau o fuddiant y Gronfa Bensiwn.  (Dosbarthwyd copi o’r cyflwyniad i’r aelodau).  Fe esboniodd bod yn rhaid i holl Aelodau a swyddogion y Pwyllgor gwblhau ffurflenni datganiadau o fuddiant.  Esboniodd bod angen i Gynghorwyr wneud hyn yn ogystal â’r gofynion datganiadau o fuddiant sydd wedi’u cynnwys yng Nghod Ymddygiad y Cyngor.

Dywedodd Mrs McWilliam bod angen i aelodau’r Pwyllgor Cronfa Bensiwn fod yn ystyriol o wrthdaro buddiannau posibl wrth wneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â Chronfa Bensiwn Clwyd, gan gynnwys:

·         Bob tair blynedd cynhelir prisiad actiwaraidd o’r Gronfa Bensiwn ac os nad oes digon o arian yn y Gronfa, yna gallai fod angen i gyfraniadau’r cyflogwr gynyddu.  Mae’n rhaid i gyflogwyr ystyried fforddiadwyedd a beth fydd yr effaith ar eu cyllidebau.  Yn benodol, mae’n rhaid i gynghorwyr wisgo dwy het; eu rôl ar y Pwyllgor yw diogelu’r Gronfa Bensiwn yn hytrach nac ystyried yr effaith ar eu cyllidebau unigol yn y Cyngor.

 

·         Mae’n rhaid iddynt weithredu er budd gorau’r aelodau e.e. os oes cyfle i fuddsoddi mewn adeilad newydd yn y Cyngor yna mae’n rhaid iddynt wneud yn si?r bod hyn yn briodol i’r Gronfa Bensiwn yn hytrach na’r Cyngor.

 

Mae’r gofynion polisi hefyd yn berthnasol i’r swyddogion a’r ymgynghorwyr (e.e. dylai ymgynghorwyr buddsoddi fod yn agored a thryloyw wrth ddarparu cyngor a allai arwain at fwy o fusnes i’w cwmni).

Dosbarthodd Mr Latham (Rheolwr Cronfa Bensiwn Clwyd) y ffurflenni datganiadau o fuddiant.

Holodd y Cynghorydd Small yngl?n ag aelodau teulu sy’n gweithio i Gyngor Sir y Fflint ac a oedd angen eu datgan.  Dywedodd Mrs McWilliam bod angen eu datgan oherwydd gallent fod yn aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (neu gallent fod yn gymwys yn y dyfodol).

Gwnaeth y Cynghorydd Llewelyn Jones ddatganiad o fuddiant personol fel aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd ar gyfer pob eitem.

 

71.

Cofnodion pdf icon PDF 76 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Mawrth 2017.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2017.

PENDERFYNIAD:

Cytunwyd y gallai’r Cadeirydd dderbyn, cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion fel cofnod cywir.

 

72.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-gadeirydd a nodi bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, felly, wedi’u penodi fel Aelod a Dirprwy, yn y drefn honno, o'r Pwyllgor Cydlywodraethu ar gyfer Cydweithredfa Cyfuno Arian Cymru

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Cynghorydd Bateman gan y Cynghorydd Mullin i fod yn Ddirprwy Gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn.  Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Small a chymeradwywyd hyn gan y Pwyllgor cyfan.

 

73.

Diweddariad ar Gronfa Bensiynau Clwyd. pdf icon PDF 118 KB

Rhoi crynodeb lefel uchel i Aelodau'r Pwyllgor am faterion sy’n ymwneud â'r Gronfa a diweddariad ar ddefnyddio dirprwyaethau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Latham ddiweddariad ar y Gronfa Bensiwn.  Dywedodd ei fod wedi lleihau’r nifer o adroddiadau o dan yr eitem hon ar yr agenda o ystyried yr aelodau newydd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ond dywedodd y byddai’r rhain yn cael eu cynnwys fel rhan o hyfforddiant y Pwyllgor.

Gofynnodd Mr Latham a oedd pawb ar gael ar 19 Gorffennaf ar gyfer diwrnod cyntaf yr hyfforddiant ar Lywodraethu; cadarnhaodd yr holl aelodau eu bod ar gael.  Cynhelir yr ail ddiwrnod hyfforddi yn yr wythnos yn dechrau 24 Gorffennaf, a bydd Actiwari’r Gronfa yn cynnal yr hyfforddiant hwn.

Dywedodd Mr Latham wrth y Pwyllgor bod 86% o’r Gronfa Bensiwn wedi’i hariannu ar 31 Mawrth 2017, o ganlyniad i elw cadarnhaol ar fuddsoddiadau.  Dywedodd Nikki Gemmell (Actiwari Cynorthwyol – Mercer) bod y sefyllfa ariannu wedi gwella ymhellach o’r sefyllfa a nodwyd yn y papurau – roedd y sefyllfa ariannu yn 89% ar ddiwedd Mai ac roedd wedi’i ariannu tua 90% yn y dyddiau diwethaf.  Dywedodd Kieran Harkin (Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa – Gr?p JLT) mai gwerth asedau’r Gronfa oedd £1.746 miliwn ar ddiwedd Mai.  Dywedodd Mr Latham bod y sefyllfa ariannu bresennol ar ei lefel uchaf erioed.

Tynnodd Mr Latham sylw’r Pwyllgor at y mater ar dudalennau 32/33 y papurau am eu bod yr un fath; nododd bod tudalen 32 yn anghywir.  Dywedodd bod hyn yn ymwneud â’r gwaith parhaus o fonitro Rheolwyr y Gronfa ac nad oedd unrhyw beth arwyddocaol i’w ddatgan yn y cyfarfod.

Dosbarthodd Mr Latham ddogfen gan LAPF Investments yngl?n â chyfuno a allai fod yn ddefnyddiol i’r aelodau.  Bydd Mr Latham a’r Cadeirydd yn teithio i Gaerdydd ddydd Iau i fynychu cyfarfod cyntaf y Cydbwyllgor Llywodraethu.  Gelwir Cronfa Cymru yn Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Dywedodd Mr Latham bod gwaith i’w wneud o hyd ar gyfer cynllunio Gweithlu'r Adran Weinyddol ac mae ad-drefnu adnoddau gyda chynlluniau olyniaeth a pharhad busnes yn faterion i’w trafod.  Tynnodd sylw’r Pwyllgor at Atodiad 4 sy’n dangos y strwythur presennol a’r strwythur arfaethedig ar gyfer yr adran Dechnegol.  Ychydig iawn o gostau ychwanegol fydd yn cael eu creu yn dilyn yr ailstrwythuro.

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman pwy oedd y Swyddog Datblygu Technegol Arweiniol.  Cadarnhaodd Mrs Burnham mai swydd newydd oedd hon yn y Tîm Technegol ac y bydd yn cael ei chynnwys yn y tîm presennol.  Dywedodd Mrs Burnham bod angen ailstrwythuro hyn cyn gynted â phosibl oherwydd bod rhywun yn ymddeol.  Dim ond y Tîm Technegol sy’n cael ei ystyried yn awr ond byddant yn edrych ar y tîm ehangach yn y dyfodol.

Dywedodd Ms Brooks, pe byddai’n fuddiol i aelodau newydd y Pwyllgor, roedd Bwrdd Cronfa Bensiwn Clwyd wedi edrych ar y prosesau cynllunio’r gweithlu o fewn trefniadau staffio’r Gronfa a’u bod yn cefnogi unrhyw newidiadau a fyddai’n helpu’r tîm i gyflawni gofynion y cynllun busnes.

PENDERFYNIAD:

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y diweddariad ac yn darparu unrhyw sylwadau

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r strwythur sefydliadol diwygiedig ar gyfer y Tîm Technegol a bod penodiad y Swyddog Technegol  ...  view the full Cofnodion text for item 73.

74.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Ystyrir bod yr eitem ganlynol yn eitem eithriedig yn rhinwedd Paragraff(au) 14, Rhan 4 yn Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

RESOLVED:

That the press and public be excluded for the remainder of the meeting for the following item by virtue of exempt information under paragraph 14 of Part 4 of Schedule 12A of the Local Government Act 1972 (as amended).

 

75.

Cyfarwyddiaeth Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol II (MiFID II)

Rhoi cyflwyniad i Aelodau’r Pwyllgor yngl?n â statws bresennol MiFID II er mwyn i'r Aelodau gymeradwyo bod y Gronfa'n dilyn y gweithdrefnau yn Llawlyfr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, pan gafodd ei gyhoeddi, i gael ei gydnabod fel Buddsoddwr Proffesiynol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad byr ar MIFID II ac yna trosglwyddodd yr awenau i Mr Buckland i drafod y cyflwyniad fel hyfforddiant i’r aelodau newydd, ac i’w esbonio i’r aelodau presennol.  Yna trafododd fanylion y sleidiau.

Amlygodd Mr Buckland y prif bwyntiau allweddol, gan gynnwys eu hysbysu bod cyflwyniad cyfarwyddeb MIFID II wedi’i symud yn ôl i Ionawr 2018 ac y bydd, ar bapur, yn darparu mwy o ddiogelwch i awdurdodau lleol oherwydd y byddant yn cael eu hystyried yn “Gleientiaid Manwerthu” yn hytrach na “Chleientiaid Proffesiynol”.  Fodd bynnag, bydd y “dosbarthiad Manwerthu” yn golygu na fydd awdurdodau lleol yn gallu cael mynediad at gynnyrch buddsoddi cymhleth yn awr.  Bydd proses i “camu i fyny” i “statws Proffesiynol”, er nad yw manylion y broses wedi’u cadarnhau eto.  Codwyd pryderon yngl?n â sut y gallai Cronfa Clwyd brofi eu bod yn cyflawni’r meini prawf i camu i fyny i fod yn gleient proffesiynol, ac effaith bosibl hynny.

Dywedodd Mr Buckland bod MIFID II hefyd yn creu goblygiadau i gyfuno oherwydd gallai rhai awdurdodau lleol yn yr un gronfa gael eu hystyried yn gleientiaid proffesiynol ac eraill yn gleientiaid manwerthu.  Nodwyd bod Jeff Houston, o’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, wedi codi’r mater na allai Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus fuddsoddi mewn seilwaith fel cleientiaid manwerthu, sef un o nodau cyfuno.

Dywedodd Mr Harkin y bydd hyfforddiant mwy manwl ar fuddsoddi yn cael ei drefnu ar fuddsoddiadau ond pe byddai MIFID II yn cael ei weithredu yn unol â’i ddiben gwreiddiol, gallai hyn gael effeithiau difrifol ar gronfeydd a allai achosi i asedau gael eu gwerthu e.e. ni allai cleientiaid manwerthu fuddsoddi yn rhai o’r asedau eraill (sydd wedi’u rhestru fel asedau gwirioneddol a marchnadoedd preifat ar dudalen 15 y sleidiau).

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a fyddai Brexit yn cael effaith ar MIFID II.  Dywedodd Mr Harkin y gallai hyn greu goblygiadau yn y dyfodol ond tra bydd y DU yn parhau i fod yn yr Undeb Ewropeaidd, bydd MIFID II ar waith.  Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a oedd hyn wedi’i ymgorffori yng nghyfreithiau’r DU; dywedodd Mr Harkin, oherwydd y byddai MIFID II yn weithredol ym mis Ionawr 2018, byddai’r DU yn parhau i fod yn yr Undeb Ewropeaidd ac y byddai hyn yn effeithio arno beth bynnag.

Disgwylir i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) gyflwyno eu hymateb i’r ymgynghoriad erbyn diwedd Mehefin a’r gobaith yw y bydd y weithdrefn camu i fyny yn cael ei symleiddio ac y bydd Cronfa Clwyd mewn sefyllfa dda i wneud hyn.

Dywedodd Mr Latham bod y Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi gweithio gyda rheolwyr y gronfa er mwyn galluogi’r awdurdodau lleol i gael cyfres safonol o ddogfennau, ac er y bydd angen i bob Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus eu cwblhau, byddant yn ddogfennau cyson.  Yr argymhelliad yw y bydd Cyngor Sir y Fflint, yn ei rôl fel awdurdod gweinyddol Cronfa Bensiwn Clwyd yn camu i fyny i statws proffesiynol ac y bydd awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr i ddatblygu’r broses o wneud cais gyda  ...  view the full Cofnodion text for item 75.