Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702321  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

87.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

 I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny

 

Cofnodion:

            Mynegodd y Cynghorwyr Dave Hughes, Huw Llewelyn-Jones, Haydn Bateman, Nigel Williams a Billy Mullin gysylltiad personol o bob un eitem gan eu bod yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd. 

 

            Fe wnaeth Karen McWilliam (Ymgynghorydd Annibynnol - Aon Hewitt), Paul Middleman (Actiwari Cronfa – Mercer) a Megan Fellowes (Prentis – Mercer) ddatgan cysylltiad personol gydag eitem 90 (Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru), fel gweithwyr Aon Hewitt/Mercer, gyda phob cwmni wedi cyflwyno ymateb tendr i fod yn weithredwr o Gronfa Cymru.

 

            Datganodd y Cadeirydd gysylltiad personol o dan eitem 91 (Lwfansau Pwyllgor a Bwrdd).

 

88.

Cofnodion pdf icon PDF 101 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar  20 Medi 2017

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cofnodion yn cael eu derbyn, eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

 

Roedd y Cynghorydd Bateman eisiau rhoi sylw i’r eitem o dan eitem 80, sef a oedd yn bosibl i aelodau gael copïau caled o’r papurau. Dywedodd Mr Everett fod mynd yn ddi-bapur yn unol â pholisi’r Cyngor yn gyffredinol, ond os oedd aelod wir angen copïau papur caled, bod modd eu rhoi ar gais, ond bod costau wrth wneud hynny.

 

Dylid cyfeirio ceisiadau at Mrs Fielder.

 

89.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

90.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru a gofyn am gymeradwyaeth i benodi gweithredwr yn dilyn ymarfer caffael.

Cofnodion:

            Dywedodd y Cadeirydd, yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd Partneriaeth Pensiwn Cymru, y cytunwyd y dylid argymell penodi Cynigydd 1 ar gyfer bob Pwyllgor Cronfa Bensiwn, ac y cytunwyd ymhellach na fyddai hunaniaeth Cynigydd 1 yn cael ei ddatgelu i'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd ar y cam hwn.

 

            Rhoddodd Mr Latham gefndir o’r broses benodi wrth gadarnhau fod y penderfyniadau ar gyfer y strategaeth buddsoddi Cronfeydd yn aros gyda’r Pwyllgor. Manylodd Mrs Fielder ynghylch y broses gaffael gyffredinol yn arwain at yr argymhelliad i benodi Cynigydd 1.

 

            Cafodd y Pwyllgor drafodaeth fanwl ynghylch y broses a phenodi Cynigydd 1, cyn y pleidleisiodd 7 o blaid, ac 1 yn erbyn y penodiad.

 

            Cafodd y Pwyllgor wybod wedyn mai Link Fund Solutions oedd Cynigydd 1.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cytunodd y Pwyllgor i benodi Cynigydd 1 fel y cynigydd a ffafrir ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac

2.    Yn destun cwblhad o’r cyfnod segur, a chwblhau’r Cytundeb Gweithredwr, i benodi Cynigydd 1 fel Gweithredwr o dan y Cytundeb Gweithredwr.

3.    Nododd a thrafododd y Pwyllgor Adroddiad Cynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

91.

Lwfansau Aelodau Pwyllgor a Bwrdd pdf icon PDF 95 KB

Darparu adolygiad i Aelodau’r Pwyllgor o'r lwfansau a delir i aelodau pwyllgorau a byrddau, gydag argymhellion i’r Cyngor ddiweddaru Atodlen Taliadau Aelodau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Argymhellodd Mr Everett bod £8,700 yn cael ei dalu bob blwyddyn i Gadeirydd y Pwyllgor am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad. Tynnodd Mr Everett sylw at y ffaith eu bod i gyd â buddiannau’n gwrthdaro yn y maes hwn, ac awgrymodd y dylai’r ddadl gadw hyn mewn  cof.

 

            Datganodd y Cadeirydd gysylltiad personol a gadawodd yr ystafell.

 

            Ar ôl trafod y materion, cytunodd yr aelodau Pwyllgor gyda’r cynnig i dalu’r lwfans i’r Cadeirydd. Cytunwyd hefyd y byddai’r lwfans yn weithredol o Fai 2017 ac yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad hwnnw.

 

            Yn dilyn trafodaethau, cytunwyd hefyd y byddai Mr Everett yn trafod o fewn y Cyngor y taliad o lwfansau i aelodau eraill  

PENDERFYNWYD:

 

1.     Argymhellodd y Pwyllgor i’r Cyngor fod lwfans o £8,700 yn cael eu talu i’r Cadeirydd bob blwyddyn, a bod hyn yn cael ei gynnwys yn yr atodlen o dâl aelodau. Ystyriodd ac argymhellodd y Pwyllgor fod y taliad ychwanegol yn dechrau o fis Mai 2017.

 

2.    Cytunwyd y dylai lwfansau i aelodau eraill gael eu hystyried hefyd.

 

 

 

92.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 116 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu, gan gynnwys modiwl hyfforddiant o’r pecyn gwaith Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           

            Tynnodd Mr Hughes sylw at adran 1.01 lle’r oedd yn ofynnol i’r Pwyllgor fynegi dewis ar gyfer ei batrwm cyfarfod, ac a ddylent gael eu cynnal yn y bore neu’r prynhawn.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Bateman y dylid dechrau am 9:30am yn hytrach na 10am. Cytunodd yr aelodau Pwyllgor a oedd yn weddill gyda’r cynnig.

 

            Tynnodd Mrs McWilliam sylw at y dadansoddiad anghenion hyfforddi y cyfeiriwyd atynt yn y papurau, a nododd y byddai'r rhain yn cael eu rhoi i Aelodau yn ystod yr wythnos ganlynol. Holwyd pob Aelod i amlygu ar y dadansoddiad anghenion hyfforddi, lle'r oeddent yn teimlo bod angen unrhyw hyfforddiant ychwanegol.   Bydd hwn yn ofyniad rheolaidd i gynorthwyo gyda threfnu sesiynau hyfforddi.

 

            Esboniodd Mrs Burnham sut y caiff y toriadau amod eu diweddaru'n rheolaidd, ac ar hyn o bryd, na fydd unrhyw rai yn cael eu hadrodd i’r Rheolydd Pensiynau, ond fe fydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu yn Ionawr 2018. 

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Ystyriodd yr Aelodau’r diweddariad.

 

2.    Mynegodd y Pwyllgor ddewis i gynnal cyfarfodydd am 9:30am, a bydd y dewis hwn yn cael ei roi i’r Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyfansoddiad wrth drefnu cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

93.

Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 90 KB

Darparu gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y materion sy’n effeithio ar reolaeth y CPLlL ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd Mr Middleman materion cyfredol yr LGPS. 

 

            Rhoddodd sylwadau’n benodol ar gynnydd pensiwn Ebrill 2018 (yn seiliedig ar ffigur CPI blynyddol Medi 2017) a’r effaith ar rwymedigethau. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith fod nifer o ymgynghoriadau ar y gweill, yn enwedig yr ymgynghoriad cap ymadael sydd ar fin digwydd. Cadarnhaodd Mr Middleman fod disgwyl amdano ddechrau 2018, ond eu bod wedi bod yn hwyr o’r blaen.

 

            Holodd y Cadeirydd a oedd y cynnydd pensiwn o 3% yn uchel o’i gymharu â’r blynyddoedd diweddar, ac a fydd hyn yn cael effaith ar y Gronfa. Rhoddodd Mr Middleman wybod i’r Pwyllgor, fel rhan o’r Prisiad Actiwaraidd, tybiwyd y byddai cynyddiadau pensiwn yn 2.2% y flwyddyn ar gyfartaledd y tymor hir, ac felly byddai unrhyw beth uwchben y lefel hon yn arwain at gynnydd mewn rhwymedigaethau.  Fodd bynnag, byddai’r effaith yn eithaf bach yn erbyn ffactorau eraill (gostyngiad sy'n llai na 0.5% yn y lefel ariannu).

 

            Holodd Mr Latham a fyddai’r cap ymadael yn effeithio ar y tybiaethau a wnaed ar gyfer cyfrifiadau straen pensiwn.

 

            Atebodd Mr Middleman i ddweud ei fod yn rhannol gysylltiedig gyda beth sy’n digwydd ar y cap ymadael, ac a oedd yn cael ei weithredu yng Nghymru.  Disgwyliai y byddai’r LGPS yn symud i gyfres gyffredin o ffactorau, sy’n rhywbeth sydd wedi’i drafod ers nifer o flynyddoedd.

 

            Nododd Mr Middleman hefyd fod Mercer wedi adolygu’r tybiaethau disgwyliad oes ar wahân ar gyfer y ffactorau presennol, gan nad oedd hyn wedi’i wneud am gyfnod o amser. Dywedodd y bydd costau straen yn codi tua 5% oherwydd hyn, ac y bydd hyn yn cael effaith ar weithwyr.  Dyddiad gweithredu posibl fyddai Ebrill 2018. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda’r tîm gweinyddu.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nododd aelodau o’r Pwyllgor Cronfa Bensiwn yr adroddiad hwn a gwneud eu hunain yn ymwybodol o’r gwahanol faterion cyfredol sydd yn effeithio’r LGPS.

 

2.    Nododd Aelodau’r Cynnydd Pensiwn yn Ebrill 2018; y diweddariadau diweddaraf ar Reoliadau ac Ymgynghoriadau cyfredol; a’r diweddariad materion trethiant

           

 

94.

Diweddariad ar Weinyddu Pensiynau/Cyfathrebu pdf icon PDF 107 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddol a chyfathrebu Cronfa Bensiynau Clwyd, gan gynnwys, gwefan newydd Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

             Cyfeiriodd Mrs Burnham at dudalen 105, a thynnodd sylw at y ffaith y bu dros 2,000 o dasgau gweinyddu newydd yng Ngorffennaf a Medi/Hydref 2017. Nododd hefyd fod cynnydd o dros 100 achos o fis Medi tan fis Hydref (h.y. o 2,469 i 2,578). Roedd hyn oherwydd bod staff y Cyngor yn gweithio’n allanol ar gyfer trefniadau newydd, ac er mai digwyddiad untro oedd hyn, yn dangos y cynnydd sydyn ychwanegol yn y gwaith sy’n ofynnol.

 

            Cyfeiriodd Mrs Burnham hefyd at dudalen 107 a nododd bod y canrannau KPI o ran trefniadau cyfreithiol TPR wedi gwella, ond mae rhagor o welliannau i’w gwneud o hyd. Esboniodd hefyd y byddai’n gweithredu cynlluniau hyfforddi i dynnu sylw at feysydd y mae angen i’r Gronfa roi blaenoriaeth iddynt e.e. o ran achosion marwolaeth. Dywedodd Mrs McWilliam y bydd siartiau’n cael eu rhoi, yn hytrach na thablau, yn y dyfodol, gan ei fod yn haws canfod tueddiadau o'r rhain.

 

             Dangosodd Mr Lloyd y wefan newydd a’r Hunan-wasanaeth Aelodau (MSS), lle gall aelodau ennill dealltwriaeth/gwybodaeth am eu buddion LGPS yn y Gronfa a diweddaru eu manylion ar-lein. Mae’r wefan wedi’i gwneud mor syml â phosibl i’w gwneud yn haws i chwilio drwyddi a’i deall.

 

             Rhoddodd Mr Lloyd wybod i’r Pwyllgor fod y wefan yn cynnwys meysydd amrywiol o ddiddordeb, fel y maes Llywodraethu, sy’n cynnwys manylion ynghylch sut mae’r Gronfa’n gweithredu, ac aelodau'r Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn.    Nododd fod y wefan hefyd yn tynnu sylw at y newidiadau i’r Cynllun; ac yn cynnwys canllawiau i aelodau ac ymddeol drwyddi draw. 

 

             Rhoddwyd sylwadau cyffredinol fod y wefan yn edrych yn dda ac yn gam cadarnhaol arall ymlaen (ynghyd â’r MSS) o ran sut mae’r Gronfa’n cyfathrebu gydag aelodau.

 

            Holodd Mr Hibbert a oedd yn bosibl gofyn am gael postio dogfennaeth i’w cyfeiriadau cartref ar-lein, mewn sefyllfaoedd lle mae pobl angen copïau papur. Atebodd Mr Lloyd drwy honni, os nad yw pobl eisiau cael dogfennau drwy MSS neu'r wefan, gallent gysylltu â'r Gronfa a gofyn am gael parhau â dogfennaeth bapur.

 

             Holwyd pa wybodaeth ystadegol sydd ar gael yngl?n â defnydd o'r wefan a'r hunanwasanaeth i aelodau. Dywedodd Mr Lloyd ei bod yn bosibl gwirio’r wefan i weld pwy sydd wedi cofrestru, a gallant weld pryd a ble mae rhywun wedi mewngofnodi, ac mae gwybodaeth benodol yngl?n â phwy sydd wedi mynd ar y wefan.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i Mr Lloyd am ei gyflwyniad, a'i longyfarch am ddatblygu'r wefan a'r MSS. Dywedodd Mr Everett hefyd ei fod wedi'i galonogi gan y cynnydd yn y meysydd hyn

PENDERFYNWYD:

 

1.            I’r Pwyllgor ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau.

 

 

95.

Diweddariad Buddsoddi ac Ariannol pdf icon PDF 95 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mrs Fielder yr adran hon; nododd fod y Gronfa wedi cael tri chais ychwanegol gan reolwyr i uwchlwytho dogfennaeth mewn perthynas â MIFID II, ond y disgwyliad yw y bydd pob dewis i fanteisio ar y cynllun yn cael ei gwblhau erbyn y dyddiad cau o 3 Ionawr.

 

            Crynhowyd y pwyntiau allweddol gan Mrs Fielder yn yr adroddiad, a thynnodd sylw at y ffaith nad oedd unrhyw faterion gyda gofynion hylifedd i dalu budd-daliadau, a chaiff ei fonitro’n ofalus.

            Fe holwyd Mrs Fielder gan Mr Hibbert a fyddai'n bosibl cael dehongliad graffigol o'r symudiadau arian parod, mewn perthynas â'r arian parod sy'n cael ei ddal.

            Tynnodd Mrs Fielder sylw at dudalen 61 a oedd yn cynnwys manylion o’r monitro a’r rhagamcaniadau 3 blynedd ar gyfer llif arian. Nodwyd bod y llif arian ar osgo ar gyfer 2017, gan fod rhai gweithwyr wedi talu 3 blynedd o daliadau cyfraniad diffyg yn Ebrill 2017.

 

            Nodwyd hefyd bod Mr Hibbert a Mrs Fielder wedi mynd i seminar ar dryloywder cost.  Roedd Mr Hibbert yn ddiolchgar am y cyfle i roi mewnbwn ar hyn.

            Trafodwyd y mater o fuddsoddiad isadeiledd, ac yn enwedig y cyfleoedd yng Nghymru.   Tynnodd Mr Everett sylw at y drafodaeth ar draws Gogledd Cymru a bod angen trafod y cyfleoedd gyda’r Cronfeydd Pensiwn.   Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae’r Gronfa wedi bod yn chwilio am gyfleoedd ers peth amser, yn amodol ar achos busnes cryf ar gyfer y buddsoddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad, a’i nodi, yn cynnwys y cyfrifoldebau dirprwyedig a’r cynnydd.

 

 

96.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad pdf icon PDF 90 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mr Harkin mai Mr Buckland yw’r ymgynghorydd buddsoddi eiledol enwebedig nawr, a bydd yn cefnogi’r swyddogion a’r pwyllgor wrth symud ymlaen.

 

            Cyfeiriodd Mr Harkin yr ystafell at yr ystadegyn marchnad ar dudalen 131, a oedd yn dangos y perfformiad cryf parhaus o ran ecwiti yn y chwarter.   Roedd prisiau ynni uchel wedi arwain at adenillion cadarnhaol ar nwyddau, ond gallai beri pryder ar gyfer chwyddiant, os bydd y duedd yn parhau.   

 

            Fe ofynnodd y Cadeirydd i Mr Harkin a oedd ganddo unrhyw feddyliau ar yr effaith ar y gyllideb a sut y gallai effeithio twf economaidd. Atebodd Mr Harkin drwy ddweud ei bod yn gyllideb gydag ychydig iawn o elfennau annisgwyl, yn erbyn y dyfalu.  Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld twf, ac roedd ffocws y Llywodraeth ar fuddsoddi mewn isadeiledd ac arloesi mewn technoleg newydd yn glir.

 

            Mae hefyd yn bwysig nodi, tra bod rhwymedigaethau’n cael eu canoli yn y DU, ac yn cael eu heffeithio gan chwyddiant, nid yw hyn yn wir am asedau, ac mae’n agored i’r economi fyd-eang, sy’n gyffredinol â rhagolygon gwell, felly bydd yr effaith ar asedau’n cael eu lleddfu.  Mae’n ymddangos fod y marchnadoedd gydag ymateb eithaf ffafriol i'r gyllideb ar y diwrnod.   

 

            Cododd y Cynghorydd Bateman y mater o brisiau nwy a’r cynnydd disgwyliedig mewn costau.  Nododd Mr Harkin y bydd hyn, yn hanfodol, yn dibynnu ar gyflenwad i'r farchnad, ac yn ymwneud â phrisiau cyfanwerthol, ond mae disgwyliad o gynnydd.  Nodwyd y bydd yr effaith yn anodd i'w rhagweld ar farchnadoedd, ond gallai arwain at gynnydd yn chwyddiant y DU os caiff ei drosglwyddo i gwsmeriaid, oherwydd fe allai effeithio'r mesur CPI.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            Nododd y Pwyllgor y diweddariad, a’i drafod.

 

2.            Nododd y Pwyllgor sut mae'r wybodaeth yn "rhoi'r cefndir" i bob pwrpas ar gyfer yr eitem nesaf ar y rhaglen

 

 

97.

Y Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb gan y Rheolwr pdf icon PDF 86 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar berfformiad strategaeth fuddsoddi’r gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Tynnodd Mr Buckland sylw at yr enillion cadarnhaol ar fuddsoddiad dros y cyfnod hyd at 30 Medi 2017 a’r tymor hirach.   Dros pob cyfnod a gafodd eu dangos, mae pob un yn well o lawer na’r disgwyl yn y rhagdybiaeth ariannu, sy’n gadarnhaol ac yn cyfrannu at y sefyllfa ariannol well.

 

            Roedd perfformiad cymysg ar draws y rheolwyr, a’r rhai nad oedd yn bodloni eu targed ar dudalen 155 (wedi’i liwio mewn coch).   Nodwyd y byddai rhai o’r rheolwyr a ddangoswyd yn symud o dan y strwythur cyfun yn 2018.

 

            Nododd y Cadeirydd fod gwerthoedd y farchnad wedi gwneud cynnydd (dros £1.75 biliwn ar ddiwedd Medi). Holodd y Cadeirydd a oedd y ffigurau ar gyfer Hydref ar gael eto. Cadarnhaodd Mr Buckland fod y ffigurau ar gael. Cadarnhaodd eu bod wedi parhau i godi ac yn agos at £1.8 biliwn.  Nododd Mr Middleman, ers diwedd y dydd ddoe, eu bod nawr yn debygol o fod wedi mynd heibio'r lefel £1.8 biliwn.

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nododd y Pwyllgor y strategaeth buddsoddi a pherfformiad rheolwyr dros y chwarter, yn ogystal â’u trafod.

 

2.    Ystyriodd y Pwyllgor hyn yng ngoleuni adroddiad diweddariad yr Economai a’r Farchnad.

 

           

 

98.

Diweddariad Cyllid a Llwybrau Cyrraedd Targed pdf icon PDF 107 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd y sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o'r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

             

            Fe wnaeth Mr Middleman grynhoi elfennau sylfaenol o gyllido cynllun pensiwn:-

 

·         Mae’r buddion (h.y. y rhwymedigaethau), yn llifoedd arian sy’n gysylltiedig â chwyddiant i bob pwrpas, yn daladwy dros gyfnod hir iawn o amser.  Mae hyn yn golygu bod y lefel o chwyddiant yn ffactor mawr yn y gost e.e. chwyddiant uwch = rhwymedigaeth uwch = cost uwch.

 

·         Rydych yn cyllido’r buddion a dalwyd drwy falans o enillion ar fuddsoddiad (yn erbyn chwyddiant) a enillwyd a chyfraniadau a dalwyd e.e. po uchaf yw'r enillion yn erbyn chwyddiant a enillwyd dros y tymor hir, po leiaf yw'r cyfraniadau sy'n ofynnol ac i'r gwrthwyneb.

 

             Yn ei hanfod, mae’r strategaeth Llwybr Hedfan yn rhoi mwy o sicrwydd i enillion (dros chwyddiant) a hefyd i ddarparu amddiffyniad yn erbyn newidiadau mewn lefelau chwyddiant disgwyliedig. Yn ganolog i’r strategaeth “mantoli”, sydd yn ei hanfod yn golygu buddsoddi mewn asedau sy’n “cyfateb” y newidiadau mewn rhwymedigaethau yn llawer agosach - gan felly ddarparu mwy o sefydlogrwydd yn lefel y diffyg.  Mae hyn yn arwain at fwy o sicrwydd/sefydlogrwydd o gyfraniadau ar gyfer gweithwyr sy’n amcan allweddol y strategol.

 

            Y berthynas allweddol yw’r enillion ar fuddsoddiad yn erbyn chwyddiant, ac os yw’r chwyddiant yn cynyddu rydych am i’r enillion ar eich buddsoddiad gynyddu hefyd, o o leiaf yr un swm, i gadw costau’n sefydlog.

 

            Ar hyn o bryd, mae’r lefelau mantoli yn dal yn 20% mewn perthynas â'r gyfradd log a 40% mewn perthynas ag amddiffyn chwyddiant (gyda 100% wedi'i fantoli'n llawn). Roedd y lefel ariannu o flaen y targed yn sylweddol ar 91% (12% ar y blaen) 31 Hydref 2017.

             Ymhellach at hynny, mae’n bwysig gwneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithlon/amserol o ran y strwythur ac ariannu’r strategaeth.  Mae hyn yn golygu bod amseru unrhyw newidiadau a lefel y farchnad rydych yn gwneud hyn yn bwysig, gan eich bod chi eisiau gwneud hyn yn y dull mwyaf cost effeithiol. Mae’r esiampl o ailstrwythuro'r mandad mantoli yn 2017 yn esiampl o hyn, lle mae disgwyl i hyn gyflawni enillion o £36.5m dros y tymor hir.  

 

            Mae’r gwaith manwl yn cael ei ddirprwyo i swyddogion ac yn cael ei weithredu ar y cyngor a roddwyd i’r Ymgynghorydd Buddsoddi ac Actiwari drwy’r Gr?p Rheoli Risg a Chyllido (FRMG).  Y rhan nesaf o hyn yw ail-ymweld â’r elfen diogelu ecwiti o’r strategaeth, cyn Ebrill 2018, pan fydd y contract cyfredol yn dod i ben.  Bydd y canlyniad yn cael ei adrodd gerbron pwyllgor y dyfodol.

Gan ystyried yr uchod, mae wedi bod yn strategaeth lwyddiannus hyd yn hyn yn erbyn cost y llywodraethu sy’n ei amgylchynu. Ers ei ddechreuad yn 2014, mae wedi lleihau’r diffyg o oddeutu c£140m, gyda phopeth arall yn ddigyfnewid.

Roedd y Cynghorydd Llewelyn-Jones wedi codi cwestiwn yn flaenorol, ynghylch pam fod y costau mor sensitif i newidiadau mewn enillion ar fuddsoddiad yn y dyfodol, fel y caiff ei fesur gan gyfradd disgownt e.e. byddai gostyngiad o 0.25% p.a. mewn enillion ar fuddsoddiad yn lleihau'r lefel ariannu o 4% ac yn cynyddu'r diffyg o £91m.  ...  view the full Cofnodion text for item 98.