Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

75.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny

 

Cofnodion:

            Mynegodd y Cynghorydd Huw Llewelyn Jones gysylltiad personol o bob un eitem gan ei fod yn aelod o Gronfa Bensiwn Clwyd.  Hefyd mynegodd gysylltiad mewn perthynas ag Eitem 6 (Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Clwyd) a oedd yn cynnwys gwybodaeth am fuddsoddiad ar brosiect lleol (Wholebake).  Mynegodd y Cynghorydd Llewelyn Jones ei fod wedi bod yn barti mewn rhai materion sy’n berthnasol i’r Cwmni hwn o ganlyniad i’w rôl fel Cynghorydd yng Nghyngor Sir Ddinbych.  Dywedodd Karen McWilliam (Ymgynghorydd Annibynnol – Aon Hewitt) nad oedd yn gweld dim ar yr agenda a oedd yn berthnasol i’r buddsoddiad hwn a fyddai’n arwain at sefyllfa o wrthdaro, ond y gellir ychwanegu hyn i’r datganiadau fel gwrthdaro posibl a fyddai’n cael ei fonitro os byddai unrhyw faterion ynghylch Wholebake yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor.

 

             Bu i Karen McWilliam, Paul Middleman (Actwari Cronfa - Mercer) a Sarah Spall (Ymgynghorydd Cynorthwyol - Mercer) ar wahân ddatgan cysylltiad mewn perthynas ag Eitem 4 (Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru) fel gweithwyr Aon Hewitt/Mercer, gyda'r cwmnïau wedi cyflwyno ymateb tendr i weithredwr Cronfa Cymru.

           

 

76.

Cofnodion pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar  23 Mehefin 2017

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2017. Nododd Karen McWilliam y byddai cynllun hyfforddi yn cael ei ddatblygu a fyddai’n cynnwys unrhyw hyfforddiant y mae aelodau wedi eu methu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cofnodion yn cael eu derbyn, eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

 

Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i Gynghorydd Ron Hampson a fu farw yn ddiweddar. Dywedodd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Hampson wedi cyfrannu’n helaeth at waith y Pwyllgor Cronfa Bensiwn a bydd colled ar ei ôl.

 

77.

Buddsoddi yng Nghymru

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor am gymeradwyo caffael Gweithredwr i Fuddsoddi yng Nghymru

 

Cofnodion:

            Eglurodd Philip Latham (Rheolwr Cronfa Bensiynau Clwyd) bod y cyfarfod JGC diweddar wedi’i ganslo, ac eglurodd y byddai Cronfa Bensiwn Clwyd angen cynnal pwyllgor arbennig arall i gytuno i benodi’r gweithredwr. Hefyd, nid oedd angen trin yr eitem hon fel eitem eithriedig. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai dyma oedd y sefyllfa a phenderfynwyd yn groes i agenda’r cyfarfod, na fydd y cyfryngau a'r cyhoedd yn cael eu heithrio o'r eitem hon.

 

Cyn i John Wright (Hymans Robertson) roi cyflwyniad am Gronfa Cymru a’r broses gaffael, gofynnodd Colin Everett (Prif Weithredwr) gan ystyried y datganiadau o gysylltiad gan Mrs McWilliam, Mr Middleman a Mrs Spalling, roedd angen iddynt adael yr ystafell. Nododd Mr Latham nid oherwydd bod y cyflwyniad ond yn cynnwys gwybodaeth a oedd am fod yn gyhoeddus yn unig. Roedd Mr Everett yn fodlon â hyn, ond dywedodd bod rhaid i unrhyw drafodaethau aros yn gyffredinol, a byddai Mrs McWilliam, Mr Middleman a Mrs Spalling yn ymatal rhag rhoi sylw neu gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth.   Cadarnhaodd Mr Wright mai dyma’r achos a byddai’n helpu i atgyfnerthu’r hyfforddiant yr oedd y Pwyllgor wedi’i gyflawni'r wythnos flaenorol.

 

Y pwyntiau allweddol y soniodd Mr Wright amdanynt oedd:

 

·         comisiynwyd Hymans Robertson i weinyddu’r broses yn unig

·         cadarnhau bod awdurdodau Cymru wedi bod o flaen cronfeydd eraill o ran gweithio gyda’i gilydd, gwneud hyn cyn cyhoeddiad y llywodraeth yn gofyn am gyfuno asedau.

·         rhoi cefndir dros y rheswm bod y Llywodraeth wedi dewis y meini prawf hyn.

Hefyd ychwanegodd Mr Wright:

 

·         roedd barn bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn talu gormod i Reolwyr Buddsoddi, ond mae wedi dod i’r amlwg bod cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi trafod bargeinion da gyda hwy, ar y cyd â chwmnïau sector preifat.

·          mae rhagor o waith wedi ei wneud yn rheolaeth oddefol fel ffordd o leihau costau a nodwyd drwy weithio gyda’i gilydd, bod yr wyth Cronfeydd Cymru wedi gwneud arbedion sylweddol.   

·          Hefyd cafwyd yr argraff nad oedd rhai cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael eu rheoli’n dda, yn bennaf gan nad oes ganddynt y gyllideb lywodraethol nac arbenigedd i wneud hyn yn effeithiol.

·          mae gan rai Gronfeydd dimau rheoli mewnol, felly pan roedd y Cronfeydd yn edrych ar gyfuno, roedd rhai eisiau cadw rheolaeth fewnol.

·         mae rhai cronfeydd eraill yn sefydlu eu cwmnïau buddsoddi eu hunain, gyda chymysgedd o arbenigwyr buddsoddi sector breifat ac arbenigwyr presennol.

Eglurodd Mr Wright wedyn sut y byddai’r strwythur Cronfa yn gweithio.  Er gwybodaeth, eglurodd y byddai’r awdurdodau gweinyddol yn caffael y gweithredwr.    Byddent yn defnyddio strwythur ACS, sydd yn strwythur effeithlonrwydd treth fodern. 

 

Cadarnhaodd Mr Wright bod y penderfyniadau strategaeth ased dal yn cael eu pennu ar bob lefel PFC, ond y gweithredwr a fyddai’n penodi’r rheolwyr buddsoddi fel y gellir gweithredu’r strategaethau hynny.

 

Mae cynigwyr wedi cyflwyno tendrau eisoes i’r gweithredwr, ac ar ôl eu gwerthuso byddant yn mynd i Gadeirydd y PFC, ac aelodau’r JGC, gydag argymhelliad. Bydd y JGC yn gwneud argymhellion i gymeradwyo, felly bydd yr wyth Cadeirydd yn adrodd yn ôl i  ...  view the full Cofnodion text for item 77.

78.

Adroddiad Blynyddol, Cyfrifon ac Archwiliad Cronfa Bensiwn Clwyd 2016/17. pdf icon PDF 80 KB

Rhoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd i Aelodau’r Pwyllgor i’w trafod

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Debbie Fielder (Rheolwr Cyllid Pensiynau) yr adroddiad blynyddol a chyfrifon, ac eglurodd y nodiadau yngl?n â'r cyfrifon oherwydd eu cymhlethdod.  

 

            Cadarnhaodd Mrs Fielder bod y dyddiad cau ar gyfer yr adroddiad blynyddol oedd mis Tachwedd, felly os oedd unrhyw ymholiadau neu newidiadau awgrymedig, yna gallent gael eu cynnwys hyd at ddyddiad ei lofnodi. Hefyd nododd bod yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon i gyd yn unol â Chanllaw Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Hefyd nododd Mrs Fielder bod ffioedd yn cael eu craffu’n sylweddol, ac er mai dim ond ffioedd penodol sydd angen eu datgelu yn y cyfrifon, ym marn tryloywder llawn, mae’r Gronfa yn datgelu'r ffioedd gan gynnwys ffioedd rheolwr o fewn yr adroddiad blynyddol.

 

            Yna gwahoddodd y Cadeirydd Mr Whitely (Swyddfa Archwilio Cymru) i gyflwyno’r adroddiad ar archwiliad o'r cyfrifon.

 

            Eglurodd Mr Whitely bod ychydig o broblemau cychwynnol gyda’r archwiliad o’r cyfrifon, ond cadarnhaodd nad oedd cyfriflenni heb eu cywiro.  Amlygodd bod rhai pwyntiau wedi’u nodi nad oedd yn wallau gwirioneddol, ond roedd adolygiadau o brisiadau wedi’u diweddaru a oedd wedi dod i law ar ôl cyflwyno’r cyfrifon i’r Swyddfa Archwilio Cymru. Mewn perthynas â pharagraffau 13 a 14, roedd y Comisiwn Archwilio wedi cael sicrwydd cryf gan swyddogion y bydd y prosesau yn y dyfodol wedi cael eu rhoi mewn lle i sicrhau na fydd y problemau hyn yn codi eto.

 

            Nodwyd nad oedd gwelliannau sylweddol ar argymhellion y flwyddyn flaenorol.

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman os oedd cael gwybodaeth diweddar ynghylch prisiad o asedau yn bwysig. Dywedodd Mr Whitely bod y drafft cyntaf o gyfrifon wedi’u cyflwyno ym mis Mehefin, gan ein bod bellach ym mis Medi, penderfyniad y rheolwyr yw addasu i gael prisiadau mwy cywir, ond ni fyddai’n cael effaith sylweddol os yw’r rheolwyr yn dewis peidio diweddaru'r ffigurau.

 

              Dywedodd Mr Owen (Cynrychiolwyr Aelod Bwrdd Pensiwn Clwyd) bod y cyfrifon yn faes cymhleth iawn ac roedd yn hapus bod y ddwy ochr wedi gweithio'n dda gyda’i gilydd.  Nododd Mr Owen pa mor falch yr oedd gyda gwelliannau gweinyddol aelod y cynllun dros y 12 mis diwethaf.

 

            Cadarnhaodd Gary Ferguson (Rheolwr Cyllid Corfforaethol) y bydd y cyfrifon yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor dydd Mercher nesaf.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Llewelyn Jones bod dal swyddi gwag a gofynnodd a oedd y rhain am gael eu llenwi.  Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi cael ei sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni i lenwi’r swyddi gwag hyn. 

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Nododd a rhoddodd yr Aelodau sylw ar yr Adroddiad Blynyddol drafft heb ei archwilio a chwblhad dirprwyedig i swyddogion.

2.     Nododd yr aelodau'r ymateb rheoli i’r adroddiad archwilio allanol.

 

 

79.

Cod Ymarfer Rheoleiddwyr Pensiwn pdf icon PDF 93 KB

Rhoi gwiriad cydymffurfio blynyddol Cod Ymarfer Rheoleiddwyr Pensiwn i Aelodau'r Pwyllgor i'w drafod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Alwyn Hughes (Rheolwr Cyllid Pensiynau) a Kerry Robinson (Prif Swyddog Pensiynau, Tîm Cyswllt Gweithwyr) a gyflwynodd Cod Ymarfer TPR.  Roedd Mr Hughes yn ymwybodol y byddai hyn y tro cyntaf y byddai rhan fwyaf o’r PFC wedi gweld y rhestr wirio cydymffurfiaeth. Eglurodd, er ei fod yn defnyddio llawer o adnoddau, roedd yn fanteisiol gan ei fod yn amlygu meysydd y gall y Cronfa ei wella. 

 

            Amlygodd Mr Hughes bod rhai o’r eitemau yn y rhestr wirio yn arferion gorau yn hytrach na rheoleiddiol, ond bydd y rhestr wirio yn cael ei ddiwygio fel y gellir amlygu'r elfennau rheoleiddiol.

 

            Amlygodd Mrs Robinson bod Adran 1.04 o’r adroddiad eglurhaol yn dangos trosolwg o ble’r oedd y Gronfa yn cydymffurfio gyda niferoedd mewn cromfachau yn dangos canlyniadau’r flwyddyn flaenorol. 

 

            Aeth Mr Hughes a Mrs Robinson drwy’r dangosfwrdd crynodeb yn rhoi sylw ar nifer o feysydd a oedd yn dangos eu bod yn cydymffurfio'n rhannol neu ddim yn cydymffurfio.  Nodwyd mewn rhai meysydd y gallai’r Gronfa ddewis aros i beidio â chydymffurfio e.e. hyfforddi aelodau newydd y Bwrdd Pensiwn yn cael ei gyflawni ar ôl penodiad, yn hytrach chyn sef yr hyn a awgrymwyd gan y Cod Ymarfer. Roedd y syniad i symud i gydymffurfiaeth llawn cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn y meysydd a nodwyd angen eu gweithredu. 

 

            Amlygodd Mrs McWilliam bod rôl statudol y Bwrdd Pensiwn i gynorthwyo i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Rheoleiddiwr Pensiwn ac felly bydd hyn ar agenda nesaf Bwrdd Pensiwn i edrych mewn fwy o fanylder ac i ddatblygu cynllun gweithredu.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Roedd y Pwyllgor yn ystyried canfyddiadau yr adolygiad.

 

2.    Nododd y Pwyllgor y byddai swyddogion yn creu cynllun gweithredu ar wahân i feysydd sydd yn cydymffurfio a datblygu parhaus.

 

3.    Nododd y Pwyllgor y bydd swyddogion yn cyflawni asesiad pellach yn ystod 2018 yn erbyn y rhestr wirio cydymffurfio hwn a fydd yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn.

 

 

80.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 118 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mr Latham bod hwn yn adroddiad safonol. Dywedodd Mrs McWilliam a Mr Latham bod angen rhoi ystyriaeth pellach o’r toriadau hyn.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a oedd hi’n bosibl cael adroddiadau copi caled pum niwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Dywedodd Mr Latham y byddai'n edrych i mewn i hyn.

 

              Roedd Mr Owen wedi darllen y toriadau a nododd bod typo bach a oedd angen ei gywiro.

 

            Gofynnodd Mr Hibbert a oedd pecynnau pwyllgor yn cael eu hanfon i aelodau’r Bwrdd Pensiwn i’w darllen.  Cadarnhaodd Mr Hughes bod y rhain yn cael eu hanfon drwy e-bost i aelodau’r Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    I’r Pwyllgor ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau.

 

81.

Y Diweddaraf am Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) pdf icon PDF 90 KB

Rhoi gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y materion sy’n effeithio ar reolaeth y CPLlL ar hyn o bryd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Middleman yr adroddiad a oedd ar gyfer gwybodaeth ond croesawodd unrhyw gwestiynau iddo ef neu i weddill yr ymgynghorwyr.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Llewelyn Jones bod y LGPS yr Alban wedi ôl-ddyddio eu pensiynau o ran y dyfarniadau tirnod ar bensiynau goroeswr, a gofynnwyd a oedd unrhyw wybodaeth ynghylch Cymru a Lloegr.  Hefyd gofynnodd ynghylch cau Cronfa Adneuo Prudential ac a oedd unrhyw gronfa arian arall ar gael.

 

            Dywedodd Mr Middleman mewn perthynas â’r AVCs, bod y Cronfa Adneuo yn cau i aelodau newydd yn unig, a bod cronfa arian arall i aelodau fuddsoddi ynddo os ydynt yn dewis gwneud hynny. Bydd yr opsiwn hwnnw dal ar gael i aelodau presennol sy’n cyfrannu i'r Gronfa Adneuo. 

 

            Mewn perthynas â rheoliadau goroeswr, cyn belled ag yr oedd Mr Middleman yn ymwybodol, roedd Cymru a Lloegr angen edrych i weld os oedd unrhyw un wedi cael eu heffeithio yn cyfnod perthnasol ac wedyn diwygio eu buddion yn unol â hynny.  Dywedodd Mrs McWilliam bod DCLG wedi awgrymu y dylai awdurdodau gweinyddu LGPS nodi’r achosion ac yna thalu’r buddion, ac nid oedd angen am newid mewn rheoliadau LGPS.  Fodd bynnag, mae’r LGA wedi ysgrifennu at yr awdurdodau gweinyddu LGPS yn dweud nad ydynt yn cytuno a bod awdurdod gweinyddu ar hyn o bryd yn mynd i’r Llys gydag achos tebyg.  Hefyd, mae cyngor gan LGA i adnabod unrhyw achosion a all gael eu heffeithio ac wedyn dal yn ôl am gyfnod i weld sut y bydd hyn yn datblygu.

 

            Gofynnodd Mr Hibbert (Cynrychiolydd Aelod Cynllun) ynghylch y Rheoliadau Bargen Deg i ddod.  Dywedodd Mr Middleman bod hyn dal yn cael ei drafod a gallai fod erbyn diwedd y flwyddyn, ond nododd bod y Rheoliadau hyn wedi’u ei ddal yn ôl nifer o weithiau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nododd aelodau PFC yr adroddiad hwn a gwneud eu hunain yn ymwybodol o’r gwahanol faterion cyfredol sydd yn effeithio’r LGPS.

 

2.     Nododd yr aelodau'r rheol ar bensiynau goroeswr a thrafodwyd y camau gweithredu posibl.

           

 

82.

Diweddariad am Weinyddu/rhoi gwybodaeth am bensiynau pdf icon PDF 108 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch yr Adran Gweinyddu Pensiynau.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           

            Dywedodd Mr Robinson bod cynnydd da yn cael ei wneud ond cydnabu bod rhai heriau yn parhau ar y llif gwaith, a chadarnhaodd y byddai pethau yn ôl fel yr oeddynt maes o law.

 

            Nododd Mr Hibbert bod ychydig o bryderon yn yr arolwg boddhad ynghylch cyfathrebu gwybodaeth.  Dywedodd Mrs Robinson mewn perthynas â’r tîm gweinyddu, nad oedd unrhyw faterion sylweddol a bod ychydig o adborth negyddol ar un neu ddau o faterion ar eu pen eu hunain.  Fodd bynnag, roedd yr holl adborth yn cael ei gymryd o ddifrif a’i weithredu. 

 

            Rhoddwyd gopi o'r adroddiad Dangosydd Perfformiad Allweddol i’r aelodau. Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau ystyried a meddwl am gwestiynau erbyn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Pensiwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    I’r Pwyllgor ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau.

 

2.    Cytunodd y Pwyllgor i newid i’r Cynllun Busnes i gynnwys prosiect newydd ar “gydgasgliad” a Mercer sydd yn awyddus o bosibl i gynorthwyo.

 

83.

Diweddariad am Fuddsoddi ac Ariannu pdf icon PDF 94 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannu Cronfa Bensiwn Clwyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd Mrs Fielder bod y cynllun busnes o fewn y targed a dywedodd bod yr holl ddogfennaeth mewn perthynas â’r broses “dewis opsiwn” i MIFID II yn cael ei gyfathrebu i Reolwyr Buddsoddi ac Ymgynghorwyr erbyn diwedd mis Medi.

 

            Hefyd dywedodd Mrs Fielder bod y trawsnewid heb ei orffen o ganlyniad i adolygiad buddsoddi “llai dwys” yn cael ei gyflawni erbyn diwedd mis Medi. Hefyd cadarnhaodd eu bod yn symud ymlaen i benodi Rheolwr Credyd Preifat Gogledd America, a bydd y canlyniad yn cael ei adrodd erbyn y cyfarfod PFC nesaf.

 

            Mae gwaith yn dal i barhau o ran Tryloywder Cost, a dywedodd Mrs Fielder bod tri o’r rheolwyr ased traddodiadol y Cronfeydd wedi cofrestru a’u bod yn aros am gadarnhad gan y pedwerydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth a nodwyd y diweddariad.

 

84.

Diweddariad am Ariannu a'r Strategaeth Berthnasol pdf icon PDF 114 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y sefyllfa ariannu a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o'r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Middleman drosolwg byr o’r Llwybr Cyrraedd Targed a nododd y byddai’n ehangu ymhellach ar y gwahanol elfennau o’r fframwaith yn y cyfarfodydd sy'n dod fel dilyniant o'r hyfforddiant diweddar. Prif amcan o’r Llwybr Cyrraedd Targed yw cyflawni sefyllfa a gyllidir yn llawn a gofynion cyfraniad mwy sefydlog i’r gweithwyr. Mae rheoli risg yn allweddol i hyn a’r lefel o mantoli yn bwysig gan bod y gwahanol “sbarduniadau” wedi’u bwriadu i ddarparu canlyniadau mwy sefydlog.  Mae’r lefel o fantoli ar y blaen o’r lle y disgwylir iddo fod pan sefydlwyd yn 2014. Mae’r mantoli hyn i roi canlyniadau adennill mwy sefydlog.

 

            Y prif neges yw bod y Gronfa yn bell o flaen y targed ar hyn o bryd, felly mae cynnal y sefyllfa hon wedi bod yn ffocws y gweithrediad diweddar o ddiogelu ecwiti yn y mandad Cipolwg.

 

            Nododd y Cynghorydd Llewelyn Jones bod lleihad bach yn yr adenillion buddsoddi yn rhoi lleihad sylweddol yn y lefel cyllido.  Cytunwyd y gellir ehangu hyn yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nododd y Pwyllgor y cyllid wedi’i ddiweddaru a sefyllfa mantoli y CPF, a’r cynnydd sy’n cael ei wneud ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

 

85.

Diweddariad Materion Economaidd a'r Farchnad pdf icon PDF 88 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Kershaw (Ymgynghorydd Buddsoddi Cronfa – JLT Group) ddiweddariad economaidd a marchnad ar gyfer y chwarter tan 30 Mehefin 2017. Eglurodd bod y mwyafrif o farchnadoedd ecwiti wedi cynhyrchu adenillion da er bod ecwiti US wedi cael trafferth yn debyg iawn i’r Cronfeydd Mantoli a Nwyddau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nododd y Pwyllgor y Diweddariad Economaidd a Marchnad.

 

2.     Nododd y Pwyllgor sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” yn effeithiol o beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr.

           

 

86.

Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 85 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch perfformiad strategaeth fuddsoddi’r Gronfa a Rheolwyr y Gronfa

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Kershaw ddiweddariad ar strategaeth fuddsoddi’r Gronfa. O’r 30 Mehefin ymlaen, bydd gwerth y Gronfa yn cynyddu £66.3m gan roi gwerth ar y farchnad o  £1.742 biliwn

 

            Rhoddodd Mr Kershaw sylw mai'r portffolio Marchnadoedd Preifat oedd y cyflawnydd gorau dros y chwarter. Hefyd dywedodd bod un i’r rheolwyr Diversified Growth, Investec wedi perfformio’n dda dros y chwarter.

 

            Dywedodd Mr Latham bod ffurflenni buddsoddi wedi gor-berfformio targedau actiwarïaid a meincnod dros y tair blynedd diwethaf, fodd bynnag, rhybuddiodd Mr Middleman ei bod hi'n annhebygol y bydd marchnadoedd buddsoddi yn parhau i gynyddu.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nododd a thrafododd y Pwyllgor y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr dros y chwarter.

 

2.    Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth yn yr adroddiad diweddariad Economaidd a Marchnad.