Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702321  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

106.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I derbyn unrhyw ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad newydd.

 

 

107.

Cofnodion pdf icon PDF 108 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Chwefror 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2018. Roedd y Cynghorydd Bateman a’r Cadeirydd eisiau pwysleisio safon ardderchog y cofnodion blaenorol a llongyfarch Miss Fellowes ar ei gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cofnodion yn cael eu derbyn, eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

 

108.

PLSA CONFERENCE SESSION VIDEO ON COST TRANSPARENCY

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd fideo sesiwn gynhadledd y PLSA ar dryloywder cost a sut i sicrhau gwerth am arian gyda ffioedd rheoli buddsoddiad. Gellir gweld y fideo yma:https://www.youtube.com/watch?v=0SDtFo5AOhs. Roedd y fideo am dryloywder ffioedd buddsoddi, gyda pherchnogion asedau a rheoleiddwyr o blaid datgelu ffioedd rheolwr ar draws ddosbarthiadau o asedau. Felly, rhaid i fuddsoddwyr barhau i geisio cyngor buddsoddi ac wrth i argymhellion newydd ddod i'r amlwg gan y Gweithgor Datgeliad Diwydiant, roedd y fideo’n egluro’r camau nesaf ar gyfer buddsoddwyr, ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaeth. 

 

Esboniodd y Cadeirydd, o ran Cronfa Bensiynau Clwyd, eu bod bob amser wedi gofyn i reolwyr y gronfa ddarparu costau buddsoddi llawn ar gyfer ei adroddiad blynyddol ac felly roedd y sesiwn yn dangos i’r Pwyllgor sut y dylid gwneud hyn y fwy cyson yn y dyfodol ar draws y gymuned fuddsoddi yn enwedig gan nad yw rhai cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cyhoeddi’r data.

 

Cynghorodd y Pwyllgor hefyd, fel cynrychiolydd y Gronfa ar Bwyllgor Cyd-lywodraethuPartneriaeth Pensiwn Cymru, y byddai’n sicrhau bod disgwyl i’r Gweithredwr (LINK), a ddaeth i gwrdd â’r Bwrdd yn y cyfarfod Pwyllgor diwethaf, sicrhau bod rheolwyr yn cydymffurfio â’r Cod Tryloywder Cost lle bo hynny’n bosibl. 

 

Wedi i’r fideo orffen soniodd Mr Latham fod y pwnc hwn yn agos iawn at galon y Gronfa gan fod llawer o waith wedi bod yn gysylltiedig â darparu tryloywder costau gan gynnwys casglu ymchwil a safbwyntiau i fewnbynnu i’r gofynion. Mae’r gwaith wedi cynnwys sefydlu templed ar gyfer y Cronfeydd.

 

109.

Cynllun Busnes 2018/19 hyd at 2020/21 pdf icon PDF 90 KB

Cyflwyno Cynllun Busnes i Aelodau’r Pwyllgor i'r gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y brif eitem ar y rhaglen i’r Pwyllgor a throsglwyddodd y cyfarfod i Mr Latham. Gofynnodd Mr Latham i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Cynllun Busnes ar gyfer y 3 blynedd nesaf a chyfeiriodd yr unigolion at dudalen 24 y papurau a oedd yn nodi pwyntiau bwled yn pwysleisio prif bwrpasau’r Cynllun Busnes.

 

Gweler isod y pwyntiau allweddol mewn perthynas â’r Cynllun Busnes;

 

·         Roedd tudalennau 19-21 yn dangos y cynnydd yn erbyn cynllun busnes 2017/18.  Roedd y mwyafrif ar y trywydd cywir neu wedi’u cwblhau.

·         Roedd tudalen 25 yn dangos y strwythur diweddaraf ar gyfer y gronfa gyda’r WPP newydd.

·         Roedd llawer o dasgau ‘busnes arferol’ ar y Cynllun Busnes a oedd yn dangos y gwaith a oedd angen ei wneud i redeg y Gronfa; roedd tudalen 30 ymlaen yn amlinellu’r 9 maes gwaith gwahanol a nodwyd bod tasgau’r  Tîm Cyfathrebu â Chyflogwyr yn ychwanegiad newydd.

·         Ar waelod tudalen 32, roedd yr holl lwyddiannau a gyflawnwyd dros y 3 blynedd diwethaf wedi’u hamlygu a oedd yn cynnwys gwelliannau ar lywodraethu, rheoli risg a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y WPP.

·         Roedd y prif faterion a fyddai’n cael eu hwynebu dros y 3 blynedd nesaf wedi’u nodi ar dudalen 33 pan fydd y gronfa yn dominyddu’r Cynllun Busnes ond gallai hefyd fod goblygiadau o ganlyniad i’r broses rheoli cost (yn debygol o 2020).

·         Roedd tudalen 35 yn dangos y gyllideb ar gyfer 2018/19 a chyllideb 2017/18 yn erbyn yr amcangyfrif.

·         O ran llywodraethu’r Gronfa (tudalen 41) roedd tasgau allweddol yn cynnwys rhoi gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd ar waith a chydnabod yr angen am fwy o hyfforddiant ar gyfer y Pwyllgor yn dilyn  y dadansoddiad o anghenion hyfforddi yn ddiweddar.

 

Parhaodd Mr Latham drwy ddweud bod yr adran ar Risgiau Cyllid a Buddsoddi (tudalen 47) yn dangos y bydd risgiau bob amser yn uchel gan nad yw’r Gronfa wedi’i hariannu yn llwyr nac ychwaith yn gallu canfod yr holl risgiau. Y Llwybr Hedfan yw’r “cynllun” sy’n cael ei roi ar waith er mwyn i’r Gronfa allu symud tuag at ariannu llawn a lleihau’r risg o ddirywiad. Bydd adolygiad actiwaraidd interim yn cael ei gynnal yn 2018 i helpu â chyllidebu ar gyfer cyflogwyr ac ochr yn ochr â hynny bydd fframwaith rheoli risg y cyflogwr yn cael ei gwblhau.

 

Mae risgiau eraill yn ystyried y weinyddiaeth a chyfathrebu aelodau. Mae gweinyddu yn cynnwys hyfforddiant ac allanoli gwaith y sawl sy’n cael eu hyfforddi i bartïon allanol er mwyn clirio’r ôl-groniadau ac ati. Bellach mae cyfathrebu ag Aelodau yn digwydd fwyfwy trwy Hunanwasanaeth Aelodau.

 

Mae’r tasgau nesaf ar gyfer y tîm gweinyddol (gan gynnwys cyfathrebu) i’w gweld ar dudalen 52, mae’r rhan fwyaf o eitemau eisoes yn gyfarwydd fel gwaith parhaus; fodd bynnag byddai’r tasgau yn cymryd peth amser i’w gweithredu. Dyma restr o’r tasgau;

 

1.    Gwella ansawdd data Aelodau sy’n hanfodol ar gyfer y Gronfa drwy fentrau amrywiol e.e. cysoni Isafswm Pensiwn Gwarantedig (sydd wedi’i allanoli i   Equiniti a’r prosiect cydgasgliad (peth cymorth gan Mercer)

2.       Y cynllun gwella data  ...  view the full Cofnodion text for item 109.

110.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 87 KB

Cyflwyno diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd Mr Latham y Pwyllgor at dudalen 65, sef adran o’r rhaglen a oedd yn cynnwys adroddiad at bwrpasau gwybodaeth.

 

Roedd y pwyntiau allweddol a wnaed gan Mr Lathan fel a ganlyn;

 

·         Gwnaed cynnydd cadarnhaol iawn o ran sefydlu’r is-gronfeydd gyda’r ffocws ar hyn o bryd ar y Cronfeydd Ecwiti Byd-eang.  Gwnaed llawer o waith gan swyddogion i sicrhau bod hyn yn bodloni amcanion y Gronfa. Dylid cytuno ar yr is-gronfeydd yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyd-lywodraethu.

·         Trafodwyd cyllideb y WPP a nodwyd ei bod yn cynnwys holl gostau’r Awdurdod Cynnal.

·         Mae’r wybodaeth a’r rhaglen ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyd-lywodraethu ar wefan Sir Gaerfyrddin.

·         Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at Gadeirydd/ Is-Gadeirydd y WPP yn croesawu penodiad gweithredwr ond yn nodi’r gwaith sydd angen ei wneud. Mae hyn yn dangos y lefel o graffu parhaus.

 

Dywedodd Mrs McWilliam fod cyllideb y WPP yn cynnwys meysydd megis staffio, gwasanaethau cyfreithiol a ffioedd gwasanaethau gweithredwr ar gyfer Link and Russell.

 

Cadarnhaodd Mrs Fielder ei bod wedi cynyddu'r ffioedd yn ymwneud â chyfuno o’u cymharu â’r rheiny wedi'u cynnwys o fewn y gyllideb, gan ei bod yn credu y bydd angen gwneud mwy o waith i weithredu’r is-gronfeydd na’r disgwyl. Fodd bynnag, anodd iawn yw rhagweld lefel y costau ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Mr Hibbert bod pryderon am y cronfeydd yn gyffredinol o ran y gweithlu dwy haen oherwydd amodau / tâl gwahanol a materion Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth a gofynnodd a oedd unrhyw broblem y Sir Gaerfyrddin. 

 

Atebodd Mrs McWilliam gan ddweud bod y pryderon yn dueddol o fod yn ymwneud â staff yn cael eu trosglwyddo o awdurdodau lleol i’r gronfa ond nid yw hyn yn wir yn achos y WPP gan ei fod yn weithredwr allanol.

 

Gofynnodd Mr Everett a oeddent i gyd yn weithwyr o Sir Gaerfyrddin. Cadarnhaodd Mrs McWilliam fod y gweithwyr a oedd yn gweithredu’r gronfa yn weithwyr i Link and Russell ond y byddai’r staff a’r gweithwyr a fyddai’n ymwneud â’r gwaith Awdurdod Cynnal yn weithwyr o Sir Gaerfyrddin.

 

Roedd Mr Everett eisiau cadarnhad o ran sut oedd costau rhedeg yn cael eu rhannu. Cadarnhawyd eu bod yn cael eu rhannu’n gyfartal, hynny yw 1/8 i bob Cronfa. 

 

Ychwanegodd Mrs Fielder bod unrhyw gost yn ymwneud â Link and Russell mewn perthynas â maint yr asedau sy’n cael eu cyfuno. Amcangyfrifwyd a chynhwyswyd y rhain fel ffigyrau cyllideb ar wahân yn y cynllun busnes er y nodwyd ar gyfer 2018/19 y byddai’r rhain ond yn gostau rhan o’r flwyddyn gan nad yw’r asedau wedi’u trosglwyddo eto.

 

Gofynnodd Mr Latham a fyddai unrhyw aelod a’r Pwyllgor yn bresennol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Cyd-lywodraethu. Cadarnhaodd Mr Hibbert y byddai’n ceisio mynychu.

 

Dywedodd Mr Latham bod trafodaethau parhaus yngl?n â’r ffaith na fyddai gan y Pwyllgor na’r Bwrdd yr hawl i aros ar gyfer rai rhannau o gyfarfod y Pwyllgor Cyd-lywodraethu oherwydd rhesymau cyfrinachedd ar y cam hwn e.e. oherwydd trafodaeth barhaus am ffioedd rheolwr. Dywedwyd nad oedd hon yn sefyllfa ddelfrydol a’r gobaith  ...  view the full Cofnodion text for item 110.

111.

Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 88 KB

Darparu gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y materion sy’n effeithio ar reolaeth y CPLlL ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon ar y rhaglen i Mr Middleman i amlygu’r pwyntiau allweddol o ran materion presennol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Dywedodd Mr Middleman fod y sylwadau o ran yr arafiad mewn gwelliannau disgwyliad oes yn seiliedig ar ddadansoddiad 2017 gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig sydd wedi parhau i 2018 yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf. Wrth gwrs nid yw hyn yn beth da ar gyfer unigolion ond mae’n gadarnhaol iawn ar gyfer cyllidebau’r Gronfa.

Ychwanegodd Mr Middleman efallai y bydd lleihad o ran cyfrifoldebau o 1-2% a allai arwain at ostyngiad o oddeutu £40 miliwn oddi ar y diffyg ariannol.

Gwnaeth sylw hefyd ar hysbysiad adran 114 Cyngor Swydd Northampton. Roedd hyn mewn perthynas â’r rheoliadau gwario yng Nghyngor Swydd Northampton yn adlewyrchu straen ariannol difrifol ar y Cyngor Sir. Dyma’r tro cyntaf i Mr Middleman weld hyn ers iddo fod yn Actiwari, ond roedd o’r farn ei fod yn atgyfnerthu’r angen am fframwaith rheoli cyflogwr cadarn. Mae’r sefyllfa hon yn amlygu’r angen i fod yn ymwybodol o’r ffaith fod hyn yn digwydd hyd yn oed i’r cyflogwyr cryfaf.

Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd yr adolygiad o gofrestru awtomatig yn dal i ddigwydd. Ymatebodd Mr Middleman gan ddweud ei fod eisoes wedi ei gwblhau ac y byddai yn weithredol o ganol 2020. Yr effaith yn yr hirdymor yw y gallai cofrestru awtomatig gynnwys poblogaeth fwy. Fodd bynnag, ni fyddai disgwyl i hyn fod yn arwyddocaol i’r Gronfa.

PENDERFYNWYD:

 

1. Argymhellir bod holl aelodau’r Pwyllgor yn nodi'r adroddiad hwn ac yn ymgyfarwyddo â’r materion presennol sy’n effeithio’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gan fod rhai yn arwyddocaol i weithrediad y Gronfa.

 

112.

Diweddariad Gweinyddu Pensiwn/ Cyfathrebu pdf icon PDF 110 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch yr Adran Gweinyddu Pensiynau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Mrs Burnham nad oedd unrhyw beth penodol i’w amlygu yn yr adroddiad hwn ond bod y llwythi achosion dan atodiad 1 (tasgau arferol) ar gyfer lefelau achos Aelodau ar dudalen 91 ar ffurf graffig newydd yn hytrach na ffigyrau yn unig. Mae hyn yn rhoi gwell syniad o ba waith sydd wedi’i gwblhau a’i ychwanegu a swm y gwaith sy‘n dod i mewn i’r swyddfa yn ogystal â lefelau hanesyddol ac uchafbwyntiau o ran lefelau achos. Mae hefyd yn dangos lefel gweithgaredd y 3 Chyngor ar wahân.

Mae’r tuedd yn dangos cynnydd yn nifer y tasgau bob mis.  Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â swm y gwaith a achoswyd wrth greu cyrff newydd a dderbynnir ar drosglwyddiadau staff, er enghraifft pan oedd 400 aelod o staff yn trosglwyddo i gyrff newydd a dderbyniwyd (NEWydd ac Aura).

Nododd Mrs Burnham hefyd fod dros 700 o aelodau anhysbys wedi’u hysbysu oherwydd gweithrediad iConnect a fyddai’n arwain at fwy o waith yn y cyfnod adolygu interim prysur ac y byddai hyn yn cael effaith ar dasgau eraill. Fodd bynnag, byddai disgwyl i’r cyfnod hwn dawelu ac mae trosglwyddo i iConnect yn gam cadarnhaol iawn i’r Gronfa o ran ansawdd data a chwrdd â therfynau amser statudol.

Cyfeiriodd Mr Hibbert at dudalen 91 a gofynnnodd a oedd problem o ran graddfa ac a oedd angen edrych ar y Gronfa gan ei bod yn swm grynodol o wybodaeth. Cadarnhaodd Mrs Burnham y byddai fformat y graff yn cael ei adolygu a bod yr ystadegau sylfaenol i’w cael ar ffurf tabl.

Dywedodd Mrs Burnham, yn atodiad 2 o dudalen 94 ymlaen, a oedd yn dangos y perfformiad yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol bod hyn hefyd wedi’i wneud ar ffurf graff er eglurder i ddangos y tri maes gwahanol o ofyniad cyfreithiol, amseroedd gweithdroi mewnol a'r profiad cyffredinol, hynny yw'r broses o’r dechrau i’r diwedd. Mae TPR â diddordeb yn y gofynion cyfreithiol ond mae’n bwysig edrych ar hyn o safbwyntiau gwahanol. Mae’n cynnwys 7 maes proses allweddol.

Gofynnodd y Cadeirydd i Mrs Burnham egluro’r graffiau newydd yn atodiad 2.

Mewn perthynas â thudalen 94, eglurodd Mrs Burnham bod y linell drwchus yn dangos % nifer yr achosion a oedd wedi’u cwblhau (echel dde) a bod y siart bar yn dangos nifer yr achosion a oedd wedi’u cwblhau (echel chwaith). Nodwyd nad oedd rhai o’r rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu bodloni ac eglurwyd bod y mentrau amrywiol (iConnect, cynllun gwella data ac ati.) yn rhan o’r cynllun i gynorthwyo â chwrdd targedau ond nodwyd hefyd efallai nad oedd cydymffurfedd llwyr ym mhob maes yn bosibl gan ei fod yn dibynnu ar drydydd partïon yn cyflwyno’r data yn amserol e.e.cyflogwyr.

Dywedodd Mr Hibbert bod y cyflwyniad graff yn dangos y rhai nad oedd y Gronfa wedi'u cyflawni yn amlwg. Fodd bynnag, roedd y rhai lle roedd y Gronfa wedi rhagori’r gofyniad cyfreithiol yn anodd i’w gweld e.e. pam fod y linell drwchus ar y graff yn edrych yn llawer uwch na’r bariau ar dudalen 97.  ...  view the full Cofnodion text for item 112.

113.

Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu

Cyflwyno diweddariad llafar i Aelodau’r Pwyllgor gan Swyddogion ac Ymgynghorwyr Cyllid

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd adroddiad ysgrifenedig ar gyfer yr eitem hon ar y rhaglen gan fod y meysydd wedi’u cynnwys yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror ond fe drosglwyddodd y cyfarfod i Mr Middleman, Mr Harkin a Mrs Fielder er mwyn cael diweddariad ar lafar o Fuddsoddiadau a Chyllid.

Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys;

·         Mae Buddsoddi Cyfrifol yn broblem sylweddol ar draws cronfeydd yn ogystal â sicrhau cysondeb ceisiadau gan fod safbwyntiau yn wahanol.

·         Mae gweithredu cyfuno ar gamau gwahanol i bob cronfa ond mae’r strwythurau wedi’u sefydlu.  Mae rhai cronfeydd yn trosglwyddo asedau yn gyflymach nag eraill yn dibynnu ar eu strategaethau ased sylfaenol.

·         Rheoli Risg – Mae’r Llwybr Hedfan yn gweithredu’n dda ac mae Cronfeydd eraill yn symud i’r un cyfeiriad o ran LDI, Gwarchod Ecwiti a dadrisgio yn enwedig o ystyried y gwelliant o ran lefelau ariannu.   Roedd y swyddogion a Mercer/JLT wedi cwrdd y bore hwnnw i drafod gweithredu strategaeth gwarchod ecwiti newydd ar gyfer y Gronfa a bydd hyn yn cael ei adrodd yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin.

·         Lleihaodd gwerth asedau ym mis Ionawr i fis Chwefror o oddeutu £14 miliwn; dywedodd Mrs Fielder bod y Gronfa yn dal i fyny o £1.8 biliwn o ran cyfanswm yr asedau.

·         Ychwanegodd Mr Middleman bod lefelau’r cyllid oddeutu 90% sydd o flaen y targed.

 

 

114.

PLSA CONFERENCE SESSION VIDEO ON PENSION RISK

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd fideo sesiwn hyfforddi olaf y PLSA am Risg Pensiwn. Gellir gweld y fideo yma: https://www.youtube.com/watch?v=Xwx3MfQzeuY. Roedd y fideo yn cynnwys panel o uwch ffigyrau buddsoddi yn trafod risgiau macro a thematig i bennu pa un sydd fwyaf bygythiol. Mae esiamplau yn cynnwys risgiau o ddatblygiadau daearwleidyddol, risgiau newid hinsawdd ac asedau amddifad.