Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

100.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.

101.

Cofnodion pdf icon PDF 149 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 19 Rhagfyr 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr eu cyflwyno a'u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Bod cofnodion y cyfarfod yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

102.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 - Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a goblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gafwyd ar 20 Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y prif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a rhoi diweddariad ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr ystod o ddatrysiadau cyllideb sydd ar gael i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror. 

 

Roedd crynodeb o’r prif benawdau wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ac roedd yn cael effaith o gynyddu’r ‘bwlch yn y gyllideb’ i £12.946miliwn.   Roedd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir y Fflint yn hynod siomedig ac roedd yn cyflwyno her gynyddol i sefyllfa ariannol sydd eisoes yn anodd iawn yn barod.

 

Roedd angen paratoi cynigion cyllideb terfynol manwl nawr ar gyfer eu hystyried a’u craffu gan yr Aelodau a byddai cynigion penodol yn cael eu hystyried gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol o fis Chwefror.  

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y setliad gan Lywodraeth Cymru yn siomedig a oedd wedi arwain at yr angen i adolygu nifer o ragdybiaethau cynllunio a rhagolygon cyn y Cyngor Sir ym mis Chwefror.  

 

Roedd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cadarnhau trefniadau briffio Aelodau o 22 Ionawr a 25 a drefnwyd i roi cyfle i’r Aelodau ystyried y cynigion ar gyfer y gyllideb yn gyffredinol cyn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod datganiad cadarn wedi cael ei gyflwyno yn dilyn y setliad siomedig.     Eglurodd fod cyfarfod wedi cael ei gynnal gyda’r Penaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr y noson gynt i amlinellu’r cynigion fyddai’n cael eu gwneud.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau cyn cytuno ar gyfres o argymhellion i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar 20 Chwefror (a fydd yn destun ystyriaeth flaenorol a sylwadau gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu).

103.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023 / 24 pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd a wnaed yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023 / 28.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad oedd yn cyflwyno crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer sefyllfa canol blwyddyn 2023/24.

 

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau oedd yn canolbwyntio ar feysydd

perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targed sefyllfa canol blwyddyn ar hyn o bryd.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cynnydd yn erbyn y camau a’r mesurau oedd yn cael eu monitro a’u diweddaru yn chwarterol.   Byddai cynnydd yn erbyn y mesurau blynyddol o fewn Cynllun y Cyngor yn cael eu casglu o fewn Adroddiad Perfformiad Diwedd y Flwyddyn.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau a fanylwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2023/24 yn cael eu cymeradwyo a’u cefnogi;

 

(b)       Bod y perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau/dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24 yn cael ei gymeradwyo a’i gefnogi; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

104.

Strategaeth Tir Halogedig pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Archwilio Tir Halogedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac eglurodd fod y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yn disgrifio sut roedd yn ofynnol i Gyngor Sir y Fflint drwy Ran 2A o’r Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 nodi ac archwilio tir o fewn ei reolaeth gweinyddu ac eglurodd y camau y bydda’r Cyngor yn eu cymryd i archwilio’r tir i sicrhau bod tir halogedig yn cael ei adfer.

 

Roedd Strategaeth Archwilio Tir Halogedig Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei diweddaru yn 2023 i adlewyrchu polisïau ac amcanion presennol y Cyngor a disodli prif ddarn o ganllawiau rheoleiddio sy’n ymwneud ag asesu tir halogedig. 

 

Roedd yr adroddiad yn egluro diben y Strategaeth a’r diweddariadau a wnaed. 

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried mewn cyfarfod diweddar o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac roedd y sylwadau a dderbyniwyd wedi eu hadlewyrchu yn y strategaeth a ddiweddarwyd a gyflwynwyd i’r Cabinet. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y diweddariadau i’r Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yn cael eu cymeradwyo.

105.

Cynnydd ar y Prosiect Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC) pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Diweddaru’r Cabinet ar ddatblygiadau’r prosiect Archif AGDdC.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Roberts wedi cyflwyno’r adroddiad ac egluro er mwyn cynyddu effaith y gwasanaethau archif yn ein cymunedau ac ymestyn eu cyrhaeddiad ar draws Sir y Fflint a Sir Ddinbych a mynd i’r afael â phrif ddiffygion yn yr adeiladau archif presennol ym Mhenarlâg a Rhuthun, roedd Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn rhannu uchelgais i adeiladu cyfleuster archif o’r radd flaenaf, newydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru ar gampws Neuadd y Sir, ger Theatr Clwyd. 

 

Byddai’r cyfleuster yn dod â chasgliadau Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd mewn un lleoliad.    Byddai’r adeilad newydd hefyd yn gweithredu fel canolbwynt mewn model o weithredu trwy bwynt canolog, a fyddai’n darparu mynediad digidol i’r deunyddiau archif drwy bwyntiau mynediad mewn llyfrgelloedd ac adeiladau cyhoeddus eraill i ehangu cyfranogiad ar draws Sir y Fflint a Sir Ddinbych. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod AGDdC, gyda chefnogaeth y ddau Gyngor, wedi cyflwyno cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Chwefror 2021 ac roedd wedi colli allan o fewn trwch blewyn o dderbyn cyllid.   Nid oedd yna unrhyw adborth negyddol ar gynnwys ac ansawdd y cais, ac roedd cais newydd wedi’i annog.   Roedd y cais am grant wedi cael ei gyflwyno ac erbyn Mawrth 2024 byddai’r Cyngor yn gwybod pa un a fyddai wedi derbyn arian grant ai peidio.    

 

Roedd symud i un adeilad yn galluogi AGDdC i gyfuno a gwneud y defnydd gorau o’i

adnoddau, yn diogelu’r gwasanaethau archif yn y ddau Gyngor ac yn galluogi’r Cyngor i gyflawni cynllun gweithgaredd cyffrous a fyddai’n cyflwyno archifau i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, gan wneud cyfraniad cadarnhaol i les ac addysg ein preswylwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cyflwyno cais am grant pellach i NLHF Cymru am £7.336m gan Wasanaeth Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC) ar 15 Tachwedd 2023 i gael ei nodi;

 

(b)       Bod canlyniad y cais am grant a fyddai’n hysbys erbyn diwedd Mawrth 2024 yn cael ei nodi ac os byddai’r cais a’r prosiect yn llwyddiannus, yna bydd y model darparu gwasanaeth yn gwbl weithredol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2027-28; a

 

(c)        Bod yr heriau a wynebir gan y prosiect ers 2021 a’r datblygiadau parhaus, gan gynnwys effaith costau posibl y prosiect yn sgil pwysau chwyddiant yn amodau’r farchnad bresennol. 

106.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 8) pdf icon PDF 260 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl cyntaf i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 8. 

 

Roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Roedd y diffyg gweithredol o £2.942m a oedd yn symudiad ffafriol o £0.728m o’r ffigwr diffyg a adroddwyd ym Mis 7

·         Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £4.918 miliwn (ar ôl union effaith dyfarniadau cyflog a chan ystyried dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol)

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.018 miliwn yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.118 miliwn o’r ffigwr a adroddwyd ym Mis 7

·         Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.297 miliwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon economaidd yn parhau'n heriol gan fod lefelau chwyddiant yn parhau i fod yn uchel.  Roedd effeithiau hynny, ynghyd â'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau, yn dod yn fwyfwy anodd ymdrin â nhw wrth i gyllid y Cyngor fethu â chadw i fyny â maint y pwysau hynny. 

 

I gynorthwyo i reoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant amcanol

cyffredinol, roedd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo’n gytundebol wedi’i roi

mewn lle gyda phroses rheoli swyddi gwag oedd yn parhau. 

 

Hyd at Fis 8, roedd £1.293m o wariant gohiriedig a/neu hwyr wedi’i nodi ac roedd wedi’i ddadansoddi gan y gwasanaeth o fewn Atodiad 2.   Byddai her gadarn llinellau ac ymrwymiadau’r gyllideb yn parhau, a byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

           

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24.

107.

Diwygio Treth y Cyngor – Ymgynghoriad Cam 2 Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 286 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ac ymateb argymelledig i’r Cabinet ar gyfer ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru ynghylch Diwygio Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru i’r Aelodau yn ceisio barn ar raglen barhaus diwygio treth y cyngor. Roedd cynigion cam 2 yn canolbwyntio ar:

 

·         Graddfa a chyflymdra diwygiadau bandio/ail-werthuso treth y cyngor posibl. 

·         Diwygio eithriad treth y cyngor Dosbarth F ar gyfer eiddo oedd yn

wag ble roedd y preswylydd blaenorol wedi marw ac nid oedd unrhyw warant profiant na llythyrau gweinyddu wedi eu cyflwyno. 

·         Eglurder am y termau a meini prawf priodol ar gyfer eithrio treth y cyngor

Dosbarth U ar gyfer aelwydydd ble roedd y meddiannydd wedi’i dystio i fod â salwch meddwl difrifol’.

 

Roedd y Rheolwr Refeniw a Chaffael wedi darparu manylion llawn ar gyfer y dewisiadau oedd ar gael. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Healey fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ble roeddent yn cefnogi’r fersiwn estynedig a’i weithredu gynted â phosibl.    Roedd yn symud newid i’r argymhelliad ar gyfer cefnogi’r fersiwn estynedig ond gyda dull graddol, oedd yn cael ei gefnogi. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cynigion Llywodraeth Cymru (cam 2) i ddiwygio Treth y Cyngor yn cael eu nodi, a bod uwch swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ymateb i’r ymgynghoriad i argymell y fersiwn estynedig a’i roi ar waith fesul cam.  

108.

Polisi Goleuadau Stryd 2023-2028 pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd mai’r tro diwethaf i’r polisi gael ei adolygu oedd yn 2015 pan gafodd y safonau eu diwygio ar gyfer atgyweirio diffygion goleuadau stryd ac roedd amlder archwiliadau min nos wedi eu hadolygu, yn ogystal â chynnwys darpariaeth ar gyfer goleuadau dros dro a gostwng goleuadau.

 

Roedd y polisi drafft yn cynnwys y cyfrifoldebau, y gofynion a’r safonau ar gyfer holl oleuadau priffyrdd cyhoeddus allanol newydd ac wedi’i anelu i gynnwys, ble bynnag bo hynny’n ymarferol, holl godau ymarfer a deddfwriaeth perthnasol, ynghyd ag arfer gorau a pholisïau cenedlaethol.  

 

Roedd y polisi diwygiedig a gyflwynir i’w ystyried gyda’r adroddiad yn cymryd i ystyriaeth seilwaith trydanol ychwanegol, fel gwefru cerbyd trydan, arwyddion a ysgogir gan gerbydau a diffibrilwyr.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi a’r Amgylchedd diweddar ac roedd eu sylwadau wedi eu cynnwys yn y ddogfen. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, cadarnhaodd Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd bod y trefniadau gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar allu talu tuag at gadw goleuadau ymlaen yn parhau yr un fath. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod perfformiad y portffolio yn erbyn y safonau a pholisi presennol yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod y polisi Goleuadau Stryd diwygiedig yn cael ei gefnogi.

109.

Cofebion Peryglus ym Mynwentydd Sir y Fflint pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer dull amgen a pharhaol o wneud cofebion yn ddiogel os nad yw’r gofeb yn cael ei thrwsio gan berchennog cofrestredig y bedd, yn ogystal â thynnu ymylfeini sydd wedi torri neu eu gwneud nhw’n saff os ydynt mewn cyflwr gwael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd bod y gwasanaeth yn gyfrifol am tua 20,000 o gerrig beddi neu gofebion o amrywiaeth o siapiau a meintiau ac roedd yna ddyletswydd ar y Cyngor i gynnal a chadw’r tir claddu mewn cyflwr da a diogel.

 

Roedd cyfuniad o absenoldeb cofnodion a/neu absenoldeb aelodau o’r teulu oedd wedi goroesi ac yn fodlon ymgymryd â’r gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar gofebion wedi arwain at oddeutu 700 o gofebion o fewn mynwentydd Sir y Fflint yn cael eu hystyried yn anniogel yn strwythurol.   Er bod y cofebion hynny yn parhau i gael eu cefnogi gan bolion pren, roedd angen gweithredu datrysiad parhaol.   Yn ogystal â chofebau anniogel, roedd ymylfaen o fewn mynwentydd h?n y cyngor hefyd mewn cyflwr gwael, gan arwain at y posibilrwydd o berygl baglu.

 

Diben yr adroddiad oedd ceisio cefnogaeth a chymeradwyaeth ar gyfer dull amgen a pharhaol o wneud y cofebion yn ddiogel, os na fyddai’r gofeb yn cael ei atgyweirio gan y perchennog bedd cofrestredig, yn ogystal â gwneud unrhyw ymylfaen oedd yn rhydd o brif strwythur y bedd yn ddiogel. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnig i fabwysiadu y dull “tyllu i mewn” i sefydlogi’r cofebau hynny a ystyriwyd oedd yn anniogel yn strwythurol pan na ellir olrhain perchnogion y bedd yn cael ei gefnogi.    Bydd y dull hwn yn mynd i’r afael â risg iechyd a diogelwch parhaus sy’n gysylltiedig â chofebau anniogel sydd ond yn cael eu trwsio dros dro ar hyn o bryd; a

 

(b)       Bod y cynnig i fynd i’r afael ag ymylfaen anniogel drwy ailosod pob rhan o’r ymyl o fewn strwythur y bedd - naill ai uwchlaw neu islaw’r wyneb yn dibynnu a oes yna sylfaen slab concrid yn cael ei gefnogi. 

110.

Adolygu Ffioedd Gwasanaeth Larwm pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        I amlinellu’r cynnig i adennill y costau llawn ar gyfer gwasanaeth larymau’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd o fewn stoc dai y Cyngor (CRT) roedd yna 2592 o unedau llety tai gwarchod.  Yn dilyn adolygiad o’r gwasanaeth warden yn 2009 roedd y gwasanaeth hwn wedi dod i ben ac roedd y Gwasanaeth Cefnogi Llety yn y Gymuned wedi’i sefydlu.  Roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth daliadaeth niwtral i unrhyw berson h?n yn Sir y Fflint allai fod angen cefnogaeth sy’n ymwneud â thai.

 

Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth ymateb ar gyfer achosion o ganu larwm. Ar gyfer preswylwyr CRT, gwasanaeth 24 awr y dydd yw hwn, sydd yn gweithredu gwasanaeth tu allan i oriau o fewn y tîm ar gyfer gwaith y tu allan i oriau swyddfa (nosweithiau, min nos a phenwythnosau).  Y cynnig a amlinellwyd yn yr adroddiad oedd gweithredu’r ffi gwasanaeth uwch i bob preswylydd llety gwarchod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth larwm ar hyn o bryd.  Byddai’r ffi yn cael ei gweithredu ar gyfer pob preswylydd newydd mewn cynlluniau llety gwarchod lle’r oedd larwm wedi’i osod, yn unol â’r broses bresennol ar ddechrau eu contract newydd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod yr adroddiad yn darparu manylion am gynnig i gynyddu’r ffi gwasanaeth i bob preswylydd llety gwarchod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth larwm ar hyn o bryd a byddai’r ffi gwasanaeth yn berthnasol i bob eiddo gwarchod o’r dyddiad gosod yn y dyfodol.

 

Roedd y cynnig yn cynrychioli cynnydd o £0.85 fesul wythnos galendr, neu wrth gyfrif dros gyfnod o 50 wythnos roedd yn cyfateb i £0.98 o gynnydd.     Bydd hyn yn golygu y gellir adennill y costau llawn o 2024/2025 ymlaen a bydd y ffi yn cael ei adolygu’n flynyddol yn rhan o broses gynllunio busnes CRT i alinio costau i ffioedd gwasanaeth wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnig i adennill cost lawn gwasanaeth larwm y cyfrif refeniw tai.

111.

Polisi Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o’r newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i Bolisi Rheoli Tai a Pholisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol er mwyn ymateb i Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rheoli tai effeithiol ac effeithlon oedd yn adlewyrchu arfer gorau, oedd yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ac yn amddiffyn hawliau deiliaid contract yn ogystal â lleihau’r risg i’r Cyngor am beidio cydymffurfio gyda deddfwriaeth briodol. 

 

Y Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016, a ddaeth i rym o’r 1af 

Rhagfyr 2022, dyma’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Roedd

ddeddfwriaeth newydd wedi newid y ffordd yr oedd pob landlord yng Nghymru yn rhentu eu heiddo.

 

Nod y Ddeddf Rhentu  Cartrefi (Cymru) 2016 yw symleiddio’r broses o rentu cartref yng Nghymru a rhoi mwy o wybodaeth i bartïon am eu hawliau a’u 

rhwymedigaethau. Roedd y Ddeddf mewn grym yn rhannol bellach, at ddibenion gwneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau. 

 

Roedd cyflwyno’r newidiadau sylweddol a ddaeth yn sgil y Ddeddf yn golygu bod angen adolygu a drafftio polisïau a gweithdrefnau diwygiedig.  Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i’r Polisi Rheoli Tai a’r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Roedd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) yn egluro yr adroddwyd ar y polisi i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Thai ddwywaith ac roedd y sylwadau a dderbyniwyd ar faterion penodol.   Roedd sylwadau ar y polisi yn ymwneud â chanllawiau gweithdrefnol.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y polisïau Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael eu cymeradwyo.

112.

Bryn y Beili, Yr Wyddgrug pdf icon PDF 4 MB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cyfleusterau ym Mryn y Beili yn Yr Wyddgrug.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd fod gofod gwyrdd Bryn y Beili, Yr Wyddgrug yn eiddo i’r Cyngor yng nghanol yr Wyddgrug ac roedd yn cynnwys gweddillion Castell Yr Wyddgrug.  

 

Wedi gordyfu a heb ei ddefnyddio lawer yn flaenorol, roedd y safle wedi ei adfer yn adnodd cymunedol gwerthfawr drwy bartneriaeth teiran rhwng y Cyngor, Cyngor Tref yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn y Beili. 

 

Mae’r adroddiad hwn yn darparu crynodeb o’r prosiect sydd wedi cael ei gynnal.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, lle roedd y trafodaethau wedi canolbwyntio ar oblygiadau adnoddau.  Ar hyn o bryd Cyngor Tref Yr Wyddgrug oedd yn gyfrifol am y costau.   Byddai angen adolygu hynny a dosbarthu’r costau yn fwy teg. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi llwyddiant cwblhau’r datblygiad ym Mryn y Beili yn Yr Wyddgrug.

113.

Diweddariad ar yr Adolygiad o Rwystrau Mynediad pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Cytuno ar gyflwyniad gwelliannau i fynediad ar Lwybr Arfordir Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd fod Cyngor Sir y Fflint wedi penodi ymgynghorydd i gynnal adolygiad o’r mesurau rheoli mynediad presennol ar waith ar adran o Lwybr Arfordir Cymru (LlAC) rhwng Caer a Queensferry.

 

Roedd argymhellion o astudiaeth yr ymgynghorydd wedi eu trafod yn Sir y Fflint.

Fforwm Mynediad Lleol, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a’r Amgylchedd a’r Cabinet ym mis Gorffennaf 2023.  Y penderfyniad yn y Cabinet oedd i gael adborth pellach gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid pan gafodd dyluniadau gweithredu eu sefydlu. 

 

Roedd Cynllun a manyleb wedi eu llunio ar gyfer pwyntiau mynediad ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru o amgylch ardal pont droed Saltney ac anfonwyd allan ar gyfer adborth yn ystod mis Hydref.

Roedd crynodeb o ymatebion ynghlwm i’r adroddiad.  

 

Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi wedi ystyried yr adborth ar 19 Rhagfyr ble roedd y cynigion wedi eu cefnogi gan y mwyafrif. 

 

Roedd y dewis a gyflwynwyd yn amlygu’r cyfleoedd a’r risgiau i’r Awdurdod.    

 

Roedd y Cynghorwyr Bibby a Jones yn croesawu’r adroddiad a’r gwelliannau arfaethedig a oedd yn darparu cyfaddawd pragmatig. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr adborth ar y gwelliannau mynediad bwriedig a’r risgiau posibl i’r Awdurdod yn cael eu nodi; a

 

(b)       Bod y gwelliannau bwriedig i’r pwyntiau mynediad fel y manylwyd yn y cynllun a’r fanyleb yn cael eu cymeradwyo. 

114.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r

Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig

ei chyflwyno. Roedd y camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Tai a Chymunedau

 

  • Cyngor Sir y Fflint - Prince’s Street, Primrose Street, Stryd y Capel, Dodd’s Drive a Summersville Close, Cei Connah - Cynnig i Wahardd Aros a Chyfyngiadau Aros ar Unrhyw Adeg

Hysbysu’r Aelodau o’r materion heb eu datrys a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cynnig i Wahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrir uchod.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

115.

Adolygiad Contract Fflyd

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn darparu diweddariad i’r Cabinet ar y Contract Fflyd. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Contract Fflyd.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle cafodd yr argymhellion eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)       Bod y wybodaeth ddiweddaraf ar y contract fflyd yn cael ei nodi gan gynnwys bod y wybodaeth ddiweddaraf wedi’i darparu i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol;

 

(b)       Bod y dewis a ffefrir i ddod â’r gweithrediadau fflyd a rheoli yn ôl yn fewnol i sicrhau parhad di-dor y gwasanaeth hanfodol hwn i gael ei gefnogi; a

 

(c)        Estyniad tymor byr pellach gyda’r cyflenwr presennol am ddim mwy na 12 mis i ganiatáu amser i’r Cyngor drefnu darpariaeth amgen i gael ei gymeradwyo.  

116.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.