Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwpras:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 18 Mai 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

3.

Pecyn Ysgogi Economaidd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Ceisio cefnogaeth Pecyn Ysgogi Economaidd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, ac eglurodd bod Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy wedi llunio pecyn o flaenoriaethau buddsoddi ar gyfer yr is-ranbarth er mwyn ymateb i effeithiau digynsail pandemig Covid-19, a fyddai gobeithio yn tanio adferiad yr economi.  Roedd y pecyn yn cynrychioli cais i Lywodraethau Cymru a’r DU am gyllid i gyflwyno ar bum blaenoriaeth buddsoddi, sef:

 

·         Cadw ein busnesau yn gystadleuol;

·         Datgarboneiddio diwydiant;

·         Sgiliau ar gyfer y Dyfodol;

·         Cysylltu ein rhanbarth; a

·         Cysylltedd digidol

             

Cafodd y blaenoriaethau yma eu llunio yn dilyn cytundeb gyda phob partner yng Nghynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy. Roedd lefel y buddsoddiad y ceisiwyd amdano gyfwerth â £402m, cyfuniad o gyllid cyfalaf a refeniw. Cafodd y pecyn ei lunio rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mawrth 2021, ac roedd yn destun “lansiad tawel”.  Y camau nesaf oedd cynnal lansiad llawn o’r pecyn a fyddai’n cael ei drin gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a byddai ymgysylltu’n digwydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC) a Llywodraeth y DU am fanylion y pecyn ysgogi economaidd a sut y byddai’n cael ei ddatblygu’n llwyddiannus.

 

Croesawodd yr aelodau y pecyn ysgogi economaidd a diolchwyd i’r Cynghorydd Butler am ei waith ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn cefnogi’r pecyn ysgogi economaidd fel partner yng Nghynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.

4.

Ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru – Ail-gydbwyso gofal a chefnogaeth pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Ystyried y Papur Gwyn, nodi a chefnogi'r ymateb i'r ymateb ymgynghori a gyflwynwyd gan y Cyngor a chymeradwyo'r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio safbwyntiau Awdurdodau Lleol ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd sy’n mynd i’r afael â chymhlethdod y prosesau comisiynu lleol cyfredol, ac yn ailganolbwyntio blaenoriaethau o ran comisiynu gofal a chymorth.

 

O’r achos dros newid, daeth tri maes allweddol i’r amlwg lle’r oedd LlC yn credu bod angen gweithredu â ffocws i gyflwyno gwelliant ar draws y system i sicrhau gweledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol.

 

·         Ailganolbwyntio sylfeini’r farchnad ofal – draw oddi wrth brisiau a thuag at ansawdd a gwerth;

·         Ailgyfeirio arferion comisiynu – rheoli’r farchnad a chanolbwyntio ar ganlyniadau; a

·         Datblygiad dulliau integreiddio – canolbwyntio ar gynllunio a darparu ar y cyd.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) drwy weithredu yn y meysydd hynny, roedd y Papur Gwyn yn ceisio ailgydbwyso’r farchnad gofal a chymorth ar sail fframwaith cenedlaethol clir lle’r oedd gwasanaethau’n cael eu trefnu’n rhanbarthol a'u darparu'n lleol.  Wrth wneud hynny, eu nod oedd ailgydbwyso gofal cymdeithasol lle nad oedd yna orddibyniaeth ar y sector preifat, na monopoli yn y cyfeiriad arall.

                       

PENDERFYNWYD:

 

Cyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad i’r Papur Gwyn.

5.

Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Canlyniad Perfformiad ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y wybodaeth yn cyflwyno adolygiad blynyddol o berfformiad yn erbyn y mesurau a nodwyd ar gyfer 2020/21.

 

Roedd yr adroddiad ar gyfer Mesurau Adrodd 2020/21 yn dangos bod 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Yn y meysydd lle gellid mesur perfformiad yn erbyn y llynedd, roedd dirywiad o 52% yn y duedd, gyda 43% o fesurau’n gwella ar berfformiad y llynedd a 5% yn parhau i berfformio’n sefydlog.  Roedd yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.

 

Fe eglurodd y Prif Weithredwr bod y Mesurau Adrodd yn cael eu monitro gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol yn ôl y maes blaenoriaeth o ddiddordeb, a chafodd yr adroddiad llawn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol. Roedd pob Pwyllgor yn fodlon gyda’r perfformiad, gan nodi bod modd egluro unrhyw feysydd o danberfformiad gan yr amhariad a achoswyd gan bandemig Covid-19.  Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Gorffennaf gan fod angen ei fabwysiadu’n ffurfiol erbyn diwedd mis Hydref.  

 

Canmolodd yr Aelodau berfformiad y gweithwyr yn ystod cyfnod sydd wedi bod, ac sy’n parhau i fod yn gyfnod anodd iawn. Roedd yn dangos gallu’r sefydliad a’i weithwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi ac adolygu perfformiad cyffredinol y dangosyddion o safbwynt y Mesurau Adrodd ar ddiwedd y flwyddyn; a

 

(b)       Bod Aelodau wedi’i sicrhau gan yr eglurhad am yr achosion o danberfformio, a oedd yn bennaf o ganlyniad i amhariad pandemig Covid-19.

6.

Adroddiad Blynyddol Monitro'r Gymraeg 2020/21 pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2020/21 a darparu trosolwg o’r broses o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut y bodlonwyd Safonau’r Gymraeg. Cafodd y Safonau sydd angen eu bodloni eu nodi mewn Hysbysiad Cydymffurfio. Roeddynt yn unigryw i bob sefydliad ac roeddynt yn nodi beth oedd disgwyl i bob sefydliad ei weithredu yn Gymraeg, a’r cyfnod o amser er mwyn cydymffurfio.

 

            Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg gan nodi meysydd ar gyfer rhagor o gynnydd a gwelliant.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi, gan nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach;

 

(b)       Cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn derbyn adroddiad canol blwyddyn am y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn.

7.

Datblygu darpariaeth Cartref Gofal Preswyl Plant pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y dull strategol o ddatblygu Gofal Preswyl Mewnol ar gyfer Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn gofal o ansawdd uchel fel eu bod yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu caru a’u cefnogi i ddatblygu sgiliau a chadernid i fyw bywyd llawn.

 

            Y prif nod yw cefnogi teuluoedd i ofalu am eu plant eu hunain, a’u rhwystro rhag dod yn blant sy’n derbyn gofal, os yw’n ddiogel gwneud hynny. Os fydd plant angen derbyn gofal, fe fydd y Cyngor eisiau sicrhau y gallwn ddarparu lleoliadau addas ac amserol. Serch hynny, roedd yna heriau sylweddol gyda digonolrwydd lleoliadau. Roedd yr awdurdod yn ddibynnol ar y sector annibynnol ar gyfer darpariaeth Gofal Preswyl Plant. Roedd y ddarpariaeth honno’n ddrud iawn ac yn aml mewn lleoliadau y tu allan i’r ardal, oedd yn golygu bod plant yn cael eu lleoli y tu allan i’w cymunedau ar gost ariannol gynyddol, ac anaddas i’r awdurdod lleol.

 

            Er mwyn sicrhau newid rhoddwyd ymrwymiad i ddatblygu darpariaeth Cartref Gofal Preswyl i blant a phobl ifanc, gyda manylion y blaenoriaethau ar gyfer y tair blwyddyn ariannol nesaf drwy gyflwyno’r prosiectau canlynol:

 

1.    Arosfa - i gefnogi nifer cynyddol o blant anabl a’u rhieni/gofalwyr.

2.    T? Nyth - darparu asesiad a chymorth therapiwtig arbenigol.

3.    Darpariaeth frys - i alluogi ymateb effeithiol i argyfwng.

4.    Cartrefi Grwpiau Bychan - i alluogi plant i fyw o fewn eu cymuned leol.

 

            Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bwysigrwydd bod datblygu Cartref Gofal Preswyl mewnol i blant yn cael ei ystyried fel dull system gyfan i gefnogi plant a phobl ifanc. Roedd yn cynnwys nifer o brosiectau ategol er mwyn:

           

            Lleihau’r nifer o blant sy’n derbyn gofal drwy:

 

·         Gryfhau darpariaeth trothwy gofal i gefnogi plant yn ddiogel ac yn briodol gartref a’u hatal rhag gorfod derbyn gofal yn y system ffurfiol.

·         Gweithio i ddirymu Gorchmynion Llys er mwyn sicrhau y gall plant sydd ddim angen bod mewn gofal, adael y system ofal yn ddiogel.

·         Llunio pecyn cefnogaeth ar gyfer trefniadau Gwarchodaeth Arbennig yn unol â threfniadau ariannol a chefnogaeth ar gyfer gofalwyr maeth

           

Cefnogi mwy o blant drwy faethu gyda’r awdurdod lleol gan:

 

·         Ddenu mwy o ofalwyr maeth cyffredinol drwy ymgyrch gan Faethu Cymru

·         Ehangu’r model Canolfan Mockingbird

 

Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad  a chefnogi datblygu Cartref Gofal Preswyl mewnol i blant a fyddai’n helpu i leihau cost lleoliadau y tu allan i'r sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Aelodau yn cefnogi’r symudiad i ddod yn ddarparwr uniongyrchol o Ofal Preswyl ar gyfer Plant; a

 

(b)       Bod y pedwar prosiect canlynol yn cael eu cytuno fel y prosiectau blaenoriaeth ar gyfer datblygiad mewnol:  Arosfa, T? Nyth, Darpariaeth Frys a Chartrefi Grwpiau Bychan.

8.

Diweddariad ar y Ddyletswydd Bioamrywiaeth pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd wrth ddarparu’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 hyd yma, cynllun 2020 – 2023 wedi ei ddiweddaru a meysydd allweddol o waith Bioamrywiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn cynnwys manylion am sut roedd y Cyngor yn gwneud cynnydd wrth gyflawni ei ddyletswydd bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

            Rhoddwyd eglurhad o Gynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor 2020-2023, o’r enw Cefnogi Natur yn Sir y Fflint, ac fe adolygwyd cynnydd y gweithredoedd i gyflawni amcanion, gan dynnu sylw at feysydd allweddol o waith bioamrywiaeth o fewn y Sir.

 

            Dywedodd Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) bod hwn yn enghraifft dda o beth y gellir ei gyflawni,  gan sôn am geisiadau grant llwyddiannus oedd wedi cael eu dyfarnu. Cafodd ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a  Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol pan gafodd ei gefnogi’n llawn.

           

            Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r Cyngor yn rhoi cyngor i breswylwyr ynghylch cael gwared ar Glymog Japan, ond ni fyddai’n gorfodi pobl i gael gwared arno.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau yn cydnabod ac yn cefnogi’r cynnydd gyda’r strategaeth bioamrywiaeth.

9.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 190 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:-

 

Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth

 

  • Cyngor Sir y Fflint – Crosstree Lane, Ash Lane, Glynne Way a Gladstone Way, Penarlâg a Cotton Lane, Mancot – Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Gwaharddiad ar Aros ar Unrhyw Adeg a Chyfyngu ar Aros

Rhoi gwybod i Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbyseb am Waharddiad Arfaethedig ar Aros, Gwaharddiad ar Aros ar Unrhyw Adeg a Chyfyngu ar Aros ar Crosstree Lane, Ash Lane, Glynne Way a Gladstone Way Penarlâg a Cottage Lane, Mancot.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

10.

Adolygiad Blynyddol – Arlwyo a Glanhau NEWydd

Pwrpas:        Cyflwyno cynllun busnes tair blynedd NEWydd (2021/22 i 2023/24) ar gyfer ei ystyried, ei adolygu a’i gefnogi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o berfformiad Arlwyo a Glanhau NEWydd yn 2020/21 gan dynnu sylw at yr anawsterau a chyfleoedd a wynebwyd yn ystod y cyfnod hwnnw.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y newidiadau a wnaed i Gynllun Busnes NEWydd a’r amcanion strategol diwygiedig ar gyfer y busnes yn cael eu cymeradwyo; a

 

(b)       Bod cyflawniadau NEWydd yn ystod y flwyddyn heriol hon yn cael eu nodi, a bod cynigion ar gyfer y cyfnod adferiad a chynlluniau’r cwmni ar gyfer twf dros y blynyddoedd i ddod yn cael eu cefnogi.

11.

Caffael Gwaith Amlennu SATC ar eiddo sy’n berchen i’r Cyngor

Pwrpas:        Penodi contractwyr i ddarparu rhaglen Amlennu T? Cyfan y Cyngor drwy fframwaith Procure Plus.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cychwyn ar brosiect uchelgeisiol i gyflwyno Safon Ansawdd Tai Cymru ar bob un o’i gartrefi erbyn 2020.  

 

Cam olaf y rhaglen oedd cyflwyno ‘gwaith amgylchynu’. Bydd y rhaglen tynnu at ei therfyn ym mis Rhagfyr 2021 oherwydd cyfyngiadau a wynebwyd yn sgil pandemig Covid-19. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig penodi contractwr ar gyfer y gwaith sydd yn weddill.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau yn cefnogi Dyfarniad Uniongyrchol i gontractwr a enwir yn yr adroddiad, i ymgymryd â Rhaglen Amgylchynu T? Cyfan, drwy’r fframwaith Procure Plus.

12.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.