Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

54.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’r Aelodau

yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

55.

Cofnodion pdf icon PDF 260 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 17 Tachwedd 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

56.

BRIFFIO YNGHYLCH SEFYLLFA FRYS (LLAFAR)

Pwrpas:         Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risfiau a’r

goblygiadau I Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad am yr argyfwng presennol. Roedd y nodyn briffio cyfrinachol mwyaf diweddar wedi cael ei anfon at yr Aelodau’r bore hwnnw. Roedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yngl?n â’r cynllun brechu.

 

            Pe bai Cymru’n mynd i mewn i ryw fath o Lefel 4 ar ôl y Nadolig, byddai pethau fel cyfleusterau hamdden dan do’n gorfod cau, ond byddai llawer o bethau’n gallu aros ar agor, e.e. Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, a byddai rhestr o’r gwasanaethau hynny’n cael ei chreu. Roedd trafodaethau’n cael eu cynnal am sut y gallai ysgolion gael eu hailagor yn ddiogel, a ph’un a fyddai hynny trwy gyfuniad o ffyrdd o ddysgu.

 

            Cafwyd y nifer uchaf eto o achosion yn Sir y Fflint y diwrnod cynt.  Roedd y ffigwr wedi gostwng ychydig heddiw. Roedd Gogledd Cymru’n parhau’n sefydlog felly roedd y risg yng Ngogledd Cymru’n is na gweddill Cymru. 

            Roedd y sefyllfa o ran ysbytai hefyd yn sefydlog ac nid oedd nifer y rhai a oedd yn cael eu derbyn oherwydd Covid-19 wedi cynyddu. Fodd bynnag, roedd yr ysbytai’n brysur oherwydd y pwysau tymhorol arferol.

 

            Roedd y wlad bellach yn yr ail wythnos o frechu. Roedd yn falch o gyhoeddi mai cartref gofal yn Sir y Fflint fyddai’r cartref gofal cyntaf yn y DU lle byddai’r trigolion yn derbyn y brechlyn Pfizer. 

 

            Roedd y cynllun rheoli traffig ar waith i sicrhau bod posib’ cyrraedd a gadael Ysbyty’r Enfys Glannau Dyfrdwy’n fwy diogel ar ôl iddo agor fel canolfan frechu.

 

Croesawai’r Cynghorydd Thomas y newyddion y byddai Canolfannau Ailgylchu’n cael aros ar agor, a dywedodd fod system archebu lle’n cael ei datblygu. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ysgolion. Roedd pob ysgol uwchradd wedi newid i ddysgu ar-lein yr wythnos hon, yn dilyn cyfarwyddyd Prif Weinidog Cymru. Y cyngor gwyddonol oedd nad oedd y risg mor uchel mewn ysgolion cynradd, ond roedd penaethiaid wedi cael eu cynghori y gallent newid i ddysgu ar-lein ddydd Iau a dydd Gwener os oeddent yn dymuno. Roedd hwn yn benderfyniad i’r penaethiaid a’r cyrff llywodraethu. Byddai darpariaeth ar gael ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr allweddol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bithell pa help oedd yn cael ei roi i blant oedd heb declynnau electronig i ddysgu o bell. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod gwaith wedi’i wneud i nodi pa ddisgyblion oedd dan anfantais ddigidol ac roedd y dysgwyr hynny’n cael benthyg teclynnau o’r ysgolion. Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod hyn yn cynnwys teclynnau Mi-Fi. Roedd teclyn Mi-Fi yn defnyddio rhwydweithiau 3G, 4G neu 5G ffonau symudol ac yn defnyddio’r cysylltiad i greu cwmwl neu bwynt band eang di-wifr bach.

 

            Diolchodd yr Aelodau i’r Prif Weithredwr am y diweddariad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

57.

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ar sefyllfa ddiweddaraf Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 yn dilyn y rownd ddiweddaraf o Bwyllgorau Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn rhoi amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2021/22 cyn y broses ffurfiol i osod y gyllideb. Roedd hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol genedlaethol.

 

            Roedd yr adroddiad yn ailosod strategaeth datrysiadau’r gyllideb, a oedd yn dibynnu’n fawr ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol ac nid oedd newidiadau ers y llynedd.

 

            Ymgynghorwyd â phob un o’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr amcangyfrif a’r strategaeth ar gyfer y gyllideb trwy gydol mis Tachwedd, yn enwedig ar y pwysau o ran costau a oedd wedi’u cynnwys yn yr amcangyfrif ar gyfer eu portffolios nhw.  Fe wnaeth y Pwyllgorau, fel un, y canlynol:

 

·         Cefnogi’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb;

·         Nodi a chefnogi’r pwysau o ran costau mewn portffolios unigol;

·         Cefnogi disgwyliadau’r Llywodraethau o ran cyllid cenedlaethol;

·         Nodi a derbyn y targed arbedion effeithlonrwydd cyfun o £1-2 miliwn;

·         Peidio â chynnig unrhyw opsiynau arbedion eraill i’w hystyried; a

·         Chefnogi bwriad y Cyngor ar y polisi trethu lleol h.y. uchafswm o 5% o gynnydd blynyddol i Dreth y Cyngor.

 

Cyhoeddodd y Canghellor ganlyniad Adolygiad o Wariant y DU ar 25 Tachwedd a’r prif oblygiadau i Gymru oedd:

 

·         £1.3 biliwn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru (LlC) (£770 miliwn i barhau i ariannu’r argyfwng a £560 miliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd);

·         Cynnydd i gyflogau’r sector cyhoeddus i gael eu hatal ar wahân i grwpiau gwaith penodol yn y GIG a phob un sy’n ennill llai na £24,000 y flwyddyn; ac

·         Isafswm cyflog i gynyddu 2.2% i rai 23 oed a h?n.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y cyfraniad oedd ei angen i ariannu Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y cyfraniad i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a’r amcangyfrifon oedd eu hangen ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol – incwm gwasanaethau cofrestru/ysgolion wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Roedd tri datrysiad ariannu strategol er mwyn mantoli’r gyllideb:

 

·         Cyllid y Llywodraeth (Cyllid Allanol Cyfun);

·         Trethi ac incwm lleol; a

·         Thrawsnewid ac arbedion effeithlonrwydd i wasanaethau.

 

Roedd Tabl 2 yn yr adroddiad yn nodi’r senarios i fantoli cyllideb 2021/22 ar yr isafswm angenrheidiol ar gyfer y gyllideb. Amcangyfrifon gros oedd rhai Treth y Cyngor. Byddai angen i unrhyw effaith o’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor fod wedi’i chynnwys fel costau.

 

Roedd Tabl 3 yn yr adroddiad yn nodi’r amcangyfrif diwygiedig i’r gyllideb, yn cynnwys y pwysau o ran cyllid ysgolion, anghenion dysgu ychwanegol a chronfeydd wrth gefn yn ôl cyfarwyddyd y Cabinet, ac roedd yn dangos lefel y cyllid oedd ei angen gan LlC.

 

Nodwyd amserlen y gyllideb fel:

 

15 Rhagfyr 2020 – Cabinet – Strategaeth ac Amcangyfrif o’r Gyllideb

21 Rhagfyr 2020 – Cyllideb Ddrafft LlC

22 Rhagfyr 2020 – Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol

23 Rhagfyr 2020 – Cabinet Arbennig (bore) a Sesiwn Briffio pob Aelod (pnawn)

19 Ionawr 2021 – Cabinet – Adolygiad o’r Gyllideb

16 Chwefror 2021 – Cabinet a’r Cyngor – Gosod y Gyllideb

2 Mawrth 2021 – Cyllideb/Setliad Terfynol LlC

 

            Byddai diweddariad yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 57.

58.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gydbwyllgorau Cyfun pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        Gwahodd ymateb ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar greu Cyd-bwyllgorau Cyfun (CJCs).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan egluro bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyhoeddi papur ymgynghori ar ei chynigion i greu cyrff cyfreithiol newydd i weithio’n rhanbarthol, o’r enw Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau). Roedd y p?er i gymeradwyo rheoliadau i greu Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi’u cynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a gymeradwywyd yn y Senedd yn ddiweddar. Roedd LlC yn ymgynghori ar y rheoliadau drafft ar gyfer CBCau.

 

            Byddai pedwar CBC yn cyfateb i ardaloedd y Bargeinion Twf yng Nghymru, a’r aelodau ar y cychwyn fyddai holl Arweinwyr y Cynghorau yn yr ardaloedd hynny. Byddent yn arfer swyddogaethau yr oedd LlC yn ystyried ei bod orau iddynt gael eu harfer yn rhanbarthol. Ar hyn o bryd, y cynnig oedd iddynt ymgymryd â datblygu economaidd, cludiant a chynllunio strategol. Byddai’r CBCau yn rhannu rheolau craidd cyffredin ond gellid eu teilwra i gyd-fynd â threfniadau rhanbarthol a oedd eisoes ar waith ac ar gyfer anghenion pob rhanbarth.

 

            Roedd Gogledd Cymru ar y cyfan, a’r Cyngor yn benodol, yn defnyddio patrwm effeithiol a chadarn o gydweithio a gweithio’n rhanbarthol. Gallai’r Cyngor felly gefnogi creu CBCau fel ffordd o wneud mwy o waith ar y cyd yn rhanbarthol.

 

            Roedd gan y rhanbarth Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) wedi ei sefydlu ers tro ac roedd ar hyn o bryd wrthi’n cymeradwyo’r Fargen Dwf derfynol gyda Llywodraethau Cymru a’r DU. Roedd felly yn hanfodol bod CBC Gogledd Cymru’n ychwanegu gwerth at waith BUEGC.

 

            O’r ddogfen ymgynghori, roedd yn debyg y byddai gan CBCau bwerau a oedd yn gorgyffwrdd â swyddogaethau’r prif gynghorau yng Ngogledd Cymru ac roedd angen mwy o eglurder am union gwmpas y swyddogaethau.

 

            Byddai CBCau yn penodi eu swyddogion eu hunain a byddai angen iddynt benodi swyddogion statudol allweddol fel Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig, Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151. Gallai cost y swyddi hyn gael ei chadw i’r isafswm trwy roi’r cyfrifoldebau i awdurdod cynnal a defnyddio personél sy’n cael eu cyflogi’n barod i wneud y gwaith.

 

            Roedd LlC hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad yn cynnig y byddai CBCau yn ysgwyddo cyfrifoldeb am baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol. Roedd y Gr?p Strategaeth Gynllunio wedi paratoi ymateb manwl i gwestiynau’r ymgynghoriad, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Yn olaf, roedd LlC yn cynnig y dylai CBCau ysgwyddo rôl paratoi’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol a datblygu polisïau ar gyfer cludiant yn y rhanbarth.  Trafodwyd y cynnig yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 8 Rhagfyr 2020, a oedd yn cefnogi sail yr ymateb.

 

            Roedd amlinelliad o ymateb wedi’i gynnwys gyda’r adroddiad yn ogystal â’r ymateb i lunio Cynlluniau Datblygu Strategol a oedd wedi’i gymeradwyo gan y Gr?p Strategaeth Gynllunio.

 

            Mynegodd yr Aelodau bryder am y costau a allai ddeillio o sefydlu CBCau, wrth fod angen cael gweithwyr yn lle’r swyddogion a fyddai’n cael eu neilltuo ar eu cyfer a’r camsyniad y byddai’r cynigion yn creu arbedion. Fe wnaethant sylwadau ar y meysydd lle’r oedd cydweithio’n rhanbarthol eisoes yn gweithio’n llwyddiannus.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, eglurodd  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 7) pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, ac yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol erbyn Mis 7.  Roedd yr adroddiad yn rhagdybio beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid. Roedd hefyd yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ar gyhoeddiadau Cyllid Grant at Argyfwng Llywodraeth Cymru.

 

            Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw trwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Diffyg gweithredol o £0.196 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.373 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 6.
  • Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.415 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

  • Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.460 miliwn yn is na’r gyllideb.
  • Rhagwelid y byddai balans terfynol ar 31 Mawrth o £2.633 miliwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y sefyllfa a ragwelid, y sefyllfa a ragwelid yn ôl portffolio, newidiadau sylweddol ers mis 6, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i’r amlwg, cyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod hon yn sefyllfa gadarnhaol i fod ynddi ar y pwynt hwn. 

 

Canmolodd yr Aelodau’r tîm cyllid am eu holl waith. 

 

            PENDERFYNWYD:

           

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragwelid ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021; a

 

 (b)      Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelid ar y Cyfrif Refeniw Tai.

60.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Cyflwyno drafft Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020/21 i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a chyflwynodd ddrafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys i’w gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn ddiweddar wedi cael ei ystyried a’i gefnogi yn y Pwyllgor Archwilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor.

61.

Teuluoedd yn Gyntaf – Yr Elfen Ariannu pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Tynnu sylw at y cyflawniadau a gofyn i’r Cabinet gefnogi parhau â’r ddarpariaeth sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn darpariaeth gwasanaethau atal a chymorth wedi’u hariannu Teuluoedd yn Gyntaf am hyd at 12 mis, yn ddibynnol ar i Lywodraeth Cymru gymeradwyo mwy o gyllid. Byddai hyn yn galluogi:

 

·         Parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol i rieni, pobl ifanc a theuluoedd sydd â phlant anabl yn Sir y Fflint a oedd yn elwa fwyaf o gymorth cynnar i ddatblygu gwytnwch a lles;

·         Gweithredu’r Hwb Cymorth Cynnar yn effeithiol; a

·         Gweithio gyda phartneriaid i werthuso, datblygu a chomisiynu gwasanaethau atal a chymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd Sir y Fflint.

 

Roedd yr Aelodau’n llwyr gefnogol o’r adroddiad a gwnaethant sylwadau ar ymyrraeth gynnar hanfodol oedd yn cael ei darparu gan y gwasanaeth hwn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo estyniad, yn ddibynnol ar i Lywodraeth Cymru gymeradwyo mwy o gyllid am gyfnod o chwe mis, gydag opsiwn am chwe mis arall os oes angen.

62.

Comisiynu Gwasanaethau Diwrnod Anableddau Dysgu pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i ail-gomisiynu Gwasanaethau Diwrnod Anableddau Dysgu gan ddarparwr presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi prynu gwasanaethau dydd anableddau dysgu wedi’u teilwra ar gyfer awtistiaeth i dri ar ddeg o unigolion trwy brynu ‘ar y pryd’.

 

            Nid oedd unrhyw gytundeb fframwaith perthnasol ar waith a oedd yn trafod comisiynu gwasanaethau o’r fath na chytundeb contractau’n adlewyrchu’r gwasanaethau oedd wedi’u prynu ar hyn o bryd.

 

            Roedd y darparwr gwasanaeth presennol wedi dweud bod y cytundeb prynu ‘ar y pryd’ presennol angen ei ddisodli â chytundeb mwy ffurfiol dan gontract er mwyn galluogi parhad gwasanaeth yn y dyfodol.

 

            Cyflwynwyd Adroddiad Eithriadau yn ceisio dyraniad uniongyrchol ar gyfer y gwasanaethau oedd yn cael eu prynu ar hyn o bryd ym mis Medi 2020.  Roedd y rhesymeg yn seiliedig yn bennaf ar yr angen am sicrhau parhad gwasanaeth i’r unigolion oedd yn cael y gwasanaethau dydd. Roedd cyngor gan y Tîm Caffael yn dweud bod sail yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ar gyfer dyraniad uniongyrchol byrdymor, nid am ddyraniad uniongyrchol hirdymor. Oherwydd yr amcangyfrif o gostau blynyddol gwasanaethau, roedd angen penderfyniad gan y Cabinet i sancsiynu unrhyw ddyraniad uniongyrchol mwy hirdymor.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai staff yn sicrhau bod anghenion yr unigolion yn dal i gael eu diwallu. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Swyddog bod y cwmni arbenigol wedi’i leoli yng Nghilgwri (y Wirral). 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo dyfarnu contract yn uniongyrchol i’r darparwr gwasanaeth presennol ar gyfer y Gwasanaethau Cymunedol a Gwirfoddol, fel yr oedd yr adroddiad yn ei nodi.

63.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd 2019/20 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Adroddiad ar gynnydd perfformiad y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad gan egluro bod gan y Cyngor gyd-wasanaeth caffael gyda Chyngor Sir Ddinbych, sef yr awdurdod cynnal. Roedd y cyd-wasanaeth wedi bod ar waith ers 2014 ac fe gytunodd y Cabinet i adnewyddu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaeth hwnnw gyda Sir Ddinbych yn 2018.

 

            Roedd y gwasanaeth yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar weithgarwch a pherfformiad ynghlwm â thargedau o’r Strategaeth Gaffael. Roedd yr ail adroddiad blynyddol wedi’i atodi i’r adroddiad. Roedd yn dangos gwelliant bach ynghlwm â’r rhan fwyaf o ddangosyddion perfformiad allweddol – tuedd gadarnhaol a allai gael ei chyflymu a’i hehangu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad perfformiad blynyddol, a chefnogi’r camau oedd yn cael eu cynnig i wella perfformiad, lle’r oedd angen.

64.

Adolygiad Blynyddol o’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Adolygiad Blynyddol o’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern a’r cynnydd yn erbyn ei amcanion a’i gamau gweithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn gwario tua £197 miliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Roedd y Cyngor am sicrhau ei fod yn gwario gyda sefydliadau a oedd yn rhannu gwerthoedd moesegol tebyg ac, yn enwedig, gyda sefydliadau oedd yn osgoi camfanteisio neu orfodi amodau annheg ar eu gweithwyr. Roedd ymrwymiad a gweithgarwch y Cyngor yn hynny o beth wedi’u nodi yn ei Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern.

 

            Roedd y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd i weithredu’r camau a addawyd yn natganiad y llynedd ac roedd bellach wedi sefydlu prosesau allweddol fel cymalau contractio a chaffael yn gwahardd arferion cyflogaeth anfoesegol o fewn y gadwyn gyflenwi.  Yn anochel, oherwydd y galw ar swyddogion, ni fu modd gwneud yr holl hyfforddiant a gwaith codi ymwybyddiaeth a ddisgwylid a byddai gweithgarwch dros y 12 mis nesaf felly’n canolbwyntio ar hynny.

 

            Croesawai’r Aelodau’r adroddiad gan gydnabod pwysigrwydd y pwnc. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod hi wedi bod mewn tair sesiwn hyfforddiant, ynghyd â’r Cynghorydd Mullin, ac argymhellodd i’r Aelodau eraill fynd ar hyfforddiant o’r fath.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod hefyd angen deall beth oedd yng nghadwyni cyflenwi cwmnïau y tu allan i’r DU lle’r oedd achosion o brynu’n ymestyn y tu hwnt i gontract yn y DU.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo a chyhoeddi’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern.

65.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Parntership Rhanbarthol Gogledd Cymru 2019/20 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Rhannu'r Adroddiad Blynyddol, sy'n darparu gwybodaeth i bartneriaid mewn perthynas â Bwrdd Parntership Rhanbarthol Gogledd Cymru a'i weithgareddau yn ystod 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dweud bod angen i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol baratoi, cyhoeddi a chyflwyno ei adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (LlC).  Oherwydd y sefyllfa o argyfwng, dyddiad cyflwyno’r adroddiad blynyddol oedd diwedd Hydref 2020.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i’r partneriaid am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’i weithgareddau yn ystod 2019/20.  Roedd yr adroddiad yn dangos y cynnydd oedd wedi’i wneud mewn perthynas â ffrydiau gwaith y Bwrdd yn ystod y flwyddyn.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai blaenoriaeth y Bwrdd yn 2019/2020 oedd cyflawni ei bedair rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ar gyfer “Cymru iachach”, a oedd wedi’u bwriadu i arwain at ddatblygu gwasanaethau cymunedol integredig yn gyflym ar draws y rhanbarth. Mewn blwyddyn heriol tu hwnt ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roedd ein timau ar draws Gogledd Cymru wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y cyfnod hwn i gynnig gwasanaeth i’n trigolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cadarnhau bod y Cabinet wedi darllen, deall ac ystyried y gwaith sydd angen cael ei wneud gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol; a

 

 (b)      Nodi’r gwaith a’r cynnydd yn 2019/20 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

66.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 194 KB

Pwrpas:         Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

 

  • Datgan bod y safle garejis ar Princess Avenue, Bwcle, yn ychwanegol i’r hyn oedd angen

 

Datgan bod y safle garejis ar Princess Avenue, Bwcle, yn ychwanegol i’r hyn oedd angen er mwyn gallu cael gwared â’r ased i Gymdeithas Dai Clwyd Alyn er mwyn gallu datblygu tai fforddiadwy.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Ysgol Penyffordd – Safle Plant Iau

 

Cais i ddatgan Safle Plant Iau Ysgol Penyffordd yn ychwanegol i anghenion Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

67.

Adroddiad Diwydrwydd Dyladwy Terfynol ADM Theatr Clwyd

Pwrpas:        Derbyn adroddiad llawn a therfynol ar ddiwydrwydd dyladwy unwaith i’r adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a chynnig ffurfiol gan y Bwrdd Cysgodol gael ei dderbyn. Datrys unrhyw faterion cytundeb contract gwasanaeth sy’n weddill a gwneud cais am awdurdod dirprwyedig i gadarnhau’r broses dan gontract os oes angen.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo Theatr Clwyd i fodel llywodraethu newydd yn rhan o Raglen Model Cyflenwi Amgen y Cyngor.  Roedd Theatr Clwyd a’r Gwasanaethau Cerdd i gael eu rheoli gan gwmnïau elusennol annibynnol, wedi’u cyfyngu trwy warant, o 1 Ebrill 2021 ymlaen.

           

            Roedd yr adroddiad yn nodi (1) y trefniadau trosglwyddo, (2) diwydrwydd dyladwy, (3) y contract gwasanaeth drafft a oedd yn cael ei lunio gyda chyngor cyfreithiol a (4) y cynnig gan Theatr Clwyd Trust Ltd i reoli’r Gwasanaethau Theatr a Cherdd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn fodlon â’r trefniadau i drosglwyddo Theatr Clwyd a’r Gwasanaethau Cerdd, a’i fod wedi’i sicrhau bod diwydrwydd dyladwy wedi’i roi;

 

 (b)      Derbyn y cynnig i Fwrdd Ymddiriedolaeth newydd ysgwyddo trefniadau rheoli Theatr Clwyd, yn seiliedig ar yr egwyddorion a’r cynigion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad blaenorol i’r Cabinet;

 

 (c)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr i lofnodi cytundeb ffurfiol i wneud trosglwyddiad rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion a’r cynigion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad blaenorol i’r Cabinet;

 

 (d)      Bod trosglwyddiadau Theatr Clwyd, Theatr Clwyd Productions Ltd a’r Gwasanaethau Cerdd i berchnogaeth Theatr Clwyd Trust Ltd yn cael eu gwneud ar 1 Ebrill 2021; a

 

 (e)      Chymeradwyo’r raddfa gyflog ddiwygiedig ar gyfer y Gwasanaeth Cerdd.

68.

Gwerthu Ffarm Treforys, Sealand

Pwrpas:        Cymeradwyo gwerthu Ffarm Treforys, Sealand.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn berchen ar rydd-ddaliad Fferm Morriston a’r tir a oedd i’w weld yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

            Byddai’r cymal gorswm arferol ar werthu’r t? a’r erwau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi gwerthu Fferm Morriston, Sealand.

69.

Cymeradwyo costau prynu ac adnewyddu eiddo yn Meadowbank Treffynnon

Pwrpas:        Cymeradwyo prynu ac adnewyddu pedwar eiddo yn Meadowbank, Treffynnon.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i brynu eiddo ym Meadowbank, Treffynnon.

 

            Roedd yr adroddiad yn nodi gwybodaeth am brynu’r eiddo, gan gynnwys y lleoliad, mathau arfaethedig o eiddo a’r costau adeiladu disgwyliedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo prynu ac adnewyddu pum eiddo yn Meadowbank, Treffynnon am £292,000.

70.

Cynllun costau cynllun Hiraethog a Ffordd Pandarus, Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP)

Pwrpas:        Cymeradwyo datblygu 30 o gartrefi Rhent Cymdeithasol newydd yn Ffordd Hiraethog a Ffordd Pandarus, Maes Pennant, Mostyn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynllun ariannu i ddatblygu 30 o gartrefi Rhent Cymdeithasol newydd ar Ffordd Hiraethog a Ffordd Pandarus ym Mostyn.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y cynlluniau a’r pecyn ariannu, gan gynnwys y costau adeiladu disgwyliedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r cynllun ariannu i ddatblygu 30 o gartrefi Rhent Cymdeithasol newydd ar Ffordd Hiraethog a Ffordd Pandarus, Maes Pennant, Mostyn; a

 

 (b)      Chymeradwyo benthyciad darbodus gwerth £3,758,569 miliwn (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a gwiriad terfynol) i ariannu’r datblygiad.

71.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.