Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

180.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

181.

Cofnodion pdf icon PDF 345 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 16eg Mehefin.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2020 ac fe’u cymeradwywyd fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

182.

Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Adrodd ar adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2020, sy’n cefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, a chyflwyno’r Polisi Cynhyrchu Incwm newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn gosod allan y rhesymeg dros godi tâl a’r galwad am adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau. Roedd canlyniad yr adolygiad ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlinellu hefyd y gwaith hyd yma ar yr argymhellion, o ran cynhyrchu incwm a ffioedd a thaliadau, a gafodd eu cadarnhau gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, yn cynnwys:

 

  • Rhoi codiad chwyddiant at y ffioedd a’r taliadau cymwys fel rhan o adolygiad 2020 gan ddefnyddio naill a’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn cynnwys costau Tai perchen-feddiannydd (CPIH), cymharu cyfradd y farchnad neu’r gyfradd leol/y Cyngor (fel rhan o’r gwaith i sicrhau adennill costau llawn erbyn 2022);
  • Y gwaith a wnaed i asesu a oedd y ffioedd a’r taliadau yn llwyddo i adennill cost lawn pan y’u caniatawyd i wneud hynny a datblygu templed i alluogi meysydd gwasanaeth i gyfrifo hyn; ac
  • Adolygiad  a diweddariad o’r Polisi Cynhyrchu Incwm i sicrhau fframwaith ar gyfer cynhyrchu incwm, yn cynnwys strwythur cyson i godi tâl ac adennill costau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata fod gweithredu’r egwyddorion oedd ym Mholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor, a’r rheiny y cytunwyd arnynt gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, at adolygiad blynyddol ffioedd a thaliadau 2020, wedi sicrhau fod unrhyw godiadau yn cael eu rheoli’n briodol i atal newidiadau mawr mewn ffioedd a thaliadau o 1 Hydref 2020.

 

Roedd y gwaith i benderfynu a oedd adennill cost lawn yn cael ei gyflawni i bob gwasanaeth, lle caniateid iddynt wneud hynny, wedi digwydd. Datblygwyd templed adennill costau, a brofwyd fesul maes gwasanaeth, a’r canlyniad oedd templed adennill costau wedi’i gwblhau a’i brofi. Dosbarthwyd y templed i bob maes gwasanaeth fel rhan o adolygiad ffioedd a thaliadau 2020 iddynt ei ddefnyddio, er mwyn asesu a oedd y ffioedd a’r costau a osodwyd gan eu gwasanaeth wedi’u gosod ar lefel oedd yn galluogi adennill costau llawn.

 

Roedd rhai gwasanaethau yn gweithredu mewn marchnad fwy masnachol ac mae’n bosibl eu bod wedi dewis gosod ffioedd a thaliadau yn unol â chyfradd y farchnad. Roedd gwneud hynny’n atal effaith niweidiol ar y galw am wasanaeth a’r incwm cysylltiedig, ac roedd yn unol ag amcanion ac egwyddorion Polisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor.

 

Roedd y Polisi Cynhyrchu Incwm a ddiweddarwyd yn rhoi mwy o fanylion am y broses adolygu’r ffioedd a thaliadau yn flynyddol ac yn cynnwys y meini prawf, fel y’u cymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, ar gyfer adolygu’r ffioedd a’r taliadau presennol, a chyflwyno rhai newydd.

 

Croesawyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Banks, yn enwedig y manylion ar gonsesiynau yn yr atodiad.  

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod cynhyrchu incwm ychwanegol, yn cynnwys incwm o ffioedd a thaliadau, yn rhan o’r strategaeth o opsiynau i gwrdd â her y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:

 

“Rwyf yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r Argymhellion.

 

Pe bai pwyllgor TaChAC wedi bod, byddwn wedi gofyn:

  1. O dan  ...  view the full Cofnodion text for item 182.

183.

Cynllun y Cyngor 2019/20 Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 218 KB

Pwrpas:        Adrodd ar gynnydd a wnaed yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd y dangos y perfformiad alldro blynyddol yn erbyn Cynllun y Cyngor 2019/20.

 

            Roedd yr adroddiad alldro yn dangos fod 88% o’r gweithgareddau yng Nghynllun y Cyngor wedi gwneud cynnydd da ar ddiwedd y flwyddyn, gyda 91% ar y trywydd iawn i gyrraedd y canlyniad a ddymunir. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd 78% o’r targedau perfformiad wedi’u cyrraedd, 14% heb gyrraedd y targed ond wedi gorffen y flwyddyn o fewn ystod dderbyniol, ac 8% oddi ar y trywydd. Roedd risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol, y rhan fwyaf yn cael eu hystyried yn ganolig (67%), mân (12%) neu ansylweddol (6%).

 

            Rhoddodd y Prif Weithredwr enghraifft o le nad oedd targed wedi’i gyrraedd, sef ‘nifer yr unedau gofal ychwanegol a ddarperir ar draws Sir y Fflint’. Y targed oedd 239.00 o unedau a’r perfformiad diwedd blwyddyn oedd 184.00 uned. Eglurodd fod Plas yr Ywen yn Nhreffynnon i fod i agor ym mis Chwefror 2020, gyda’r fflatiau’n cael eu dyrannu a’r preswylwyr yn symud i mewn dros gyfnod o wyth wythnos, a’r cyfleuster yn gweithredu’n llawn erbyn diwedd Mawrth 2020. Fodd bynnag, roedd yr agoriad wedi cael ei ohirio oherwydd yr argyfwng Covid-19 a’r gweithwyr gofal oedd fod yn y cyfleuster wedi cael eu symud i weithio yn rhywle arall.

 

            Croesawyd yr adroddiad gan yr aelodau a nodwyd y cynlluniau llwyddiannus oedd wedi cael eu cyflawni, megis y rhaglen Well Fed, agor y lloches nos i’r rhai sy’n cysgu allan, agor Parc Adfer ac ehangu Cartref Gofal Preswyl Marleyfield. Dywedodd y Cynghorydd Bithell ei fod yn arbennig o ddiolchgar am y gwaith a wnaed i leihau nifer y diwrnodau calendr i ddosbarthu’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:

 

“Roedd sefyllfa’r coronafeirws yn chwarter olaf 2019/20 yn atal “busnes fel arfer”. Felly, fy marn i fel Cadeirydd y Pwyllgor TaChAC, yw fy mod yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r Argymhellion.

 

Pe bai Pwyllgor wedi bod, byddwn wedi gofyn a ddylid adolygu’r Targed. Dyma lle mae’r Targed presennol ychydig yn uwch na’r Gwirioneddol neu Wirioneddol y Flwyddyn Flaenorol; mewn achosion lle mae is yn well. Enghraifft yw CP4.2.3M03 (PAM/022) Canran ffyrdd C mewn cyflwr cyffredinol gwael. Oni ddylid gostwng y ffigwr Targed yn yr achos hwn”?

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r lefelau cynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2019/20.

184.

Monitro Cyllideb Refeniw (Dros Dro) 2020/21 pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        I ddarparu manylion risgiau a materion allweddol sy’n berthnasol i sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg cyntaf o sefyllfa monitro’r gyllideb am flwyddyn ariannol 2020/21.

 

            Roedd yr adroddiad yn egluro effeithiau’r sefyllfa argyfwng a’r costau ychwanegol sylweddol a’r colledion incwm ar draws pob portffolio.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y bu, hyd yma, tri chyhoeddiad arwyddocaol i gwrdd ag effeithiau ariannol y sefyllfa argyfwng yng Nghymru, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Ystod y risg ariannol i 2020/21 oedd £2.8M i £5.4M (gan eithrio canlyniad y trafodaethau cenedlaethol dros y dyfarniad cyflog blynyddol). Dim ond at Gronfa’r Cyngor yr oedd y ffigyrau yn yr adroddiad yn berthnasol ac nid oeddent yn cynnig y risgiau yn y dyfodol i Aura, NEWydd, Theatr Clwyd a’r prif Drosglwyddiadau Asedau.

 

            Rhoddodd yr adroddiad enghreifftiau o’r camau brys a oedd wedi golygu costau ychwanegol, a chyllid grant argyfwng. Roedd yn rhaid i hawliadau i’r cyllid grant argyfwng gael eu cyflwyno’n ôl-weithredol, am yr union gostau a wynebwyd, a hynny yn fisol.

 

            Roedd y tabl yn yr adroddiad yn dangos manylion cyfanswm gwerth yr hawliadau a gyflwynwyd ynghyd â’r cyllid a dderbyniwyd a’r elfennau hynny oedd ‘yn aros’ neu’n cael eu ‘gwrthod’. Byddai gwybodaeth bellach yn cael ei rhoi i Lywodraeth Cymru (LlC) i herio’r penderfyniadau i drin rhai rhannau o’r hawliadau fel ‘yn aros’ neu ‘gwrthod’. Roedd yr hawliad am gostau ychwanegol a wynebwyd ym Mehefin i’w anfon erbyn 15 Gorffennaf a’r amcan oedd y byddai oddeutu £1.750M.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r amrywiadau sylweddol a’r risgiau yn ôl portffolio a’r risgiau agored.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Banks ei bod yn bwysig fod LlC yn rhoi eglurder am sut byddai’r diffyg yn cael ei gwrdd, ac eglurder am y goblygiadau yn sgil cyhoeddiadau’r DU.

 

            Holodd y Cynghorydd Roberts pa fesurau a roddwyd yn eu lle yn fewnol i leihau pwysau cost. Esboniodd y Prif Weithredwr fod y diffyg yn rhywbeth na allai’r awdurdod ei lyncu ei hun a bod angen cymorth gan lywodraethau’r DU a Chymru gan mai cyfrifoldeb y Llywodraeth oedd ariannu’r sector cyhoeddus drwy argyfwng o’r fath. Roedd y Cyngor wedi talu £45M o grantiau cymorth y llywodraeth a rhyddhad ardrethi i fusnesau ac roedd pethau nodedig yn cael eu gwneud i warchod pobl.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y Dreth Gyngor am y flwyddyn ganlynol wedi’i hystyried. 

 

Nododd y Cynghorydd Thomas sut roedd gwasanaethau’n dal i gael eu cyflawni, er bod rhai mewn ffordd wahanol a bod yn rhaid canmol hyn. 

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:

 

“Mae sefyllfa’r coronafeirws sy’n dal yn bodoli yn atal “busnes fel arfer” yr adeg yma a dyma yw achos uniongyrchol y costau ychwanegol a’r colledion incwm. Felly, fy marn i fel Cadeirydd y Pwyllgor TaChAC, yw fy mod yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r Argymhellion”.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r amcangyfrif o’r effaith ariannol ar gyllideb 2020/21 yn sgil y sefyllfa argyfwng;

 

(b)       Gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth  ...  view the full Cofnodion text for item 184.

185.

Ysgolion yr 21ain ganrif – Y wybodaeth ddiweddaraf ar Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn rhoi manylion ar gynnydd a’r camau nesaf y broses Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac yn ceisio am gymeradwyaeth i weithredu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Chydlynwyr Phartneriaeth Addysg Cymru pan gânt eu penodi gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Raglen Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) Ysgolion yr 21ain Ganrif LlC.

 

                        Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion ar gynnydd hyd yma a chamau nesaf y broses MBC. Roedd yn gofyn am sêl bendith i weithredu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda chwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPco) pan fyddai’n cael ei benodi gan LlC yn hydref 2020.

 

                        Eglurodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgol, mai ffurf newydd o Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat oedd y Model a oedd yn galluogi LlC i gyflawni prosiectau seilwaith y tu hwnt i’r hyn a osodwyd gan derfynau benthyca presennol Llywodraeth y DU. Pe na bai LlC yn defnyddio MBC, ni fyddai £500M yn yr ystâd addysg ar gael i gynghorau yng Nghymru a byddai gan hynny oblygiadau i raglen arfaethedig y Cyngor yn lleol.

 

                        Byddai contractwr o’r sector preifat yn cael ei benodi drwy fframwaith LlC newydd ac roedd y contract yn ariannu, adeiladu a darparu adeilad ‘cylch bywyd’ 25 mlynedd. Golygai hyn fod y cyfrifoldeb am ariannu a chodi’r adeilad, ac yna atgyweirio a chynnal a chadw’r adeilad am 25 myned wedi’i adeiladu, yn aros gyda’r contractwr. Golygai hyn y byddai adeiladau a ariannwyd gan MBC yn cael eu cadw ar lefel gyson uchel am 25 mlynedd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, eglurodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgol, y gwahaniaeth rhwng Menter Cyllid Preifat (PFI) a’r Model newydd a dywedodd fod y PFI wedi cael ei ddiddymu yn 2018.

 

Er mwyn mynd ymlaen â’r broses MBC, roedd gofyn i’r Cyngor lofnodi Cytundeb Partneru Strategol gyda WEPco.

 

Byddai Bwrdd Partneru Strategol yn cael ei sefydlu a hwn fyddai’r prif fecanwaith ar gyfer rheoli perfformiad WEPco. Y Bwrdd hwn fyddai’r fforwm canolog lle gallai’r cyfranogwyr weithio gyda’i gilydd gyda WEPco, LlC a chynrychiolwyr rhanddeiliaid eraill i sicrhau fod prif egwyddorion y Cytundeb Partneru Strategol yn cael eu dilyn. Roedd Neal Cockerton yn cael ei argymell fel Cynrychiolydd Cyfranogiad y Cyngor i eistedd ar y Bwrdd Partneru Strategol.

 

Byddai taliadau cytundebol blynyddol dros fywyd y MBC yn seiliedig ar gyfradd ymyrraeth y Cyngor (19% Cyngor, 81% LlC), yn dechrau wedi adeiladu/trosglwyddo’r ysgol.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, gwnaeth y Cynghorydd Healey’r sylwadau canlynol ar ran y Cynghorydd Mackie, a oedd wedi derbyn atebion i’w gwestiynau:

 

Mae’r cwestiynau a’r sylwadau fel a ganlyn:-

 

  • Mae’r adroddiad hwn yn cynnig bod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Math o PFI yw hwn y mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y DU eisoes wedi mynegi pryder amdano. I ddyfynnu o adroddiad 46, “Fodd bynnag mae’r costau i’r sefydliadau ar y rheng flaen wedi bod yn uchel a’r contractau yn anhyblyg”.

 

  • Credaf y dylai’r adroddiad gynnwys cymhariaeth lawn o gost y MBC yn erbyn y ffordd arferol o gyllido prosiectau o’r fath a manylion llawn cyllid cyfradd ymyrraeth LlC.

 

186.

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2020/21 pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Cael cytundeb ar gyfer y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod y portffolio Tai ac Asedau yn gweithredu wyth cynllun gwresogi cymunedol yn Sir y Fflint ar hyn o bryd. Roedd y Cyngor wedi negodi costau tanwydd o flaen llaw ac roedd y tenantiaid yn elwa ar gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor. 

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y taliadau gwresogi cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni y flwyddyn flaenorol er mwyn sicrhau asesiad mwy cywir o’r costau a’r effeithiau (cadarnhaol a negyddol) ar y gronfa wresogi.

 

            Roedd y newidiadau a gynigiwyd ar gyfer 2020/21 wedi’u gosod allan yn yr adroddiad. Yn y mwyafrif o achosion, roedd yr hyn a godwyd ar y tenantiaid wedi gostwng,  a byddai hyn, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill costau rhagamcnol y taliadau gwresogi tra’n dal i drosglwyddo budd y costau ynni llai i’r tenantiaid.

 

            Roedd Acacia Close yn yr Wyddgrug wedi gweld cynnydd mewn costau gwresogi o 7%, cyfartaledd ar draws y tri math eiddo o £0.59 yr wythnos. Byddai Tîm Ynni Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda’r cyflenwr i osod darllenyddion awtomatig ar y mesuryddion yn Acacia Close a byddai hyn yn helpu i anfon biliau mwy cywir ac amserol gan y darparwr cyfleustodau a byddai hynny wedyn yn caniatáu i’r Cyngor filio’r tenantiaid yn seiliedig ar wybodaeth fwy cywir o hynny ymlaen.

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai, gwnaeth y Cynghorydd Dunbar y sylw canlynol:

 

“Mae gennym wyth Cynllun Gwresogi Cymunedol yn Sir y Fflint sy’n ymdrin â’r ardaloedd Cymunedol a ddangosir yn Nhabl 1, lle mae’r awdurdod yn talu drwy’r Cyfrif Gwresogi, yna mae’r costau tanwydd yn cael eu dyrannu i bob tenant unigol er mwyn sicrhau fod gennym asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y Cyfrif Gwresogi yn seiliedig ar bob cynllun.

 

Gyda chost ynni yn codi, sy’n rhywbeth y tu hwnt i allu’r awdurdod, nodwyd ym mlwyddyn oerach 2018/19 fod cynnydd bychan wedi’i weld mewn defnydd, ond y gwrthwyneb yn 2019/20 gyda gaeaf mwynach yn gweld gostyngiad yn y rhan fwyaf o gynlluniau. Gyda systemau gwresogi a uwchraddiwyd yn Panton Place Treffynnon ac un ardal yng Nglan-y-Morfa Cei Conna, caiff y tenantiaid eu bilio ar eu darlleniadau eu hunain gyda’r cyflenwr a ddewiswyd ganddynt.

 

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r tâl a ailgodir ar y tenantiaid wedi gostwng ac mae hyn wedi caniatáu i Sir y Fflint adennill costau taliadau gwresogi a’n tenantiaid wedi cael budd o gostau ynni is. Gwelodd un eithriad yn Nhabl 1, Acacia Close, Yr Wyddgrug, gynnydd cyfunol ar draws y tri eiddo o 7%, sef tua £0.59c yr wythnos yn erbyn gostyngiad o 18% i’r ardal hon y llynedd, felly mae’r Tîm Ynni yn gweithio gyda chyflenwyr i osod Darllenyddion awtomatig er mwyn cael darlleniad cywirach, fydd yn golygu fod biliau i’r tenantiaid yn gywir wedi hynny. Bydd hyn yn cael ei wneud hefyd i Glan-y-Morfa Bloc 1 yn ddiweddarach yn 2020/21.

 

Ar y ddealltwriaeth hon ar ôl  ...  view the full Cofnodion text for item 186.

187.

Adnewyddu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghori ynghylch adnewyddu’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar yr adolygiad o Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPOs). Gall y Gorchmynion hyn bara am uchafswm o dair blynedd cyn bod angen adolygiad. Roedd angen adolygu Gorchmynion y Cyngor erbyn hyn, neu byddent yn dod i ben ar 19 Hydref 2020. I ymestyn PSPO mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddechrau ac ymarfer hysbysu yn unol â’r Ddeddf, fel pe bai’n gwneud gorchymyn newydd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), o dan ddarpariaethau’r Ddeddf fod Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i Reoli Alcohol yn newid yn awtomatig i PSPO. Byddai’r gorchymyn hwn yn rhoi grym i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau’r cyhoedd ildio alcohol pe credid fod aelod o’r cyhoedd yn achosi niwsans mewn lle cyhoeddus. Nid oedd yn waharddiad llwyr ar alcohol mewn ardaloedd cyhoeddus, ac nid oedd yn weithredol i fangre drwyddedig, ond yn annog yfed yn synhwyrol. Roedd angen adolygu’r Gorchymyn hwnnw hefyd.

 

            Ers gweithredu’r Gorchymyn Rheoli C?n, roedd dros 1,100 o gerddwyr c?n wedi cael sgwrs ac wedi cael gwybodaeth a chyngor ar waharddiadau’r Gorchymyn. Roedd cyfanswm o dri Hysbysiad Cosb Benodedig wedi cael eu rhoi am g?n yn baeddu a 45 am g?n yn mynd i mewn i ffiniau caeau chwarae wedi’u marcio.

 

            Y bwriad oedd cynnal yr ymgynghoriad drwy ddau arolwg ar-lein, un i bob Gorchymyn, yn gofyn am farn preswylwyr ac ymgynghoreion statudol ar y PSPOs i gael eu hymestyn ac a oedd gofynion y gorchymyn yn gymesur. Byddent ar wefan  Cyngor am gyfnod o bum wythnos drwy fis Awst 2020 ac wythnos gyntaf Medi 2020. Byddai’r Cyngor yn ystyried yr atebion i’r ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniad ar y Gorchmynion terfynol.

 

            Byddai map rhyngweithiol yn cael ei roi ar-lein gyda phob categori tir wedi’i godio’n lliw i ddangos pa gyfyngiad oedd mewn grym ym mha leoliad, yn cynnwys tir perthnasol a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol ers i’r Gorchymyn gael ei wneud yn 2017, ynghyd â dogfen o gwestiynau cyffredin. O safbwynt ymgynghoriad y PSPO Rheoli C?n, cynigiwyd ysgrifennu at y canlynol gan amlinellu’r cynnig i ymestyn y PSPO a ble a sut roedden nhw’n gallu cymryd rhan:

 

  • Aelodau Etholedig
  • Penaethiaid Ysgol
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Ysgrifenyddion Clybiau Bowlio
  • Lesddeiliaid tir a effeithir, h.y. clybiau chwaraeon
  • Elusennau a mudiadau fel yr RSPC a’r Kennel Club
  • Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Unrhyw gynrychiolwyr cymunedol priodol eraill

 

Eglurodd y Cynghorydd Thomas fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn ddiweddar ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd lle y cynigiwyd argymhelliad ychwanegol i roi gerbron y Cabinet “fod sylwadau’n cael eu gwneud drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus i PSPOs gael eu hymestyn am hyd at bum mlynedd”. Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethiant) eiriad gwahanol sef, “Fod sylwadau’n cael eu gwneud i Lywodraeth y DU drwy’r Gymdeithas Llywodraeth Leol a rhwydweithiau proffesiynol yn gofyn i Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 gael ei newid i ymestyn y cyfnod lle mae  ...  view the full Cofnodion text for item 187.

188.

Fframwaith Byw â Chymorth a chomisiynu gwasanaethau pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Fe hoffai Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ail gomisiynu rhywfaint o’i eiddo byw â chymorth presennol o dan Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Jones a eglurodd fod ymarfer caffael electronig wedi cael ei wneud gan Gyngor Sir Ddinbych gyda’r pwrpas o gyflwyno Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru.

 

            Drwy fabwysiadu’r Fframwaith, byddai’n galluogi Sir y Fflint i gomisiynu ei wasanaethau byw â chymorth pan fyddai’n amser eu hadnewyddu, yn effeithiol ac effeithlon tra’n sicrhau cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws Gogledd Cymru.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol dri gwasanaeth byw â chymorth ar hyn o bryd a oedd angen eu comisiynu/ail-gomisiynu a chynigiwyd defnydd Fframwaith newydd Byw â Chymorth Gogledd Cymru (contract yn ôl y gofyn) i dendro a dewis darparwr newydd

 

            Fel bod y Cyngor yn bodloni’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau, roedd angen sêl bendith y Cabinet i symud ymlaen â’r tendr a dyfarnu’r contractau.

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gofynnodd y Cynghorydd McGuill y cwestiynau canlynol, gyda’r atebion a ddangosir wedi’u rhoi cyn y cyfarfod:

 

C – Gofynnwyd am eglurder yngl?n â hyd y contractau hyn. 35 darparwr i gyd – ddim yn gallu gweld hyd, ydi hyn yn golygu eu bod yn benagored?

A – Contractau penagored ydyn nhw i sicrhau parhad gofal i’r mwyaf bregus. Fel gyda phob contract, caiff ansawdd y gwasanaeth ei fonitro’n gyson gan y tîm contractau a chomisiynu a bydd unrhyw broblemau yn cael eu taclo.

 

C – Ni soniwyd pwy sy’n gyfrifol am ddarparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i’r gweithwyr a allai fod angen ei ddefnyddio yng nghartrefi cleient ayb.

A – Mae gan ddarparwyr rheoledig ddyletswydd i ddarparu PPE at ddefnydd y staff, bydd hyn yn rhan o’u Polisi Iechyd a Diogelwch. Yn ystod y pandemig, fel Darparwyr Gofal Cymdeithasol, byddent yn derbyn darpariaeth LlC o PPE drwy Gydwasanaethau’r GIG, mae hyn ar ben eu harcheb stoc arferol.

 

C - Nid yw’n dweud ‘erbyn pryd’ pan mae angen i ni gael gwybod am unrhyw newid yn amgylchiadau’r defnyddiwr gwasanaeth h.y. mynd i’r ysbyty - faint cyn y cawn wybod fel y gellir gostwng taliad ayb. - yr un peth gyda marwolaeth.

A – Mae cymal yng nghontract yn ôl y gofyn y Fframwaith Byw â Chymorth sy’n galluogi atal y Gwasanaeth dros dro, wedi’i gynllunio neu heb ei gynllunio, a all ddigwydd oherwydd: mynd i’r ysbyty, absenoldeb, absenoldeb a gynlluniwyd neu farwolaeth. Os caiff y Gwasanaeth ei atal dros dro, rhaid i’r Darparwr a’r Comisiynydd ddilyn y broses a osodir allan yn Atodlen 6 Amrywio a Therfynu.

 

C – Yn olaf allwn ni sicrhau fod gan y defnyddiwr gwasanaeth lun o’r holl staff maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw ar y ffeil portreadau byr?

A - Fel rhan o gomisiynu/ailgomisiynu unrhyw Fyw â Chymorth, mae prosesau cadarn i sicrhau fod unigolion yn gyfarwydd â’r staff sy’n eu cefnogi. Gan sylweddoli pwysigrwydd unigolion yn dod i adnabod y bobl sy’n eu helpu, mae’r contract yn cynnwys offeryn paru staff a thempled ar gyfer proffil un dudalen. O ganlyniad i’r effaith gadarnhaol a gafodd Progress  ...  view the full Cofnodion text for item 188.

189.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 58 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth

 

  • B5129 Lonydd Bysiau – Dyfarnu Contract

 

Dyfarnu Contract Lôn Fysiau B5129 Lôn Shotton i Queensferry.

 

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

  • Estyniad Marleyfield House

 

Roedd y Cyngor wedi gwneud cytundeb gyda’r cwmni adeiladu Willmott Dixon i ddechrau gwaith ar adeiladu estyniad o 32 gwely ychwanegol yng nghartref gofal preswyl Marleyfield House ym Mwcle. Bydd y diweddariad hwn yn rhoi manylion am gost y contract a’r prosiect a’r camau nesaf.

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo 12 Eiddo (Rhifau Plot 513 - 524) Llys Cadfan, Croes Atti, Oakenholt

 

Mae’r unedau tai fforddiadwy uchod i gael eu trosglwyddo yn uniongyrchol i North East Wales (NEW) Homes gan mai dyma’r ffordd orau o gwrdd â’r angen tai. Bydd NEW Homes yn cyfamodi ag Anwyl y bydd yr eiddo’n cael eu defnyddio at ddiben tai fforddiadwy.

190.

Profi, Olrhain a Diogelu

Pwpras:        Cyflwyno’r model cyflogaeth rhanbarthol arfaethedig ar gyfer y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn argymell fod y rhanbarth yn symud i fodel cyflogaeth, i’w ariannu’n llawn gan LlC, gyda Sir y Fflint yn gweithredu fel yr un cyflogwr i’r chwe awdurdod lleol. Byddai’r Bwrdd Iechyd yn gweithredu fel y cyflogwr i’r tîm arbenigol rhanbarthol. 

 

Diolchodd i’r Prif Weithredwr am yr holl waith yr oedd ef a’i dîm wedi gwneud i roi’r Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ar waith. Roedd yr Aelodau Cabinet i gyd yn cytuno â hyn, yn enwedig am lwyddo i gael y cyllid ar gyfer y Rhaglen.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol :

 

“Rwyf yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r Argymhellion”.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi cymryd rhan lawn mewn Rhaglen ranbarthol Profi, Olrhain a Diogelu, a mabwysiadu’r model gweithredu hybrid o gyflogaeth i gapasiti graddfa ganolig, wedi’i ategu gan gronfa wrth gefn neu ‘fanc’ o weithwyr awdurdod lleol;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynnig fod Sir y Fflint yn gweithredu fel y cyflogwr i’r rhaglen ranbarthol ar ran y chwe awdurdod lleol;

 

(c)        Nodi fod y pum awdurdod lleol partner wedi rhoi llythyr ymrwymo i Sir y Fflint fel y cyflogwr cyn cael Cytundeb Rhyng Awdurdod llawn a chyn ymrwymo adnoddau;

 

(d)       Awdurdodi’r Prif Weithredwr i roi’r Cyngor mewn Cytundeb Rhyng Awdurdod ffurfiol a rhwymol gyda chynghorau Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam;

 

(e)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr i lunio ymrwymiadau cytundebol i gyflogi gweithwyr rhaglen, ac ymrwymo gwasanaethau cymorth, yn dilyn y ffaith y cafwyd cadarnhad o ddyraniad cyllideb ddigonol gan Lywodraeth Cymru; a

 

(f)        Bod adroddiadau chwarterol yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar gynnydd a pherfformiad y rhaglen.

191.

Adnoddau Gwasanaethau Budd-daliadau

Pwrpas:        Adolygu gofynion adnoddau yn y Gwasanaeth Budd-daliadau a cheisio cefnogaeth i'r cynnig i gynyddu capasiti.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r newid mewn gofynion ar y Gwasanaeth Budd-daliadau, y datrysiad tymor byr a fu ar waith, a’r adnoddau oedd eu hangen i ddelio â’r cynnydd mewn galw a ragwelid i’r dyfodol. 

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai, gwnaeth y Cynghorydd Dunbar y sylwadau canlynol:

 

“Cyn dechrau Covid 19, roedd y Gwasanaeth Budd-daliadau wedi cyflawni’n llwyddiannus ar bob agwedd megis Tai, CTRS (Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor), Diwygio Lles, a hefyd Gweinyddu Grantiau sy’n gysylltiedig â Phrydau Ysgol am Ddim, Grantiau Gwisg Ysgol, Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r Bathodyn Glas ar gyfer preswylwyr Sir y Fflint.

 

Tan yr adeg yma roedd llwythi gwaith wedi bod yn weddol gyson ac yn cael eu rheoli’n llwyddiannus gyda thua 500 o ymholiadau bob wythnos am Gredyd Cynhwysol. Ers i bandemig Covid 19 ddechrau, aeth nifer yr ymholiadau i fyny i 900 yr wythnos, mae hawliadau CTRS wedi codi ac oherwydd y Cyfnod Clo a chyflwyno’r Cynllun Ffyrlo, cafodd y gwaith ychwanegol hwn ei wneud gan ein staff presennol yn gwneud goramser. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y tîm, na ellir ei gynnal, gan na ellir ymestyn adnoddau.

 

Pan fydd y Cynllun Ffyrlo yn dod i ben, bydd pwysau ariannol ar gyflogwyr yn cynyddu. Wrth i’r Llywodraeth Genedlaethol leihau Cymorth Ariannol, rydym yn si?r o weld colli swyddi a gostyngiad mewn oriau gwaith, sydd eto’n disgyn ar y tîm hwn, felly y cynnig recriwtio a eglurir yn eitem Rhifau 20.1 20.2 a 20.3, sef cymysgedd o gontractau asiantaeth a rhai tymor sefydlog yw’r ffordd ymlaen er mwyn gwarchod buddiannau preswylwyr Sir y Fflint a lles y Staff”.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi a chymeradwyo’r cynnig am ddyraniad adnoddau hyblyg er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth budd-daliaau sy’n ymateb i’r galw.

192.

Gwerthu Farm Crescent, Maes-glas

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i werthu Crescent Farm, Maes-Glas.

 

            Byddai’r gwerthiant yn amodol ar gymal cymryd-yn-ôl a manylwyd ar hyn yn yr adroddiad.

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylw canlynol:

 

“Rwyf yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r argymhelliad”.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi gwerthiant Crescent Farm, Maes-Glas, sy’n cynnwys 77.84 erw o dir amaethyddol gyda th? a thai allan cysylltiedig.

193.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.