Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

138.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bithell gysylltiad personol yn eitem rhif 12 ar y rhaglen – Cyfleusterau Cyhoeddus yng Nghanol Tref yr Wyddgrug.

139.

Cofnodion pdf icon PDF 241 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 21ai Ionawr, 2020.

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

140.

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 - Cam Tri Ôl-setliad pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 ar ôl derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 Cam Tri Ôl-Setliad a oedd yn nodi sut allai’r Cyngor gyflawni cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21 ar gyfer cam tri y broses gosod cyllideb. Roedd y cyfrifon yn seiliedig ar uchafswm cynnydd blynyddol ar Dreth y Cyngor o 5%.

 

            Roedd y rhagolygon ar gyfer 2020/21 wedi cael eu hadolygu er mwyn ystyried y ‘risgiau agored’ lle roedd angen gwneud darpariaeth ariannol er mwyn i’r gyllideb fod yn ddarbodus. Roedd y gwaith oedd ar y gweill ar yr opsiynau ariannu corfforaethol gweddillol wedi eu cwblhau ac roedd y canlyniadau wedi’u nodi o fewn yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hefyd yn egluro’r ‘risgiau agored’ gweddillol ar gyfer 2020/21. Darparwyd copïau o’r sleidiau i’w cyflwyno i holl aelodau mewn cyfarfod Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod dyfarniad cyflog athrawon i’w talu o’r ymgodiad cyffredinol mewn cyllid a gyhoeddwyd yn y Setliad Dros Dro. Felly roedd darpariaeth ar gyfer ymgodiad o 2% wedi ei gynnwys yn y gyllideb am gost ychwanegol o £0.726 miliwn. Roedd pwysau ychwanegol ar gyfer Lleoliadau tu hwnt i’r Sir, y Gwasanaeth Crwner ac ar gyfer lleihad yng ngrant Gwastraff Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi cael eu cynnwys ynghyd ag addasiadau i’r pwysau ar gyfer Ardoll Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Cafodd y pwysau o ran cost ar gyfer AAA o £0.400 miliwn ei dynnu o'r rhagolygon wrth ddisgwyl am mwy o wybodaeth ar Grant penodol Llywodraeth Cymru a byddai’n cael ei ystyried fel risg agored yn 2020/21. Roedd yr addasiadau i’r pwysau hynny wedi lleihau’r bwlch rhagolygon o £15.629 miliwn a adroddwyd i’r Cyngor ym mis Rhagfyr i £16.315 miliwn a rhoddodd fanylion am ddatrysiadau cyllideb, fel y nodwyd yn yr adroddiad, i gau’r bwlch. Roedd 'rhain yn cynnwys cyfraniadau pensiwn cyflogwr, comisiynu gofal cymdeithasol a disgownt person sengl – adolygiad o hawl. Ar ôl ystyried hyn oll, roedd bwlch o £0.246 miliwn yn parhau.

 

            Darllenodd y Cynghorydd Roberts ddatganiad ar ei ran ef, Aelod Cabinet Cyllid, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol:

 

 “Mae’r Cabinet yn falch o allu argymell Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor cyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor. Wrth wynebu bwlch mawr yn y gyllideb, a oedd oddeutu £16 miliwn eleni, mae’r broses i osod y gyllideb wedi bod yn dasg anferthol unwaith eto.

 

Fel y mae ein hadroddiad yn odi, mae gennym fwlch gweddillol yn y gyllideb o £0.246 miliwn i’w gau yn erbyn rhagolygon cyllideb diwygiedig o £16.315 miliwn.

 

Er mwyn cau’r bwlch gweddillol ar Gam Tri'r broses Gosod Cyllideb, ac yn seiliedig ar gyngor y swyddog (fel y nodier yn 1.42 yr adroddiad), rydym wedi paratoi ar gyfer ymgodiad yn y grant penodol gwasanaethau cymdeithasol.Amcangyfrifwn y bydd yr ymgodiad mewn grant ar gyfer Sir y Fflint yn £0.426 miliwn.Yn seiliedig ar y cyngor cenedlaethol diweddaraf, rydym yn hyderus y gallwn ddyrannu’r grant hwn yn erbyn gwariant sydd wedi’i gynllunio’n barod ar gyfer gofal cymdeithasol yn 2020/21. Byddwn yn defnyddio £0.246  ...  view the full Cofnodion text for item 140.

141.

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2020/21 i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 i’w gymeradwyo a'i argymell i’r Cyngor.

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried a’i gefnogi gan y Pwyllgor Archwilio ar 29 Ionawr 2020. Fel ychwanegiad i’r wybodaeth yn yr adroddiad, darparwyd hyfforddiant i Aelodau’r Cyngor ar 11 Rhagfyr 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2020/21 a’i argymell i’r Cyngor.

 

142.

Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2020/21 pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks adroddiad yr Isafswm Darpariaeth Refeniw – Polisi 2020/21 a oedd yn rhoi manylion o’r gofyniad ar awdurdodau lleol bob blwyddyn i roi adnoddau refeniw i un ochr fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.

 

            Gofynnwyd am gymeradwyaeth ar gyfer argymell yr adroddiad i’r Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y canlynol yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Gronfa'r Cyngor:

           

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2020/21 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca cefnogol o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca (darbodus) nad yw wedi ei gefnogi neu drefniadau credyd. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

 (b)      Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:

 

·         Bod Opsiwn 2 (Dull Nawdd Cyfalaf Gofynnol) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrif Isafswm Darpariaeth Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sy’n cael ei ariannu gan ddyled.

 

 (c)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir, bod Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu tai fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf mewn telerau cyfrifeg) fel a ganlyn:

 

·         Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased mewn defnydd ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnydd.

·         Unwaith mae’r asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes. Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn gyfartal â’r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes.  Bydd yr ad-daliadau a wneir gan NEW Homes yn cael eu dosbarthu, yn nhermau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, ac ni ellir defnyddio’r rhain ddim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled.  Bydd yr ad-daliad cyfalaf/derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyngor i ad-dalu'r benthyciad.

143.

Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2019/20 pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2019/20 oedd yn cyflwyno crynodeb o’r cynnydd monitro yn y trydydd chwarter (Hydref i Ragfyr 2019).

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 89% o’r camau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Yn ogystal â hyn, roedd 81% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed. Roedd y risgiau yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (71%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (18%).

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi a chefnogi lefelau cynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad monitro chwarter tri Cynllun y Cyngor 2019/20; a

 

(b)      Bod y Cabinet wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20.

144.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 9) pdf icon PDF 190 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 9) a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol a chyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 9 o’r flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

  • Roedd y diffyg gweithredol o £1.666m a oedd yn symudiad ffafriol o £0.226M o’r ffigwr diffyg £1.892M a adroddwyd ym Mis 8; a
  • Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £3.203M.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.103M sydd yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.028M o’r ffigwr diffyg o £0.131M a adroddwyd ym Mis 8; a
  • Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 fydd £1.220M.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion yngl?n â sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill yn ystod y flwyddyn; effaith a risgiau MTFS; cronfeydd wrth gefn a balansau.

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol lle mynegodd Aelodau eu pryder ar ddiffyg ariannol ysgolion.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a

 

 (b)      Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai.

145.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/20 (Mis 9) pdf icon PDF 211 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ar Fis 9 (diwedd mis Rhagfyr) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019/20 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/20 (Mis 9) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf ers ei gosod ym mis Chwefror 2019 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2019), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.

 

            Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld gostyngiad net o £19.009m yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys: 

 

·         Gostyngiadau net o £13.544M (Cronfa'r Cyngor £8.141M,  Cyfrif Refeniw Tai £5.403M);

·         Dwyn ymlaen i 2020/21, cymeradwywyd ym Mis 6 o £5.115M; a

·         Arbedion a nodwyd ym Mis 6 o £0.350M.

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £43.367M.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y sefyllfa gyllido a adroddwyd ym Mis 6 ar gyfer y cyfnod tair blynedd yn gorffen yn 2021/22 yn ddiffyg o £0.723M. Roedd derbyniadau yn ystod y flwyddyn wedi cynyddu £0.030M o Fis 6 i roi diffyg arfaethedig diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £0.693M ar gyfer 2019/20 – 2021/22, cyn derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllido eraill.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;

 

(b)      Chymeradwyo’r addasiadau o ran dwyn cyllid ymlaen fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;

 

 (c)       Cymeradwyo cyllido cynlluniau o’r sefyllfa bresennol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, a defnyddio arbedion a nodwyd yn yr adroddiad; a

 

 (d)      Cymeradwyo’r defnydd o gyllid Ysgogiad Economaidd.

146.

Estyniad Marleyfield House pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Rhoi’r diweddaraf i’r cabinet ar y cynnydd o ran dyluniad a chost. Cytuno ar uchafswm gwariant cyllidebol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Estyniad Marleyfield House a oedd yn amlinellu cwmpas costau presennol ar gyfer y prosiect ac amcangyfrif o’r costau ar gyfer adeiladu.

 

            Roedd dyluniad yr estyniad yn dangos dull arloesol i gefnogi unigolion mewn lleoliad preswyl. Roedd y dyluniad yn sympathetig i dopograffi’r safle ac yn galluogi mwy o le awyr agored i’w ddefnyddio a hygyrchedd i gefnogi lles preswylwyr. Roedd yn caniatáu cynnydd mewn gweithrediad, cyswllt gyda chyfleusterau presennol, ac yn cefnogi cyfleusterau gwell ar gyfer preswylwyr parhaol a all fod yn byw gyda cholled cof a dementia.

 

            Roedd dadansoddiad cost dechreuol o ddylunio, dodrefn a chyfleusterau yn yr adeilad  oddeutu £8.62M, gyda’r manylion llawn wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Roedd hyn yn gynnydd ers yr adroddiad i’r Cabinet ym mis Ebrill 2019, pan adroddwyd mai’r cost arfaethedig oedd £7.6M. Roedd y rhesymau dros y cynnydd hefyd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol bod hwn yn brosiect arloesol a chyffrous a fyddai’n cael effaith cadarnhaol ac yn elwa preswylwyr newydd a’r rhai presennol. Bydd gwaith tirlunio helaeth i’r mannau allanol a fydd yn hwyluso symudiad ar draws y cartref ac integreiddio’r adeiladau presennol a newydd. Darparodd fanylion am yr amserlenni hefyd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb oedd yn rhan o’r prosiect a oedd yn esiampl da o weledigaeth y Cyngor i ofalu am aelodau diamddiffyn o’r cyhoedd. Croesawodd holl Aelodau eraill y cynllun a oedd yn raglen flaenllaw ar gyfer Sir y Fflint.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r dyluniad presennol ar gyfer yr estyniad, gan gynnwys ei fforddiadwyedd gyda’r costau presennol a’r gyllideb ar gael; a

 

(b)      Cymeradwyo fod y Cyngor yn mynd i gytundeb gyda’r cwmni adeiladu yn ystod Mawrth 2020, gydag awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Phrif Swyddog (Tai ac Asedau) i drafod y cynllun cost terfynol, o fewn amrywiad o 5% o’r rhagamcanion presennol a nodwyd yn yr adroddiad.

147.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Weithgarwch Arolygiaeth Gofal Cymru pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Nodi’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac ymateb i unrhyw feysydd a nodwyd i’w gwella.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ar y Wybodaeth Ddiweddaraf am Weithgarwch Arolygiaeth Gofal Cymru a oedd yn crynhoi canfyddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn chwe diwrnod o weithgarwch wedi’i ffocysu / gweithgarwch ymgysylltu gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

            Rheoleiddiodd Arolygiaeth Gofal Cymru wasanaethau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar gan ddefnyddio’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (LlC).

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr adborth ffurfiol gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y gweithgarwch a gyflawnwyd ym mis Chwefror, Mehefin a Hydref 2019 wedi bod yn gadarnhaol ac wedi amlygu nifer o feysydd lle berfformiodd y Cyngor yn dda iawn a lle roedd tystiolaeth o ganlyniadau da wedi’u cyflawni ar gyfer pobl yn y gymuned. Amlinellwyd crynodeb o’r canfyddiadau yn yr adroddiad, gan nodi’r meysydd ar gyfer gwella.

 

            Bydd y gweithgarwch wedi’i ffocysu nesaf mewn perthynas â chynnydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymweld ag unigolion a gweithwyr sy’n rhan o’r gwasanaeth cynnydd ym mis Chwefror 2020, gan edrych ar brosesau, canlyniadau a dyheadau ar gyfer y gwasanaeth.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd ar ymweliadau diweddar a wnaeth i’r adrannau, bod yr holl weithwyr yn angerddol am y gwasanaethau yr oeddent yn eu darparu.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn eu gweithgarwch wedi’i ffocysu / ymgysylltiad diweddar gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

 (b)      Nodi’r ymateb i unrhyw feysydd ar gyfer gwelliant a ganfuwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystod y flwydd; a

 

 (c)       Mae’r Cabinet yn cael eu hysbysu am weithgarwch wedi’i ffocysu sydd ar y gweill gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn Sir y Fflint.

148.

Darpariaeth Cyfleusterau Cyhoeddus yn yr Wyddgrug pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth i uwchraddio cyfleusterau cyhoeddus yng Ngorsaf Fysiau Heol y Brenin a chwblhau gwaith i wella’r orsaf fysiau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Cyfleusterau Cyhoeddus yng Nghanol Tref yr Wyddgrug a oedd yn darparu manylion y cynigion ar gyfer y cynllun yn yr Wyddgrug.

 

            Roedd yr adolygiad a gyflawnwyd wedi cadarnhau y dylid darparu un cyfleuster o safon uchel ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, yng Nghanol Tref yr Wyddgrug a dylid lleoli’r cyfleuster yng Ngorsaf Fysiau Heol y Brenin a fyddai’n cefnogi dyheadau’r Cyngor am Ganolfan Gludiant a oedd yn cael ei ddatblygu ar y safle. Roedd Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi cael y cyfle i reoli cyfleuster Stryd Newydd ac roedd hynny’n cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

            O ystyried y byddai costau sylweddol i ddod â chyfleuster Stryd Newydd i safon addas, mae’r Cyngor Tref wedi cytuno gweithio gyda’r Cyngor Sir i wella’r cyfleusterau yn Heol y Brenin a defnyddio’r tir sydd ar gyfleuster Stryd Newydd i elwa trigolion y dref drwy gynyddu argaeledd parcio ym maes parcio Stryd Newydd.

 

            Bydd y prosiect ehangach yn cynnwys y canlynol:

 

·         Uwchraddio cyfleuster toiledau presennol Heol y Brenin i ddarparu cyfleuster o safon uchel gydag arwyddion o ganol y dref, a darparu cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr bys, sy’n ymweld â’r Wyddgrug neu’n defnyddio’r Ganolfan Gludiant ar eu ffordd i leoliadau eraill;

·         Cwblhau gwaith i wella’r orsaf fysiau, gan gynnwys cyflwyno system unffordd dros yr orsaf a darparu pwynt aros ar gyfer grwpiau bys sy’n ymweld â’r dref;

·         Uwchraddio’r ciosg ger y cyfleuster cyhoeddus a cheisio marchnata’r adeilad ar gyfer caffi bychan neu fusnes coffi i fynd;

·         Dymchwel cyfleuster toiledau Stryd Newydd;

·         Ailalinio ac ail-ddylunio’r maes parcio i gynyddu capasiti o 15;

·         Darparu dau bwynt gwefru ceir trydan; ac

·         Rhoi wyneb newydd i faes parcio Stryd Newydd.

 

Bydd y cynllun yn destun ymarfer ymgynghori cyhoeddus a bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda gweithredwyr bysiau sy’n rhedeg o orsaf fysiau yr Wyddgrug. Bydd y broses ymgynghori hefyd yn cynnwys adborth ar y dewis i godi ffi ar ddefnyddwyr y cyfleuster, er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i gynnal a chadw’r cyfleuster yn y dyfodol ac i ddarparu rhwystr rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y cyfleuster.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r gwaith uwchraddio i’r cyfleuster cyhoeddus presennol yng Ngorsaf Fysiau Heol y Brenin a bod y toiledau ym Maes Parcio Stryd Newydd yn cael eu dymchwel i gynyddu llefydd parcio, yn dilyn penderfyniad y Cyngor Tref i wrthod y cynnig o gymryd cyfrifoldeb cynnal a chadw’r cyfleuster; a

 

 (b)      Cymeradwyo cwblhau gwelliannau i’r Gorsaf Fysiau.

149.

Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran dyledion rhent yn 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad Incwm Rhent Tai a oedd yn darparu manylion ar sefyllfa ddiweddaraf casglu rhent.

 

            Fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r Cabinet, roedd gwaith sylweddol wedi cael eu gyflawni dros y chwe mis diwethaf i sefydlogi sefyllfa ôl-ddyledion rhent, gyda’r gwaith yn cynnwys:

 

·         Cynyddu adnoddau;

·         Cyflwyno ymyrraeth gynnar;

·         Mabwysiadu dull mwy cadarn am bwysigrwydd talu rhent ar amser; a

·         Buddsoddi mewn technoleg newydd

 

Roedd yr holl waith wedi dod ynghyd ac am y tro cyntaf ers 2016/17 roedd casgliadau rhent yn gwella ac ôl-ddyledion rhent yn lleihau. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, hyd at wythnos 42, yn £2.04M o’i gymharu â £2.18M ar yr un adeg yn 2018/19, gan ddangos lleihad o £143,000.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod cynnydd cyson yn cael ei wneud i leihau ôl-ddyledion rhent a bod  hynny’n cael ei gyflawni o ganlyniad uniongyrchol i:

 

·         Gynyddu adnoddau;

·         Cyflwyno canolbwynt ymyrraeth gynnar i gynorthwyo’r tenantiaid hynny mewn mwy o risg o golli eu cartrefi;

·         Mabwysiadu dull mwy cadarn am bwysigrwydd talu rhent ar amser; a

·         Buddsoddi mewn Meddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft.

 

            Roedd y gwasanaeth Refeniw yn parhau i gymryd camau cyfreithiol fel ateb olaf yn erbyn y tenantiaid hynny nad oedd yn ymgysylltu ac yn methu talu rhent ar amser. Gydag oddeutu 7,100 o denantiaid, dim ond 20 achos o droi allan oedd wedi digwydd hyd yn hyn yn 2019/20 am ôl-ddyledion rhent difrifol ac ar ôl cyflawni holl opsiynau adennill eraill gan y Cyngor, a dim ond ar ôl i’r system cyfreithiol fodloni bod popeth wedi cael ei wneud i gefnogi’r tenant.

 

            Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod effaith Credyd Cynhwysol yn amlwg ar y graff yn yr adroddiad ac er gwaethaf heriau parhaus i gynyddu’r nifer o denantiaid sy’n dod oddi ar Fudd-Dal Tai i’r system Credyd Cynhwysol, roedd y gwasanaeth tai wedi gweithio’n galed i herio effeithiau anochel y mae mwyafrif o landlordiaid cymdeithasol yn profi wrth godi ôl-ddyledion rhent.

 

            Croesawodd Aelodau’r adroddiad, yn arbennig yr ymyraethau cynnar i gynorthwyo tenantiaid.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod sefyllfa ariannol ddiweddaraf ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, yn cael ei nodi.

150.

Y Diweddaraf am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cefnogi’r gwaith parhaus o reoli effeithiau Diwygio'r Gyfundrefn Les.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad y Wybodaeth Ddiweddaraf ar y Diwygiad Lles a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith roedd ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn ei chael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i liniaru a chefnogi aelwydydd.

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol, a manylion o effaith bob un yn Sir y Fflint:

 

·         Tynnu Cymhorthdal Ystafell Sbâr;

·         Uchafswm Budd-Daliadau;

·         Credyd Cynhwysol;

·         Cymorth i Hawlio Gwasanaeth;

·          ‘Ymfudo a Reolir’ Credyd Cynhwysol;

·         Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor;

·         Tîm Diwygiad Lles; a

·         Taliadau Tai Dewisol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell y gwaith oedd yn cael ei gyflawni gan y gwasanaeth i leihau effeithiau llawn y diwygiadau rhag bod yn faich ar drigolion diamddiffyn Sir y Fflint.  Cytunodd y Cynghorydd Thomas a dywedodd nad oedd Cyngor Sir y Fflint wedi dod ymlaen ar gyfer y peilot, a bod hyn wedi cael ei orfodi ar y Cyngor gan y Llywodraeth Ganolog, a gwnaeth sylw ar y nifer sylweddol o broblemau gyda Chredyd Cynhwysol.

 

O ran y data nad oedd ar gael i’r Cyngor gan Gyngor ar Bopeth Gorllewin Swydd Gaer, dywedodd y Prif Weithredwr bod hyn yn cael ei uwchgyfeirio i sicrhau bod gwybodaeth ar gael.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thomas os oedd penderfyniad blaenorol y Cabinet i ysgrifennu ar y Llywodraeth Ganolog gyda phryderon wedi cael ei gyflawni. Eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi paratoi llythyr drafft ac y byddai’n rhannu cynnwys y llythyr gydag Aelodau’r Cabinet.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r adroddiad gan gynnwys y gwaith parhaus i reoli’r effaith mae Diwygiadau Lles yn ei chael a bydd yn parhau i’w chael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.

151.

Adolygiad o’r Polisi SCRIM (Peiriant Ymchwilio Arferol Cyfernod Grym Tua’r Ochr) pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Polisi adolygedig ar gyfer ymwrthedd sgidio ar y rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adolygiad o’r Adolygiad o’r Polisi Peiriant Ymchwilio Arferol Cyfeirnod Grym tua’r Ochr (SCRIM) a oedd yn ceisio alinio polisi’r Cyngor gyda chanllawiau Arferion Da Cynnal a Chadw Priffyrdd newydd.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Polisi Peiriant Ymchwilio Arferol Cyfeirnod Grym tua’r Ochr a Llawlyfr Gweithredol ar gyfer rheoli Ymwrthedd Sgidio ar y Rhwydwaith Priffyrdd Mabwysiedig; a

 

(b)      Cefnogi adolygiad o’r rhwydwaith i ailddosbarthu safleoedd yn dilyn newidiadau i isadeiledd a chyfyngiadau cyflymder lleol.

152.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 59 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

  • Rhent Tai Cyngor – Diddymu Hen Ôl-Ddyledion Tenantiaeth yn Dilyn Achos o Droi Allan

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i’w dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Penderfyniad i ddiddymu mewn perthynas â 5 achos o rent heb ei dalu mewn amgylchiadau lle mae’r Cyngor eisoes wedi cymryd camau i droi tenantiaid allan o ganlyniad i beidio â thalu rhent.  Yn dilyn camau i droi allan, ystyrir hen ôl-ddyledion tenantiaeth ymhob achos fel rhai nad ellir eu hadennill ac nid oes unrhyw obaith o ddiogelu taliad. Cyfanswm y rhent heb ei dalu mewn perthynas â’r 5 achos yw £35,046.55.

           

Strydwedd a Chludiant

  • Adeiladu twmpathau sinwsoidaidd a thwmpathau gyda phen gwastad yn Leaches Lane, Mancot Lanes a Hawarden Way, Mancot

Hysbysu’r aelodau o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu gwaith adeiladu arfaethedig o dwmpathau sinwsoidaidd a thwmpathau gyda phen gwastad yn Leaches Lane, Mancot Lanes a Hawarden Way, Mancot.

 

  • Ffioedd a Thaliadau Gwaith Stryd ar gyfer 2020/21

Mae ffioedd a thaliadau a godir ar gyfer trwyddedau a cheisiadau amrywiol o fewn Gwaith Stryd wedi eu hadolygu ac mae’r taliadau arfaethedig ar gyfer 2020/21 wedi’u nodi yn y tabl.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

153.

Tendr Yswiriant 2020

Pwrpas:        I hysbysu’r Cabinet ar drefniadau ar gyfer gwerthuso Tendr Yswiriant.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Tendr Gwasanaethau Yswiriant 2020 a oedd yn darparu manylion o ymarfer tendro cyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a gyflawnir ac yn cael ei reoli gan Frocer y Cyngor ynghyd â staff caffael ac yswiriant.

 

                        Mae Rheolau'r Weithdrefn Gontractau yn datgan bod angen i unrhyw gontract tu hwnt i £2.000M gael ei adrodd i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r trefniadau ar gyfer caffael Gwasanaethau Yswiriant; ac

 

 (b)      Yn dilyn gwerthusiad llawn a chadarn o’r cynigion, dirprwyo’r awdurdod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wobrwyo’r Cytundebau Hirdymor i’r ymgeiswyr llwyddiannus.

154.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.