Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

67.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Dim.

68.

Cofnodion pdf icon PDF 262 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 24ain Medi, 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

 

            Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ac i swyddogion Cyngor Sir y Fflint am eu camau di-oed yn dilyn y digwyddiad diweddar yn Bolingbrook Heights, Y Fflint lle gafodd nifer o fflatiau eu difrodi gan lifogydd o ganlyniad i bibell dd?r wedi byrstio. Roedd gwaith ar fynd i adfer defnydd y lifft cyn i breswylwyr allu dychwelyd.

69.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a Chyllideb 2020/21 pdf icon PDF 229 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y sefyllfa cenedlaethol a lleol diweddaraf mewn perthynas â Chyllideb Refeniw’r Cyngor 2020/21.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2020/21 a roddodd grynodeb o’r rhagolygon a’r newidiadau i’r sefyllfa a adroddwyd yn flaenorol.

 

            Amlygwyd y sefyllfa genedlaethol, ynghyd â strategaeth lefel uchel y Cyngor i gwrdd â’r bwlch a ragwelwyd. Roedd y risgiau’n gysylltiedig â hynny, yn enwedig y gofyniad i sicrhau bod setliadau gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys dyraniadau ychwanegol i’r fformiwla i gwrdd â chostau cyflog a phensiynau cynyddol, gwasanaethau sy’n seiliedig ar alw a gofynion deddfwriaethol.

 

            Roedd yn hanfodol bod cyllid digonol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru o’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn Adolygiad o Wariant y DU. Yn absenoldeb y cyllid ychwanegol, byddai’r Cyngor mewn perygl o fethu gallu gosod cyllideb ddiogel, cyfreithiol a chytbwys.

 

            Tynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sylw at y newidiadau o ran pwysau o’r rhai a adroddwyd ym mis Ebrill, a manylion y pwysau newydd a datrysiadau strategol, a oedd i gyd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

            Soniodd y Cynghorydd Roberts am yr holl waith a wnaed â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod y flwyddyn, gyda’r Cyngor yn cefnogi safbwynt CLlLC ar y gyllideb. Mynegodd bwysigrwydd ariannu cyflog a phensiynau gweithwyr y Cyngor a gweithwyr ysgolion yn llwyr fel rhan o’r cytundeb cenedlaethol ar gyfer dyfarniadau cyflog.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r newidiadau i’r rhagolygon.

70.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19 pdf icon PDF 236 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19 cyn cael cefnogaeth y Cyngor Sir a’i gyhoeddi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2018/19 a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel y manylwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

 

            Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau’r Cyngor a lefel yr hyder oedd gan y Cyngor o ran cyflawni’r canlyniadau dymunol.  Roedd hefyd yn dangos y sefyllfa yn erbyn y 44 risg, gydag un risg wedi cynyddu o ran arwyddocâd yn ystod y flwyddyn, a 15 risg wedi gostwng o ran arwyddocâd erbyn diwedd y flwyddyn.

 

            Roedd perfformiad yn erbyn mesuryddion Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol gyda 92% o’r gweithgareddau allweddol cytunedig yn gwneud cynnydd da ac 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad dymunol. Yn ogystal â hyn, roedd 70% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn, ac roedd 73% wedi gwella neu wedi aros yn sefydlog.

 

            Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (64%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (25%). Roedd 11% o’r risgiau yn dangos statws risg uchel ar ddiwedd y flwyddyn, yn bennaf oherwydd diffyg adnoddau ariannol. Roedd y Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi parhau i ystyried meysydd perfformiad a fu’n tanberfformio drwy gydol 2018/19. Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad, yn cynnwys y manylion ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.    

 

            Byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a byddai ar gael ar wefan y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19 cyn i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo.

71.

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb Strategol 2018/19 pdf icon PDF 211 KB

Pwrpas:        Cadarnhau’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018/19, yn cynnwys yr Adroddiad Cynnydd Perfformiad.

 

            Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2020 a byddai Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd yn cael ei lunio ar gyfer 2020/24.  

 

            Amlygwyd manylion o feysydd o gyflawniad mewn perthynas â chwrdd â dyletswyddau cydraddoldeb yn ystod 2018/19 yn yr adroddiad. Er fod meysydd cadarnhaol o gynnydd, roedd rhai materion angen gwella o hyd a manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet wedi eu sicrhau y gwnaethpwyd cynnydd ar hyd y flwyddyn o ran cyflawni ein dyletswyddau statudol; a

 

 (b)      Chefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018/19, cyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.

72.

Llythyr Adolygiad Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) pdf icon PDF 176 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn nodi cynnwys y llythyr Perfformiad Blynyddol, asesiad AGC o berfformiad yr awdurdod yn ystod 2018/19 a Chynllun Adolygu Perfformiad AGC ar gyfer 2019-20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ar y Llythyr Adolygiad Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a oedd yn cynnwys manylion ynghylch y llythyr a gyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2019.

 

                        Roedd y llythyr yn crynhoi gwerthusiad AGC o berfformiad mewn perthynas â Gwasanaethau Plant ac Oedolion yn ystod y flwyddyn ariannol ac yn adrodd yn erbyn pedair egwyddor allweddol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

                        Roedd y llythyr yn adolygiad cadarnhaol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol statudol a ddarparwyd gan y Cyngor gyda manylion llawn y meysydd perfformiad yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai braf oedd derbyn llythyr mor gadarnhaol, yn enwedig mewn perthynas â chydnabyddiaeth o’r cynnydd o ran y Cynllun Peilot Micro-Ofal a gweithrediad Model Gofal Maeth Mockingbird.

 

                        Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad a chymeradwyo’r gwasanaeth a'r staff. Soniodd y Cynghorydd Bithell am gynnwys plant sydd wedi erbyn gofal wrth ddatblygu gwasanaethau, drwy fod yn aelodau o’r Fforwm Gwasanaethau Plant a oedd yn amhrisiadwy yn ei farn ef ac roedd yn falch iawn o weld ei fod wedi’i gydnabod gan AGC.

 

            PENDERFYNWYD:

           

(a)       Nodi cynnwys y llythyr Perfformiad Blynyddol ac asesiad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad yr awdurdod yn ystod 2018/19; a

 

(b)       Nodi Cynllun Adolygu Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 2019/20.

73.

Parcio ar y Stryd mewn Canol Trefi pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-ddynodi maes parcio yng nghanol y dref ym Mwcle er mwyn darparu maes parcio arhosiad byr am ddim.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Barcio ar y Stryd mewn Canol Trefi a oedd yn cynnig datrysiad a fyddai’n cydbwyso’r ddarpariaeth o ofodau parcio arhosiad byr am ddim ym Mwcle i adlewyrchu’r hyn sydd ar gael mewn trefi eraill ar draws y Sir yn well. Hefyd, roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynllun peilot i gael gwared ar y gorchymyn pedestreiddio presennol a oedd yn weithredol yng nghanol tref Bwcle ar hyn o bryd, i wella mynediad i’r dref.  Byddai’r cynnig yn amodol ar dderbyn cefnogaeth Cyngor Tref Bwcle o’r cynnig.

 

            Roedd argaeledd nifer fechan o ofodau parcio arhosiad byr am ddim mewn canol tref yn hanfodol er mwyn caniatáu i siopwyr wneud ymweliadau byr i gasglu neges. Nid oedd cynllun y ffordd o amgylch Bwcle yn caniatáu darpariaeth parcio ar y stryd. Cynigiwyd ail-ddyrannu rhan o faes parcio Brunswick Road i gynnig gofodau parcio am ddim am hyd at hanner awr, a fyddai’n darparu 18 gofod ychwanegol ar gyfer ymweliadau byr â chanol y dref. 

 

Ers cyhoeddi’r rhaglen, roedd cyfarfod wedi’i gynnal gyda’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant), y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwald, y Rheolwr Menter ac Adfywio a chynrychiolwyr o Gyngor Tref Bwcle. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, cyflwynwyd y cynigion ger bron y Cyngor Tref a nododd ei fod yn cefnogi’r cynnig, ar yr amod bod cyfnod yr arhosiad byr yn newid o hanner awr i 1 awr. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i asesu costau’r awgrym hwnnw a sicrhau ei fod o fewn cwmpas y Strategaeth Maes Parcio.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddent yn cael gwared ar y gorchymyn pedestreiddio ar sail cynllun peilot ac y byddai llwyddiant y cynllun yn cael ei fesur, yn debyg iawn i’r hyn a wnaethpwyd yn Nhreffynnon yn ddiweddar, lle cyflwynwyd cyfrifon busnes cyn ac ar ôl y cynllun peilot i asesu’r gwahaniaeth o ran ffigyrau.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r cynnig i ail-ddyrannu adran o faes parcio Brunswick Road ym Mwcle i ddarparu gofodau parcio arhosiad byr am ddim fel iawn am y prinder o ofodau parcio arhosiad byr ar y stryd o fewn canol y dref; a

 

 (b)      Chefnogi’r Cynllun Peilot i ddiddymu'r parth cerddwyr yng nghanol tref Bwcle a chymeradwyo cyflwyniad trefniant o’r fath am gyfnod penodol, sydd yn ddigonol i fesur yr effaith ar nifer yr ymwelwyr yn y dref. Byddai cyflwyno’r cynllun peilot yn amodol ar dderbyn cefnogaeth Canol Tref Bwcle o’r cynigion.

74.

Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu pdf icon PDF 428 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu drafft 2019/24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ar Y Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu ac esboniodd fod Y Strategaeth Tai yn adeiladu ar y llwyddiannau a gyflawnwyd drwy’r strategaeth flaenorol, ac yn nodi gweledigaeth y Cyngor ‘i weithio gyda budd-ddeiliaid allweddol i hysbysu a darparu‘r math cywir o dai o safon a’r gefnogaeth fwyaf addas i ddiwallu anghenion ein poblogaeth’.

 

            Roedd y Strategaeth yn nodi 3 blaenoriaeth gyda meysydd allweddol i’w gweithredu o fewn pob blaenoriaeth. Sef:

 

            Blaenoriaeth 1: cynyddu cyflenwad i ddarparu’r math cywir o dai yn y lleoliad cywir drwy adeiladau newydd, defnyddio’r sector rhentu preifat, a gwneud gwell defnydd o’r stoc bresennol.

 

            Blaenoriaeth 2: cynnig cefnogaeth i sicrhau fod pobl yn byw ac yn aros yn y mathau cywir o dai drwy gymorth a fydd yn atal pobl ddiamddiffyn rhag bod yn ddigartref a’u cynnal yn eu cartrefi eu hunain.

 

            Blaenoriaeth 3: gwella ansawdd a chynaliadwyedd ein tai yn cynnwys mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy fesurau effeithlonrwydd ynni.

 

            Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am bwysigrwydd y ddogfen a diolchodd i’r swyddog a oedd wedi paratoi’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog fod yr Asesiad Anghenion O Ran Tai yn penderfynu beth oedd ei angen o fewn ardal benodol ac roedd hynny’n cysylltu â’r Cynllun Datblygu Lleol i sicrhau bod y gymysgedd o dai yn gywir.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a oedd unrhyw beth y gallai’r Cyngor ei wneud i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd. Esboniodd y Prif Swyddog fod llawer o waith eisoes wedi’i wneud i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ond roedd yn heriol iawn.  Mewn perthynas â chwestiwn pellach gan y Cynghorydd Bithell ar dai ar gyfer unigolion gydag anghenion arbennig penodol a oedd yn byw gyda rhieni oedrannus, roedd elfen yn y gofrestr tai a oedd yn cynnwys y manylion hynny a cheisiwyd llety addas ar yr adeg briodol. Roedd y gwasanaeth yn gweithio’n agos â chydweithwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi’r anghenion hynny.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi a mabwysiadu’r Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2019/2024.

75.

Polisi Grant Cyfleusterau i’r Anabl pdf icon PDF 276 KB

Pwrpas:        I’r Cabinet fabwysiadu’r polisi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ar y Polisi Grant Cyfleusterau i’r Anabl ac esboniodd, fel rhan o adolygiad Archwilio Mewnol o’r gwasanaeth Grant Cyfleusterau i’r  Anabl ym mis Mehefin 2018, nodwyd bod ar y polisi cyfredol angen ei adolygu er mwyn gwneud y broses a’r manylion yn gliriach ac yn haws i’w deall.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod yr adolygiad wedi nodi bod y polisi blaenorol, a oedd yn cynnwys y broses Grant Cyfleusterau i’r Anabl, wedi dod i ben ac nid oedd yn alinio ag arferion presennol o ran gweithrediad o fewn y gwasanaethau. Roedd yn aneglur pa brosesau a meini prawf oedd eu hangen er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant.

 

Roedd gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i fynd i’r afael a gweithredu’r argymhellion o fewn yr adroddiad ac i adolygu darpariaeth gwasanaeth er mwyn gwneud gwelliannau. Roedd cryn dipyn o waith hefyd wedi’i wneud i sicrhau bod cwsmeriaid, a’r gweithwyr proffesiynol a oedd yn eu cefnogi, â’r holl wybodaeth berthnasol cyn gynted â phosibl. Darparodd sicrwydd y byddai gwelliant sylweddol i ddarpariaeth Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a fyddai’n amlwg yn y cyfnodau adrodd i ddod.

 

PENDERFYNWYD:

           

Cefnogi’r polisi diwygiedig.           

76.

Adolygiad o'r Strategaeth Gaffael pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Cytuno ar y diweddariadau i’r ddogfen ac i gefnogi'r ddau nod o gontractau cydweithio gwell gyda Chyngor Sir Ddinbych a phryniant mwy lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ar yr Adolygiad o’r Strategaeth Gaffael ac esboniodd, er fod y strategaeth yn weithredol o 2016 i 2021, gwnaethpwyd rhai newidiadau yng nghyd-destun y polisi ehangach a oedd yn cyfiawnhau cynnal adolygiad r?an. 

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y newidiadau sylweddol ers mabwysiadu’r strategaeth fel a ganlyn:

 

1.    Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi ac roedd y Cyngor yn ei ddilyn;

2.    Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Ffyniant i Bawb – Cymru Carbon Isel, a oedd yn ymrwymo’r sector cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030; a

3.    Mae’r Cyngor wedi diwygio ei ddull ei hun o ran cyflawni gwerth cymdeithasol o gaffael drwy fabwysiadu polisi gwerth cymdeithasol newydd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Roedd rhaid i’r newidiadau hynny gael eu hadlewyrchu o fewn y Strategaeth Gaffael a'r mesuryddion perfformiad o fewn y Strategaeth.

 

Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad, yn enwedig ymrwymiad y Cyngor i Ffyniant i Bawb – Cymru Carbon Isel a oedd yn ymrwymo’r sector cyhoeddus i ddarparu arweinyddiaeth ar leihau effaith dyn ar newid hinsawdd drwy leihau ei ôl troed carbon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’n gofyn i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a oedd y nod i geisio cynyddu’r effaith yr oedd gwariant yn ei gael o fewn yr economi leol drwy gyfeirio gwariant i fusnesau o fewn Sir y Fflint ac yn ehangach o fewn yr ardal ddaearyddol o Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, yn ddwyochrog.  

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Mabwysiadu’r Strategaeth Gaffael ddiwygiedig; a

 

 (b)      Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno yn ôl i’r Cabinet ar y newidiadau arfaethedig i’r Strategaeth Gaffael er mwyn lleihau ôl troed carbon y Cyngor.

77.

Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Llythyr Blynyddol 2018/19 pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsman a darparu trosolwg o lwyth achosion a pherfformiad Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ar Lythyr Blynyddol Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn 2018/19, a oedd yn cynnwys manylion am berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion yn erbyn gwasanaethau a dderbyniwyd ac archwiliwyd gan yr Ombwdsman yn ystod 2018/19.

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod nifer y cwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsman am awdurdodau lleol ar draws Gymru wedi cynyddu o 794 i 912 yn 2018/19. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsman yn falch bod awdurdodau lleol yn parhau i weithio gyda’i swyddfa i ddatrys llawer o’r cwynion yn gynnar.

 

                        Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd copi llawn o’r Llythyr Blynyddol a oedd yn manylu ar berfformiad y Cyngor a data cymharol.

 

                        Roedd y Cyngor yn ymgymryd â gwaith i leihau nifer y cwynion a oedd yn cael eu hanfon at yr Ombwdsman ac roedd yn bwriadu cymryd camau pellach unwaith yr oedd canlyniad ymgynghoriad presennol yr Ombwdsman ar egwyddorion a gweithdrefnau’n ymwneud â’r grymoedd newydd a grëwyd gan y Ddeddf Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn hysbys.

 

                        Roedd camau gweithredu’r Cyngor yn cynnwys:

 

·         Sesiynau hyfforddiant wedi’u targedu â Swyddogion Cynllunio er mwyn dysgu gwersi o benderfyniadau’r Ombwdsman dros y 12 mis diwethaf;

·         Adolygiad o weithdrefn gwyno’r Cyngor mewn ymateb i bolisi pryderon a chwynion enghreifftiol yr Awdurdod Safonau Cwynion ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;

·         Ail-ddylunio hyfforddiant y gweithlu i gefnogi swyddogion er mwyn datrys cwynion yn effeithiol y tro cyntaf;

·         Gwella safon yr ymatebion i gwynion drwy gyflwyno canllawiau mewnol a gwell ar gyfer swyddogion;

·         Hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned i hyrwyddo ymwybyddiaeth a phwysigrwydd y Cod Ymddygiad lle mae tystiolaeth o wrthdaro rhwng Aelodau, er mwyn helpu i ailosod ffiniau ymddygiad ar gyfer yr Aelodau;

·         Data perfformiad amserol i’w ddosbarthu a’i drafod yn ystod uwch gyfarfodydd adrannol;

·         Gweithio gyda chynghorau ar draws Gogledd Cymru a’r Ombwdsman i gofnodi data cwynion ar y cyd a fydd o bosib yn cael ei ddefnyddio i yrru gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer dinasyddion yng Nghymru.

                       

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Nodi perfformiad blynyddol y Cyngor a nifer y cwynion a ddatryswyd

yn gynnar;

 

             (b)      Cefnogi’r camau i leihau nifer y cwynion a anfonir at swyddfa’r

Ombwdsman; a

 

             (c)       Chefnogi adolygiad o weithdrefn gwyno’r Cyngor ar ôl derbyn

polisi pryderon a chwynion enghreifftiol yr Awdurdod Safonau Cwynion ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

78.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 5) pdf icon PDF 378 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 5) a oedd, am yr ail dro, yn darparu gwybodaeth fanwl am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol a chyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 5 y flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

                        Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

  • Diffyg gweithredol o £3.042m a oedd yn symudiad negyddol o £0.059m o’r ffigwr diffyg o £2.983 a nodwyd ym Mis 4; a
  • Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn arian at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £1.827.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.108m yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad negyddol o £0.027m o’r ffigwr diffyg £0.081m a nodwyd ym mis 4; a
  • Balans terfynol disgwyliedig ar 31 Mawrth 2020 o £1.215m.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y bu i Aelodau, yn y cyfarfod diwethaf, ystyried adroddiadau ar y ddau faes o amrywiadau mawr – Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Chludiant Ysgol. Cadarnhaodd yr Aelodau eu bod yn fodlon bod cwmpas cyfyngedig iawn i liniaru leihau’r gorwariant yn ystod y flwyddyn ac y byddai effaith anochel ar sefyllfa’r gyllideb o 2020/21 a byddai’n rhaid ystyried hyn yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

I gynorthwyo â lliniaru’r gorwariant cyffredinol a rhagamcanwyd, byddai’r mesurau canlynol yn cael eu cyflwyno:

 

1.    Byddai’r holl wariant nad oedd yn hanfodol yn cael ei adolygu a’i herio gyda’r bwriad o’i oedi / rhoi’r gorau iddo lle bo hynny’n bosibl; a

2.    Byddai’r Tîm Rheoli Portffolio yn herio recriwtio i swyddi gwag.

 

Byddai canlyniad yr adolygiad yn cael ei gynnwys yn yr Adroddiad Monitro’r Gyllideb (Mis 6).

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol hefyd fanylion yngl?n â’r sefyllfa amcanol fesul portffolio; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill yn ystod y flwyddyn; effaith a risgiau MTFS; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai.

79.

Diweddariad ar Arosfa pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I roi gwybodaeth ar wasanaeth ychwanegol i ddarparu mwy o lety i bobl ifanc gydag anghenion cymhleth fel dewis arall ar wahân i leoliad y tu allan i'r sir.   Bydd cyllid Refeniw'r Gronfa Gofal Integredig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer 2 ystafell wely ychwanegol ar sail tymor byr a hir a bydd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Arosfa a oedd yn amlinellu cynlluniau i adnewyddu adain o’r adeilad nad yw’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd er mwyn darparu gofod ar gyfer dau wely ychwanegol ar y safle. 

 

Roedd Arosfa yn wasanaeth sefydledig yn darparu arosiadau byr / seibiant i blant ag anableddau. Byddai’r ddau wely ychwanegol yn caniatáu i’r gwasanaeth ddarparu ar gyfer dau breswylydd hirdymor, parhaol a darparu gwasanaeth lleol o safon yn hytrach na lleoliadau tu allan i’r sir. Byddai hyn yn ychwanegol i’r ddarpariaeth arhosiad byr, seibiant presennol ar gyfer hyd at 3 o blant.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r cynlluniau, gyda’i gilydd, yn galluogi’r Cyngor i gefnogi uchafswm o bump o blant ar unrhyw adeg a byddai’n darparu gwasanaeth lleol, cost effeithiol a safonol ac yn opsiwn amgen i leoliadau tu hwnt i’r sir.

 

Y goblygiad o ran refeniw oedd £200k y flwyddyn a fyddai’n cael ei ariannu’n llwyr gan y Gronfa Gofal Canolraddol. Yr isafswm cost flynyddol ar gyfer lleoliad y tu allan i'r sir oedd £182k gyda sawl lleoliad yn costio mwy na hynny.Byddai cefnogi dau berson ifanc drwy’r farchnad agored felly yn costio isafswm o £364k y flwyddyn felly roedd hyn yn arbed arian i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cefnogi’r cynllun adnewyddu.

80.

Cefnogi Teuluoedd i gael Mynediad i’r Cynnig Gofal Plant pdf icon PDF 212 KB

Pwrpas:        Darparu manylion ynghylch sut y gellir cefnogi mwy o deuluoedd i gael y cynnig gofal plant am ddim ynghyd a chynigion am fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi’r gwaith.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar Gefnogi Teuluoedd i gael Mynediad i’r Cynnig Gofal Plant am Ddim a oedd yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynnig Gofal Plant wedi’i Ariannu ar gyfer Plant 3-4 Mlwydd Oed a’r gwaith a wnaed i gefnogi teuluoedd i gael mynediad i’r Cynnig.

 

                        Esboniodd Reolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd mai nod y Cynnig oedd cefnogi teuluoedd drwy gynnig gofal hyblyg, fforddiadwy ac o safon. Roedd hefyd yn cefnogi adfywio economaidd ac yn lleihau pwysau ar incwm i deuluoedd, gan helpu rhieni i gymryd rhan mewn gwaith a lleihau risg teulu o dlodi. Roedd hefyd o gymorth i gynnal ac i ailfodelu’r sector gofal plant.

 

                        Roedd y Cynnig Gofal Plant wedi bod yn llwyddiannus yn Sir y Fflint ac roedd nifer y plant a oedd wedi manteisio ar y Cynnig ers mis Medi 2017 wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.

 

                        Roedd gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i rieni a darparwyr gofal plant drwy weithio gyda’r sector gofal plant a phartneriaid.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Derbyn yr adroddiad a chydnabod y gwaith a oedd yn cael ei wneud i gefnogi teuluoedd i gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant am Ddim.

81.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Cefnogi Pobl a Holiadur Adborth Defnyddwyr pdf icon PDF 257 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet yngl?n â sut mae cyllid Cefnogi Pobl yn helpu pobl, gan gynnwys pobl ag anghenion lluosog cymhleth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ar Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Cefnogi Pobl a Holiadur Adborth Defnyddwyr a oedd yn darparu braslun o ganlyniadau o holiadur Cefnogi Pobl ar-lein rhwng 2 Rhagfyr 2018 a 31 Mawrth 2019.

 

                        Darparwyd dyfyniadau uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn yr adroddiad a thystiolaeth i ddangos yr effaith gadarnhaol unionyrchol oedd y Rhaglen Cefnogi Pobl yn ei chael ar fywydau ac fe groesawyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r wybodaeth ar sut mae cyllid Cefnogi Pobl yn helpu pobl.

82.

Polisi Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf a Thywydd Garw pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar y Polisi Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf a Thywydd Garw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar y Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf a Thywydd Garw a oedd yn diweddaru’r polisi cyfredol ac yn esbonio’r gofynion deddfwriaethol a oedd yn ymwneud â darparu gwasanaeth o’r fath, a’r camau gweithredu a gymerwyd gan bortffolio Strydwedd a Chludiant i ddarparu’r gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn amlinellu ymateb y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd gwael eraill megis llifogydd a gwyntoedd cryfion.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai arfer da oedd adolygu’r polisi yn rheolaidd a bod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau a gynhwysir yn y fersiwn mwyaf diweddar o’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf i’w cymeradwyo. Amlinellwyd y meysydd allweddol a ystyriwyd gan swyddogion yn yr adroddiad.

 

                        Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y model gweithredu presennol yn ddigonol o ran ymateb i’r risg a gyflwynwyd yn ystod cyfnodau o dywydd gwael ac roedd yn effeithiol wrth ddefnyddio adnoddau, yn ogystal â chyfyngu ar effaith yr amhariad ar y gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaeth ehangach. Nid oedd unrhyw newid sylweddol yn dilyn yr adolygiad, fodd bynnag, yn ystod blynyddoedd diweddar, roedd y gwasanaeth wedi edrych ar wella cyfathrebu yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw difrifol, ac roedd y dull wedi’i gynnwys o fewn y polisi.

 

                        Roedd y polisi wedi’i ddiwygio i adlewyrchu’r newid o ran darparwr rhagolygon y tywydd, o  MeteoGroup i MetDesk, yn dilyn caffael y gwasanaeth rhagolygon gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf 2019/21 a adolygwyd, sydd yn cynnwys y gweithdrefnau a’r prosesau ar gyfer darparu gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf a thywydd garw’r Cyngor.

83.

Adroddiad Sir y Fflint yn Cysylltu Blynyddol pdf icon PDF 300 KB

Pwrpas:        I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y darperir gwasanaethau ar hyn o bryd a datblygiadau yng Nghanolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu. I cytuno ar gyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol yn unol â’r Strategaeth Gwasanaeth Gwsmeriaid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu a oedd yn manylu ar berfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu, y gwasanaeth a oedd yn gyfrifol am ddarparu mynediad wyneb yn wyneb a digidol i wasanaethau’r Cyngor yn 2018/19.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Sir y Fflint yn Cysylltu yn rhan annatod o Strategaethau Cwsmer a Digidol y Cyngor o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus hygyrch, ymatebol sy’n gost effeithiol ac o ansawdd uchel. Fel rhan o broses cynllunio busnes y Cyngor, bu i Sir y Fflint yn Cysylltu gwblhau adolygiad o’i strwythur yn 2018/19 a arweiniodd at effeithlonrwydd o £46k, gan osgoi unrhyw effaith andwyol ar fynediad cwsmeriaid at wasanaethau.

 

                        Roedd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o berfformiad yn 2018/19 a gwybodaeth yn ymwneud â galw gan gwsmeriaid yn dilyn gweithrediad y strwythur diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi perfformiad uchel a bodlonrwydd cwsmeriaid ar draws Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu;

 

 (b)      Cefnogi’r adolygiad o’r gwasanaethau a gefnogir gan Sir y Fflint yn Cysylltu yn 2019/20; a

 

 (c)       Nodi rôl bwysig Sir y Fflint yn Cysylltu, i gefnogi Strategaethau Cwsmer a Digidol y Cyngor.

84.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bwerau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Strydwedd a Chludiant

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (A5104 Ffordd Corwen, Ffordd Y Rhos a Ffyrdd Cyfagos, Treuddyn)  (Terfyn Cyflymder 40 mya a 50 mya) 201x

Rhoi gwybod i Aelodau am wrthwynebiad a dderbyniwyd ar gyfer y terfyn cyflymder 40mya a 50mya arfaethedig ar A5104 Ffordd Corwen, Ffordd Y Rhos a ffyrdd cyfagos, Treuddyn.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Hysbysiad Ffurfiol i Ddatgan nad oes angen Canolfan Ddydd Glanrafon yn Queensferry mwyach

Mae’r adroddiad yn darparu hysbysiad ffurfiol i ddatgan, ers dydd Llun, 24 Mehefin 2019, nad yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod angen Canolfan Ddydd Glanrafon yn dilyn cwblhad y Ganolfan Ddydd Newydd i Oedolion ag Anableddau Dysgu yn Hwb Cyfle, Queensferry. Bydd adeilad Glanrafon yn cael ei ddychwelyd i’r Tîm Prisio ac Ystadau er mwyn ei ddad-gomisiynu neu ei ailwampio a’i ail-osod.

 

Tai ac Asedau

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu diddymu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.  Roedd y penderfyniad i ddileu ôl-ddyledion yn ymwneud â thenant a oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Roedd y Gorchymyn yn cynnwys ôl-ddyledion rhent o £7,300.96 na fyddai modd eu hadennill bellach.

85.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol a dim un aelod o’r cyhoedd.