Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

336.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

            Dim.

337.

Cofnodion pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 19eg Mawrth 2019.

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2019.  Yn amodol ar ddiwygio gwall teipio yng nghofnod rhif 334, cymeradwywyd eu bod yn gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo bod y cofnodion yn gywir.

338.

Diweddariad Rhagolwg Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Diweddaru Rhagolygon trategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/21 - 2022/23.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig - Rhagolygon 2020/21 - 2022/23 a oedd yn rhoi trosolwg manwl o'r rhagolygon ariannol, ynghyd â rhagolygon lefel uchel hyd at 2022/23.  Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 11 Ebrill.

 

            Yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Chwefror 2019, cyflawnwyd gwaith manwl i fireinio'r rhagolygon fel eu bod y adlewyrchu gwybodaeth fwy diweddar a oedd yn seiliedig ar gudd-wybodaeth gyfredol. Dangosai'r amcanestyniad lefel uchel, ar sail materion hysbys a chan eithrio senarios ariannu cenedlaethol, fod y bwlch posibl yn y gyllideb wedi cynyddu i £13.3 miliwn ar gyfer 2020/21.  Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r rhagolygon a'r newid i sefyllfa'r Cyngor o gymharu â'r hyn a adroddwyd yn flaenorol.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai £271.350 miliwn oedd cyfanswm yr arian sydd ar gael i'r Cyngor cyn cyflwyno unrhyw newidiadau o ran Cyllid Allanol Cyfun a Threth y Cyngor.  Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn cynnwys manylion y rhagolygon cyfredol a'r ffigur newydd ar gyfer y bwlch yn y gyllideb.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion llawn y pwysau yn gysylltiedig ag Ysgolion ac Addysg, a oedd yn ymwneud â'r tri phrif faes canlynol: Anghenion Dysgu Ychwanegol, Demograffeg a Chyfiawnder Ieuenctid. Roedd y rhain wedi codi ers cyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor Sir.

 

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai angen i waith y gweithgor trawsbleidiol ganolbwyntio ar yr achos dros gynyddu cyllid cenedlaethol ar sail tystiolaeth, a oedd yn cynnwys tair prif cydran: 

 

1.    Gwarchod costau craidd rhag effaith chwyddiant;

2.    Pwysau ar wasanaethau cost uchel, ee Anghenion Dysgu Ychwanegol a Phlant sy'n Derbyn Gofal; a

3.    Ailgodi'r achos y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau digon o gyllid i dalu'r gost o weithredu ei deddfwriaethau ei hun.

 

O ran sicrhau cyllid gan LlC ar gyfer ei chynlluniau ei hun, cyfeiriodd y Prif Weithredwr yn arbennig at Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r o fis Ionawr 2019, a oedd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal Corff Cymeradwyo SuDS (CCS) i ymdrin â materion draenio d?r wyneb yn gysylltiedig â datblygiadau newydd, a sicrhau cydymffurfio â safonau cenedlaethol gorfodol newydd LlC. Roedd y goblygiadau o ran costau yn cael eu cyfrifo.

 

Cytunai'r holl Aelodau â safbwyntiau'r Prif Weithredwr, yn enwedig na ddylid disgwyl i awdurdodau lleol ariannu deddfwriaeth newydd gan LlC, ac y dylai LlC ariannu unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn uniongyrchol.  Ailadroddodd y Prif Weithredwr y cyngor a roddwyd yn flaenorol, sef nad oedd unrhyw opsiynau diogel pellach i'w hystyried gan y Cyngor, ar wahân i'r darpariaethau statudol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu'r rhagolygon a oedd wedi'u diweddaru yn sail ar gyfer cynllunio cychwynnol.

339.

Diweddariad ar Gynllun y Cyngor pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r adolygiad a chynnwys Rhan 1 o Gynllun y Cyngor 2019/20.

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2019/20, ac esboniodd fod y Cynllun wedi cael ei adolygu, a'i strwythur a'i gynnwys wedi'u hailwampio, gan symud i ffwrdd oddi wrth 'Gynllun Gwella' tuag at gynllun o natur fwy corfforaethol.  Roedd hyn yn adlewyrchu rhywfaint o'r bwriad y tu ôl i'r Mesur Llywodraeth Leol newydd a oedd yn disodli'r Mesur mwy rhagnodol a gafwyd yn 2009.

 

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y cynllun bellach yn fwy cyflawn am ei fod yn cynnwys rhai o'r gwasanaethau gweithredol proffil uwch yr oedd y Cyngor yn ceisio eu gwarchod, fel Gwasanaethau Stryd a Diogelu'r Cyhoedd.  Yr oedd gofyn i'r Aelodau gymeradwyo amlinelliad o'r cynnwys heddiw, a byddai Rhannau 1 a 2 yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Sir i'w mabwysiadu ym mis Mehefin.

 

            Roedd prif strwythur y Cynllun wedi'i gadw yr un peth â'r hyn a gafwyd mewn cynlluniau blaenorol, ond bellach yn cynnwys thema ychwanegol, gan greu cyfanswm o saith â blaenoriaethau ategol.  Roedd y saith thema yn parhau i fwrw golwg hirdymor ar uchelgais a gwaith dros y tair blynedd nesaf.

 

            Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu fod gwaith yn mynd rhagddo'n dda o ran effeithiau mwy hirdymor pob is-flaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor, a'r camau gweithredu yn ystod y flwyddyn. Byddai'r gwaith manwl hwnnw yn cael ei rannu â'r Aelodau drwy gynnal trafodaeth anffurfiol â Chadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a chynnal gweithdy i'r Aelodau.

 

            Roedd y Cynghorwyr Thomas a Butler yn croesawu'r thema newydd, a'r flaenoriaeth o sicrhau 'Cymunedau Diogel a Glân'.  Soniodd y Cynghorydd Thomas hefyd am bwysigrwydd thema'r 'Cyngor Gwyrdd' a'r is-flaenoriaeth Teithio Egnïol a oedd yn gysylltiedig â llesiant plant.

 

Roedd y Cynghorydd Jones yn falch o weld is-flaenoriaeth 'iechyd a llesiant - cynllun y gweithlu', a dywedodd fod y cynllun hwnnw'n hanfodol i weithwyr y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo'r amlinelliad o gynnwys Cynllun y Cyngor 2019/20 Rhan 1, a chynnwys yr holl is-flaenoriaethau; a

 

(b)       Cymeradwyo'r amserlen ar gyfer mabwysiadu Rhannau 1 a 2 o Gynllun y Cyngor 2019/20.

340.

Tai Arbenigol pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        I nodi a chefnogi gwaith y Gr?p Tai arbenigol i leihau’r nifer o bobl ar y gofrestr tai arbenigol.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ar Dai Arbenigol, sy'n disgrifio'r gwaith sy'n cael ei gyflawni yn Sir y Fflint ar hyn o bryd i ddarparu cartrefi i bobl ag anghenion tai arbenigol. Roedd yr adroddiad yn nodi maint y galw ac yn disgrifio sut roedd partneriaid yn mynd ati i ddatblygu proses gyfannol a theg.

 

                        Mae tai arbenigol, a elwir hefyd yn dai hygyrch, yn bodloni anghenion gr?p penodol o bobl, gan gynnwys pobl ag anableddau, a'r rheiny'n anableddau corfforol yn bennaf, a phobl h?n sydd wedi colli'r gallu i symud yn rhwydd.

 

                        Nod addasu cartrefi i'w gwneud yn hygyrch yw galluogi pobl i fyw'n annibynnol ac i aros y neu cartref eu hunain lle bo modd. Yr oedd hyn yn rhan hollbwysig o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy gyfrannu at greu Cymru fwy cyfartal a Chymru iachach.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod Cyngor Sir y Fflint wedi creu Cofrestr Tai Arbenigol yn 2017 a nodai'r holl deuluoedd a allai gynnwys preswylydd ag anableddau corfforol, yr oedd angen cartref hygyrch arno. Yn fwy diweddar, roedd teuluoedd ac arnynt angen cartrefi mwy (hy, 5 ystafell wely neu fwy) hefyd wedi cael eu cynnwys gan mai ychydig o gartrefi a oedd ar gael i fodloni'r angen neilltuol hwnnw.

 

                        Roedd y teuluoedd ar y Gofrestr Tai Arbenigol hefyd ar y gofrestr ar gyfer Un Llwybr Mynediad at Dai ac wedi'u rhannu i fandiau'n unol â'r drefn.  Roedd yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r 51 o deuluoedd a oedd wedi'u cynnwys ar y Gofrestr Tai Arbenigol.  Roedd y Gr?p Tai Arbenigol yn cyfarfod yn fisol i edrych ar y gofrestr a chanfod opsiynau posibl i ganfod llety addas ar gyfer pob achos. Ers 2017 roedd cyfanswm o 47 o deuluoedd wedi cael eu hailgartrefu mewn llety mwy addas, a llety dros dro wedi'i ddyrannu i 6 arall.

 

                        Roedd yr adroddiad yn cynnwys dwy astudiaeth achos a ddangosai sefyllfaoedd lle'r oedd darparu cartrefi hygyrch wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

 

                        Roedd y Cynghorydd Bithell yn croesawu'r adroddiad, yn enwedig y penderfyniad i gynnwys teuluoedd yr oedd angen cartrefi mwy arnynt.

 

                        Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Thomas, esboniodd y Prif Swyddog fod stoc y Cyngor yn cynnwys nifer sylweddol o fyngalos. Ar brydiau, roedd angen addasu rhai ohonynt, a phwysleisiodd mai nod darparu cartrefi hygyrch drwy eu haddasu oedd galluogi pobl i fyw'n annibynnol ac aros yn eu cartref eu hunain gyhyd ag a oedd yn bosibl.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi a chefnogi gwaith y Gr?p Tai Arbenigol i leihau nifer y bobl ar y gofrestr tai arbenigol.

341.

Gorfodaeth Amgylcheddol pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Adolygu’r protocol gorfodaeth amgylcheddol.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Orfodaeth Amgylcheddol a oedd yn egluro'r dull o gyflawni gweithgarwch gorfodi yn y Sir yn y dyfodol.

 

            Yn dilyn adolygiad diweddar o Wasanaeth Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor, roedd Swyddogion Gorfodi y Cyngor ei hun wedi ailysgwyddo'r cyfrifoldeb dros orfodaeth ar gyfer mân droseddau amgylcheddol, fel gollwng sbwriel a rheoli c?n. 

 

Yn ystod yr adolygiad, argymhellodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y dylid ystyried y posibilrwydd y gallai Cynghorau Tref a Chymuned ariannu Swyddogion Gorfodi ychwanegol yn eu hardal. Byddai'r Cyngor yn cysylltu â'r holl Gynghorau Tref a Chymuned i gynnig cyfle i ariannu amser ychwanegol gan swyddogion yn eu wardiau.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod Swyddogion Gorfodi yn gyfrifol am rawdiau ym mhob rhan o'r sir, a bod amserlen wedi'i llunio i sicrhau presenoldeb gorfodi rhesymol ym mhob ardal. Dyma'r meysydd gorfodaeth a drafodwyd gan y tîm:

 

·         Sbwriel;

·         Baw ci;

·         Rheoli meysydd parcio;

·         Gorfodaeth yn gysylltiedig â pharcio ar y ffordd;

·         Tipio anghyfreithlon;

·         Gorfodaeth yn gysylltiedig â gwastraff ochr; a

·         Symud ceir wedi'u gadael

 

Mynegodd y Cynghorydd Bithell rai pryderon ynghylch y trefniadau newydd am ei fod yn teimlo bod hynny'n gam yn ôl i weithrediadau gorfodi a oedd wedi'u cyflawni'n fwy diweddar, pan fu cwmni preifat yn gweithredu camau gorfodi. Dywedodd hefyd na fyddai cynghorau cymuned llai mewn sefyllfa i allu ariannu gwasanaethau ychwanegol, ond derbyniodd y gallent dderbyn adroddiad yn ôl i'w adolygu, gan mai cais gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd oedd hyn.

 

Mewn ymateb i sylw, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn egluro'r polisi cyfredol, gan gynnwys yr ymagwedd dim goddefgarwch.

 

Dywedodd y Cynghorydd Butler fod angen i drigolion mewn cymunedau gymryd cyfrifoldeb ac ymfalchïo yn eu cynefin.  Ymatebodd y Cynghorydd Thomas drwy ddweud bod angen i drigolion gydweithio â'r Cyngor ac y byddai ymagwedd y Cyngor yn taro cydbwysedd rhwng addysgu a gorfodi.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo'r protocol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad ar gyfer mân droseddau amgylcheddol a chyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig yn gysylltiedig â gollwng sbwriel a rheoli c?n; a

 

(b)       Cymeradwyo bod Cynghorau Tref a Chymuned yn cael cyfle i ariannu      Swyddogion Gorfodi ychwanegol yn eu hardaloedd eu hunain.

342.

Gwelliannau i’r B5129 rhwng Ffiniau Cynghorau Sir Ddinbych a Chyngor Gorllewin Caer a Chaer er mwyn gwella amseroedd siwrneiau bws pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gwelliannau i amseroedd siwrneiau bws rhwng Sir Ddinbych a’r ffin gyda Chaer, gan gynnwys adeiladu lonydd penodol ar gyfer bysiau a beiciau ar hyd coridor Glannau Dyfrdwy ar y B5129 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn esbonio bod y Cyngor ar hyn o bryd yn cyflwyno elfennau amrywiol Strategaeth Trafnidiaeth Integredig Sir y Fflint, a oedd yn cefnogi Prosiect Metro Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru (LlC). 

 

Roedd y prosiect yn cynnwys gwaith i wella amseroedd teithio bysiau ar hyd y B548/B5129, a oedd yn llwybr bysiau allweddol drwy'r sir, gan gysylltu Sir Ddinbych a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer.  Roedd nifer o welliannau wedi'u cynllunio yn rhan o'r prosiect, a oedd yn cynnwys mesurau i roi'r flaenoriaeth i fysiau wrth gyffyrdd allweddol a chanddynt oleuadau traffig. 

 

Roedd proses wedi dod i ben yn ddiweddar i ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y cynnig i adeiladu lonydd bws a beic amlddefnydd ar hyd darn o'r B5129 yng Nglannau Dyfrdwy, a oedd yn rhan o'r prosiect cyffredinol. Yn rhan o'r gwaith paratoi, roedd astudiaethau modelu traffig wedi cael eu cwblhau a oedd yn dangos gostyngiad sylweddol o hyd at 8 munud mewn amseroedd teithio bws i'r naill gyfeiriad a'r llall ar amseroedd brig, heb amharu rhyw lawer ar amseroedd teithio presennol i geir ar hyd y ffordd honno.

 

Byddai'r cynllun yn achosi mwy o dagfeydd yn yr ardal wrth ei gyflawni, ond bydd ai'r manteision hirdymor o gymorth i sicrhau dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir y Fflint ac yn lleihau'r ciwiau o amgylch Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

Roedd y Cynghorydd Jones yn croesawu'r adroddiad a'r gwelliannau a oedd wedi'u cynllunio, y bu hir aros amdanynt. Dywedodd hefyd y dylid ymestyn y cynlluniau hyd at Airbus ym Mrychdyn. Cytunai'r Cynghorydd Butler a dywedodd ei fod yn hollbwysig er mwyn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a gwella llif y traffig.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo defnyddio cyllid Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu'r lonydd bws a beic amlddefnydd arfaethedig ar y B5129 rhwng Lôn Shotton a Queensferry.

343.

Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 11) pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 11 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 11) a oedd yn cyflwyno'r sefyllfa fonitro ddiweddaraf o ran cyllideb refeniw 2018/19, ar gyfer Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa, ar sail incwm a gwariant gwirioneddol, ym mis 11 y flwyddyn ariannol, pe bai popeth yn aros heb newid.  Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 11 Ebrill.

 

Dyma oedd y sefyllfa a ragamcanwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn, heb unrhyw gamau newydd i leihau'r pwysau o ran costau ac/neu wella'r enillion ariannol yn sgil cynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau:

 

Cronfa'r Cyngor

 

  • Gwarged gweithredu o £0.931m (£0.743m ym Mis 10); a
  • Gweddill rhagamcanol wrth gefn wedi'i warchod o £8.715 miliwn, ar 31 Mawrth 2019, a oedd wedi gostwng i £6.494 miliwn, ar ôl ystyried y cyfraniadau a gytunwyd ar gyfer cyllideb 2019/20.

 

Byddai'r adroddiad nesaf i'r Cabinet yn rhoi gwybod beth fyddai sefyllfa'r alldro, ac ni ragwelwyd y byddai'n newid rhyw lawer rhwng y ffigur presennol a diwedd y flwyddyn, oni cheid newid hwyr i wasanaethau a arweinir gan alw.

 

Yn sgil y gwelliant a oedd wedi'i ragamcanu i'r alldro, rhagamcanwyd y byddai mwy o arian wrth gefn ar gael ar ddiwedd y flwyddyn. Byddai hyn yn helpu i ddiogelu'r Cyngor rhag y risgiau a oedd yn hysbys yn 2019/20.  Byddai'r cyngor ynghylch y swm a allai fod wedi cael ei dynnu i lawr o'r cronfeydd wedi bod yr un peth wrth bennu'r gyllideb flynyddol, er bod y sefyllfa wedi gwella.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.067 yn is na'r gyllideb; a
  • Ar 31 Mawrth 2019, rhagwelir mai'r balans wrth gau fydd £1.165 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys rhagamcan o sefyllfa Cronfa'r Cyngor. rhagamcan o'r sefyllfa fesul portffolio; gwasanaethau cymdeithasol; trefniadau i olrhain risgiau a materion sy'n codi yn ystod y flwyddyn; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill sy'n codi yn ystod y flwyddyn; cronfeydd a balansau; cronfeydd wedi'u clustnodi a cheisiadau i gario cyllid ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Nodi'r adroddiad cyffredinol a'r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer      Cronfa'r Cyngor ar 31 Mawrth;

 

(b)       Nodi rhagamcan terfynol y balansau yn y Cyfrif Refeniw Tai;

 

(c)        Cymeradwyo dyrannu arian o'r gronfa wrth gefn i'w fuddsoddi mewn newid, ac i gynnal Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS); a

 

(d)       Cymeradwyo'r cais i gario'r cyllid y mlaen a amlinellwyd yn yr adroddiad.

344.

Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2019 pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Rhannu cynllun archwilio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Cyllid a Pherfformiad 2019/20; gan nodi hefyd protocol y Cyngor o ran ymateb i adroddiadau a gyhoeddwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cynllun Archwilio 2019 Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

 

Roedd hi'n ofynnol i archwilwyr allanol gynnal archwiliad er mwyn cyflawni eu dyletswyddau statudol fel Archwilydd Cyffredinol, ac roedd cynllun archwilio wedi cael ei baratoi i'r Cyngor a oedd yn amlinellu eu gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn, ynghyd â graddfeydd amser, costau a'r timau archwilio a oedd yn gyfrifol am gyflawni'r gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

345.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 60 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Dyma oedd y camau a gymerwyd:

 

Addysg ac Ieuenctid

  • Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop - TRAC 11-24.  Cefnogi pobl ifanc 11-24 sy'n ymddieithrio o fyd addysg, ac sydd yn wynebu'r mwyaf o risg o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Pwrpas y cyllid a ddarperir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a elwir yn TRAC 11-24, yw cefnogi datblygiad gweithlu ystwyth a gwydn a chanddo'r sgiliau priodol. Mae hyn yn gyson â gofynion y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.  Bydd y rhaglen yn darparu cymorth penodol wedi'i gynllunio'n arbennig i bobl ifanc sydd mewn perygl o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), oherwydd heriau a allai achosi iddynt ymddieithrio o ddarpariaeth addysg brif ffrwd.  Mae'r adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i Gyngor Sir y Fflint dderbyn y cyllid grant hwn fel bo modd cynnig darpariaeth wedi'i chynllunio'n arbennig i ddysgwyr sy'n agored i niwed, er mwyn iddynt allu derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i barhau mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, a gwella eu cyfleoedd bywyd.

 

Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn) (Traffig Un Ffordd) 20-

Hysbysu'r Aelodau am sylwadau a gafwyd yn gwrthwynebu'r hysbyseb ynghylch y Gorchymyn Rheoli Traffig Un Ffordd ar Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Carmel, Pentref Gorsedd a Phant y Waco a ffyrdd cyfagos) (Terfyn Cyflymder 30mya) 201x

Hysbysu'r Aelodau am sylw a gafwyd yn gwrthwynebu'r terfyn cyflymder 30mya arfaethedig ar Ffordd Carmel, Pentref Gorsedd a Phant y Waco.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Cymau, Abermorddu) (Terfyn Cyflymder 30mya a 40mya) 201x

Hysbysu'r Aelodau am sylw a gafwyd yn gwrthwynebu'r hysbyseb ynghylch y terfynau cyflymder 30mya a 40mya arfaethedig ar Ffordd Cymau, Abermorddu.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Ddienw, Lonydd Dienw Amrywiol a Threm y Foel, Rhes y Cae, Treffynnon) (Terfyn Cyflymder 30mya) 201x

Hysbysu'r Aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r terfyn cyflymder arfaethedig o 30mya ar ffyrdd dienw, lonydd dienw a Threm y Foel, Rhes y Cae, Treffynnon.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd yr Orsaf, Sandycroft) (Terfyn Cyflymder 40mya) 201x

Hysbysu'r Aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 40mya ar Ffordd yr Orsaf, Sandycroft.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Yr A5026 a'r A5151 ac Ystâd y Goron, Lloc, Treffynnon) (Terfyn Cyflymder 50mya) 201-

Hysbysu'r aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 50mya arfaethedig ar yr A5026 a'r A5151 ac ar Ystâd y Goron, Lloc.

 

Tai ac Asedau

  • Gordaliad Budd-dal Tai - Dileu Dyled

Adroddodd y cwsmer fod ei hamgylchiadau wedi newid yn 2014, ddwywaith mewn ysgrifen ac unwaith dros y ffôn.  Ni chafodd y swm o fudd-dal tai ei ddiwygio i adlewyrchu'r newid hyd 2019.  Gan mai gwall ar ran yr Awdurdod Lleol a arweiniodd at y gordaliad, a chan na fyddai disgwyl yn rhesymol i'r cwsmer wybod am y gordaliad, mae'r gordaliad yn anadferadwy yn unol â'r Rheoliadau Budd-dal Tai.

 

Llywodraethu

  • Gwasanaethau Darparydd Datrysiadau Trwyddedu Microsoft

            Dyma gontract ar  ...  view the full Cofnodion text for item 345.

346.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd 1 aelod o'r wasg yn bresennol, ac nid oedd yr un aelod o'r cyhoedd yn bresennol.