Agenda and minutes

Cabinet
Dydd Mawrth, 22ain Ionawr, 2019 9.30 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

287.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

                        Bu i’r Cynghorwyr Bithell a Thomas ddatgan cysylltiadau personol ynghylch eitem 5 ar y rhaglen – Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru – Tir yn Eglwys Sant Andrew, Garden City. Datganodd y Cynghorydd Jones gysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu ynghylch eitem 13 ar y rhaglen – Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Connah – y wybodaeth ddiweddaraf.  Bu i’r Cynghorwyr Attridge, Shotton a Thomas ddatgan cysylltiadau personol ynghylch eitem 16 ar y rhaglen – Adolygu Trefn Gyflogau’r Gweithlu. Datganodd y Cynghorydd Thomas gysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu ynghylch eitem 17 ar yr agenda – y Rhaglen Gyfalaf – Ysgol Castell Alun, Yr Hob.

288.

Cofnodion pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 18 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018 fel rhai cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

289.

Strategaeth Ranbarthol Gofalwyr pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r strategaeth ranbarthol a ddatblygwyd yn dilyn cwblhad yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a chytuno ar gyfres o gamau gweithredu gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar y Strategaeth Ranbarthol Gofalwyr, a oedd yn cynnwys manylion y penderfyniadau a’r gweithgarwch allweddol wrth ddatblygu strategaeth gofalwyr ar gyfer gogledd Cymru.

 

            Roedd yno dair elfen i’r strategaeth:

 

1.    Gweledigaeth Gogledd Cymru ar gyfer Gwasanaethau i Ofalwyr;

2.    Safonau Gwasanaeth; a

3.    Chynllun Gweithredu.

 

Roedd y weledigaeth ar gyfer gwasanaethau’n cynnwys amrywiaeth o ganlyniadau llesiant, a byddai pob sefydliad a fyddai’n ymrwymo i’r strategaeth yn cytuno i gyflawni’r amcanion canlynol:

 

  • Hybu ymwybyddiaeth o ofalwyr a gofalu ymysg pobl yn gyffredinol, a phob aelod perthnasol o staff yn y sector iechyd a gofal;
  • Meddwl am ofalwyr wrth gomisiynu gwasanaethau ac asesu anghenion, gan roi sylw i ardaloedd gwledig a’r bobl sydd bellaf o’r gwasanaethau am resymau eraill;
  • Cynnwys gofalwyr o bob gr?p a chymuned mewn prosesau penderfynu a chynllunio; ac
  • Adnabod gofalwyr yn gynnar pan fyddant yn cysylltu â gwasanaethau am y tro cyntaf.

 

Fel cyflogwyr, byddai gofyn i bartneriaid adnabod gofalwyr yn eu sefydliadau hwy; mabwysiadu seilwaith sy’n gyfeillgar i ofalwyr; ymrwymo i sicrhau darpariaeth deg i ofalwyr; darparu cyfleoedd i ofalwyr leisio’u barn yn y gweithle; a galluogi trefniadau gweithio hyblyg lle bo hynny’n rhesymol ac yn ymarferol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y strategaeth yn cyd-fynd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a oedd yn rhoi gwell hawliau i ofalwyr o bob oed ac yn symleiddio’r gyfraith. Am y tro cyntaf roedd gan ofalwyr hawliau cyfartal â’r bobl oedd yn derbyn gofal ganddynt.

 

Cyhoeddwyd Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ar 1 Ebrill 2017 a oedd yn dweud fod gofalwyr yn gwneud cyfraniad hollbwysig at y ddarpariaeth gofal a chymorth, ac amcangyfrifwyd eu bod yn darparu rhwng 75% a 95% o’r holl ofal, gan arbed £0.72 biliwn bob blwyddyn i’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Pwysleisiodd mor bwysig oedd sicrhau mynediad at wybodaeth a bod cyngor ar gael i ofalwyr, gan fod llawer ohonynt yn dweud nad oeddent yn ymwybodol o’u hawliau.Roeddent hefyd yn dweud na wyddent pa wybodaeth a chymorth oedd ar gael iddynt.

 

Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r Prif Swyddog, yr Aelod Cabinet a’r tîm am y gwaith a wnaethpwyd ar y strategaeth, ac am gydnabod gwerth gofalwyr a’r cymorth oedd ei angen arnynt.

 

Soniodd y Cynghorydd Roberts am blant ysgol oedd yn gofalu, a’r heriau’r oeddent yn eu hwynebu, gan gynnwys presenoldeb a phrydlondeb yn yr ysgol a bod o dan straen. Esboniodd y Prif Swyddog fod llawer o waith yn digwydd gyda’r ysgolion a bod y strategaeth yn rhoi blaenoriaeth i ofalwyr ifanc. Roedd y Cyngor yn gweithio â sefydliadau galluog yn y trydydd sector a oedd yn helpu i adnabod plant ysgol a oedd yn ofalwyr, ac yn ymdrin â hwy’n sensitif wrth ddarparu cymorth a sicrwydd. Cyfeiriodd at y cerdyn ‘Action for Access’ a roddwyd i ofalwyr ifanc yn yr ysgol, ond erbyn hyn daethpwyd i’r casgliad mai dim ond un ffordd o ddarparu cymorth oedd hynny; roedd cymorth beunyddiol ar gael mewn ysgolion, ac roedd hynny’n allweddol. Serch  ...  view the full Cofnodion text for item 289.

290.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – Trosolwg a Cham 3 pdf icon PDF 180 KB

Pwrpas:        Adolygu Cam 3, trydydd cam a cham olaf Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20 a gwneud argymhellion bod y Cyngor yn gosod Cyllideb gyfreithlon a mantoledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad ynghylch Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20 – y Trydydd Cam a’r Cam Clo. Soniodd am y nifer o weithdai Aelodau a chyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ers cyflwyno’r datganiadau cadernid ar gyfer pob portffolio cyn cymeradwyo’r gyllideb yng Ngham 1 ac yna Cam 2.

 

            Roedd y datganiadau cadernid yn amlygu’r risgiau o ran y gallu i gyflawni a pherfformiad gwasanaethau wrth gwtogi ymhellach ar y gyllideb, ac roedd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet wedi’u derbyn.  Roedd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet wedi derbyn hefyd nad oedd unrhyw le i gwtogi mwy ar Gyllid Corfforaethol na Phortffolios Gwasanaethau.

 

            Bu’r Cyngor ar flaen y gad yn yr ymgyrch ledled Cymru i sicrhau gwell Setliad Ariannol i lywodraeth leol, gan bledio’r achos ar y cyd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hefyd wedi cynnal ei ymgyrch ei hun yn y wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol dan yr hashnod #CefnogiEinCais.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod ar y Cyngor angen gosod cyllideb gytbwys er mwyn cyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol – roedd y Cyngor i gyd yn gyfrifol ar y cyd am hynny. Pwysleisiodd mor bwysig oedd y cyngor y byddai ef a’r Swyddog Adran 151 yn ei roi i’r Aelodau yn rhinwedd eu swyddogaethau fel Swyddogion Statudol.

 

Cyflwynid adroddiad i’r Cyngor Sir ar 29 Ionawr 2019. Cynhelid cyfarfod arall ar 19 Chwefror a gellid cyflwyno adroddiad bryd hynny hefyd, pe byddai angen, heb fynd heibio’r terfyn amser ar gyfer gosod y gyllideb.  

 

Dywedodd eto nad oedd unrhyw le i leihau’r amcangyfrifon o’r costau o ran Cyllid Corfforaethol a Phortffolios Gwasanaethau yn 2019/20 a gytunwyd gan yr Arweinwyr Grwpiau, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, y Cabinet a’r Cyngor, a bod yr holl ddewisiadau ar gyfer arbedion o unrhyw faint bellach wedi mynd. Er bod y Setliad i lywodraeth leol a Sir y Fflint yn well na’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau, nid oedd yn ddigonol i fodloni’r gofynion ariannol. Hyd oni fyddai Llywodraeth Cymru’n cyfrannu mwy o arian, yr unig ddewisiadau ar gyfer gosod cyllideb gytbwys oedd cynyddu’r incwm o Dreth y Cyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn, ond roedd y rheiny’n mynd yn brin.

 

Y diffyg diweddaraf oedd £3.1 miliwn, ac er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol yn unol â’r gyfraith, byddai’n rhaid codi Treth y Cyngor oddeutu 8.5% a defnyddio rhywfaint o’r cronfeydd wrth gefn; y swm a argymhellwyd oedd £0.189 milwn. Gan gynnwys cynyddu Ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gallai Treth y Cyngor godi 8.9%.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sut cyfrifwyd y diffyg diweddaraf yn y gyllideb, gan roi manylion yngl?n â grantiau oedd wedi’u cadarnhau ar gyfer 2019/20. Cadarnhaodd mai’r unig ddewisiadau ar gyfer talu’r diffyg oedd defnyddio cronfeydd wrth gefn a chodi Treth y Cyngor, hyd oni cheir unrhyw gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru. Pwysleisiodd mai dim ond ychydig o’r cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio, gan argymell swm o £0.189 miliwn, a rhoes fanylion yngl?n â’r lefelau darbodus y dylid eu cadw mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 290.

291.

Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Cynghori’r Cabinet am y wobr mewn egwyddor o grant am £1.1miliwn o Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru i’r Cyngor er mwyn datblygu 12 rhandy ar dir Eglwys St Andrew’s, Garden City, Queensferry.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad yngl?n â Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru – Tir yn Eglwys Sant Andrew, Garden City, a oedd yn cynnwys manylion am y Rhaglen a’r drefn o wneud cais.

 

                        Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion yngl?n â’r Dechneg Adeiladu Fodern y bwriedid ei defnyddio drwy’r Rhaglen, a gwybodaeth am amodau a thelerau’r grant.

 

                        Nod y Rhaglen oedd hybu arloesedd o ran technegau adeiladu, llwybrau cyflawni a mathau o dai ymhob sector. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno nodau pennaf y Rhaglen yn llawn.

 

                        Y targed oedd adeiladu 1,000 o dai fforddiadwy drwy’r rhaglen, i gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy. Cymeradwywyd y rhaglen am dair blynedd a neilltuwyd cyllideb o £90 miliwn ar ei chyfer. Dechreuodd y drefn ymgeisio ar gyfer Blwyddyn 2 fis Ebrill 2018, ac am y tro cyntaf gellid ystyried ceisiadau gan gwmnïau preifat yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol. Roedd y safle’r oedd y Cyngor wedi’i glustnodi ar gyfer cais i’r Rhaglen yn gorwedd i’r gorllewin o Sealand Avenue a’r tu ôl i Eglwys Sant Andrew a th?’r Curad. Maint y safle oedd 0.41 erw ac roedd yn gyfuniad o dir yr oedd y Cyngor eisoes yn berchen arno a thir a brynwyd gan Eglwys Cymru fis Mawrth 2017 gyda grant cyfalaf.

 

                        Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am y cynllun blaengar a olygodd fod y Gweinidog Tai wedi cyhoeddi ar 16 Chwefror y bu Sir yn Fflint yn llwyddiannus â’r cais a gyflwynwyd i adeiladu deuddeg o fflatiau gyda hyblygrwydd i fodloni anghenion cyfnewidiol ym maes tai cymdeithasol, gan gynnwys addasu maint y fflatiau, sicrhau hygyrchedd i gadeiriau olwyn, a darparu gwasanaeth byw â chymorth ar y safle. Roedd hefyd yn gyfle delfrydol i herio’r drefn arferol o ddefnyddio dulliau adeiladu traddodiadol, gan ystyried lleoliad y safle.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo datblygiad o ddeuddeg o fflatiau newydd ar dir yn Eglwys Sant Andrew, Garden City am gost amcanol o £2.199 miliwn yn sgil sicrhau grant cyfalaf o £1.1 miliwn drwy Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru; a

 

 (b)      Chymeradwyo benthyg £1.099 miliwn drwy’r Cyfrif Refeniw Tai er mwyn ariannu gweddill cost amcanol y cynllun.

292.

Cynllun Busnes Theatr Clwyd pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Derbyn a chymeradwyo’r cynllun busnes ar gyfer Theatr Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun Busnes Theatr Clwyd ar gyfer 2019-2021, a oedd angen cymeradwyaeth y Cabinet. Soniodd am y gwaith rhagorol a wnaethpwyd yn y Theatr, a’r trawsnewid helaeth a gyflawnwyd. Estynnodd wahoddiad i Mr Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, i gyflwyno’r Cynllun Busnes yn y cyfarfod. 

 

            Diolchodd Mr Evans-Ford i’r Cabinet am y cyfle i gyflwyno’r Cynllun Busnes a dywedodd mai cenhadaeth y Theatr oedd ‘Gwneud y byd yn llonnach, un foment ar y tro’.  Rhannodd wybodaeth am y materion canlynol:

 

·         Dal i ddatblygu’r arlwy i deuluoedd dros y Nadolig gyda chynhyrchiad Nadolig Cymraeg cyntaf y Theatr;

·         Ennill Gwobr Theatr y Deyrnas Gyfunol am y Cynhyrchiad Cerddorol Gorau, ‘The Assassination of Katie Hopkins’;

·         Tair o drama Gymraeg newydd wedi’u creu drwy’r cynllun Roundabout a’u perfformio ar leoliad yng ngogledd Cymru, cyn eu llwyfannu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd;

·         Rhaglen TYFU’s theatr a oedd wedi cal i ddatblygu swyddi i brentisiaid newydd yn y gweithdy, a’r timau ymgysylltu creadigol, arlwyo a goleuadau a sain;

·         Y bartneriaeth waith gref gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a

·         Chyflogi 85 o staff craidd cyfwerth â llawn amser a mwy na 115 o staff achlysurol dros y deuddeg mis diwethaf.  Cafodd 45 o wirfoddolwyr newydd eu recriwtio hefyd, gan ddod â’r cyfanswm i 150.

·            

 

Diolchodd y Cynghorydd Shotton i Liam Evans-Ford am ei gyflwyniad, gan sôn mor amlwg oedd y gwelliannau yn y Theatr, a’u bod yn creu argraff dda.

 

Talodd y Cynghorydd Jones deyrnged i’r gwaith a wnaethpwyd yn y Theatr gyda phobl â dementia, a oedd yn amhrisiadwy iddynt hwy a’u gofalwyr.

 

Ac yntau’n aelod o Fwrdd Theatr Clwyd, roedd y Cynghorydd Bithell hefyd yn croesawu’r adroddiad, a gafodd ei gyflwyno a’i dderbyn yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd. Dywedodd fod y Theatr yn estyn allan i gymunedau ledled y Sir, yn cynnig amrywiaeth o wahanol raglenni i wahanol grwpiau oedran, ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at yr economi leol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mullin i Liam Evans-Ford a’i dîm, ar ran ei hun a’r Cynghorydd Butler, am yr holl waith a wnaethpwyd ers dechrau’r cynllun trawsnewid.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes Theatr Clwyd ar gyfer 2019-21.

293.

Diweddariad Contract Fflyd pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Diweddaru’r Cabinet ar gynnydd Contract Fflyd y Sir a gyflwynwyd yn 2016.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r Contract Cerbydau Fflyd. Roedd yr adroddiad yn sôn am y cynnydd a wnaethpwyd yn nwy flynedd gyntaf y contract, ac yn arfarnu’r arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd drwy newid y dull gweithredu.

 

            Roedd yr adroddiad yn crybwyll y buddion ariannol a’r manteision a ragwelwyd i’r gwasanaethau.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y rhagwelwyd ar y dechrau y gellid arbed £49,106 drwy’r contract fflyd cerbydau erbyn yr ail flwyddyn. Swm yr arbediad mewn gwirionedd oedd £1,134,912; roedd hynny’n seiliedig ar y sefyllfa lawer gwell o ran arbedion na ellid eu troi’n arian parod, a ddaeth yn bennaf drwy brosesu llai o anfonebau.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn fodlon bod y trefniadau newydd ar gyfer gweithredu’r fflyd gerbydau yn cyflawni’r amcanion a gytunwyd cyn gosod y contract.

294.

Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 8) pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/19 (mis 8), a oedd yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hi ym Mis 8 o’r flwyddyn ariannol, os nad oedd unrhyw newidiadau.

 

Cyfeiriwyd yn yr adroddiad at effaith y grantiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i dalu costau oedd yn gysylltiedig â Chefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, a oedd yn werth £0.611 miliwn i gyd.  

 

Roedd y Cyngor wedi cael cadarnhad o’i ddyraniad o’r £7.5 miliwn a gyhoeddwyd tuag at Godiadau Cyflogau Athrawon, a fyddai’n cael ei drosglwyddo’n llawn i’r ysgolion.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant cyfalaf o £1 miliwn ar gyfer adnewyddu ffyrdd – roedd y dewisiadau o ran defnyddio’r grant hwnnw dan ystyriaeth, a byddai adroddiadau yn y dyfodol yn sôn am unrhyw effaith ar refeniw.

 

Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

  • Gwarged gweithredol o £0.026 miliwn (£0.325 miliwn ym Mis 7); a
  • Balans disgwyliedig yn y gronfa at raid ar 31 Mawrth 2019 o £7.689 miliwn a ostyngodd i £5.789 miliwn ar sail y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2019/20.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.067 miliwn yn is na’r gyllideb; a
  • Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhagamcan o sefyllfa Cronfa'r Cyngor; rhagamcan o sefyllfa pob portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; Strydwedd a Chludiant;; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion oedd yn dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gâi eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion – risgiau ac effeithiau; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Ni chafwyd unrhyw sylwadau ar y mater yn dilyn cyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod y Pwyllgor hwnnw wedi cael yr wybodaeth y gofynnodd amdano yn ei gyfarfod fis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019; a

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai.

295.

Adolygu Ffioedd Gwastraff Gardd pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Rhoi adborth ar wasanaeth casgliadau gwastraff gardd a’r system ffioedd a gyflwynwyd yn Ebrill 2018.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Adolygu Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint, a oedd yn nodi canlyniad yr adolygiad a’r asesiad ariannol a wnaethpwyd o’r cynllun.

 

            Fis Ionawr 2018 cymeradwyodd y Cabinet dâl cofrestru o £30 ar gyfer casglu pob gwastraff o’r ardd, a dechreuodd y gwasanaeth newydd fis Ebrill 2018.

 

            Yn y flwyddyn gyntaf o godi'r tâl gwerthwyd 33,871 o drwyddedau, sy’n golygu bod mwy na hanner yr holl breswylwyr oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn y gorffennol wedi cofrestru i gael casglu o leiaf un bin o dan y drefn newydd. Roedd mwy na’r disgwyl wedi cofrestru, ac felly rhagorwyd ar y targed ariannol a bennwyd ar gyfer y gwasanaeth a chynhyrchwyd incwm ychwanegol o £166,000 uwchlaw’r targed o £800,000.

 

            Bu’r adolygiad yn bwrw golwg ar y meysydd canlynol, a chyflwynwyd yr holl fanylion yn yr adroddiad:

 

·         Tâl cofrestru 2019;

·         Y potensial i ehangu’r cynllun fel ei fod yn gweithredu dros flwyddyn gyfan;

·         Dulliau talu;

·         Defnyddio technoleg i gofnodi taliadau a chasgliadau; a

·         Potensial i gynnig gostyngiad i breswylwyr oedd yn derbyn budd-daliadau.

 

Rhannodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd fanylion yngl?n â’r trafodaethau a gafwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ar 11 Rhagfyr 2018, a oedd yn cynnwys:

 

·         Darparu bin mwy, ac ail fin yn rhad ac am ddim;

·         Gohirio’r defnydd o dechnoleg er mwyn ymchwilio i’r cyfle i gael biniau mwy;

·         Roedd siom am na chynigiwyd gostyngiad i breswylwyr oedd yn derbyn budd-daliadau; a

·         Hyrwyddo compostio.

 

Cynigiwyd Dewis 6 yn y cyfarfod hwnnw, sef codi tâl o £30 a bod unrhyw fin ychwanegol am ddim, ond trechwyd y cynnig hwnnw mewn pleidlais. Cafwyd pleidlais ar yr argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet, ac fe’u cymeradwywyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd y câi’r incwm ychwanegol a gynhyrchwyd uwchlaw’r targed ei ddefnyddio drwy’r gwasanaeth, a’i fod yn cymorthdalu pethau fel Canolfannau Ailgylchu Domestig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, dywedodd y Prif Swyddog na fu unrhyw gynnydd mewn tipio anghyfreithlon ers cyflwyno’r tâl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Rhoi cymeradwyaeth i barhau â’r polisi o godi tâl am y Gwasanaeth Gwastraff Gardd ar gyfer 2019 a blynyddoedd dilynol;

 

 (b)      Cymeradwyo’r tâl presennol o £30 ar gyfer y gwasanaeth;

 

 (c)       Y câi’r adolygiad blynyddol o’r tâl Gwastraff Gardd ei gynnwys yn yr adolygiad blynyddol o’r ffioedd a’r taliadau yn y portffolio o 2019 ymlaen; a

 

 (ch)    Y byddai’r gwasanaeth yn ymchwilio i system dechnolegol newydd i fonitro taliadau a hysbysu’r casglwyr o bwy oedd wedi talu, i fod yn barod erbyn 2020, a chymeradwywyd defnyddio £30,000 o’r arian a godwyd ym mlwyddyn ariannol 2018/19 i ariannu’r trefniant newydd.

296.

Adolygiad Chwe Mis o Ffioedd Parcio Ceir pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Adolygu effaith y drefn ffioedd parcio ceir newydd 6 mis wedi ei chyflwyno.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad yngl?n â’r Adolygiad Chwe Mis o Ffioedd Parcio Ceir.

 

            Ers cyflwyno’r drefn newydd o godi tâl derbyniwyd nifer o awgrymiadau yngl?n â diwygio’r drefn gan amrywiaeth o unigolion, cwmnïau a chyrff cyhoeddus. Aseswyd pob un o’r awgrymiadau hynny a’u pwyso a mesur yn erbyn y strategaeth bresennol, ac fe’u cyflwynwyd yn awr fel awgrymiadau ymarferol neu anymarferol, yn unol â therfynau’r strategaeth a gymeradwywyd.

 

            Roedd rhestr lawn o’r awgrymiadau yn atodiad 3 i’r adroddiad, ynghyd ag asesiad o’u derbynioldeb yn ôl y strategaeth. Roedd rhestr hefyd o’r awgrymiadau hynny na ellid eu hystyried am eu bod yn mynd yn groes i’r strategaeth parcio gyffredinol a’r egwyddorion a gyflwynwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet fis Mawrth 2018.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Thomas argymhelliad ychwanegol, sef ‘Bod swyddogion yn diwygio’r trwyddedau fel bod gweithwyr rhan-amser yn medru prynu rhai rhatach nad ydynt yn ddilys ar hyd yr wythnos’, a chefnogwyd hynny.

 

Rhannodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd fanylion yngl?n â’r trafodaethau a gafwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ar 11 Rhagfyr 2018, a oedd yn cynnwys:

 

·         Cais am ddau le parcio yn benodol i’r Heddlu yn Nhreffynnon;

·         Roedd angen buddsoddi yn y meysydd parcio, yn enwedig er mwyn trwsio’r tyllau;

·         Lleoedd parcio i’r anabl i aros yn rhad ac am ddim;

·         Preswylwyr yn methu â pharcio y tu allan i’w tai ar Stryd Alexander yn Shotton oherwydd y taliadau yn y maes parcio gerllaw;

·         Cryfhau’r timau gorfodi; ac

·         Angen dull gweithredu mwy lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Peers gael gwared â chyfyngiad rhif 2, ‘bod unrhyw gynnig yn cyflawni egwyddorion strategaeth parcio ceir y Cyngor ac y byddai’n hyrwyddo rheolaeth o’r rhwydwaith parcio ceir er mwyn darparu lleoedd i barcio, a thrwy hynny fynediad i ganol trefi’ wrth wneud unrhyw gynigion i ddiwygio neu gefnogi taliadau meysydd parcio gan Gynghorau Tref, ond trechwyd y cynnig mewn pleidlais. Cafwyd pleidlais ar yr argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet, ac fe’u cymeradwywyd.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, esboniodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn rhoi esboniad llawn o’r pedwar rheswm dros beidio â chyflawni’r incwm o £240,000 a ragwelwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi cynnwys yr adroddiad yngl?n â’r adolygiad chwe mis o’r trefniadau parcio ceir a gyflwynwyd fis Mai 2018;

 

 (b)      Cymeradwyo’r newidiadau cysylltiedig yn y trefniadau talu, ar sail y farn eu bod o fewn terfynau a chyfyngiadau’r strategaeth gyffredinol;

 

 (c)       Y dylid adolygu’r trefniadau parcio ceir a’r taliadau mewn gorsafoedd rheilffordd a chyflwyno’r dewisiadau mewn adroddiad i’r Cabinet ymhen tri mis; a

 

 (ch)    Bod swyddogion yn diwygio’r trwyddedau fel y gallai gweithwyr rhan-        amser brynu rhai rhatach nad ydynt yn ddilys ar hyd yr wythnos.

297.

Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer Achosion Tipio Anghyfreithlon pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I alluogi pwerau yn unol â Deddf Diogelu’r Amgylchedd i roi Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer achosion o dipio anghyfreithlon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer Tipio Anghyfreithlon, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer mân achosion o dipio anghyfreithlon.

 

            Roedd y Cyngor yn derbyn tua mil o adroddiadau am dipio anghyfreithlon yn y Sir bob blwyddyn. Roedd rhai o’r rheiny’n achosion sylweddol eu maint ond roedd y mwyafrif helaeth yn bethau bychain fel sachau bin du a nwyddau mawr o’r cartref. Nid oedd yn briodol rhoi Rhybudd Cosb Benodol ymhob achos o dipio anghyfreithlon, ac mewn achosion mwy difrifol, erlyniad o hyd a fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r sefyllfa.

 

            Gallai awdurdodau lleol bennu swm y Rhybudd Cosb Benodedig am dipio anghyfreithlon rhwng £150 a £400, a phennu swm safonol o £200. Gellid cynnig swm o £120 i rai oedd yn talu’n gynnar, a gallai awdurdodau lleol gadw’r arian i’w roi at gostau mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.  Awgrymwyd pennu swm o £200 ar gyfer y Rhybudd Cosb Benodedig yn Sir y Fflint i ddechrau, a chadw golwg ar hyn yn y flwyddyn gyntaf. Byddai’r cyfnod safonol cydnabyddedig o 14 diwrnod ar gyfer taliad yn berthnasol a chynigiwyd bod swm gostyngol o £120 yn cael ei gynnig, os telid y Rhybudd Cosb Benodedig ymhen 10 diwrnod.

 

Roedd y Cynghorydd Bithell o’r farn y dylid pennu swm yn nes at ben uchaf yr ystod, gan y byddai hynny’n atal mwy o bobl rhag troseddu. Esboniodd y Prif Weithredwr ei bod yn rhesymol pennu’r swm tua chanol yr ystod gan mai cynllun newydd oedd hwn ac na chodwyd dirwyon yn yr ardal o’r blaen. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo defnyddio’r ddeddfwriaeth newydd i gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer mân droseddau tipio anghyfreithlon;

 

 (b)      Pennu swm o £200 ar gyfer y Rhybudd Cosb Benodedig, a gostyngiad o £80 am dalu’n gynnar; ac

 

 (c)       Y dylid adolygu swm y Rhybudd Cosb Benodedig ymhen blwyddyn, a dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet a deiliad y Portffolio, amrywio lefel y ddirwy os oedd angen.

298.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Connah – Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect a gwneud cais am amrywiad i swm y contract.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad yngl?n â Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Connah – y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect, a oedd yn esbonio’r cynnydd yng nghostau’r prosiect ac yn cynnig ffyrdd o ddatrys y diffyg mewn cyllid.

 

            Ni fyddai modd cyflawni’r prosiect fel yr oedd am y gost amcanol wreiddiol o £4 miliwn – roedd costau’r prosiect bellach £300,000 uwchlaw’r amcangyfrif gwreiddiol, ac felly roedd cost y prosiect yn £4.3 miliwn.

 

            Y rhesymau dros y cynnydd oedd:

 

  • Cynnydd yng nghostau defnyddiau adeiladu oherwydd grymoedd y farchnad; Roedd contractwyr eraill ledled Cymru’n cael yr un trafferthion, ac yn y Deyrnas Gyfunol;
  • Rhagor o waith adnewyddu yn y bloc chwaraeon wedi ei gynnwys ers yr amcangyfrif  gwreiddiol.  Y bwriad gwreiddiol oedd adnewyddu’r rhan helaeth o’r bloc chwaraeon gan hepgor ardaloedd bach a mannau mynd a dod. Byddai’r adeilad gorffenedig yn well o gynnwys y mannau hyn hefyd.
  • Wedi archwilio to’r neuadd chwaraeon eto, gwelwyd fod angen gwaith ychwanegol ar hwn.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yno ddau ddewis:

 

1.    Cyfyngu ar gylch gwaith y prosiect er mwyn ei gadw o fewn y gyllideb a gymeradwywyd; neu

2.    Dargyfeirio cyllid o rannau eraill o’r rhaglen. Nid oedd unrhyw hyblygrwydd o fewn y rhaglen fel yr oedd pethau, gan ystyried penderfyniad y Cabinet i fwrw ymlaen â’r cynllun i uno ysgolion Licswm a Brynffordd (ni fyddai’r dewis hwn yn amharu ar ddyhead y Cabinet i fuddsoddi yn Ysgol Gynradd Gymunedol Brynffordd).

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorwyr Shotton ac Attridge, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y gellid ystyried galluogi i bobl ddefnyddio’r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys yr ystafelloedd newid.

 

Ar ôl datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Jones yr ystafell yn ystod y drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r adroddiad a’r gwariant ychwanegol oedd ei angen i gyflawni’r prosiect.

 

299.

Dileu Ardrethi Busnes pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Cabinet i gymeradwyo dileu drwgddyledion unigol ar gyfer Ardrethi Busnes dros £25,000.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad yngl?n â Dileu Ardrethi Busnes, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddileu dyledion.

 

            Roedd pedair o ddyledion ardrethi busnes a ystyriwyd yn anadferadwy gan fod y dyledwyr yn Gwmnïau Atebolrwydd Cyfyngedig nad oeddent yn masnachu mwyach, ac a oedd naill ai wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr neu wedi'u diddymu. Felly, nid oedd unrhyw asedau ac nid oedd yn bosibl bellach adfer y dyledion ardrethi busnes yn llwyddiannus ac felly roedd angen dileu cyfanswm o £217,396. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y cwmnïau dan sylw.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) na fyddai dileu’r dyledion hyn yn cael unrhyw effaith ariannol uniongyrchol ar y Cyngor na’r trethdalwyr lleol, gan fod Ardrethi Busnes yn mynd i’r Gronfa Genedlaethol yng Nghymru. Serch hynny, gan mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gronfa honno, gallai diffyg talu ardrethu gael effaith ar drethdalwyr yng Nghymru yn gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo dileu’r dyledion ardrethi busnes.

300.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 55 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

                        Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Strydwedd a Chludiant

  • Adolygu Uwch-reolwyr

Er mwyn sicrhau cadernid a pharhad y gwasanaeth wedi i uwch-reolwr ymadael, roedd yn ofynnol cynnal adolygiad brys o swyddi’r uwch-reolwyr a’u swyddogaethau. Roedd gan dîm rheoli’r portffolio bedair swydd yn lle tair bellach, sef Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd, Rheolwr Cludiant, Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio a Rheolwr Darparu’r Gwasanaeth, ac roedd timau eraill wedi lleihau i’r un raddfa fel y gellid ariannu’r costau ychwanegol. Cwblhawyd yr adolygiad o fewn yr adnoddau ariannol a gymeradwywyd ac yn unol â therfynau’r dull dylunio sefydliadol yr oedd y Cyngor wedi’i fabwysiadu at y diben hwn.

 

Cyllid Corfforaethol

  • Adolygu Uwch-reolwyr

Wrth gwblhau’r Prosiect Moderneiddio Cyllid bu lleihad cynlluniedig yn nifer y swyddi yn y gwasanaeth, a diwygiwyd lefelau rheoli Rheolwyr Cyllid a Chyfrifwyr er mwyn:

 

1.    Cyflawni’r targedau ar gyfer arbedion effeithlonrwydd a oedd eisoes wedi’u pennu yng nghyllideb Cronfa’r Cyngor;

2.    Cyfeirio adnoddau at y portffolios oedd wedi newid yn nhîm y Prif Swyddogion;

3.    Sicrhau gwasanaeth cydnerth a oedd yn bodloni’r anghenion o ran llywodraethu corfforaethol, rheolaeth ariannol gorfforaethol, strategaeth ariannol gorfforaethol a rheolaeth ariannol a chynllunio’r portffolios gwasanaeth.

 

Cwblhawyd yr adolygiad o fewn yr adnoddau ariannol a gymeradwywyd ac yn unol â therfynau’r dull dylunio sefydliadol yr oedd y Cyngor wedi’i fabwysiadu at y diben hwn.

 

Tai ac Asedau – Gwasanaethau Refeniw

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Yn ôl Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor (adran 5.2) câi dyledion drwg a rhai na ellid eu hadennill gwerth dros £5,000 eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Roedd a wnelo’r cais hwn â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Roedd y Gorchymyn yn cynnwys ôl-ddyledion rhent o £5,910.56 na fyddai modd eu hadennill mwyach.

 

  • Rhenti Cyfrif Refeniw Tai’r Cyngor – Dileu Ôl-ddyledion Hen Denantiaethau

Yn ôl Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor (adran 5.2) câi dyledion drwg a rhai na ellid eu hadennill gwerth dros £5,000 eu hystyried i gael eu dileu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol. O ganlyniad i ddileu rhenti heb eu talu mewn perthynas â thair tenantiaeth/tri achos ar wahân, bu’n rhaid dileu cyfanswm o £19,691.78 yn erbyn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

  • Rhenti Cyfrif Refeniw Tai’r Cyngor – Dileu Ôl-ddyledion Tenantiaethau Presennol

Yn ôl Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor (adran 5.2) câi dyledion drwg a rhai na ellid eu hadennill gwerth dros £5,000 eu hystyried i gael eu dileu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol. O ganlyniad i ddileu rhenti heb eu talu mewn perthynas â thair tenantiaeth/tri achos ar wahân, bu’n rhaid dileu cyfanswm o £13,042.82 yn erbyn y Cyfrif Refeniw Tai.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

301.

Model Cyflog

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd datblygu Model Cyflog newydd.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yngl?n ag Adolygu Dull Cyflogau’r Gweithlu, a oedd yn rhoi braslun o’r effaith yn sgil gweithredu’r ail flwyddyn (2019) o gytundeb cyflogau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol (2018/19 – 2019/20) ar sail y dull cenedlaethol.

 

            Cwblhawyd gwaith manwl ar y dewisiadau ar gyfer trefn gyflogau newydd, a fyddai’n gorfod bod yn gyfreithlon ac yn deg, yn ymarferol ac yn gynaliadwy, yn dderbyniol ac yn fforddiadwy.  Dylai’r Cyngor hefyd anelu at fod yn Gyflogwr Achrededig gan y Sefydliad Cyflog Byw.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y câi’r gweithwyr wybod am y drefn gyflogau newydd wedi i’r trafodaethau â’r Undebau Llafur ddod i ben.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi a chroesawu’r cynnydd a wnaethpwyd wrth adolygu’r Drefn Gyflogau er mwyn ateb gofynion ail flwyddyn y Codiad Cyflog Cenedlaethol; a

 

 (b)      Gwahodd y Prif Weithredwr i gwblhau’r trafodaethau â’r Undebau Llafur i gytuno ar drefn gyflogau newydd a gweithredu’r drefn honno, yn rhinwedd ei bwerau dirprwyedig, ar yr amod:

 

1.    Bod y drefn gyflogau newydd yn modloni’r meini prawf a nodwyd yn yr adroddiad;

2.    Bod y drefn gyflogau newydd yn cael canlyniad ffafriol mewn Asesiad Annibynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb; ac

3.    Nad yw’r gost sylfaenol gylchol dros 5% yn fwy na’r hyn a neilltuwyd yng nghyllideb ddrafft 2019/20.

302.

Rhaglen Gyfalaf - Ysgol Castell Alun, Yr Hob

Pwrpas:        Gofyn i’r Cabinet ystyried ychwanegu'r prosiect cyfalaf cytunedig at y cyfraniadau A106 arfaethedig.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad yngl?n â’r Rhaglen Gyfalaf - Ysgol Castell Alun, yr Hob, a oedd yn cynnwys manylion am fuddsoddiad ychwanegol yn yr ysgol er mwyn sicrhau y defnyddid arian yn effeithiol ar safle’r ysgol.

 

            Cyflwynwyd dau ddewis yn yr adroddiad, ac amlygwyd y manteision a’r peryglon.

 

Ar ôl datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Thomas yr ystafell yn ystod y drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo dewis 1 ar gyfer parhau â’r prosiect cyfalaf.

303.

Caffael Trefniadau Cludo ar gyfer Parc Adfer

Pwrpas:        Derbyn cymeradwyaeth i gaffael gwasanaeth clwydo nwyddau rhanbarthol ar gyfer cludo deunydd gwastraff i'r cyfleuster Parc Adfer newydd.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch Caffael Trefniadau Cludo ar gyfer Parc Adfer.

 

            Er mwyn medru mynd â gwastraff gweddilliol yr holl awdurdodau partner i Barc Adfer, byddai’n rhaid i’r bartneriaeth gaffael contract(au) cludo. Yn unol â Chytundeb Rhyng-awdurdod y Bartneriaeth, roedd Cyngor Sir y Fflint yn mynd ati ar ran y Bartneriaeth i gaffael gwasanaeth cludo.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y câi llwybrau danfon ac ymadael eu hargymell ar gyfer pob cerbyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Rhoi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â phroses gaffael i benodi darparwr rhanbarthol i gludo deunydd gwastraff i’r Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol newydd ar gyfer gogledd Cymru.

304.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol a dim un aelod o’r cyhoedd.

 

elcome to Flintshire County Council Skip to Content
Cymraeg English