Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

239.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

            Dim.

240.

Cofnodion pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 25ain Medi, 2018 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2018 fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

 

            Cyn rhoi ystyriaeth i’r eitemau busnes, croesawodd y Cynghorydd Shotton y Rheolwr Gwastraff a Gwasanaethau Ategol, Harvey Mitchell, i’r cyfarfod.  Diolchodd iddo am ei waith yn ystod ei wasanaeth hir yn Sir y Fflint cyn iddo ddechrau ei yrfa newydd.  Dymunodd yr holl Aelodau’n dda iddo, gan sôn yn benodol am y meysydd gwaith anodd roedd Mr Mitchell wedi bod yn rhan ohonynt, fel cyflwyno casgliadau gwastraff ymyl palmant.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr at y sylwadau, ar ran ef ei hun a’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, a dymunodd yn dda iddo.

241.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Ardystio Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 cyn i'r Cyngor Sir ei fabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 a oedd yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel a amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

 

            Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a lefel yr hyder oedd gan y Cyngor o ran cyflawni’r canlyniadau dymunol.  Roedd hefyd yn dangos y sefyllfa yn erbyn y 46 risg, gyda phedwar risg wedi cynyddu o ran arwyddocâd yn ystod y flwyddyn, a 10 risg wedi gostwng o ran arwyddocâd erbyn diwedd y flwyddyn.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ystyriaeth yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ac roedd gofyniad statudol i gyhoeddi’r adroddiad erbyn 31 Hydref 2018.  Roedd nifer fach o feysydd perfformiad wedi’u cytuno gan y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fel bod angen rhagor o graffu a sicrwydd ar gyfer gwell perfformiad yn 2018/19:

 

·         Cyfranogiad hamdden;

·         Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (amseroldeb); a

·         Ceisiadau Cynllunio (amseroldeb).

 

Roedd y meysydd gwasanaeth i gyd wedi rhoi ystyriaeth i’r ffigurau blynyddol o ran y ganran a bleidleisiodd a rhoi eglurhad a/neu newidiadau o ran prosesau a gweithdrefnau i wella perfformiad yn ystod y flwyddyn.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod yr adroddiad yn gadarnhaol a’i fod yn dangos bod y Cyngor yn ceisio sicrhau gwelliant parhaus.  Roedd proffil chwartel y Cyngor dros y blynyddoedd blaenorol wedi’i amlinellu yn yr adroddiad, gan ddangos lefelau gwelliant.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 i’w gyhoeddi;

 

(b)       Bod y camau gweithredu gwella ar gyfer y meysydd tanberfformio mewn gwasanaethau yn ystod 2017/18 yn cael eu cymeradwyo; a

 

(c)        Bod adroddiad cynnydd canol blwyddyn yn erbyn y camau gweithredu gwella yn cael ei gyflwyno ym mis Tachwedd.

242.

Bwrdd Uchelgais Economaidd a'r Ddogfen Gais pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Argymell i'r Cyngor Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 i'w fabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cynnig Bargen Dwf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Dogfen Gynnig a oedd yn dilyn y Weledigaeth a fabwysiadwyd gan y Cabinet ym mis Medi 2016.

 

                        Cafodd dyddiad targed ar gyfer ffurfio Cytundeb Penawdau'r Telerau ar gyfer Bargen Dwf gyda’r ddwy lywodraeth ei osod fel hydref/gaeaf 2018.  Roedd Dogfen Gynnig, a oedd yn nodi’r rhaglenni gweithgareddau blaenoriaeth ar gyfer y rhanbarth ac roedd cyllid cenedlaethol yn cael ei geisio ar eu cyfer drwy’r Fargen Dwf, wedi’i chymeradwyo gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Byddai’r Fargen Dwf yn ariannu rhaglenni a phrosiectau dethol o’r Ddogfen Gynnig.  Roedd y ddogfen gyfystyr â’r cynnig rhanbarthol a fyddai’n arwain at fargen.

 

                        Yn ystod mis Hydref, roedd y partneriaid rhanbarthol yn cael eu gwahodd i gymeradwyo’r Ddogfen Gynnig i roi mandad i’w Harweinwyr i lunio Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth.  Ar ôl Penawdau'r Telerau, byddai’r rhanbarth yn mynd i gam terfynol datblygu Cynnig a thrafod gyda Llywodraethau.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a rhoddodd fanylion yr holl waith rhanbarthol a oedd wedi’i wneud.  Ychwanegodd wrth gymeradwyo’r argymhellion ar gyfer cyflwyno i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, na fyddai’r Cyngor yn gwneud unrhyw ymrwymiad i fuddsoddiad ariannol ei hun, a byddai’n cymeradwyo cyflwyno Cynnig ffurfiol i’w ystyried gan Lywodraethau yn unig.  Byddai risgiau a manteision terfynol Bargen Dwf derfynol yn cael eu hadrodd ar yr ail gam cymeradwyo a’r cam cymeradwyo terfynol, ynghyd â’r model ar gyfer rhannu unrhyw gostau benthyca ymhlith partneriaid rhanbarthol.

 

                        Pwysleisiodd bwysigrwydd y rhaglenni blaenoriaeth, fel cludiant strategol a chysylltedd digidol.  Cytunodd y Cynghorydd Butler a rhoddodd sylwadau am y manteision i fusnesau o bob maint yn y rhanbarth. 

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad hefyd, a oedd yn golygu bod amser cyffrous o flaen Sir y Fflint a’r rhanbarth, a mynegodd ddiolch arbennig i’r Cynghorydd Shotton a’r Prif Weithredwr am faint o waith roedd y ddau wedi’i gyfrannu at y rhaglen hyd yma.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Ddogfen Gynnig ar gyfer argymell i’r Cyngor i’w fabwysiadu fel (1) sail strategaeth rhanbarthol mwy hirdymor ar gyfer twf economaidd a (2) sail ranbarthol ar gyfer y rhaglenni a phrosiectau blaenoriaeth y bydd cynnwys Bargen Dwf yn cael ei dynnu ohonynt yn y cam Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau.  Nid yw mabwysiadu yn ymrwymo’r Cyngor i unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun ar y cam hwn ac mae’n amodol ar risgiau a manteision ariannol y Fargen Dwf derfynol yn cael eu nodi mewn manylder, i’w hystyried yn llawn, pan gaiff y Fargen derfynol ei chyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth yn ddiweddarach; a

 

(b)       Bod yr Arweinydd yn cael ei awdurdodi i ymrwymo’r Cyngor i lunio Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau ochr yn ochr â’r arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw partner statudol arall a gynrychiolir ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chyngor Busnes Mersi a’r Ddyfrdwy Gogledd Cymru gyda’r Ddogfen Gynnig yn nodi’r paramedrau ar gyfer cytundeb penawdau'r telerau.

243.

Cynnydd i Ddarparwyr - Creu Cartref sy'n Galw Lle sy'n Cyflawni'r hyn sy'n Bwysig pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn ystyried ac yn cefnogi’r dull a gydnabyddir yn genedlaethol, Cynnydd i Ddarparwyr, sy’n berthnasol i gartrefi preswyl a chartrefi preswyl.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Cynnydd i Ddarparwyr – Creating a Place Called Home Delivering What Matters a oedd yn rhoi diweddariad ar y prosiect ac roedd y gyfle i gyflawni rhagor o gydnabyddiaeth o’r prosiect a’i ganlyniadau.

 

            Er mwyn cydnabod y cerrig milltir a gyflawnwyd gan y 26 Cartref Nyrsio a Gofal Preswyl yn Sir y Fflint, roedd ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ wedi’i ddatblygu gyda phecyn gwaith.  Roedd y pecyn gwaith yn nodi disgwyliad Sir y Fflint o ran darparu gofal unigol ac roedd yn cefnogi Unigolion Cyfrifol a Rheolwyr ac arweinwyr mewn cartrefi drwy ddarparu amrywiaeth o adnoddau a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn a oedd yn helpu timau staff i newid y ffordd roeddent yn cefnogi pobl a sut roeddent yn ymgysylltu â theulu a ffrindiau.  Roedd y pecyn gwaith hefyd yn helpu darparwyr i hyrwyddo rhagor o ddewis a rheolaeth i’r rhai a oedd yn cael gofal a oedd yn caniatáu i ddarparwyr ganolbwyntio ar beth oedd bwysicaf i bob unigolyn.

 

            I ddangos y cynnydd, roedd Sir y Fflint wedi cyflwyno tair lefel o achredu, Efydd, Arian ac Aur, a oedd yn helpu rheolwyr i wirio eu cynnydd eu hunain ac roedd yn dangos yn gyhoeddus eu bod yn gwneud cynnydd parhaus tuag at ofal sy’n canolbwyntio ar unigolion.

 

            Ym mis Medi 2018, cafodd y prosiect ei gydnabod yn gyhoeddus gan ennill Gwobrau Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru am ganlyniadau ardderchog i bobl o bob oed drwy fuddsoddi yn nysgu a datblygiad staff.  Roedd y prosiect hefyd yn un o’r rhai a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus – Dathlu cyflawniad rhagorol ac arloesedd ym maes darparu gwasanaethau llywodraeth leol y DU.  Rhoddodd y Cynghorydd Jones ganmoliaeth i’r holl staff a oedd yn rhan o’r prosiect ardderchog hwn, a’u gwaith arno.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a rhoddodd longyfarchiadau i’r tîm am ennill Gwobr Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru a oedd yn gyflawniad ardderchog.

           

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Bod effaith Cynnydd i Ddarparwyr – Creating a Place Called Home

Delivering What Matters yn cael ei chydnabod; a

 

(b)       Bod y mentrau sy’n mynd rhagddynt i ddatblygu’r rhaglen ymhellach yn cael eu nodi.

244.

Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn ystyried, yn rhoi sylwadau ac yn cefnogi’r Strategaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru a oedd yn nodi’r weledigaeth ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.  Roedd yn cynnwys gwybodaeth am anghenion y boblogaeth a beth oedd yn bwysig iddyn nhw, pa newid oedd y Cyngor am ei weld a sut fyddai’r strategaeth yn cael ei gweithredu.  Roedd y strategaeth yn mynd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’w chymeradwyo ym mis Tachwedd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y weledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru yn seiliedig ar beth roedd pobl wedi dweud wrth y Cyngor oedd yn bwysig iddyn nhw, sef y byddai gan bobl ag anableddau dysgu ansawdd bywyd gwell, byw yn lleol lle roeddent yn teimlo’n ‘saff ac iach’, lle roeddent yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymunedau a lle roeddent yn cael mynediad i gefnogaeth bersonol effeithiol a oedd yn hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth. 

 

Byddai pum pecyn gwaith yn nodi sut byddai pethau’n cael eu newid er mwyn sicrhau bywydau da i bobl ag anableddau dysgu.

 

Roedd rhoi’r strategaeth ar waith yn cael goblygiadau o ran adnoddau i staff a materion ariannol i’r chwe awdurdod lleol a BIPBC.  Byddai’r goblygiadau o ran adnoddau yn cael eu paratoi yn fanwl fel rhan o waith datblygu’r pum pecyn gwaith.  Roedd cynnig wedi’i gyflwyno i Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru i ofyn am gefnogaeth gyda’r costau ychwanegol a disgwyliwyd ymateb cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru yn cael ei chymeradwyo.

245.

Tynnu'n ôl Cynllun Gosodiadau Rheoledig a Thros 55 ar gyfer Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth am y broses ar gyfer Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWYDD) am y tynnu'n ôl o'r cynlluniau Gosodiadau Rheoledig a Thros 55.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad North East Wales (NEW) Homes yn Tynnu Eiddo Gosod a Reolir a Chynlluniau i Bobl Dros 55 Oed Yn Ôl 

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i NEW Homes ddechrau’r broses a gynlluniwyd o dynnu ‘eiddo gosod a reolir’ ac eiddo i bobl dros 55 oed yn ôl a thynnu’r amcan corfforaethol “Darparu cynnig cystadleuol i landlordiaid i annog twf y sector rhentu preifat” o Gynllun Busnes NEW Homes.

 

Mae hefyd wedi’i nodi yn yr adroddiad sut roedd y Cyngor yn ceisio datblygu’r cynnig drwy system ddarparu amgen. 

 

Roedd y Cyngor yn cynnal trafodaethau cynnar gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i weld a fyddent yn fodlon cymryd eiddo gosod a reolir NEW Homes ar yr un telerau a lle roedd y landlord yn cymeradwyo.  O ran y ddau eiddo i bobl dros 55 oed, oherwydd natur ddiamddiffyn y tenantiaid, cynigiwyd eu bod yn cael eu cadw o fewn y Cyngor a’u rheoli drwy’r tîm Dewisiadau Tai fel rhan o’r gwasanaeth llety dros dro.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge ei fod wedi’i siomi gyda’r newyddiaduraeth ddiweddar ar hyn.  Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai cywiriad yn cael ei gyhoeddi gan yr awdur a byddai datganiad gan y Cyngor yn cael ei gyhoeddi hefyd.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo NEW Homes i dynnu’n ôl o’r cynlluniau hyn a chymeradwyo tynnu’r amcan corfforaethol a ganlyn “Darparu cynnig cystadleuol i landlordiaid i annog twf y sector rhentu preifat” o’r cynllun busnes; a

 

(b)       Cymeradwyo archwilio systemau darparu amgen ar gyfer yr eiddo gosod a reolir fel rhan o ddatblygiad ehangach y ddarpariaeth Sector Rhentu Preifat.

246.

Ffioedd y Gwasanaeth Cofrestru a Chynhyrchu Incwm pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw cael cymeradwyaeth i adolygu ac adnabod cyfleoedd i ymestyn yr ystod o wasanaethau sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Cofrestru, a chymeradwyo rhestr brisiau newydd.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Ffioedd Gwasanaeth Cofrestru a Chynhyrchu Incwm a oedd yn nodi cyfleoedd i’r awdurdod lleol ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Cofrestru ac amlinellu ffioedd anstatudol ar gyfer 2020/21.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y gwasanaeth wedi’i leoli yn Neuadd Llwynegrin, a bod dwy ystafell seremoni yno. Roedd cyfle nawr i’r gwasanaeth gynnig ystafell drwyddedig ychwanegol ar gyfer seremonïau neu i gynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau ategol a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys y posibilrwydd o weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Clwyd neu NEWydd.

 

            Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r adroddiad a oedd yn enghraifft dda o godi incwm ychwanegol wrth ddarparu amrywiaeth well o wasanaethau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r Gwasanaethau Cofrestru gyda’u hadolygiad i nodi cyfleoedd i ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau i gwsmeriaid gan gynhyrchu ffrydiau incwm newydd ar gyfer yr Awdurdod Lleol;

 

(b)       Cymeradwyo’r atodlen ffioedd ddiwygiedig ar gyfer 2019/20; ac

 

(c)        Cymeradwyo atodlen ffioedd newydd ar gyfer 2020/21.

247.

Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 5) pdf icon PDF 147 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 5), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 5 y flwyddyn ariannol.  Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

            Y sefyllfa a ragamcanwyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran cost a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Diffyg gweithredol o £0.303m (£0.60m ym Mis 4); a

·         Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2019 yn £7.318m.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.067m yn is na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165m.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; cyllid canolog a chorfforaethol; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion - risgiau ac effaith; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

O ran risgiau ac effaith ysgolion, darparwyd datganiad, sydd wedi’i atodi i’r cofnodion, sy’n nodi bwriad y Cyngor o ran delio â’r Dyfarniad Cyflog Athrawon.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y prosesau sy’n ymwneud â’r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019;

 

(b)       Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai;

 

(c)        Bod dyraniad o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid ar gyfer ariannu’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) yn cael ei gymeradwyo mewn egwyddor; a

 

(d)       Bod 1% o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu costau’r dyfarniad cyflog yn ystod y flwyddyn ar gyfer y cyfnod 1 Medi 2018 i 31 Mawrth 2019 yn cael ei ddosbarthu’n llawn i’n rhwydwaith ysgolion lleol pan fydd yr arian wedi dod i law.  Bydd gofyn i ysgolion ganfod yr 1% sy’n weddill o’r dyraniad o’u cyllidebau eu hunain ar gyfer y cyfnod hwn.  Wrth gynllunio’r gyllideb ar gyfer 2019/20, bwriad y Cyngor yw y bydd yn darparu ar gyfer ymgodiad yn y cyllid sylfaen ar gyfer ysgolion i fodloni 1% o’r dyfarniad cyflog, fel isafswm.  Dyhead y Cyngor yw bod mewn sefyllfa i ddarparu ymgodiad ar gyfer y swm llawn.  Fodd bynnag, nid yw’r Cyngor mewn sefyllfa i gadarnhau’r isafswm darpariaeth na’r dyhead o ran darpariaeth ar y cam hwn yn y broses genedlaethol o osod y gyllideb oherwydd bod  ...  view the full Cofnodion text for item 247.

248.

Theatr Clwyd - Trefniadau Cyfansoddiadol pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        I adrodd ar y trefniadau cyfansoddiadol manwl a argymhellir ar gyfer Bwrdd Theatr Clwyd yn dilyn yr adolygiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Theatr Clwyd – Trefniadau Cyfansoddiadol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau cyfansoddiadol a llywodraethu ar gyfer y Theatr.

 

            Roedd y Cylch Gorchwyl drafft wedi’i ddiweddaru wedi’i atodi i’r adroddiad.         

 

            Croesawodd y Prif Weithredwr Liam Evans-Ford i’r cyfarfod.  Eglurodd Mr Evans-Ford mai hwn oedd yr ail gam yn yr adolygiad o drefniadau llywodraethu’r Theatr, ac roedd y cam hwn yn cynnig eglurder a sicrwydd.  Roedd hefyd yn amlinellu sut roedd y Theatr yn gweithio gyda’r cwmnïau Cynhyrchu a gwaith y ddau is-bwyllgor.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Attridge ddiwygiad i’r adroddiad, sef y dylai Cadeirydd Bwrdd Theatr Clwyd fod yn Gynghorydd Sir.  Yn dilyn ymatebion a roddwyd gan y Cynghorwyr Butler a Bithell, tynnodd y Cynghorydd Attridge ei ddiwygiad yn ôl.

 

            Rhoddodd y Prif Weithredwr sylwadau am gynhyrchiad llwyddiannus diweddar “The Assassination of Katie Hopkins” a oedd wedi ennill Gwobr Theatrau’r DU am y Sioe Gerdd Newydd Orau.  Byddai hyn yn cael ei gydnabod mewn cyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo argymhellion Bwrdd Theatr Clwyd ar gyfer ei drefniadau cyfansoddiadol a llywodraethu.

249.

Drafft Nodyn Cyngor Datblygwr Tai Amfeddiannaeth (HMO) Dros Dro pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Cyflwyno, i’r Aelodau ei ystyried, drafft Nodyn Cyngor Datblygwr HMO dros dro i gefnogi defnydd polisïau CDU i ystyried ceisiadau i ddatblygu HMO.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad Nodyn Cyngor Datblygwyr Tai Amlfeddiannaeth Interim Drafft, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Nodyn Cyngor.

 

            Roedd Aelodau wedi mynegi pryderon o’r blaen am y diffyg rheolaethau polisi penodol wrth ddelio â phatrwm cynyddol o geisiadau ar gyfer datblygu Tai Amlfeddianaeth a oedd yn cael eu hystyried yn y Pwyllgor Cynllunio.

 

            Cydnabuwyd nad oedd polisi penodol yn y Cynllun Datblygu Unedol a oedd yn ymwneud â’r ystyriaethau gofynnol i asesu addasrwydd cais am D? Amlfeddianaeth. 

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) fod y canllawiau a ddarparwyd yn y Nodyn Cyngor yn cynnwys tair rhan allweddol:

 

1.    Safonau a oedd yn ymwneud â gofod ystafelloedd, amwynder cyffredinol, darpariaeth cyfleusterau, a pharcio a oedd yn ymwneud â datblygu T? Amlfeddiannaeth a’r amodau byw a oedd yn ymwneud â meddianwyr yn y dyfodol;

2.    Safonau a gofynion ychwanegol i’r rhai yn Rhan 1, sy’n ymwneud â datblygiad fflatiau ar wahân neu lety fflatiau a fflatiau un ystafell cymysg; a

3.    Gofynion penodol sy’n ymwneud ag ystyried amodau byw eiddo cyfagos nad ydynt yn Dai Amlfeddiannaeth, gan gynnwys effaith ar gymeriad ardal.

 

Y camau nesaf fyddai sicrhau bod y Nodyn Cyngor ar gael ar gyfer ymgynghoriad er mwyn rhoi ystyriaeth i unrhyw ymatebion, diwygio fel bo’n briodol/os yw’n ofynnol a mabwysiadu’n ffurfiol fel ystyriaeth gynllunio berthnasol ochr yn ochr â’r CDU.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Butler a Mullin yr adroddiad a fyddai’n cynorthwyo â cheisiadau cynllunio yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cynnwys y Nodyn Cyngor Datblygwyr Tai Amlfeddiannaeth Interim Drafft, a’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyfle cyntaf posibl.

250.

Menter Gymdeithasol Double Click - Adroddiad Cynnydd pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Cabinet i ystyried y cynnydd a wnaed gan Double Click, fel y Fenter Gymdeithasol fawr gyntaf yn y cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones Adroddiad Cynnydd Menter Gymdeithasol Double Click, a oedd yn darparu gwybodaeth am Double Click fel Menter Gymdeithasol.

           

Roedd Double Click wedi datblygu’n fawr fel Menter Gymdeithasol cwbl annibynnol, gan gynnig rhagor o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i’r staff i gyd, gan gynnwys pobl â materion iechyd meddwl.

 

            Roedd cyllid loteri allanol sylweddol wedi’i sicrhau ac o ganlyniad roedd Double Click wedi prynu offer o’r radd flaenaf a oedd yn cefnogi datblygiad y busnes.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod Cyngor Sir y Fflint yn cyfrannu £110,000 i Double Click.  Gan nad oedd y swm hwnnw wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd yn leihad o ran cost yn ei hanfod, gan ystyried chwyddiant a ffactorau eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cydnabod y cynnydd a gyflawnwyd ar ôl 2 flynedd; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn parhau i gefnogi a hyrwyddo Double Click fel menter gymdeithasol.

251.

Hawliau Lles pdf icon PDF 145 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar gyflenwi gwasanaethau ar y cyd a pherfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Diweddariad ar Ddiwygio Lles a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith roedd ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn ei chael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i liniaru a chefnogi aelwydydd.

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn archwilio effaith mwy hirdymor a rhai o’r ystyriaethau gofynnol er mwyn paratoi a chynllunio ymateb i’r effeithiau hynny nawr ac yn y dyfodol.

 

            Roedd manylion llawn y gwasanaethau a gynigiwyd gan y Cyngor wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad, gan gynnwys y gefnogaeth i gwsmeriaid ar gymorth cynhwysol, a chefnogaeth gyda chyllidebu personol.

 

            Ar 1 Hydref 2018, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau gyhoeddiad ar eu gwefan am eu penderfyniad na fyddai’n ariannu Awdurdodau Lleol i ddarparu Cymorth Cynhwysol (Cyllidebu Personol a chymorth Digidol â Chefnogaeth) ond byddai’n ariannu Cyngor ar Bopeth i ddarparu’r gwasanaeth.  Daeth y cyhoeddiad hwnnw heb unrhyw ymgynghoriad o flaen llaw.  Roedd y goblygiadau ar gyfer Sir y Fflint yn cael eu trafod a byddai manylion pellach yn cael eu cyflwyno i gyfarfod y Cabinet cyn gynted ag sy’n bosibl. 

 

            Mynegodd Cynghorydd Thomas ei phryder am Gredyd Cynhwysol, gan ddarparu enghraifft o achos yn ei ward.   Roedd yn gobeithio y byddai cefnogaeth ddigonol yn parhau pan fyddai’r gwasanaeth yn symud i Gyngor ar Bopeth.  Roedd y Cynghorwyr Bithell a Jones yn cytuno â’r sylwadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r adroddiad gan gynnwys y gwaith parhaus i reoli’r effaith mae Diwygiadau Lles yn ei chael a bydd yn parhau i’w chael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint; a

 

(b)       Bod y newidiadau i drefniadau ariannu grant ar gyfer Cymorth Cynhwysol fel a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Ganolog ar 1 Hydref 2018 yn cael eu nodi a bod y risgiau yn y dyfodol i’r Cyngor a allai fod o ganlyniad i’r newidiadau hynny yn cael eu hystyried.

252.

Caeau Canmlwyddiant pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth am y Rhaglen Caeau Canmlwyddiant a cheisio cymeradwyaeth i gyflwyno ceisiadau i ddynodi ardaloedd penodol yn Sir y Fflint fel Caeau Canmlwyddiant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Caeau Canmlwyddiant a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno nifer o safleoedd i Feysydd Chwarae Cymru fel Caeau Canmlwyddiant.

 

            Roedd Caeau Canmlwyddiant yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru, mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, i ddiogelu a chadw mannau agored gwerthfawr a oedd â rhywfaint o arwyddocâd i’r Rhyfel Byd Cyntaf, i anrhydeddu’r rhai a oedd wedi colli eu bywydau.  Roedd y rhaglen yn un o amrywiaeth o fentrau i goffau canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

            Byddai gweithred gyflwyno gyfreithiol rhwng y Cyngor a Meysydd Chwarae Cymru yn golygu y byddai’r safleoedd sydd wedi’u dynodi fel Caeau Canmlwyddiant yn cael eu diogelu am byth, gan ddarparu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Byddai dynodi safleoedd fel Caeau Canmlwyddiant yn atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog a diogelu mannau gwyrdd er budd y gymuned leol.  Roedd y rhestr derfynol o safleoedd wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a fyddai’n gweld cofebau addas yn y safleoedd a restrwyd.  Diolchodd yn benodol i’r Cynghorwyr David a Gladys Healey am eu hangerdd dros fod am ddiogelu Parc Willows yn yr Hob, a fyddai’n cael ei ddiogelu yn dilyn y weithred gyflwyno gyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo bod cais yn cael ei gyflwyno i Feysydd Chwarae Cymru i gyflwyno’r safleoedd a ganlyn fel Caeau Canmlwyddiant:

 

·         Y Grîn gyferbyn ag Ysgol Croes Atti, y Fflint;

·         Gerddi Coffa, Treffynnon;

·         Gardd Goffa Coed-llai; a

·         Pharc Willows, yr Hob.

 

(b)       Llofnodi’r weithred gyflwyno gyda Meysydd Chwarae Cymru ar ran y Cyngor, os yw’r ceisiadau’n llwyddiannus; a

 

(c)        Cytuno ar gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal i nodi achlysur y safleoedd yn cael eu dynodi’n Gaeau Canmlwyddiant.

253.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 47 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

                        Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Tai ac Asedau

  • Safle Garejis Warren Drive, Brychdyn

Mae’r tir i gael ei werthu i berchennog cyfagos 40 Warren Drive i’w ddefnyddio fel gardd yn unig, ac i gael ei ddiogelu drwy Gyfamod Cyfyngol.

 

  • Tir Cyfagos ag Uned 2, Ystâd Ddiwydiannol Spencer, Bwcle

Bydd y darn bach hwn o dir dros ben sy’n ymestyn i tua 0.15 erw yn cael ei gaffael gan y perchennog cyfagos.

 

  • Trosglwyddiad Ased Cymunedol o ran Canolfan Gymunedol Coed-Llai

Trosglwyddiad Canolfan Gymunedol Coed-Llai.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

254.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.