Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

127.

Datgan Cysylltiad

Pwpras:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

128.

Cofnodion pdf icon PDF 236 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 20 Ebrill 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

           

            Dywedodd y Cynghorydd Roberts y bydd newid i drefn y rhaglen, gan roi ystyriaeth i adroddiadau Ffioedd Meysydd Parcio a Chynllun Rheoli Asedau Priffyrdd cyn eitemau eraill o fusnes.

129.

Ffioedd Maes Parcio pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-gyflwyno ffioedd parcio yn Nhalacre a chyflwyno strwythur codi tâl yng nghyfleuster Parcio a Theithio newydd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod yr atal dros dro cyfredol o ffioedd maes parcio yng nghanol y dref wedi ei weithredu gyda’r bwriad o helpu busnesau canol tref ffynnu ar ôl pandemig Covid-19.

 

            Mae’r maes parcio yn Nhalacre yn cael ei ystyried fel maes parcio ‘cyrchfan terfyn’ a roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i adfer y ffioedd yn y maes parcio hwn.

 

            Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno trefn codi tâl yn y maes parcio a theithio newydd sydd wedi’i adeiladu ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

            Roedd y Cynghorydd Banks yn cefnogi’r adroddiad, yn ogystal â’r Cynghorydd Jones a ddywedodd y bydd hyn yn helpu â phroblemau traffig ym Mharthau 1, 2 a 3 ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      I gymeradwyo ailgyflwyno ffioedd maes parcio ym maes parcio Talacre: a

 

 (b)      Cymeradwyo cyflwyno’r trefn codi tal maes parcio a theithio ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

130.

Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sydd wedi’i adnewyddu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd mai’r rhwydwaith priffyrdd yw isadeiledd asedau mwyaf gwerthfawr y Cyngor, gydag asedau lonydd cerbydau a throedffyrdd werth dros £1 biliwn.  Roedd cyflwr diogel a defnyddiadwy y rhwydwaith yn hanfodol i gynnal cysylltedd economaidd a chymdeithasol, y ddau o fewn Sir y Fflint a gyda’r rhanbarth ehangach, a roedd y fframwaith Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn darparu egwyddorion i reoli’r rhwydwaith, adnabod pwysigrwydd isadeiledd priffordd i gefnogi nifer o amcanion allweddol y Cyngor.

 

            Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ar ddatblygiad y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor, a roedd yn egluro sut mae’r Cyngor yn defnyddio’r egwyddorion y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd i arwain y strategaeth i reoli a chynnal isadeiledd priffyrdd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod dyraniad cyllid yn cael ei wneud ar sail y meysydd sydd ei angen fwyaf, a roedd blaenoriaethau wedi newid oherwydd y risgiau i’r rhwydwaith a oedd wedi cael eu nodi yn ystod asesiadau gan gydlynwyr ardaloedd.  

 

            Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd ac Economi yr wythnos flaenorol, lle chafwyd drafodaeth ar gynllun peilot a gyflawnwyd yn defnyddio plastig wedi’i ailgylchu i gymryd lle yr ardaloedd bach o asffalt.  Roedd y Pwyllgor yn gefnogol o’r treial a gwnaethpwyd gais i gael treial ehangach. Bydd gwaith yn cael ei gyflawni i adnabod unrhyw safleoedd posibl ar gyfer treialon o’r fath.

                       

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod cynnwys yr adroddiad, ac adolygiad y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael ei nodi;

 

 (b)      Bod y trefniadau cyfredol a chamau gweithredu’r portffolio i gynnal y rhwydwaith priffordd yn cael ei nodi; a

 

 (c)       Bod y polisi diwygiedig ar gyfer arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb i gynnwys ymagwedd ddiwygiedig i arolygon strwythurau’r priffyrdd yn cael ei gymeradwyo.

131.

Cynllun y Cyngor 2021/22 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2021/22 Rhan 1 a Rhan 2 yn barod i’w fabwysiadu gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/23 yn cael ei fabwysiadu gyda’r pwrpas o osod y prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer y tymor etholiadol cyfredol.  Roedd y cynllun yn amodol i adolygiad blynyddol.

 

Roedd strwythur a chynnwys y Cynllun ar gyfer 2021/22 wedi cael ei adolygu a’i adfywio, ac yn ystyried adferiad parhaus yn ychwanegol i’r amcanion strategol hirdymor.

 

Cyhoeddwyd Cynllun y Cyngor mewn dwy ddogfen. Byddai Rhan 1 yn gosod y bwriad, a Rhan 2 yn gosod y risgiau, y mesuryddion perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir y byddai cyflawniadau yn cael eu mesur a’u gwerthuso'n eu herbyn.

 

Cafodd y fframwaith ei greu o amgylch chwe thema:

 

·         Yr Economi;

·         Addysg a Sgiliau;

·         Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd;

·         Tai Fforddiadwy a Hygyrch;

·         Lles Personol a Chymunedol; a

·         Tlodi

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod datganiad strategol yn mynd gyda phob un o’r chwe thema a oedd yn arwain at amcanion llesiant. Cafodd y themâu eu mapio yn erbyn y Pwyllgorau Craffu a Throsolwg i adrodd ac atebolrwydd. Y Cabinet fydd yn gyfrifol am gyflawni’r Cynllun. Roedd Rhan 1 wedi’i rannu gyda’r Pwyllgorau Craffu a Throsolwg i’w adolygu ac i gael sylwadau; nid oedd angen newid sylweddol i Rhan 1 gan fod y Pwyllgorau yn gefnogol, Roedd Rhan 2 wedi’i gymeradwyo i’r argymell gyda hyder bod yr Aelodau yn cefnogi Rhan 1 fel uwch-strwythur y Cynllun.

 

Bydd Cynllun terfynol y Cyngor ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Rhan 1 Cynllun y Cyngor 2021/22 yn ei ffurf terfynol yn cael ei gymeradwyo i’w argymell i’r Cyngor; a

 

 (b)      Bod cynnwys Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2021/22 yn cael ei gymeradwyo yn ychwanegol i Rhan 1 i’w argymell i’r Cyngor.

132.

Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Bydd yr adroddiad yn darparu adolygiad o’r prif heriau economaidd sy’n wynebu trefi bach a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wnaed hyd yma i ddarparu gweithio mewn ffordd strategol i adfywio canol trefi a gytunwyd yng nghyfarfod y Cabinet ar 17 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cael cyllid cynnal a chadw ac atgyweirio ychwanegol i ysgolion gan Lywodraeth Cymru.

 

            Roedd y grant, sydd ar sail fformiwla, yn £2.526,501 ac ar gyfer prosiectau cynnal a chadw cyfalaf o fewn ysgolion yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i adolygu a chytuno ar raglen drafft fel y gellir symud prosiectau unigol gydag hwylustod. Roedd y rhaglen ddrafft wedi’i atodi i’r adroddiad hwn.

 

            Mae dau brosiect wedi’i enwebu yn Ysgol Castell Alun. Roedd y cyntaf i gymryd lle y Llain Pob Tywydd gan nad oes modd ei ddefnyddio ar hyn o bryd.Roedd ailosod Llain Pob Tywydd yn hanfodol i ddarparu cwricwlwm Addysg Gorfforol, yn arbennig yn ystod misoedd y Gaeaf. Yr ail oedd ailwampio yr ardal gerddoriaeth a oedd yn etifeddiaeth i’r prosiect buddsoddi cyfalaf presennol yn yr ysgol. Roedd rhaid cyflawni gwaith helaeth na ragwelyd i do yr ardal gerddoriaeth i’w wneud yn ddiogel ac i sicrhau ei fod yn dal d?r. Wrth wneud hyn, nid oedd cyllideb y prosiect yn ddigonol i gwblhau’r cynnig i ailwampio’r ardal gerddoriaeth oddi tanodd. Roedd darpariaeth wedi’i wneud i gytundeb adeiladu i ychwanegu’r eitemau o bydd cyllid a chymeradwyaeth yn cael ei ganiatáu. Wrth wneud hynny roedd arbedion effeithlonrwydd a chostau tendro a rhagarweiniol.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar y sefyllfa yng Nghanolfan Enfys lle roedd gwall ar y to, a llifogydd wedi effeithio ar Ysgol Gynradd Queensferry.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y rhaglen atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion yn cael ei chymeradwyo.

133.

Grant Cyllido Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw Ysgolion Ychwanegol Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn ystyried y Rhaglen Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw arfaethedig ychwanegol ar gyfer Ysgolion (blwyddyn ariannol 2021/22 wedi ei galluogi gan gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cael cyllid cynnal a chadw ac atgyweirio ychwanegol i ysgolion gan Lywodraeth Cymru.

 

            Roedd y grant, sydd ar sail fformiwla, yn £2.526,501 ac ar gyfer prosiectau cynnal a chadw cyfalaf o fewn ysgolion yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i adolygu a chytuno ar raglen drafft fel y gellir symud prosiectau unigol gydag hwylustod. Roedd y rhaglen ddrafft wedi’i atodi i’r adroddiad hwn.

 

            Mae dau brosiect wedi’i enwebu yn Ysgol Castell Alun. Roedd y cyntaf i gymryd lle y Llain Pob Tywydd gan nad oes modd ei ddefnyddio ar hyn o bryd.Roedd ailosod Llain Pob Tywydd yn hanfodol i ddarparu cwricwlwm Addysg Gorfforol, yn arbennig yn ystod misoedd y Gaeaf. Yr ail oedd ailwampio yr ardal gerddoriaeth a oedd yn etifeddiaeth i’r prosiect buddsoddi cyfalaf presennol yn yr ysgol. Roedd rhaid cyflawni gwaith helaeth na ragwelyd i do yr ardal gerddoriaeth i’w wneud yn ddiogel ac i sicrhau ei fod yn dal d?r. Wrth wneud hyn, nid oedd cyllideb y prosiect yn ddigonol i gwblhau’r cynnig i ailwampio’r ardal gerddoriaeth oddi tanodd. Roedd darpariaeth wedi’i wneud i gytundeb adeiladu i ychwanegu’r eitemau o bydd cyllid a chymeradwyaeth yn cael ei ganiatáu. Wrth wneud hynny roedd arbedion effeithlonrwydd a chostau tendro a rhagarweiniol.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar y sefyllfa yng Nghanolfan Enfys lle roedd gwall ar y to, a llifogydd wedi effeithio ar Ysgol Gynradd Queensferry.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y rhaglen atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion yn cael ei chymeradwyo.

134.

Diweddariad Arosfa pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I ddarparu manylion y model gwasanaeth newydd a'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i blant a phobl ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod Arosfa yn wasanaeth sefydledig sy’n darparu gwyliau byr dymor a seibiant ar gyfer plant gydag anableddau. Cafodd adain chwith nad oedd yn cael ei ddefnyddio yn Arosfa ei ailwampio i ddarparu dau le ychwanegol yn y cyfleuster, a roedd y llefydd hyn yn rhoi lle i hyd at bedwar o blant gan ddefnyddio modelau gofal hyblyg a gofal a rennir.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y gwasanaeth ychwanegol yn ychwanegiad i’r darpariaeth seibiant byr cyfredol ar gyfer hyd at dri o blant ar unrhyw adeg. Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau yn galluogi’r Cyngor i gefnogi uchafswm o bedwar o blant ar un tro.

 

            Bydd y ddarpariaeth o ddau le ychwanegol ar gyfer seibiant gofal a rennir yn rhan o fwriad strategol y Cyngor i leihau dibyniaeth ar Leoliadau drud y Tu Allan i’r Sir, a byddai’n galluogi Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc o fewn y sir.  Byddai’n cynyddu’r cynhwysedd cyfredol sydd gan Sir y Fflint a mwy o ddarpariaeth gofal seibiant o fewn gweledigaeth yr uchelgais strategol.

                       

PENDERFYNWYD:

 

I gydnabod y cynnydd a wnaethpwyd yn Arosfa, a’r cyfle i ddarparu cefnogaeth hyblyg ychwanegol ar gyfer hyd at bedwar o blant a’u teuluoedd, gyda'r bwriad o gadw teuluoedd gyda’i gilydd ac yn agosach i’w cartrefi, ac i gael cefnogaeth.

135.

Cydweithio rhwng awdurdodau i reoli’r cyflenwad o fwynau cydgasgledig yn Is Ranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i'r fersiwn ddiwygiedig o Ddatganiad Cydweithrediad Isranbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer Cynllunio Dogfen Cydran Mwynau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod yr Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh2) yn datgan, lle nad yw awdurdodau lleol yn gallu bodloni eu cyfran ddangosol unigol i ddarparu mwynau agregau, fod angen i’r holl awdurdodau lleol o fewn yr is-ranbarth hwnnw gydweithio a chydweithredu er mwyn sicrhau bod cyfran gyffredinol yr is-ranbarth yn parhau i gael ei bodloni, i ddarparu cyflenwad cyson o fwynau agregau ar draws yr is-ranbarth.

 

            Dylid cytuno ar gydweithio rhwng awdurdodau drwy Datganiad Cydweithio Is-ranbarth a gytunwyd gan bob awdurdod lleol o fewn yr ardal Is-ranbarth, a fyddai’n cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer gwneud polisi Cynllun Datblygu Lleol ac ystyriaeth cynllunio deunydd mewn penderfyniadau rheoli datblygiadau gan barchu’r angen Is-Ranbarthol i gydgasglu mwynau yn yr Is-Ranbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

            Byddai cymeradwyo’r ddogfen gan y tri awdurdod lleol yn yr is-ranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru yn dangos bod yr awdurdodau wedi ymrwymo i gydweithio rhwng awdurdodau gan ymwneud â chyflenwad o fwynau agregau yn unol â’r ffigyrau dosrannu is-ranbarth ar gyfer tywod a cherrig mân, a cherrig wedi eu malu fel y nodir yn RTS2.

 

Cafodd ei ystyried yn y cyfarfod o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 8 Ebrill 2021 lle cafodd y SSRC drafft diwygiedig ei ardystio. Roedd ymgynghoriad wedi’i gynnal gydag awdurdodau partner sef Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn cymeradwyo’r SSRC drafft.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Datganiad o Gydweithio Is-Ranbarthol (Fersiwn3, Ebrill 2021 - Atodiad 2) yn cael ei gymeradwyo, a'i anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gynllunio i'w ystyried fel rhan o’r Archwiliad Cyhoeddus i Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint; a

 

 (b)      Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn perthynas a diwygiadau ansylweddol, i’r Datganiad o Gydweithio Is-Ranbarthol drafft os bydd yr angen yn codi o ganlyniad i argymhellion gan Gyngor Sir Ddinbych neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dilyn cymeradwyaeth o’r adroddiad.

136.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 207 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddiad Ased Cymunedol, Hen Faes Chwarae Ysgol Llanfynydd, Llanfynydd

Trosglwyddo’r hen Faes Chwarae YsgolLlanfynydd, Llanfynydd.

 

  • Lawnt Fowlio Bagillt, Highfield Road, Bagillt

I ddatgan yn ffurfiol gwarged i ofynion i’r eiddo a adnabyddir fel Lawnt Fowlio Bagillt, Highfield Road, Bagillt.

 

  • Hen Bafiliwn, Fron Park Road, Treffynnon (ger y cyrtiau tenis)

I ddatgan yn ffurfiol nad oes angen yr eiddo a adnabyddir fel yr Hen Bafiliwn, Fron Park Road, Treffynnon.

 

  • Canolfan Gymunedol New Brighton, Moel Fammau Road, New Brighton

I ddatgan yn ffurfiol nad oes angen yr eiddo a adnabyddir fel Canolfan Gymunedol New Brighton, Moel Fammau Road, New Brighton er mwyn trosglwyddo’r ased fel Trosglwyddiad Ased Cymunedol.

 

  • Gordaliadau Budd-dal Tai

Cais i ddiddymu Gor-daliad Budd-Dal Tai o £10,901.96.

 

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent o £6,210.08 wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.

 

  • Dileu Trethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau.

 

Mae’r atodlen sydd wedi’i amgáu i’r adroddiad, a oedd yn crynhoi yn ôl categori diddymu, yn cynnwys dau gyfrif Cyfradd Busnes sy’n dod i £33,931.02 lle mae dyled gyffredinol y cwmni yn fwy na £5,000. Argymhellir diddymu’r dyledion hyn gan nad yw’r cwmnïau yn masnachu neu’n amodol i gael eu diddymu.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Llywodraethwyr ysgol a benodir gan awdurdodau lleol

Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

137.

Cymeradwyo costau ar gyfer cynllun tai newydd yn Park Lane, Treffynnon

Pwrpas:        Cymeradwyo datblygu pedwar o dai Rhent Cymdeithasol yn Park Lane, Treffynnon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu pedwar cartref Rhent Cymdeithasol newydd yn Park Lane, Treffynnon.

 

            Roedd yr adroddiad a’r atodiadau yn nodi gwybodaeth am brynu’r eiddo, gan gynnwys y lleoliad, mathau arfaethedig o eiddo, dyluniad a chynllun a’r costau adeiladu disgwyliedig.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo datblygu pedwar o dai Rhent Cymdeithasol yn Park Lane, Treffynnon; a

 

 (b)      Bod y defnydd o fenthyca darbodus hyd at y gwerth a nodir yn yr adroddiad (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a dilysu terfynol) i ariannu’r datblygiad arfaethedig yn y lleoliad yn cael ei gefnogi;

138.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.