Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.

2.

Strategaeth Adfer pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cymeradwyo strwythur, amcanion a chynnwys craidd y Strategaeth Adfer gorfforaethol ar gyfer sefyllfa argyfyngus y pandemig, fel y’i goruchwyliwyd gan y Bwrdd Adfer trawsbleidiol cyn i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ei hadolygu ym mis Medi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac esboniodd fod y Cyngor wedi bod yn datblygu Strategaeth Adfer ar gyfer sefyllfa argyfwng y pandemig. Roedd adferiad yn gyfnod pontio naturiol o’r cyfnod ymateb a gafwyd rhwng canol mis Mawrth a diwedd mis Gorffennaf.

 

            Gwnaed y gwaith o dan ei arweiniad ef ac Arweinydd y Cyngor, dan oruchwyliaeth Bwrdd Adfer o Aelodau trawsbleidiol. Roedd y Bwrdd, a oedd yn un o isbwyllgorau cynghori’r Cabinet, wedi cyflawni eu gwaith a’u dyletswyddau wedi dod i ben. 

 

Roedd y Strategaeth Adfer yn gosod amcanion ar gyfer sefydlogi a blaengynllunio’r sefydliad corfforaethol; adfer gwasanaethau; adfer y gymuned; ailgychwyn blaengynllunio strategol; darparu cefnogaeth ar gyfer ymgysylltu â chynllunio adfer rhanbarthol; a dychwelyd at lywodraethu’r Cyngor mewn dull democrataidd llawn. Dangoswyd set o sleidiau cyflwyno i gefnogi manylion am bob un o’r meysydd hyn, ynghyd â’r iteriad diweddaraf o’r Strategaeth Adfer.

 

            Ar ôl i’r Strategaeth Adfer gael ei mabwysiadu, wedi iddi gael ei hadolygu gan y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, y bwriad oedd ei chyhoeddi mewn ffurf graffigol hygyrch.

 

            Roedd gofyn i’r Cabinet wahodd pob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i gefnogi’r gwaith adfer yn eu meysydd portffolio perthnasol, ac yn benodol i oruchwylio dros,

 

1.    Cofrestr(au) risg y portffolio a’r camau gweithredu i leihau risg – y rhai byw a’r rhai wedi eu cynllunio;

2.    Yr amcanion adfer ar gyfer y portffolio(s);

3.    Blaenoriaethau strategol y portffolio(s) ar gyfer adfer ar unwaith, wedi eu tynnu o gynllun drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21; ac

4.    Y set o dargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer y portffolio(s) yn 2020/21.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod angen edrych y tu hwnt i’r cyfnod adfer yn y tymor byr ac y dylid edrych i’r tymor canolig a’r tymor hir ar gyfer Cynllun y Cyngor a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.  Nid oedd Cynllun y Cyngor wedi cael ei adolygu na’i ailfabwysiadu ar gyfer 2020/21 oherwydd sefyllfa’r argyfwng. Roedd y cynllun mabwysiedig yn ymdrin â chyfnod 2022/23 ac felly’n cynnig strwythur ar gyfer blaengynllunio. Roedd Rhan 1 o Gynllun drafft y Cyngor wedi cael ei adolygu ac roedd y rhannau allweddol yn nhermau adfer wedi cael eu tynnu ohono i gael eu mabwysiadu, ac fe’u hatodwyd fel atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd pob portffolio wedi mabwysiadu cynlluniau busnes ar gyfer adfer i gefnogi’r gwaith ac roedd pob Dangosydd Perfformiad wedi cael eu hadolygu a’u hailosod ar gyfer 2020/21 ac argymhellwyd y dylid eu mabwysiadu – fe’u hatodwyd fel atodiad 2 i’r adroddiad.

 

            Byddai diweddariad ar lafar yn cael ei roi i holl gyfarfodydd y Pwyllgor er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa’r argyfwng.

 

Diolchodd yr holl Aelodau i’r swyddogion am yr holl waith a wnaed i ddatblygu’r Strategaeth Adfer, gan gynnwys y gwaith a wnaed i sicrhau bod y gwasanaethau’n dal i gael eu darparu.  Yn ystod y cyfnod adfer, cytunwyd hefyd y dylid parhau i ganolbwyntio ar ymateb.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas ar y sleidiau a gyflwynwyd ar leihau carbon, dywedodd y Prif  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

Presentation Slides pdf icon PDF 598 KB

Dogfennau ychwanegol: