Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

305.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

            Dim.

306.

Cofnodion pdf icon PDF 146 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 22 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019 fel rhai cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

307.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – Y Trydydd Cam a'r Cam Clo

Pwrpas:        Cytunodd y Cyngor yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr i oedi'r ystyriaeth o adroddiad cyllideb cronfa'r Cyngor nes i swyddogion adolygu nifer o feysydd penodol o gyllid corfforaethol.  Cafodd canlyniad y gwaith hwn ei rannu yn ystod y briffio i’r Aelodau ar 14 Chwefror 2019.

 

Gwahoddir y Cabinet unwaith eto, i wneud argymhellion i’r Cyngor ar sail y cyngor sydd wedi’i gynnwys o fewn yr adroddiad i’r Cabinet ar 22 Ionawr 2019 ac yn dilyn ystyriaeth o’r nodyn technegol ychwanegol a barn broffesiynol ar y cyllid corfforaethol yn ystod briffio i’r Aelodau ar 14 Chwefror 2019.

 

Cofnodion:

            Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar lafar ar Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 - adroddiad Trydydd Cam a'r Cam Clo a rhoddodd gopïau o’r sleidiau a fyddai’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Roedd y sleidiau’n rhoi sylw i’r canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gyfreithlon a mantoledig;

·         Y sefyllfa bresennol o ran y gyllideb;

·          Diweddariad ar yr adolygiad o feysydd penodol o Gyllid Corfforaethol yn dilyn gohirio’r gyllideb yng nghyfarfod y Cyngor ar 29 Ionawr 2019;

·         Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) – y defnydd o dderbyniadau cyfalaf

·         Cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a heb eu clustnodi

·         Aildrefnu dyledion a rheolaeth llif arian parod

·         Safbwyntiau proffesiynol

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y sefyllfa gyffredinol gan gynnwys y rhagolygon ar gyfer y Tymor Canolig.   Yn y sleidiau roedd manylion llawn am y defnydd o Dderbyniadau Cyfalaf yn cynnwys cyngor proffesiynol y Rheolwr Cyllid na ddylid defnyddio Derbyniadau Cyfalaf i ad-dalu dyled.  Rhoddwyd gwybodaeth fanwl hefyd ar y defnydd o gronfeydd heb eu clustnodi ac wedi eu clustodi, yn cynnwys yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar y blynyddoedd i ddod.  Argymhelliad y Rheolwr Cyllid yw y dylid defnyddio swm ychwanegol o £0.321m o gronfeydd wrth gefn dros ben sydd wedi cronni yn y flwyddyn, a fyddai’n addasiad rhesymol (sef £0.189m o gronfeydd heb eu clustnodi a £0.132 o gronfeydd wedi’u clustnodi).

 

Darparwyd dadansoddiad o ffioedd Band D, yn cynnwys y cynnydd blynyddol, misol ac wythnosol.  Roedd hyn yn cynnwys praeseptau Cynghorau Tref a Chymuned  a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

 Ni fu unrhyw newid ym marn broffesiynol y Swyddog Adran 151/Rheolwr Cyllid Corfforaethol na'r Prif Weithredwr. Yn ychwanegol at eu barn ar yr uchod cafwyd eu barn ar y dyfodol.  Dywedasant bod cynaladwyedd cyllidebau’r Cyngor dan fygythiad difrifol gyda dim ond ychydig o opsiynau o unrhyw faint ar ôl o ran dewisiadau gwasanaeth lleol.  Roedd pryder ynghylch y ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn sy’n mynd yn llai flwyddyn ar ôl blwyddyn pan osodir y gyllideb, gydag amlder ymrwymiadau cenedlaethol heb eu hariannu yn achosi pryder mawr.  Roedd yn anodd gweld sut y gallai'r Cyngor fantoli'r gyllideb ar gyfer 2020/21 ymlaen heb wrthdroi'r polisi ariannol cenedlaethol i ryw raddau.  Roedd cynllunio cynnar ar gyfer 2020/21 – 2022/23 yn hanfodol bwysig gyda rhagolygon diweddaredig ar gyfer y tymor canolig

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y dyddiad ar gyfer derbyn cwestiynau/ceisiadau gan yr Aelodau wedi mynd heibio ac nad oedd yn ymarferol bellach i swyddogion ymateb i’w cwestiynau.  Roedd yr aelodau wedi cael eu hysbysu o hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton mai hon oedd y gyllideb anoddaf hyd yma i'r Cyngor a chytunodd bod yn rhaid gwrthdroi'r polisi ariannol cenedlaethol.  Soniodd am y blynyddoedd anodd sy'n wynebu'r Cyngor a bod angen cadw hynny mewn cof gan y byddai unrhyw ddefnydd ychwanegol o'r cronfeydd wrth gefn yn gwaethygu problemau yn y blynyddoedd i ddod.  Nid oedd yn gyfforddus gyda'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ond doedd dim opsiynau eraill ar gael.

 

Dosbarthwyd cyfres o benderfyniadau arfaethedig a dderbyniwyd gan  ...  view the full Cofnodion text for item 307.

308.

Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 2021/22 pdf icon PDF 219 KB

Pwrpas:        I gymeradwyo cynlluniau i’w cynnwys o fewn y Rhaglen Gyfalaf dros gyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar yr uchod er cymeradwyaeth ac i'w argymell i'r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor yn dair rhan:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddio a statudol

2.    Asedau Argadwedig – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaethau a busnes; a

3.    Buddsoddiad - dyraniadau i ariannu’r gwaith sy’n angenrheidiol i ailfodelu gwasanaethau er mwyn darparu’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u hamlinellu mewn cynlluniau busnes Portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau fel y’u hamlinellir yng Nghynllun y Cyngor.

 

Rhoddwyd manylion am y gefnogaeth sydd wedi'i chynllunio ar gyfer darpariaeth cwricwlwm yr ysgolion yn ddigidol i baratoi ar gyfer y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno mewn asesu llythrennedd a rhifedd ar-lein, a’r angen i ddiweddaru'r isadeiledd TG ar draws ysgolion. Gallai peidio buddsoddi yn y cynllun arwain at ddysgwyr nad ydynt yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ymgysylltu â’r byd digidol. Byddai datblygu cysylltedd mewn ysgolion yn costio £0.276m yn 2019, gyda £0.130m arall yn cael ei gynnwys yn rhaglen 2018/19 wedi’i noddi o’r gyllideb ychwanegol wrth gefn. Byddai’r gwariant yn cynnwys £0.120m gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cytuno i gynyddu capasiti o ran cysylltedd. Byddai cynyddu capasiti di-wifr ysgolion yn costio £0.250m yn 2019/20.

 

Amlinellwyd hefyd y cynllun amnewid gliniaduron/cyfrifiaduron personol am rai newydd.   Mae angen cael gwared ar liniaduron sy’n rhy hen i ddarparu’r lefel angenrheidiol o wasanaeth a/neu gefnogaeth ar gyfer y systemau gweithredu a’r feddalwedd ddiweddaraf.  Os nad ydynt yn cael eu disodli mae posibilrwydd y bydd diogelwch seibr yn cael ei dorri, y bydd achrediad y rhwydwaith sector cyhoeddus o dan fygythiad, ac y byddai darpariaeth gwasanaeth yn dioddef oherwydd na all swyddogion wneud defnydd effeithiol o systemau. Ni fydd Windows 7 yn cael ei gefnogi ar ol Ionawr 2020. Y swm i'w gynnwys yn y rhaglen yw £0.106m.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, cadarhaodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) o ran gofyniad cyllido’r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd a nodir yn yr adroddiad o dan ‘gynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol’ , y byddai hyn yn cael ei gadw o fewn y rhaglen gyfalaf fel rhan o’r ystyriaethau parhaus ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 4 o adrannau Statudol/Rheoleiddio ac Asedau Argadwedig Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2019/20 – 2021/22 yn cael eu cymeradwyo.

 

(b)       Bod y cynlluniau yn Nhabl 5 o Adran Buddsoddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2019/20 – 2021/22 yn cael eu cymeradwyo.

 

(c)        Nodi bod y diffyg o ran cyllid i ariannu cynlluniau yn 2019/20 a 2020/21 yn Nhabl 6, ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo, yn hyblyg. Bydd opsiynau sy’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf y dyfodol, grantiau amgen (os ar gael) benthyca darbodus neu aildrefnu cynlluniau yn cael eu hystyried yn ystod 2019/20  ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y rhaglen gyfalaf yn y dyfodol, ac

 

(d)       Y dylid cymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys  ...  view the full Cofnodion text for item 308.

309.

Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai (HRA) 2019/20, Cynllun Busnes HRA Naratif a Chynllun Busnes Ariannol 30 blynedd yr HRA pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo ac argymell i’r Cyngor, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2019/20, Cynllun Busnes HRA Naratif a’r grynodeb o Gynllun Busnes 30 mlynedd yr HRA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        CyflwynoddCynghorydd Attridge adroddiad ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20, Cynllun Busnes a Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Tefeniw Tai 2019/20 er cymeradwyaeth ac i’w hargymell i’r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

                        Amlinellwydyn yr adroddiad fanylion am y cynnydd arfaethedig o 2.4% mewn rhent (+ hyd at £2), felly hefyd y cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20c yr wythnos mewn rhenti plotiau garej.

 

                        Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau ) am y cyfleoedd am brentisiaethau a swyddi a oedd ar gael drwy’r  Cyfrif Refeiniw a’r Rhaglen Gyfalaf Tai a'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid cymeradwy cyllideb a Chynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20 a'i argymell i’r Cyngor;

 

(b)       Y dylid cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 2.4% (+ £2);

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20p yr wythnos mewn rhenti plotiau garej; a

 

(d)       CymeradwyoRhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20.

 

310.

Isafswm Darpariaeth Refeniw 2019/20 pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo polisi'r Cyngor ar gyfer Darpariaeth Isafswm Refeniw (ad-dalu dyled) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2019/20 gan egluro bod gofyn i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o’u hadnoddau refeniw bob blwyddyn fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.

 

            Roeddyr adroddiad yn argymell i’r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw y dylai’r polisi MPR 2019/20 aros yr un fath ag yr oedd yn 2018/19 yn dilyn dau adolygiad gefn wrth gefn.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr y cafodd hyn ei drafod mewn manylder yng nghyfarfod briffio'r holl aelodau'r wythnos flaenorol.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor Sir ar gyfer dyledion Cronfa’r Cyngor:

 

·         Bod Opsiwn 3 (Dull Bywyd Ased) yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r MRP yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 ar gyfer balans y gwariant cyfalaf sy'n ddyledus a ariennir o fenthyca fel yr oedd ar 31 Mawrth 2017.  Y cyfrifiad fydd y dull 'blwydd-dal' dros 49 o flynyddoedd.

·         Bod Opsiwn 3 (Dull Bywyd Ased) yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r MRP yn 2019/20 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a noddir o fenthyca wedi’i gefnogi o 1 Ebrill 2016 ymlaen.  Bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o gynhyrchu buddion.

·         Bod Opsiwn 3 (Dull Bywyd Ased) yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r MRP yn 2019/20 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a noddir o fenthyca heb ei gefnogi (darbodus) neu drefniadau credyd.  Bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o gynhyrchu buddion.

 

(b)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor Sir ar gyfer dyledion dyledus y Cyfrif Refeniw Tai (HRA):

·          Opsiwn 2 (Dull Gofyniad Ariannu Capita) yn cael ei  ddefnyddio i gyfrifo MRP yr HRA yn 2019/20 ar gyfer yr holl wariant gyfalaf a ariennir drwy ddyledion

 

(c)        Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir, bod yr MRP ar fenthyciadau gan y Cyngor ar gyfer NEW Homes i ariannu tai fforddiadau drwy'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (safon fel gwariant cyfalaf mewn termau cyfrifyddu) fel a ganlyn:

 

·         Dim MRP i’w wneud yn ystod y cyfnod adeiladu (a fydd dros gyfnod byr) gan nad yw’r ased eto mewn defnydd a dim buddion yn dod ohono eto.

Unwaith y mae’r asedau mewn defnydd, bydd NEW Homes yn gwneud ad-daliadau cyfalaf.  Bydd MRP y Cyngor gyfwerth â'r ad-daliadau a wneir gan NEW Homes.  Byddyr ad-daliadau’n a wneir gyfwerth â’r ad-daliadau sy’n cael eu dosbarthu, mewn termau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, y gellir eu defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyledion yn unig. Byddyr ad-daliad/derbyniad cyfalaf  ...  view the full Cofnodion text for item 310.

311.

Polisi, Arferion a Rhaglenni Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22 pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Argymell Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20, 2019/20 – 2021/22 i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2019/20 a'r Datganiad Polisi, Arferion a Rhestrau Rheoli'r Trysorlys 2019/20 - 2021/22 er cymeradwyaeth ac i'w argymell i'r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Roeddyr adroddiad wedi bod gerbron y Pwyllgor Archwilio lle cafodd ei gefnogi a’i gymeradwyo.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor:

 

  • StrategaethRheoli’r Trysorlys Drafft 2019/20
  • DatganiadPolisi Rheoli'r Trysorlys Drafft 2019/20 – 2021/22; a

·         Arferion a Rhestrau Rheoli’r Trysorlys Drafft 2019/20 – 2021/22

312.

Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys Dangosyddion Darbodus 2019/20 – 2021/22 pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys ystod o Ddangosyddion Darbodus sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf dros y cyfnod 3 blynedd 2019/20 – 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys adroddiad ar Ddangosyddion Darbodus 2019/20 – 2021/22 er cymeradwyaeth ac i’w argymell i’r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

Roeddyr adroddiad yn egluro’r angen am y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob un o'r adrannau. Roeddyr adroddiad hefyd wedi’i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y flwyddyn flaenorol a doedd dim sylwadau i'w bwydo'n ôl.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Y dylid cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor, a:

 

            (b)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r canlynol ac yn eu hargymell i'r Cyngor:

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2019/20 – 2021/22 fel y’u nodir yn Nhablau 1 a 4-7 o’r Strategaeth Gyfalaf.

·         Dirprwyoawdurdod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt wahân o fewn y terfyn dyledion allanol awdurdodedig a’r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 o’r Strategaeth Gyfalaf).

313.

Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb 2019 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb diwygiedig cyn ei gyhoeddi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad ar Bolisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb 2019 er cymeradwyaeth cyn ei gyhoeddi. Nod cyffredinol y polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb yw:

 

·         Dileugwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu;

·         Hyrwyddocyfle cyfartal; a

·         Meithrinperthnasau da rhwng cymunedau amrywiol

 

ynnarpariaeth gwasanaethau, nwyddau, gwaith a chyfleusterau, darpariaeth grantiau ac ymgysylltiad a phartneriaid y Cyngor.

 

            Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu nad yw’n ofyniad llunio a chyhoeddi polisi, fodd bynnag mae cyhoeddi polisi’n dangos ymrwymiad y Cyngor i gydraddoldeb ac i drin pawb yn deg. 

 

            Roeddyr adroddiad hefyd wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol a chafodd ei groesawu.

 

            Soniodd y Cynghorwyr Bithell a Jones am ddigwyddiad yr oeddent wedi cael y fraint o'i fynychu y diwrnod cynt, lle cafwyd cyflwyniad gan ddisgyblion Ysgol Alun yr Wyddgrug fel rhan o fis hanes LGBT yn ymwneud ag annog pobl i fod yn fwy goddefgar ac i dderbyn gwahaniaethau pobl eraill. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid Cymeradwyo’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth cyn ei gyhoeddi a’i weithredu, a

 

(b)       Nodi'rcamau sy’n cael eu cymryd i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n cwblhau'r modiwlau e-ddysgu ar gydraddoldeb.

314.

Monitro Cynllun y Cyngor Chwarter 3 (Hyd – Rhag 2018) pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        I gael sicrwydd o gynnydd yn ôl ymrwymiadau a blaenoriaethau Cynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19 a oedd yn adroddiad seiliedig ar eithriadau yn canolbwyntio ar feysydd o dan-berfformiad. 

 

Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu bod Sir y Fflint yn Gyngor uchel ei berfformiad fel y gellir ei weld o adroddiadau monitro Cynllun y Cyngor blaenorol, yn ogystal ag o Adroddiadau Perfformiad Blynyddol y Cyngor. Roeddyr ail adroddiad  monitro hwn ar Gynllun y Cyngor 2018/19 yn adroddiad cadarnhaol, gyda 92% o weithgaredd yn cael ei asesu fel bod yn gwneud cynnydd da, ac 85% yn debygol o wireddu’r canlyniad a ddymunir.  Ynychwanegol, roedd 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (61%), mân neu’n ddibwys (6%).

 

 O ran y statws RAG coch ar gyfer y nifer o ddyddiau calendr a gymerir ar gyfartaledd i ddarparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl, roedd hwn yn faes sydd wedi bod angen ei wella ers sawl blwyddyn. Roeddachosion h?n o 2017-18 yn effeithio ar berfformiad, gan eu bod yn dod a’r ffigwr i lawr o gymharu ag achosion y flwyddyn hon sy’n cael eu cwblhau gan ddilyn y prosesau newydd a gwell. Mae’r dystiolaeth fel a ganlyn:

 

 

 

·          Roeddpum addasiad a wnaed yn Chwarter 2 yn achosion a etifeddwyd o 2017/18 ac wedi cymryd 397 o ddyddiau ar gyfartaledd.

·          Cwblhawyd tri addasiad o hawliadau 2018/19, gan ddefnyddio’r ymdriniaeth newydd, ar gyfartaledd o 198 diwrnod.

 

 Unwaithyr oedd yr ôl groniad o waith wedi'i etifeddu wedi'i gwblhau yn ystod gweddill y flwyddyn, byddai perfformiad 2019/20 yn dangos gwelliant amlwg.  DiolchoddCyngorydd Attridge i’r Prif Weithredwr a'r swyddogion a oedd yn rhan o’r gwaith a wnaed i leihau nifer y dyddiau a gymerir i gwblhau Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Roedd y Cynghorydd Bithell hefyd yn croesawu'r gwelliannau, ond dywedodd bod angen lleihau nifer y dyddiau eto fyth.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y lefelau o gynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19 yn cael eu nodi a’u cymeradwyo; a

 

(b)       Bod y cynlluniau a'r camau gweithredu i reoli darpariaeth Cynllun y Cyngor 2018/19 wedi rhoi sicrwydd i'r Cabinet.

315.

Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 9) pdf icon PDF 147 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 9), a oedd yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roeddyr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 9 y flwyddyn ariannol.

 

            Roeddyr adroddiad yn rhoi rhagamcaniad o sut y byddai’r gyllideb yn sefyll ar ddiwedd y flwyddyn ariannol heb unrhyw newidiadau i’r gwariant a ragwelir a lefelau incwm. Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’rCyngor

 

  • Gwargedgweithredol o £0.233m (£0.026 miliwn ym Mis 8); a
  • Balansdisgwyliedig yn y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2019 o £7.885 miliwn a ostyngodd i £5.985 miliwn ar sail y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2019/20.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.026 miliwn yn is na’r gyllideb; a
  • Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165 miliwn.

 

 Nododd y Prif Weithredwr reolaeth ariannol dynn y gyllideb a oedd wedi arwain at y gwarged gweithredol rhagamcanol o £0.233m, sydd yn llai na'r mis blaenorol.

 

 Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio;  olrhain risgiau yn y flwyddyn a materion sy’n dod i’r amlwg ; lleoliadau y tu allan i’r sir; cyflawniad arbedion effeithlonrwydd yn y flwyddyn; risgiau eraill wedi’u holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion - risgiau ac effaith; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’radroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019; a

 

(b)       Nodilefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai.

316.

Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 9) pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth rhaglen gyfalaf Mis 9 (diwedd mis Medi) 2018/19 ar gyfer Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar Raglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 9) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2018/19 ers ei gosod ym mis Chwefror 2018 hyd ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2018, ar y cyd a gwariant hyd hynny a’r sefyllfa ariannol derfynol ragamcanol)

 

            Gwelwydcynnydd net o £0.903m yn y Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £3.133m (Cronfa’r Cyngor £4.110m, Cyfrif Refeniw Tai £0.977m); a

·         Swm net i’w ddwyn ymlaen i 2019/20, wedi'i gymeradwyo ym Mis 6 (£2.230m)

 

Y gwir wariant oedd £41.316m

 

Y sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer 2017/18 oedd diffyg ariannol o £0.068m. Bu sawl derbyniad cyfalaf yn y flwyddyn, cais am ddyraniad ychwanegol o £0.500m tuag at adleoli gwasanaethau i T? Dewi Sant a chynnydd bach mewn cyllid cyfalaf wedi’i gyhoeddi yn y Setliad Terfynol. Ynychwanegol, ym mis Tachwedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £100m ychwanegol o gyllid cyfalaf i’w ddyrannu rhwng 2018/19 a  2020/21. O ganlyniad i hyn i gyd, ynghyd â'r diffyg rhagamcanol gwreiddiol o £8.216m yn rhaglen gyfalaf 2018/19 - 2020/21, y diffyg ar gyfer y cyfrnod o dair blynedd ar hyn o bryd yw £1.428. Roeddhynny cyn unrhyw dderbyniadau cyfalaf ychwanegol neu ryddhad unrhyw gyllid arall.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo'radroddiad yn gyffredinol; a

 

(b)       Cymeradwyo’raddasiadau sydd i’w ddwyn ymlaen; a

 

(c)        Bod ariannu’r prosiect Cysylltedd Ysgolion a chilfan Ffordd Mount Pleasant yn cael eu cymeradwyo o’r ddarpariaeth ychwanegol wrth gefn   bresennol (Headroom)

317.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ddigidol pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar gynnydd a diffinio a chyflawni’r Strategaeth Ddigidol gyda chrynodeb o drafodaeth yn y gweithdy Strategaeth Ddigidol diweddar gydag Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwydyr adroddiad ar yr uchod gan y Cynghorydd Mullin ac roedd yn rhoi manylion am gynllun y rhaglen ddigidol sengl a fyddai’n helpu’r Cyngor i reoli ei adnoddau cyfyngedig yn fwy effeithiol a gwneud dewisiadau gwell a mwy gwybodus ynghylch blaenoriaethu.

 

            Egurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod nifer o faterion allweddol cysylltiedig â’r strategaeth ddigidol wedi eu harchwilio gyda'r Aelodau mewn sesiwn friffio ym mis Ionawr 2019, yn benodol:

 

·          I atgoffa pawb pam bod angen symud ymlaen â darpariaeth gwasanaethau digidol

·          Eglurhadar sut y gallai’r Cyngor sicrhau na chaiff unrhyw un eu cau allan o ganlyniad i ychwanegiad gwasanaethau ar-lein.

·          Trosolwgo’r gwasanaethau digidol presennol a’r gwersi a ddysgwyd wrth eu darparu; a

·         Disgrifiado'r camau nesaf sydd i'w lansio

 

Cydnabuwydfod datblygiad a darpariaeth y Strategaeth Ddigidol yn ymrwymiad tymor hir a fyddai’n gofyn am ymgysylltiad a thrafodaethau cyson gyda’r gwasanaethau, cwsmeriaid ac aelodau etholedig.  Ynunol â hynny, roedd ymrwymiad i adrodd i, a chael sgyrsiau'n barhaus gydag aelodau wrth i’r ddarpariaeth gychwyn.

 

            Ermwyn sicrhau bod safonau cyson yn cael eu defnyddio o ran y modd y caiff prosiectau eu dylunio a gwasanaethau eu moderneiddio, cytunwyd ar nifer o egwyddorion dylunio a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

            Mewnymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai dulliau amgen o gyfathrebu yn dal i fodoli ar gyfer y rhai hynny nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’rprif bwyntiau’n codi o friff mis Ionawr ar gyfer aelodau etholedig ar ddatblygiad gwasanaethau ar-lein ar gyfer cwsmeriaid; a

 

(b)       Cymeradwyo’regwyddorion dylunio a’r rhaglen ar gyfer darparu’r   Strategaeth Ddigidol.

318.

Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu ac i gyflwyno'r Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol a oedd yn nodi'r gwaith a wnaed i sicrhau bod y Cyngor wedi cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu.

 

            Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bob gwasanaeth ar draws y Cyngor, nid dim ond y rhai hynny sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ddiamddiffyn. Roeddcyfrifoldebau diogelu’r Cyngor wedi eu nodi mewn deddfwriaeth gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Cymru).  Daeth y Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016 ac mae’n rhoi dyletswydd ar holl staff awdurdodau lleol, aelodau etholedig a phartneriaid perthnasol i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau neu ddigwyddiadau a amheuir o gamdriniaeth neu niwed.

 

            EgluroddCynghorydd Mullin bod yr adroddiad yn nodi straeon o newyddion da, gan gynnwys sut y gwnaeth pryderon a godwyd gan is-gontractwr y Cyngor am ddiogelwch plentyn arwain at ymyrraeth y Gwasanaethau Cymdeithasol   Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i bob gweithiwr a chontractwr godi pryderon er mwyn sicrhau bod modd ymchwilio a chymryd camau gweithredu pan fo angen. Roedd y camau gweithredu allweddol sydd i'w cwblhau yn ystod 2019, ac a gytunwyd gan y Panel Diogelu Corfforaethol, wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y gall y Cabinet fod yn dawel eu meddwl bod gwaith yn cael ei wneud i wella trefniadau corfforaethol i ddiogelu plant ac oedolion, a

 

(b)       Bod yr Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol ar gyfer 2018 yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.

319.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 43 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

                        Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig, fel a ganlyn:

 

Tai ac Asedau

  • Gwerthianttir yn Ffordd Llanarth, Cam 2, Cei Connah

Mae’rtir dan sylw yn cynnwys tir maes glas sydd yn oddeutu 3.14 acer ger Ffordd Llanarth a Chanolfan Fanwerthu'r Ardal.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

320.

Cyfleuster Taliad Cyflym

Pwrpas:        Cymeradwyo cynllun talu anfonebau’n gynt i gyflenwyr a allai yn ei dro greu incwm i’r Cyngor.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar y Cyfleuster Talu Cyflymedig sy’n rhoi manylion am sut y gallai’r Cyngor dalu ei gyflenwyr yn gynt, ac o bosibl gynhyrchu incwm ar yr un pryd. Roeddmanteision llawn y cynllun wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i'r Cyngor gyflwyno Cyfleuster Taliadau Cyflymedig;

 

(b)       Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) ymgymryd ag ymarfer caffael a sefydlu contract gyda Darparwr Gwasanaeth yn unol ag egwddorion yr adroddiad.

 

(c)        Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Reolaeth Corfforaethol ac Asedau, i weithredu’r newidiadau angenrheidiol i bolisiau ac arferion y Cyngor yn ôl yr angen; a

 

(d)       Bod adolygiad o berfformiad ac effaith yn cael ei gynnal ymhen 12 mis.

 

321.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r Wasg yn bresennol a dim un aelod o’r cyhoedd.