Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim datganiad. |
|
Rhagolwg Ariannol a Cham Dau y Gyllideb 2018/19 PDF 81 KB Pwrpas: Ystyried yr adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar Gam Dau y Gyllideb 2018/19 ac i wneud argymhellion i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Ragolwg Ariannol a Cham Dau Cyllideb 2018/19 a oedd yn gofyn bod yr aelodau’n ystyried adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, yr oedd pob aelod wedi cael gwahoddiad iddo, ar Gam Dau y gyllideb ac i wneud argymhellion i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Cyflwynwyd y penderfyniadau drafft a wnaed gan y cyfarfod hwnnw o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i Aelodau'r Cabinet, sef:
1. Wedi ystyried opsiynau cyllideb Cam 2, y dylid nodi’r adroddiad a’r cynigion. 2. Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi; 3. Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Datganiadau Gwytnwch yn cael eu dosbarthu i’r holl Aelodau. 4. Bod manylion llawn yr asesiad o risgiau, effeithiau a chanlyniadau'r holl gynigion parthed y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr. 5. Bod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Addysg ac Ieuenctid yn cael eu cynnal ym mis Ionawr er mwyn edrych yn fanwl ar daliadau parcio ceir a chynigion par: cyllideb ysgolion, yn y drefn honno, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud; a 6. Bod adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.
Soniwyd yn benodol am y trefniadau ar gyfer Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Addysg ac Ieuenctid a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr i adolygu’r cynigion ar gyfer parcio ceir a’r gyllideb ysgolion a ddeilliodd o sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. O ganlyniad i gyfraddau amser ac oherwydd yr adroddir ar y gyllideb mewn tri cham erbyn hyn, barnwyd mai dyma’r ffordd orau i graffu ar faterion penodol fel rhan o’r broses.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod adborth yn cael ei dderbyn o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gydag argymhelliad i’r Cyngor ar Gam 2 o strategaeth y gyllideb.
(b) Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi; a
(c) Bod 6 argymhelliad drafft y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (gweler isod) yn cael eu derbyn a'u cymeradwyo. Nododd a chymeradwyodd y Cabinet Gam 2 o’r gyllideb i'r Cyngor Sir ar yr amod fod cynigion penodol ar gyfer cyllidebau ysgolion a thaliadau parcio yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Ionawr i’w hadolygu yn llawn er mwyn iddyn nhw adrodd yn ôl cyn unrhyw gytundeb terfynol ar y ddau faes hwn.
Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol: 1. Wedi ystyried opsiynau cyllideb Cam 2, y dylid nodi’r adroddiad a’r cynigion. 2. Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi; 3. Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Datganiadau Gwytnwch yn cael eu dosbarthu i’r holl Aelodau. 4. Bod manylion llawn yr ... view the full Cofnodion text for item 101. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd a dim ond un aelod o’r wasg yn bresennol. |