Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

186.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Shotton ddatgan cysylltiad personol o ran eitem 7 ar yr agenda – Adolygu’r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol.

 

                        Bu i’r Cynghorwyr Bithell a Butler ddatgan cysylltiadau personol o ran eitem 10 ar yr agenda – Prosiect Cyfalaf Theatr Clwyd. Bu i’r Prif Weithredwr hefyd ddatgan cysylltiad personol ynghylch yr eitem hon, ac yntau’n aelod o’r Bwrdd.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Shotton y câi eitemau rhif chwech (Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – Adolygu Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm) a rhif saith (Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol – Adolygu’r Polisi) eu trafod yn gyntaf.

187.

Cofnodion pdf icon PDF 102 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 22 Mai 2018 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2018 wedi eu dosbarthu gyda’r agenda a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

188.

Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – Adolygiad Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:         Hysbysu am yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol ar gyfer adolygiad Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 – Adolygu Ysgol Ardal Brynffordd a Licswm, a oedd yn gofyn i’r Cabinet benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chynnig statudol i newid trefniadaeth yr ysgol.

 

            Dechreuodd yr adolygiad fis Mehefin 2015 pan roddwyd ystyriaeth i ad-drefnu’r ddarpariaeth mewn tair ysgol, sef Rhos Helyg, Brynffordd a Licswm, gan fod pwyntiau sbardun wedi’u cyrraedd yn ôl polisi Moderneiddio Ysgolion y Cyngor. Fis Rhagfyr 2016 penderfynodd y Cabinet fwrw ymlaen ag ymgynghoriad statudol yngl?n ag uno ysgolion Licswm a Brynffordd ar un safle, a gadael Rhos Helyg fel yr oedd hi.

 

            Cyfarfu’r Cynghorydd Roberts â llywodraethwyr o Frynffordd a Licswm i glywed eu barn, yn ogystal â llywodraethwyr o Gilcain.Roedd llywodraethwyr Brynffordd o blaid uno, gan y gallai hynny ddenu buddsoddiad cyfalaf drwy raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Dymunai llywodraethwyr Licswm, fodd bynnag, greu ffederasiwn er mwyn sicrhau y byddai Ysgol Licswm yn aros yn ei chymuned. Ni lwyddodd yr ymdrechion i sefydlu ffederasiwn, ac felly fis Ionawr 2018, penderfynodd y Cabinet y byddai’n rhaid bwrw ymlaen â’r drefn ymgynghori statudol.

 

            Pwysleisiodd na chafodd y canlyniad ei ragderfynu ar unrhyw adeg o’r broses, a bod y Cyngor wedi bod yn deg ac yn agored wrth ymgynghori. Roedd pob ysgol dan adolygiad yn unigryw, ac roedd unrhyw benderfyniadau’n seiliedig ar rinweddau’r achos dan sylw. Gwelwyd tystiolaeth o hynny yn y gorffennol o ran y penderfyniadau a wnaethpwyd yngl?n â darparu addysg ôl-16 yn Sir y Fflint a chreu ffederasiwn rhwng Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Mornant. Cyrhaeddwyd sawl un o’r pwyntiau sbardun ym Mholisi Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, ac fe gydymffurfiodd y Cyngor â’r Cod yn llwyr wrth gynnal y drefn ymgynghori.

 

            Roedd yno bryderon gwirioneddol yngl?n â chynaladwyedd ysgolion bach yn y tymor hir yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac roedd y Cyngor am sicrhau y gallai llywodraethwyr ddal i fforddio penodi athrawon a staff cefnogi i weithio gyda’r dysgwyr yn y dosbarthiadau. Ar sail hynny, dywedodd y Cynghorydd Roberts na fedrai pethau aros fel yr oeddent. Gan ystyried fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o’r farn y dylid diogelu ysgolion bach ac ysgolion gwledig, galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi gwell eglurder yngl?n â’r polisi ar gyfer ysgolion bach a rhai gwledig, gan gynnwys diffinio ‘gwledig' ac esbonio’r sail resymegol ar gyfer dosbarthu ysgolion Sir y Fflint yn unol â’r polisi hwnnw. Gofynnodd hefyd i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei fwriad o ran cyllido ysgolion bach a rhai gwledig, gan ystyried pwysigrwydd y polisi i’r Llywodraeth, fel y gallai Cynghorau fel Sir y Fflint fod yn ffyddiog y byddai’r adnoddau angenrheidiol ar gael i sicrhau cynaladwyedd yn y dyfodol.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod nifer y disgyblion yn y naill ysgol a’r llall yn llai na’r isafswm a bennwyd yn angenrheidiol ar gyfer ysgol fach gynaliadwy.  Yn y ddwy ysgol roedd bron hanner y plant yn dod o’r tu allan i’r ardal, gan olygu bod lleoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 188.

189.

Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol - Adolygiad o'r Polisi pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:         Ystyried opsiynau ar gyfer darpariaeth cludiant dewisol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol – Adolygu’r Polisi. Nid oedd y polisi dan sylw wedi’i adolygu ers tro.

 

                        Nid oedd unrhyw farn wedi'i llunio o flaen llaw yngl?n â’r polisi, a oedd angen bod yn deg ac yn gynaliadwy i'r dyfodol. Byddai unrhyw adolygiad yn gwbl niwtral, a’r nod fyddai ymchwilio i anghenion dysgwyr, eu hawliau a’u disgwyliadau, ac nid y costau a fforddiadwyedd yn unig. Nid oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw gynigion i ddechrau codi tâl.

 

                        Roedd y Cyngor yn bendant ei ymroddiad at dwf addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddai’n rhaid i unrhyw bolisi ategu’r amcan hwnnw, yn hytrach na mynd yn groes iddo. Roedd y Cyngor yn ymfalchïo yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ei Gynllun Strategol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg.  Roedd y Cyngor hefyd yn bendant o’r farn bod yn rhaid hwyluso mynediad at addysg ffydd drwy ddarparu cludiant hygyrch a fforddiadwy.

 

                        Roedd angen i Goleg Cambria a’r Cyngor, fel partneriaid, drafod polisi oedd yn deg, yn gyson, yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy ar gyfer mynediad at gludiant mewn addysg ôl-16 yn y dyfodol. Roedd llawer o awdurdodau lleol eraill eisoes wedi diwygio eu polisïau yn y maes hwn.

 

                        Nid oedd yn argymell adolygu’r hawl i gludiant ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, na’r hawl i gludiant ar gyfer ysgolion enwadol. Cynigiodd y dylid cynnal adolygiad o’r hawl i gludiant ar gyfer addysg ôl-16, ynghyd â’r polisïau ar hawliau i Fudd-daliadau. Nid oedd unrhyw ganlyniadau wedi’u rhagderfynu ynghylch yr adolygiadau hynny, a thrwy'r drefn ymgynghori byddai’r Cyngor yn ystyried barn yr holl randdeiliaid a’r risgiau. Byddai’r Cabinet yn derbyn adroddiad llawn ar y drefn ymgynghori maes o law.

 

                        Lefel cymharol isel o gyllid oedd Cyngor Sir y Fflint yn ei dderbyn, ac roedd arno angen sicrhau digon o gyllid i gynnal y cymorthdaliadau’r oedd yn ei ddarparu ar gyfer cludiant. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn addysg yn y Gyllideb a’r Setliad i Lywodraeth Leol ar gyfer 2019/20, yn enwedig felly i hybu'r cynnydd y mae pawb yn dyheu amdano yn nifer y dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ategwyd hynny gan y Cynghorydd Bithell.

 

                        Soniodd y Cynghorydd Thomas am adroddiadau ar y newyddion nad oeddent yn wir nac yn fuddiol i’r cyhoedd. Cynigiodd y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru gynnwys addysg feithrin hefyd yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr, ac ariannu hynny, a chefnogwyd y cynnig hwnnw.

 

                        Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dadlau y dylai unrhyw gyfrifoldebau newydd, fel cynyddu nifer y dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gael eu hariannu’n ddigonol gan Lywodraeth Cymru.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nad oedd y Cabinet yn cytuno y dylid adolygu’r hawl i gludiant ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, na’r hawl i gludiant ar gyfer ysgolion enwadol ar hyn o bryd.

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cynnal adolygiad o’r hawl i gludiant ar gyfer addysg ôl-16 a’r polisïau ar hawliau i  ...  view the full Cofnodion text for item 189.

190.

Cynllun y Cyngor 2018-23 pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Argymell Cynllun y Cyngor i'w fabwysiadu gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch Cynllun y Cyngor 2018/19 a oedd yn amlygu’r amcanion a’r camau gweithredu yng nghyswllt pob un o’r blaenoriaethau, ac yn cyfeirio at faterion cenedlaethol a allai effeithio ar flaenoriaethau’r Cyngor neu atal eu cyflawni. 

 

            Roedd Gweithdy Aelodau a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi herio a chael trosolwg ar y cynnwys, gan gynnwys manylion y targedau a’r cerrig milltir.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2018/19 gan argymell bod y Cyngor yn ei

fabwysiadu; ac

 

(b)      Awdurdodi’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i benderfynu ynghylch ffurf ac arddull y cyhoeddiad gorffenedig.

191.

Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Cytundeb Llywodraethu pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:         Argymell y Cytundeb Llywodraethu i'r Cyngor i'w fabwysiadu'n ffurfiol fel partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch y Cytundeb Llywodraethu ar gyfer Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru, a oedd a wnelo â cham cyntaf y Cytundeb Llywodraethu.

 

            Roedd yn ofynnol cael Cytundeb Llywodraethu er mwyn ffurfioli’r trefniadau cyfansoddiadol a rhoi’r grym i'r Bwrdd benderfynu o fewn cyfyngiadau penodol. Y cam cyntaf wrth wneud cais fyddai cyfnod o baratoi a datblygu a fyddai’n para hyd ganol 2019. Yr ail gam, wedi cymeradwyo’r cais, fyddai gweithredu a chyflawni’r hyn a gynigiwyd, a byddai hynny’n dechrau ganol 2019.

 

            Nid diben yr adroddiad oedd cyflwyno cynnwys y cais am Fargen Twf yn fanwl, ond yn hytrach i gyflwyno’r Cytundeb Llywodraethu ar gyfer ei fabwysiadu. Byddai’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn pennu Cynnig Strategol ar gyfer y cais yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf, ac wedi cadarnhau hynny byddai aelodau'r cyrff sy’n bartneriaid yn ei dderbyn.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cytundeb Llywodraethu’n anarferol am fod arno angen sêl bendith y Cabinet a’r Cyngor, ac y byddai’r un mater yn ymddangos ar agenda cyfarfod y Cyngor Sir y prynhawn hwnnw.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, esboniodd y prif Weithredwr bod  y materion a gadwyd yn ôl yn diogelu democratiaeth leol, ac y byddai llawer iawn o ymgysylltu anffurfiol yn digwydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r cynnydd a wnaethpwyd wrth ddatblygu Cais am Fargen Twf, a'i groesawu;

 

 (b)      Cymeradwyo cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu, ar yr amod bod y Cyngor yn cymeradwyo’r trefniadau anweithredol;

 

 (c)       Cyflwyno’r drafft terfynol o’r Cais am Fargen Twf i’r Cyngor ei adolygu a’i gymeradwyo fis Medi/Hydref cyn mynd ymlaen i gytuno ar Benawdau’r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth;

 

 (ch)    Dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog (Llywodraethu), mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i bennu telerau terfynol y Cytundeb Llywodraethu yn unol â’r drafft oedd ynghlwm wrth yr adroddiad; a

 

 (d)      Cynnwys y trefniadau gweithredol yn y Cytundeb Llywodraethu yn y Cyfansoddiad, a gofyn i’r Cyngor gynnwys y trefniadau anweithredol yn y Cyfansoddiad yn yr un modd.

192.

Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol Mewn Cadwyni Cyflenwi pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:         Mabwysiadu Côd Ymarfer ar Gyflogaeth Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch y Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi, a luniwyd wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dogfen gyda’r nod o wella arferion caffael yng Nghymru a sicrhau gwell budd cymdeithasol wrth wario arian cyhoeddus.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cod yn adlewyrchu arferion a safbwyntiau’r Cyngor fel sefydliad oedd yn gymdeithasol gyfrifol ac yn foesol. Roedd rhannau ohono’n heriol, ac roedd y Cyngor wedi gwneud asesiad o effaith y cod; roedd 32 o 34 o’r gweithdrefnau yr oedd yn ofynnol eu sefydlu naill ai eisoes ar waith neu’n medru cael eu gweithredu. Roedd y Cod yn pennu rhai ymrwymiadau a allai fod yn amhosib eu cyflawni, ac roedd manylion yngl?n â hynny yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

            Holodd y Cynghorydd Thomas pwy oedd y cefnogwr Gwrth-gaethwasiaeth, a gwirfoddolodd y Cynghorydd Mullin. Mewn ymateb i gwestiwn arall, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cyngor eisoes wedi sefydlu trefniadau yn ei Reolau Gweithdrefnau Contractau a’i arferion caffael er mwyn atal ei gyflenwyr rhag gwneud llawer o’r pethau a fyddai’n groes i’r Cod.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Mabwysiadu’r Cod mewn partneriaeth â’r Undebau Llafur cydnabyddedig. Mae Sir y Fflint yn gorff cyhoeddus moesol a chyfrifol ac yn ymrwymo i’r egwyddorion sy'n sail i'r Cod;

 

 (b)      Gweithredu’r Cod cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol ac yn fforddiadwy, gan ddatblygu cynllun gweithredu mewn partneriaeth â’r Undebau Llafur cydnabyddedig lleol; ac

 

 (c)       Penodi’r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau yn gefnogwr gwrth-gaethwasiaeth.

193.

Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i beidio gweithredu paragraff 6.2 Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1) dros dro pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:         Cytuno ar ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1 – Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ynghylch Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynigion i Beidio Gweithredu Paragraff 6.2 Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1) dros dro.

 

            Drwy beidio â gweithredu’r paragraff dan sylw, rhoddid llai o bwysau ar ddiffyg cyflenwad tir am bum mlynedd wrth ystyried ceisiadau am ddatblygiadau tai tybiannol. Mesur dros dro fyddai hyn wrth i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad sylfaenol o’r modd y darparwyd tai yng Nghymru.

 

            Byddai hyn yn cyfrannu at liniaru rhai o'r gwasgfeydd eithafol y mae’r Cyngor a'i gymunedau yn eu hwynebu ar hyn o bryd, wrth orfod derbyn datblygiadau tybiannol. Roedd y cynnig wedi’i gefnogi’n llwyr, ac wrth ymateb i Lywodraeth Cymru cytunwyd y dylid rhoi pwyslais ar sicrhau y cynhelid adolygiad eang a chynhwysfawr cyn gynted â phosib.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi llwyr gefnogi’r cynnig. Mynegodd rwystredigaeth hefyd am nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi defnyddio ei phwerau i beidio â gweithredu paragraff 6.2 ar unwaith, fel y gellid rhoi blaenoriaeth i’r cais am dystiolaeth. Serch hynny, croesawodd y cyfle i ymateb o blaid y cynnig. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau oedd 21 Mehefin a gofynnodd i'r Aelodau ymateb yn uniongyrchol eu hunain hefyd. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r ymateb arfaethedig ac fe’i cymeradwywyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r sail ar gyfer ymateb i Lywodraeth Cymru fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad.

194.

Adroddiad Prosiect Cyfalaf Theatr Clwyd pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:         Nodi cynnydd ar y prosiect ailddatblygu cyfalaf ar gyfer Theatr Clwyd ac i gytuno i ryddhau cyfran y Cyngor o'r costau ar gyfer cam nesaf yr astudiaeth ddichonoldeb o fewn Rhaglen Gyfalaf a gymeradwywyd 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch Prosiect Cyfalaf Theatr Clwyd, a oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r cynnydd a wnaethpwyd gyda Llywodraeth Cymru, ac yn argymell y dylid rhyddhau’r arian a neilltuwyd yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y gwaith dylunio a datblygu manwl. Yna croesawodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol y Theatr, i’r cyfarfod.

 

            Er mwyn gweithredu’r cynllun a ffafriwyd, amcangyfrifwyd y byddai'n ofynnol cael £22 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £5 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a £3 miliwn yn lleol, gyda £1 miliwn yn dod gan y Cyngor. Roedd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi neilltuo cyllid ar gyfer y gwaith dylunio a datblygu manwl, ac yn fwy diweddar wedi neilltuo £5 miliwn arall ar gyfer y prosiect cyfalaf cyfan. Roedd y Cyngor wedi dyrannu arian cyfatebol yn y rhaglen gyfalaf i gynnal y gwaith dylunio a datblygu manwl, ar yr amod y byddai Llywodraeth Cymru yn cadarnhau’r swm y byddai’n ei gyfrannu.

 

            Dywedodd Liam Evans-Ford mai hwn oedd y pecyn cyllid mwyaf erioed i Gyngor Celfyddydau Cymru ei ddyrannu, a oedd yn dangos ei ymroddiad at Theatr Clwyd fel canolfan ddiwylliannol.  Y sbardun pennaf ar gyfer y cynllun oedd gwneud y Theatr yn fwy agored i’r cymunedau lleol, ac roedd hynny eisoes yn digwydd. Croesawodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad, gan ddweud bod y Theatr yn ganolbwynt ar gyfer cymunedau, gan gynnwys grwpiau dan anfantais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar sail anogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, bod y Cyngor yn cytuno i fwrw ymlaen â’r gwaith dylunio a datblygu manwl ar gyfer prosiect cyfalaf Theatr Clwyd ac yn rhyddhau’r cyllid sydd wedi’i neilltuo yn y rhaglen gyfalaf i gyflawni hynny.

195.

Trosolwg Perfformiad 2017/18 pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:         I adolygu meysydd tanberfformiad yn ystod 2017/18 a chytuno ar gamau gweithredu i wella perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch Trosolwg ar Berfformiad 2017/18 a oedd yn cynnwys manylion yngl?n â pherfformiad y Cyngor yn 2017/18, gan ystyried nodau ac amcanion Cynllun y Cyngor, ei fesuryddion â'r mesuryddion wedi'u meincnodi'n genedlaethol, sef y Mesuryddion Atebolrwydd Cyhoeddus.

 

            Ar y cyfan bu’r perfformiad yn dda, gyda'r rhan fwyaf o'r mesuryddion yn dangos y cyflawnwyd y targedau, a bod pethau wedi gwella wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen.  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu’r mesuryddion perfformiad hynny lle cafwyd dirywiad, lle na chyflawnwyd y targed o bell, neu lle’r oedd y perfformiad yn y ddau chwartel isaf yn ôl y meincnodi cenedlaethol. Cedwid golwg ar y mesuryddion a gytunwyd yn y categorïau hynny er mwyn eu hadolygu a chael trosolwg arnynt yn y dyfodol.

 

            Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi derbyn yr adroddiad ar 14 Mehefin a rhannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y canlyniadau o'r cyfarfod hwnnw:

 

·         Bod y Pwyllgor yn nodi a chefnogi’r perfformiad cadarnhaol cyffredinol;

·         Nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017;

·         Bod y Pwyllgor yn aros i’r cynllun gweithredu gael ei gyhoeddi gan y Cabinet i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd o danberfformiad sydd â statws Coch neu Felyn, gyda dirywiad mewn tueddiadau perfformiad; a

·         Rhoi gwybod i’r Cabinet y dylid israddio perfformiad o ran ôl-ddyledion rhent ac arfarniadau i risgiau Coch.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017, ynghyd â’r cynlluniau gweithredu bras sydd i’w derbyn fis Gorffennaf;

196.

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2018/19 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:         Cael cytundeb ar gyfer y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2018/19 a 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ynghylch Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2018/19, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r ffioedd y cynigiwyd eu codi yn 2018/19 a 2019/20 am wresogi yn adeiladau’r Cyngor oedd â systemau gwresogi cymunedol.

 

            Cyflwynwyd ffioedd newydd ar gyfer gwresogi ardaloedd cymunedol yn yr haf bob blwyddyn fel y gellid cael gwybodaeth fanwl gywir yngl?n â chostau’r flwyddyn o’r blaen, ac unrhyw arian dros ben neu ddiffyg yn y gronfa wrth gefn ar gyfer gwresogi.

 

            Roedd y tabl yn yr adroddiad yn argymell ffioedd gwresogi yn seiliedig ar faint o wres a ddefnyddiwyd go iawn yn 2017/18, gan dybio y byddai’r costau'n cynyddu 8% yn 2019/20 ac y byddai pobl yn defnyddio’r un faint o wres am y ddwy flynedd nesaf. Byddai’r ffioedd newydd yn dod i rym ym mis Awst fel bod y cynnydd yng nghostau’r tenantiaid yn digwydd dros gyfnod hwy o amser.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod llawer o gynlluniau tai cymunedol wedi cael systemau gwresogi newydd ar hyn y blynyddoedd, a bod y rheiny’n effeithlon iawn, yn darparu gwres yn dda heb ddefnyddio gormod o ynni. Roedd angen gwneud mwy o waith, fodd bynnag, ac roedd hynny'n parhau drwy weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru. Cyfeiriwyd at ddau gynllun lle’r oedd gwaith ar y gweill, sef y systemau cymunedol yn Panton Place, Treffynnon a Glan y Morfa, Cei Connah. Y bwriad oedd dechrau’r gwaith o wella’r systemau hynny yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r newidiadau yn y ffioedd a godwyd ar gyfer gwresogi yn adeiladau'r Cyngor oedd â systemau gwresogi cymunedol. Byddai’r holl newidiadau yn dod i rym ar 1 Awst 2018.

197.

Cynllun Adfywio Blaendraeth y Fflint pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:         Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion ynghylch datblygiad cynlluniau ar gyfer adfywio Blaendraeth y Fflint ac yn cynnig y dylid symud ymlaen at gam nesaf y gwaith heb unrhyw oblygiadau ariannol i Gyngor Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Adfywio Blaendraeth y Fflint, a oedd yn argymell mynd ymlaen i’r cam nesaf o ddatblygu Astudiaeth Ddichonoldeb Blaendraeth y Fflint a’r gwaith Ymchwil a Datblygu ar gyfer Celf Castell y Fflint. Roedd hynny’n cynnwys gwaith dylunio a datblygu manwl ar gyfer y cyfleuster ar y cyd, a gosod darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint. Byddai unrhyw gynnydd yn amodol ar gydsyniad y partneriaid eraill yn y gwaith.

 

            Diolchodd i’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) am y gwaith a wnaethpwyd ar gyfer y prosiect hwn, a fu’n heriol ar brydiau. Talodd y Cynghorydd Butler deyrnged hefyd i’r gwaith a wnaeth y Cynghorydd Roberts ar y prosiect.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn y canfyddiadau yn yr adroddiad o ddichonolrwydd adfywio Blaendraeth y Fflint a bwrw ymlaen â’r gwaith manylach, gan gynnwys: dylunio a datblygu manwl, datblygu’r pecyn cyllid cyfalaf, a chynllunio busnes manwl; ac

 

 (b)      Derbyn y canfyddiadau yn adroddiad Ymchwil a Datblygu Celf Castell y Fflint, a bwrw ymlaen i ddatblygu darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint, neu o’i gwmpas.

198.

Trwsio tyllau ffordd a pharato i’r Rhaglen Blynyddol o Ail-wynebu Ffyrdd pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:         I roi gwybod i'r Cabinet am y rhaglenni cynnal a chadw arfaethedig wedi'u cynllunio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Trwsio Tyllau yn y Ffordd a Pharatoi’r Rhaglen Flynyddol o Ail-wynebu Ffyrdd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r rhaglenni a gynigiwyd ar gyfer ail-wynebu ffyrdd yn 2018/19.

 

            Penderfynid yn ôl cyflwr y ffordd a’r tywydd a oedd hi'n gost effeithiol trwsio tyllau’n barhaol ynteu’u llenwi am y tro er diogelwch y ffordd. Rhoddwyd ystyriaeth i ragolygon y tywydd, swm yr adnoddau ar gael a chyflwr y rhwydwaith wrth gynllunio’r ymateb priodol o ran trwsio ffyrdd bob wythnos yn ystod y gaeaf.

 

            Yn ddelfrydol dymunai’r Cyngor barhau â’r sefyllfa bresennol, “Cyflwr Sefydlog”. Roedd yn ofynnol buddsoddi cyfalaf o £2,745,680 y flwyddyn i gynnal y sefyllfa honno. Ni fyddai buddsoddiad o’r fath ond yn cadw cyflwr y ffyrdd fel yr oeddent, a phrin oedd y Cynghorau yng Nghymru a fuddsoddodd i’r graddau hynny. Gwneid pob ymdrech i wneud y gorau o’r cyllid oedd ar gael ac i sicrhau y câi ei ddefnyddio i drwsio’r ffyrdd hynny'r oedd angen y sylw mwyaf arnynt.

 

            Roedd y Cyngor felly’n mynd ati’n ofalus i sicrhau’r buddion mwyaf posib wrth ddosrannu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal a chadw ffyrdd, ynghyd â dosrannu cyfalaf y Cyngor.  Archwiliwyd pob ffordd wrth ddatblygu’r rhaglenni ail-wynebu, ac roedd y manylion ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Soniodd y Cynghorydd Roberts am y gwaith ail-wynebu oedd ar fin digwydd ar yr A548, gan ofyn am osod arwyddion i draffig oedd yn dynesu at yr A458 yn rhybuddio yngl?n ag oedi hir. Fel hynny gallai gyrwyr fynd ffordd arall a gellid cwtogi ar dagfeydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r rhaglenni ail-wynebu ffyrdd.

199.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ystyried a yw’r adroddiad yn adlewyrchiad cywir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn nodi’r daith tuag at welliant ac yn gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

            Byddai’r adroddiad yn rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a byddai hefyd yn sail ar gyfer asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol.

 

            Cafodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gyfle ymlaen llaw i ymateb i'r adroddiad drafft a chynnig sylwadau, ac roedd hynny wedi dylanwadu ar y negeseuon allweddol a'r blaenoriaethau yn y drafft terfynol.

 

            Amlinellodd yr Adroddiad Blynyddol drafft y blaenoriaethau gwella a bennwyd ar gyfer 2018/19, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y bu’r gwaith a wnaethpwyd gyda’r sector gofal a’r rhanddeiliaid yn hanfodol, a bod gwybodaeth wedi’i ddarparu ar wefan ar y cyd, Gofal@Sir y Fflint, i helpu darparwyr gyda recriwtio a chadw staff, hyfforddiant, hysbysebu digwyddiadau, rhannu arferion da a rhwydweithio gyda’i gilydd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Jones i holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r arweinyddiaeth am gefnogi eu cynlluniau cyfalaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr Adroddiad Blynyddol.

200.

Rheoli Asedau Tai, Gwaith Cyfalaf – Caffael ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith Trwyddedig i Gael Gwared ar Asbestos ac gwaith Adferol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:         I uno’r broses o gael gwared ar asbestos drwy’r tair Sir a lleihau costau drwy weithredu arbedion maint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ynghylch Rheoli Asedau Tai, Gwaith Cyfalaf – Caffael ar y Cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer Gwaith Trwyddedig i Waredu Asbestos a Gwaith Adfer.  

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo trefniant ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych i gaffael gwasanaethau gan gontractwyr Gwaith Trwyddedig i Waredu Asbestos, a hynny drwy drefn gaffael Proactis.

 

Arfarnir pob cais ar sail y Tendr Mwyaf Manteisiol Yn Economaidd, gan ystyried y materion canlynol, yn nhrefn blaenoriaeth:Pris 70% ac Ansawdd 30%.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniant ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych i gaffael fframwaith o gontractwyr i gyflawni unrhyw waith oedd a wnelo ag asbestos.

201.

Cymeradwyaeth Costau Maes Gwern, yr Wyddgrug, Cynllun Rhaglen Dai ac Adfywio (SHARP) pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:         Gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Costau Maes Gwern, yr Wyddgrug, Cynllun  Rhaglen Dai ac Adfywio (SHARP).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ynghylch Cymeradwyo Costau Maes Gwern, yr Wyddgrug, Cynllun Strategol Tai ac Adfywio (SHARP), a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo camau allweddol nesaf y cynllun, a oedd yn cynnwys cynigion i ddatblygu 48 o gartrefi cymdeithasol newydd ym Maes Gwern, yr Wyddgrug, i’w gosod ar rent fforddiadwy ac ar delerau rhannu ecwiti.

 

            Dyluniwyd y cynllun arfaethedig wedi’i ar thema “pentref gardd”, gyda phwyslais ar y cysylltiadau rhwng y mannau cyhoeddus a phreifat, a chysylltiadau rhagorol i gerddwyr a beicwyr â chanol tref yr Wyddgrug.

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r gymysgedd o dai a gynigiwyd yn y cynllun.

 

            Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yngl?n â graddfa'r rhaglen SHARP, gan esbonio fod y Cyngor bellach wedi cwblhau 49 o dai newydd ar bum safle yng Nghei Connah, yr Wyddgrug a Choed-llai a’u bod wedi gosod i denantiaid.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad, ond gan grybwyll fod y cynllun a elwid yn Ysgol Delyn, yr Wyddgrug bellach wedi’i alw’n Llys Alexandra, ac fe nodwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo datblygu 48 o gartrefi cymdeithasol newydd ym Maes Gwern, yr Wyddgrug, i’w gosod ar rent fforddiadwy ac ar delerau rhannu ecwiti;

 

 (b)      Cymeradwyo Benthyca Darbodus hyd at £0.431 miliwn (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a dilysu terfynol) i ariannu’r datblygiad arfaethedig o gartrefi’r Cyngor; ac

 

 (c)       Cymeradwyo defnyddio £0.270 miliwn o’r cronfeydd wrth gefn rhannu ecwiti ar gyfer elfen fforddiadwy’r cynllun.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

201a

Approval of Costs for Maes Gwern, Mold, Strategic Housing and Regeneration (SHARP) Scheme (Confidential Appendix to Agenda Item Number 17)

202.

Gwasanaeth Caffael Ar y Cyd

Pwrpas:         Bod y Cabinet yn cytuno mynd i gytundeb lefel gwasanaeth am 3 blynedd pellach gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch Gwasanaeth Caffael ar y Cyd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Cytundeb Lefel Gwasanaeth arall gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael.

 

Roedd cyfnod tair blynedd y Cytundeb Lefel Gwasanaeth blaenorol wedi dod i ben.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Yn amodol ar wneud y newidiadau a ddisgrifir isod, bod y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu cytundeb lefel gwasanaeth am dair blynedd arall gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael; ac 

 

 (b)      Gwneud y newidiadau canlynol yn y dull darparu gwasanaeth:

1.    Mae angen hyrwyddo caffael cydweithredol lle mae’n briodol a ble bydd yn cyflawni arbedion;

2.    Mae angen i bartneriaid busnes, timau uwch reolwyr a Phrif Swyddogion fynd ati’n frwd i ymgysylltu â’i gilydd er mwyn amlygu prosiectau sydd ar y gweill a chontractau mawr fel y gellir cynllunio’r llwybr caffael ac ystyried cydweithredu;

3.    Annog darparu buddion cymunedol;

4.    Rhaid gosod targedau clir a phendant ar gyfer cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd trwy’r broses gaffael;

5.    Ymddengys bod y systemau a’r gwaith papur yn feichus ac mae angen eu hadolygu i sicrhau eu bod yn briodol at ddibenion mewnol ac nad ydynt yn dod yn rhwystr diangen i gwmnïau bach sydd am gyflwyno cynigion;

6.    Mae angen adolygu profiadau pawb ar ôl caffael contractau mawr;

7.    Mae angen i brif swyddogion gymryd mwy o ran yn y gwaith o gytuno ble i gael cydbwysedd rhwng y manteision posibl a risgiau’r broses gaffael; a

8.    Mae angen cyflwyno adroddiadau perfformiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cabinet ac Adnoddau Corfforaethol.

203.

Caffael Contract Asiantaeth Newydd

Pwrpas:         Penodi’r Cyflenwr a Ffafrir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch Caffael Contract Asiantaeth Newydd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cyflenwr oedd wedi’i argymell ar gyfer darparu gweithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth i’r Cyngor.

 

                        Fel rhan o’r gystadleuaeth gryno a gynhaliwyd, gwahoddwyd saith o gyflenwyr i gyflwyno tendrau, ac wedi hynny derbyniwyd tri thendr. Y cyflenwr argymelledig a gyflwynodd y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Penodi Matrix SCM yn gyflenwr staff asiantaeth dros dro gan ddefnyddio’r fframwaith MSTAR2; ac

 

 (b)      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) gadarnhau'r trefniadau a sefydlu contract priodol â Matrix SCM.

204.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd tri aelod o’r wasg a dau ar hugain o aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.