Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

172.

Datgan Cysylltiad

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Cafwyd datganiad cysylltiad personol gan y Cynghorydd Thomas yn eitem rhif 7 ar yr agenda – Mabwysiadu Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol – Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

                        Cafwyd datganiad cysylltiad personol gan y Cynghorydd Bithell yn eitem rhif 10 ar yr agenda – Model Bwrdd Llywodraethu Diwygiedig ar gyfer Theatr Clwyd. Derbyniwyd datganiad cysylltiad personol gan y Prif Weithredwr yn yr eitem hon hefyd oherwydd roedd yn aelod o’r Bwrdd.

 

                        Cafwyd datganiadau cysylltiad personol a rhagfarnus gan y Cynghorwyr Attridge a Jones yn eitem rhif 13 ar yr agenda – Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Cona – Amrywiad i’r Contract Arfaethedig.

173.

Cofnodion pdf icon PDF 108 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 24 Ebrill 2018 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 wedi eu dosbarthu gyda’r agenda a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

174.

Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18 pdf icon PDF 189 KB

Pwrpas:        Nodi a mabwysiadu Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor am 2017/18. Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi perfformio'n dda ac yn unol ag adroddiadau monitro blaenorol ar gyfer Cynllun y Cyngor a’r adroddiadau Perfformiad Blynyddol.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod hwn yn adroddiad alldro cynnar gyda’r gwahanol feysydd gwasanaeth yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad llawn.

 

            Lle nad oedd targedau wedi cael eu cwrdd, neu lle dangosodd ddangosydd perfformiad statws RAG coch, byddai cynllun gweithredu’n cael ei gynhyrchu i edrych yn fanwl ar ba gamau y gellid eu cymryd i atal tanberfformio yn y dyfodol ac a ddylid cario’r dangosydd drosodd i Gynllun y Cyngor 2018/19 i gadw ei broffil. Byddai’r cynlluniau gweithredu’n cael eu hadrodd yn gyntaf i’r Cabinet.

 

            Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 83% o'r gweithgareddau wedi’u hasesu i fod wedi gwneud cynnydd da, a 74% wedi cyflawni’r canlyniad oedd mewn golwg.  Dangosodd y dangosyddion perfformiad gynnydd da, gyda 56% wedi cwrdd neu'n agos at darged y cyfnod.  Roedd risgiau’n cael eu rheoli’n llwyddiannus gyda’r mwyafrif wedi eu hasesu i fod yn gymedrol (63%), mân (8%) neu'n ddibwys (6%).  Ar y risgiau, eglurodd fod y rhan fwyaf wedi eu dylanwadu gan ffactorau allanol fel newidiadau cyllid.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)       Bod y lefelau cynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn cael eu nodi a’u cadarnhau; a

 

(b)       Y dylai’r Cabinet gael ei sicrhau gan y cynlluniau a’r gweithredu i reoli'r gwaith o ddarparu Cynllun y Cyngor 2017/18.

175.

Strategaeth Adfywio Gogledd Cymru a’r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Strategaeth Adfywio Gogledd Cymru a’r dull cydweithredol arfaethedig yng ngogledd Cymru i weithredu’r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) adroddiad ar y Strategaeth Adfywio Ranbarthol a Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI). 

 

Lansiodd Llywodraeth Cymru (LlC) y Rhaglen TRI i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau adfywio ar draws Cymru. Roedd y cyllid yn amodol ar gyflwyno strategaeth adfywio ranbarthol a mabwysiadu dull blaenoriaeth ranbarthol o ddatblygu cynigion buddsoddi. 

 

Roedd strategaeth adfywio ddrafft wedi cael ei datblygu o fewn yr amserlen heriol a osodwyd ar gyfer y broses, a dull cydweithredol wedi’i fabwysiadu ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu buddsoddiad, ac i dargedu’r adnoddau prin at ardaloedd adfywio blaenoriaeth a phrosiectau thematig a fyddai’n defnyddio tair blynedd gyntaf y rhaglen TRI.

 

Roedd strategaeth adfywio ddrafft Gogledd Cymru’n cynnig deuddeg o drefi fel ardaloedd adfywio blaenoriaeth, a chawsant eu rhestru yn yr adroddiad. Cafodd y trefi hyn eu hadnabod ar sail eu safle ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer amddifadedd. Roedd safleoedd trefi Treffynnon a Shotton yn Sir y Fflint yn 7fed ac 8fed. Roedd dau brosiect thematig a allai gael eu gweithredu i’r trefi yn Sir y Fflint, sef adnewyddu tai ac adeiladau allweddol.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r strategaeth adfywio ranbarthol ddrafft i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

176.

Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        I drafod yr adolygiad seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a cheisio cyfraniad y Cabinet at waith y Gweithgorau cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ar yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi manylion a’r camau nesaf yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol.

 

            Roedd y galw am ofal iechyd a chymdeithasol wedi cynyddu’n aruthrol dros yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd hyn wedi creu her sylweddol i’r gwasanaethau cyhoeddus a phenderfynodd Llywodraeth Cymru (LlC) sefydlu’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adnabod sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus ragweld ac ymateb yn well i’r galw newydd arnynt.

 

            Ar sail canfyddiadau’r ymgynghori a’r fforymau rhanddeiliaid, gwnaeth yr adroddiad terfynol ddeg o argymhellion i LlC oedd yn adlewyrchu canfyddiadau Adroddiad Interim Gorffennaf 2017 yn agos. Cafodd yr argymhellion eu crynhoi yn yr adroddiad.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod manylion wedi dod i law am Gronfa Arloesi a Thrawsnewid a bod £100m ar gael ar draws Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.  Y disgwyl oedd y byddai Gogledd Cymru’n derbyn tua £10m ac y byddai proses fidio’n dechrau ym mis Mehefin.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Thomas pa mor bwysig oedd helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain er mwyn osgoi ynysu cymdeithasol a bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan allweddol o hynny.  Awgrymodd y gellid defnyddio peth o’r cyllid o’r Gronfa Arloesi a Thrawsnewid i’r pwrpas hwn. Croesawyd yr awgrym gan y Prif Swyddog a eglurodd fod argymhelliad 7: 'Harneisio arloesi a chyflymu datblygiadau technoleg a seilwaith’ wedi’i anelu’n benodol at bethau o’r fath. Dywedodd y Cynghorydd Shotton y gallai elfen strategaeth ddigidol argymhelliad rhif 7 gael ei chysylltu i'r cais ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Cymeradwyo’r ymateb i’r adroddiad; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn cyfrannu at y gwaith cenedlaethol drwy drefnu bod Cyngor Sir y Fflint yn cael ei gynrychioli ar Fwrdd Rhaglen Ranbarthol Gogledd Cymru.

177.

Mabwysiadu Nodyn Canllaw Cynllunio Atodol – Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth derfynol i fabwysiadu Canllaw Cynllunio Atodol yn ffurfiol ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol (AHN). Mae’r CCA wedi’i baratoi ar y cyd gan Cynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam ac mae wedi bod yn destun ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol.  Mae’r CCA yn cael ei argymell ar gyfer mabwysiadu gan y tri Awdurdod Cynllunio Lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar Fabwysiadu Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (SPG) – Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AoHNE) yn gofyn am gymeradwyo terfynol ar gyfer mabwysiadu’r SPG yn ffurfiol.

 

            Roedd yr SPG wedi cael ei baratoi ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint, Dinbych a Wrecsam ac wedi bod yn destun ymgynghori helaeth gyda’r cyhoedd. Yr argymhelliad oedd bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol yn mabwysiadu’r SPG.

 

            Nod yr SPG oedd gwella ansawdd datblygu yn ac o gwmpas yr AoHNE a sicrhau bod yr Ardal yn ystyriaeth ddylunio ar ddechrau un y broses o ddylunio datblygiad. 

 

            Siaradodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) am yr atodiadau oedd yn rhoi crynodeb o’r sylwadau a’r ymatebion a’r newidiadau oedd yn cael eu hargymell, a’r SPG diwygiedig yn dangos y diwygiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) fel bod gan yr Ardal bwysau fel ystyriaeth gynllunio o bwys wrth ystyried ymholiadau, ceisiadau ac apeliadau cynllunio perthnasol.

178.

Ansawdd Aer yn Sir y Fflint pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        I roi trosolwg o’r canfyddiadau o Adroddiad Ansawdd Aer rhanbarthol, a baratowyd yn Awst 2017 ac argymell sut y gall Cyngor Sir y Fflint wneud mwy i hybu ystyriaethau ansawdd aer pan wneir penderfyniadau strategol a gweithredol allweddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar Ansawdd yr Aer yn Sir y Fflint oedd yn rhoi trosolwg a chanfyddiadau o’r Adroddiad Rhanbarthol ar Ansawdd yr Aer ac yn argymell sut y gallai’r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo ystyriaethau ansawdd aer wrth wneud penderfyniadau strategol a gweithredol allweddol.

 

            Y brif ffynhonnell llygredd aer yn Sir y Fflint oedd allyriadau o gerbydau ar y prif ffyrdd yn cysylltu Lloegr i weddill Gogledd Cymru, ar hyd yr A55 a'r A494 er enghraifft. Roedd rheoli ansawdd yr aer yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus ac roedd angen cydweithio'n lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol i wella’r aer yr oedd pobl yn ei anadlu.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i gyfarfod diweddar o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd lle’r oedd wedi’i gefnogi’n lawn.   Croesawodd yr aelodau’r adroddiad a chyfeiriwyd at ardaloedd o lygredd aer drwg fel yr A494, Parc Siopa Brychdyn a’r cyffiniau, a’r tu allan i ysgolion.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Annog holl bolisïau a phenderfyniadau Cyngor Sir y Fflint, lle’r oedd hynny’n briodol, i ystyried yn rhagweithiol beth fyddai’r effaith ar ansawdd yr aer;

 

(b)       Y dylai gwaith y Cyngor gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel rhan o'u thema amgylcheddol, hyrwyddo dull amlasiantaethol o wella ansawdd yr aer; a

 

(c)        Nodi cynnwys adroddiad cyfunol rhanbarthol Gogledd Cymru ar Ansawdd yr Aer. O ganlyniad i’r asesiad, nodir hefyd nad oes angen uwchgyfeirio unrhyw weithredu ac y bydd parhau i fonitro’r sefyllfa’n ddigon i gwrdd â’n hymrwymiadau cyfreithiol.

179.

Adroddiad Sir y Fflint yn Cysylltu pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar y ddarpariaeth bresennol o ran y gwasanaeth, datblygiadau a'r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi eu cyflawni. Cytuno ar gyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol yn unol â’r Strategaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad yn rhoi Diweddariad ar Sir y Fflint yn Cysylltu yn nodi’r cynnydd hyd yma gyda throsglwyddo gwasanaethau wynebu'r cwsmer i Sir y Fflint yn Cysylltu fel y gallai cwsmeriaid dderbyn ymateb i'w ymholiadau drwy’r pwynt cyswllt cyntaf bob tro lle’r oedd hynny’n bosib. 

 

Roedd cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar draws nifer o wasanaethau, gan gynnwys atebion tai, bathodynnau glas a refeniw a budd-daliadau gan olygu bod arbedion wedi bod yn bosib gyda swyddogaethau cefn swyddfa.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhai newidiadau ar y gweill i wneud arbedion pellach heb orfod cau'r un o’r canolfannau, a hyn i’w gyflawni drwy newid yr oriau agor o fis Mehefin 2018. Ar sail y galw a’r pwysau presennol a’r ffigurau is yn galw heibio ym Mwcle, eglurodd fod y ganolfan bellach wedi'i lleoli ar y llawr gwaelod a’i bod yn gwbl hygyrch i bawb; roedd wedi’i lleoli ar lawr cyntaf yr adeilad o’r blaen.  Byddai swyddogion yn mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Bwcle yn y dyfodol i ofyn iddynt helpu gyda hyrwyddo’r ganolfan Cysylltu gyda phreswylwyr lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

            (a)       Nodi’r diweddariad ar wasanaeth Sir y Fflint yn Cysylltu; a

 

(b)       Nodi rôl gwasanaeth Sir y Fflint yn Cysylltu gyda chefnogi’r Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol.

180.

Diweddariad gan Theatr Clwyd am Aelodau’r Bwrdd pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Cytuno ar Aelodau’r Bwrdd ar gyfer blwyddyn 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) yr adroddiad ar Fodel Bwrdd Llywodraethu Diwygiedig ar gyfer Theatr Clwyd yn rhoi diweddariad ar gynnydd y gwaith gyda diwygio’r model ar gyfer Bwrdd Llywodraethu’r Theatr, gan gynnwys cynnig penodi unigolion i fod ar y Bwrdd.

 

            Roedd y rhestr o 13 unigolyn a gynigiwyd fel Aelodau Bwrdd am y flwyddyn 2018/19 wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r camau nesaf gyda gloywi a diwygio’r model ar gyfer y Bwrdd Llywodraethu fyddai cynefino ar gyfer holl Aelodau’r Bwrdd ar ddechrau Mehefin, hyn i’w ddilyn gan gyfarfod cyntaf y Bwrdd nes ymlaen yn y mis. Byddai cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bwrdd yna’n dod yn ôl o flaen y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo penodi’r 13 Aelod Bwrdd a restrwyd yn yr adroddiad, ac yn unol â’r model newydd ar gyfer y Bwrdd a gadarnhawyd gan y Cyngor.

181.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWYDD) 2018/27 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes) 2108/27.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ar Gynllun Busnes North East Wales (NEW) Homes oedd yn gofyn cymeradwyo’r Cynllun Busnes a’r broses arfaethedig ar gyfer cymeradwyo benthyciad newydd i NEW Homes i ddatblygu neu brynu tai fforddiadwy yn Sir y Fflint.

 

            Roedd y Cynllun Busnes yn cyflwyno elfennau allweddol o gynllun twf arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer yr eiddo a reolir ac a berchenogir fel tai fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf.

 

            Mae Bwrdd NEW Homes wedi adolygu datblygiad y cwmni a’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn amcanion gwreiddiol y Cynllun Busnes a arweiniodd at Gynllun Busnes diwygiedig ar gyfer NEW Homes.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau), fel rhan o’r broses adolygu, yr ystyriwyd tri phrif faes portffolio yn erbyn y rhagolygon a wnaed yn y Cynllun Busnes gwreiddiol. Y rhain oedd:Y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), Unedau Adran 106 a Thai Gosod a Reolir, gyda’r manylion llawn yn yr adroddiad.

 

            Canmolodd y Cynghorydd Roberts y gwaith a wnaed yn ei ward lle’r oedd tai wedi’u codi yn lle’r unedau meisonét anaddas, gan helpu i drawsnewid canol tref y Fflint.   Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod prinder cartrefi fforddiadwy i’w rhentu o hyd, a chyfeiriodd at Lys Alexandra yn yr Wyddgrug fel datblygiad llwyddiannus.  Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y cwestiwn polisi o gartrefi fforddiadwy’n cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Cynllun Busnes NEW Homes ar gyfer 2018/2027; a

 

(b)       Rhoi awdurdod o dan bwerau dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, drwy ymgynghori ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid, i gymeradwyo benthyca darbodus pellach drwy’r Cyngor (hyd at uchafswm o £10m) i’w fenthyca ymlaen i NEW Homes er mwyn datblygu neu brynu cartrefi fforddiadwy. Hyn ar yr amod bod NEW Homes yn cwrdd â’r paramedrau benthyca cytunedig yn Atodiad 2 yr adroddiad.

182.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 53 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Roedd y camau a gymerwyd fel a ganlyn:-

 

Strydlun a Thrafnidiaeth

  • Gorchymyn (Traffig Un Ffordd) (Alexandra Road a Victoria Road, Yr Wyddgrug) Cyngor Sir y Fflint 201.

Hysbysu'r Aelodau o wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu system Un Ffordd ar gyfer Alexandra Road a Victoria Road yn Yr Wyddgrug.

 

  • Gorchymyn (Gwahardd Gyrru) (Ac Eithrio ar gyfer Mynediad) (Tyddyn Street, Yr Wyddgrug) Cyngor Sir y Fflint 20-

Hysbysu’r Aelodau o wrthwynebiad a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu Gorchymyn (Gwahardd Gyrru) (Ac Eithrio ar gyfer Mynediad) Tyddyn Street, Yr Wyddgrug 201.

 

Newid Sefydliadol

  • Gwerthu 34.56 acer o dir gwag yn Wood Farm, Sandy Lane, Kinnerton CH4 9BS.

Mae’r tir i gael ei werthu i denant Hope Hall Farm, Yr Hob, ar ôl iddo ildio ei Denantiaeth Busnes Fferm yn y cyfeiriad hwnnw a symud wedyn i Wood Farm.

 

  • Ardrethi Busnes – Cais am Ryddhad Ardrethi ar Sail Caledi

O dan adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae gan y Cyngor ddisgresiwn i leihau neu ryddhau rhywun o dalu ardrethi lle mae’n fodlon y byddai’r trethdalwr yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny a lle byddai’n rhesymol iddo wneud hynny ar ôl ystyried buddiannau trethdalwyr y Cyngor. Mae cais a dderbyniwyd gan drethdalwr oedd yn rhedeg busnes partneriaeth yn Saltney, a’r busnes hwnnw heb fod yn masnachu mwyach, wedi’i wrthod ar y sail na chredir y byddai dyfarnu Rhyddhad Ardrethi ar Sail Caledi o fudd i’r cyhoedd yn gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau sydd i’w cymryd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol oherwydd gwybodaeth esempt o dan baragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

183.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Connah – Amrywiad Contract Arfaethedig

Pwrpas:        Ystyried cyflymu Cam 2 o gynllun buddsoddi Ysgol Uwchradd Cei Connah gan ddefnyddio cyllid Band B ac amrywiad contract i alluogi arbedion effeithlonrwydd prosiect o tua £220K.

Cofnodion:

Ar ôl datgan buddiannau personol a rhagfarnus yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr Attridge a Jones yr ystafell ar gyfer yr eitem hon.

 

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Prosiect Ysgol Uwchradd Cei Cona – Bwriad i Amrywio Contract oedd yn gofyn am ganiatâd i gomisiynu Kier Construction ar gyfer cam un y Contract Dylunio ac Adeiladu dau gam ar gyfer Cyfnod 2 y prosiect gwelliannau cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Cona.

 

                        Byddai angen cyflwyno Achos Cyfiawnhad Busnes (BJC) llwyddiannus i Lywodraeth Cymru (LlC) oherwydd roedd yn disgyn o dan y gwerth ariannol a fyddai’n golygu gorfod cyflwyno Achos Busnes Llawn (FBC).

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Cabinet yn cefnogi a chymeradwyo cychwyn ar gam un y Contract Dylunio ac Adeiladu dau gam gyda Kier Construction, ar gyfer Cyfnod 2 y rhaglen adeiladu.O dan Gyfnod 1, bydd y gwaith dylunio manwl a chadarnhau costau yn cael ei wneud ar yr un pryd ag y bo'r contractwr / tîm presennol a gwaith adeiladu Cyfnod 1 yn digwydd ar y safle.

184.

Adeilad Newydd Canolfan Ddydd Anableddau Dysgu Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfleoedd Gwaith – Comisiynu Contract

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer contract prosiect datblygu Cyfalaf ar gyfer disodli Canolfan Ddydd Anableddau Dysgu a Chyfleodd Gwaith yn Queensferry.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar Gomisiynu’r Contract ar gyfer Canolfan Newydd Anableddau Dysgu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Darparu Cyfleoedd Dydd a Gwaith oedd yn gofyn caniatâd i gontractio gyda Kier Construction ar gyfer Canolfan Newydd Anableddau Dysgu’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Darparu Cyfleoedd Dydd a Gwaith yn Queensferry.

 

                        Roedd costau dangosol y prosiect fymryn yn uwch na’r dyraniad a neilltuwyd yn y rhaglen gyfalaf a chais ydoedd i gymeradwyo uchafswm pris contract hyd nes y cyflwynir prosesau peirianyddol gwerth pellach i leihau costau lle byddai hynny’n bosib.

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr fod llythyr wedi’i ddrafftio ar gyfer Llywodraeth Cymru (LlC) yn gofyn am gyllid ychwanegol i gefnogi’r prosiect ac ychydig o gyllid cyfalaf, oedd wedi’i gefnogi gan Aelodau’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Cabinet yn cefnogi a chymeradwyo’r contract gyda Kier Construction i adeiladu a darparu Canolfan Newydd Anableddau Dysgu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Darparu Cyfleoedd Dydd a Gwaith yn Queensferry ond y dylid cadw o fewn y terfynau ariannol yn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn gofyn i Lywodraeth Cymru am arian cyfalaf atodol i gwrdd â’r amcangostau ychwanegol.

185.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.