Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

160.

Datgan Cysylltiad

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Dim.

161.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 20fed Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2018 wedi eu cylchredeg gyda’r rhaglen a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

162.

Cynllun y Cyngor 2018/19 pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo amlinelliad o Gynllun y Cyngor 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad o Gynllun y Cyngor 2018/19, a eglurodd fod y Cyngor yn cael ei adolygu a’i adnewyddu i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor.

 

            Mae gweithdy i’r holl Aelodau wedi’i drefnu ar gyfer 29 Mai 2018, pan fyddai cynnwys y Cynllun drafft yn cael ei rannu ochr yn ochr â meysydd targed allweddol ar gyfer mesurau cenedlaethol.  Roedd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y rôl ffurfiol o adolygu'r Cynllun, a fyddai'n cael ei wneud gyda budd y gweithdy Aelodau. 

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai adroddiad ar gynnydd oedd hwn a bod diweddariad llafar wedi'i roi yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol.  Byddai Cynllun y Cyngor yna'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor Sir 19 Mehefin i'w fabwysiadu, a fyddai'n bodloni dyddiad cau statudol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)                   Cymeradwyo i barhau â strwythur amlinellol Cynllun y Cyngor

                                    2018/19; a

 

(b)                   Chymeradwyo’r broses o ymgysylltu ag Aelodau yn natblygiad y

Cynllun.

 

163.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint: Cynllun Lles ar gyfer Sir y Fflint 2017 - 2023 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth i'r Cynllun Lles Gwasanaeth Cyhoeddus terfynol ar gyfer Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (BGC): Cynllun Lles Sir y Fflint 2017/23, a roddodd drosolwg o waith y Bwrdd a datblygiad y Cynllun. 

 

Roedd y Cynllun wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â Chynllun y Cyngor, gan ddarparu aliniad a chydweddiad cryf â’r blaenoriaethau.  Roedd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yn hwyrach ymlaen y diwrnod hwnnw er mwyn ei fabwysiadu.

 

                        Mae BGC Sir y Fflint yn cynnwys uwch arweinwyr o nifer o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol.  Fe weithiodd pawb yn dda iawn gyda'i gilydd, gan ddangos creadigrwydd, parodrwydd ac atebolrwydd, o fewn fframwaith arweinyddiaeth cryf.

 

                        Roedd gweithdy Aelodau diweddar wedi’i gynnal lle cafwyd sylwadau cadarnhaol.       

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynllun Lles yn cael ei gefnogi fel partner statudol ac fel y partner arweiniol ar gyfer cydlynu’r Cynllun cyn ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.

164.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig - Rhagolwg 2019/20 pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y gwaith parhaus ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ac i ddiweddaru'r rhagolygon ar gyfer 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton adroddiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig – Rhagolwg 2019/20, a ddarparodd y trosolwg manwl cyntaf o’r rhagolwg ariannol ar gyfer 2019/20.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, lle croesawyd ac y gwerthfawrogwyd rhagolwg cynnar o’r gyllideb ar gyfer 2019/20.  Gwnaed sylw ar sut y gallai cynigion effeithio ar grwpiau o bobl, pan edrychwyd ar atebion cyllideb ar gyfer gwasanaethau.  Gan fod y broses gyllideb yn dechrau’n fuan, byddai hyn yn galluogi bod unrhyw oblygiadau'n cael eu hystyried.  Ychwanegodd fod adnoddau o Gyllid Allanol Cyfun (AEF) a Threth y Cyngor wedi’u dangos ar yr un lefel â 2018/19 ar y cam hwn, ar gyfer dibenion cynllunio cymharol.

 

Roedd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyfansoddiad yn hwyrach ymlaen yr wythnos honno ar broses y gyllideb, a’r opsiynau posibl ar gyfer adrodd.

 

Tynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sylw at effeithiau ar y rhagolwg o’r gyllideb, a fanylwyd arno’n llawn yn yr adroddiad. Y meysydd oedd: defnyddio cronfeydd wrth gefn a gollwyd; costau gweithlu; gofynion gofal cymdeithasol; costau ysgol; a chorfforaethol/chwyddiant.  Arweiniodd hyn at fwlch yn y gyllideb a ragwelwyd o £10.6m. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Attridge y pwysigrwydd o gyfarfodydd brys gydag Aelodau Cynulliad (ACau) ac Aelodau Seneddol (ASau) i dynnu sylw at y pwysau a wynebai’r Cyngor.  Teimlodd eu bod nhw angen arwain ar gyfer y Cyngor ar y lobïo a fyddai’n ofynnol.  Cefnogodd Aelodau sylwadau’r Cynghorydd Attridge, gan ychwanegu, er croesawyd grantiau cyllid cyfalaf, byddai’n haws i Gynghorau gynllunio cyllidebau os oedd arian ar gael ar y cyfle cynharaf.  Gwnaed sylw hefyd ar bwysau ychwanegol a osodwyd ar Gynghorau nad oedd yn cael eu hariannu, fel y Mesur Anghenion Ychwanegol, y dylid eu hariannu’n genedlaethol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sylw ar effaith dyfarniad cyflog athrawon nad oedd wedi’i gynnwys yn y rhagolwg, gan mai barn y sector oedd y dylai fod yn bwysau cost a ariennir yn genedlaethol.  Ychwanegodd os oedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn cefnogi cynnydd bach mewn AEF a’r pwysau gofal cymdeithasol dan arweiniad y farchnad, a phwysau cost dethol eraill, gallai’r Cyngor fod yn ddau draean o’r ffordd i gau bwlch y gyllideb.  O ran y gweithlu, dywedodd fod yna wydnwch cyfyngedig mewn sawl maes gwasanaeth.  Fodd bynnag, roedd yn falch o gael adrodd fod gan y Cyngor un o’r cyfraddau isaf o lefelau salwch yng Nghymru, a oedd o ganlyniad i ymroddiad staff, i raddau helaeth.

 

Daeth y Cynghorydd Shotton i’r casgliad y gallai Aelodau gymryd nerth o'r ffaith bod proses y gyllideb yn dechrau'n gynt, a oedd yn rhoi'r cyfle a'r amser i weithio gyda phob Aelod o'r Cyngor.

 

 

PENDERFYNWYD:

           

Bod y rhagolwg a ddiweddarwyd yn cael ei fabwysiadu fel sail i’r cynllunio cychwynnol.

165.

Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg Drafft pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg drafft pum mlynedd ar gyfer ymgynghori ffurfiol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Drafft, a gyflwynodd Strategaeth ddrafft o bum mlynedd i Sir y Fflint, i gael cymeradwyaeth cyn ymgynghori'n ehangach.  

 

Nododd y Strategaeth sut y gallai'r Cyngor weithio gydag asiantaethau partner ac eraill yn y gymuned, fel Cynghorau Tref a Chymuned a busnesau.

 

Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu fod y Strategaeth wedi’i chyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, lle cafodd ei chefnogi a’i chymeradwyo.

Rhoddodd y Prif Weithredwr sylw ar yr eglurhad a geisiwyd yn y cyfarfod hwnnw ar ddata yn nhabl 3 yr atodiad, ac eglurodd y cafwyd yr wybodaeth o ddata’r cyfrifiad.  Derbyniwyd y byddai strwythur cwestiynau’r cyfrifiad yn cael eu hadolygu.   Ychwanegodd fod Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi sylwadau cadarnhaol ar Strategaeth y Cyngor, gyda’r Chyngor yn cael ei barchu am yr hyn yr oedd wedi’i gyflawni.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Butler sylw fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir y Fflint yn uwch na sawl awdurdod arall ar draws Cymru, a oedd yn galonogol.  Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod staff derbynfa'r Cyngor yn gwisgo bathodyn i ddangos a oeddent yn siarad Cymraeg, ac fe anogwyd pobl i sgwrsio yn Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Drafft ar gyfer ymgynghori arni;

 

(b)       Y byddai’r broses ymgynghori a’r amserlen yn cael ei chymeradwyo; a

 

(c)       Bod fersiwn terfynol y cynllun yn cael ei argymell i'w fabwysiadu yng Ngorffennaf 2018.

166.

Astudiaeth Ffordd Mynediad Sir Gaer a Sir y Fflint pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        I gael cymeradwyaeth Cabinet i’r comisiwn rhanbarthol i adolygu opsiynau i wella cysylltiadau cludiant i Barc Manwerthu Brychdyn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Astudiaeth Ffordd Fynediad Sir y Fflint/Swydd Gaer a dynnodd sylw at nifer o gynlluniau ffyrdd a rheilffyrdd a nodwyd ym mhrosbectws “Datgloi ein gwir botensial” Cynghrair Mersi a Dyfrdwy (MDA).  Cawsant eu hystyried yn hanfodol i ddatgloi datblygiad y dyfodol a hybu twf yn ardal MDA. 

 

            Yn dilyn sgwrs â Llywodraeth Cymru (LlC), Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer (CWAC), a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW), roedd wedi dangos bod diddordeb mawr mewn ehangu’r dadansoddiad cychwynnol o gynllun posibl yn y dyfodol i ystyried yr opsiynau, y goblygiadau a’r buddion tymor hwy ar y cyd, o aliniad diwygiedig. 

 

Credwyd y gallai llwybr amgen ddarparu mwy o gyfleoedd i wella cysylltedd ar ddwy ochr y ffin, a galluogi mynediad gwell i safleoedd datblygu newydd ac sy’n dod i’r amlwg.  Roedd y rhain yn cynnwys Penarlâg, Brychdyn a’r parc manwerthu presennol, Warren Hall, yn ogystal â safleoedd posibl y gellir eu hystyried y tu hwnt i orwelion cynllunio cyfredol.  Gallai’r aliniad posibl hefyd helpu i leihau tagfeydd ar gylchffordd fewnol Caer yng nghyffordd y Posthouse A55/A483.

 

Fel yr Aelodau lleol sy’n cynrychioli’r ddwy ward ym Mrychdyn, croesawodd y Cynghorwyr Butler a Mullin yr adroddiad, y gwnaethant deimlo a oedd wedi bod yn ofynnol ers nifer o flynyddoedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chefn Gwlad) fod Cyngor Sir y Fflint yn gyfrannwr cyfartal at yr astudiaeth ac y byddai unrhyw opsiynau llwybr terfynol yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r comisiwn ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, Cynghorau Bwrdeistref Swydd Gaer a Chaer a Warrington, i ymgysylltu â phartner arbenigol i wneud argymhellion ar y dull llwybr a ffefrir, ar gyfer cynllun priffordd traws-ffiniol newydd posibl; a

 

(b)       Bod adroddiad pellach yn manylu ynghylch canlyniad yr astudiaeth unwaith y cwblheir y gwaith, yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet.

 

Cadeiriodd y Cynghorydd Attridge y cyfarfod o’r pwynt hwn ymlaen

167.

MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 11) pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 11 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 11), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.   Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.  Byddai'r adroddiad nesaf ar sefyllfa ariannol y Cyngor i'r Cabinet 17 Gorffennaf, a dyma'r sefyllfa alldro derfynol yn dilyn cau cyfrifon 2017/18.

 

            Y sefyllfa a ragamcanwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor:

 

·         Rhagamcan gwariant net yng nghanol y flwyddyn, diffyg gweithredol o £0.109m;

·         Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragamcenir yn ystod y flwyddyn bellach yn cynnwys £1.422m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm  Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir 1 Mawrth.  Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a rhagamcanwyd y byddai’r gwariant net £1.531 yn is na’r gyllideb; a

·         Balans Cronfa Wrth Gefn At Raid a ragamcanwyd ar 31 Mawrth o £8.353m a leihaodd i £5.948m wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2018/19.

 

Cyfrif Refeniw Tai:

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.035m yn uwch na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081m.

 

Crynhowyd y rhesymau dros yr amrywiannau a ragamcanwyd yn yr atodiad i’r adroddiad, gydag amrywiannau portffolio sylweddol allweddol wedi’u hegluro yn yr adroddiad.

 

Fe wnaeth yr adroddiad gynnwys y rhagamcan diweddaraf ganol blwyddyn fesul portffolio; symudiadau sylweddol yn y gyllideb rhwng Mis 10 a Mis 11; arbedion effeithiolrwydd a drefnwyd ar gyfer ganol y flwyddyn a gyflawnwyd; cynnal a chadw yn y gaeaf; chwyddiant; cronfeydd wrth gefn a balansau a cheisiadau i gario'r cyllid ymlaen. 

 

O ran y Gronfa Wrth Gefn At Raid, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yng nghyfarfod cyllideb y Cyngor 20 Chwefror 2018, fod swm o £0.900m wedi’i gynnwys o fewn y lefel a ragamcanwyd o gronfeydd wrth gefn darbodus ar gyfer arian buddsoddi i arbed, i helpu i gyflawni arbedion effeithlonrwydd.  Ar ôl ystyried y dyraniad o £0.550m ar gyfer y prosiect Strategaeth Ddigidol – Cwsmeriaid Digidol, argymhellwyd y byddai’r £0.350m yn cael ei glustnodi at y diben hwnnw hefyd.

 

Fe wnaeth adroddiad i’r Cabinet 26 Medi 2017 ar Gynnydd Cais Cytundeb Twf Economaidd Gogledd Cymru argymell awdurdod dirprwyedig i awdurdodi cyfraniad refeniw cychwynnol o wariant 2017/18 ar gyfer datblygiad manwl o’r Cais Cytundeb Twf, gydag uchafswm o hyd at £0.050m.  Argymhellwyd iddo gael ei ariannu o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid.

 

Fe wnaeth digwyddiad diweddar a arweiniodd at orfod symud sylweddau gwastraff peryglus o eiddo yn Sir y Fflint dynnu sylw at y gofyniad am arian i fodloni unrhyw gamau unioni brys na ragwelwyd, a gofynion cefnogi cysylltiedig.  Argymhellwyd cyfraniad o £0.050m o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid i'w glustnodi ar gyfer y diben hwnnw.

           

Rhoddodd y Cynghorydd Thomas sylw ar yr amodau tywydd gwael a oedd yn parhau  ...  view the full Cofnodion text for item 167.

168.

Mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr – Cyfraddau Busnes 2018/19 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo cyflwyno cynllun Grant Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru wedi’i ariannu’n llwyr gan gynnig grantiau unwaith ac am byth rhwng £250 a £750 yn ystod 2018-19 i fusnesau cymwys ar y Strydoedd Mawr a Chanol Trefi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Mabwysiadu Cyfraddau Busnes 2018/19, Cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr, a amlinellodd gynllun Llywodraeth Cymru (LlC) a oedd wedi’i ddylunio i ddarparu rhyddhad ardrethi dros dro i fanwerthwyr stryd fawr.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) fod cymhwyster y cynllun â chefnogaeth LlC yn seiliedig ar system dwy haen, gan roi rhyddhad o hyd at £750 i fusnesau manwerthu stryd fawr, gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 a oedd wedi gweld cynnydd yn eu hatebolrwydd ardrethi busnes o ganlyniad i ailwerthusiad cenedlaethol 2017.  Roedd hefyd yn darparu rhyddhad o hyd at £250 ar gyfer busnesau manwerthu stryd fawr llai, gyda gwerthoedd ardrethol o hyd at £12,000.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r cynllun i leihau’r effaith o ailwerthusiad 2017 ar gyfer rhai busnesau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Mabwysiadu’r cynllun grant Llywodraeth Cymru 2018/19 ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr yn unol â’r darpariaethau yn adran 46 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

 

(b)       Cymeradwyo’r dyfarniadau awtomatig, heb ffurflenni cais, i’r busnesau hynny sy’n gymwys, y gellir eu nodi’n hawdd drwy gofnodi Ardrethi Busnes; a

 

(c)        Bod dyfarniadau i unrhyw fusnesau sy’n weddill a all fod yn gymwys yn dilyn ffurflen gais ddilys yn cael eu cymeradwyo.

169.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Strydwedd a Chludiant

  • Cyngor Sir y Fflint - Riverside Park a Stoneleigh Close, Garden City.  Gwaharddiad Arfaethedig i Aros ar unrhyw Adeg.

I roi gwybod i Aelodau am y gwrthwynebiad a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cyfyngiadau Dim Aros ar Unrhyw Adeg ar Riverside Park a Stoneleigh Close, Garden City.

 

  • Cyngor Sir y Fflint – Alexandra Road a Victoria Road, yr Wyddgrug Gorchymyn 201 (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) (diwygiad rhif 13).

I roi gwybod i Aelodau am y gwaharddiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu Alexandra Road a Victoria Road, yr Wyddgrug Gorchymyn 201 (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho A Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) (diwygiad rhif 13).

 

  • Cyngor Sir y Fflint – Liverpool Road, Alltami Road, Higher Common Road, Bwcle a Church Road, Bwcle Gorchymyn 201 (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) (diwygiad rhif  7).

I gynghori Aelodau ar y gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu Gorchymyn Gwahardd a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio arfaethedig diwygiad rhif 7, sy’n cyflwyno cyfyngiadau Dim Aros ar Unrhyw Adeg ar Liverpool Road, Alltami Higher Common a Church Road, Bwcle.

 

Newid Sefydliadol

  • Trosglwyddo Ased Cymunedol, Gr?p Sgowtiaid Treffynnon

 Trosglwyddo Pencadlys Sgowtiaid Treffynnon yn cynnwys y tir a ddangosir ag ymyl goch yn y cynllun.

 

  • Tir o flaen Ffordd Llanarth, Cei Connah – Cytundeb Cyfyngol

Mae’r prynwr arfaethedig yn bwriadu mynd ar y tir drwy Drwydded i gynnal ymchwiliadau safle ymwthiol helaeth ac arolygon isadeiledd dros gyfnod o amser.  Cytunwyd i ymrwymo i Gytundeb Cyfyngol gyda’r prynwr arfaethedig y gellir bwrw ati gyda’r gwaith.  (Ystyrir bod yr adroddiad dirprwyedig hwn yn eithriedig yn rhinwedd Paragraff(au) 14, Rhan 4 yn Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).  Mae budd y cyhoedd wrth beidio â datgelu’r wybodaeth yn drech na’r budd o ddatgelu’r wybodaeth, hyd nes y cwblheir y trefniadau masnachol).

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

170.

Gwerthu tir diwydiannol yn Weighbridge Road, Glannau Dyfrdwy

Pwrpas:        Rhoi manylion y posibilrwydd o waredu tua 15.48 erw o dir yn Glannau Dyfrdwy.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad Gwerthu Tir Diwydiannol yn Weighbridge Road, Glannau Dyfrdwy, a roddodd fanylion o’r safle a'r derbyniad cyfalaf a ragwelir o waredu'r safle.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) na ddylai materion cais cynllunio gael eu trafod gan y Cabinet; byddent yn cael eu trafod maes o law gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r gwerthiant o oddeutu 15.48 acer o dir a ddangosir gydag ymyl a llinellau du ar y cynllun.

171.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol.