Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

126.

Datgan Cysylltiad

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorwyr Attridge, Jones a Shotton ddatgan cysylltiad personol mewn perthynas ag eitem agenda 4 - Cyllid Refeniw Cronfa’r Cyngor 2018/19 - Trydydd Cam a Cham Terfynol, oherwydd eu bod yn Llywodraethwyr Ysgol.  Bu i’r Cynghorwyr Bithell a Thomas ddatgan cysylltiad personol a cysylltiad sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem agenda 8, Cynllun Rhyddhau Treth Dewisol ar gyfer 2017/18 a 2018/19 oherwydd eu bod yn Ymddiriedolwyr cymdeithasau cymunedol.  Bu i’r Cynghorydd Bithell ddatgan cysylltiad personol mewn perthynas ag eitem agenda 11, Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Sir y Fflint, Cynllun Gwariant Lleol a’r Cynllun Strategol Rhanbarthol, oherwydd y bu’n ymddiriedolwr yr Uned Diogelwch Camdriniaeth Ddomestig (DASU).

127.

Cofnodion pdf icon PDF 104 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 23 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Rhannwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2018 gyda’r agenda ac fe’u cymeradwywyd fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

128.

Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 – Cam Tri a Cham Olaf pdf icon PDF 197 KB

Pwrpas:        Adolygu’r dewisiadau ar gyfer trydydd cam y broses o bennu’r gyllideb, ac yna gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Prif Weithredwr gyflwyno adroddiad ar Gyllid Refeniw Cronfa’r Cyngor 2018/19 -  Y Trydydd Cam a'r Cam Terfynol, ac eglurodd bod angen i’r Cyngor bennu cyllid gytbwys er mwyn bodloni ei ddyletswydd cyfreithiol.

 

            Cyfrifoldeb cyfun y Cyngor cyfan yw pennu’r gyllideb yn seiliedig ar gyngor y Cabinet ac amlinellwyd yr opsiynau sydd ar ôl er mwyn cyflawni cyllideb gyfreithiol gytbwys yn yr adroddiad.  Eglurodd bod yr opsiynau ar gyfer torri mwy ar wasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi eu disbyddu, a bod datganiadau cydnerthedd portffolio, oedd yn dangos y risg i gapasiti gwasanaethau a pherfformiad o ganlyniad i unrhyw dorri pellach ar gyllidebau, wedi cael eu derbyn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet.

             

Ar wahân i ymyrraeth ariannol gan Lywodraeth Cymru (LlC), yr unig opsiynau eraill er mwyn mantoli’r gyllideb oedd incwm o’r Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn a balansau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod effeithiau ariannol Camau Un a Dau wedi eu hesbonio yn Nhabl 3 yn yr adroddiad, ac ar ôl ystyried y ddau, y bwlch oedd ar ôl yn y gyllideb oedd £5.771m.

 

Mewn perthynas ag arian wrth gefn a balansau, o’i gymharu â nifer o gynghorau eraill, dywedodd mai dim ond cronfeydd bychan a chyfyngedig oedd gan Sir y Fflint i’w defnyddio.  Hefyd, gellid ond defnyddio cronfeydd wrth gefn unwaith, ac nid yw gorddibynnu ar eu defnyddio er mwyn mantoli cyllidebau blynyddol yn ffordd gynaliadwy o ariannu gwasanaethau.

 

Roedd gan y Cyngor gronfeydd wrth gefn cyfyngedig oedd heb eu clustnodi y gellid eu defnyddio, ac roedd adroddiad monitro cyllideb Mis 9 yn rhagamcanu Cronfa Wrth Gefn o £4.174m ar ddiwedd Mawrth 2018.  Fodd bynnag, roedd hynny yn ddarostyngedig i newid rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol. 

 

Roedd y Cyngor hefyd yn dal cronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi a neilltuwyd at ddibenion penodol.  Bu i adroddiad monitro cyllideb Mis 9 ddarparu diweddariad ar lefelau rhagdybiedig presennol o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd,  a dangosodd bod y swm yn debygol o ostwng o £20 i £10m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.  Cwblhawyd adolygiad o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd ar ôl, a dim ond y rhai sydd ag achos busnes cryf fyddai’n cal eu cadw a’r gweddill yn cael eu rhyddhau i’w defnyddio fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).  Y cyfanswm a argymhellwyd i’w ryddhau er mwyn cynorthwyo gyda phennu cyllideb ar gyfer 2018/19 oedd £1.927m.  Cyngor y Rheolwr Cyllid Corfforaethol oedd y gellid pennu cyllideb gytbwys drwy ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a phennu’r Dreth Gyngor ar 5%.  Amlinellwyd darlun o gyfraniad i’r gyllideb o amryw o opsiynau mewn perthynas â’r Dreth Gyngor yn nhabl 4 yr adroddiad.  Atodwyd cymhariaeth o lefelau’r Dreth Gyngor ar draws Cymru i’r adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y nifer o flynyddoedd o leihau grantiau llywodraeth leol oedd wedi effeithio ar wasanaethau, yn cynnwys Gofal Cymdeithasol ac Addysg.  Yr her nawr oedd pa opsiynau y gellid eu defnyddio fel y gallai’r Aelodau fantoli’r gyllideb.  Croesawodd y cymorth  ...  view the full Cofnodion text for item 128.

129.

Datblygu Rhaglen Gyfalaf 2018/19 – 20/21 pdf icon PDF 336 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod  2018/19 i 20/21.

Cofnodion:

Bu i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) gyflwyno adroddiad ar Ddatblygu Rhaglen Cyfalaf 2018/19 - 2020/21.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod yr adroddiad yn adeiladu ar y Strategaeth Cyfalaf a'r Cynllun Rheoli Asedau a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2016 a’i bod yn rhannu Rhaglen Cyfalaf Cronfa’r Cyngor yn dair adran:

 

  1. Statudol/Rheoleiddiol - dynodiadau er mwyn talu am waith rheoleiddiol a statudol - mae enghreifftiau yn cynnwys darparu cymorth i wella ac addasu cartrefi yn y sector preifat (Grantiau cyfleusterau anabl), addasiadau i ysgolion ar gyfer plant ag anableddau, unrhyw waith sydd ei angen er mwyn cadw adeiladau yn agored yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch;
  2. Asedau a Gadwir - dynodiadau er mwyn ariannu gwaith seilwaith er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau a busnes.  Dynodiadau i ariannu cynlluniau oedd yn cynnal, cyfoethogi a gwella asedau a seilwaith a gadwir er mwyn darparu gwasanaethau.  Anghenion sylweddol a glustnodwyd gan gynlluniau gwasanaethau/arolygon cyflwr; a
  3. Buddsoddiad - er mwyn talu am gostau a ysgwyddwyd wrth ailfodelu a buddsoddi mewn gwasanaethau.  Cynlluniau newydd sy’n deillio o gynlluniau busnes Portffolio, Cynllun y Cyngor, cynlluniau perthnasol a newydd eraill, a strategaethau eraill neu flaenoriaethau arfaethedig y Cyngor a gymeradwywyd drwy broses ddethol yn seiliedig ar ddarparu achos busnes cydnerth.

 

Bu i Dablau 1 a 2 yn yr adroddiad ddangos cynlluniau a gymeradwywyd gan y Cyngor yn Chwefror 2017 ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2017/18 - 2019/20 a sut yr oedd y rhaglenni hynny yn cael eu cyllido.  Pan sefydlwyd y rhaglen roedd yna ddiffyg cyllid cyffredinol o £3.187m, er bod cynlluniau ar gyfer 2017/18 wedi eu cyllido’n llawn.  Cadwyd y diffyg cyllid ar gyfer rhaglenni 2018/19 a 2019/20 yn hyblyg gydag opsiynau oedd yn cynnwys cyfuniad o dderbynebau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen, benthyca darbodus neu raddoli cynlluniau dros nifer o flynyddoedd.  Adroddwyd yn rheolaidd a gynnydd mewn perthynas â delio â’r diffyg hwnnw i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Craffu ar Adnoddau Corfforaethol yn ystod 2017/18.  Erbyn hynny derbyniwyd derbynebau cyfalaf oedd yn golygu bod y rhaglen a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18 - 2019/20 wedi cael ei chyllido’n llawn gyda gwarged bychan o £0.201m. 

 

            Roedd Tabl 3 yr adroddiad yn esbonio’r cyllid cyfalaf cyffredinol y rhagamcanwyd fyddai ar gael er mwyn cyllido’r Rhaglen Gyfalaf n  ystod y 3 blynedd nesaf.  Roedd y Cyngor wedi datblygu polisi darbodus o ganiatáu derbynebau cyfalaf yn unig i gyllido prosiectau cyfalaf pan dderbyniwyd derbynebau.  Roedd yr holl gynlluniau a gynigwyd ar gyfer eu cynnwys wedi buddsoddi mewn asedau a/neu modelau o ddarparu gwasanaeth oedd wedi eu hailwampio.  Gellid cyllido mwyafrif y rhaglen gan dderbynebau cyfalaf a dyraniadau cyllido LlC, er y byddai yna ddiffyg bychan fyddai’n golygu cyllido drwy fenthyca, fyddai’n arwain at oblygiadau o ran refeniw.  Felly, roedd cynlluniau wedi eu graddoli dros gyfnod o 3 blynedd er mwyn sicrhau bod blwyddyn ariannol 2018/19 wedi ei chyllido’n llawn. 

 

            Roedd Tabl 4 yn dangos y dyraniadau arfaethedig ar gyfer cyfnod 2018/19 - 2020/21 ar gyfer Asedau Statudol / Rheoleiddiol a Gadwir y Rhaglen Gyfalaf.  Roedd Tabl 5 yn dangos y cynlluniau  ...  view the full Cofnodion text for item 129.

130.

Cyllideb Ddrafft Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Cyllideb Ddrafft y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a’r Crynodeb o Gynllun Busnes 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai i’w hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Attridge gyflwyno Cyllideb Cyfrir Refeniw Tai (HRA) Drafft 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd.

 

            Roedd y blaenoriaethau strategol ar gyfer y flwyddyn, a’r cynllun busnes yn cynnwys:

·         Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) erbyn 2020 a darparu buddsoddiad parhaus digonol er mwyn cynnal lefelau WHQS;

·         Ar ôl dadgyfuno rhenti, symudiad parhaus tuag at gostau gwasanaeth effeithlon ac adennill costau yn llawn;

·         Parhau i bontio rhenti er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru (LlC);

·         Pennu cyllideb gytbwys gydag o leiaf 3% o warged refeniw ar wariant;

·         Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau’r benthyciadau fydd eu hangen i gyrraedd WHQS erbyn 2020; a

·         Darparu tai Cyngor newydd.

 

Roedd polisi LlC yn caniatáu hyblygrwydd i bob landlord i bennu’r band rhent ar nal ai rent targed, 5% yn is neu 5% yn uwch.  Roedd y Cyngor wedi cytuno i bennu rhenti Sir y Fflint yn achos y stoc presennol ar y lefel targed er mwyn cynorthwyo fforddiadwyedd tenantiaid.  Mae rhenti ar gyfer tai newydd wedi cael eu pennu ar 5% yn uwch na’r targed.  Roedd y mynegeion chwyddiant a ddefnyddiwyd ar gyfer codi rhenti bob  blwyddyn yn seiliedig ar Fynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn ystod y mis Medi blaenorol, a gwir gynnydd o 1.5%   Roedd CPI ar gyfer Medi 2017 yn 3%, plws 1.5%, oedd yn rhoi chwyddiant rhent o 4.5% ar gyfer 2018/19.  Roedd yna bryder am fforddiadwyedd cynnydd sylweddol, ac ar ôl ystyried yr opsiynau eraill a gwrando ar safbwyntiau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Ffederasiwn Tenantiaid, argymhellodd y Cynghorydd Attridge y dylai’r cynnydd mewn rent fod yn 3% a hyd at £2 ar gyfer 2018/19.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) y byddai’r gostyngiad mewn incwm i’r Cyngor, o ganlyniad i bennu’r incwm is a argymhellwyd, yn £300,000 yn 2018/19.  Nid oedd hynny’n effeithio’n negyddol ar allu’r Cyngor i gyrraedd WHQS erbyn 2020, nac i gyflawni rhwymedigaethau ei raglen tai newydd.  Ychwanegodd bod trafodaethau yn mynd yn eu blaenau gyda LlC ynghylch a ellid cynyddu’r cap ar fenthyca.

 

Bu i’r Cynghorydd Thomas groesawu’r adroddiad a bu iddo ganmol buddsoddiad y Cyngor mewn stoc tai.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent yn achos y tenantiaid hynny oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol, a gofynnodd sut y byddai hynny yn cael ei reoli.  Dywedodd bod nifer y taliadau tai dewisol wedi dyblu yn ystod y tri mis diwethaf, oedd yn arwydd o’r problemau yn y sector preifat, a phwysleisiodd bwysigrwydd rhaglen tai newydd y Cyngor fyddai’n arwain at y rhenti isaf yn y sir i denantiaid.  Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod yr ôl-ddyledion rhent yn £200k yn fwy na’r flwyddyn flaenorol, a hynny cyn cyflwyno Credyd Cynhwysol.  Roedd swyddogion yn gweithio â chwsmeriaid er mwyn sefydlu rhaglenni ad-dalu er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.  

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)   Dylai’r Cyngor gymeradwyo ac argymell cyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer

2018/19 a’r Cynllun Busnes;

 

(b) Dylid cymeradwyo’r opsiwn o bennu cynnydd rhent ar gyfer 2018/19, ac y dylid argymell hynny i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 130.

131.

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19 pdf icon PDF 144 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys 2018/19 drafft i'w hargymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys 2018/19 er mwyn ei chymeradwy a’i hargymell gan y Cyngor.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo ac argymell Strategaeth Reoli Trysorlys 2018/19.

132.

Cynllun Gostyngiad Dewisol ar y Dreth ar gyfer 2017-18 a 2018-19 pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Diwygio Fframwaith Polisi Gostyngiad Dewisol ar y Dreth ar gyfer 2017-18 a 2018-19, gyda’r prif nod o ddyfarnu rhyddhad ardrethi ychwanegol i elusennau a grwpiau gwirfoddol mewn safleoedd bach gyda gwerthoedd ardrethol o £6,000 neu lai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl datgan buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu yn gynharach, bu i’r Cynghorwyr Bithell a Thomas adael yr ystafell.

 

             Bu i’r Cynghorydd Shotton gyflwyno adroddiad Cynllun Rhyddhau treth Dewisol ar gyfer 2017/18 a 2018/19.

 

            Yn dilyn sylwadau gan Aelodau, sefydliadau Elusennol a Hysbysiad o Gynnig yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 30 Ionawr 2018, cafodd swyddogion y dasg o archwilio dichonolrwydd newid cynllun Rhyddhau Treth Dewisol 2017/18 drwy ailgyflwyno rhyddhad ‘ategol’ dewisol o 20% wedi ei dargedu’n benodol tuag at Elusennau, a sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol oedd yn meddiannu safleoedd bychan oedd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000.

 

            Amlinellwyd newidiadau posibl yn yr adroddiad fyddai’n sicrhau y byddai tua 88 o Elusennau a sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol sy’n meddiannu safleoedd bychan yn elwa o ryddhad treth o 100%, wedi ei arianni drwy gyfuniad o Ryddhau Treth Gorfodol a/neu Dewisol.  Byddai’r newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod y sefydliadau hynny yn cael eu trin yn yr un modd â busnesau ‘dielw’ bychan oedd yn gymwys i dderbyn rhyddhad treth 100% fel rhan o  Gynllun Rhyddhau Treth Busnesau Bychan (SBR) Llywodraeth Cymru (LlC) a ariennir yn llawn.

 

            Eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai goblygiadau ariannol y newidiadau yn golygu costau i’r Cyngor o £16,200 yn 2017/18, y gellid talu amdano o’r ddarpariaeth cyllid presennol a neilltuwyd er mwyn delio â cheisiadau caledi posibl, a £18,000 ar gyfer 2018/19 fyddai’n bwysau ar y gyllideb.

 

            Bu i’r Cynghorydd Attridge ddiolch i’r Rheolwr Refeniw am y gwaith a wnaethpwyd ar yr eitem hon a arweiniodd at 88 o Elusennau a sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol yn elwa o ryddhad treth 100%.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai hynny yn newid ychydig ar y ffigyrau cyllid o ran defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2018/19, gyda chynnydd o £1.945m o’r £1.927m a adroddwyd yn gynharach fel rhan o’r eitem gyllideb.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a) Cytuno ar newid ôl-weithredol i fframwaith polisi 2017/18 er mwyn darparu rhyddhad ‘ategol’ Dewisol o 20% i bob sefydliad Elusennol sydd eisoes yn elwa o Ryddhad Treth Gorfodol o 80% ac sy’n meddiannu safle bychan sydd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000.

 

(a) Cytuno ar newid ôl-weithredol i fframwaith polisi 2017/18 er mwyn cynyddu dyfarniadau Dewisol o 20% i bob sefydliad Gwirfoddol a Chymunedol sydd ar hyn o bryd yn derbyn  Rhyddhad Treth Gorfodol o 80% ac sy’n meddiannu safle bychan sydd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000.

 

(c)  Nodi y bydd goblygiadau ariannol y newidiadau polisi yn costio £16.2k ar gyfer 2017/18 a thua £18k ar gyfer 2018/19.

133.

Cynigion am Gyllid Grant Cludiant Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Rhoi manylion yngl?n â chynigion 2018/19 am gyllid cyfalaf priffyrdd a chludiant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Thomas gyflwyno adroddiad ar Fidiau am Arian Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru oedd yn amlinellu manylion y bidiau a gyflwynwyd o dan y categorïau canlynol: Cronfa Drafnidiaeth Leol; Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol; Grant Diogelwch Ffyrdd; a Grant Llwybrau Diogel yn y Gymuned.

 

            Cyfanswm gwerth y bidiau ar gyfer 2018/19 oedd tua £1.6m  a byddid yn hysbysu’r cynghorau llwyddiannus yn Ebrill/Mai.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Strydoedd a Thrafnidiaeth) bod gan y Cyngor hanes rhagorol o gaffael cyllid drwy’r ffrydiau cyllid amrywiol oedd ar gael.  Byddai’r cynlluniau o bob ardal yn cael eu hystyried ac roeddent yn ddibynnol ar fodloni meini prawf y cynllun a lefel y damweiniau ar hyd y llwybr, yn hytrach na lleoliad.

 

            Fel ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol er mwyn darparu manylion ganlyniad y bidiau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cynlluniau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru am arian yn Ionawr 2018 ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

134.

Strategaeth Ddigidol – Cwsmer Digidol pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Ddigidol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) gyflwyno’r adroddiad Strategaeth Ddigidol - Y Cwsmer Digidol, oedd yn cynnig dull o gyflawni’r strategaethau hynny, gan ganolbwyntio ar alluogi cwsmeriaid i gysylltu â’r Cyngor a defnyddio’r gwasanaethau, pan fo’n briodol, drwy ddefnyddio technoleg.

 

            Amlinellwyd enghreifftiau penodol o sut y byddai’n gweithio yn yr adroddiad, yn cynnwys cynigion i lansio Cyfrif Cwsmer a Phorth Talu fyddai’n galluogi i gwsmeriaid brynu amrywiaeth o wasanaethau gan y Cyngor ar-lein ac o un pwynt mynediad.  Byddai cwsmeriaid fyddai angen cysylltu dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn cael mwy o gymorth gan staff gwasanaeth cwsmeriaid fyddai fel arall yn delio ag ymholiadau ellid eu datrys drwy fynediad digidol.

 

            Dros gofnod o amser byddai’n dull yn arwain at effeithlonrwydd fyddai’n cynorthwyo cyflawni strategaeth ariannol y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd y dull yn gyffredinol yn ymwneud â moderneiddio a gwella sut mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau drwy wneud u defnydd gorau a mwyaf priodol o dechnoleg ddigidol.  Er mwyn cyflawni hynny, cynigwyd buddsoddiad cychwynnol o £0.550m er mwyn cefnogi gwelliannau drwy ddarparu cynnwys digidol i’r cwsmer a sicrhau y gallai systemau TG y swyddfa gefn gyflwyno yn y modd yr oedd ei angen yn ôl y dull.  Byddai effeithlonrwydd yn y dyfodol yn talu am y buddsoddiad.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethiant) y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol pryd y’i cefnogwyd a’i croesawyd gan yr Aelodau.  Gofynnodd Aelodau y Pwyllgor hwnnw am fanylion arferion gorau Cynghorau eraill; byddai’r manylion hynny naill ai’n cael eu rhannu i aelodau neu byddai gweithdy yn cael ei drefnu.  Dywedodd bod y Strategaeth ddigidol nid yn unig yn offeryn o fydd i drigolion, ond ei fod hefyd yn offeryn allweddol o ran gweithio â phartneriaid allweddol megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader (BCUHB). Mynegodd ei ddiolchgarwch i’r adran TG am ddatblygu’r porth cwsmeriaid yn fewnol.

 

            Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethiant) y byddai cyswllt dros y ffôn a wyneb yn wyneb ar gael o hyd.  Ychwanegodd y byddai’r timau gwasanaeth cwsmeriaid bach presennol yn cael eu cyfuno, ac y byddai hynny yn cynyddu cydnerthedd yn ystod cyfnodau o alw brig mewn gwahanol ardaloedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cytuno ar weithredu’r Strategaeth ddigidol a’r Strategaeth Cwsmeriaid fel blaenoriaeth a chanolbwyntio ar wella gwasanaethau ar gyfer ‘Cwsmeriaid Digidol’;

 

(b)      Cytuno mewn egwyddor ar sefydlu cronfa fuddsoddi o £0.550m, yn ddibynnol ar cwblhau adolygiad o gronfeydd wrth gefn er mwyn clustnodi o ble y daw’r cyllid, er mwyn cefnogi cyflawni’r gwaith hwn ar yr amod y bydd y swm hwn yn cael ei dalu’n ôl ar ffurf effeithlonrwydd yn y dyfodol o leiaf, fydd yn arwain at ddim costau i’r Cyngor.  Mae hynny’n cynnwys y trefniadau contract penodol tair blynedd ac ailddylunio gwaith rolau tîm y Gwasanaeth Cwsmeriaid fel y manylir ar hynny yn yr adroddiad.  Cymeradwyir awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddogion perthnasol mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet priodol er mwyn gweithredu’r trefniadau hyn o ran ailddylunio swyddi; a

 

(c)    Lansio’r Cyfrif Cwsmeriaid  ...  view the full Cofnodion text for item 134.

135.

Cynllun Gwario Lleol a Chynllun Strategol Rhanbarthol Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Derbyn cymeradwyaeth i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl a Cynllun Gwario Grant Rhaglen Cefnogi Pobl 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Attridge gyflwyno Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Sir y Fflint, y Cynllun Gwariant Lleol a’r Cynllun Strategol Rhanbarthol, a ddatblygwyd er mwyn alinio â’r blaenoriaethau a nodwyd  yng Nghynllun Strategol Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gogledd Cymru.

 

            Ar ôl i lywodraeth leol gyflwyno achos cryf, roedd yn falch o adrodd bod y grant wedi ei sicrhau ar gyfer 2018/19.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhoi crynhoad o’r pwysau ar y gwasanaeth digartrefedd a’r risg o faich ariannol cynyddol i’r Cyngor.  Bu i Wasanaethau Cefnogi Pobl chwarae rôl allweddol o ran cyfrannu i atal digartrefedd ac roedd targedu cyllido at wasanaethau sy’n atal digartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor.

           

            Bu i’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) roi sylwadau ar y risg i’r gyllideb refeniw yn y blynyddoedd sydd i ddod ar gyfer atal digartrefedd oherwydd bod y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2019/2020 yn dangos bod llinell gyllideb Cefnogi Pobl yn cael ei gostwng i sero.  Roedd y cyllid fyddai fel arfer yn cael ei ddyrannu yn cael ei symud i linell cyllideb newydd o’r enw ‘Ymyrraeth Gynnar - Grant Atal a Chymorth’ oedd yn uno cyllidebau Ddechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Cronfa Waddol Cymunedau’n Gyntaf a Grant Cyflogaeth newydd, oedd yn golygu cyfanswm cyllideb o £252 ar draws Cymru.  Fodd bynnag, roedd hynny yn £13m yn llai na chyfanswm cyfun  y rhai a roddwyd yn 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cynllun Gwariant Lleol ar gyfer 2018/19 a Chynllun Strategol Gogledd Cymru.

136.

Adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 2017/18 pdf icon PDF 147 KB

Pwrpas:        Cytuno ar y lefelau cynnydd Chwarter 3 wrth gyflawni gweithgarwch, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Prif Weithredwr gyflwyno Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2017/18 Chwarter 3.

 

            Roedd adroddiad Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol, ac aseswyd bod 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da, a 69% yn debygol o gyflawni’r deilliant a ddymunir.  Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da, a 84% yn cyrraedd y targed ar gyfer y cyfnod neu’n agos ati. 

 

            Hefyd roedd risgiau yn cael eu rheoli’n llwyddiannus, a’r rhan fwyaf yn cael eu hasesu fel cymedrol (67%) neu fychan (10%).  Mewn perthynas â’r prif risgiau coch, roedd y cyfan yn gysylltiedig â chyllidebu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Nodi a chymeradwyo lefelau cynnydd, perfformiad a lefelau risgiau yn adroddiad Cynllun y Cyngor 2017/18 Chwarter 3; a

 

(b) Bod y Cabinet yn cael sicrwydd o ganlyniad i’r camau i reoli sut y gweithredir Cynllun y Cyngor 2017/18.

137.

MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 9) pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyno’r adroddiad Monitro Cyllid Refeniw 2017/18 (Mis 9) oedd yn cyflwyno’r sefyllfa monitro cyllid refeniw presennol ar gyfer 2017/18 mewn perthynas â Chronfa’r Cyngor a Chyfrir Refeniw Tai.   Bu i’r adroddiad gyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar wir incwm a gwariant, a rhagamcanodd beth fyddai sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai popeth yn aros yr un fath.

 

            Y sefyllfa a ragdybiwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn, heb liniaru er mwyn lleihau pwysau costau a gwella adenillon o ganlyniad i gynllunio effeithlonrwydd, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor:

 

  • Rhagolwg gwariant net yn ystod y flwyddyn i fod yn £0.908m yn fwy na’r gyllideb; a
  • Balans cronfeydd wrth gefn ar 31 Mawrth 2018 wedi eu ragamcanu i fod yn £4.174m.

 

Cyfrif Refeniw Tai:

 

  • Rhagolwg gwariant net yn ystod y flwyddyn i fod yn £0.035m yn fwy na’r gyllideb; a
  • Balans cronfeydd wrth gefn ar 31 Mawrth 2018 wedi eu ragamcanu i fod yn £1.081m.

 

Crynhowyd y rhesymau dros yr amrywiadau a ragdybir yn atodiad yr adroddiad ac mae amrywiadau portffolio sylweddol allweddol yn cael eu hegluro yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y rhagolygon diweddaraf ar gyfer y flwyddyn yn ôl portffolio; tracio risgiau a phroblemau arfaethedig yn ystod y flwyddyn; chwyddiant a chronfeydd wrth gefn a balansau.  Roedd yr arian wrth gefn a glustnodwyd a amlinellwyd ym mharagraff 1.23 yr adroddiad wedi eu nodi cyn yr adolygiad a gynhaliwyd fel yr adroddwyd ar hynny yn yr eitem cyllideb.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a swm wrth gefn rhagdybiedig Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a

 

(b) Nodi lefel balansau terfynol rhagdybiedig y Cyfrif Refeniw Tai (HRA).

138.

Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 9) pdf icon PDF 157 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth diwedd Mis 9 (diwedd Rhagfyr) rhaglen gyfalaf 2017/18 i Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyno adroddiad Rhaglen Cyfalaf 2017/18 (Mis 9) oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaethpwyd i’r Rhaglen gyfalaf ers Medi 2017 (Mis 6) hyd at ddiwedd Rhagfyr 2017 (Mis 9), ynghyd â gwariant hyd yma a’r alldro a ragamcanwyd.

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am newidiadau ers cymeradwyo’r gyllideb, arian a ddygwyd ymlaen o 2016/17; newidiadau yn ystod y cyfnod hwn; gwariant cyfalaf o’i gymharu â’r gyllideb; a’r arian a ddygir ymlaen i 2018/19.

 

            Bu i’r Cynghorydd Shotton roi sylwadau ar y cais i gymeradwyo cynnydd o £0.400m yn y benthyca darbodus a ddyrannir ar gyfer Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar gyfer cynlluniau a amlinellir yn yr adroddiad, ac roedd hynny i’w groesawu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Cymeradwyo’r adroddiad;

 

(b) Cymeradwyo’r Benthyca darbodus ychwanegol o £0.400m mewn perthynas â gwaith cyfalaf AURA; a

 

(c) Chymeradwyo’r addasiadau arian a ddygir ymlaen.

139.

Darpariaeth Isafswm Refeniw – Polisi 2018/19 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        I gyflwyno cynigion ar gyfer gosod Darpariaeth Isafswm Refeniw darbodus ar gyfer ad-dalu dyled yn 2018/19, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygiad) 2008 ('Rheoliadau 2008’).

Cofnodion:

Bu i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyno adroddiad Polisi Lleiafswm darpariaeth refeniw 2018/19 oedd yn argymell bod MRP 2018/19 yn aros yr un fath â’r flwyddyn flaenorol, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y Cyngor.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr bod y MRP yn destun adolygiad brys yn dilyn  adolygiad cymheiriaid annibynnol gwirfoddol diweddar ynghylch sefyllfa ariannol y Cyngor.  Roedd cyngor allanol yn cael ei geisio gan gynghorwyr y Cyngor a gadwid a Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) fel archwilwyr y Cyngor.  Roedd polisi MRP yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor yn flynyddol.  O ystyried yr adolygiad, roedd felly’n debygol o fod yn destun newidiadau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Cymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor ar gyfer dyled Cronfa’r Cyngor (CF):

 

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo’r MRP ym mlwyddyn ariannol 2018/19  ar gyfer balans gwariant cyfalaf dyledus a ariennir drwy fenthyca â chymorth a bennwyd ar 31 Mawrth2016.  Y cyfrifiad fydd y dull ‘llinell syth’ dros 50 mlynedd.

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Model Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo’r MRP ym mlwyddyn ariannol 2018/19  ar gyfer gwariant cyfalaf  a ariennir drwy fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016 ymlaen.  Y cyfrifiad fydd y dull ‘llinell syth’ neu ‘flwydd-dal’ (pan fo’n briodol) dros gyfnod priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Model Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo’r MRP ym mlwyddyn ariannol 2018/19  ar gyfer gwariant cyfalaf  a ariennir drwy fenthyca heb gymorth (darbodus) neu drefniadau credyd.

 

(b) Cymeradwyo’r canlynol i’r Cyngor Sir ar gyfer dyled Cyfrif Refeniw Tai (HRA):

·         Defnyddio Opsiwn 2 (Dull Gofyniad Cyllido Cyfalaf) ar gyfer cyfrifo MRP yr HRA yn 2018/19 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a ariennir gan ddyled.

 

(c) Dylai’r Aelodau gymeradwyo ac argymell i’r Cyngor Sir y dylai’r MRP ar fenthyciadau i’r Cyngor ar gyfer Cartrefi NEWYDD er mwyn adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifo) fod fel  a ganlyn:

·         Ni ddylid gweithredu unrhyw MRP yn ystod  y cyfnod adeiladu (sy’n gyfnod byr) oherwydd na fydd yr ased yn cael ei ddefnyddio a dim budd yn deillio o’i ddefnyddio.

·         Pan fo’r asedau yn cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan Gartrefi NEWYDD. Bydd MRP y Cyngor yn hafal â’r ad-daliadau a wneir gan Gartrefi NEWYDD.  Bydd yr ad-daliadau a wneir gan Gartrefi NEWYDD yn cael eu hystyried, yn nhermau cyfrifyddu, fel derbynebau cyfalaf, y gellir ond eu defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled sydd yn rhyw fath o MRP.  Bydd yr ad-daliad cyfalaf / derbynneb cyfalaf yn cael ei neilltuo er mwyn ad-dalu dyled, a dyma yw polisi MRP y Cyngor ar gyfer ad-dalu’r ddyled.

 

(d) Nodi bod y Polisi MRP yn destun adolygiad brys a’i od felly yn destun newid yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

 

The Corporate Finance Manager introduced the Minimum Revenue Provision (MRP) – 2018/19 Policy report which recommended that the 2018/19 MRP remained the same  ...  view the full Cofnodion text for item 139.

140.

Dangosyddion darbodus 2018/19 i 2020/21 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Cyflwyno cynigion ar gyfer gosod ystod o Ddangosyddion Darbodus yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus).

Cofnodion:

Bu i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyno adroddiad Dangosyddion Darbodusrwydd 2018/19 i 2020/2021 sy’n rhoi manylon am Ddangosyddion Darbodusrwydd mewn perthynas â Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.

 

            Yn Nhabl 1 eglurodd y dylai’r amcangyfrif ar gyfer Cronfa’r Cyngor 2018/19 fod yn £23.773m ac nid £30.408m, ac y dylai’r amcangyfrif ar gyfer Cronfa’r Cyngor 2019/2020 fod yn £13.659m ac nid £1.644m.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor ar gyfer eu cymeradwyo:

 

·         Dangosyddion Darbodusrwydd ar gyfer 2018/19 - 2020/21; a

·         Awdurdod dirprwyedig y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i achosi newid rhwng y cyfyngiadau cytunedig ar wahân o fewn y cyfyngiad awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraffau 14 a 15 a Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd.

141.

Cymunedau yn Gyntaf

Pwrpas:        Diweddaru ar derfyn y rhaglen Cymunedau Yn Gyntaf a threfniadau olyniaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) adroddiad Cymunedau’n Gyntaf oedd yn rhoi manylion o’r broses gyflwyno oedd yn mynd rhagddi.

           

            Byddai Llywodraeth Cymru (LlC) yn gweithredu dwy raglen newydd o 1 Ebrill 2018. Byddai’r gyntaf, y Gronfa Waddol, yn cynnig cyllid graddfa fach i Gyrff Darparu Lleol ac yn eu galluogi i barhau i ddarparu rhai gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf effeithiol am ddwy flynedd arall.  Yr ail oedd y Rhaglen Cyflogadwyedd fyddai’n rhoi’r seilwaith reoli i Gyrff Darparu Lleol ar gyfer y rhaglen Communities 4 Work, ac a fyddai’n ariannu mwy o gymorth i bobl ddi-waith mewn ardaloedd difreintiedig fyddai hefyd yn weithredol tan Mawrth 2020.     

 

            Nodwyd strwythur arfaethedig ar gyfer darparu’r rhaglenni newydd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Nodi bod Sir y Fflint wedi rheoli rhaglen bontio Cymunedau’n Gyntaf yn llwyddiannus; a

 

(b) Cymeradwyo’r strwythur newydd ar gyfer darparu Communities 4 Work a’r rhaglenni cysylltiedig.

142.

Trosglwyddo Ased Cymunedol Pwll Nofio Cei Connah a Chanolfan Hamdden Treffynnon

Pwrpas:        I gytuno ar gyllid grant ar gyfer y flwyddyn 2018/19.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Roberts gyflwyno adroddiad ar Drosglwyddo Asedau Pwll Nofio Cei Connah a Chanolfan Hamdden Treffynnon oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd y ddwy elfen ac yn argymell dyfarnu grant ar gyfer 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Darparu grant i Cambrian Aquatics o £0.065m ar gyfer 2018/19 ar yr amod y byddai’n rhaid ei ostwng ar gyfer y flwyddyn 2019/2020;

 

(b) darparu grant o £0.086m i Ganolfan Hamdden Treffynnon ar gyfer y flwyddyn 2018/19 ar yr amod y bydd y lefel grant yma yn cael ei adolygu’r drwyadl cyn y flwyddyn 2019/2020; a

 

(c) Cymeradwyo awdurdod dirprwyedig am y prosiectau hyn yn benodol i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Addysg, er mwyn gallu darparu taliad grant cynnar neu fenthyciad bychan (hyd at uchafswm o £0.025m) i Cambrian Aquatics neu Ganolfan Hamdden Treffynnon o dan amgylchiadau eithriadol yn unig, a phan, ar ôl cwblhau adolygiad ariannol llawn, yr ystyrir y byddai hynny yn sicrhau y gall y cyfleusterau aros yn agored a bod y busnes yn parhau i fod yn hyfyw.

143.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd 1 aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol.