Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

82.

Datgan Cysylltiad

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

83.

Cofnodion pdf icon PDF 115 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir godnodion y cyfarfod diwethaf.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2017 wedi eu cylchredeg gyda’r agenda ac wedi eu cymeradwyo fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

84.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19 – Cam 2

Pwrpas:        Amlinellu'r broses ar gyfer datblygu a chytuno ar Gam 2 Cyllideb Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ar lafar ar Gyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 Cam 2. 

 

                        Roedd Cam 1 Cyllideb Cronfa’r Cyngor wedi ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yr wythnos flaenorol pan gytunwyd ar arbedion effeithlonrwydd o £3.1m ac ymateb ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru.

 

                        Roedd gweithdy i’r holl Aelodau wedi ei drefnu yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw pan fyddai opsiynau cyllideb Cam 2 yn cael eu trafod. Wedi hynny, roedd cyfarfod o'r Arweinwyr Gr?p wedi ei drefnu i’w gynnal ar 28 Tachwedd cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 12 Rhagfyr. Byddai Datganiad terfynol Canghellor y Trysorlys yn cael ei gyflwyno’r diwrnod canlynol.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod cyfarfodydd gwleidyddol wedi eu trefnu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol.

 

            Roedd deiseb wedi ei llunio yn galw ar y Canghellor i ddod â’r caledi ariannol i ben ac roedd wedi ei harwyddo gan gannoedd ar draws y wlad.  Byddai’r ddeiseb honno’n cael ei chyflwyno i’r Senedd gan ASau Sir y Fflint, Mark Tami a David Hanson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad ar lafar.

85.

Cynllun y Cyngor 2017/18 – Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 140 KB

Pwrpas:        Cytuno ar y lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgarwch, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn - Cynllun y Cyngor 2017/18 oedd yn cyflwyno monitro’r cynnydd ar gyfer canol blwyddyn 2017/18.

 

            Roedd Sir y Fflint yn Gyngor oedd yn perfformio’n dda ac roedd tystiolaeth o hyn yn adroddiadau monitro blaenorol Cynllun (Gwella) y Cyngor yn ogystal ag Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad monitro canol blwyddyn cyntaf ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol, gydag 88% o’r gweithgareddau yn cael eu nodi fel rhai sy'n gwneud cynnydd da, a 67% yn debygol o gyflawni'r canlyniad a ddymunir.  Yn ogystal â hyn, mae 67% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed.  Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (8%).

 

            Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu fod yr adroddiad yn adroddiad wedi ei seilio ar eithriad ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd sy’n tan berfformio.  Gwnaeth sylw yn benodol ar ddangosydd perfformiad y ‘nifer o dyddiau calendr ar gyfartaledd a gymrwyd i weithredu Grant Cyfleusterau i’r Anabl' oedd wedi cynyddu.  Roedd hyn o ganlyniad i nifer fechan o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gyfer addasiadau plant yn cwblhau yn y chwarter oedd â dyddiadau cwblhau hir gan eu bod yn gymhleth.  Ar y risgiau coch RAG, eglurodd fod nifer fawr ohonynt yn ymwneud â chyllid oedd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a oedd yn galonogol i weld yr awdurdod fel Cyngor oedd yn perfformio’n dda er gwaetha'r caledi ariannol yr oedd yn ei wynebu.  Ond, cododd bryderon yngl?n â’r Dangosydd Perfformiad yn ymwneud â’r Grant Cyfleusterau i'r Anabl a dywedodd y byddai'n croesawu unrhyw welliannau yn y maes hwnnw.  Eglurodd y Cynghorydd Shotton fod gwelliannau wedi eu gwneud yn y maes hwnnw y flwyddyn flaenorol ac felly roedd y targed wedi ei godi a oedd yn uchelgeisiol.  Dywedodd y Cynghorydd Butler fod y maes yma’n un cymhleth ac os oedd un neu ddau o achosion ychwanegol yn cael eu cyflwyno yna gallai hyn gael effaith sylweddol ar weithredu’r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylw ar y cyfeiriad at archwilio’r syniad o ymestyn darpariaeth gwelyau ar gyfer gofal cartref preswyl a nyrsio yn Marleyfield ym Mwcle ymhellach, ac roedd yn croesawu hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cytuno ar y canlynol:

·         Lefelau cynnydd a hyder yng nghyflawniad gweithgareddau lefel uchel sy’n ceisio cyflenwi effeithiau Cynllun y Cyngor

·         Y perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad y cynllun gwella

·         Y lefelau risg cyfredol ar gyfer y risgiau a amlygwyd yng Nghynllun y Cyngor

 

 (b)      Fod Aelodau’r Cabinet yn cael eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli cyflawni effeithiau blaenoriaeth Cynllun y Cyngor 2017/18.

86.

Cartrefi Gogledd-Ddwyrain Cymru Cyf pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth yngl?n ag enwebiad(au) Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad North East Wales (NEW) Homes Limited.

 

            Wedi i'r Cynghorydd Attridge gamu i lawr fel Cadeirydd ac Aelod Bwrdd NEW Homes, a bod lle gwag yn parhau ar gyfer y bwrdd, roedd y Cynghorwyr Janet Axworthy a Sean Bibby wedi eu henwebu i lenwi'r swyddi gwag.

 

            Roedd angen dau welliant i Erthyglau Cymdeithasu NEW Homes, byddai’r cyntaf yn caniatáu’r cwmni i benodi Is Gadeirydd a fyddai’n darparu mwy o hyblygrwydd mewn cyfarfodydd pan na fyddai’r Cadeirydd yn bresennol.  Byddai’r ail yn caniatáu diddymu safle’r cyfarwyddwr pan fyddai cyfarwyddwyr y cwmni wedi methu mynychu nifer benodol o gyfarfodydd y bwrdd mewn unrhyw flwyddyn neu flwyddyn ariannol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod penodiad y Cynghorydd Janet Axworthy a’r Cynghorydd Sean Bibby yn cael ei gymeradwyo fel Cyfarwyddwyr NEW Homes yn ddibynnol ar gymeradwyaeth Bwrdd NEW Homes;

 

 (b)      Fod gwelliant i Erthyglau Cymdeithasu NEW Homes i ganiatáu penodi Is Gadeirydd NEW Homes yn cael ei gymeradwyo; a

 

 (c)       Fod gwelliant i Erthyglau Cymdeithasu NEW Homes yn cael ei gymeradwyo i ddarparu ar gyfer diddymu safle’r cyfarwyddwyr os na fyddai presenoldeb yng nghyfarfodydd y bwrdd mewn unrhyw flwyddyn neu flwyddyn ariannol gyda thelerau penodol wedi eu cymeradwyo gan Fwrdd NEW Homes.

87.

Diweddariad Diwygio Lles - gan gynnwys Credyd Cyffredinol pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar Ddiwygio Lles gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Gredyd Cyffredinol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Diweddariad ar Ddiwygio’r Gyfundrefn Les – Cynnwys Credyd Cynhwysol. 

 

Eglurodd fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithredu ei raglen o Ddiwygiadau Lles dros y 5 mlynedd ddiwethaf ac erbyn 2020 byddai'r diwygiadau hynny wedi lleihau gwariant ar y budd-daliadau sydd ar gael i aelwydydd incwm isel yn y DU o tua £31 biliwn y flwyddyn.

 

Er mwyn ymateb i’r diwygiadau hyn, roedd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid mewn ymdrech i leddfu’r effeithiau llawn ar y preswylwyr mwyaf bregus yn y Sir.  Roedd ymateb y Cyngor i weithredu’r Credyd Cynhwysol yn cael ei ystyried yn fodel o arfer da gan Awdurdodau Lleol eraill Cymru a Llywodraeth Cymru.  Rhoddodd glod i swyddogion ac yn arbennig i staff Sir y Fflint yn Cysylltu oedd wedi darparu cymorth digidol rheng flaen i dros 1000 o gwsmeriaid, gan eu helpu i wneud ceisiadau newydd a hefyd rheoli eu ceisiadau ar-lein.

 

Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau mai’r tri maes mwyaf arwyddocaol a oedd yn cael effaith ar breswylwyr Sir y Fflint oedd y Cymhorthdal Ystafell Sbâr (y dreth ystafell wely), Cap Budd-daliadau a’r Credyd Cynhwysol.

 

Roedd nifer o heriau’n cael eu hwynebu a oedd yn bennaf o ganlyniad i’r newid mawr a'r gwahaniaethau sylfaenol rhwng Credyd Cynhwysol a’r budd-daliadau a etifeddwyd.  Roedd hyn am ei fod yn wasanaeth digidol llawn, a dalwyd i'r sawl oedd yn ei hawlio mewn ôl-daliadau, gan reoli'r cyfan o gyllid aelwydydd a’r cyfrifoldeb dros dalu rhent yn uniongyrchol i landlordiaid.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton y datganiadau personol a gynhyrchwyd gan Gyngor ar Bopeth a oedd wedi eu hatodi i’r adroddiad ac a oedd yn rhoi manylion yngl?n â’r heriau a gâi eu hwynebu gan bobl.  Roedd yna nifer o Gynghorau a oedd yn galw ar Lywodraeth y DU i fod yn dosturiol ac atal cyflwyno’r cynllun gan nad oedd yn gweithio.  Roedd yr effaith yn amlwg mewn ardaloedd eraill a thrwy’r gymuned a gofynnodd a oedd yna barodrwydd i Lywodraeth y DU ddysgu o’u  profiadau.  Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu ymagwedd ‘profi a dysgu’ i weithredu'r cynllun a rhoddodd fanylion am y materion oedd wedi codi, gan gynnwys dryswch yngl?n â pha fudd-daliadau i ymgeisio amdanynt, oedi o ran taliadau a thalu ymlaen llaw. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Thomas enghraifft o sefyllfa yn ei ward lle nad oedd gan breswylydd fynediad i wasanaethau digidol a oedd wedi golygu fod y Llywodraeth wedi cau ei hachos gan nad oeddent yn gallu cael mynediad i'r gwasanaeth.

 

Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y Cyngor wedi cymryd y cam cyntaf o weithio i ddarparu cefnogaeth a datrysiadau i helpu’r preswylwyr mwyaf bregus.  Roedd tua 90% o’r bobl oedd wedi eu cefnogi wedi nodi fod ganddynt broblemau gyda dyledion a hefyd roedd cynnydd mewn cwsmeriaid oedd yn troi at fenthyciadau diwrnod cyflog a benthycwyr stepen y drws i’w helpu i gael dau ben llinyn ynghyd hyd nes y byddai eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf yn cael ei dderbyn. 

 

Roedd y  ...  view the full Cofnodion text for item 87.

88.

Cynnig Gofal Plant wedi’i Ariannu i Blant 3-4 Oed pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        I’r Cabinet ystyried a chymeradwyo ymestyn y rhaglen sy’n cynnig gofal plant am ddim.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad y Cynnig Gofal Plant 3-4 Mlwydd Oed a Ariannir oedd yn darparu diweddariad ar y cynnig Gofal Plant am ddim a cheisiodd gymeradwyaeth i ehangu'r cynnig i ardaloedd eraill yn Sir y Fflint.

 

Dechreuodd y criw cyntaf o blant fanteisio ar y cynnig ar 4 Medi 2017 gyda 215 o geisiadau wedi eu derbyn.  Roedd Sir y Fflint wedi llwyddo i wneud y broses ymgeisio yn un awtomatig gan alluogi rhieni i gofrestru ar-lein a hunanddewis darparwyr gofal plant cofrestredig o’r 134 o ddarparwyr cofrestredig.  Byddai’r ffigwr gwreiddiol o 441 o blant yn cynyddu i 748 o blant pe byddai’n cael ei gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai peilot oedd blwyddyn gyntaf y Cynnig ac y byddai'n ceisio profi a dysgu o:

 

·         Ba mor hygyrch a hawdd oedd i rieni gael mynediad i'r Cynnig;

·         Ba mor hygyrch a hawdd oedd i ddarparwyr ddarparu’r Cynnig; a

·         Sut oedd y Cynnig yn gorwedd ochr yn ochr â Dechrau'n Deg a Chyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar (Hawl Bore Oes)

 

Byddai profi'r Cynnig yn fwy eang yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddysgu beth oedd yn gweithio a beth nad oedd yn gweithio o ran darparu’r Cynnig, yn barod ar gyfer ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan.

 

Roedd y Cynnig wedi ei gynllunio i fod yn gynhwysol fel y byddai plant gydag Anghenion Dysgu Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cefnogi i gael mynediad i’w lle.  Byddai gweithdai yn cael eu cynnal i ddiweddaru darparwyr ar ddatblygiad y Cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed gyda gweithredu’r cynnig Gofal Plant a chymeradwyo'r ymestyn arfaethedig ar y peilot i'r holl ardaloedd o fewn Sir y Fflint.

89.

MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 6) pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 6) a oedd yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, gan ragamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Dyma ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb unrhyw fesur lliniaru i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £1.147 miliwn yn fwy na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2018 yn £3.935 miliwn.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £0.035 miliwn yn fwy na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081 miliwn.

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, roedd sylwadau wedi eu gwneud ar (1) yr angen i gael eglurder ar yr iaith a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad ar orwariant a thanwariant; a (2) y tanwariant ar y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor, ymchwiliad yn cael ei gynnal ac ailfodelu dyraniad y gyllideb os oedd angen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Thomas sylwadau ar y cynnydd annisgwyl mewn  Goleuadau Stryd a oedd wedi cael effaith ar y gyllideb, fel y gostyngiad yn y Grant Amgylcheddol Sengl.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y sylwadau a wnaed ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd yn ddiweddar yngl?n â'r sefyllfa o orwariant a oedd yn dangos yr heriau yr oedd yr awdurdod yn eu hwynebu ac yr oedd angen i holl aelodau'r Cyngor eu deall.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer

Cronfa’r Cyngor ar  31 Mawrth 2018; a

 

             (b)      Nodi'r lefel terfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.

90.

Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 6) pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth diwedd Mis 6 (diwedd Medi) rhaglen gyfalaf 2017/18 i Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 6) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i'r Rhaglen Gyfalaf ers Mis 4 i ddiwedd Mis 6 (Medi 2017), ynghyd â’r gwariant hyd yn hyn a'r alldro a ragwelir.

 

            Dangosodd Tabl 1 yn yr adroddiad sut yr oedd y rhaglen wedi newid yn ystod 2017/18 ac roedd mwy o wybodaeth fanwl yn ymwneud â phob Portffolio ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Roedd yr adroddiad yn ymdrin â symiau a ddygwyd ymlaen o 2016/17; newidiadau yn ystod y cyfnod; gwariant cyfalaf o'i gymharu â'r gyllideb; dwyn ymlaen i 2018/19; dyraniadau ychwanegol; arbedion; ac ariannu cynlluniau 2017/18 a gymeradwywyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol; a

 

 (b)      Cymeradwyo’r addasiadau dwyn ymlaen a nodwyd yn yr adroddiad.

91.

Sylfaen Treth y Cyngor 2018-19 pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2018-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2018-19 a oedd yn ganolog i’r broses o osod y gyllideb refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2018/19. Roedd hefyd yn galluogi’r Cyngor, Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros Ogledd Cymru a’r Cynghorau Tref a Chymuned i gyfrif praesept Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod y Sylfaen ar gyfer 2017/18 wedi ei gyfrif fel 63,835 eiddo gyfystyr â band D, ar ôl ystyried y nifer o eiddo a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor, heb gynnwys y rhai gaiff eu heithrio o Dreth y Cyngor neu lle roedd gostyngiadau aelwydydd yn berthnasol. 

 

                        Roedd gosod Sylfaen y Dreth ar 63,835 hefyd yn cynrychioli’r twf yn Sylfaen y Dreth o 0.46% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sy’n gyfystyr â chynnydd o 292 o eiddo gyfystyr â band D.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo Sylfaen y Dreth o 63,835 o eiddo gyfystyr â band D ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19;

 

 (b)      Fod ‘dim’ gostyngiad i eiddo sy’n gorwedd o fewn unrhyw rai o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A,B neu C) yn parhau i gael ei osod ac i hyn fod yn weithredol i’r ardal Sirol gyfan; a

 

 (c)       Fod Premiwm o 50% yn parhau i gael ei osod ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi sy’n gorwedd o fewn y cynllun Premiwm.

92.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 55 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem gwybodaeth am y camau gweithredu a gymrwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Mae'r camau gweithredu fel y nodwyd isod:-

 

Strydwedd a Chludiant

  • Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio arfaethedig.  Gorchymyn Gorfodaeth Sifil a Chyfuno.  Diwygiad Rhif 9.

I gynghori Aelodau yngl?n â gwrthwynebiad a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu Gorchymyn Rhif 9 Diwygio Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio arfaethedig, sy’n cyflwyno Dim Aros Ar Unrhyw Adeg ac Aros Cyfyngedig ar Phoenix Street, Wood Street, Fairway, Watkin Street, North Street, Harrison Grove, Evensleigh Drive a Lawrence Street, Sandycroft.

 

 

  • Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio arfaethedig.  Gorchymyn Gorfodaeth Sifil a Chyfuno.  Diwygiad Rhif 4.

I gynghori Aelodau ar y gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu Gorchymyn Rhif 4, Diwygio Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio arfaethedig,sy’n cyflwyno Dim Aros Ar Unrhyw Adeg, Aros Cyfyngedig a Pharcio Cyfyngedig ar Cymau Road a Wynhdam Drive, Abermorddu.

 

  • Ffioedd a Thaliadau Gwaith Stryd ar gyfer 2018/19

Mae’r ffioedd a thaliadau a godir am drwyddedau a cheisiadau amrywiol a gyflwynir o fewn Gwaith Stryd wedi eu hadolygu a nodir y taliadau arfaethedig ar gyfer 2018/19 yn y tabl ar y ffurflen pwerau dirprwyedig.

 

Cynllunio a’r Amgylchedd (Amddiffyn Busnes a’r Gymuned)

  • Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Canolfan Siopa Bwcle

Yn dilyn ymchwiliad i gerbydau sy’n niwsans ym Maes Parcio Canolfan Siopa Bwcle, Bwcle, ac ymgynghoriad yn dilyn hynny, mae cefnogaeth gadarnhaol wedi bod i Gyngor Sir y Fflint wneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn gwahardd gyrwyr cerbydau modur rhag ymwneud â nifer o weithgareddau gwrth gymdeithasol ar y safle.  Y dyddiad cyflwyno arfaethedig yw 24 Tachwedd 2017 am gyfnod o dair blynedd.

 

  • Cynnydd Blynyddol mewn Ffioedd a Thaliadau 2017/18

Dogfen ffioedd a thaliadau diwygiedig ar gyfer Gwarchod Busnes a’r Gymuned ar gyfer 2017/18.

 

Newid Sefydliadol

  • Trosglwyddiad Ased Cymunedol Gerddi Rhandir Llaneurgain ym Mharc St Peters Llaneurgain Trosglwyddiad Ased Cymunedol Gerddi Rhandir Llaneurgain fel y nodir yn y cynllun yn yr adroddiad pwerau dirprwyedig a ddangosir mewn coch.

 

  • Cyn Safle Garej, Wirral View, Rhewl, Mostyn

Nid yw safle’r garej yma’n cael ei ddefnyddio bellach a chaiff ei werthu i ddeiliad dwy lain garej sydd ar ôl ar y safle.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau gweithredu a gymrwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Fod y wasg a’r cyhoedd i’w gwahardd am weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol drwy rinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

93.

Caffael Contract Asiantaeth Newydd

Pwrpas:        Cymeradwyo caffael contract asiantaeth newydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Caffael Cytundeb Asiantaeth Newydd oedd yn amlinellu'r cytundeb fframwaith presennol a ddefnyddiwyd i gaffael staff asiantaeth. 

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhai anawsterau gyda’r cytundeb oedd yn cynnwys yr anallu i sicrhau gweithwyr ar y gyfradd dâl a gynigiwyd; anhawster mewn sicrhau arbenigwyr technegol/proffesiynol; ac weithiau anhawster mewn sicrhau gweithwyr mewn niferoedd digonol.  Felly roedd angen diwygio'r fanyleb fel rhan o’r broses ail gaffael i sicrhau fod y cytundeb yn parhau i wasanaethu anghenion y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod y caffael yn dechrau gan ddefnyddio’r ESPO MSTAR2 Rhif Fframwaith 653F; a

 

 (b)      Bod Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i reoli’r broses gaffael.

94.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd ac roedd un aelod o'r wasg yn bresennol.