Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau un unold a hynny.

Cofnodion:

Cafodd budd personol ei ddatgan gan y Cynghorydd Attridge yn eitem 20 ar yr agenda – Diweddariad ar Brosiect Caffael yr Uned Trafnidiaeth Integredig. 

 

                        Cafodd budd personol ei ddatgan gan y Cynghorydd Butler yn eitem 21 ar yr agenda – Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mynydd Helygain.  Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) oherwydd bod y Cynghorydd Butler wedi’i benodi i Gr?p Gweithredu Lleol (LAG) Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, mai personol yn unig oedd y budd oherwydd bod eithriad yng nghyswllt hyn yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau.  Fodd bynnag, os oedd unrhyw beth yn ymwneud â chais cynllunio’n codi yn y dyfodol, byddai’r budd hwnnw’n bersonol a rhagfarnus.

 

                        Ar eitem 26 ar yr agenda – Datblygiad Maes Gwern, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod nifer o Aelodau’r Cabinet hefyd yn Aelodau o Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor a gallai fod pryder y byddai’n ymddangos bod ganddynt farn wedi’i llunio ymlaen llaw am y cais Cynllunio o fod wedi ystyried yr eitem yn y Cabinet.  Fodd bynnag, oherwydd mai’r Cyngor oedd yn berchen ar y tir, cymerid y byddai Aelodau’r Cabinet yn rhyddhau’r tir ar gyfer caniatâd cynllunio a derbyniwyd y gallent gymryd rhan yn y ddwy ran o’r broses honno. Fodd bynnag, dywedodd wrth yr Aelodau Cabinet perthnasol y dylent sicrhau nad oeddent yn trafod na’n llunio barn ymlaen llaw am agweddau cynllunio penodol fel priffyrdd. 

15.

Cofnodion pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:         I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod diwethaf.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2017 wedi eu dosbarthu gyda’r agenda. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

16.

Verbal Update - Flint High Rise Assurance

Pwrpas:         Er mwyn rhoi sicrwydd pellach ar fesurau diogelwch tân yn y Fflint fflatiau uchel.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Attridge ddiweddariad llafar ar fflatiau uchel yn y Fflint oedd yn cynnwys chwe ardal yn bennaf. Talodd deyrnged i’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) a’r holl staff a fu’n gweithio i sicrhau diogelwch y fflatiau uchel ers bore’r trychineb ofnadwy yn Llundain.  Roedd y Rheolwr Rhaglenni Cyfalaf wedi bod yn rhoi tystiolaeth yr wythnos cynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lle’r oedd Sir y Fflint wedi derbyn cydnabyddiaeth am y gwaith oedd wedi’i wneud.  Byddai’r diweddariad llafar hefyd yn cael ei roi i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter y diwrnod canlynol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr pa mor bwysig oedd bod yn dryloyw ac adroddiadau cyhoeddus er mwyn tawelu meddyliau’r tenantiaid.  Roedd presenoldeb cychwynnol swyddogion allweddol ar y safle, ynghyd â’r Gwasanaeth Tân ac Achub, wedi arwain at adborth da gan denantiaid.  Roedd dogfen cwestiynau cyffredin wrthi’n cael ei pharatoi a byddai ar gael ar wefan y Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts, yr Aelod Lleol ar gyfer y ward lle’r oedd y fflatiau uchel, yn bersonol i’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) ac i’r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Attridge, am yr holl waith oedd wedi’i wneud a’r tawelwch meddwl a roddwyd i’r tenantiaid.

17.

Buddsoddiad Cyfalaf Model Darpariaeth Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd

Derbyn cyflwyniad am fuddsoddiad cyfalaf model darpariaeth amgen Hamdden a Llyfrgelloedd gan gynrychiolwyr Bwrdd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura. Bydd adroddiad yn cael ei ystyried dan wybodaeth eithriedig yn eitem rhif 27 ar y rhaglen.

Cofnodion:

Estynnodd y Cynghorydd Shotton groeso i Christine Edwards, Cadeirydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, a Mike Welsh, Rheolwr Gyfarwyddwr Aura, i’r cyfarfod.  Eglurodd y byddai adroddiad yn cael ei ystyried ar ddiwedd y cyfarfod mewn sesiwn gaeedig oherwydd y materion masnachol sensitif. 

 

            Eglurodd Christine Edwards fod Bwrdd Cysgodol Hamdden a Llyfrgelloedd wedi cwrdd ddwywaith a bod y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr lleol.  Un o’r blaenoriaethau gan y Bwrdd oedd lefel ymgysylltiad y staff, oedd wedi’i groesawu.  Roedd gweledigaeth Aura’n cynnwys gwella, hygyrchedd a rhoi ‘mwy’ o hyd.  Roedd dau ddatblygiad cyfalaf penodol wedi’u cymeradwyo ar gyfer prosiectau gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2016 sef ym Mhafiliwn Jade Jones a Chanolfan Hamdden yr Wyddgrug.

 

            Y camau nesaf, pe bai’r buddsoddiad yn cael ei gymeradwyo, oedd dechrau gweithio ar y dyluniad manwl ac ymgynghori’n fanwl â defnyddwyr a’r ysgolion uwchradd yn yr Wyddgrug. Byddai hyn yn golygu cyflawni’r gwaith datblygu yn yr hydref a thros y gaeaf.  Pwysleisiodd ba mor bwysig oedd gweithio gyda’r Cyngor ac adeiladu ar y berthynas gadarnhaol oedd eisoes yn bodoli. 

 

            Ychwanegodd Mike Welch fod y gweithlu’n gefnogol i’r cynigion a’u bod i gyd yn ymroddedig i’r weledigaeth.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei fod wrth ei fodd gyda’r prosiect a lwyddodd i wneud y 30% o arbedion oedd yn ofynnol a chadw’r cyfleusterau hamdden ar agor yr un pryd.  Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton fod hyn yn drobwynt i’r Cyngor fod cyfleusterau Hamdden a Llyfrgell y Sir wedi cael eu gwarchod.  Soniodd hefyd am y buddsoddiad cyfalaf oedd yn cael ei wneud, oedd yn anghyffredin yn y wlad ar hyn o bryd oherwydd y toriadau yr oedd Cynghorau’n ei wynebu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y cyflwyniad gan Christine Edwards a Mike Welch.

18.

Cynllun y Cyngor 2017-23 pdf icon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun y Cyngor am 2017-23 gan y Cynghorydd Mullin ac eglurodd fod y Cynllun wedi’i adolygu a’i ddiwygio i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor dros gyfnod 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr fod strwythur y cynllun heb newid ers cynlluniau blaenorol a’i fod yn cynnwys chwech o flaenoriaethau ac is-flaenoriaethau perthnasol.  Roedd y chwe blaenoriaeth yn cymryd barn hirdymor ynghylch prosiectau a dyheadau dros y pum mlynedd nesaf.

 

            Byddai Cynllun y Cyngor yn cael ei gyflwyno fel dwy ddogfen gysylltiedig.  Yn gyntaf y fersiwn ‘gyhoeddus’ o’r datganiadau o fwriad ar y chwe blaenoriaeth, ac yn ail y ddogfen yn disgrifio’r targedau a’r cerrig milltir y byddai’r hyn a gyflawnir yn cael ei fesur yn eu herbyn.  Byddai’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen “Sut yr Ydym yn Mesur” yn cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol cyn eu cytuno’n derfynol gan y Cabinet ym mis Medi. 

 

Byddai’r ddogfen yn cael ei defnyddio gan y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i fonitro cynnydd drwy’r flwyddyn.  Byddai Cynllun terfynol y Cyngor ar gael fel dogfen wedi’i chyhoeddi ar y wefan cyn diwedd Medi’n dilyn argymhelliad i’w gymeradwyo gan y Cyngor Sir.

 

Yn ddiweddar, roedd y Cynllun wedi’i adrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a ofynnodd am argymell dau ychwanegiad, a gefnogwyd, i’r Cabinet.  Y rhain oedd (1) twristiaeth a chryfhau’r strategaeth economaidd, a (2) effaith bosib Brexit ar yr economi leol.

  

            PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo Cynllun Gwelliannau 2017-23 cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu’n barod i’w gyhoeddi’n derfynol, gan gynnwys dau ychwanegiad ar y pwynt hwn: (1) twristiaeth a chryfhau’r strategaeth economaidd, a (2) effaith bosib Brexit ar yr economi leol.

19.

Diweddariad Strategaeth Ariannol tymor Canolig pdf icon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad oedd yn nodi’r rhagolygon ariannol am 2018/19 fel rhan o ddiwygio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

Roedd y rhagolygon gwreiddiol ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19, y drydedd flwyddyn a blwyddyn olaf y MTFS bresennol, yn dangos ‘bwlch’ tebygol rhwng y cyfanswm gwario angenrheidiol a’r incwm disgwyliedig o £6.2m.  Ar ôl diystyru unrhyw fodelu ar gyfer cynnydd yn Nhreth y Cyngor, byddai’r bwlch disgwyliedig yn sefyll ar £8.5m fel ffigur gwirioneddol.  Roedd y rhagolygon wedi’u diwygio a’u diweddaru’n dilyn penderfyniadau a wnaed fel rhan o gyllideb 2017/18, ar ôl derbyn gwybodaeth fwy diweddar am bwysau gweithlu, lleol a chenedlaethol, a’r rhagolygon diweddaraf ar gyfer chwyddiant.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon diwygiedig yn dangos ‘bwlch’ disgwyliedig o £11.7m cyn unrhyw fodelu ar gyfer cynnydd yn Nhreth y Cyngor. 

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod gweithdy mewnol i’r Aelodau’n cael ei gynnal ar y MTFS nes ymlaen y diwrnod hwnnw.

 

Lleisiodd y Cynghorydd Shotton ei bryder pe bai’r toriadau sylweddol blaenorol yn digwydd eto y byddai hyn yn cael effaith fwy negyddol fyth ar grant bloc Cymru gan Lywodraeth y DU.  Pe bai hynny’n digwydd ni fyddai’n bosib cael cyllideb gytbwys heb i’r awdurdod wneud penderfyniadau anodd iawn.  Y dybiaeth oedd mai setliad ‘fflat’ oedd i ddod ond byddai’r Cyngor yn parhau i lobio am setliad gwell.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr nad oedd setliad ‘fflat’ yn ystyried pethau fel chwyddiant a dyfarniadau cyflog.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu’r fframwaith ar gyfer diwygio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar gyfer 2018/19 a derbyn y rhagolygon fel cam cyntaf.

20.

Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg pdf icon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad hwn oedd yn rhoi trosolwg ar yr Adroddiad Blynyddol ar y Gymraeg ac ar y cynnydd gyda chydymffurfio â’r Safonau ac unrhyw feysydd lle’r oedd angen gwella.  Cyfeiriodd at weledigaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod angen i nifer y siaradwyr Cymraeg gynyddu i filiwn erbyn 2050.

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr fod y data yn yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr Hysbysiad Cydymffurfio a’r camau a gymerwyd i gwrdd â’r Safonau.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am y cynnydd a wnaed a meysydd i’w gwella. 

 

Cafwyd 16 o gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg yn 2016/17, yn ymwneud ag 17 o achosion posib o dorri’r Safonau.  O’r rhain, roedd naw cwyn yn cael eu hymchwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg a dau arall yn cael eu hymchwilio.  Penderfynodd y Comisiynydd fod y Cyngor wedi torri wyth o’r Safonau a dewisodd beidio â dirwyo’r Cyngor ond cyflwynodd rybuddion gorfodi a gwnaeth un argymhelliad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorwyr Shotton a Roberts at ddyhead y Prif Weinidog am weld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, gan ofyn a fyddai cyllid ar gael i helpu awdurdodau lleol i gyflawni’r nifer hwn.  Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton fod Sir y Fflint eisoes yn cyfrannu’n sylweddol at y nifer gydag Ysgol Croes Atti yn y Fflint a’r ysgol loeren yn Shotton.  Cyfeiriodd hefyd at y Cylch Meithrin yn Garden City oedd yn wasanaeth Dechrau’n Deg cyfrwng Cymraeg lle’r oedd pobl yn cofleidio’r iaith Gymraeg.  Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod yn falch o gael y ddarpariaeth hon yn ei ward a chyfeiriodd hefyd at nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno ar yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Gymraeg am y cyfnod 2016/17; a

 

(b)       Nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud gyda gweithredu Safonau’r Gymraeg a’r meysydd sydd angen eu gwella.

21.

Cyflwyno Credyd Cynhwysol pdf icon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad hwn oedd yn rhoi diweddariad ar effaith ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol ar breswylwyr yn Sir y Fflint a sut y byddai’n cael effaith bellach wrth ei gyflwyno’n ehangach.

 

Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y ‘Gwasanaeth Llawn’ yn disodli chwe budd-dal blaenorol i hawlwyr oed gweithio, sef:

 

·         Budd-dâl Tai;

·         Cymhorthdal Incwm;

·         Lwfans Ceisio Gwaith;

·         Cymorth Cyflogaeth;

·         Credyd Treth Plant; a’r

·         Credyd Treth Gwaith

 

Rhwng Ebrill a Mehefin 2017 roedd 362 o gwsmeriaid yn derbyn ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol, 65 ohonynt wedi eu hadnabod i fod angen Cymorth gyda Chyllidebu Personol oedd wedi’i ddarparu gan Dîm Ymateb i Ddiwygiadau Lles y Sir.  Roedd swyddogion wedi rhoi cymorth digidol i 352 o gwsmeriaid gyda rheoli eu hawliadau ar-lein.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am yr effaith ar ôl-ddyledion rhent, ôl-ddyledion treth cyngor, gwasanaethau eraill a phartneriaid gan nodi’r cymorth a gynigiwyd i gwsmeriaid.

 

Roedd yr achosion Cymorth a Chyllidebu Personol eisoes wedi codi materion gan gynnwys bod gan fenthycwyr ‘diwrnod cyflog’ fynediad uniongyrchol at gyfrif banc y cwsmer ac felly, pan oedd eu Credyd Cynhwysol misol yn cael ei dalu, roeddent yn mynd i mewn i’w cyfrif gan adael y cwsmer heb ddigon o arian i fyw arno bob mis. 

 

Roedd hyfforddiant a chyfathrebu’n cael ei ddarparu i’r holl staff rheng flaen i roi cyngor ac arweiniad ar sut orau i helpu cwsmeriaid oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol.

 

Talodd y Cynghorydd Mullin deyrnged i’r Rheolwr Budd-daliadau a’i staff oedd yn gwneud gwaith da’n cefnogi cwsmeriaid ers cyflwyno’r Credyd Cynhwysol.

 

PENDERFYNWYD:

           

Nodi’r adroddiad a chefnogi’r gwaith oedd yn cael ei wneud i reoli’r effaith y mae ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol eisoes yn ei gael, ac y bydd yn ei gael, ar gartrefi a theuluoedd mwyaf bregus Sir y Fflint.

22.

Deddf Tai (Cymru) 2014 – Digartrefedd pdf icon PDF 178 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad hwn oedd yn yn rhoi’r cefndir i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac yn cynnig datblygiadau tai arloesol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy i bobl ifanc dan 35 oed.  Roedd hefyd yn cynnwys cynigion i ddarparu llety dros dro gwell a llochesi mwy cost-effeithiol i bobl yn cysgu ar y stryd.  Byddai’r cynigion yn cynorthwyo’r Cyngor i barhau i atal digartrefedd ac osgoi unrhyw gysgu ar y stryd yn y Sir.

 

                        Roedd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi pwyslais llawer cryfach ar atal digartrefedd ac roedd y Cyngor wedi cymryd nifer o gamau i sicrhau y gallai gydymffurfio â’r dyletswyddau newydd a rheoli’r pwysau ychwanegol.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid fod argaeledd tai’n risg gynyddol i’r gwasanaeth a bod y niferoedd ar y gofrestr gymdeithasol wedi codi’n sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf.  Ar gyfartaledd, roedd pobl yn gorfod aros 11 mis am eiddo 3 llofft ac nid oedd y cyflenwad presennol i bobl sengl yn ateb y galw, gyda’r prinder tai yn cael effaith ar ddefnydd y Cyngor o lety dros dro.  Roedd y Cyngor yn gwneud mwy na’i ddyletswydd statudol ac yn cartrefu unrhyw un oedd heb unman diogel i aros ac roedd rhai o’r lleoliadau’n mynd yn estynedig ac yn rhoi baich ariannol ar y Cyngor.  Cyfeiriodd yr adroddiad hefyd at y pwysau ychwanegol ar y Cyngor gyda dod o hyd i opsiynau tai addas a phwysigrwydd y gwasanaethau oedd yn atal pobl rhag mynd yn ddigartref.  Byddai unrhyw doriadau i’r cyllid pontio a / neu’r cyllid Cefnogi Pobl yn cyflwyno risg bellach i’r Cyngor.

 

                        Roedd datblygiadau newydd yn cynnwys cynyddu nifer y tai oedd ar gael i’r gr?p dan 35 oed ac roedd cais wedi’i wneud am gymorth i’r gronfa tai arloesol i ddatblygu mwy o unedau llai a / neu wedi eu rhannu.  Ar gyfer llety dros dro, roedd cyfle i’w ddatblygu mewn ffordd fwy effeithlon a’i gysylltu i addysg a chyflogaeth.  Roedd cais am gymorth hefyd wedi’i wneud i’r Gronfa Tai Arloesol i ddatblygu’r maes hwn er mwyn darparu amgylchedd trawsnewidiol a chadarnhaol i rai oedd am dorri’r cylch o fod yn ddigartref.

 

            O ran cysgu ar y stryd, roedd y Cyngor eisiau rhwystro hyn ond roedd angen ystyried opsiynau eraill yn lle gwely a brecwast a gwestai.  Roedd y rhain yn cynnwys lloches dros dro a gweithio gyda’r trydydd sector ac elusennau i sefydlu cronfa i dalu am eitemau hanfodol i bobl ddigartref ac i redeg lloches argyfwng.

 

            Hefyd ar gael oedd dull cwbl newydd sef Tai yn Gyntaf.   Nid oedd gan y dull hwn unrhyw ragdybiaeth ynghylch pobl i’w galluogi i dderbyn llety, gyda’r llety’n cael ei ddarparu’n aml yn y sector rhentu preifat a chymorth yn cael ei ddarparu i gwrdd ag anghenion yr unigolyn.  Roedd angen dull amlddisgyblaethol oedd yn gwneud mwy na helpu gyda digartrefedd a materion tai.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad.  Gofynnodd pe bai aelod o’r teulu’n helpu drwy ddarparu llety dros dro a fyddai hyn yn anfanteisiol i’r person digartref  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (Alldro) pdf icon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad hwn oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn chwarter olaf 2016/17 a welodd gynnydd net o £4.848m dros y cyfnod hwnnw.

 

                        Y ffigur terfynol gwirioneddol oedd £63.493m.  Yr adnoddau oedd ar gael yn bresennol i gyllido gwariant cyfalaf yn y dyfodol oedd £5.066m – byddai angen hwn i gyd i gyllido cynlluniau cyfalaf o 2017/18 ymlaen.

 

                        Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y gwariant cyfalaf mewn cymhariaeth â’r gyllideb; yr arian a gariwyd drosodd i 2017/18; dyraniadau ychwanegol; arbedion; ariannu; a chyllid ar gyfer cynlluniau cymeradwy yn 2016/17.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad yn gyffredinol; a

 

(b)       Cymeradwyo’r addasiadau a gariwyd drosodd yn yr adroddiad.

24.

Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Alldro) pdf icon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad hwn yn nodi’r sefyllfa ar fonitro’r gyllideb refeniw (derfynol) am 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

                        Y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn oedd:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

·         Roedd y ffigur terfynol net canol blwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.846m;

·         Roedd y ffigur terfynol cyffredinol yn cynnwys effaith bositif o £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar Isafswm Refeniw fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir.  Effaith hyn oedd dileu’r diffyg gweithredol, gyda’r gwariant net £2.039m yn llai na’r gyllideb; a

·         Y balans wrth gefn ar 31 Mawrth 2017 oedd £5.133.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Roedd y gwariant net canol blwyddyn £0.018m yn is na’r gyllideb; a

·         Roedd y balans cau ar 31 Mawrth 2017 yn £1.116m, gydag arian wedi’i glustnodi wrth gefn o £0.526m.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi cael ei adolygu yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, heb i unrhyw fater newydd gael ei godi.  Ychwanegodd fod £9.557m o arbedion effeithlonrwydd wedi eu gwneud (91%), oedd yn welliant ar y flwyddyn cynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth; a

 

(b)       Nodi lefel derfynol y balansau yn y Cyfrif Refeniw Tai.

25.

Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Dros Dro) pdf icon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad hwn, a dyma adroddiad monitro cyllideb cyntaf 2017/18. Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd gyda gwneud arbedion effeithlonrwydd yn erbyn y targedau gan adrodd drwy eithriad ar amrywiadau sylweddol a allai effeithio ar y sefyllfa derfynol yn 2017/18.

 

                        Nid oedd yr adroddiad yn rhoi lefel y manylder a fyddai’n dilyn mewn adroddiadau monitro cyllideb nes ymlaen.

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau ynghyd â’r risgiau a gymerwyd drwy’r flwyddyn fel yr esboniwyd yn ystod y broses pennu cyllideb ym mis Chwefror.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

26.

Adolygiad AGGCC o Berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad hwn oedd yn manylu ar y llythyr blynyddol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) am  y cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017.

 

                        Roedd y llythyr yn nodi’r cynnydd cyson gyda chwrdd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, gyda sylwadau cadarnhaol ar ddatblygu’r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a’r Ganolfan Ymyrraeth Gynnar.  Y themâu ffocws am y flwyddyn oedd gofalwyr a diogelu oedolion; byddai gweithredu’r trothwyon diogelu a’r canllawiau newydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mewn i’r flwyddyn ganlynol.

 

                        Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y llythyr yn cydnabod yr heriau parhaus gyda gweithredu’r trothwyon diogelu newydd a gyda gweithio’n strategol mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) oedd yn cael ei weithredu fel blaenoriaeth strategol i’r rhanbarth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

27.

Cymeradwyo costau Canolfan Melrose, Shotton pdf icon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad oedd yn gofyn am ganiatâd i symud ymlaen gyda chamau allweddol nesaf Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP).  Roedd hefyd yn nodi cynigion i ddatblygu cynllun tai newydd yn yr hen Ganolfan Adnoddau ym Melrose Avenue, Shotton, oedd yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor ac yn safle y cytunwyd ymlaen llaw i’w gynnwys yn SHARP.

 

                        Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynllun gan gynnwys y mathau o eiddo oedd mewn golwg, eu dyluniad a’u cynllun a’r costau adeiladu disgwyliedig.  Eglurwyd mai benthyca darbodus oedd yr opsiwn cyllido a ffafriwyd, ar gost o £1,191,092.

                       

                        Byddai ailddatblygu Canolfan Melrose, a ddaeth yn darged i fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y misoedd diwethaf, yn gweld cynllun o 9 eiddo’n cynnwys 5 o dai 2 lofft, a 4 o randai 1 a 2 lofft.  Byddai’r tai’n cydymffurfio â Safon Tai Sir y Fflint y Cyngor i sicrhau cynllun mewnol cyson o ansawdd da, ffitiadau a gosodion da, safonau arbed ynni uchel ac edrychiad allanol a fyddai’n gweddu i’r ardal, manylebau cynhyrchion lle’r oedd angen cynnal a chadw isel, digon o le parcio a thiroedd cyhoeddus wedi’u dylunio i hybu cymunedau cydlynol a chynhwysol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo datblygu naw o dai Cyngor newydd ar safle hen Ganolfan Melrose, Shotton; a

 

(b)       Bod benthyca darbodus gwerth £1,191,092 (i’w gymeradwyo a’i wirio’n derfynol ac yn amodol ar hynny) i’w ddefnyddio i ariannu’r datblygiad arfaethedig.

28.

Cynllun Busnes NEW Homes pdf icon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyo Cynllun Busnes (NEW) Homes Gogledd-Ddwyrain Cymru 2017/22.

 

                        Roedd y cynllun yn cyflwyno elfennau allweddol cynllun twf arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer yr eiddo a reolir ac a berchenogir fel tai fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf.

 

                        Cafodd y Cynllun Busnes ei gymeradwyo gan Fwrdd NEW Homes ar 28 Mawrth 2017 gan gynnwys The Walks, Y Fflint a fyddai’n gweld darparu 62 o dai a rhandai fforddiadwy.  Cafodd y saith eiddo cyntaf gan NEW Homes ar The Walks, Y Fflint eu gosod ym Mehefin 2017 gyda threfniadau i raddol drosglwyddo holl eiddo’r cynllun yn y dyfodol.  Byddai’r holl gynlluniau arfaethedig gan SHARP yn y dyfodol yn cael eu cymeradwyo gan gwmni NEW Homes a’r Cabinet, fesul cynllun.

 

                        Roedd NEW Homes yn rheoli a gosod eiddo ar ran y landlordiaid oedd yn berchen arnynt, drwy gytundeb rheoli.  Ar hyn o bryd roedd 29 eiddo yn y portffolio rheoli.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan ganmol ansawdd y datblygiad yn The Walks, Y Fflint.  Cyfeiriodd at y berthynas gadarnhaol rhwng y Cyngor a’r datblygwr gan longyfarch pawb a fu’n rhan o’r cynllun.  Croesawyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Bithell hefyd a’i fod yn galondid i bobl leol mewn angen.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r Aelodau am eu sylwadau a dywedodd ei fod yn falch iawn o gyhoeddi fod Cyngor Sir y Fflint wedi ennill gwobr yr wythnos cynt drwy “Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru”.  Cafwyd cystadlu chwyrn gan brosiectau mawr eraill o Gymru a byddai’r Cyngor, yn dilyn y llwyddiant hwn, yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynol y DU ym mis Tachwedd.  Diolchodd i’r holl staff a dywedodd y byddai’r wobr yn cael ei chyflwyno yn y Cyngor Sir ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes NEW Homes 2017/22 gan nodi y byddai unrhyw ddatblygiadau arfaethedig lle’r oedd angen arian cyfalaf yn dod o flaen y Cabinet i’w cymeradwyo fesul cynllun ar ôl eu cymeradwyo gan Fwrdd NEW Homes.

29.

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2017/18 pdf icon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad oedd yn amlinellu taliadau gwresogi arfaethedig y systemau gwresogi cymunedol yn nhai’r Cyngor ar gyfer 2017/18, 2018/19 a 2019/20.

 

                        Roedd taliadau newydd yn dod i rym yn yr haf bob blwyddyn er mwyn gallu creu darlun cywir o gostau’r flwyddyn cynt.  Pwrpas unrhyw newidiadau arfaethedig i’r taliadau oedd sicrhau bod pob cynllun gwresogi cymunedol yn adennill y costau ynni llawn a godwyd ar bob cynllun gan anelu at falans o nil ar y cyfrif gwresogi.

 

                        Roedd yr adroddiad yn manylu’n llawn ar y taliadau gwresogi oedd yn cael eu hargymell, ar sail y defnydd yn 2016/17 a chan dybio bod y costau a’r defnydd yn aros yr un fath am y tair blynedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r newidiadau i daliadau gwresogi’r cynlluniau gwresogi cymunedol yn nhai’r Cyngor fel y nodir hwynt yn nhabl yr adroddiad, gyda’r newidiadau i ddod i rym o’r 1 Medi 2017 ymlaen.

30.

Newidiadau i Amserlenni Casglu Gwastraff a'r Trefniadau Gweithredu Newydd yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor pdf icon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y newidiadau a gymeradwywyd yn flaenorol i’r rowndiau casglu gwastraff ac i raglen ailddatblygu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (HRC) y Cyngor, gan ddisgwyl y byddai’r ddau’n gwella lefelau ailgylchu’n sylweddol yn y dyfodol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyo’r diweddariad i’r polisi Casglu Gwastraff Cartref a Gwaith y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, oedd wedi’i ddiwygio i adlewyrchu’r newidiadau.

 

                        Roedd yr adroddiad yn manylu’n llawn ar y cynllun trwyddedu faniau preswylwyr; amseroedd agor HRC; rheoli HRC; a’r newidiadau i’r rowndiau gwastraff ac ailgylchu.  Roedd cynllun cyfathrebu wedi’i gynhyrchu ar gyfer y prosiect a byddai ymgyrch gyfathrebu ledled y sir i roi gwybod i’r preswylwyr am y newidiadau i’r gwasanaeth yn cael ei lansio cyn cychwyn ar y rowndiau newydd, yn tynnu sylw at y deunyddiau ychwanegol a fyddai’n cael eu casglu a’r dyddiad y byddai’r gwasanaeth casglu newydd yn dechrau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r newidiadau i bolisi Casglu Gwastraff Cartref a Gwaith Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor; a

 

(b)       Cymeradwyo’r newidiadau i’r rowndiau gwastraff ac ailgylchu, a fyddai’n dod i rym ym mis Medi 2017.

31.

Diweddariad ar Strategaeth Barcio’r Cyngor pdf icon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y bwriad i gyflwyno taliadau parcio cam-wrth-gam yn y Fflint, adolygu parthau cerdded yng nghanol tref Treffynnon a Bwcle, a chynnwys maes Parcio Well Street yn Nhreffynnon o fewn y strategaeth barcio.

 

            Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd lle’r oedd wedi’i gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo gweithrediad cam-wrth-gam Strategaeth Barcio’r Fflint;

 

(b)       Cymeradwyo’r adolygiad o orchmynion parcio ar y stryd, yr adolygiad o Gynllun Parcio Preswylwyr a Llwybr Beicio Church Street yng nghanol tref y Fflint;

 

(c)        Gofyn i Gynghorau Tref Bwcle a Threffynnon ymgynghori’n ffurfiol i sefydlu beth oedd eu barn am gyflawni adolygiad ffurfiol o’r parthau cerdded yng nghanol y ddwy dref; a

 

(d)       Cynnwys maes parcio Well Street yn strategaeth barcio Treffynnon.

32.

Y diweddaraf ar yr Uned Gludiant Integredig / Prosiect Caffael pdf icon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y broses o gaffael cludiant ysgol ac yn nodi’r prif newidiadau yn y ddarpariaeth gludiant oedd i’w cyflwyno o fis Medi 2017 ymlaen.

 

                        Roedd cam cyntaf y broses gaffael wedi’i gwblhau gyda 47 o gyflenwyr wedi pasio’r cam cyn-gymhwyso.  Roedd yr ail gam yn dechrau ar 11 Mehefin drwy roi gwybodaeth am y llwybrau cludo i’r holl gyflenwyr a fyddai yna’n cael eu gwahodd i brisio pob llwybr, ar sail cyfradd y filltir, ac i ddarparu cyfradd y filltir am bob categori cerbyd sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaeth mewn ardal neilltuol.  Byddai’r trefniadau caffael newydd yn creu’r arbedion sydd mewn golwg ar gyfer y gwasanaeth.

 

                        Gellir darparu cludiant drwy wasanaeth cludiant contract ysgol neu gyda’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus presennol a fyddai, ynghyd â’r math o gludiant, yn dibynnu ar ba mor gost-effeithiol ydynt.  Mewn rhai achosion gallai un bws contract gludo gwahanol ddisgyblion i fwy nag un safle ysgol.  Mae’r cludiant fel arfer i ac o arosfannau bws neu bwyntiau codi ar gyfer grwpiau o ddisgyblion, ac o ddrws i ddrws dim ond mewn amgylchiadau eithriadol.  Byddai’r pellter mwyaf y byddai disgwyl i ddisgybl gerdded i ac o’r pwyntiau codi’n dibynnu ar oed, anghenion yr unigolyn a natur y llwybr y byddai disgwyl iddynt gerdded ar ei hyd.  Roedd y pwyntiau codi a gollwng, a’r amser codi, yn cael eu hadolygu. Fodd bynnag, byddai’r polisi presennol yn cael ei ddilyn oni bai mewn amgylchiadau eithriadol.

 

                        Canmolodd y Cynghorydd Attridge y tîm a’u gwaith ar y prosiect, oedd yn enghraifft dda o weithio gyda phartneriaid busnes.  Roedd hefyd meddai’n gwerthfawrogi’r contractwyr a fu’n rhan o’r broses.  Cytunodd y Prif Weithredwr â sylwadau’r Cynghorydd Attridge gan ychwanegu fod hyn yn dystiolaeth o dimau’n gweithio gyda’i gilydd i reoli’r farchnad fasnachol yn well a chreu arbedion.  Diolchodd i’r tîm hefyd am ganlyniad llwyddiannus y prosiect.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi effaith debygol y broses o gaffael Cludiant Ysgolion fel y nodwyd yn yr adroddiad.

33.

Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mynydd Helygain pdf icon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad hwn ac eglurodd, yn dilyn mynegi diddordeb llwyddiannus yng nghyswllt Comin Mynydd Helygain, fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gwahodd cais ar gyfer eu Cynllun Rheoli Cynaliadwy i fynd i’r afael â’r lleihad mewn pori drwy reolaeth briodol o lystyfiant a stoc. 

 

Byddai’r prosiect hefyd yn ystyried gwella’r ffordd y rheolir gweithgareddau hamdden ac yn annog gweithgareddau i dynnu sylw at fanteision iechyd a lles y Comin.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau oedd 1 Medi 2017 a byddai’r cynllun arfaethedig yn rhedeg rhwng 1 Ionawr 2018 a’r 31 Mawrth 2021 ar gost o £400,000.

 

                        Croesawodd y Cynghorwydd Butler yr adroddiad ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig a fyddai o fudd i bawb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r prosiect cydweithredol a chefnogi’r cais am grant i Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

34.

Cyrff Gweithredol pdf icon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad oedd yn rhestru’r cyrff Mewnol a Gweithredol oedd wedi eu cynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor.  Roedd y rhestr wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf a heb gael ei hadolygu ers 2012. Yn dilyn yr etholiadau lleol, roedd bellach yn amser priodol i wneud hynny.

 

                        Mewn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod un lle i Gynghorydd Sir y Fflint ar y Panel Gofal Maeth, gyda gweddill yr aelodaeth yn cynnwys Cynghorwyr oedd yn cynrychioli awdurdodau lleol eraill.

 

                        Roedd y Cynghorydd Bithell a’r Cynghorydd Paul Cunningham wedi mynegi diddordeb mewn bod ar y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (SACRE).

 

                        O ran Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), roedd y Cynghorydd Butler wedi gwirfoddoli i gynrychioli’r Cyngor, gyda’r Cynghorydd Attridge yn cynnig bod yn ddirprwy aelod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo penodiad a chyfansoddiad y cyrff Mewnol / Gweithredol a restrir yn yr atodiad, ac a enwir uchod; a

 

(b)       Lle tybiwyd bod unrhyw un o’r cyrff wedi dirwyn i ben, ond lle’r oedd y Cyfansoddiad yn cyfeirio atynt, awdurdodi’r Prif Swyddog (Llywodraethu) i’w dileu.

35.

Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2016/17 pdf icon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad oedd yn rhoi manylion am Ddangosyddion Darbodus gwirioneddol y Cyngor am 2016/17 o’i gymharu â’r amcan-ffigurau ar gyfer:

           

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Gwariant Cyfalaf;

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd;

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Doethineb; a

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Rheoli’r Trysorlys a Dyledion Allanol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a chymeradwyo’r adroddiad.

36.

Cynllun Gwasanaeth Bwyd ar gyfer Cyngor Sir y Fflint 2017-18 pdf icon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg ar y Cynllun Gwasanaeth Bwyd am 2017-18. Roedd yn manylu ar y nodau a’r amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn adolygu’r perfformiad yn erbyn Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2016-17.

 

                        Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd yr wythnos cynt lle’r oedd wedi cael ei groesawu a’i gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd am 2017-18.

37.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 53 KB

Report of the Chief Executive enclosed.

 

Purpose: To provide details of actions taken under delegated powers.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Roedd y camau a gymerwyd fel a ganlyn:-

 

Newid Sefydliadol

  • Gwerthu Gardd Ffrynt 14 Merllyn Avenue, Cei Conna, Glannau Dyfrdwy

Yn wreiddiol, cafodd gardd ffrynt yr eiddo uchod ei eithrio o’r pryniant Hawl i Brynu gan y perchennog.

 

  • Tir gerllaw hen Ysgol Gynradd Llanfynydd, Llanfynydd

Mae’r eiddo i gael ei werthu i brynwr sy’n bwriadu troi’r eiddo’n Ganolfan Fusnes gyda chyfleusterau Cynadledda.  Bydd y tir hwn yn cael ei ychwanegu at y trawsgludiad.

 

  • Tir gerllaw Yvonne’s Café (Crumps Yard - West End), Dock Road, Cei Conna

Mae’r uchod yn cynnwys parsel 0.3 acer o dir y mae’r prynwyr yn bwriadu ei ddefnyddio fel lle parcio ar gyfer y caffi.

 

Cymuned a Menter

  • Ardrethi Busnes – Mabwysiadu Cynllun Grantiau Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr

Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes wedi’i anelu at siopau stryd fawr yng Nghymru i gynnig rhyddhad mewn dwy haen, naill ai £500 (haen 1) neu £1,500 (haen 2) i fanwerthwyr siopau cymwys gyda gwerth ardrethol o £50,000 neu lai yn y flwyddyn ariannol 2017-18. Mesur dros dro unwaith yn unig yw’r cynllun hwn, wedi’i ariannu’n llawn gan LlC.  Mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol unigol fabwysiadu cynllun a phenderfynu pa fusnesau y gellir rhoi rhyddhad iddynt.  Er mwyn gallu rhoi’r rhyddhad ardrethi mewn ffordd amserol, bydd mabwysiadu’r cynllun hwn yn gynnar yn golygu y gellir rhoi rhyddhad i fusnesau cymwys yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan LlC.

 

  • Ardrethi Busnes – Cais am Ryddhad Ardrethi ar Sail Caledi – Clwb Criced Shotton

Derbyniwyd cais gan Glwb Criced Shotton ynghylch rhwymedigaeth o 20% yn 2017-18 a chefnogir y cais i dderbyn Rhyddhad Ardrethi ar Sail Caledi.  Mae’r clwb ar agor i holl aelodau’r gymuned gan ddarparu cyfleusterau ar gyfer chwarae criced a chwaraeon eraill ac mae tystiolaeth y bydd y rhwymedigaeth i dalu’r 20% yn creu caledi ariannol yn 2017-18.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau sydd i’w cymryd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol oherwydd gwybodaeth sydd wedi’i eithrio o dan baragraffau 14 ac 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

38.

Datblygiad Maes Gwern

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad hwn oedd yn gofyn caniatâd i symud ymlaen at gamau nesaf Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP), gan gynnwys y bwriad i werthu tir o eiddo’r Cyngor ym Maes Gwern yn yr Wyddgrug, i Wates Residential i ddatblygu 160 o dai newydd arno, gan gynnwys 48 o dai Cyngor, tai Rhenti Fforddiadwy a thai Rhannu Ecwiti newydd ar y safle.

 

            Ar werthu’r tir, dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y tir wedi’i brisio am £2.85m.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo gwerthu’r tir ym Maes Gwern yn yr Wyddgrug i Wates Residential am bris o £2.85m.

39.

Buddsoddiad Cyfalaf Model Darpariaeth Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad hwn oedd yn manylu ar y buddsoddiadau cyfalaf ar gyfer y Model Darparu Gwasanaethau Llyfrgell a Hamdden Amgen (ADM).  Gwnaed hyn yn dilyn cytuno i’r cynlluniau ar gyfer gweithredu’r ADM ym mis Rhagfyr 2016.

 

                        Er mwyn gallu symud ymlaen gyda’r cynlluniau, roedd angen cael penderfyniad gan Gyngor Sir y Fflint a chan Fwrdd newydd Aura Leisure and Libraries.  Roedd y Bwrdd wedi cytuno i symud ymlaen gyda gwaith dylunio mwy manwl a’r broses gaffael a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad.  Roedd yr adroddiad yn cynnig dyluniadau amlinell, amcangostau ac amserlen bosib ar gyfer y datblygiad oedd yn rhoi amser i’r Bwrdd a’r rhanddeiliaid chwarae rhan lawn yn natblygiad terfynol y cynlluniau cyfalaf. 

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno i ddatblygiad y cyfleusterau iechyd a ffitrwydd a’r cyfleusterau newid newydd yng Nghanolfan Hamdden Yr Wyddgrug a Phafiliwn Jade Jones;

 

(b)       Cytuno mai Cyngor Sir y Fflint fydd yn talu’r costau cyfalaf (ac eithrio cyfarpar).  Bydd y cynllun yn cael ei ychwanegu at raglen gyfalaf 2017/18, wedi’i ariannu gan fenthyca darbodus;

 

(c)        Lleihau’r cyllid i Aura Leisure and Libraries o’r lefel gymeradwy bresennol, ar y sail y bydd y datblygiadau hyn yn arwain at fedru codi incwm ychwanegol a lleihau’r cymhorthdal gan y Cyngor, gan arwain at gost net o nil i’r Cyngor o ganlyniad i ychwanegu’r cynllun at y Rhaglen Gyfalaf; a

 

(d)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol), mewn ymgynghoriad â Daliwr y Portffolio Addysg, gymeradwyo manylion y cynlluniau a wneir mewn cydweithrediad ag Aura Leisure and Libraries.

40.

Aelodau o'r Wasg a'r Cyhoedd yn y Cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd, ac roedd dau aelod o’r wasg, yn bresennol.