Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unold a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:         I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2017 wedi'u dosbarthu gyda’r rhaglen. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

3.

Cynllun gwella 2016/17 adroddiad alldro pdf icon PDF 166 KB

Pwrpas:         Cymeradwyo crynodeb o gynnydd yn ôl y nodau a’r amcanion sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Gwella 2016/17

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwella 2016/17. Roedd yn adroddiad cadarnhaol ac roedd 100% o’r camau a aseswyd yn gwneud cynnydd da ac 82% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunid.  Ar ben hynny, roedd 66% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu wella ar y targed ar gyfer y flwyddyn ac roedd hanner yn dangos gwelliant neu'n parhau'n sefydlog. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (45%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (42%).  Ychwanegodd nad oedd lefel isel (goch) o hyder yn unrhyw un o’r camau gweithredu o ran cyflawni deilliannau.

 

Eglurodd Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol y rhannau lle'r oedd y dangosyddion perfformiad yn dangos statws goch ac roedd manylion llawn wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad diwedd blwyddyn y Cynllun Gwella’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  Yn dilyn hynny, byddai drafft o Gynllun y Cyngor 2017-23 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 18 Gorffennaf cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu ar 27 Medi.

 

O ran y Tai Blaenoriaeth a oedd â statws goch, soniodd y Cynghorydd Thomas am y cynllun cadarnhaol a oedd wedi’i gyflawni gyda thrigolion Treuddyn a oedd wedi newid i wres canolog nwy, ac roeddent oll yn fodlon â'r canlyniad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylwadau ar y gostyngiad cadarnhaol yn nifer y lleoedd ysgol gwag ar ôl agor Campws Treffynnon.  Byddai hyn yn cynyddu ymhellach yn y dyfodol agos gan fod Ysgol Uwchradd John Summers ar fin cau.

 

Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at fod yr un mor uchelgeisiol dros y misoedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cytuno ar y lefelau cynnydd a hyder yng nghyflawniad gweithgareddau lefel uchel sy’n ceisio darparu effeithiau’r Cynllun Gwella;

 

 (b)      Cytuno ar y perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad y Cynllun Gwella; a

 

 (c)       Y gall yr Aelodau deimlo wedi'u sicrhau o ran cyflawni cynlluniau a chamau gweithredu i gyflawni’r blaenoriaethau yng Nghynllun Gwella 2016/17 yn amodol ar sylwadau adolygiadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

4.

Ymateb Cyngor Sir y Fflint I Ddogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar Goridor Glannau Dyfrdwy A55/A494/A548 pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Ystyried ymateb Cyngor Sir y Fflint i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad, a oedd yn cynnig ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Goridor A55/A494/A48 Glannau Dyfrdwy.

 

            Dechreuodd yr ymgynghoriad fis Mawrth 2017 ar ddau ddewis posib’ i wella ffordd allweddol Coridor Glannau Dyfrdwy o Ogledd Cymru i Loegr. Roedd manylion y ddau ddewis, y Llwybr Glas a'r Llwybr Coch, wedi'u hatodi i'r adroddiad.

 

            Yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, trafodwyd trydydd llwybr, a oedd wedi’i gynnig gan drigolion, gan gyfeirio ato fel y Llwybr Gwyrdd.  Eglurodd y Cynghorydd Thomas nad oedd hwn yn un o'r dewisiadau a oedd wedi'u cynnig gan Lywodraeth Cymru. Cynghorwyd y trigolion hynny i gyflwyno’r dewis hwnnw’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

 

            Ers anfon y rhaglen, roedd y Fforwm Busnes wedi cysylltu â’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) ac wedi gofyn i fand eang cyflym iawn gael ei ddarparu yn yr ardal yn rhan o'r cynllun, a oedd wedi'i gefnogi gan yr aelodau ac a fyddai’n ffurfio rhan o’r ymateb ffurfiol.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr arfarniadau a gynhaliwyd ar y ddau lwybr, a’r llwybr a ffafriwyd oedd y Llwybr Coch.  Fodd bynnag, roedd nifer o elfennau o’r Llwybr Glas yr oedd astudiaeth fewnol wedi casglu y byddent yn gwella'r rhwydwaith cyffredinol drwy eu cynnwys yn y cynllun terfynol ar gyfer y prosiect cyfan.  Felly, roedd yr astudiaeth fewnol yn argymell y dylai'r penderfyniad terfynol fod yn gyfuniad o'r ddau ddewis, a fyddai'n cynnwys gwelliannau allweddol ar hyd y llwybrau a oedd wedi'u cynnwys yn y ddau ddewis.  Bu iddo hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am roi estyniad ar ddyddiad cau’r ymgynghoriad. Gofynnwyd am hynny oherwydd yr etholiadau lleol a chan nad oedd y Cyngor wedi cyfarfod dros y cyfnod hwnnw.

 

            Croesawodd y Cynghorwyr Attridge a Jones yr adroddiad a'r cynnig am ddewis cyfun.  Dywedodd y Cynghorydd Jones hefyd fod angen pont newydd yn lle Pont Ddyfrdwy.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Roberts mai ei bryder mwyaf oedd y traffig o Laneurgain am Helygain, lle'r oedd ciwiau rheolaidd, a phe bai'r Llwybr Coch yn cael ei ddewis, yna fe ddylid gwneud gwaith yn yr ardal honno i gynyddu'r capasiti.  Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod hyn wedi’i gynnwys yn yr ymateb fel “‘Lôn Ymlusgo ychwanegol’ ar hyd y darn o allt tua’r gorllewin ar yr A55 am Helygain’ ac fe nodwyd bod hyn yn hanfodol.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Bithell y cynllun a fyddai o fudd i Ogledd Cymru gyfan, gan gynnwys manteision i’r economi leol a thwristiaeth.  Cododd bryder tebyg i un y Cynghorydd Roberts, a oedd yn ymwneud â phroblemau traffig o Oakenholt i Laneurgain.  Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai pwyslais ar hynny yn yr ymateb terfynol.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am y gwaith a wnaed ar y cynigion drwy’r arfarniadau llawn o’r dewisiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo arfarniad y Cyngor ar y dewisiadau ar gyfer y ddau lwybr arfaethedig a bod yr ymateb ffurfiol arfaethedig gan y Cyngor i Lywodraeth Cymru fel y mae yn Atodiad 2;  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cynllun Teithio Llesol pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Diweddaru'r Cabinet cyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar y Cynllun Teithio Llesol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd wrth gyflawni swyddogaethau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac fe ddywedodd fod y cyfnod ymgynghori wedi dechrau ar gyfer map rhwydwaith integredig arfaethedig y Cyngor yn y dyfodol.

 

            Roedd y Ddeddf yn gofyn bod awdurdodau lleol Cymru’n llunio mapiau teithio llesol ar gyfer yr ardaloedd o aneddleoedd diffiniedig ac yn darparu gwelliannau o un flwyddyn i'r llall ar lwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau teithio llesol a oedd arnynt.  Roedd hefyd yn gofyn bod awdurdodau priffyrdd Cymru’n gwneud gwelliannau i’r llwybrau ac yn ystyried cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr ym mhob cynllun gwella ffyrdd newydd ac yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr. 

 

Roedd y mapiau rhwydwaith integredig wedi’u datblygu ac roeddent yn barod ar gyfer trafodaethau anffurfiol ac roedd ymgynghoriadau a digwyddiadau gyda budd-ddeiliaid allweddol wedi’u cynnal ers mis Mawrth 2017. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet fis Hydref 2017 yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y map rhwydwaith integredig arfaethedig at y dyfodol a'r atodlenni ategol o welliannau arfaethedig i lwybrau cerdded a beicio yr oedd eu hangen ar y rhwydwaith cyn cyflwyno’r map rhwydwaith integredig i Lywodraeth Cymru erbyn 3 Tachwedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge pa mor bwysig oedd cyhoeddusrwydd i’r cynllun hwn, gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau ymgynghori. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac fe ddywedodd ei bod yn credu y byddai'r llwybrau beicio sydd eisoes wedi'u darparu yn cael eu defnyddio'n amlach pe bai mwy o oleuadau ar y llwybrau hynny. 

  

            PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cyfnod ymgynghori a oedd i ddod ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Integredig y Cyngor a oedd wedi’u cynllunio, a fyddai’n dechrau fis Gorffennaf 2017.

6.

Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 12) pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn rhoi’r wybodaeth fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 12 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 12) a oedd yn rhoi manylion sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Byddai'r canlyniad terfynol yn cael ei adrodd fis Gorffennaf ar ôl gorffen cau cyfrifon 2016/17. 

 

Dyma’r sefyllfa diwedd blwyddyn a ragamcanwyd:

 

                        Cronfa’r Cyngor

 

·         Roedd y sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.846m; sy’n gynnydd yn y diffyg o £0.131m o’r sefyllfa a adroddwyd ym Mis 10.

·         Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragamcanwyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm  Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir.  Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a rhagamcanwyd y byddai’r gwariant net £2.050m yn is na’r gyllideb.

 

·         Rhagamcanwyd y byddai balans y gronfa wrth gefn yn £5.144m.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelwyd y byddai gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.047m yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagamcanwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2017 yn £1.050m.

 

Darparai'r adroddiad fanylion am symudiadau cyllid sylweddol rhwng y gyllideb wreiddiol a’r un ddiwygiedig, y rhaglen o arbedion effeithlonrwydd, chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau a cheisiadau i symud cyllid yn ei flaen.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai unrhyw risgiau heb eu datrys ers 2016/17 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet fis Gorffennaf.

 

Soniodd y Cynghorydd Thomas am y gorwariant yr oedd wedi’i dderbyn ar gyllideb ei phortffolio hi ac fe ddatganodd ei phryder yngl?n â darparu gwasanaethau sylfaenol pan fo diffyg yn y gyllideb.  Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai pwysau ar gyllidebau’n cael ei gynnal yn gorfforaethol a phe derbynnid unrhyw gyfraniadau ychwanegol i’r gyllideb, byddai'r rhain yn cael eu defnyddio’n gorfforaethol.  Rhoddodd y Cynghorydd Shotton bwyslais ar y lefel o ddarbodaeth ariannol a oedd yn wynebu’r Cyngor a dywedodd fod angen parhau i wrthwynebu hynny. 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2017;

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ragamcanol balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; ac

 

 (c)       Y dylid cytuno ar y ceisiadau i symud cyllid ymlaen.

7.

Prosiect Trin Gwastraff Gweddillol Gogledd Cymru (PTGGGC) pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Y diweddaraf am y prosiect a goblygiadau gweithredol ar gyfer Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn darparu manylion Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.

 

                        Roedd y broses gaffael wedi dod at ei therfyn ac roedd contract wedi’i lofnodi â Wheelabrator Technologies Inc (WTI) er mwyn adeiladu a gweithredu cyfleuster trin gwastraff Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy ac fe fyddai’r cyfleuster ar waith yn llawn erbyn 2020. Roedd Wheelabrator Technologies Inc (WTI) wedi ymgysylltu â’r gymuned leol ac fe fyddent yn parhau i wneud hynny drwy gydol y broses adeiladu a thu hwnt i hynny.

 

                        Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y pum awdurdod partner wedi goruchwylio’r broses gaffael ac wedi ymgysylltu â Chabinetau a Phwyllgorau Craffu ar gamau allweddol yn y broses.  Roedd y prosiect wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy'r adeg ac roedd y Llywodraeth wedi neilltuo £140 miliwn dros gyfnod 25 mlynedd y contract.  Pan fyddai ar waith, byddai’r Gronfa Manteision Cymunedol yn cychwyn, a fyddai werth £230,000 y flwyddyn, gyda £180,000 yn dod gan awdurdodau partner a £50,000 yn dod gan Wheelabrator.  Byddai’r gronfa ar gael i brosiectau cymunedol yn ardal Glannau Dyfrdwy.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Attridge i Gyn-aelod Cabinet y Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden, Kevin Jones, a oedd wedi gweithio’n galed ar y prosiect, gan gynnwys cael y symiau mwyaf posib’ o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Butler fod hon yn enghraifft dda o arweiniad gan Gyngor Sir y Fflint mewn prosiectau ar y cyd ar gyfer gwasanaethau hanfodol.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Bithell sut y byddai allyriadau o sylweddau gronynnol mân yn cael eu monitro.  Atebodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn cael ei fonitro’n rheolaidd ac yn fwy trylwyr nag oedd ei angen yn unol â safon y diwydiant.  Byddai manylion y canlyniadau monitro hynny ar gael i’r cyhoedd.  Wrth ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r Gronfa Manteision Cymunedol wedi’i chyfyngu i ardal Partneriaeth Glannau Dyfrdwy.

 

                        Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylwadau ar etifeddu’r prosiect yn 2012 gan y weinyddiaeth flaenorol.  Er nad oedd yn cefnogi’r dechnoleg, roedd yn falch o ganlyniad y Gronfa Manteision Cymunedol gan y byddai Cynghorau eraill yn cyfrannu i’r Gronfa honno, a fyddai’n darparu buddion i ardal Glannau Dyfrdwy.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r swyddogion am y manylion ar lefel y monitro a fyddai'n cael ei gweithredu, a fyddai'n cael ei chroesawu gan drigolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi bod y contract wedi’i ddyfarnu, a

 

 (b)      Nodi’r dyddiad gweithredu sydd wedi’i drefnu ar gyfer Parc Adfer.

8.

Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru (NWCF) pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:         Ystyried opsiynau ar gyfer ail-gaffael NWCF.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a amlinellai Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru ac a fyddai’n dod i ben fis Mai 2018, ac fe gynigodd ddull ar gyfer adnewyddu’r Cytundeb Fframwaith.

 

Roedd y Fframwaith yn darparu dull effeithlon, cost-effeithiol a chydweithredol o benodi contractwyr ar gyfer prosiectau adeiladu mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill ar draws Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y Fframwaith cyfredol wedi bod yn brosiect cydweithredol llwyddiannus ac roedd yn rhoi enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus fel Campws Dysgu Treffynnon a 6ed Glannau Dyfrdwy – Coleg Cambria.

 

Un o brif fanteision y Fframwaith oedd darparu buddion cymunedol ac roedd yr adroddiad yn darparu manylion 20 o brosiectau rhanbarthol llwyddiannus.

 

Byddai adnewyddu’r Fframwaith yn sicrhau bod dull effeithiol er mwyn cyflawni cam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif, yn ogystal ag adeiladu neu adnewyddu adeiladau cyhoeddus eraill.  Roedd manylion Fframwaith Adeiladu diweddaraf Gogledd Cymru wedi’u hamlinellu yn atodiad yr adroddiad, a groesawyd gan yr aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Bod y dull a amlinellwyd i greu Fframwaith Adeiladu diweddaraf Gogledd Cymru yn cael ei gefnogi.

9.

Contract Tymor Penodol – Mân Waith Ailwampio, 2017-2021 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:         Mae nifer o gontractau tymor penodol wedi’u defnyddio dros y chwe blynedd ddiwethaf i gaffael gwaith adeiladu ar gyfer rhaglen gyfalaf y Cyngor. Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gefnogaeth i ddatblygu contract tymor penodol newydd ar sail y contract presennol a fydd yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn egluro y byddai’r Contract Tymor Mesuredig 2015/16 presennol yn dod i ben fis Medi 2017.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) bod nifer o Gontractau Tymor Mesuredig wedi bod yn llwyddiannus ers 2010 a thros y saith mlynedd ddiwethaf roeddent wedi cyflawni Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel yn gyson.  Byddai Contract Tymor Mesuredig 2017 hyd at 2021 yn parhau gyda'r dull hwnnw.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) bod pob Contract Tymor Mesuredig yn defnyddio contractwyr arweiniol lleol ac y byddai hyn yn parhau.

 

PENDERFYNWYD

 

Y dylid rhoi cymeradwyaeth i barhau â manylu, caffael a darparu Contract Tymor Mesuredig newydd dros gyfnod 2017 hyd at 2021.

10.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 53 KB

Adroddiad y Prif Weithredwr amgaeedig.

 

Pwrpas:        Darparu manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Newid Sefydliadol

  • Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau – Cymeradwyo Amodau er mwyn Galluogi Trosglwyddo Gwasanaethau i Newydd, Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol

Gwaith wedi’i gwblhau er mwyn gallu cymeradwyo amodau i alluogi trosglwyddo gwasanaethau i Newydd, cwmni masnachu newydd awdurdodau lleol o 1 Mai 2017 ymlaen.

 

  • Trosglwyddo Ased Gymunedol sef Canolfan Hamdden Treffynnon, Treffynnon

Trosglwyddo Canolfan Hamdden Treffynnon gan gynnwys tir sydd ag amlinell goch ar y cynllun i’r sefydliad newydd, ‘Canolfan Hamdden Treffynnon’.

 

 

  • Hen Ysgol Fabanod Porth y Terfyn, Ffordd Helygain, Treffynnon

Mae’r eiddo’n cael ei werthu i Gymdeithas Dai Wales and West er mwyn datblygu cyfleuster Gofal Ychwanegol.

 

  • Hen Ysgol Gynradd Llanfynydd, Llanfynydd

Mae’r eiddo’n cael ei werthu i brynwr sydd â'r bwriad o drosi'r safle'n Ganolfan Fusnes gyda chyfleusterau cynadledda.

 

  • Caffael Tir sy'n Ffinio ag Eglwys Sant Andreas, Sealand Avenue, Garden City

Mae’r testun yn cynnwys darn o dir sy’n ffinio ag Eglwys Sant Andreas i'w ddatblygu ar gyfer tai fforddiadwy drwy raglen SHARP, ynghyd â safle cyfagos hen lyfrgell Garden City sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

  • Tir ger 29 Brynford Street, Treffynnon

Mae’r eiddo’n cynnwys darn bach o dir sy’n ymestyn tua 59 metr sgwâr ger gardd bresennol y prynwr.

 

  • Carthffos yn Tudor Court, Fagl Lane, yr Hôb, Sir y Fflint

Derbyn trosglwyddiad o dir angenrheidiol, hawddfreintiau a swm cynnal a chadw (y Swm) i’r Cyngor mewn perthynas â charthffos d?r wyneb (y Garthffos) yn Tudor Court, Fagl Lane, yr Hôb, Sir y Fflint yn unol â thelerau Cytundeb Setlo sy’n dwyn dyddiad 26 Medi 2016.

 

Refeniw

  • Dileu Trethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn mynnu y dylai Prif Swyddog Cyllid (Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151) gael gwybod am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000  i ystyried ei dileu, ar y cyd ag Aelod Cabinet Cyllid.  Mae’r atodlen, sydd wedi’i chrynhoi gan y categori o ddileu, yn cynnwys 5 cyfrif Trethi Busnes lle'r oedd dyled gyffredinol ar gyfer pob cwmni’n fwy na £5,000.

 

  • Dileu Treth y Cyngor

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 – Incwm a Gwariant) yn mynnu y dylai Prif Swyddog Cyllid (Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151) gael gwybod am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000  i ystyried ei dileu, ar y cyd ag Aelod Cabinet Cyllid.  Mae'r ffurflen pwerau dirprwyedig yn nodi 2 gyfrif treth cyngor lle mae'r ddyled gyffredinol yn fwy na £5,000.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

11.

Model Amgen ar gyfer Darpariaeth Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd

Pwrpas:         Cwblhau’r mân newidiadau strwythurol angenrheidiol cyn trosglwyddo’r gwasanaethau a symud ymlaen â chynlluniau cyfalaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Fodel Darpariaeth Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd ac a amlinellai fân newidiadau strwythurol yr oedd eu hangen cyn trosglwyddo gwasanaethau i’r cwmni newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Gwasanaethau Llyfryddiaethol Sir y Fflint (Newnet), sydd ar hyn o bryd yn rhan o’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, yn cael ei drosglwyddo i’r trefniadau cydweithio rhanbarthol yn Wrecsam;

 

 (b)      Bod trefniadau gweithredol ar gyfer swyddogaethau Mannau Agored, sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r Gwasanaethau Hamdden, yn cael eu trosglwyddo i Wasanaethau Strydwedd, Prisio ac Ystadau a Gwasanaethau'r Amgylchedd a Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid; a

 

(c)       Cytuno ar newid rheolwr atebol swyddogaeth Datblygu’r Celfyddydau o'r Prif Lyfrgellydd i'r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol).

12.

Darpariaeth Ieuenctid Integredig

Pwrpas:         Rhoi diweddariad ar y strwythur rheoli ar gyfer y gwasanaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynnig i ailffurfio arweinyddiaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig ar ôl mabwysiadu'r cynllun darparu integredig ar gyfer gwasanaethau ieuenctid a'r model parhad o angen ar gyfer gwasanaethau arbenigol cyffredinol / wedi’u targedu.

 

                        Diolchodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r holl Gynghorwyr a oedd wedi bod yn rhan o’r gweithdy a’r holl staff yn y timau gweithredol.  Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar ddiogelu’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed i fod yn ddiogel yn y byd rhithwir ac roedd hwn yn gyfnod cyffrous i ymgysylltu â phobl ifanc.  Soniodd y Cynghorydd Shotton am y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n cael ei ystyried yn y Cyngor Sir yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, a oedd yn cynnig sefydlu Cyngor yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint, a fyddai’n rhan o waith y Gwasanaeth Ieuenctid yn y dyfodol.

 

                        Ar y pwynt hwn, cymerodd y Cynghorydd Shotton gyfle i ddiolch i Mr Ian Budd, y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ar ran yr holl Aelodau Cabinet am ei holl waith caled ers dechrau gweithio i Gyngor Sir y Fflint a dymunodd yn dda iddo yn ei rôl newydd.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Rhoi cefnogaeth i ailffurfio arweinyddiaeth y gwasanaeth i ddarparu arweinyddiaeth effeithlon ac effeithiol ar gyfer darpariaeth ieuenctid integredig ac i alluogi rhoi cefnogaeth i gynllunio ar gyfer olyniaeth;

 

(b)       Cefnogi ailffocysu gwaith cyfranogi uniongyrchol gyda phobl ifanc i gynnwys mwy o ddulliau cyfathrebu dros gyfryngau cymdeithasol a llythrennedd digidol; a

 

(c)        Cefnogi arloesed model gwasanaethau cyfredol sy'n tyfu o gomisiynu sawl maes yn y gwasanaeth i'r 3ydd sector neu i gyrff allanol eraill.

13.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol ac roedd dau aelod o’r wasg yn bresennol.