Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

160.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn              unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Attridge gysylltiad personol ag eitem rhif 7 ar y rhaglen – Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol – Cynlluniau Arfaethedig Llwyth 3, eitem rhif 8 ar y rhaglen – Polisi Symiau Cyfnewidiol a Thaliadau Adbrynu Ecwiti a Rennir, ac eitem rhif 14 ar y rhaglen - Trefniadau Derbyn Ysgolion.

 

                        Datganodd y Cynghorydd Kevin Jones gysylltiad personol ag eitem rhif 6 ar y rhaglen - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ac eitem rhif 14 ar y rhaglen - Trefniadau Derbyn Ysgolion, a chysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu ag eitem rhif 18 ar yr agenda - Model Darparu Amgen y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu.

 

                        Datganodd y Cynghorwyr Helen Brown, Christine Jones, Billy Mullin ac Aaron Shotton gysylltiad personol ag eitem rhif 14 ar y rhaglen - Trefniadau Derbyn Ysgolion.

161.

Cofnodion pdf icon PDF 153 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2017 wedi eu cylchredeg gyda’r rhaglen. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

162.

Amcanion Lles y Cyngor pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Ardystio set gyntaf y Cyngor o Amcanion Lles.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar yr amcanion lles. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn i gyrff statudol a enwyd sefydlu a chyhoeddi Amcanion Lles; roedd yr amcanion hynny wedi’u sefydlu fel rhan o gynllunio gwelliannau ar gyfer y dyfodol.   

 

Roedd yr Amcanion Lles yn cefnogi'r saith Nod Lles cenedlaethol a blaenoriaethau ac uchelgeisiau'r Cyngor, ac roeddent yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau’r Cynllun Gwella ac amcanion strategol y dyfodol.

 

Oherwydd amseru’r amcanion, hynny yw bod angen eu sefydlu a’u cyhoeddi erbyn diwedd Mawrth 2017, roedd yn bosibl y gallai’r Cyngor newydd, yn dilyn yr etholiadau, fod eisiau diwygio’r amcanion.

 

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i gyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a argymhellodd y dylid dileu’r geiriau ‘aelwyd a busnes’ ar drydydd amcan y Cyngor Gwyrdd, a chytunwyd ar hyn.  Argymhellwyd hefyd cynnwys amcan ar Ddiogelwch Cymunedol ac awgrymwyd cynnwys trydydd pwynt bwled o dan amcan y Cyngor sy’n Gofalu, sef ‘Gwneud cymunedau yn llefydd diogel drwy gydweithio â phartneriaid i atal troseddu, troseddu ailadroddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol’, a chytunwyd ar hyn hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r amcanion Lles, yn amodol ar wneud y diwygiadau uchod.

163.

Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd gyda'r tri phrif ffrwd waith: Digital, cyswllt dros y ffôn ac wyneb yn wyneb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad y Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid oedd yn disodli Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid 2010-2013.

 

             Roedd y strategaeth wedi'i strwythuro o amgylch y tair ffrwd waith ganlynol:

 

1.    Wyneb yn wyneb

2.    Dros y ffôn

3.    Digidol  

 

Roedd pob ffrwd waith yn rhestru canlyniadau lefel uchel i’w cyflawni erbyn diwedd y strategaeth, fydd yn cael eu hategu gan gynllun gweithredu blynyddol yn darparu mwy o fanylion ac amserlenni penodol.  Roedd y strategaeth yn cyd-fynd yn agos â’r Strategaeth Ddigidol ac yn rhannu ffrwd waith Cwsmeriaid Digidol.

 

Roedd darpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn y dyfodol yn canolbwyntio ar symleiddio'r modd y mae cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau, deall eu taith gyda'r Cyngor, rhoi rheolaeth i gwsmeriaid o ran y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio, a gwrando ac ymateb i adborth. Bydd gwasanaethau y gellir eu darparu'n ddigidol yn cael eu datblygu, er mwyn gallu canolbwyntio'r adnoddau drud ar y gwasanaethau hynny na ellir eu darparu'n ddigidol i gefnogi'r cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y cafodd yr adroddiad ei ystyried yn ddiweddar yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac y gwnaed ymrwymiad i wella amseroedd ymateb i ymholiadau cwsmeriaid.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu’r Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid.

164.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gwerthuso'r perfformiad o ran bodloni’r blaenoriaethau gwella a darparu gwasanaethau cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn edrych ar berfformiad darpariaeth yr awdurdod lleol o’i swyddogaethau gofal cymdeithasol a’i flaenoriaethau gwella.

 

            Diben Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd nodi’r daith tuag at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

            Roedd fformat yr adroddiad wedi newid ac roedd bellach yn cyd-fynd yn agosach at y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol, fyddai’n dangos perfformiad o ran cyflawni canlyniadau lles pobl Sir y Fflint.  Bydd yr adroddiad yn ffurfio rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint.

 

            Canlyniad yr asesiad cyffredinol oedd bod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn parhau i gymell gwelliant yn y gwasanaeth, gan sicrhau bod ystod effeithiol o wasanaethau o ansawdd da yn cefnogi ac yn diogelu pobl ddiamddiffyn. Amlinellodd yr Adroddiad Blynyddol hefyd y blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2017/18, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai Sir y Fflint oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gyflwyno ei Adroddiad Blynyddol i gyfarfod Cabinet, a diolchodd am waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a ddarparodd gyfeiriad pendant i arddull y ddogfen, a gynhyrchwyd wedi hynny gan Double Click.

  

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r adroddiad, sy’n darparu cyfrif cywir a chlir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint.

165.

Cynlluniau Arfaethedig Llwyth 3 RHTAS pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y rownd nesaf o gynlluniau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Cynlluniau Arfaethedig Llwyth 3 y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), oedd yn ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen i gamau nesaf rhaglen SHARP y Cyngor.  Roedd hyn yn cynnwys cynllun manwl o waith hyfywedd ar ystod o safleoedd allai o bosib ddarparu 363 yn ychwanegol o gartrefi rhent cymdeithasol, rhent fforddiadwy a pherchnogaeth fforddiadwy.

 

 Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod y safleoedd sydd i’w cynnwys yn y rhaglen i gyd ar wahanol gamau datblygu. Y Cyngor oedd yn berchen ar rai safleoedd ac roedd eraill yn destun trafodaethau pryniant masnachol. Dylid diystyru’r safleoedd a amlinellir ym mharagraffau 1.21 ac 1.22 gan eu bod wedi’u cynnwys mewn camgymeriad.

 

Roedd angen gwaith dichonolrwydd ar rai safleoedd i’w symud ymlaen ymhellach, ac roedd y rheiny oedd wedi’u datblygu bellaf wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad gyda manylion pob safle, gan gynnwys cynlluniau safle. Darparodd yr adroddiad hefyd ddiweddariad ar y Cyllid Cyfalaf newydd gan Lywodraeth Cymru (LlC) oedd ar gael, fyddai’n helpu ehangu’r SHARP.

 

Y targed gwreiddiol ar gyfer tai’r Cyngor oedd adeiladu 200 o gartrefi dros 5 mlynedd. Nododd yr adroddiad y gellid adeiladu 277, ac y gellid cynyddu hyn ymhellach pe bai’r cap ar fenthyca yn cael ei godi.

 

Yn dilyn cyfarfod y Cabinet, bydd ymgynghoriad ehangach yn cychwyn.

 

Canmolodd y Cynghorydd Attridge y swyddogion a’r Aelod Cabinet am y gwaith ar y cynllun a welodd Gyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd ar adeiladu Tai Cyngor, o ganlyniad i gyfarwyddyd y Cabinet.  Bu i Aelodau Cabinet eraill hefyd dalu teyrnged i’r swyddogion a achosodd i’r cynllun llwyddiannus ddwyn ffrwyth. 

 

 Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod lefel yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn amrywio o gynllun i gynllun ac yn dibynnu ar ba gam o’r broses roedd pob safle arno. Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai rhan o’r rhaglen sefydlu i Aelodau yn dilyn yr etholiad lleol yn cynnwys manylion unrhyw gynlluniau sydd ar y gweill neu yn yr arfaeth yn eu ward hwy. Ychwanegodd bod tai yn ganolbwynt yn y Strategaeth Twf Rhanbarthol ac awgrymodd argymhelliad ychwanegol fydd yn darllen: “bod galwad Cyngor Sir y Fflint am godi’r cap ar fenthyca yn cael ei gynnwys yn ffurfiol yn y Strategaeth Twf Rhanbarthol”, a chefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno mewn egwyddor ar ddatblygu 363 o dai newydd fel rhan o raglen adeiladu tai'r Cyngor (SHARP). Bydd hyn yn cynnwys 195 o eiddo’r Cyngor, 95 eiddo rhent fforddiadwy a 73 eiddo perchnogaeth fforddiadwy;

 

(b)       Cymeradwyo costau ymchwilio safleoedd o £421, 616k er mwyn gallu cwblhau gwerthusiadau cynllun llawn cyn ei gymeradwyo'n derfynol. Caiff y rhain eu dosrannu fel a ganlyn; 66% o gost HRA (£278,266) a 44% o gost Cronfa’r Cyngor (£143,350) a delir gan NEW Homes pe bai’r datblygiad yn mynd rhagddo;

 

(c)        Cynnwys galwad Cyngor Sir y Fflint am godi’r cap ar fenthyca yn ffurfiol yn y Strategaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.

166.

Polisi Symiau Cyfnewidiol a Thaliadau Adbrynu Ecwiti a Rennir pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet er mwyn defnyddio symiau cyfnewidiol ar gyfer darparu tai fforddiadwy newydd yn Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brown yr adroddiad Polisi Symiau Cyfnewidiol a Thaliadau Adbrynu Ecwiti a Rennir oedd yn ystyried y defnydd o symiau cyfnewidiol a geir er dibenion tai fforddiadwy.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod yr adroddiad yn adolygu’r defnydd o symiau cyfnewidiol ac yn darparu argymhellion wedi’u diweddaru yng nghyd-destun Cytundebau Adran 106 diweddar ac ymrwymiad a blaenoriaeth y Cyngor i adeiladu tai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint trwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP). Darparwyd trosolwg hefyd o’r taliadau adbrynu Ecwiti a Rennir a sut y gellid eu defnyddio i ddarparu tai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint.

 

                        Amlinellodd y tabl yn yr adroddiad y symiau cyfnewidiol a dderbyniwyd hyd yma. Roedd y cyngor wedi cytuno y gellid defnyddio symiau cyfnewidiol mewn nifer o ffyrdd a’u bod angen hyblygrwydd i wneud hynny, ac adlewyrchir yr ymagwedd honno yn y Cytundeb Adran 106. Byddai’r sail resymegol yr ymagwedd i symiau cyfnewidiol fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad yn:

 

  • Darparu’r defnydd mwyaf effeithlon o’r cyllid, gan y byddai’n galluogi’r Cyngor i wneud y mwyaf o’r cyllid SHARP; ac yn
  • Sicrhau y darperir tai fforddiadwy mewn ardaloedd sy’n llai deniadol i ddatblygiad a arweinir gan y farchnad neu ar safleoedd oedd yn anoddach i’w datblygu, megis safleoedd tir llwyd y mae'r Cyngor yn berchen arnynt.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) yr ymgynghorir â phob Aelod lleol pan fo hynny’n briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytunodd y Cabinet:

 

·         Pan fo swm cyfnewidiol yn cael ei dalu i’r Cyngor yn gyfnewid am ddarpariaeth tai fforddiadwy, bod rhaid blaenoriaethu’r arian hwn ar gyfer yr ardal Cyngor Cymuned perthnasol; a

·         Pan fo swm cyfnewidiol yn cael ei dderbyn a bod tai fforddiadwy ar y safle wedi’i ddarparu fel rhan o'r Cytundeb Adran 106, y gellir defnyddio’r arian fel rhan o flaenoriaeth y Cyngor ar gyfer datblygu tai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint trwy SHARP.

 

(b)       Bod y Cabinet yn cefnogi’r ymagwedd tuag at y taliadau adbrynu Ecwiti a Rennir fel y’u nodir yn yr adroddiad; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter yn derbyn adroddiad monitro blynyddol ar y Symiau Cyfnewidiol a’r taliadau adbrynu Ecwiti a Rennir.

167.

Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 10) pdf icon PDF 115 KB

Pwpras:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn rhoi’r wybodaeth fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 10) a oedd yn cynnig y sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Y sefyllfa diwedd blwyddyn a ragamcenir, heb unrhyw gamau pellach i leihau pwysau o ran costau nac i nodi arbedion effeithlonrwydd newydd, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Roedd y sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.705m; sef gostyngiad yn y diffyg o £0.095m o’r sefyllfa a adroddwyd y mis diwethaf;

·         Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragamcenir yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm  Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a ragamcanwyd y byddai’r gwariant net £2.181m yn is na’r gyllideb; a

·         Rhagamcenir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid yn £5.333m.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.037m yn uwch na’r gyllideb; a

·         Rhagamcenir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2017 yn £1.061m.

 

Roedd yr adroddiad yn trafod symudiadau arwyddocaol yn y gyllideb; y rhaglen effeithlonrwydd; chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau; a throsolwg o’r Cyfrif Refeniw Tai.  

 

Roedd gwaith ar gynhyrchu incwm ar y gweill ac amlygwyd y meysydd canlynol fel ffynonellau newydd o incwm yr argymhellwyd eu gweithredu:

 

·         Codi am enwi a rhifo strydoedd ac eiddo, allai gynhyrchu £0.023m yn ychwanegol pe byddai’n cael ei roi ar waith o 1 Ebrill ymlaen; a

·          Strwythur codi tâl diwygiedig ar gyfer gwasanaethau Dirprwyaeth a’r Llys Gwarchod, allai gynhyrchu £0.050m pe byddai’n cael ei roi ar waith o 1 Ebrill ymlaen.

 

Ar gronfeydd wrth gefn na chlustnodwyd, eglurodd y Rheolwr Cyllid bod diwydrwydd dyladwy ar Drosglwyddiad Ased Gymunedol (CAT) Canolfan Hamdden Treffynnon a sefydlu’r Modelau Darparu Amgen newydd yn dangos y byddai buddsoddiad un-tro o £0.050m, a gefnogodd gostau sefydlu cychwynnol a galluogi cymorth technegol terfynol, yn sicrhau arbedion sylweddol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.

 

 Ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gwnaed cais i greu cronfa wrth gefn o £0.100m ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo. Byddai hwnnw’n cael ei ariannu gan danwariant cyfredol o fewn y gwasanaeth ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau buddsoddi un-tro pan gaiff y gwasanaeth ei drosglwyddo i’r Model Darparu Amgen yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ni chodwyd unrhyw faterion.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2017, a chefnogi’r gwaith ar gamau ac opsiynau ar gyfer camau lliniaru;

 

(b)       Nodi'r lefel terfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai;

 

(c)        Cymeradwyo’r cynigion cynhyrchu incwm ar gyfer enwi a rhifo strydoedd ac eiddo a’r gwasanaethau Dirprwyaeth a’r Llys Gwarchod;

 

(d)       Cymeradwyo cyfraniad o  ...  view the full Cofnodion text for item 167.

168.

Adroddiad Monitro Chwarter Tri Cynllun Gwella 2016/17 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o’r cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyflawni'r effeithiau fel y'u nodir yng Nghynllun Gwella 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun Gwella 2016/17 oedd yn nodi sut y monitrwyd cynnydd y trydydd chwarter o Hydref i Ragfyr 2016.

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 95% o’r camau y cytunwyd arnynt yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 58% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Yn ogystal â hyn, mae 72% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y chwarter. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (55%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (34%).

 

                        Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac ni chodwyd unrhyw faterion.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       Cytuno ar y canlynol:

 

·         Lefelau cynnydd a hyder yng nghyflawniad gweithgareddau lefel uchel sy’n ceisio cyflenwi effeithiau’r Cynllun Gwella;

·         Perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad y Cynllun Gwella; a’r

·         Lefelau risg cyfredol ar gyfer y risgiau a amlygwyd yn y Cynllun Gwella

 

(b)       Y gall yr Aelodau fod yn sicr o’r cynlluniau a'r camau i reoli cyflawniad Cynllun Gwella 2016/17 yn amodol ar sylwadau adolygiadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

169.

Arolwg cyflwr stoc sector preifat 2017 pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Diweddaru aelodau o ganfyddiadau o'r arolwg cyflwr stoc sector preifat 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Arolwg Cyflwr Stoc y Sector Preifat 2016 oedd yn crynhoi canfyddiadau allweddol arolwg cyflwr stoc y sector preifat 2016. 

 

            Seiliwyd yr arolwg ar sampl o 1,223 o anheddau a darparodd feincnod o gyflwr tai yn Sir y Fflint o’i gymharu ag arolwg 2010 a chyd-destun ehangach Cymru neu Loegr.  Roedd cyflwr y stoc wedi gwella ers arolwg meincnodi 2010, gyda’r mwyaf o anheddau o ansawdd waelach i'w gweld yn y sector rhentu preifat sydd ar gynnydd. 

           

            Mae’r sector rhentu preifat wedi tyfu’n sylweddol yn Sir y Fflint ac roedd nifer o feysydd pryder allweddol yn ei gylch:

 

·         Roedd bron i 40% o'r tenantiaid wedi bod yn byw yn y cyfeiriad ers llai na 2 flynedd; gydag effaith ganlyniadol ar sefydlogrwydd aelwydydd a chydlyniant cymunedol;

·         Mae tai rhentu preifat yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr gwael gyda 25.4% mewn cyflwr anaddas o’i gymharu â 18.1% ar gyfer Sir y Fflint gyfan; ac  

·         Roedd tai rhentu preifat yn fwy tebygol o fod yn aneffeithlon o ran ynni, gyda chyfradd Gweithdrefn Asesu Safonol gyfartalog o 56 o’i gymharu â 59 ar gyfer Sir y Fflint gyfan.

 

Bydd y Cyngor yn parhau i geisio cyllid allanol i gyflawni gwelliannau i gyflwr ac effeithiolrwydd ynni stoc tai'r sector preifat yn ardaloedd o amddifadedd mwyaf Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Adolygu’r pwyntiau allweddol oedd yn codi o arolwg cyflwr stoc y sector preifat 2016.

170.

Cynllun amlinellol ar gyfer Gwariant Cyfalaf ar Ardal Chwarae a Maes Pob Tywydd pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Cytuno ar gynllun amlinellol ar gyfer Gwariant Cyfalaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad y Cynllun Amlinellol ar gyfer Gwariant Cyfalaf ar Fannau Chwarae a Chaeau Pob Tywydd, oedd wedi’i seilio ar angen.

 

                        Roedd Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor wedi cymeradwyo symiau ar gyfer gwariant yn y dyfodol ar fannau chwarae a chaeau pob tywydd, yn ychwanegol at y £0.105m o refeniw bob blwyddyn ar gyfer cynlluniau arian cyfatebol mannau chwarae.

 

                        Roedd gan y Cyngor nifer o gaeau chwarae pob tywydd yn y Sir oedd angen buddsoddiad sylweddol. Roedd y ddau yn Alun Yr Wyddgrug a Phenarlâg dros 10 oed a’r rhain oedd yn cael y flaenoriaeth uchaf ar gyfer eu hamnewid. Roedd y chwe chae yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn 7 oed, yn cael eu defnyddio’n helaeth ac yn cynhyrchu incwm sylweddol. Rhagwelwyd yn wreiddiol y byddent yn para 7 mlynedd a dyma oedd cyfnod ad-dalu’r buddsoddiad arnynt hefyd, felly roedd angen rhaglen amnewid.

 

                         Yn dilyn arolwg chwarae annibynnol o fannau chwarae, roedd y cynnig i gynnal gwaith yn 2017/18 yn canolbwyntio ar y mannau canlynol, fyddai’n golygu na fyddai’r mannau chwarae hyn yn cael eu graddio’n goch mwyach:

 

·         Min Awel, Y Fflint £0.025m;

·         Ffynnongroyw £0.025m;

·         Dee View Road, Cei Connah £0.025m; a

·         Bron y Wern, Bagillt £0.025m.

                         

Un o flaenoriaethau blynyddoedd 2 a 3 fyddai’n man chwarae newydd yn Bailey Hill, oedd wedi’i raddio’n goch ac oedd yn cael ei ystyried fel rhan o gynllun datblygu ehangach Cronfa Dreftadaeth y Loteri, er nad oedd y cynllun yn gymwys i ariannu’r man chwarae. Y meysydd blaenoriaeth eraill ar gyfer blwyddyn 2 a 3 oedd y mannau chwarae eraill oedd wedi’u graddio’n goch, a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar sail yr anghenion a’r blaenoriaethau a amlinellir yn yr adroddiad, cynigiwyd mai’r rhaglen gychwynnol a ystyriwyd yn ddichonadwy ar gyfer 2017/18, yn amodol ar brisio terfynol, oedd y canlynol:

 

Cae pob tywydd Ysgol Uwchradd Alun Yr Wyddgrug;

Cae pob tywydd Ysgol Uwchradd Penarlâg;

Caeau pob tywydd 1 a 2 Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy;

Man chwarae Bron y Wern, Bagillt;

Man chwarae Min Awel, Y Fflint;

Man chwarae Ffynnongroyw; a

Dee View Road, Cei Connah.

 

Byddai hynny’n gadael y caeau pob tywydd a’r mannau chwarae a amlygir yn yr adroddiad fel blaenoriaethau ar gyfer blynyddoedd 2 a 3, gyda chytundeb o gyflwyno cynllun terfynol bob blwyddyn i’r Cabinet.  Byddai’r cynllun arian cyfatebol mannau chwarae yn ceisio rhoi cymorth i unrhyw fannau chwarae sydd wedi’u graddio’n goch na ellir eu fforddio o fewn y cynllun cyffredinol neu os gellid fforddio’r rhain i gyd, byddai’r mannau chwarae sydd wedi’u graddio’n oren yn cael cymorth.

 

 Croesawodd yr Aelodau’r ymrwymiad a roddwyd i fannau chwarae a chaeau pob tywydd, yn enwedig y cynllun treigl ar gyfer eu hamnewid, ar sail blaenoriaeth, fyddai o fudd i ysgolion a’r cymunedau ehangach ledled y Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

 Cytuno ar y cynllun amlinellol ar gyfer gwariant cyfalaf ar fannau chwarae a chaeau pob tywydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

171.

Rheoli Tirlenwi a Chytundeb Cynnal a Chadw Injan Nwy pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        I geisio Cymeradwyaeth y Cabinet i’r Ffurflen Gomisiynu ar gyfer cynnal a chadw Tirlenwi a rheoli Injan Nwy fel sy’n ofynnol o dan y Rheolau Gweithdrefn Contractau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad Contract Rheoli Tirlenwi a Chynnal a Chadw Peiriannau Nwy.

 

Roedd y Cyngor yn berchen ar ddau safle tirlenwi gweithredol yn Ystâd Ddiwydiannol Standard ac Ystâd Ddiwydiannol Brookhill ym Mwcle, a cheisiwyd cymeradwyo’r Ffurflen Gomisiynu fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth gaffael un cyflenwr i gynnal a chadw tirlenwi cyffredinol a rheoli’r safle peiriannau nwy/trwytholch.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod manylion cwmpas y contract arfaethedig wedi’i amlinellu yn yr adroddiad. Byddai’r contract newydd yn amddiffyn cyllidebau ac yn adfer pwysau yn y dyfodol gan weithrediadau’r ddau safle tirlenwi. Byddai’r cynigion yn sicrhau bod y Cyngor yn rheoli’r ased yn y ffordd fwyaf ecogyfeillgar a byddai’n amddiffyn y Cyngor rhag amrywiadau yn y lefelau cynhyrchu ynni yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r Ffurflen Gomisiynu ar gyfer Rheoli Tirlenwi a Chynnal a Chadw’r Safle Peiriannau Nwy a Thrwytholch, yn ôl gofynion Rheolau'r Weithdrefn Gontractau.

172.

Trefniadau Derbyn i Ysgol 2018 pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Cymeradwyaeth Flynyddol o’r Trefniadau Derbyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad Trefniadau Derbyn Ysgolion 2018 oedd yn darparu manylion yr ymarfer ymgynghori statudol ar y trefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2018.

 

                         Yn ystod y broses ymgynghori, cafwyd sylw gan bennaeth ysgol gynradd ar dderbyniadau o’r Meithrin i’r Derbyn o ystyried na chafodd sawl disgybl Meithrin le yn nosbarth Derbyn yr un ysgol y flwyddyn flaenorol.  Awgrymwyd y dylid gwneud addysg Feithrin yn statudol neu dynnu'r ddarpariaeth yn ôl yn gyfan gwbl. Adlewyrchwyd y farn honno ymysg rhai o’r penaethiaid cynradd eraill. Fodd bynnag, roedd yr awdurdodau lleol wedi’u cyfyngu gan God Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, sy’n nodi’n glir nad yw mynychu addysg Feithrin yn statudol ac nad oes a wnelo dim â dyrannu lleoedd yn y dosbarth Derbyn.

 

                        Roedd yr amserlen dderbyniadau wedi’i llunio mewn ymgynghoriad ag awdurdodau cyfagos, ac yn rhoi ystyriaeth i ffactorau fel rhoi digon o amser i rieni ymweld ag ysgolion a mynegi eu dewisiadau. Ni chynigwyd unrhyw newidiadau i’r meini prawf derbyn, ond cymerwyd y cyfle i ddiwygio’r geiriad er mwyn annog rhieni i nodi mwy nag un dewis o ysgol.

                         

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2018/19.

173.

Adrodd yn ôl gan y galw i mewn yn y penderfyniad Rhif 3358-Glannau Dyfrdwy cynllun pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Adrodd yn ôl gan y galw i mewn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar y Penderfyniad i Alw Cynllun Glannau Dyfrdwy i Mewn, Cofnod Penderfyniad Rhif3358,  a ystyriwyd yn y Cabinet ar 14 Chwefror.

 

                         Cafodd ei Alw i Mewn yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ar 8 Mawrth ac yn dilyn trafodaeth faith, penderfynwyd ar Opsiwn 2, sef ‘bod yr eglurhad yn cael ei dderbyn ond nid ei gefnogi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’. Felly, gellid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penderfyniad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ar Gofnod Penderfyniad Rhif3358.

174.

Ymarfer Pwerau Dirprwyedig pdf icon PDF 49 KB

Adroddiad y Prif Weithredwr amgaeedig.

 

Pwrpas:        Darparu manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau                                   dirprwyedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Strydwedd a Chludiant

  • Gorchymyn 20- (Ffordd Wasanaeth oddi ar yr A5119 Ffordd Llaneurgain, Mynydd y Fflint, y Fflint) (Gwahardd Gyrru) Cyngor Sir y Fflint

Hysbysu Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu Gorchymyn 20- (Ffordd Wasanaeth oddi ar yr A5119 Ffordd Llaneurgain, Mynydd y Fflint, y Fflint) (Gwahardd Gyrru) Cyngor Sir y Fflint.

 

Newid Sefydliadol

  • Tir yng Nghefn y Safle Amwynder Dinesig, Prince William Avenue, Sandycroft

Mae'r testunau’n cynnwys parsel petryal o dir a deunyddiau gwastraff yng nghefn y safle Amwynder Dinesig newydd, yn ymestyn i tua 3,600 metr sgwâr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

175.

Cymunedau Yn Gyntaf

Pwrpas:         Nodi goblygiadau cael gwared ar raglen Cymunedau Yn Gyntaf yn raddol yn Sir y Fflint, a’r prif flaenoriaethau ar gyfer y rhaglen yn ei flwyddyn olaf yn gweithredu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Cymunedau’n Gyntaf oedd yn nodi goblygiadau’r broses yn Sir y Fflint, a’r prif flaenoriaethau ar gyfer y rhaglen yn ei blwyddyn olaf.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi effaith cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar y rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn Sir y Fflint a chefnogi rhaglen weithgareddau 2017/18; a

 

(b)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd a’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) i ddatblygu a gweithredu strwythur staffio newydd ar gyfer y rhaglen Cymunedau’n Gyntaf er mwyn bodloni’r dyraniad cyllid newydd a’r blaenoriaethau newydd. Gwneir y cais eithriadol hwn oherwydd y cyfnod byr a roddwyd gan Lywodraeth Cymru rhwng cyhoeddi’r cyllid a diwedd y flwyddyn ariannol.

176.

Model Darparu Gwahanol y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu

Pwrpas:        Ystyried y darparwr a ffafrir i ddarparu Gwasanaethau Gofal Dydd a Gwaith Anableddau Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones, y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad Model Darparu Amgen y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu, oedd yn argymell dyfarnu’r contract  darparu Gwasanaethau yn Sir y Fflint i Home Farm Trust.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo penodiad Home Farm Trust fel partner i ddarparu Gwasanaethau Gofal dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu, a rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr a’r Arweinydd mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol i gytuno bod yr amodau canlynol wedi’u cyflawni ar gyfer dyfarnu’r contract:-

 

  • Cwblhau’r gwaith a’r diwydrwydd ar Drosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE) a phensiynau;
  • Cwblhau’r telerau ac amodau cyflogaeth a'r cyfraddau tâl ar gyfer y rhai sy’n dechrau gyda’r gwasanaeth o’r newydd;
  • Cwblhau’r contract; a
  • Gosod prosesau monitro contract a llywodraethu cadarn i sicrhau y cynhelir ac y gwellir ansawdd y gwasanaeth.

 

Ar ôl datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Kevin Jones yr ystafell yn ystod y drafodaeth.

177.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol.