Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

133.

Declarations of Interest

Purpose: To receive any declarations and advise Members accordingly.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Attridge gysylltiad personol yn eitem agenda rhif 6 - Cyllideb Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai 2017/18 a Rhaglen Gyfalaf 2017/18.

 

                        Datganodd y Cynghorydd Bithell gysylltiad personol a rhagfarnol yn eitem agenda rhif 20 - Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl.

 

EITEM FRYS

 

Eglurodd y Cynghorydd Shotton y byddai eitem frys - Adolygiad o Ddarpariaeth Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor, yn cael ei hystyried ar ôl eitem agenda rhif 25. Esboniodd fod yr adroddiad yn gyfrinachol gan ei fod yn fasnachol sensitif.

134.

Cofnodion pdf icon PDF 202 KB

Purpose: To confirm as a correct record the minutes of the last meeting.

 

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2017 wedi eu cylchredeg gyda’r rhaglen. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

135.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2017/18 pdf icon PDF 145 KB

Pwrpas:        I argymell cyllideb 2017/18 i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2017/18. 

 

Rhoddodd fanylion am gefndir i Gamau Un a Dau a oedd wedi cael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir yn dilyn ystyriaeth yng nghyfarfodydd Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, roedd pob Aelod wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod, a chyfarfodydd y Cabinet.

 

Roedd yr opsiynau i gydbwyso'r gyllideb wedi cael eu hystyried ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 20 Ionawr ac fe gadarnhawyd mai’r bwlch yn y gyllideb sy'n weddill ydi £1.997m.  Roedd y Pwyllgor wedi argymell bod y lefel arfaethedig o fuddsoddiad ysgolion yn cael ei gynnal yn y cynigion cyllideb derfynol.

 

Yn dilyn ymgyrch hir ar gyfer buddsoddiad cynyddol mewn Gofal Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cadarnhau y bydd y terfyn cap codi tâl ar ofal  cartref yn cael ei godi o £60 yr wythnos i £70 yr wythnos o 1 Ebrill 2017. Ar gyfer Sir y Fflint, bydd hyn yn cynhyrchu incwm ychwanegol o £0.238m yn 2017/18. Yn ogystal, cafodd grant penodol ychwanegol o £10miliwn ei gyhoeddi er mwyn cefnogi’r costau cynyddol o ofal cartref ar draws Cymru fel rhan o Setliad Terfynol Llywodraeth Leol.  Mae Sir y Fflint yn disgwyl cael tua £0.430m o’r grant.  Cadarnhawyd y bydd y cyllid yn cael ei drosglwyddo mewn i’r Setliad o 2018/19.  Roedd hynny’n gostwng y bwlch yn y gyllideb i £1.329m.

 

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gosod cynnydd o 4% yn ei ardoll, felly wrth gymryd i ystyriaeth newidiadau yn y boblogaeth ranbarthol, byddai cynnydd blynyddol Sir y Fflint yn 4.52%.  Mae hynny'n arwain at bwysau costau o £0.317m lle nad oedd unrhyw ddarpariaeth yn yr amcangyfrif cyllideb cyfredol.  Roedd hyn yn cynyddu’r bwlch yn y gyllideb i £1.646m.

 

Fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gan dybio bod y lefel bresennol o fuddsoddiad ysgolion yn cael ei gynnal, yna roedd cau'r bwlch yn y gyllideb yn golygu dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng gosod lefel Treth y Cyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau.  Roedd yn bwysig nodi bod arian sy'n deillio o Dreth y Cyngor yn gyllid rheolaidd a fyddai o gymorth wrth osod y gyllideb yn y dyfodol.

 

Fe soniodd y Cynghorydd Shotton am y ffordd gadarnhaol yr oedd proses y gyllideb wedi cael ei chynnal, a’r modd yr oed wedi cael ei adrodd yn ôl i gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ystod pob cam.  Cynigiodd nad oedd y Dreth Gyngor yn codi y tu hwnt i 3% a bod cronfeydd wrth gefn a balansau yn cael eu defnyddio er mwyn cau'r bwlch sy'n weddill, a chafodd hyn ei gefnogi.

 

Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r swyddogion ac Aelodau Cabinet am y gwaith a oedd wedi cael ei wneud ar y broses gyllidebol.  Fe ailadroddodd sylwadau blaenorol nad oedd yr Awdurdod wedi penderfynu cau pethau megis cartrefi gofal a chanolfannau hamdden, ond yn hytrach, wedi edrych ar ddulliau amgen o ddarparu rhai gwasanaethau, sydd yn ei dro wedi cael eu diogelu. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod cam un  ...  view the full Cofnodion text for item 135.

136.

Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2017/18 - 2019/20 pdf icon PDF 174 KB

Pwrpas:        Argymell Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017/18 i'r Cyngor i'w gymeradwyo

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2017/18 - 2019/20.

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol lle cafodd ei gefnogi, ac roedd sylwadau o'r cyfarfod hwnnw wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  Wrth sôn am Bont y Fflint, dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cael ei lobïo am beth amser i droi'r ffordd yn gefnffordd a fyddai'n golygu bod cyfrifoldeb am gynnal y Bont yn symud oddi wrth yr Awdurdod.

 

            Cafodd manylion am gynlluniau buddsoddiad arfaethedig eu hamlinellu ac roedd y Cynghorwyr Christine Jones a Bithell yn croesawu’r cynlluniau ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y dyraniadau a chynlluniau yn Nhabl 2 o'r adroddiad ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn y Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2017/18 - 2019/20 yn cael eu cymeradwyo a'u hargymell i'r Cyngor;

 

 (b)      Bod y cynlluniau wedi'u cynnwys yn Nhabl 3 ar gyfer adran Buddsoddi y Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2017/18 - 2019/20 yn cael eu cymeradwyo a'u hargymell i'r Cyngor;

 

 (c)       Dylid nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu ar hyn o bryd yn y broses gymeradwyo  cynlluniau yn 2018/19 a 2019/20 yn hyblyg.  Bydd opsiynau gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill, benthyca darbodus neu gynlluniau fesul cam dros nifer o flynyddoedd yn cael eu hystyried yn ystod 2017/18, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau rhaglen gyfalaf yn y dyfodol; a

 

 (d)      Bod datblygiad y Strategaeth Gyfalaf a Cynllun Rheoli Asedau tymor hwy yn cael ei nodi.

137.

Cyllideb Refeniw 2017/18 a Rhaglen Gyfalaf 2017/18 Cyfrif Refeniw Tai pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I argymell cyllideb Cyfrif Refeniw Tai 2017/18 i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai (HRA) Drafft 2017/18 a Rhaglen Gyfalaf 2017/18.

 

            Roedd y cyd-destun strategol ar gyfer gosod cyllideb yr HRA yn cynnwys y canlynol:

·         Yr angen i sicrhau bod y strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyngor;

·         Cyflwyno cynllun darbodus ar gyfer uchafu incwm;

·         Pennu cyllideb fantoledig gyda 3% refeniw dros ben dros wariant;

·         Ymdrech barhaus i sicrhau bod yr holl gostau gwasanaeth yn effeithlon ac y gellir cyflawni gwerth am arian;

·         Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau'r benthyca sy'n ofynnol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020; a

·         Adeiladu tai cyngor newydd.

  

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid cymeradwyo’r gyllideb HRA ar gyfer 2017/18 fel yr amlinellir yn y Cynllun Busnes a’i argymell i’r Cyngor Sir;

 

 (b)      Cymeradwyo cynnydd mewn rhent o 2.5% (tynnu neu ychwanegu hyd at £2) fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Busnes gyda rhenti targed yn cael eu gosod ar gyfer tenantiaethau newydd;

 

 (c)       Cymeradwyo cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20c yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys a’i argymell i’r Cyngor; a

 

 (d)      Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf HRA 2017/2018 arfaethedig.

138.

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 207/18 ac Adroddiad Canol Blwyddyn 2016/17 pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        Argymell y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18 i'r Cyngor i'w gymeradwyo. Cyflwyno drafft Adolygiad Rheoli'r Trysorlys Canol Blwyddyn 2016/17 i'w gymeradwyo ac argymhelliad i'r Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18 ac Adroddiad Canol Blwyddyn 2016/17.

 

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ar 25 Ionawr lle awgrymwyd bod y Cabinet a'r Cyngor Sir yn ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys Drafft 2017/18 ac Adroddiad Drafft Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2016/17 yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir.

139.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gydnerth Ariannol: Cynllunio Arbedion pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        I derbyn yr adroddiad allanol hwn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Shotton Mr Paul Goodland o Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) i'r cyfarfod a gwahoddwyd ef i gyflwyno adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

 

                        Fe eglurodd Mr Goodlad bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer Sir y Fflint yn ddiweddar “Gwytnwch Ariannol: Cynllunio Arbedion”.  Dywedodd ei fod wedi bod yn bleser cyflwyno adroddiad mor eithriadol o gadarnhaol, a’r  casgliad oedd "Mae fframwaith cynllunio ariannol y Cyngor yn gadarn ac mae'n parhau i gryfhau ei gynllunio ariannol i gefnogi gwytnwch ariannol gwell yn y dyfodol”.  Cafodd un cynnig ar gyfer gwella ei nodi sef “cryfhau trefniadau cynllunio ariannol drwy sicrhau bod yr holl gynigion arbedion yn datblygu'n ddigonol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y maent yn cael eu gweithredu”.

 

                        Fe soniodd am lwyddiant yr Awdurdod wrth gynnal lefelau o arbedion effeithlonrwydd a nodwyd ar ddechrau'r flwyddyn.

 

                        Diolchodd y Prif Weithredwr i Mr Goodlad a dywedodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol a defnyddiol.  Cafodd y cynnig ar gyfer gwella ei gydnabod ac fe soniodd am y broses gynllunio lwyddiannus ar gyfer y gyllideb flynyddol bresennol a oedd wedi’i seilio ar yr hyn a ddysgwyd yn y gorffennol. 

 

Yn dilyn sylwadau ym Mhwyllgorau Trosolwg a Chraffu, bu’r Awdurdod yn llwyddiannus wrth adrodd y gyllideb yn amserol drwy ei gyflwyno mewn tri cham. Ar y mater o arbedion effeithlonrwydd, esboniodd bod nod y Cyngor yn y dyfodol yn debygol o fod 95%.  Dywedodd nad yw pob awdurdod lleol yn adrodd gyda chymaint o dryloywder â Sir y Fflint lle mae gwybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb yn cael ei adrodd bob mis.  Cadarnhaodd Mr Goodlad nad oedd llawer o awdurdodau lleol eraill yn dilyn proses debyg, ac fe allent fabwysiadau model arfer da tebyg. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Shotton i Mr Goodlad am fod yn bresennol a chroesawodd yr adroddiad cadarnhaol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

                       

PENDERFYNWYD:

 

Bod canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar drefniadau'r Cyngor ar gyfer cynllunio arbedion ariannol sy'n cefnogi gwytnwch ariannol y Cyngor yn cael eu derbyn a'u cymeradwyo.

140.

Gweledigaeth Twf a Strategaeth ar gyfer Economi Gogledd Cymru pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Argymell y model llywodraethu rhanbarthol a ffefrir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru.

 

                        Gwahoddwyd Gogledd Cymru i ddatblygu'r strategaeth mewn i ‘Gais Twf' ar gyfer buddsoddi cenedlaethol.  Roedd y gwaith rhanbarthol yn rhedeg yn gyfochrog â datblygu a chytuno ar gynigion twf mewn rhanbarthau penodol yn Ne Cymru a Lloegr.

 

                        Roedd gwaith yn parhau i flaenoriaethu cynnwys y strategaeth i’w gynnwys mewn cais ffurfiol, ac roedd y chwe Chyngor wedi dod i gytundeb amlinellol ar fodel llywodraethu ar gyfer y strategaeth economaidd ranbarthol.  Cafodd y model llywodraethu rhanbarthol dewisol o gydbwyllgor statudol ei nodi yn yr adroddiad.

 

                        Esboniodd y Prif Weithredwr bod adroddiadau tebyg yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Cabinet yn y pum awdurdod lleol arall.  Ychwanegodd fod gwaith cyfreithiol technegol yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer y cynllun i symud ymlaen yn dilyn y Cyfarfodydd Blynyddol. 

 

                        Cytunwyd y gellid cynnal trafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor ar 1 Mawrth pan fyddai’r eitem 'Gwaith Rhanbarthol a'r Papur Gwyn - Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’ yn cael ei ystyried.

                       

PENDERFYNWYD:                                                                

 

 (a)      Bod y model llywodraethu rhanbarthol dewisol o gydbwyllgor statudol ar gyfer datblygu pellach yn cael eu cymeradwyo; a

 

 (b)      Y dylid gwahodd y Cyngor newydd ei ethol fynd i mewn i fodel Cyd-bwyllgor statudol gyda'r pum Cyngor partner, o fewn tri mis cyntaf tymor newydd y Cyngor, unwaith y bydd cyfansoddiad manwl a chytundeb rhwng awdurdodau ar gael.

141.

Cynllun Glannau Dyfrdwy pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Glannau Dyfrdwy

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Cynllun Glannau Dyfrdwy a oedd yn nodi gweledigaeth ar gyfer twf economaidd ar gyfer y 30 mlynedd nesaf.  Roedd yn cynnwys y rhaglenni lefel uchel o waith oedd eu hangen i gyflawni'r dyheadau ar gyfer Glannau Dyfrdwy fel elfen allweddol mewn twf economaidd rhanbarthol ac i sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl leol.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod y cynllun wedi cael ei ddatblygu i nodi sut y gallai uchelgeisiau ar gyfer twf economaidd i Lannau Dyfrdwy gael ei gyflawni, gwneud y mwyaf o dwf i bobl leol ac ar gyfer y rhanbarth ehangach tra hefyd yn diogelu ac yn gwella ansawdd bywyd.  Pwrpas y Cynllun oedd:

 

·         Creu gweledigaeth lefel uchel uchelgeisiol ar gyfer twf economaidd yng Nglannau Dyfrdwy dros y 30 mlynedd nesaf;

·         Gosod yr egwyddorion er mwyn adnabod safleoedd i’w datblygu yn y dyfodol ar ôl Porth y Gogledd a Warren Hall, gan gydnabod yr amserlenni hir sydd eu hangen i wneud hynny;

·         Sicrhau bod isadeiledd cludiant, datblygu economaidd a chynllunio defnydd tir yn cael eu hystyried ochr yn ochr;

·         Alinio strategaethau a rhaglenni rhanbarthol a lleol yn y dyfodol;

·         Meithrin dealltwriaeth o anghenion yr ardal ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a busnesau i annog cefnogaeth; a

·         Darparu offeryn ar gyfer Partneriaeth Glannau Dyfrdwy, y Cyngor ac eraill i fonitro cynnydd.

 

Amlygwyd cludiant fel blaenoriaeth benodol yn y Cynllun o ganlyniad i heriau presennol a'i botensial i gyfyngu twf yn y dyfodol.  Y blaenoriaethau oedd:

·         Gwneud y mwyaf o werth y buddsoddiadau isadeiledd cludiant  rhanbarthol gan gynnwys gwelliannau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r rhwydwaith ffyrdd strategol o amgylch Glannau Dyfrdwy;

·         Sicrhau bod gwelliannau isadeiledd cludiant yn cael eu cynllunio ochr yn ochr â chyfleoedd datblygu yn y dyfodol gan gydnabod y gallai’r ddwy broses gymryd sawl degawd i ddwyn ffrwyth; a

·         Chefnogi'r newid o ddefnyddio ceir preifat i ffurfiau mwy cynaliadwy o deithio a thyfu isadeiledd teithio llesol.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a fyddai'n darparu buddion a chyfleoedd i'r ardal ac ar draws y rhanbarth.  Esboniodd y byddai proses ymgynghori 12 wythnos o hyd ar wella ffordd yr A494/A55 yn dechrau ar 13 Mawrth.

 

                        Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddent yn derbyn gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am Weledigaeth a Chysylltedd Metro Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      Bod Cynllun Glannau Dyfrdwy yn cael ei gymeradwyo;

 

(b)      Bod y cynigion cludiant ar gyfer Glannau Dyfrdwy yn cael eu cymeradwyo; a

 

(c)       Bod y Cyngor yn ymateb i ymgynghoriad gwella A494/A55 Llywodraeth Cymru sydd i ddod gan roi achos cryf dros welliannau sy’n atal tagfeydd ac yn hwyluso cyflwyno Cynllun Glannau Dyfrdwy.

Deeside Plan Appendix pdf icon PDF 9 MB

142.

Polisi Diogelu Corfforaethol pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Polisi Diogelu Corfforaethol ar gyfer ei gylchredeg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Polisi Diogelu Corfforaethol a oedd yn nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cyhoeddi adroddiad ym mis Gorffennaf 2015 ‘Adolygu Trefniadau Diogelu Corfforaethol yng Nghynghorau Cymru’.  Fe wnaethant adrodd nad yw cyfrifoldebau diogelu corfforaethol gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru yn cael eu deall yn dda bob amser, ac fe wnaethant nodi bod angen i gyfrifoldebau diogelu corfforaethol gael eu hintegreiddio'n llawn â gwaith gwasanaethau eraill.

 

            Roedd diogelu’n gysyniad ehangach na diogelu plant ac oedolion ac roedd yn delio â hyrwyddo:

 

·         Iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol;

·         Diogelu rhag niwed ac esgeulustod;

·         Addysg, hyfforddiant a hamdden; a

·         Chyfrannu at gymdeithas.

             

Roedd diogelu yn gyfrifoldeb ar y cyd.  Er mai'r Gwasanaethau Cymdeithasol oedd y gwasanaeth arweiniol o fewn y Cyngor, mae gan bawb, beth bynnag yw eu rôl, gyfrifoldeb i ddiogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion.  Mae diogelu wastad wedi bod yn gryf yn Sir y Fflint a byddai Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet a byddai'n tynnu sylw at berfformiad y Cyngor wrth gydymffurfio â Pholisi a Chanllawiau Corfforaethol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Christine Jones yr adroddiad ac fe soniodd am faint  oedd wedi cael ei wneud hyd yn hyn i gryfhau trefniadau diogelu.

                                                 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn cael sicrwydd bod y gwaith yn cael ei wneud i wella trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant ac oedolion;

 

 (b)      Bod y Polisi Diogelu Corfforaethol drafft yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghori ehangach; a

 

 (c)       Bod y Cabinet yn derbyn adroddiadau blynyddol ar waith a wnaed i wella trefniadau diogelu corfforaethol ac effeithiolrwydd y polisïau perthnasol.

143.

Safonau Iaith Gymraeg pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        I gynghori aelodau o Safonau’r Iaith Gymraeg ar gyfer Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Safonau Iaith Gymraeg a oedd yn manylu ar  ganlyniad trafod cyfres newydd o Safonau Iaith Gymraeg ar gyfer y Cyngor gyda'r Comisiynydd y Gymraeg. 

 

                        Esboniodd y Prif Weithredwr fod y rhan fwyaf o'r Safonau yn gyson â'r ymrwymiadau a nodir yng Nghynllun Iaith Gymraeg y Cyngor ac nid oedd yn peri unrhyw broblemau sylweddol i wasanaethau.  Roedd rhai o'r Safonau wedi bod yn fwy heriol ac esboniodd bod trafodaethau adeiladol wedi'u cynnal gyda Chomisiynydd y Gymraeg a oedd wedi arwain at newidiadau, eithriadau a gohirio dyddiadau gweithredu ar gyfer y Safonau y barnwyd eu bod yn broblematig, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

                        Fe soniodd y Cynghorwyr Bithell a Mullin am lwyddiant gwella’r Gymraeg mewn ysgolion yn Sir y Fflint.

                         

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod canlyniad llwyddiannus i Gyngor Sir y Fflint wrth drafod y Safonau o fewn y cyfnod Rhybudd Cydymffurfio terfynol yn cael ei gadarnhau a'i gefnogi;

 

             (b)      Bod Safonau’r Gymraeg yn cael eu cefnogi’n llawn; a

 

 (c)       Bod adroddiad pellach ar y Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg, sydd yn un o ofynion y Safonau a fydd yn codi proffil ac yn cryfhau'r Gymraeg yn Sir y Fflint yn cael ei wahodd.

144.

Strategaeth Ddigidol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar Strategaeth Ddigidol y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Strategaeth Ddigidol a ddisodlodd strategaeth TG presennol y Cyngor.

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei fod yn ymagwedd wahanol i’r strategaeth bresennol gan ei fod yn ceisio cwmpasu pob un o ddyheadau strategol y Cyngor ar gyfer y Gwasanaeth TG, y Cyngor a'r sir gyfan.  Roedd yn cynnwys amcanion strategol yn ymwneud â materion fel datblygu economaidd a datblygu cymunedol ochr yn ochr ag amcanion ar ddarparu gwasanaeth TG.

 

                        Cynhaliwyd gweithdy ar y strategaeth i bob Aelod ar 16 Rhagfyr 2016 a chafodd ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 12 Ionawr 2017. Ar y cyfan roedd y ddau’n cefnogi’r ymagwedd a gynigiwyd o fewn y strategaeth a rhoddasant adborth defnyddiol ar y ffactorau hanfodol sydd eu hangen i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu’n llwyddiannus.

 

                        Byddai cynllun gweithredu blynyddol yn bwydo i mewn i'r strategaeth adnoddau corfforaethol er mwyn adeiladu darlun strategol clir o'r galw yn erbyn capasiti.  Yn ei dro, byddai hynny yn cael ei drafod mewn Byrddau Rhaglen o fewn y Cyngor a byddai dyraniadau adnoddau priodol yn cael eu gwneud bryd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Bod y strategaeth ddigidol arfaethedig yn cael ei fabwysiadu.

145.

Bil Undebau Llafur (Cymru) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Gwahodd ymateb y Cabinet i ymgynghoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Bil

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad Bil Undebau Llafur (Cymru) a oedd yn gwahodd ymateb i'r ymgynghoriad.

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr mai pwrpas y Bil oedd peidio â chymhwyso rhai o ddarpariaethau Deddf Undebau Llafur 2016, a basiwyd gan Lywodraeth y DU, yng Nghymru.  Roedd Pwyllgor Cydraddoldeb Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru wedi bod yn craffu ar y Bil ac wedi gofyn am ymatebion i’w gais am dystiolaeth.

 

                        Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd diwedd yr wythnos.  Fodd bynnag, o ystyried y Rhybudd Cynnig yn ddiweddar i'r Cyngor Sir ar y Bil, fe awgrymodd bod y Cabinet yn rhoi ymateb cychwynnol a bod ymateb llawn yn cael ei roi wedyn yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 1 Mawrth lle y gallai gael ei drafod yn llawn. Cafodd hyn ei gefnogi.  Fe awgrymodd y gallai ymateb ar y cyd rhwng y Cyngor a’r Undebau Llafur gael ei ddarparu, a chafodd hyn ei gefnogi hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn gwneud ymateb cychwynnol i'r ymgynghoriad gydag ymateb llawn yn cael ei ddarparu ar ôl cyfarfod y Cyngor Sir ar 1 Mawrth 2017.

146.

Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (Mis 9) pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        I gynnig gwybodaeth i aeldoau ar Raglen Gyfalaf Mis naw ar gyfer 2016-17

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (Mis 9) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i'r Rhaglen Gyfalaf ers Mis 6, ynghyd â’r gwariant hyd yn hyn a'r alldro a ragwelir. 

 

                        Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi cynyddu £0.573m yn ystod y cyfnod oherwydd:

 

·         Cyflwyno cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Adnewyddu'r Sector Preifat (£0.175m)

·         Cyllid grant ychwanegol Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid gan Lywodraeth Cymru (£0.100m)

·         Cyflwyno Cyllid Adran 106 Offer Ardal Chwarae (£0.120m)

·         Cynnydd Agregau Arall (£0.178m)

 

Gwariant gwirioneddol at Fis 9 oedd £43.277m gydag alldro wedi’i ragweld o £60.224m oedd yn danwariant o £0.896m.  Yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer ariannu gwariant cyfalaf yn y dyfodol oedd tua £3.873m, roedd y cyfan wedi cael ei glustnodi i ariannu cynlluniau cyfalaf o 2017/18 ymlaen fel rhan o bennu rhaglen gyfalaf y flwyddyn nesaf.

 

Yn ystod y chwarter, roedd Treigl o Gyllid o £1.063m ychwanegol wedi’i adnabod yn fuan a oedd yn adlewyrchu cynlluniau gwariant ar draws pob maes rhaglen; roedd y symiau ymroddedig hynny bellach wedi cael eu nodi yn ofynnol i ddiwallu cost y gwaith rhaglen a/neu daliadau cadw yn 2017/18.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ni chafodd unrhyw broblemau eu nodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr adroddiad cyffredinol yn cael ei gymeradwyo; a

 

 (b)      Bod yr addasiadau treigl cyllid yn cael ei gymeradwyo.

147.

Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 9) pdf icon PDF 144 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf i Aelodau ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis naw

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 9) a oedd yn cynnig y sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol.  Roedd yr adroddiad yn rhoi amcanestyniad o beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiweddglo'r flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Y sefyllfa diwedd blwyddyn a amcanestynnwyd, heb unrhyw gamau pellach i leihau pwysau o ran costau neu i nodi arbedion effeithlonrwydd newydd, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Roedd sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.799m; gostyngiad yn y diffyg o £1.011m o’r sefyllfa a adroddwyd fis diwethaf a oedd yn ganlyniad i nifer o ffactorau, yr un mwyaf arwyddocaol oedd adennill cost pecynnau gofal a ariennir ar y cyd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol;

·         Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragwelir yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm  Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir.  Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a rhagwelir y byddai gwariant net yn £2.087m yn is; a

·         Balans cronfa hapddigwyddiad a amcanestynnwyd o £5.279 miliwn

 

Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.037 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a

·         Y balans cloi a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2017 yw £1.061 miliwn

 

Roedd yr adroddiad yn trafod symudiadau arwyddocaol yn y gyllideb; y rhaglen effeithlonrwydd; chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau; trosolwg o’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd ail-alinio cyllideb barhaol o fewn y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei argymell i’w weithredu cyn cwblhau adroddiad monitro cyllideb Mis 10. 

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol lle cafwyd trafodaeth ar Isafswm Darpariaeth Refeniw ôl-weithredol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a nodi’r swm hapddigwyddiad a amcanestynnwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2017, a bod gwaith ar weithredoedd ac opsiynau ar gyfer gweithredoedd lliniaru yn cael ei gefnogi;

 

 (b)      Dylid nodi'r lefel terfynol o falensau a flaenamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

 (c)       Bod trosglwyddiad cyllideb o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei gymeradwyo.

148.

Dangosyddion Darbodus 2017/18 i 2019/20 pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        Cyflwyno cynigion ar gyfer gosod ystod o Ddangosyddion Darbodus yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus) i'w hargymell i'r Cyngor

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Dangosyddion Darbodus 2017/18 i 2019/20 a oedd yn rhoi manylion am y canlynol:

 

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Gwariant Cyfalaf;

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd;

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Pwyll; a

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Rheoli'r Trysorlys a Dyledion Allanol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar 14 Chwefror 2017:

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2017/18-2019/20; ac

·         Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i achosi symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol.

149.

Isafswm Darpariaeth Refeniw – Polisi 2017/18 pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        I gyflwyno cynigion ar gyfer gosod Isafswm Darpariaeth Refeniw synhwyrol ar gyfer ad-dalu dyled yn 2017/18, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2008 (‘Rheoliadau 2008’) i’w hargymell i'r Cyngor

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw – 2017/18.  

 

                        Yn rhan o strategaeth y gyllideb ar gyfer 2017/18 fe adolygodd y swyddogion Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw'r Cyngor ac argymell bod newidiadau yn cael eu gwneud i rannau o’r polisi.  Cafodd adroddiadau manwl eu hystyried yng nghyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cyngor Sir.  Cafodd newidiadau i Bolisi 2016/17 a 2017/18 eu cymeradwyo yn y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr. 

 

Roedd yr adroddiad yn ailddatgan polisi diwygiedig 2017/18 fel rhan o gyfres o adroddiadau pennu cyllideb 2017/18 sy'n cael ei ystyried gan y Cabinet a'r Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Gronfa'r Cyngor (CF):-

 

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) er mwyn cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer balans y gwariant cyfalaf sy'n weddill a ariannwyd drwy fenthyca â chymorth a osodwyd ar 31 Mawrth 2016. Y cyfrifiad fyddai’r dull ‘llinell syth’ dros 50 mlynedd;

 

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo’r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2017/18 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a ariannwyd drwy fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016 ymlaen.  Byddai'r cyfrifiad yn ddull 'llinell syth' neu 'flwydd-dal' (lle bo'n briodol) dros nifer priodol o flynyddoedd, yn dibynnu ar y cyfnod o amser y bydd y gwariant cyfalaf yn debygol o gynhyrchu buddion; a 

 

·         Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo’r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2017/18 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a ariannwyd drwy fenthyca heb gymorth (darbodus) neu drefniadau credyd.

 

 (b)      Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:-

 

·         Defnyddio Opsiwn 2 (Dull Nawdd Cyfalaf Gofynnol) ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2017/18 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a ariennir gan ddyled.

 

 (c)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir, bod Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu tai fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf mewn telerau cyfrifeg) fel a ganlyn:- 

 

·         Na ddylid gwneud unrhyw Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (am gyfnod byr) gan nad yw'r ased wedi cael ei ddefnyddio ac unrhyw fudd yn deillio o'i ddefnydd; ac

 

·         Unwaith y bydd yr asedau wedi cael eu defnyddio, byddai ad-daliadau cyfalaf yn cael ei wneud gan NEW Homes.Byddai'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn gyfartal i'r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes.  Byddai'r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes yn cael eu dosbarthu, yn nhermau cyfrifyddu, fel derbyniadau cyfalaf, a allai ond eu defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyledion a oedd yn fath o Isafswm Darpariaeth Refeniw.  Byddai'r ad-daliad cyfalaf/derbynneb cyfalaf yn cael ei neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma oedd polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyngor i ad-dalu'r benthyciad.

150.

Hunanwerthusiad y Gwasanaethau Addysg pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Darparu drafft Hunan Werthuso ar gyfer mabwysiadu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg a oedd yn asesiad blynyddol yn erbyn y fframwaith ar gyfer gwasanaethau addysg yr Awdurdod Lleol a sefydlwyd gan Estyn.

 

                        Prif bwrpas yr hunan werthuso oedd arwain at welliannau gwasanaeth, gan gynnwys canlyniadau a gyflawnir gan ddysgwyr.  Mae'r broses o hunan werthuso yn barhaus ac wedi’i sefydlu yng ngwaith yr Awdurdod Lleol  gyda'r pwyslais bob amser ar werthuso effaith pob agwedd o ddarpariaeth ar safonau a lles dysgwyr.

 

                        Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cryfderau canfyddedig ynghyd â materion a heriau allweddol, ac roedd wedi’i lunio gyda chyfraniad gan swyddogion yr Awdurdod Lleol, partneriaid GwE a chynrychiolwyr ysgolion.  Ceir manylion llawn yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a rhoddodd sylw ar ymrwymiad y cabinet i ddiogelu addysg yn Sir y Fflint.  Yn ogystal, fe groesawodd y data ar ganran y dysgwyr sy'n gadael yr ysgol heb gymhwyster a nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), sef 1.3% yn 2015. Dyma oedd y gyfran isaf o NEETS Blwyddyn 11 yng Nghymru, a’r ffigur isaf erioed Sir y Fflint am yr ail flwyddyn yn olynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y dystiolaeth mewn perthynas â'r drafft  hunanwerthuso diweddaraf yn cael ei dderbyn.

151.

Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        I nodi cynllun comisiynu a gwario 2017/18

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl a oedd yn cyflwyno’r cynllun gwario ar gyfer 2017/18. Mae'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2016/18.

 

                        Fe soniodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) am bwysigrwydd y gwasanaethau ac roedd yn falch o egluro bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn cydnabod gwerth parhau i ariannu gwasanaethau cymorth ataliol lefel isel a oedd yn helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd, gofal a digartrefedd arbenigol mwy drud, ac fe groesawyd amddiffyn y grant ar gyfer 2017/18.

 

                        Cafodd manylion y cynigion gwariant ar gyfer 2017/18 eu hamlinellu, yn benodol, parhad y cyllid ar gyfer Lloches i Ddynion yn Sir y Fflint, gan fod tystiolaeth wedi dangos ei fod yn wasanaeth yr oedd mawr ei angen ar gyfer Gogledd Cymru, a'r parhad i ariannu swyddi sy’n atal digartrefedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynllun Gwario Grant Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer 2017/18 yn cael ei gymeradwyo.

152.

Cynnig Gofal Plant Newydd pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r cabinet am y cynnig Gofal Plant newydd i Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones adroddiad Cynnig Gofal Plant Newydd a oedd yn manylu ar gais llwyddiannus Sir y Fflint i fabwysiadu cynllun peilot yn fuan ar gyfer gofal plant am ddim.

 

                        Erbyn diwedd 2021 bydd y Cynnig yn darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar i blant 3 a 4 oed am 48 wythnos y flwyddyn i rieni, a fyddai’n cael ei ariannu gan y llywodraeth.  Roedd hynny'n cynnwys 10 wythnos o fewn y cyfnod gwyliau ysgol gyda'r nod o gefnogi teuluoedd drwy ddarparu gofal plant o safon oedd yn hyblyg ac yn fforddiadwy.   

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Bithell y cynllun peilot a fyddai'n cefnogi adfywio economaidd ac yn lleihau'r pwysau ar incwm y teulu ac yn helpu rhieni i gael gwaith gan leihau perygl y teulu o dlodi.

 

                        Fe eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai'r cynllun yn rhoi cyfle i 441 o blant ym Mlwyddyn 1 (Medi 2017 - Medi 2018) a oedd yn gynnydd ar garfan gychwynnol o 75 i 100. Roedd y meini prawf i gymhwyso wedi’i amlinellu yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Shotton bod y cynllun yn arwyddocaol i rieni sy'n gweithio ac ar gyfer y rhai sydd eisiau dychwelyd i'r gwaith, ac fe eglurodd y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu ym Mwcle i gychwyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r ffaith bod Sir y Fflint, yn gweithredu’r cynnig yn gynnar, a gwneud y mwyaf o gyfle grant gwerth £1,552,000, gan gefnogi swyddogaeth lawn y cynllun ar draws Sir y Fflint, a fyddai o fudd i 441 o blant tair i bedair oed a'u teuluoedd.

153.

Cynllun DNA Cwn a Chyflwyniad Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cwn pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y Cynllun DNA C?n yn dilyn cyflwyniad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad Cynllun DNA C?n a Chyflwyno Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n a oedd yn argymell disodli’r Gorchymyn Rheoli C?n presennol gyda Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a fyddai'n cwmpasu pob man agored yn y Sir.

 

                        Roedd y Gorchymyn Rheoli C?n presennol dim ond yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion godi'r baw c?n o ardaloedd cyhoeddus, serch hynny roedd creu Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn gyfle am ragor o weithgarwch gorfodi yn erbyn troseddau penodol eraill, megis gwahardd c?n neu ofyniad i gadw c?n ar dennyn mewn mannau agored penodol, megis ardaloedd chwarae plant, caeau chwaraeon wedi’u marcio, neu ardaloedd hamdden ffurfiol eraill.

 

                        Cafodd nifer o weithgareddau eu hystyried mewn Gweithdy i Aelodau ac yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a fyddai'n hyrwyddo perchnogaeth c?n cyfrifol ac yn helpu i leihau baw c?n oedd yn difetha mannau agored a thir amwynder yn y Sir ar hyn o bryd.  Gwnaed argymhelliad i'r Cabinet y dylai'r gweithgareddau a nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad gael eu mabwysiadu, lle yr oedd yn ymarferol gwneud hynny. 

 

                        Roedd Gr?p Tasg a Gorffen wedi cael ei sefydlu i ymdrin â’r mater DNA c?n, er mwyn ymchwilio i botensial cynllun DNA c?n a chafodd y casgliadau eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcheddol.  Daeth y Gweithgor a'r Pwyllgor i'r casgliad er bod rhinweddau yn y cynigion, roedd angen gwaith datblygu pellach cyn y gallai'r fenter yn cael ei fabwysiadu ac na ddylid bwrw ymlaen â’r cynllun peilot ar y pwynt hwn.

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd yn caniatáu i’r Cyngor ymgymryd â gweithgareddau gorfodi ar dir nad yw'n eiddo i'r Cyngor ac felly byddent yn gofyn i bob Cyngor Tref a Chymuned os oeddent yn dymuno i'r Cyngor ymgymryd â’r dyletswyddau hynny ar dir o fewn eu perchenogaeth, fel rhan o'r broses ymgynghori.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar g?n sy'n cael eu cadw ar dennyn bob amser, esboniodd y Cynghorydd Attridge fod y mater wedi cael ei ystyried yn y Gweithdy ond ni chafodd ei argymell gan y byddai perchnogion c?n cyfrifol yn cael eu cosbi oherwydd y lleiafrif.  Roedd yn ymwneud â dim goddefgarwch a gweithredu'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus gan Swyddogion Gorfodi.             

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y gwaith a wnaed gan y Gr?p Tasg a Gorffen DNA C?n yn cael ei nodi a’i werthfawrogi, ond ni chymeradwywyd cynllun peilot ar hyn o bryd;

 

 (b)      Cymeradwyo Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n, sy’n cynnwys rheolau penodol yn Atodiad 1, yn amodol ar broses ymgynghori lleol; a

 

 (c)       Bod cyflwyno mesurau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2, er mwyn lleihau'r achosion o faw c?n yn y Sir ymhellach, yn cael eu cymeradwyo.

154.

Adolygu Darpariaeth Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cam terfynol yr adolygiad gwasanaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad Adolygiad o Ddarpariaeth Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor (HRC) a oedd yn cynnwys canlyniad yr adolygiad HRC ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i gyflawni elfennau terfynol mwy lleol y datrysiad HRC a oedd wedi cael ei gymeradwyo yn flaenorol gan y Cabinet.  Roedd yn cynnwys manylion y safle HRC newydd arfaethedig a leolir yn Rockcliffe yng ngogledd y Sir.

 

                        Yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru (LlC), cymeradwyodd y Cabinet gynigion i wella'r cyfleusterau HRC cyfredol ym Mwcle a'r Wyddgrug o fewn ôl troed y safleoedd presennol ac ar hyd llinellau i'r cyfleuster presennol yn Sandycroft.  Roedd y gwaith adeiladu wedi dechrau ac roedd disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2017.

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod chwiliad helaeth wedi cael ei gynnal i nodi safle posibl yn Rockcliffe i ddisodli cyfleusterau’r Fflint a Chei Connah.  Mae'r safle arfaethedig yn uniongyrchol rhwng y ddau gyfleuster presennol ac mae trafodaethau wedi cychwyn am brydles posibl.  Roedd manylion y brydles wedi’u cynnwys yn eitem rhif 25 ar y rhaglen a oedd yn adroddiad Rhan 2 er mwyn cynnal cyfrinachedd masnachol.

 

                        Roedd y Cynghorydd Kevin Jones yn falch o adrodd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar yr achos lobïo am gais cyfalaf am arian ar gyfer y gwaith oedd ei angen, ac roedd mwyafrif y cyllid wedi cael ei gymeradwyo.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r Cynghorydd Kevin Jones a'r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am y gwaith a wnaed ar yr adolygiad HRC, yn enwedig llwyddiant wrth gael  y mwyafrif o’r cyllid ar gyfer y gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cynlluniau i ddatblygu safle HRC newydd yn Rockcliffe i ddisodli'r cyfleusterau presennol yn y Fflint a Chei Connah yn cael eu cymeradwyo.

155.

Ymarfer Pwerau Dirprwyedig pdf icon PDF 54 KB

Report of the Chief Executive enclosed.

 

Purpose: To provide details of actions taken under delegated powers.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem gwybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Cafodd y camau gweithredu eu nodi isod:-

 

Refeniw

  • Dileu Trethi Busnes

Roedd Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylai unrhyw ddyled unigol rhwng gwerthoedd o £5,000 a £25,000 gael ei adrodd i'r Prif Swyddog Cyllid (Rheolwr Cyllid Corfforaethol / Swyddog Adran 151) i'w ystyried i’w ddileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Cyllid.  Roedd yr amserlenni, a gafodd eu crynhoi gan y categori o ddileu yn cynnwys 2 gyfrif Trethi Busnes lle roedd dyled gyffredinol ar gyfer pob cwmni yn fwy na £5,000.

 

  • Dileu Treth y Cyngor

Roedd Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylai unrhyw ddyled unigol rhwng gwerthoedd o £5,000 a £25,000 gael ei adrodd i'r Prif Swyddog Cyllid (Rheolwr Cyllid Corfforaethol / Swyddog Adran 151) i'w ystyried i’w ddileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Cyllid.  Mae'r pwerau dirprwyedig yn ffurfio 1 cyfrif treth gyngor manwl lle'r oedd y ddyled gyffredinol yn fwy na £5,000.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwigiwyd).

156.

Caffael prydles am dir ar gyfer defnydd arfaethedig fel Canolfan Ailgylchu Nwyddau Cartref

Pwrpas:        Cynnig caffael prydles am dir ar gyfer defnydd arfaethedig fel Canolfan Ailgylchu Nwyddau Cartref

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Caffael Prydles ar gyfer Tir ar gyfer defnydd arfaethedig fel Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HRC).

 

            Mae'r adroddiad yn cynnwys manylion am y trafodaethau sydd ar y gweill ar gyfer caffael tir i hwyluso'r gwaith o adeiladu safle HRC. 

           

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar Gontract, bod y Cabinet yn cymeradwyo rhoi caniatâd cynllunio, am Brydles 25 mlynedd ar gyfer tir uchod i alluogi Canolfan ailgylchu gwastraff y cartref (HRC) gael ei adeiladu yn y lleoliad a ddangosir ar y cynllun.

157.

Review of the Council's Household Recycling Centre Provision

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad brys ar yr Adolygiad o ddarpariaeth Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor (HRC) oedd yn darparu gwybodaeth ychwanegol ar y trefniadau caffael ar gyfer adeiladu cyfleuster HRC newydd yn Rockcliffe.

 

                        Cynigiodd yr adroddiad bod y Cyngor yn mynd i ddeialog gystadleuol gyda'r contractwr llwyddiannus yn dilyn ymarfer tendro blaenorol ar gyfer cyfleusterau Bwcle a'r Wyddgrug ar gyfer adeiladu’r cyfleuster terfynol yn Rockcliffe.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y cynnig i ddechrau deialog gyda'r contractwr sydd wrthi’n gwneud y gwaith adeiladu yn y safleoedd HRC ym Mwcle a’r Wyddgrug yn cael ei gymeradwyo, ac i gytuno ar gyfraddau cymharol ar gyfer y gwaith adeiladu ar safle Rockcliffe; a

 

 (b)      Chymeradwyo’r Ffurflen Comisiynu ar gyfer y gwaith contract.

158.

Gwaredu Hen Gyfleuster Prosesu Cemegau Euticals yn Sandycroft

Pwrpas:        Cymeradwyo cael gwared safle

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Gwaredu Hen Gyfleuster Prosesu Cemegau Euticals yn Sandycroft a oedd yn ceisio gwaredu’r safle a rhwymedigaethau.

                                                 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi ystyried gwaredu'r safle i Qualitech Environmental Services Limited.

159.

Model Cyflenwi Amgen ar gyfer gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Threftadaeth - Cynigion Strwythur Staffio

Pwrpas:        Cymeradwyo'r strwythur y gweithlu arfaethedig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad Model Cyflenwi Amgen ar gyfer Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd  Threftadaeth – Cynigion Strwythur Staffio, oedd yn canolbwyntio ar weithredu ailstrwythuro haenau 3 a 4 Hamdden a Llyfrgelloedd o fewn y cwmni newydd er mwyn darparu’r strwythur gorau posibl, yn effeithlon, ac yn addas at y diben yn barod ar gyfer y trosglwyddiad arfaethedig ym mis Gorffennaf 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr Egwyddorion Dylunio ar gyfer yr ailstrwythuro yn cael eu cytuno;

 

 (b)      Cytuno ar y strwythur rheoli haenau 3 a 4 ar gyfer Hamdden a Llyfrgelloedd y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau a all fod angen eu gwneud ar ôl graddio'r swyddi, er mwyn sicrhau bod y strwythur yn aros o fewn y gyllideb y cytunwyd arni, a

 

 (c)       Bod recriwtio i'r haenau rheoli yn cychwyn yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2017.

160.

AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD YN BRESENNOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol.