Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

117.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas: Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori'r Aelodau yn unol â hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Butler gysylltiad personol yn eitem rhif 10 ar y rhaglen – Polisïau Statudol Treth y Cyngor a Threthi Busnes 2017/18.

 

                        Datganodd y Cynghorwyr Bithell a Brown gysylltiadau personol yn eitem rhif 10 ar y rhaglen – Polisïau Statudol Treth y Cyngor a Threthi Busnes 2017/18.

 

                        Datganodd y Cynghorydd Kevin Jones gysylltiad personol yn eitem rhif 16 ar y rhaglen - Model Darparu Gwahanol Gofal Cymdeithasol y Gwasanaeth Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu.

118.

Cofnodion pdf icon PDF 54 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 6 Rhagfyr 2016 ac 13 Rhagfyr, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2016 ac 13 Rhagfyr 2016 wedi eu cylchredeg gyda’r rhaglen. 

 

Ar gofnod rhif 109 – Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, eglurodd y Cynghorydd Bithell fod ei sylw yn ymwneud â chyllid gohiriedig,  Cytunwyd y byddai’r cofnod yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir yn amodol ar y newid uchod.

119.

Pwll Nofio Cei Conna : Trosolwg o Gynllun Busnes 'Cambrian Aquatics' 2016/18 pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Ystyried y Dyraniad I 'Cambrian Aquatics' ar gyfer y Flwyddyn 2017/18

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones yr adroddiad Trosolwg o Gynllun Busnes Pwll Nofio Cei Connah: Cambrian Aquatics 2016/18 a chroesawodd Simon Morgan, Cyfarwyddwr Cambrian Aquatics i’r cyfarfod.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) gefndir yr adroddiad yn dilyn trosglwyddiad Cambrian Aquatics fel rhan o’r cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) ym mis Mai 2016. 

 

Ers i’r pwll nofio agor ym mis Mai 2016 roedd wedi gweithredu’n llwyddiannus ac roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r cynnydd cadarnhaol a wnaed.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig grant o £0.065 miliwn am yr ail flwyddyn o weithredu yn seiliedig ar gynllun busnes wedi’i ddiweddaru a ymddangosodd fel eitem rhif 15 ar y rhaglen a byddai’n cael ei thrafod mewn sesiwn gaeedig yn sgil sensitifrwydd masnachol.

 

Diolchodd Simon Morgan yr Arweinydd am y cyfle i annerch Aelodau i amlygu cynnydd Cambrian Aquatics hyd yma.

 

Eglurodd bod 26 o staff wedi cael eu recriwtio a dros £20,000 wedi ei fuddsoddi mewn hyfforddi staff ers ei sefydlu.  Roedd 14 ysgol gynradd yn defnyddio’r pwll ar gyfer gwersi nofio gyda’r cyfle am waith distaw ar ôl eu gwersi nofio.Roedd pob un o’r buddion cymunedol wedi eu cyflawni ac roedd nifer y sesiynau nofio cyhoeddus wedi dyblu ac wedi cael adborth ardderchog.  Roedd atodlen gynnal a chadw glir ar waith gyda chynlluniau i ddisodli’r goleuadau presennol sy’n llai effeithlon o ran ynni ac roedd gwaith yn cael ei wneud i ddenu cyllid grant i dalu am y prosiect hwnnw.  Roedd llif arian y busnes yn parhau’n her ond roedd y targed o £50 yr awr yn cael ei gyflawni ar y cyfan.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) ei fod yn esiampl ardderchog o CAT llwyddiannus.  Byddai’r grant refeniw o £0.065 miliwn yn cynorthwyo’r busnes i ddechrau ar yr ail flwyddyn a'i helpu i greu cronfeydd wrth gefn ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Attridge i Simon Morgan, y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) a’r Cynghorydd Kevin Jones am y gwaith ar y CAT.  Roedd yr adroddiad yn gadarnhaol ac yn dangos fod yr hyn roedd yr awdurdod wedi mynd ati i'w gyflawni wedi ei sicrhau ac wedi arwain at ddiogelu dyfodol y pwll nofio yng Nghei Connah ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Chynghorau Tref a Chymuned i geisio denu buddsoddiadau ar gyfer Cambrian Aquatics.  Ychwanegodd Simon Morgan fod y cyfleusterau yn cael eu defnyddio gan drigolion o ddalgylch eang iawn ac roedd gwybodaeth ddemograffig ar y defnydd cyffredinol wedi’i rannu gyda Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod hwn yn drobwynt i Gyngor Sir y Fflint, a welodd sefydliad yn tyfu o’r ddaear i fyny, rhywbeth na welwyd o’r blaen, a gellid rhannu profiadau gyda CATs eraill.  Cadarnhaodd Simon Morgan fod cyfarfodydd wedi eu cynnal gyda grwpiau CAT eraill ac roedd yn barod i gynnig cyngor ar eu datblygiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Darparu grant refeniw o £0.065 miliwn i Cambrian Aquatics i gefnogi gweithrediad pwll Nofio Cei  ...  view the full Cofnodion text for item 119.

120.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2017/18 - Rhan 3 Strategaeth Derfynol pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        I amlinellu Rhan 3 o Strategaeth y Gyllideb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Chynghorydd Shotton adroddiad Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2017/18 - Strategaeth Gloi Rhan 3 a oedd yn cynnig diweddariad ar y swm sy’n weddill i’w ganfod i gyflawni cyllideb gytbwys.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r bwlch a oedd yn weddill oedd £2 filiwn a oedd yn gynnydd bychan ar y ffigwr o £1.9 miliwn a adroddwyd i’r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr.  Y cyfleoedd cyfyngedig a oedd ar gael i gau’r bwlch, a amlinellwyd yn yr adroddiad llawn oedd:

·         Gofal Cartref – Lefelau Ffioedd

·         Trethu Lleol

·         Buddsoddiad mewn Ysgolion

·         Defnydd o Gronfeydd wrth Gefn a Balansau

 

O ran Gofal Cartref, roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gwneud cyhoeddiad yn ddiweddar ar godi’r uchafswm ffioedd o’r swm presennol o £60 yr wythnos i £70 yr wythnos o 1 Ebrill 2017. Byddai’n cynhyrchu incwm ychwanegol o £0.238 miliwn i Sir y Fflint yn 2017/18. Yn ogystal, roedd LlC wedi cyhoeddi fel rhan o’r Setliad, y byddai £10 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi cost gynyddol gofal cartref ar draws Cymru.  Yn seiliedig ar ddosbarthiad y fformiwla dybiedig, dylai’r Cyngor dderbyn cyllid ariannol o oddeutu £0.430 miliwn.

 

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cynnydd o 4% yn ei ardoll, ac o ran Sir y Fflint, gan ystyried newid poblogaeth, roedd hyn yn golygu cynnydd blynyddol o 4.52% (£0.317 miliwm) nad yw wedi’i gynnwys yn y gyllideb.  Un opsiwn oedd ychwanegu’r cynnydd yn yr ardoll i'r cynnydd a fwriadwyd mewn Treth y Cyngor a fyddai'n ei godi o 3.00% i 3.55%.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yna opsiwn i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i gynorthwyo i gau’r bwlch yn y gyllideb a fyddai ond yn cynnig datrysiad am un flwyddyn.  Fel rhan o’r opsiynau Stiwardiaeth Ariannol Corfforaethol, roedd swm o £0.699 miliwn eisoes wedi’i glustnodi i ddiwallu costau blwyddyn gyntaf Ardoll Trethi Prentisiaid newydd Llywodraeth y DU.  Roedd angen penderfyniad ar yr hyn a ystyriwyd yn ddefnydd darbodus o gronfeydd wrth gefn gan ystyried cynaliadwyedd y gyllideb yn y dyfodol a'r lefelau cronfeydd wrth gefn a oedd yn parhau am flynyddoedd i ddod.

 

Y risgiau a’r materion oedd yn weddill, a fanylwyd yn llawn yn yr adroddiad, oedd:

·         Grant Amgylchedd Sengl

·         Costau Cludiant

·         Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

·         Incwm Maes Parcio - Neuadd y Sir

·         Effaith Canlyniad 2016/17

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr fod disgwyl i’r cynnydd ym Mhraesept yr Heddlu fod rhwng 3.5/4%.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried mewn cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 20 Ionawr, ac roedd pob Aelod wedi’u gwahodd iddo.  Byddai cynigion terfynol y gyllideb yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 14 Chwefror cyn i'r Cyngor Sir ei ystyried yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid nodi manylion a goblygiadau Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru; ac

 

 (b)      Adolygu’r opsiynau cyfyngedig dros gau’r ‘bwlch’ oedd yn weddill o £2 miliwn, ar gyfer ymgynghori gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

121.

Cyllideb Refeniw a Chyfrif Refeniw Tai (CRT) 2017/2018 Drafft pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Cyflwyno er cymeradwyaeth y Gyllideb Refeniw a'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2017/2018 Drafft

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brown Gyllideb Cyfrif Refeniw Tai (HRA) Drafft 2017/18 a Rhaglen Gyfalaf 2017/18.

 

            Roedd angen i’r HRA gynhyrchu cynllun busnes 30 blynedd yn canolbwyntio ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), addewidion y ddogfen Dewisiadau, arbedion effeithlonrwydd parhaus a wnaed a 200 t? Cyngor newydd yn cael eu hadeiladu.  Roedd y darlun tymor hirach yn dangos cyfrif cryf gyda gwarged incwm dros anghenion gwariant a oedd yn cyflwyno cyfleoedd i wneud rhagor i wella darpariaeth gwasanaeth, darparu sicrwydd y gellid cynnal SATC unwaith y byddai'n cael ei gyflawni, a gallai ddarparu rhagor o gyllid cyfalaf ar gyfer adeiladu o’r newydd.

 

            Roedd cynnydd rhent o 2.5% (tynnu neu ychwanegu hyd at £2) yr wythnos yn cael ei argymell fel yr oedd cynnydd mewn rhenti garejys o £1 yr wythnos a chynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti plotiau garej.

 

            Roedd £20m wedi’i gynnwys yn y Rhaglen SATC a Buddsoddiad Asedau ar gyfer 2017/18 a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ffrydiau gwaith mewnol, gwaith amlennu allanol, rhaglenni amgylcheddol, gwaith peryglon tân a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, asbestos, gwaith gollyngiadau nwy ac effeithlonrwydd ynni.  Yn ogystal, roedd £7,704 o fenthyca darbodus yng nghyllideb 2017/18 ar gyfer cynlluniau adeiladu tai’r Cyngor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod hon yn flwyddyn dyngedfennol i Sir y Fflint gyda chynnydd ar gynlluniau adeiladu o’r newydd a buddsoddiad yn y stoc tai presennol.  Cytunodd y Cynghorydd Attridge a dywedodd fod ymrwymiad wedi’i gwneud yn 2012 i adeiladu tai Cyngor newydd ac roedd hynny wedi’i wireddu bellach.Roedd angen mawr am y cartrefi ac roedd wedi derbyn canmoliaeth ddyddiol am y cynllun yng Nghei Connah.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ymrwymiad yn y ddogfen Dewisiadau wedi eu hanrhydeddu ond roedd y Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) yn dal i fod yn risg gan nad oedd sicrwydd i’w barhad tymor hir gan nad oedd arian cyfalaf craidd wedi ei sicrhau ar lefel genedlaethol.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Brown sylw ar Safon Sir y Fflint a fod y cynllun adeiladu o’r newydd yng Nghei Connah wedi rhagori ar ddisgwyliadau tenantiaid.

   

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid cymeradwyo’r gyllideb HRA ar gyfer 2017/18 fel yr amlinellir yn y cynllun busnes a’i argymell i’r Cyngor;

 

 (b)      Dylid cymeradwyo cynnydd mewn rhent o 2.5% (tynnu neu ychwanegu hyd ar £2) fel yr amlinellwyd yn y cynllun busnes gyda rhenti targed yn cael eu gosod ar gyfer tenantiaethau newydd;

 

 (c)       Cymeradwyo cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys a’i argymell i’r Cyngor; a

 

 (d)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf HRA arfaethedig ar gyfer 2017/18 fel y nodwyd yn Atodiad D.

122.

Ail-brynu Eiddo a Werthwyd gan y Cyngor, Eiddo Hawl i Brynu (HIB) pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo cynigion a meini prawf perthnasol i ail-brynu eiddo a werthwyd gan y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Prynu Eiddo Hawl i Brynu'r Cyngor yn Ôl.  Cynigiwyd polisi newydd a oedd yn amlinellu ymagwedd y Cyngor at fynd ati’n strategol i brynu eiddo a oedd yn dod ar gael ar y farchnad agored gan gynnwys yr opsiwn i brynu hen eiddo’r Cyngor a oedd wedi eu gwerthu dan y cynllun Hawl i Brynu.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod y polisi hefyd yn amlygu’r amgylchiadau posibl lle gallai’r Cyngor ystyried prynu eiddo i fod yn “gaffaeliad strategol”, lle bo achos busnes cadarn dros wneud hynny. 

 

Rhai esiamplau o “gaffael strategol” oedd:

·         Eiddo sy’n achosi malltod mewn cymdogaethau lle’r oedd gan y Cyngor gysylltiad neu fuddsoddiad;

·         Eiddo lle’r oedd y perchennog yn cael trafferth gyda morgais neu gost cynnal yr eiddo;

·         Eiddo a allai ddiwallu galw heb ei fodloni; a

·         Eiddo a fyddai’n rhyddhau tir neu fynediad at safle sy’n addas ar gyfer datblygu tai fforddiadwy.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a oedd yn garreg filltir arwyddocaol wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai parhaus.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod yr adroddiad wedi’i ystyried y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ac wedi’i groesawu gan Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo gweithrediad Polisi Caffael Strategol (yn cynnwys Prynu Eiddo Hawl i Brynu yn ôl).

123.

Nodiadau Canllawiau Cynllunio Lleol i'w mabwysiadu'n ffurfiol fel Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth derfynol ar gyfer 20 o Nodiadau Canllawiau Cynllunio Lleol er mwyn eu mabwysiadu'n ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge Nodiadau Canllawiau Cynllunio Lleol (LPGNs) i gael eu Mabwysiadu’n Ffurfiol fel adroddiad Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth derfynol iddynt gael eu defnyddio i gefnogi polisïau yng Nghynllun Datblygu Unedol (UDP) Sir y Fflint a fabwysiadwyd, i’w ddefnyddio wrth bennu ceisiadau cynllunio.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Bithell ei fod yn aelod o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio lle y trafodwyd yr LGPNs a rhoddodd groeso yn arbennig i Rhif 23 – Cyfraniadau Datblygwyr tuag at Addysg a fyddai’n helpu darparu ar gyfer gofynion y disgyblion ar sail anghenion.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) mai bendithion y nodiadau canllaw a oedd yn cael eu mabwysiadu, oedd eu bod yn cael rhagor o bwyslais fel ystyriaethau cynllunio o bwys ar benderfyniadau cynllunio defnydd tir nag oedd yn wir yn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r nodiadau canllaw fel Canllaw Cynllunio Atodol.

124.

Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 8) pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf i Aelodau ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn yn seiliedig ar y wybodaeth fwyaf diweddar sydd ar gael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 8) a oedd yn cynnig y sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol.  Roedd yr adroddiad yn rhoi amcanestyniad o beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiweddglo'r flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

                        Y sefyllfa diwedd blwyddyn a amcanestynnwyd, heb unrhyw gamau pellach i leihau pwysau o ran costau neu i nodi arbedion effeithlonrwydd newydd, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

  • Roedd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £1.810 miliwn - cynnydd yn y diffyg o £0.039 miliwn ers Mis 7
  • Roedd y sefyllfa gyffredinol a amcanestynnwyd yn ystod y flwyddyn wedi gwella o £2.886 miliwn yn sgil y newid yn y polisi cyfrifo ar gyfer MRP fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Effaith hyn oedd dileu’r diffyg gweithredol
  • Balans cronfa hapddigwyddiad a ancanestynnwyd o £4.268 miliwn

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelid y bydd gwarian net yn ystod y flwyddyn £0.037 miliwn yn uwch na’r gyllideb
  • Y balans cloi a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2017 yw £1.061 miliwn

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ddiweddar, lle holwyd cwestiynau am liniaru risgiau yn y dyfodol.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod trafodaeth wedi’i chynnal ar y diffyg gweithredol o £1.810 miliwn yn ystod y flwyddyn ac eglurodd bod cryn dipyn o waith wedi’i wneud i sicrhau nad yw’r risgiau hynny yn codi eto o 1 Ebrill 2017.

 

O ran costau Cludiant, wedi i un o’r darparwyr cludiant gael ei ddiddymu, cynigiodd Llywodraeth Cymru (LlC) ddyfarniad grant dros dro i’r tri awdurdod lleol a effeithiwyd ar gyfer 2016/17. Roedd trafodaethau’n parhau o ran dosbarthu’r grant a dylai’r wybodaeth fod ar gael i’w chynnwys yn yr adroddiad cyllideb ar gyfer mis 9 

 

O ran y lleoedd gwag mewn gwaith cymdeithasol a amlinellwyd yn yr adroddiad, holodd y Cynghorydd Bithell a oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i recriwtio o siroedd eraill fel yn y gorffennol pan roedd yr Awdurdod wedi recriwtio gweithwyr cymdeithasol o Ganada.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd hyn yn cael ei wneud yn ymarferol.  Gwnaeth sylw ar y maes gwaith ac unrhyw gyfnodau brig o ran galw, a'r ffordd orau o sicrhau cyflenwad ar unwaith oedd drwy asiantaethau.

 

Roedd yr adroddiad yn trafod symudiadau arwyddocaol yn y gyllideb; y rhaglen effeithlonrwydd; chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau; trosolwg o’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

PENDERFYNWYD:                                                                

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a nodi’r swm hapddigwyddiad a amcanestynnwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth, ac mae gwaith ar weithredoedd ac opsiynau ar gyfer gweithredoedd lliniaru yn dal i gael cefnogaeth; a

 

 (b)      Dylid nodi'r lefel terfynol o falensau a amcanestynnwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.

125.

Polisiau Statudol y Cyngor & Trethi Busnes 2017 - 2018 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        I gymeradwyo polisïau yn ôl disgresiwn lleol ar gyfer gweinyddu Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Polisïau Statudol Treth y Cyngor a Threthi Busnes 2017/18.

 

                        Bob blwyddyn roedd angen cymeradwyo polisïau penodol ar gyfer gweinyddu Treth y Cyngor a Threthi Busnes sef:

  • Gostyngiadau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag tymor hir;
  • Gostyngiadau Dewisol ar Dreth y Cyngor;
  • Gostyngiad Dewisol ar y Drethi Busnes; a
  • Gostyngiad Dewisol Ychwanegol ar Drethi Busnes i fusnesau bach

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod y fframwaith bolisi ar gyfer Gostyngiad Dewisol ar y Drethi Busnes yn 2017-18 wedi cael eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2016, a’r swm ar gyfer eiddo gwag ym mis Mai 2016.

                         

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid mabwysiadu polisi o beidio â dyfarnu gostyngiadau ar Dreth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag tymor hir yn 2017-18.  Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i godi premiwm Treth y Cyngor, dan amgylchiadau penodol, ar gyfradd o 50% uwchlaw’r gyfradd safonol o Dreth y Cyngor fel y cytunwyd eisoes drwy gyflwyno cynllun Premiwm o 2017-18 (e.e. taliad o 150%);

 

 (b)      Dylid parhau â’r polisi cyfredol o ystyried gostyngiadau Dewisol ar Dreth y Cyngor mewn achosion lle’r oedd argyfyngau sifil a thrychinebau naturiol yn unig

 

 (c)       Dylid nodi gweithrediad y Fframwaith Bolisi Gostyngiad Dewisol ar Drethi Busnes newydd ar gyfer 2017-18 a gytunwyd yn flaenorol gan y Cabinet; a

 

(d)      Dylid parhau â’r polisi cyfredol o beidio dyfarnu Gostyngiadau Dewisol ‘ychwanegol’ i fusnesau sydd eisoes yn gymwys i dderbyn Gostyngiad ar Drethi Busnesau Bach yn 2017-18.

126.

Theatr Clwyd - Polisi Tocynnau Di-Dâl pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb y Bwrdd Theatr i'r Cyngor Sir rhybudd o gynnig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Polisi Tocynnau Am Ddim Theatr Clwyd.

 

            Ym mis Hydref, gofynnodd y Cabinet i Fwrdd y Theatr ystyried y rhybudd o gynnig a gyflwynwyd i'r Cyngor Sir ar 14 Mehefin 2016 a darparu ymateb terfynol o ran sut y dylid mynd i'r afael â'r mater.  Cyfarfu’r Bwrdd ym mis Tachwedd a chytunodd i gyflwyno’r rhybudd o gynnig o’r tymor nesaf ymlaen, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2017.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi bod yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd lle rhoddwyd cefnogaeth lawn i’r penderfyniad.  Yn dilyn erthygl yn y Daily Post, eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn croesawu’r penderfyniad i beidio â chynnig eitemau am ddim i aelodau o’r bwrdd, Cynghorwyr a swyddogion eraill ac, er gwaetha’r ffaith fod arfer o'r fath wedi'i fabwysiadu drwy'r diwydiant i ddatblygu cynulleidfaoedd ac annog noddwyr a chefnogaeth yn y cyfryngau, ac er gwaetha'r ffaith fod yr arfer yn cael effaith ariannol fach iawn, hwn oedd y penderfyniad cywir o safbwynt canfyddiad y cyhoedd.  Cyfeiriodd at y sylw a wnaed gan Gadeirydd y Bwrdd, Y Cynghorydd Ron Davies gan ychwanegu ei bod yn bwysig nodi ei fod o, a sawl aelod arall o’r Bwrdd, wedi ildio’r breintiau ers sawl blwyddyn ac, yn wir, yn aml wedi rhoi rhoddion i'r Theatr. 

                                                 

PENDERFYNWYD:

 

            Croesawu ymateb Bwrdd y Theatr.

127.

Diweddariad Fforwm Ardaloedd Chwarae, Cynlluniau Chwarae a Chwarae Strategol pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar ardaloedd chwarae a chynlluniau chwarae

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad diweddaru ar y Fforwm Ardaloedd Chwarae, Cynlluniau Chwarae a Chwarae Strategol 

 

                        Roedd y Cyngor wedi gwneud ymrwymiad i gynnal gweithgaredd chwarae yn y Sir drwy:

  • Parhau â’r arian refeniw cyfatebol ar gyfer lleoedd chwarae (£0.105 miliwn y flwyddyn);
  • Dyraniad arian cyfalaf dros dro drwy’r rhaglen gyfalaf i adnewyddu ardaloedd chwarae (£0.887 miliwn dros dair blynedd yn amodol ar benderfyniad y Cyngor ym mis Chwefror);
  • Parhau i gynnal pob ardal chwarae yn ystod 2017/18;
  • Blwyddyn o gyllid pontio i alluogi cynlluniau chwarae i barhau yn ystod 2016 ar ôl diwedd y Grant Llywodraeth Cymru gan Deuluoedd yn Gyntaf; a
  • Y cytundeb i ailfywiogi Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint i gydlynu gweithgaredd chwarae ar draws Sir y Fflint.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad cynnydd ar y materion hynny gan gynnwys argymell cymeradwyo’r cynlluniau arian cyfatebol ar gyfer lleoedd chwarae a dyraniad swm un-tro o £0.040 miliwn i gefnogi cynlluniau chwarae yn 2017.

 

                        Roedd y Cyngor yn gweithredu cynllun arian refeniw cyfatebol a anelwyd at gynnal lleoedd chwarae a oedd angen arian cyfatebol gan Gynghorau Tref a Chymuned.  Roedd rhestr o gynlluniau a gyflwynwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned ynghlwm i’r adroddiad a’r cyfanswm oedd £0.123 miliwn a oedd £0.018 miliwn yn uwch na’r gyllideb a oedd ar gael.  Cynigiwyd y dylid cyfuno cyllid refeniw ar gyfer 2015/16 a 2016/17 mewn un gronfa i gyflawni pob un o'r cynlluniau a fyddai'n golygu bod £0.087 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau arian cyfatebol yn 2017/18.

 

                        Roedd y Cyngor wedi dyrannu £0.887 miliwn o arian cyfalaf dros dro i adnewyddu ardaloedd chwarae dros y dair blynedd ariannol nesaf, yn amodol ar gytuno ar y rhaglen gyfalaf ym mis Chwefror.  Cynigwyd, yn seiliedig ar angen a chynaliadwyedd, i gyflwyno rhaglen o brosiectau arfaethedig i'r Cabinet ddechrau 2017.

 

                        Roedd cyllid un-tro o £0.080 miliwn wedi’i ddarparu i barhau â’r lefel o ddarpariaeth cynllun chwarae a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol.  Ariannwyd y cynlluniau hynny’n rhannol gan y Cyngor Sir ac yn rhannol gan y Cynghorau Tref a Chymuned.  Roedd y Cyngor wedi nodi’n glir na fyddai cyllid yn parhau yn 2017/18 ac roedd y Cyngor wedi bod yn gweithio i alluogi cynaliadwyedd y ddarpariaeth heb gyllid.  Y canlyniad oedd rhoi cynnig tair wythnos i bob ardal ar wahân i Gei Connah, a oedd â chynllun llawer mwy y gallai Cynghorau Tref a Chymuned ei brynu yn ôl gan y Cyngor.  Y cynnig oedd y byddai’r Cyngor yn dyrannu cyllid un-tro o £0.040 miliwn i alluogi gostyngiad yn y costau i Gynghorau Tref a Chymuned o 50% ar gyfartaledd.  Er enghraifft, byddai ardal gydag un cynllun chwarae yn cael cynnydd o £409 ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned gan olygu mai cost uchaf darpariaeth cynllun chwarae oedd £1,309. Heb gyfraniad y Cyngor, y cynnydd i Gynghorau Tref a Chymuned fyddai £818.

 

                        Cytunwyd y dylid ail-sefydlu Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint ac roedd seminar gychwynnol wedi’i chynnal ym mis Tachwedd 2016. Y camau nesaf fyddai penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd a hyfforddiant  ...  view the full Cofnodion text for item 127.

128.

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru: Adolygiad o Berfformiad 2015/16 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar berfformiad yn 2014/15

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru:Adroddiad Adolygu Perfformiad 2015/16

 

                        Rhoddodd pumed fframwaith ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru y gweithredwyd ynddi gyfleoedd i lyfrgelloedd ddarparu gwasanaethau mewn modd arloesol gan gynnwys yr hyblygrwydd i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt.  Cyfrannodd gwasanaethau llyfrgelloedd at ystod o ganlyniadau Llywodraeth Cymru (LlC) fel llythrennedd, sgiliau a dysgu, cynhwysiant digidol, tlodi ac iechyd a lles.  Roedd y fframwaith yn cynnwys themâu ynghylch agweddau o wasanaethau craidd:

·         Cwsmeriaid a chymunedau;

·         Mynediad i bawb;

·         Dysgu i fyw; a

·         Hyfforddiant a datblygiad

                         

Roedd 18 hawl craidd a oedd yn amlinellu'r hyn y gallai trigolion ei ddisgwyl o’u gwasanaeth llyfrgelloedd ac yn 2015-16 cyflawnodd Sir y Fflint 17 ohonynt yn llawn a chyflawnodd un yn rhannol.  Disgwyliwyd y byddai hyn yn 18 yn y canlyniad nesaf gan y byddai pob pwynt gwasanaeth yn cynnig Wi-Fi.

 

Roedd 23 dangosydd gwasanaeth, nid oedd pob un yn cael eu mesur gan dargedau.  O'r rhai hynny a fesurwyd gan dargedau, cyflawnodd Sir y Fflint ddau yn llawn, pedwar yn rhannol a methodd i gyflawni un ohonynt.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylw ar y llyfrgell yn Nhreffynnon a oedd wedi agor yn ddiweddar yn y Ganolfan Hamdden.  Diolchodd i bawb a oedd yn rhan o’r prosiect a oedd wedi cael adborth cadarnhaol yn lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd wrth gyflawni Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

129.

Yr Uned Cludiant Integredig pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y newidiadau staffio o fewn yr Uned Cludiant Integredig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad yr Uned Gludiant Integredig a oedd yn rhoi manylion ar y broses gaffael ddiwygiedig arfaethedig a’r dyddiad dechrau ar gyfer contractau newydd.

 

                        Ar unrhyw adeg benodol, roedd gan yr Uned oddeutu 450 contract unigol gyda chyflenwyr lleol yn darparu holl anghenion cludiant Ysgolion, Colegau, Gofal Cymdeithasol a'r gwasanaeth Cludiant Integredig.  Roedd hyn yn creu cryn dipyn o lwyth gwaith i staff yn y gwasanaeth ac yn rhoi pwysau ar y gadwyn gyflenwi leol i ddelio â’r broses dendro barhaus. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig dewis caffael diwygiedig a fyddai’n lleihau llwyth gwaith o fewn yr Uned ac yn y gadwyn gyflenwi gyda chontractwyr yn gweithredu am gyfnod o bedair blynedd o ddechrau’r trefniant newydd.  Er mwyn alinio’r dyddiadau cychwyn ar gyfer pob un o’r contractau presennol, byddai angen ymestyn y contractau cludiant presennol i ddyddiad dechrau arfaethedig  y trefniant newydd sef 4 Medi 2017.

 

Croesawodd y Cynghorydd Kevin Jones yr adroddiad a fyddai’n arwain at broses symlach ac yn cynnig sicrwydd i weithredwyr drwy gydol y contract.

                         

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo model caffael newydd ar gyfer y contractau Cludiant, a fanylir ar y Ffurflen Gomisiynu Caffael; a

 

(b)      Rhoi cymeradwyaeth i ymestyn y contractau Cludiant presennol tan 4 Medi 2017, er mwyn cyd-fynd â dechrau’r trefniadau caffael newydd.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwigiwyd).

130.

Pwll Nofio Cei Connah: Cynllun Busnes Manwl 2016/18

Pwrpas:        Ystyried Cynnydd a Pherfformiad 'Cambrian Aquatics'

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) Bwll Nofio Cei Connah:Adroddiad Cynllun Busnes Manwl.  Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ariannol allweddol, a oedd yn ychwanegol i eitem rhif 4 ar y rhaglen a ystyriwyd mewn sesiwn agored.

 

            Croesawodd Aelodau’r adroddiad a chynnydd Cambrian Aquatics yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid darparu grant refeniw o £0.065 miliwn i Cambrian Aquatics i gefnogi gweithrediad pwll Nofio Cei Connah yn unol â chytundebau cyfreithiol sydd eisoes wedi eu llofnodi rhwng Cambrian Aquatics a Chyngor Sir y Fflint; a

 

 (b)      Dylid rhyddhau’r grant yn amodol ar nifer o amodau fel a ganlyn:

·         Darparu dadansoddiad elw a cholled llawn wedi’i ddiweddaru cyn rhyddhau’r grant;

·         Darparu dogfen adolygiad blwyddyn lawn ar ôl diwedd mis Mai 2017 a chyn diwedd Gorffennaf 2017; a

·         Derbyn cyfrifon wedi eu harchwilio cyn diwedd 2017.

131.

Model Darparu Amgen Gofal Cymdeithasol, Gofal Dydd Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Cyfleoedd Gwaith

Pwrpas:        Cytuno ar ddarparwr dewisol i gyflawni Gwasanaethau Dydd a Gwaith Anableddau Dysgu i gael eglurhad pellach fel rhan o'r broses gaffael

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones Fodel Darparu Gwahanol Gofal Cymdeithasol y Gwasanaeth Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu

                       

                          Eglurodd y Prif Weithredwr y gofynnwyd am gymeradwyaeth i ddarparwr a ffafriwyd i alluogi cael eglurhad pellach ar y cynnig oedd wedi ei gyflwyno cyn cael penderfyniad terfynol ym mis Mawrth o ran a ddylid dyfarnu contract.  Byddai hyn yn galluogi’r cwmni a oedd wedi cyflwyno cais i gael eu hysbysu nad oedd y contract wedi’i ddyfarnu iddynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid rhoi cymeradwyaeth i Home Farm Trust fel y darparwr a ffafriwyd i ddarparu Gwasanaethau Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anabledd Dysgu i symud ymlaen i’r cam eglurhad pellach ar y cais a gyflwynwyd ganddynt cyn cael penderfyniad terfynol o ran a ddylid dyfarnu'r contract; a

 

 (b)      Dylid cyflwyno adroddiad llawn a therfynol yn ôl i’r Cabinet ddim hwyrach na mis Mawrth i hysbysu penderfyniad ar y model i’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol ac a ddylid dyfarnu contract.

132.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nidd oed unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol.