Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

3.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 135 KB

Pwpras:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 15 Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gofnodion cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

5.

Adroddiad Blynyddol Monitro'r Gymraeg 2021/22 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2021/22 a darparu trosolwg o’r broses o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod angen i Gyngor Sir y Fflint lynu at Safonau’r Gymraeg, fel y nodir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2015.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi safonau ar gyfer y Gymraeg.  Nod y Safonau yw:

·         Gwella'r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn y Gymraeg;

·         Cynyddu'r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;

·         Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg; a

·         Sicrhau bod lefel priodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.

 

Crybwyllodd y buddsoddiad o dros £1miliwn i Ysgol Croes Atti yng Nglannau Dyfrdwy, i wella’r ddarpariaeth o addysg Cymraeg yn ardal Shotton a’r ysgol cyfrwng Cymraeg arfaethedig newydd a fyddai’n disodli Ysgol Croes Atti presennol yn y Fflint.  Hon fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf i gael ei hadeiladu gan y Cyngor, ers iddo gael ei sefydlu ym 1996.  Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cyllid ar gael i hwyluso twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg ac roedd y Cyngor wedi mynegi diddordeb mewn ymgeisio am gyllid ar gyfer ardal Bwcle/Mynydd Isa.

 

Gwnaeth y Swyddog Datblygu Polisi sylwadau ar lwyddiant y fenter Cymraeg Bob Cynllun a Dydd Mercher Cymraeg.  Eglurodd fod gweithwyr yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg drwy hyfforddiant a ddarperir gan y coleg lleol.  Roedd adnoddau i gefnogi dysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg ar gael ar y fewnrwyd ar dudalen ddynodedig ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

 

Yn 2021/22 derbyniwyd un gwyn yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg, o’i gymharu â thair cwyn yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd manylion y g?yn wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.

Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bwysigrwydd y gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid ar y wybodaeth yr oeddent yn ei ddarparu ar y cyfleoedd ar gael i bobl ifanc os oeddent yn ddwyieithog. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Swyddog Datblygu Polisi a’i thîm am eu gwaith i hyrwyddo’r Gymraeg a’u gwaith ar yr adroddiad blynyddol.  Anogodd yr aelodau a swyddogion i ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag bosibl. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylwadau ar weithrediad Ysgol Glanrafon yn yr Wyddgrug o ran gwaith ailfodelu ac estyniad, a fyddai’n cynnwys datblygu darpariaeth cyn ysgol pwrpasol ar y safle.  Bydd estyniad ar y safle yn galluogi i gapasiti’r ysgol gynyddu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, dywedodd y Swyddog Datblygu Polisi y byddai rhestr o frawddegau a ddefnyddir yn aml mewn cyfarfodydd yn gallu cael ei llunio a’i anfon i Aelodau.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2021/22, gan nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant; a

 

(b)       Bod adroddiad arall yn cael ei dderbyn ym Medi 2022 yn amlinellu’r cynnydd a wneir.

6.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Llywodraethwyr Ysgol a Benodir gan Awdurdodau Lleol

Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

 

Refeniw

 

  • Rhent y Cyngor - Diddymu ôl-ddyledion Rhent Tai

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.  Gwnaed penderfyniad i ddileu dyled Rhent Tai ar gyfer un tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO).  Mae ôl-ddyledion rhent o £9,267.30 wedi’u cynnwys yn y DRO.

 

  • Diddymu Dyledion Corfforaethol

Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau wedi eu hawdurdodi i ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000.  Credir na ellir adfer dyledion Trethi Corfforaethol gwerth £24,357.25 ac y byddan nhw’n cael eu diddymu:

  • Mae gan Achos 1 balans sy’n ddyledus o £19,093.62, mae’r dyledwr wedi marw ac nid oes aran yn yr ystâd i dalu’r dyledion hyn.
  • Mae gan Achos 2 falans o £5,263.63 yn ddyledus ac mae’r dyledwr wedi ffoi ac ni allwn ddod o hyd iddynt.

 

Arlwyo a Glanhau NEWydd

 

  • Cynyddu Pris Prydau Ysgol

Cynyddu prisiau ysgol er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd yn unol â chostau cynyddol, wrth geisio dod â nhw yn unol â darparwyr prydau ysgol eraill ar draws Cymru.

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae’r adroddiad yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Cymunedol Pafiliwn Treffynnon, Fron Park Road, Treffynnon.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

7.

Ymestyn Contract Asiantaeth a Reolir

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth Cabinet i ymestyn y contract asiantaeth a reolir presennol o 12 mis o 28/08/2022 tan 31/08/2023 i ganiatáu i Gyngor Sir y Fflint gydweithio â Chyngor Sir Ddinbych i gaffael contract fydd yn mynd â ni y tu hwnt i 2023.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi defnyddio contract fframwaith, wedi’i gaffael ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych, i ddarparu staff asiantaeth.

 

            Ychwanegodd y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y contract presennol yn dod i ben ym mis Awst 2022 ac roedd y cytundeb presennol yn cynnwys dewis i ymestyn y contract am flwyddyn arall. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno ar estyniad o’r contract asiantaeth a reolir o 12 mis o 28/08/22 i 31/08/23; a

 

(b)       Ail-dendro’r gwasanaeth yn 2023 i ganiatáu digon o amser i Gyngor Sir y Fflint, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ddinbych, gaffael contract newydd.

8.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.