Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

89.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

90.

Cofnodion pdf icon PDF 261 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 19 Ionawr, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

91.

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 – Gosod Cyllideb Gyfreithiol a Chytbwys pdf icon PDF 146 KB

Pwrpas:        Gwneud argymhellion i’r Cyngor yngl?n â chyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac esboniodd fod adroddiadau llawn am y camau blaenorol yn y broses i osod cyllideb ar gyfer 2021/22 ynghlwm â’r adroddiad.

 

            Ym mis Ionawr, gosododd y Cabinet ofyniad ychwanegol ar gyfer isafswm cyllideb uchaf 2021/22 sef £16.750m a gofyniad ar gyfer isafswm cyllideb isaf sef £13.873m. Roedd y ffigur uchaf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog cenedlaethol o 2% i bawb, ac nid oedd darpariaeth yn y ffigur isaf ar gyfer cyflogau. Defnyddir y ffigur isaf at ddibenion mantoli’r gyllideb gan nad oes darpariaeth yn natganiad cyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer unrhyw ddyfarniadau cyflog blynyddol yn y sector cyhoeddus, ac eithrio dyfarniadau cyflog i weithwyr â chyflogau sy’n llai na £24,000 y flwyddyn. O ganlyniad i hynny, nid yw Llywodraeth Cymru (LlC) wedi derbyn cynnydd yn y cyllid i gefnogi unrhyw ddyfarniadau cyflog blynyddol ar gyfer athrawon a gweithwyr llywodraeth leol.

 

            Gwnaeth y Cabinet ym mis Ionawr hefyd ystyried y materion a oedd angen eu cloi fel rhan o’r broses gosod cyllideb. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnig atebion i’r holl faterion hynny ac yn gosod argymhellion er mwyn i’r Cyngor allu llunio cyllideb gyfreithiol a chytbwys.

 

            Roedd ymateb ffurfiol y Cyngor i ymgynghoriad LlC ar Setliad Dros Dro i Lywodraeth Leol 2021/22 wedi’i gynnwys gyda’r adroddiad. Roedd yr ymateb yn llawn ystyried y safbwyntiau a fynegwyd gan y Cabinet ar y cyd, yn ogystal â safbwyntiau’r corff o Aelodau etholedig.

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu’r penderfyniad ynghylch Treth y Cyngor ar gyfer gosod lefelau trethu 2021/22. Cynigiwyd penderfyniad ffurfiol i'w roi gerbron y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i roi gwybod eu bod wedi derbyn praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.Roedd y Cyngor wedi gosod cyfeiriad amlwg i gadw'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn is na 5%. Roedd cynigion y gyllideb yn cynnwys cynnydd cyffredinol o 3.95% i gwrdd â gofynion y gyllideb, yn cynnwys 3.45% ar gyfer cyllidebau’r Cyngor a 0.5% fel cyfraniadau rhanbarthol i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Crwner.Roedd hyn yn gyfystyr â chynnydd wythnosol o £1.32.

 

            Mae’r adroddiad yn cynnwys tablau, a sylwebaeth, ar y materion canlynol:

 

·         Tabl 1:  Gofyniad Ychwanegol Diwygiedig y Gyllideb ar gyfer Isafswm 2021/22;

·         Tabl 2: Atebion Arfaethedig Cyllideb 2021/22;

·         Tabl 3: Cyllideb Arfaethedig 2021/22; a

·         Thabl 4: Rhagolygon Tymor Canolig 2022/23 - 2023/24

 

Derbyniodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr adroddiad ar 11 Chwefror 2021 a chafodd ei gefnogi’n unfrydol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad i gefnogi'r adroddiad. Roedd un o’r sleidiau allweddol yn dangos crynodeb o’r atebion arfaethedig a oedd yn dangos y gofyniad ar gyfer y gyllideb ddiwygiedig a sut y gellid ei ostwng i £0.000m yn seiliedig ar y canlynol:

 

·         Cynnydd yn y Setliad Dros Dro;

·         Arbedion Effeithlonrwydd Corfforaethol;

·         Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol;

·         Treth y Cyngor; a

·         Lleihau'r Cyfraniad i’r Arian Wrth Gefn.

 

Cynigiwyd y byddai tâl Band D Sir y  ...  view the full Cofnodion text for item 91.

92.

Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno, er argymhelliad y Cyngor, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i Gynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) a’r Gyllideb HRA ar gyfer 2021/22.

 

Roedd hi’n ofynnol i’r Cyfrif Refeniw Tai lunio Cynllun Busnes 30 blynedd sy’n amlinellu’r cyd-destun strategol ar gyfer cyllideb tai 2021/22 ac roedd yn cynnwys:

 

  • Sicrhau bod fforddiadwyedd i’n tenantiaid yn greiddiol i’n hystyriaethau;
  • Sicrhau bod costau ein gwasanaethau’n effeithlon ac yn cynnig gwerth am arian;
  • Sicrhau bod strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyfrif Refeniw Tai;
  • Pennu cyllideb fantoledig gydag o leiaf 4% o refeniw dros ben dros wariant;
  • Manteisio i’r eithaf ar arbedion effeithlonrwydd refeniw i leihau benthyca;
  • Parhau i ddarparu Tai Cyngor wedi eu hadeiladu o’r newydd;
  • Cynnal yr ysgogiad i sicrhau bod cartrefi’n effeithlon o ran ynni; a
  • Darparu cyfalaf digonol i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

Mae Polisi Rhent Llywodraeth Cymru wedi ei osod am 5 mlynedd yn dechrau yn 2020/21 ac mae’n darparu ar gyfer cynnydd blynyddol o CPI+1%. Argymhellwyd felly y dylid rhoi cynnydd cyffredinol o 0.68% i bob tenant ac, yn ychwanegol, rhoi codiad pontio o £2 i denantiaid sy’n talu o leiaf £3 o dan y targed rhent.

 

Cynigiwyd y dylid gweld cynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti garej, sy’n golygu y byddai rhent wythnosol garej yn £10.03 a byddai rhent plot garej yn cynyddu £0.03 yr wythnos, sy’n golygu y byddai rhent plot yn £1.63 yr wythnos.

 

O ran taliadau gwasanaeth, cynigiwyd y dylid gohirio’r cynnydd terfynol a rhewi taliadau gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf. Nod y dull gweithredu hwn fyddai gwarchod tenantiaid sydd o bosibl yn wynebu problemau ariannol o ganlyniad i'r pandemig, yn ogystal ag ymgymryd â mwy o waith i sicrhau bod y gwasanaethau hynny y telir taliadau gwasanaethau amdanynt ar hyn o bryd yn safonol ac yn cynnig gwerth am arian.

 

Yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, byddai'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) yn darparu cyfanswm o 71 o gartrefi newydd yn y Cyfrif Refeniw Tai a pharhau â'r gwaith i ddarparu Safon Ansawdd Tai Cymru a fyddai’n canolbwyntio’n bennaf ar wneud gwaith allanol ar doeau, ffenestri, drysau a gwaith amgylcheddol, a gwella parcio i denantiaid. Felly byddai’r rhaglenni adeiladau newydd ac adnewyddu yn gweld bron i £35m o fuddsoddiad yn y cartrefi presennol a chartrefi newydd.

 

Mae’r Gwasanaeth Tai yn parhau i berfformio’n dda ar ôl blwyddyn heriol dros ben a diolchodd y Cynghorydd Hughes i’r gweithlu am eu gwaith caled bob amser ac i’r tenantiaid am eu cefnogaeth barhaus.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Ffederasiwn Tenantiaid ar 8 Chwefror a chafodd ei gefnogi’n llawn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2021/22 fel y'i hamlinellir yn atodiadau’r adroddiad;

 

 (b)      Cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent hyd at 0.69% (yn ogystal â hyd at £2);

 

 (c)       Cymeradwyo’r cynnydd o £0.20 yr wythnos ar gyfer rhent garej gyda chynnydd o £0.03  ...  view the full Cofnodion text for item 92.

93.

Adroddiad diweddaru'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) pdf icon PDF 147 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd rhaglen Adeiladu Tai SHARP y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen adeiladu tai y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol ar gyfer eiddo Cymdeithasol, Rhent Fforddiadwy a Rhannu Ecwiti.

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn sôn am newidiadau yn yr angen o ran tai, a’r sail resymegol dros adolygu ac addasu’r mathau o ddeiliadaeth ar gyfer datblygu eiddo yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad hefyd yn trafod y llwybrau cyflenwi ategol yr ymwneir â nhw ochr yn ochr â Chartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys caffael eiddo Adran 106, Pecynnau Dylunio ac Adeiladu ac argaeledd Cytundeb Fframwaith Adeiladu Tai Gogledd a Chanolbarth Cymru.

 

Sir y Fflint oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ddechrau adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy drwy ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) gyda'r nod o ddarparu hyd at 500 o eiddo Cymdeithasol ar Rent newydd gan y Cyngor ac eiddo newydd ar Rent Fforddiadwy dros gyfnod o bum mlynedd, ynghyd â nifer o flaenoriaethau strategol economaidd ac adfywio ehangach.

 

Mae’r Cyngor yn y broses o ddarparu 447 o gartrefi newydd yn Sir y Fflint, ac mae hefyd wedi darparu 148 o gartrefi newydd eraill y tu hwnt i SHARP, sy’n gyflawniad arwyddocaol ac mae wedi creu capasiti ychwanegol yn y farchnad dai.

 

Cafodd y rhaglenni adeiladu eu hysgogi o ganlyniad i’r angen o ran tai ac mae tua 1,900 o aelwydydd ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai ar hyn o bryd, gyda’r galw mwyaf mewn ardaloedd yn Yr Wyddgrug, Mynydd Isa, Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Queensferry a Shotton.  

 

Tai Teg sy’n rheoli’r Gofrestr Tai Fforddiadwy ar ran y Cyngor ac ar hyn o bryd mae 120 o ymgeiswyr wedi cofrestru i brynu a 216 wedi cofrestru i rentu. Mae cyfanswm o 54 aelwyd ar y gofrestr tai arbenigol ar hyn bryd, gyda 47 ohonynt angen eiddo wedi’i addasu a saith ohonynt angen eiddo sydd â phedair neu ragor o ystafelloedd gwely.

 

Mewn perthynas â Chronfa Rhyddhau Tir Llywodraeth Cymru, bu’r Cyngor yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid gwerth cyfanswm o £213,000 yn ymwneud â dau safle yng Nghei Connah sy’n safleoedd segur ar hyn o bryd. Mae astudiaethau desg a gwaith ymchwiliad tir yn cael eu gwneud ar hyn o bryd i weld a fyddai’r safleoedd hynny’n hyfyw.

 

Bu Tîm y Rhaglen Dai yn datblygu fframwaith rhanbarthol ar gyfer adeiladu tai a byddant yn ceisio darparu tai newydd yn y dyfodol drwy'r cwmnïau adeiladu rhanbarthol yng Nghymru. Mae’r broses dendro wedi ei chwblhau ac mae’r Cyngor yn cysylltu â chwmnïau ac yn trafod prosiectau sydd ar gweill yn y dyfodol.

 

Mae cyllideb flynyddol o £121,000 ar gyfer gwaith ymchwilio ac astudiaethau dichonoldeb yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol a bydd yr adroddiad yn ceisio defnyddio hwn er mwyn cynorthwyo i gyflwyno cynlluniau gan ddefnyddio'r fframwaith adeiladu newydd.

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) sylw ar nifer yr unedau y llwyddwyd i’w darparu hyd yma.

 

            Croesawodd yr aelodau’r adroddiad gan nodi mai canlyniad y bleidlais dai a  ...  view the full Cofnodion text for item 93.

94.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20 pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2019/20 y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

            Cyhoeddodd y Cyngor ei amcanion cydraddoldeb a’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol dros bedair blynedd yn Ebrill 2016, i ddiwallu gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel y’u hamlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Nod yr amcanion cydraddoldeb yw mynd i’r afael â'r materion mwyaf arwyddocaol a meysydd anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl o grwpiau a ddiogelir (pobl sy’n rhannu un neu ragor o nodweddion a ddiogelir megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol).

 

            Esboniodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol fod y dyletswyddau penodol ar gyfer Cymru yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn galw am adroddiad blynyddol ar y cynnydd i ddiwallu Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a diwallu’r amcanion a amlinellir yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, i'w gyhoeddi erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn. Roedd yr adroddiad yn amlygu cynnydd y Cyngor i roi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith a diwallu’r amcanion cydraddoldeb yn ystod 2019/20.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones, dywedodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol y byddai manylion o’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) a’r lluoedd arfog yn cael eu bwydo i Gyfamod y Lluoedd Arfog. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylw ar droseddau casineb a phwysleisiodd mor bwysig yw sicrhau bod llywodraethau cenedlaethol yn arwain ar sut i’w rheoli, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

            PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Sicrhau'r Cabinet y gwnaed cynnydd yn ystod y flwyddyn i

ddiwallu’r dyletswyddau statudol; a

 

             (b)      Chadarnhau’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20, cyncyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.

 

95.

Datblygu Uwchgynllun Shotton pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu Uwchgynllun ar gyfer ardal Shotton i hwyluso adfywio amgylcheddol ac economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac esboniodd mai Shotton yw un o’r trefi mwyaf yn Sir y Fflint, gyda chyfleusterau lleol da a chysylltiadau cludiant gwych i’r bws lleol a rhanbarthol, rheilffordd, llwybrau teithio llesol a rhwydweithiau priffyrdd. Mae yna hefyd lawer o ardaloedd o fewn y dref sydd â photensial sylweddol ar gyfer cyfleoedd i ddatblygu.

 

            Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor ac Aelodau lleol wedi derbyn nifer gynyddol o bryderon a chwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion amgylcheddol eraill a fyddai, os na fydd unrhyw un yn mynd i’r afael â nhw, yn difetha’r ardal ac yn tanseilio ymdrechion lleol i gadw’r dref yn lân a thaclus a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn rhywle mae pobl yn dymuno byw a gweithio ynddo, yn ogystal ag ymweld ag ef.

 

            Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hynny a manteisio i'r eithaf ar yr elfennau cadarnhaol a chyfleoedd posibl ar gyfer y dref, penderfynwyd sefydlu Gr?p Llywio Amlasiantaeth i ddatblygu a goruchwylio'r gwaith i gyflwyno Uwchgynllun Shotton.  Byddai’r cynllun yn dwyn y bobl gywir ynghyd gyda'r nod o adfywio a gwneud y gwelliannau angenrheidiol i ganol y dref a'r ardal gyfagos er mwyn helpu i sicrhau y gall y dref gwrdd â'i gwir botensial.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a mynegodd ei gefnogaeth i uwchgynllun Shotton, sy’n gymuned allweddol yng nghanol Glannau Dyfrdwy gyda nifer o fanteision cludiant. Mae angen sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo yng nghanol trefi ac mewn cymunedau. Cyfeiriodd at y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud i adfywio canol tref Treffynnon, y gwaith sydd ar y gweill ym Mwcle i adfywio’r dref honno a'r gwaith parhaus sy’n cael ei wneud ar uwchgynllun Y Fflint. Dywedodd fod angen i’r gwaith fod yn uchelgeisiol ac yn realistig ar yr un pryd. Roedd yr Aelodau lleol yn gwbl gefnogol i'r uwchgynllun.

 

            Dull amlasiantaeth sydd i’r uwchgynllun a byddai’n fuddiol pe bae cynlluniau'n barod i gael eu rhoi ar waith pan fydd yr arian ar gael.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad, yn enwedig y gwaith amlasiantaeth a fyddai’n digwydd er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer y dref.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo datblygu Uwchgynllun ar gyfer ardal Shotton;

 

 (b)      Y dylid cyflwyno adroddiad arall i’r Cabinet i gael eu cymeradwyaeth i’r Uwchgynllun, i’w gymeradwyo ym mis Gorffennaf 2021.

 

96.

Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2019/20 pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Derbyn y Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodi ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac esboniodd fod y Crynodeb Archwilio Blynyddol yn cymryd lle'r Adroddiad Gwella Blynyddol a’r Llythyr Archwilio Blynyddol. Mae’r adroddiad yn crynhoi’r gwaith archwilio a rheoleiddio sydd wedi ei wneud yn y Cyngor gan Archwilio Cymru ers i’r adroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2019.

 

Ar y cyfan, daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i gasgliad cadarnhaol:“Ardystiodd yr Archwilydd Cyffredinol fod y Cyngor wedi diwallu ei ddyletswyddau cyfreithiol ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adrodd ar welliannau a chredir ei bod yn debygol y bydd yn diwallu gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ystod 2020/21”.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr na wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn.

 

Roedd nifer o gynigion newydd ar gyfer gwelliannau a chynigion datblygu'n codi o'r adolygiadau a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru. Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn ddiamod, gwir a theg ar ddatganiadau ariannol y Cyngor ar 14 Medi 2020, yn unol â’r terfyn amser statudol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Pwyllgor Archwilio ac ni wnaed unrhyw sylwadau penodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bithell pam nad oedd sylw yn yr adroddiad am leoliadau y Tu Allan i’r Sir gan nad yw hon yn sefyllfa ariannol gynaliadwy. Soniwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol y gellid helpu i godi’r materion a wynebir gyda Llywodraeth Cymru. Esboniodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar strategaeth ariannol dechnegol. Mae Archwilio Cymru yn ymwybodol o’r pwysau sy’n gysylltiedig â lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a byddai’n gwneud ymholiadau ynghylch beth sydd ar eu cynllun gwaith i'r dyfodol i gael eu hystyried yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Rhoi sicrwydd i’r Cabinet ynghylch Adroddiad Cryno Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019/20.

 

97.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 9) pdf icon PDF 169 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, ac yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol erbyn Mis 9.  Roedd yr adroddiad yn rhagdybio beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb fawr o newid. Roedd hefyd yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar Gyllid Grant at Argyfwng.

 

            Y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw trwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Gwarged gweithredol o £0.372 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.102 miliwn ers ffigur y gwarged a adroddwyd ym Mis 8, sef £0.270 miliwn.

·         Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.787 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £1.641 miliwn yn is na’r gyllideb.

·         Rhagwelid mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2021 fydd £3.814 miliwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y sefyllfa a ragwelid, y sefyllfa a ragwelid yn ôl portffolio, newidiadau sylweddol ers Mis 8, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i’r amlwg, cyflawni arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn, ceisiadau i ddwyn arian ymlaen a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Lefel Cronfa Wrth Gefn At Raid Cronfa'r Cyngor a ddygwyd ymlaen i 2020/21 yw £2.370 miliwn fel y manylir yn adroddiad sefyllfa derfynol 2019/20. Dyma’r swm sydd ar gael at ddibenion cyffredinol ar ôl neilltuo £3 miliwn ar gyfer Cyllid at Argyfwng. Gan ystyried hyn, a’r tanwariant presennol a ragwelir ar hyn o bryd, a dyraniadau a gytunwyd yn flaenorol, rhagwelid mai £1.787 miliwn fyddai’r balans ar y Gronfa Wrth Gefn at Raid ar 31 Mawrth 2021, fel y manylir yn Atodiad 4 yr adroddiad.  Roedd hyn gan dybio bod y tanwariant o £0.372 miliwn a ragwelir yn cynyddu’r Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn. 

 

Bydd swm o £2.377 miliwn yn weddill yn y gronfa £3 miliwn sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer argyfyngau, ar ôl caniatáu ar gyfer eitemau anghymwys y gwyddom amdanynt ar hyn o bryd.  Serch hynny, mae’r Panel Grantiau yn parhau i ystyried nifer o eitemau daliannol a hawliadau am Golledion Incwm. Felly, amcangyfrifir y bydd y swm terfynol sy'n weddill rhwng £1.5 miliwn a £2 miliwn.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm a ragamcanwyd ar gyfer arian at raid Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021;

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

 (c)       Chymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.

 

98.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 9) pdf icon PDF 375 KB

Pwrpas:        Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 9).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2020/21 ers ei gosod ym mis Ionawr 2020 hyd at ddiwedd Mis 9, ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelid.

 

            GweloddGwelodd y Rhaglen Gyfalaf gynnydd net o £0.506 miliwn yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £0.423 miliwn yng nghyllideb y rhaglen (Cronfa’r Cyngor £0.821 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai £0.398 miliwn);

·         Swm Net i’w Ddwyn Ymlaen i 2021/22, wedi’i gymeradwyo ym Mis 6, o £0.083 miliwn;

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r adroddiad;

 

 (b)      Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen; a

 

 (c)       Chymeradwyo ariannu cynlluniau o'r sefyllfa bresennol.

 

99.

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2021/22 i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a fydd yn cael ei argymell i’r Cyngor i’w gymeradwyo. Cafodd yr adroddiad ei ystyried yn y Pwyllgor Archwilio ar 27 Ionawr 2021.

 

            Rhoddwyd Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ynghlwm wrth yr adroddiad ac amlinellwyd crynodeb o'r prif bwyntiau yn yr adroddiad.

 

            Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd â hyfforddiant a roddwyd i holl Aelodau'r Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar 9 Rhagfyr 2020.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021/22 yn cael ei hargymell i’r Cyngor i’w chymeradwyo.

 

100.

Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2021/22 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac esboniodd fod rhaid i awdurdodau lleol osod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mhob blwyddyn ariannol.

 

            Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau sy'n cynnig argymhellion i awdurdodau lleol ar ddehongli'r telerau a gofynnir i awdurdodau baratoi datganiad blynyddol o'u polisi ar wneud isafswm darpariaeth. 

 

            Nid oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i'r Polisi ar gyfer 2021/22. Byddai'r Polisi'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir i'w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y canlynol yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu Cronfa'r Cyngor:

 

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

 

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2021/22 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca cefnogol o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2021/22 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca (darbodus) nad yw wedi ei gefnogi neu drefniadau credyd. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

 (b)      Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:

 

·         Bod Opsiwn 2 (Dull Nawdd Cyfalaf Gofynnol) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai yn 2021/22 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sy’n cael ei ariannu gan ddyled.

 

 (c)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir, bod Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i adeiladu tai fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf mewn telerau cyfrifeg) fel a ganlyn:

 

·         Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased mewn defnydd ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnydd.

 

·         Unwaith mae’r asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn hafal i’r ad-daliadau a wnaed gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu dosbarthu, yn nhermau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, ac ni ellir defnyddio’r rhain ddim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled.  Bydd yr ad-daliad cyfalaf/derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyngor i ad-dalu'r benthyciad.

 

101.

Adolygu’r Polisi Cwynion Corfforaethol pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Rhannu Polisi Pryderon a Chwynion newydd a Pholisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid ar gyfer Cyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ar y Polisi Pryderon a Chwynion newydd ar gyfer y Cyngor, yn seiliedig ar ddull trin cwynion ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

            Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid newydd sy'n rhoi canllawiau i weithwyr ar sut i reoli ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid fod y Polisi Pryderon a Chwynion wedi bod yn ei le ers iddo gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2011 ac ers hynny mae'r Ombwdsman wedi nodi bod ystod eang o arferion ymdrin â chwynion wedi ymddangos dros Gymru. Nod canllawiau newydd yr Ombwdsman yw sicrhau bod arferion yn debycach i'w gilydd, darparu safonau sylfaenol, iaith gyffredin a set o egwyddorion a fydd yn sail i'r modd yr ymdrinnir â chwynion ym mhob gwasanaeth cyhoeddus.

 

Mae’r Polisi Pryderon a Chwynion arfaethedig yn cydymffurfio â’r datganiad egwyddorion ac mae wedi’i addasu er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol i'r diwylliant a’r ymddygiad yr hoffai Sir y Fflint ei hyrwyddo h.y. pwyslais ar drin pobl yn deg a chyda pharch, a gwrando ar ein cydwybod a gweithredu gyda gonestrwydd.

 

Y prif newidiadau yw:

 

·         Gofynnir i achwynwyr ddweud wrth y Cyngor am eu pryderon o fewn chwe mis – gan ei bod yn well ymdrin â phryderon tra bo'r materion yn fyw yn y cof;

·         Mwy o bwyslais ar ddysgu yn sgil cwynion er mwyn gwella prosesau a gweithdrefnau – bydd Prif Swyddogion yn derbyn adroddiadau perfformiad bob chwarter;

·         Lle bydd angen newid (yn seiliedig ar ddadansoddi tueddiadau) bydd gofyn i’r uwch-reolwr perthnasol ddatblygu cynllun gweithredu yn amlinellu beth fydd yn cael ei wneud, pwy fydd yn ei wneud a phryd; a

·         Rhannu gwybodaeth ddienw am gwynion.

 

 Bydd adroddiad am gwynion yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Pwyllgor Archwilio bob hanner blwyddyn ac yn flynyddol i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. 

 

Mae’r Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid yn darparu canllawiau clir i weithwyr ar sut i reoli’r nifer fechan o achosion lle mae gweithredoedd neu ymddygiad cwsmer yn herio ein gallu i ddarparu gwasanaeth effeithiol i bawb. Mae’r Polisi newydd yn berthnasol i bob cwsmer sydd wedi gofyn am wasanaeth neu wneud cwyn, neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar eu rhan. Mae’r polisi’n ceisio diogelu gweithwyr rhag ymddygiad ymosodol, difrïol neu annymunol, a gofynion a chyndynrwydd afresymol.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid fod y cyfryngau cymdeithasol yn faes anodd i’w reoli. Rhoddwyd cyngor i nifer fechan o bobl y credwyd bod eu hymddygiad yn annerbyniol a bydd mwy o waith yn cael ei wneud i benderfynu pa fesurau eraill y gellid eu cyflwyno i gefnogi a diogelu gweithwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Polisi Pryderon a Chwynion i’w roi ar waith ar 1 Ebrill 2021;

 

 (b)      Cymeradwyo’r Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid i’w roi ar waith ar 1 Ebrill 2021; a

 

 (c)       Chefnogi’r amserlen adrodd ar berfformiad.

 

102.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 201 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo Ased Cymunedol – Leadmills, Heol y Brenin, Yr Wyddgrug

Trosglwyddo Leadmills, Heol y Brenin, Yr Wyddgrug a’r tir cyfagos sydd o fewn prydles yr ased.

 

  • Trosglwyddo Ased Cymunedol - Clwb Rygbi'r Wyddgrug, Ffordd Caer, Yr Wyddgrug

Trosglwyddo Clwb Rygbi'r Wyddgrug, Ffordd Caer, Yr Wyddgrug.

 

  • Prosiect Tai â Chymorth Sunraye, Local Solutions

Ymestyn contract Prosiect Tai â Chymorth Sunraye, a ddarperir gan Local Solutions.

 

  • Tai â Chymorth i Deuluoedd Plas Bellin, Local Solutions

Ymestyn contract Tai â Chymorth i Deuluoedd Plas Bellin, drwy Local Solutions.

 

  • Tai â Chymorth Greenbank Villas, Clwyd Alyn

Ymestyn contract Tai â Chymorth Greenbank Villas, Clwyd Alyn.

 

  • Lloches Cymorth i Ferched Clwyd Alyn

Ymestyn darpariaeth y gwasanaeth presennol gyda Chymorth i Ferched Clwyd Alyn.

 

  • Cefnogaeth yn ôl yr Angen Shelter Cymru

Ymestyn contract ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan Shelter Cymru ar gyfer Cefnogaeth yn ôl yr Angen.

 

  • Tai â Chymorth Llys Emlyn Williams, Clwyd Alyn

Ymestyn contract ar gyfer Tai â Chymorth Llys Emlyn Williams, a ddarperir gan Clwyd Alyn.

 

  • Tai â Chymorth Canolfan Deulu Erw Groes, Clwyd Alyn

Ymestyn contract ar gyfer Tai â Chymorth Canolfan Deulu Erw Groes, a ddarperir gan Clwyd Alyn.

 

  • Cymorth yn ôl yr Angen at Gam-drin Domestig Aster Hope

Ymestyn contract Cymorth yn ôl yr Angen at Gam-drin Domestig Aster Hope

 

  • Datgan Tir Nad Oes ei Angen i Hwyluso Estyniad i’r Adeilad a ddefnyddir gan Gr?p y Sgowtiaid, Tuscan Way, Cei Connah

Datgan nad oes angen darn bychan o dir o fewn ardal agored er mwyn galluogi'r Sgowtiaid i adeiladu estyniad ar adeilad presennol y Sgowtiaid.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

103.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2020/2049

Pwrpas:        Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2020/2049.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a Chynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2020/2049.

 

            Mae’r Cynllun Busnes yn nodi elfennau allweddol o Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu’r nifer o Eiddo Rhent Fforddiadwy i'w cyflawni dros y tair blynedd nesaf i unedau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2020/2049.

 

104.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.