Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

36.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

37.

Cofnodion pdf icon PDF 258 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 20 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

Ar gofnod rhif 30, gofynnodd y Cynghorydd Bithell a oedd unrhyw ddiweddariad yngl?n â’r sylwadau a wnaed am y Gerddi Ornamental yn yr Wyddgrug. Dywedodd y Cynghorydd Thomas y byddai adolygiad yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

38.

BRIFFIO YNGHYLCH SEFYLLFA FRYS (LLAFAR)

Pwrpas:        Rhoidiweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risfiau a’r goblygiadau I Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad am yr argyfwng presennol. Roedd nodyn briffio wedi’i anfon at yr holl Aelodau yn gynharach y bore hwnnw.

 

            Roedd Cymru wedi bod allan o’r Cyfnod Atal Byr am ychydig dros wythnos. Ffigyrau Gogledd Cymru oedd fwyaf sefydlog, ond roedd wedi gobeithio y byddai ffigyrau Sir y Fflint yn is erbyn hyn. Eglurodd pa mor allweddol oedd hi i’r cyhoedd gydymffurfio er mwyn helpu i leihau nifer yr achosion positif ac atal y feirws rhag parhau i gael ei ledaenu. 

 

            Roedd pryder yn dal i fod yngl?n â nifer y cartrefi gofal a oedd yn y categori ‘coch’. Croesawai agoriad Ysbyty’r Enfys Glannau Dyfrdwy, a fyddai’n derbyn nifer isel o gleifion a oedd yn gwella o Covid-19. 

 

            O ran Profi, Olrhain, Diogelu, roedd mwy o gyllid wedi’i neilltuo a byddai’r capasiti’n cael ei ddyblu, gyda’r gweithwyr, gobeithio, yn eu swyddi erbyn canol Rhagfyr.

 

            Diolchodd yr Aelodau i’r Prif Weithredwr am y diweddariad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

39.

Cynllun y Cyngor pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cabinet i ystyried y camau i adolygu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac eglurodd fod Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 2020/21 wedi’u dynodi gan y portffolios ac wedi’u cymeradwyo gan y Cabinet fis Medi 2020.  Cyflwynai’r adroddiad hwn grynodeb o berfformiad erbyn canol y flwyddyn.

 

            Roedd yr adroddiad monitro perfformiad ganol y flwyddyn ar gyfer Mesurau Adrodd 2020/21 yn dangos bod 69% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Yn y meysydd lle gellid mesur perfformiad yn erbyn y llynedd, roedd dirywiad o 64% yn y duedd, gyda 31% o fesurau’n gwella ar berfformiad y llynedd a 5% yn parhau i berfformio’n sefydlog.

 

            Roedd yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.

 

            Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ni fynegwyd unrhyw bryderon.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi ac adolygu perfformiad cyffredinol y dangosyddion o safbwynt y Mesurau Adrodd ar ganol y flwyddyn; a

 

 (b)      Bod y Cabinet wedi’i sicrhau gan yr eglurhad am yr achosion o danberfformio, a oedd yn bennaf o ganlyniad i amhariad y pandemig.

40.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol pdf icon PDF 170 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r dogfennau allweddol gofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i lunio Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac eglurodd fod Bargen Dwf Gogledd Cymru’n bortffolio o 5 rhaglen i’w gael eu cyflawni yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Byddai Swyddfa Rheoli’r Portffolio’n cyflawni’r rhaglenni ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC).

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y Fargen Dwf yn ceisio sicrhau cyfanswm o hyd at £1.1 biliwn o fuddsoddiad yn economi Gogledd Cymru (£240 miliwn o’r Fargen Dwf) i greu 3,400 i 4,200 o swyddi ychwanegol net a chynhyrchu gwerth ychwanegol gros net ychwanegol o £2.0 i £2.4 biliwn.

 

Roedd y 5 rhaglen yn cynnwys 14 prosiect a phob un wedi’i ddylunio a‘i ddatblygu’n ofalus gyda budd-ddeiliaid i fynd i’r afael â methiannau penodol yn y farchnad a rhwystrau i dwf economaidd. Byddai achosion busnes yn cael eu datblygu i brosiectau unigol ac yn cael eu cyflwyno i BUEGC i’w cymeradwyo o fis Ionawr 2021 ymlaen.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos cynt, lle buont yn ystyried yr effeithiau economaidd, ac roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol hefyd wedi ystyried yr agweddau ar lywodraethu a chyllid yr wythnos cynt. Ar ôl bod ger bron y Cabinet, byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor Sir y prynhawn hwnnw. Fe wnaeth y ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu gefnogi’r adroddiad.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y meysydd oedd yn swyddogaethau i’r Cabinet a’r rhai oedd angen cymeradwyaeth y Cyngor Sir. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr y gallai cyfran o’r Trethi Annomestig Cenedlaethol gael ei chadw o ddatblygiadau newydd, o hyd at 50%.  

 

Croesawai’r Aelodau’r adroddiad a bu iddynt ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet a’r Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y sail i gytuno i Gytundeb y Fargen Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r darpariaethau sydd yng Nghytundeb Llywodraethu 2 ynghlwm â swyddogaethau gweithredol, ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a bod y Cabinet yn mabwysiadu, yn benodol, y dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl sydd yng “Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” fel y sail i gwblhau Cytundeb y Fargen Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;

 

 (c)       Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn argymell yn ffurfiol i’r Cyngor awdurdodi’r corff cyfrifol, Cyngor Gwynedd, i lofnodi llythyr y Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid;

 

 (d)      Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn argymell yn ffurfiol i’r Cyngor ei fod yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo cost y benthyciadau y credir y bydd eu hangen i alluogi llif arian negyddol y Fargen Dwf, a chynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r cyfraniadau craidd ac ychwanegol sydd wedi’u pennu, sydd yng Nghytundeb Llywodraethu 2 a pharagraffau 2.5-2.7 o’r adroddiad; a

 

(e)      Rhoi awdurdod  ...  view the full Cofnodion text for item 40.

41.

Sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i Gyngor Sir y Fflint fod yn bartner ym Mhartneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Cyngor fod yn bartner ym Mhartneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (ChGC).

 

Roedd ChGC yn sefydliad cenedlaethol a oedd yn gyfrifol am gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwella perfformiad mewn chwaraeon yng Nghymru, ac un a oedd yn y gorffennol wedi darparu cyllid blynyddol i bob awdurdod lleol a phartneriaid eraill i gynnal nifer o raglenni ac ymyraethau chwaraeon ar draws Gogledd Cymru. Roedd y rheini’n cynnwys Pobl Ifanc Egnïol a’r Fenter Nofio am Ddim.

 

Y weledigaeth ar gyfer ChGC oedd datblygu Gwlad Egnïol gyda chefnogaeth Strategaeth Chwaraeon Cymru. Mewn ymateb i’r Strategaeth hon, sefydlwyd partneriaeth gydweithredol yn 2018 gan ei rhoi ar waith i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ac achos busnes. Arweiniodd hynny at ffurfio ChGC gyda 13 o bartneriaid rhanbarthol.

 

Cynigiwyd y byddai pum sefydliad rhanbarthol ar draws Cymru yn y dyfodol, a ChGC fyddai rhanbarth y peilot. Roedd yr achos busnes wedi’i gyflwyno i Chwaraeon Cymru ac roedd eu Bwrdd i fod i wneud penderfyniad arno yn ddiweddarach yn y mis. Roedd pob un o’r 13 o bartneriaid yn cael eu gwahodd i gefnogi ffurfio ChGC yn ffurfiol, o dan fodel lle byddai awdurdod lleol yn ei ‘gynnal’. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y cytundeb llywodraethu a’r achos busnes wedi’u hatodi i’r adroddiad. Roedd Aura’n cyd-arwain ar y prosiect, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yr awdurdod cynnal. Byddai dau gorff llywodraethu a byddai angen cynrychiolaeth o’r Cyngor.

 

Croesawai’r Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac roedd yn edrych ymlaen at ei weld yn llwyddo.

 

            PENDERFYNWYD:

           

            Bod y Cabinet yn cefnogi sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (ChGC).

42.

Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2021/22 - 2022/23 pdf icon PDF 294 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2021/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo ei argymell i’r Cyngor. 

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol pam oedd angen y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob un o’i hadrannau.

 

            Nodau allweddol y Strategaeth oedd egluro sut yr oedd y rhaglen gyfalaf wedi’i datblygu a’i hariannu, yr effaith y gallai ei chael ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r modd yr oedd yn gysylltiedig a Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.  Roedd y Strategaeth wedi’i rhannu’n nifer o adrannau a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

            Eglurwyd y tablau a oedd yn yr atodiadau. 

 

Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi trafod yr adroddiad yr wythnos cynt, ac ni fynegwyd unrhyw bryderon. Byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor Sir; a

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell y canlynol i’r Cyngor Sir:

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22–2023/24 fel yr oedd Tablau 1, a 4–7 yn ei nodi yn y Strategaeth Gyfalaf; ac

·         Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

43.

Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 pdf icon PDF 577 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 i'w hargymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac eglurodd fod Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Roedd yr asedau’n cynnwys adeiladau, isadeiledd ac asedau nad oeddent yn eiddo i’r Cyngor. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a oedd yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau busnes gwasanaethau portffolio a Chynllun y Cyngor.  Roedd y wybodaeth yn yr adroddiad yn cyfeirio at raglen Cronfa’r Cyngor yn unig, nid y rhaglen dai, a oedd yn cael ei hariannu o’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Roedd Strategaeth Gyfalaf y Cyngor yn rannu’r Rhaglen Gyfalaf yn dair rhan:

 

  1. Adran Statudol / Rheoleiddiol – ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol. Roedd enghreifftiau’n cynnwys darparu cefnogaeth i wella ac addasu cartrefi’r sector preifat (Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl), addasiadau i ysgolion ar gyfer plant oedd ag anableddau ac unrhyw waith oedd ei angen i gadw adeiladau ar agor trwy fodloni gofynion Iechyd a Diogelwch.
  2. Adran Asedau sy’n cael eu Cadw – i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau a oedd yn gwella’r asedau oedd yn cael eu cadw ac isadeiledd i ddarparu gwasanaethau a bodloni angen sylweddol a ddynodwyd gan gynlluniau gwasanaeth neu trwy arolygon cyflwr, ac ati.
  3. Adran Fuddsoddi – i ariannu costau ailfodelu a buddsoddi mewn gwasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau newydd a oedd yn deillio o gynlluniau busnes Portffolios, Cynllun y Cyngor a chynlluniau eraill perthnasol a rhai oedd yn cael eu datblygu, a strategaethau eraill neu flaenoriaethau a oedd yn dod i’r amlwg i’r Cyngor oedd wedi’u cymeradwyo trwy broses ddethol yn seiliedig ar ddarparu achos busnes.

 

Eglurwyd pob un o’r tablau yn yr adroddiad, ynghyd â chynlluniau posib’ at y dyfodol.

 

Roedd yn rhaglen uchelgeisiol gyda llawer o brosiectau pwysig. Rhoddodd enghreifftiau o gynlluniau a gafodd eu cymeradwyo yn y gorffennol fel Ysgol Uwchradd Castell Alun – yr Hôb, a Chartref Preswyl Marleyfield – Bwcle, ac enghreifftiau o gynlluniau newydd i’w cymeradwyo fel ailddatblygu Theatr Clwyd a gwella Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard.

 

            Croesawai’r Aelodau’r adroddiad, oedd yn eu barn nhw’n gyffrous ac yn gosod gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn y gorffennol wedi darparu grant am gyfnod o dair blynedd tuag at welliannau i briffyrdd. Roedd y grant hwnnw bellach yn dod i ben. Roedd wedi bod mewn cyswllt ag Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i drafod bod angen parhau i gael cefnogaeth ariannol gan LlC ond nid oedd unrhyw wybodaeth ar gael am hynny eto. Gofynnodd a ellid cynyddu’r swm o £0.600 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd £0.400 miliwn fel bod cyfanswm y gyllideb yn £1 miliwn. Dywedodd y Prif Weithredwr y gellid edrych ar y posibiliadau gyda hyblygrwydd ac y gallai gael ei adolygu yn y flwyddyn newydd ar ôl i fanylion y Setliad gael eu cyhoeddi. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r dyraniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2019/20 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol 2019/20 i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod diogelu’n flaenoriaeth gorfforaethol ac yn ddisgyblaeth yr oedd disgwyl i bob portffolio ymgymryd â hi a’i chefnogi fel arfer corfforaethol da.

 

Ffurfiwyd y Panel Diogelu Corfforaethol ym mis Rhagfyr 2015.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r trefniadau diogelu corfforaethol cadarn a oedd wedi’u rhoi ar waith, oedd yn cynnwys:

 

  • Gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ar Ymgyrch Encompass, menter i gefnogi plant a phobl ifanc a oedd yn dioddef neu’n gweld yr heddlu’n delio â digwyddiadau cam-drin domestig;

 

  • Gweithdai Cyfiawnder mewn Diwrnod yn Theatr Clwyd. Roedd y perfformiad rhyngweithiol hwn yn cynnwys gweithdy gyda thîm o actorion proffesiynol ac ymweliad â Llys Ynadon yr Wyddgrug, lle cymerodd Ynad ran yn y gweithgaredd; a

 

  • Darparu hyfforddiant diogelu i dros 400 o yrwyr tacsis i sicrhau eu bod yn gwybod am arwyddion camdriniaeth bosib a sut i adrodd am achosion o’r fath;

 

Roedd Sir y Fflint yn ymrwymo i’w chyfrifoldebau ac roedd wedi cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod trefniadau cadarn i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y camau gweithredu allweddol i gael eu cwblhau yn 2021/21 yn cynnwys cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Diogelu 2020 i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am faterion diogelu, gan gynnwys caethwasiaeth fodern; annog cyflogwyr i gwblhau modiwl e-ddysgu Llywodraeth Cymru “Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Erbyn Merched” i gael cyfradd gwblhau o 100% erbyn Mawrth 2021; a chodi ymwybyddiaeth o Weithdrefnau Diogelu newydd Cymru.

 

Diolchodd i’r holl gydweithwyr am eu cyfraniad at yr adroddiad. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar Addysg Ddewisol yn y Cartref a diogelu, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod yn her ond bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cynnydd ar gofrestr genedlaethol fel bod asiantaethau’n gwybod lle’r oedd plant. Os oedd y plentyn wedi bod yn yr ysgol ac wedyn wedi’i dynnu allan i gael Addysg Ddewisol yn y Cartref, byddai’r awdurdod ac asiantaethau’n ymwybodol ohono. Fod bynnag, os nad oeddent erioed wedi bod yn yr ysgol, ni fyddem yn gwybod amdanynt na ble’r oeddent. Croesawai fod cofrestr genedlaethol yn cael ei chyflwyno.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet wedi’u sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i wella trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant ac oedolion; a

 

 (b)      Chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2019/20, cyn ei gyhoeddi.

45.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 6) pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y risgiau a’r materion hysbys ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. 

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Diffyg gweithredol o £0.569 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.352 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 5.
  • Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.415 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

  • Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.478 miliwn yn is na’r gyllideb.
  • Rhagwelid y byddai balans terfynol ar 31 Mawrth o £2.651 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y sefyllfa a ragwelid yn ôl portffolio, newidiadau sylweddol ers mis 5, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i’r amlwg a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Roedd yr incwm o Dreth y Cyngor 1.4% yn is na’r targed, oedd gyfwerth ag £1.37 miliwn. Roedd disgwyl i’r incwm barhau i wella gan fod prosesau adfer bellach yn ôl ar waith yn llawn a phan oedd taliadau y cytunwyd i’w gohirio wedi’u setlo. Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa’n cael ei monitro gan Lywodraeth Cymru (LlC).

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragwelid ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021; a

 

 (b)      Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelid ar y Cyfrif Refeniw Tai.

46.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 6) pdf icon PDF 285 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ar Fis 6 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/21 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2020/21 ers ei gosod ym mis Ionawr 2020 hyd at ddiwedd mis 6, ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelid.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod gostyngiad net wedi bod yng nghyllideb y Rhaglen Gyfalaf o £3.419 miliwn yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £3.028 miliwn yng nghyllideb y rhaglen (Cronfa’r Cyngor - £3.028 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai – £0.000);

·         Swm i’w ddwyn ymlaen i 2021/22, wedi’i gymeradwyo ym mis 4 o £6.420M;

·         Arbedion wedi’u nodi ym mis 6 o £0.027 miliwn.

 

            Eglurwyd manylion cynnwys y tabl, gan nodi bod y wybodaeth ynghlwm â phob maes yn y rhaglen wedi’i chynnwys yn Atodiad B.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol; a

 

 (b)      Chymeradwyo’r addasiadau o ran dwyn cyllid ymlaen.

47.

Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2021/22 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2021/22 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod gosod Sylfaen Treth y Cyngor yn rhan ganolog o broses gosod y Gyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2021/22 a’i fod yn caniatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo Praesept Treth y Cyngor at y flwyddyn nesaf.

 

            Roedd y Sylfaen wedi’i chyfrifo ar eiddo cyfwerth â 65,026 Band ‘D’, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai oedd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle’r oedd gostyngiadau statudol yn cael eu rhoi.

 

            Roedd gosod y Sylfaen dreth ar eiddo cyfwerth â 65,026 Band ‘D’ hefyd yn cynrychioli twf sylweddol yn y Sylfaen Dreth o 0.73% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a oedd gyfwerth â chynnydd o 472 eiddo Band D.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod y Cyngor wedi ceisio dod ag eiddo gwag yn ôl i gael ei ddefnyddio heb lwyddiant, a gofynnodd a ellid cynyddu’r Premiwm Treth y Cyngor o 50% i annog dod â nhw i gael eu defnyddio unwaith eto.  Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai hynny gael ei ystyried yn ystod y flwyddyn ond nid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Roedd y Cynghorydd Butler yn cytuno â barn y Cynghorydd Bithell, a dywedodd fod eiddo gwag yn un o’r amcanion lles yn y drafft o Gynllun y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Sylfaen Dreth o eiddo cyfwerth â 65,026 Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22;

 

 (b)      Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo sy’n dod o dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) ac i hynny fod yn berthnasol i ardal y Sir gyfan; a

 

 (c)       Pharhau i osod 50% o Bremiwm ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi sy’n dod o dan gynllun Premiwm Treth y Cyngor.

48.

Gwasanaethau Ieuenctid pdf icon PDF 140 KB

Pwrpas:        I adrodd ar y newidiadau i ddarpariaeth y gwasanaethau ieuenctid yn sgil Covid-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint yn arloesi gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc.

 

Roedd yr arloesi’n adlewyrchu effeithiau a’r gwersi a ddysgwyd o’r ymateb i argyfwng y pandemig a newidiadau i’r cyd-destun cenedlaethol a lleol. Roedd yn cynrychioli’r cam nesaf yn Strategaeth Adfer gorfforaethol y Cyngor i ymateb i argyfwng y pandemig.

 

Roedd Darpariaeth Ieuenctid Integredig (DII) Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth cyfun a oedd yn blaenoriaethu:

 

  1. Ymgysylltu’n ddigidol ac o bell gyda phobl ifanc;
  2. Darpariaeth wedi’i thargedu mewn cymunedau a gyda phartneriaid i ddatblygu gwytnwch a lles ar gyfer plant a phobl ifanc mwy diamddiffyn;
  3. Tegwch o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws holl wasanaethau DII Sir y Fflint;
  4. Gwaith partneriaeth gydag ysgolion i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn cyswllt ag addysg; a
  5. Chefnogaeth i staff ac arferion o safon.

 

Roedd y cynnig yn creu arbedion blynyddol posib’ o £98,600 a oedd yn arbediad o 49% ar safleoedd ac 20% ar staffio.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai DII Sir y Fflint yn ymgynghori â phobl ifanc, staff DII Sir y Fflint a’r Cyngor a phartneriaid statudol a chymunedol yngl?n â chynigion yn y cyfnod a fyddai’n dod i ben fis Ionawr 2021.  Byddai’r ymgynghoriad hwnnw’n llywio datblygiad Cynllun Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024, i’w lansio yn chwarter 1 2021/2022.

 

Roedd y pandemig wedi newid sut roedd gwasanaethau’n cael eu darparu gan fod clybiau ieuenctid, gwasanaethau allgymorth, gweithgareddau cymunedol a’r rhan fwyaf o ysgolion wedi cau.  Addasodd DII Sir y Fflint yn sydyn a chyflwynodd nifer o bethau a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai datblygiad gwasanaeth DII Sir y Fflint yn cynnwys gwersi o’r ymateb i’r pandemig i wireddu gweledigaeth Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad.

 

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad wedi’i ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant lle cafodd dderbyniad da ac fe gydnabuwyd yr angen am newid. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo ymgynghoriad Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint ar ddatblygu Cynllun Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024.

49.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 195 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Prif Weithredwr – Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu

 

  • Diwygiad i Gynllun Grantiau Cymunedol y Cyngor i Alluogi Camau Ymateb / Adfer

 

Mae Grant Cist Gymunedol y Cyngor yn darparu grantiau hyd at £1,000 i sefydliadau cymunedol sy’n bodloni meini prawf y grant. Mae cyfraniad sefydliadau cymunedol i gadw pobl ddiamddiffyn yn ddiogel a darparu ar gyfer eu hanghenion yn ystod y cyfyngiadau Covid-19 wedi bod yn sylweddol ac yn amhrisiadwy. Gallai’r sefydliadau hyn gael eu cefnogi’n well mewn sefyllfa o argyfwng, fel Covid-19, pe bai meini prawf y grant yn fwy hyblyg ac yn gallu cael eu hailbennu i allu gweithredu’n amserol ac yn ymatebol i fodloni anghenion lleol.

 

Tai ac Asedau

 

  • Datganiad o Lwybr Cyhoeddus ar Safle Leadmills, yr Wyddgrug

 

Dynodi tir sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint yn Llwybr Cyhoeddus.

 

  • Cael gwared â Safle Garejis Princess Avenue

 

Cael gwared â safle garejis Princess Avenue i Gymdeithas Dai Clwyd Alyn er mwyn gallu datblygu tai fforddiadwy.

50.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.