Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant)
yr adroddiad ac eglurodd, ers trosglwyddo i Gwmni Masnachu Awdurdod
Lleol yn 2017, bod Arlwyo a Glanhau Cyfyngedig NEWydd wedi ymdrechu
i greu model o weithrediadau mwy modern a chystadleuol a oedd yn
nodwedd allweddol o'i Gynllun Busnes cyn Covid-19 ar gyfer
2020/21.
Rhoddodd
Rheolwr Gyfarwyddwr NEWydd gyflwyniad cynhwysfawr a oedd yn
nodi’r cynigion yn llawn ar gyfer newid sefydliadol a
datblygiad model gweithredu newydd i ddiogelu hirhoedledd Arlwyo a
Glanhau Cyfyngedig NEWydd.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau yngl?n â
chyfleoedd gan Aelodau ac ymatebwyd iddynt, gyda'r pwyslais ar y
busnes yn datblygu. Gofynnwyd cwestiynau hefyd yngl?n â’r gweithlu
a’r gwaith a wnaed gyda'r Undebau Llafur.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid
Sefydliadol, gwnaeth y Cynghorydd Mackie y sylw
canlynol:
“Teimlaf y
dylai’r adroddiad fod wedi dechrau gyda manylion o baragraff
2.08 sy’n egluro fod y busnes wedi cronni arian wrth gefn yn
llwyddiannus yn eu 3 mlynedd gyntaf.Rwyf hefyd wedi clywed eu bod wedi ymdrin â
heriau sylweddol yn ystod yr argyfwng a gyda’i gilydd
byddai'r pwyntiau hyn wedi dangos eu bod yn fusnes llwyddiannus a
hyblyg sydd angen newid yn yr hinsawdd gyfredol”.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi sefyllfa bresennol Arlwyo a Glanhau
Cyfyngedig NEWydd yng ngoleuni effaith yr argyfwng Covid-19
a’r gyrwyr ar gyfer newid sefydliadol o fewn y
cwmni;
(b) Cymeradwyo cychwyn cyfnod o ymgynghori
gyda’r Undebau Llafur, staff a chleientiaid ar y model
gweithredu newydd arfaethedig a fydd yn diogelu dyfodol hirdymor y
cwmni; a
(c)
Rhoi awdurdod dirprwyedig
i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod
Cabinet dros Reoli Corfforaethol ac Asedau a’i ddefnyddio
gyda chyngor y Rheolwr Gyfarwyddwr, i awdurdodi a gweithredu'r
model gweithredu newydd.